3. Canu i Ddewi
golygwyd gan Ann Parry Owen
Awdl amlganiad o fawl i Ddewi gan Wynfardd Brycheiniog a ganwyd tua 1175/6, yn ôl pob tebyg yn Llanddewibrefi o dan nawdd yr Arglwydd Rhys ap Gruffudd.
I
A’m rhoddo Dofydd (dedwydd dewaint)
Awen gan awel pan ddêl pylgaint,1
pylgaint Ffurf hŷn ar plygain, gw. GPC Ar Lein d.g. Gallai gyfeirio’n benodol at ‘un o’r oriau gweddi canonaidd, yn wreiddiol am hanner nos, ond weithiau gyda’r wawr’ (ibid.
(a)), sef y matins, gw. OED s.v.; ond mae’n fwy tebygol mai cyfeirio’n syml at y wawr neu amser codi a wneir yma (GPC Ar Lein d.g. plygain (b)), mewn cyferbyniad â dewaint (1) ‘canol nos, tywyllwch’. Gyda’r llinell hon, cf. yn arbennig ddisgrifiad Cynddelw o’i ganu yntau i Dysilio, TysilioCBM ll. 82 Cain awen gan awel bylgaint. Tybed a oedd Gwynfardd Brycheiniog yn gyfarwydd â cherdd Cynddelw?
Awydd boed cyfrwydd, cyfraith barddoni;
Cynnelw o Ddewi2
cynnelw o Ddewi Cyffredin yw’r enw a’r ferf cynnelw gan feirdd 12g. yng nghyswllt eu canu mawl i’w noddwyr, gyda’r ystyr ‘cymorth, cefnogaeth’ i’w noddwyr yn ymhlyg: gw. GPC Ar Lein d.g. cynnelw1. Rhoddir derbynnydd y mawl yn aml dan reolaeth yr arddodiad o, cf. GCBM ii, 6.32 A’m kynhelỽ o’m perchen ‘A’m moliant i’m harglwydd’. Eto i gyd, mae’n bosibl mai cefnogaeth gan noddwr yw’r ystyr weithiau.
1
o Ddewi
LlGC 6680B
o dewi; J 111
adeỽi. Ar cynnelw o, gw. n2(e); ar ddarlleniad J 111, gw. n2(t) ar ei ddau cymaint. ei ddau cymaint3
ei ddau cymaint Nid yw deisyfiad y bardd yn gwbl eglur yn y llinellau agoriadol hyn. Cymerir bod ei yn cyfeirio at awydd y llinell flaenorol. A yw’r bardd yn gobeithio y bydd ei frwdfrydedd a’i ysbrydoliaeth i ganu cerdd i Ddewi, drwy gymorth Duw a’r sant, yn ddwywaith cymaint nag arfer?
2
ei ddau cymaint
LlGC 6680B
y deukymeint; J 111
y deukymmeint. Dehonglir y y llawysgrifau fel rhagenw blaen, gan ddilyn GLlF 449 (ei ddeugymaint), ond dilynir y llawysgrifau gan beidio â threiglo cymaint ar ôl y rhifol: gw. GPC Ar Lein d.g.; TC 143–4; a cf. GDB 3.8 Dau cymaint rhif seithrif sêr; BrM2 ll. 263 eu deu kymeint o wyr. O gymryd mai’r fannod sy’n rhagflaenu dau, nid yw’n aneglur a ddisgwylid i’r rhifol dreiglo ar ei ôl ai peidio, oherwydd prinder enghreifftiau cynnar o’r gystrawen;
ond gwelir yn TC 143 mai y dau cymaint sy’n arferol mewn testunau Cymraeg Diweddar Cynnar; cf. hefyd yr enghreifftiau yn GPC Ar Lein d.g. cymaint. O dderbyn y dau cymaint yma, collid y gyfatebiaeth gytseiniol yng nghanol y llinell â Ddewi (ond sylwer ar J 111
adeỽi).
5 (Ni ddyly corn medd, ceinon meddwaint,
Bardd ni wypo hwn4
bardd ni wypo hwn Deellir gwypo (ffurf trydydd unigol presennol dibynnol gwybod) yn yr ystyr ‘adnabod’, a’r llinell yn cyfeirio at y beirdd hynny nad ydynt yn ‘adnabod’ Dewi. Ar y defnydd hwn o gwybod mewn cyswllt crefyddol, cf. GCBM ii, 16.201 Gỽr a’n gỽyr (am Dduw), 18.65 Mihangel a’m gŵyr; GMB 21.5 Ef yn llwyr a’n gỽyr. Ond sylwer mai’r crediniwr sy’n cael ei ‘adnabod’ gan y noddwr nefolaidd yn yr enghreifftiau hyn, a gellid dehongli’r llinell
hon gan Wynfardd Brycheiniog yn yr un modd, gan gymryd hwn, Dewi, yn oddrych: ‘bardd nad yw hwn [sef Dewi] yn ei adnabod’. Nid amhosibl ychwaith yw dehongliad GLlF 456 ‘[b]ardd na wypo [sut i ganu] hwn’, sef cyfeiriad at feirdd na wyddent gerdd y bardd (ac os felly dichon mai at yr enw
gwrywaidd cynnelw yn ll. 4 y cyfeiria hwn).): hynny dygaint.
Nid ef y canaf can ddigiofaint – fy mryd,
Namwyn mi a’i pryd cywyd cywraint:
Ys mwy y canaf cyn no henaint,
10Canu Dewi mawr5
canu Dewi mawr Cymerir bod mawr yn goleddfu Dewi yma, cf. Dewi mawr yn llau. 85, 200, 210 (a sylwer mai tueddiad, nid rheol, oedd yr arfer o dreiglo ansoddair yn dilyn enw priod gwrywaidd,
gw. TC 114). Mae’n bosibl fod i canu ystyr arbennig yma o gofio mai fel ‘canu’ y disgrifir y gerdd hon yn ei theitl; mae’n air a ddefnyddir yn nheitlau cerddi
beirdd y 12g. yn benodol am awdlau mawl amlganiad fel hon. a moli saint.
Mab Sant6
mab Sant
Sant ap Ceredig ap Cunedda, brenin Ceredigion, oedd tad Dewi yn ôl traddodiad, gw. BDe 25. Fel y nodir yn GLlF 463, go brin y dylid darllen Mabsant gyda HG Cref 43. syw gormant, gormes haint3
gormes haint
LlGC 6680B
gormes heint; J 111
gormes seint (gormes heint > gormes (h)eint > gormes seint). Er mai codi ei destun o gynsail ysgrifenedig a wnaeth ysgrifydd J 111, mae’n ddigon posibl ei fod yn darllen ychydig o
eiriau ar y tro, eu cofio ac wedyn eu hysgrifennu. Gallai proses o’r fath yn hawdd esgor ar wall camraniad. – ni ad
Na lledrad yn rhad, rhwyd ysgeraint;
Ysid rhad yn ei wlad7
yn ei wlad Gellir cywasgu yn ’n ei wlad, er mwyn hyd y llinell ac er mwyn i’r rhagwant ddilyn y bumed sillaf yn rheolaidd. a mad a maint,
Yng nghyfoeth Dewi difefl geraint
15A rhydid heb ofud,4
ofud Fe’i rhestrir yn amrywiad ar gofid yn GPC Ar Lein. O ddarllen (g)ofid yma ceid odl fewnol â rydid, ac felly gynghanedd sain; ond ceir cyflythreniad digonol eisoes rhwng heb ofud a heb ofyn. heb ofyn5
heb ofyn Dilynir GLlF 456 a deall ofyn yn ffurf dreigledig y berfenw gofyn. Deellir amgen felly’n enwol, yn wrthrych y ferf, cf. GPC Ar Lein d.g. Gan fod y llinell yn hir o sillaf, awgrymir hepgor y cysylltair ar ddechrau’r llinell yn HG Cref 187; sicrhâi hynny fod y rhagwant yn syrthio’n rheolaidd ar y bumed sillaf. Gellid ystyried deall ofyn y llawysgrifau (LlGC 6680B
heb ofyn; J 111
heb ofyn) fel yr enw unsill of(y)n ‘braw, dychryn’; rhoddai hynny bedwar sillaf yn ail hanner y llinell, patrwm sy’n ddigon arferol yn nhoddeidiau Gwynfardd Brycheiniog, gw. hefyd Lewis 1929–31: 96–7. amgen,
Heb ofal cynnen cylch ei bennaint8
cylch ei bennaint Dilynir GLlF 463 a GPC Ar Lein a deall pennaint yn ffurf luosog pennant. Ar ddefnydd cylch fel arddodiad ‘o gwmpas, o amgylch’, cf. ll. 112 cylch ei feysydd a gw. GPC Ar Lein d.g.
Onid blaidd a draidd drwy ei wythaint
Neu hydd gorfynydd, rhewydd redaint.9
hydd gorfynydd,
rhewydd redaint Yn llau. 17–18 nodir dau beth a allai achosi gofid i’r trigolion yn ucheldiroedd y sant, sef blaidd cynddeiriog a hydd mewn
gwres (rhewydd). Mae ystyr rhedaint yn ansicr: cynigir dwy ystyr yn betrus yn GPC Ar Lein ‘?carw (ifanc); ?cwrs’. Yr ail a dderbyniwyd yn GLlF 456 (gan wrthod awgrym blaenorol HG Cref 188 ‘3ydd llu. amherff. o rhedeg … rhedent yn nwydus’). Ond yng ngoleuni R 1030.9 Bit vuan redeint yn ardal mynyd (gw. y nodyn yn Jacobs 2012: 44), mae’r ystyr gyntaf, ‘carw (ifanc)’, yn fwy tebygol. Mae’n hysbys fod hyddod mewn gwres yn nhymor yr hydref yn gallu
ymosod yn filain ar bobl. At hynny, ceir cyfeiriadau achlysurol at hyddod neu geirw gwyllt yng nghyswllt hanes Dewi: cyfeiriodd Dafydd Llwyd at hyddod yn dod o gysgod gwŷdd i wrando arno yn Llanddewibrefi (DewiDLl llau. 29–30), ond mwy perthnasol, o bosibl, ceir cyfeiriad gan Iolo Goch at y modd y bu i ffon fagl Dewi ddofi’r ceirw osglgyrn chwyrn chwai (DewiIG llau. 87–8); cf. DewiRhRh llau. 9–10 Ceirw a’r adar, o’u cerrynt. / Di-led, gwâr, y’u delid gynt. Ar un olwg mae’n rhyfedd fod Gwynfardd Brycheiniog fel petai’n awgrymu bod bleiddiaid gwyllt a cheirw nwydus yn parhau i godi ofn ar bobl y sant, ond efallai mai’r awgrym sy’n
ymhlyg yw nad oes neb o blith dynolryw yn meiddio ymosod ar noddfa Dewi, dim ond anifeiliaid direswm ac anwybodus.
6
rhewydd redaint Nid yw orgraff y llawysgrifau o gymorth wrth benderfynu ai rh- neu r- sydd ar ddechrau r(h)ewydd a r(h)edaint. O ran y gynghanedd ymddengys fod y beirdd yn ddigon parod i ateb rh gydag r, hyd yn oed yn oes y Cywyddwyr.
Ef cymerth er Duw dioddeifiaint – yn deg10
teg ‘Ufudd’, ystyr a nodir yn betrus yn GPC Ar Lein; ond byddai ‘union, cyfiawn’ hefyd yn addas.
20Ar don a charreg,11
ar don a charreg Tybed a oedd traddodiad fod Dewi wedi croesi’r môr ar garreg ar ei daith i Rufain? Cf. llau. 190–1 A llech deg dros waneg a thros weilgi / A’i dyddug … Am gyfeiriadau pellach at saint yn hwylio dros y môr ar gerrig, gw. Henken 1991: 98. a chadw ei fraint,
A chyrchu Rhufain,12
Rhufain Yn ôl Ieuan ap Rhydderch, ymwelodd Dewi â Rhufain pan ddaeth yn oedolyn, ar ôl cyfnod o addysg gyda’r Esgob Peulin: DewiIRh llau. 43–6 Pan fu ŵr, wiw gyflwr wedd, / Aeth i
Rufain, waith ryfedd. Pan gyflwynwyd Dewi gan Beulin i’r synod ym Mrefi, dywedodd amdano: ac a vu athro, ac yn Ruuein a urdwyt yn archescob, BDe 14 (llau. 8–9). Mae Gwynfardd Brycheiniog, fel y bucheddwyr Cymraeg, am bwysleisio bod Dewi yn uniongyrchol atebol i awdurdod y pab yn Rhufain: cynsail i’r dymuniad yn y 12g. i weld esgobaeth Mynyw yn ennill statws
archesgobaeth, yn uniongyrchol atebol i Rufain, yn hytrach nag yn ddarostyngedig i awdurdod Caer-gaint. Yn Jerwsalem y cysegrwyd
Dewi yn archesgob yn ôl vita
Rhygyfarch (gw. Sharpe and Davies 2007: 140–1, 142–3; BDe xxxii–xxxiii); cytuna fersiwn Lincoln 149 â’r fuchedd Gymraeg, gan ddweud mai’r pab a’i hurddodd yn Rhufain. rhan gyreifiaint,13
rhan gyreifiaint ‘Rhanbarth maddeuant’ (disgrifiad o Rufain); am y treiglad i’r enw genidol ansoddol yn dibynnu ar yr enw benywaidd rhan yma, cf. GLlLl 23.207 rann westiuyant ‘rhanbarth llawenydd’. Dewis arall fyddai dehongli’r cyfuniad ar batrwm hydref ddail: ‘maddeuant y rhanbarth’.
A gwest yn Efrai,14
Efrai ‘Gwlad yr Hebreaid neu’r Iddewon, Palesteina’, GPC Ar Lein. Ni sonnir yn y fuchedd Gymraeg am Ddewi ym Mhalesteina, ond yn y fuchedd Ladin dywedir bod angel wedi dod ato yn y nos a gofyn iddo adael am Jerwsalem drennydd:
Sharpe and Davies 2007: 138, Nam quadam nocte ad eum angelus affuit, cui inquit, ‘Crastina die precingens calcia te, Ierusalem usque pergere proficiscens (ibid. 139 ‘one night, an angel came to him, and said, “Tomorrow, put your shoes on and set out to travel to Jerusalem” ’).
Teithiodd yng nghwmni Teilo a Phadarn. Cyfeiriodd Ieuan ap Rhydderch at yr un traddodiad, DewiIRh llau. 55–8, Angel a ddoeth … / I gôr
Llangyfelach gynt / I yrru
Dewi euriaith / I fedd
Caerusalem faith, a chyfeiria’n benodol at y croeso a dderbyniodd Dewi a’i gydymdeithion gan y padriarch: ibid. llau. 63–5 Daethant ill tri heb duthiaw / I dref Caerusalem draw; / Y padrïarch a’u parchawdd, / Dydd a nos da oedd ei nawdd. Anodd gwybod ai at yr ymweliad hwn â Jerwsalem y cyfeiria Gwynfardd Brycheiniog – ni sonnir yn y fuchedd Ladin am daith i Rufain, ond wrth gwrs byddai unrhyw daith i Jerwsalem yn debygol o fynd drwy Rufain. gwst diamraint,15
gwst diamraint Dilynir GPC Ar Lein a G 325 gan ddeall diamraint yn yr ystyr ‘breiniol, aruchel’. Disgrifiad o’r bererindod sydd yma: yr ymdrech a’r fraint a oedd yn ymhlyg yn y weithred
honno heb sôn am yr anrhydedd mawr a dderbyniodd Dewi gan badriarch Jerwsalem pan gyflwynodd hwnnw bedair rhodd iddo, gw. n114(e).
A goddef palfawd, dyrnawd7
dyrnawd Dilynir J 111
dyrnaỽt; yn LlGC 6680B ceir dernaỽt, sydd o bosibl yn awgrymu e = /ǝ/ (y-dywyll) yn y ffynhonnell, nodwedd ar rai hen systemau orgraff. tramaint,
I gan forwyn ddifwyn, ddiwyl ei daint.16
diwyl ei daint Dehonglir daint yn ffurf luosog dant, a’r dannedd, yn ôl pob tebyg, yn ffigurol am y geiriau creulon a ddaeth o enau’r ferch, cf. Jones 1923–5: 196 Gwenniaith yw gwaith y gwythlawn daint. Tybed a oes modd cysylltu hyn â’r hanes am wraig Boia yn gorchymyn i’w llawforynion fynd at ddilynwyr Dewi a chodi cywilydd arnynt drwy dynnu eu dillad a dweud geireu aniweir kywilydus wrthynt (gw. n133(e))? Ond eto, ymddengys o’r cyd-destun mai ym Mhalesteina y digwyddodd yr ymosodiad hwn ar y sant.Yn GLlF 456 dehonglwyd daint yn yr ystyr ‘arferion’, gan ddilyn G 297 sy’n ei ddiffinio fel lluosog dant2 ‘moes modd’, gan gymharu’r ffurf irddant ‘gloes, cystudd’; cf. Vendryes 1929: 252–4, lle cyfieithir diwyl ei daint fel ‘aux manières impudentes’. Ni cheir daint yn yr ystyr honno yn GPC Ar Lein.
25Dialwys peirglwys perging Dyfnaint,17
Dyfnaint O bosibl hen deyrnas Frythonig Dumnonia
yma, a gwmpasai Ddyfnaint a Chernyw. Ni cheir hanes yn y rhyddiaith am Ddewi yn dial ar ran pennaeth (neu ar bennaeth) o Ddyfnaint, ond fel y nodir yn GLlF 464 a LBS ii, 295–6, mae nifer o eglwysi wedi eu cysegru iddo yn ne-orllewin Lloegr. Cyfeiriodd Rhygyfarch yn fyr yn ei fuchedd at y Brenin Custennin o Gernyw yn dod yn un o ddilynwyr Dewi, ond ni sonnir yno am ei ferthyru (os hynny sydd yn ymhlyg yn y cyfeiriad at losgi pobl yn ll. 26). Ymhellach ar Gustennin a Chernyw, gw. WCD 144. Tybed a yw Gwynfardd Brycheiniog yn cyfeirio yma at ryw chwedl goll am y brenin hwn?
Ar ni las llosged, lluoedd llesaint.18
llas … llesaint Ar llas ‘lladdwyd’, GMW 127; ffurf oddefol brin yw llesaint, ibid., a welir bron yn unig yn y farddoniaeth gynnar.
Dyrchafwys bryn gwyn19
bryn gwyn Cyfeirir ymhellach at y bryn gwyn yn llau. 189, 260 fel safle eglwys Dewi yn Llanddewibrefi. Esbonnir yn llau. 27–30 fel y cododd y ddaear yn fryn o dan draed y sant wrth iddo bregethu o flaen tyrfa
enfawr yn Llanddewibrefi. Meddir yn y fuchedd Gymraeg, BDe 17.19–20, kyuodes y llawr hwnnw megys mynyd uchel dan y draet ef, gan ddilyn geiriad tebyg yn y fuchedd Ladin (Sharpe and Davies 2007: 144–7). Ni cheir yn y bucheddau rhyddiaith ddim i gyfateb i bryn gwyn, ond ceir yr un cyfuniad gan Lewys Glyn Cothi: DewiLGC2 llau. 27–8 Dan dy draed unDuw a droes / Bryn gwyn a bery gannoes. (Ni wyddys pa mor hen yw’r enw Bryngwyn / Bryn Gwyn ger Llanddewibrefi y ceir y cyfeiriad cynharaf ato yn y 18g., gw. Wmffre 2004: 616.) Deellir bryn yn oddrych dyrchafwys; ond gall mai Dewi yw’r goddrych dealledig ac mai bryn yw’r gwrthrych. Nid yw’r ffurf gysefin bryn o gymorth gan na threiglid y goddrych na’r gwrthrych yn dilyn -wys yn y testunau cynharaf, gw. TC 216. breiniawl ei fraint
Yng ngŵydd saith mil8
saith mil
J 111
seint mil. Gwall yw hwn, gw. n20(e). mawr a saith ugaint:20
saith mil mawr a saith ugaint Sef 147,000 o ddehongli’r geiriau fel ‘saith mil a saith ugain [mil]’. Ni chyfeirir yn y ffynonellau rhyddiaith at faint
y gynulleidfa yn synod Llanddewibrefi, ond rhoddodd Iolo Goch yr union un rhif â Gwynfardd Brycheiniog, DewiIG llau. 61–2 Chwemil, saith ugeinmil saint / Ac unfil, wi o’r genfaint, a Ieuan ap Rhydderch yntau, DewiIRh llau. 81–2 Saith ugain mil, syth hoywgad, / A saith mil, cynnil y cad; 160,000 oedd maint y dyrfa yn ôl Dafydd Llwyd o Fathafarn, DewiDLl llau. 27–8 Ydd oedd i’th bregeth ryw ddydd i’th ganmol / Wyth ugeinmil, Dafydd.Mae disgrifiad Iolo Goch (c. 1345–c. 1397, GIG xix) ac Ieuan ap Rhydderch (c. 1390–1470) o hanes Dewi yn pregethu yn Llanddewibrefi yn debyg: gw. DewiIG llau. 53–62 a DewiIRh llau. 79–86. Tybed a oedd y naill yn tynnu ar waith y llall, neu a oedd y ddau yn tynnu ar ffynhonnell gyffredin? Tybed ai
Gwynfardd Brycheiniog a ddyfalodd y rhif yn y lle cyntaf? Ac os felly, tybed ai testun y gerdd yn Llawysgrif Hendregadredd (LlGC 6680B) oedd ffynhonnell
Iolo Goch ac Ieuan ap Rhydderch? Gwyddom fod y llawysgrif honno yng nghartref Ieuan yng Nglyn Aeron erbyn ail chwarter y 14g. (GLlBH 1 et passim), a bod Iolo Goch wedi derbyn nawdd yno gan y teulu (gw. Johnston 2009: 136). Mae 147,000 yn ymddangos yn rhif braidd yn annisgwyl, nes i ni gofio mai 147 oedd oedran Dewi pan fu farw, yn ôl Rhygyfarch, gw. Sharpe and Davies 2007: 148–9.
Archafael, caffael gan westeifaint,
30Dyrchafwys Dewi
Brefi21
Brefi Defnyddia’r bardd Brefi yn syml drwy’r gerdd hon am Landdewibrefi a hefyd am diriogaeth ehangach yr eglwys honno rhwng afonydd Teifi a Thywi, gw.
n91(e). (Tybed a ddefnyddid y ffurf Tyddewi, weithiau, yn yr un modd i gyfeirio at eglwys Dewi, tra gallai Mynyw gyfeirio at yr eglwys a’i thiriogaeth yn ehangach? Ond ni cheir tystiolaeth cyn y 15g. i’r ffurf Tyddewi,
yr unig enw lle yng Nghymru sydd yn adleisio’r dull Wyddelig o enwi eglwysi, teach ‘tŷ’ + enw sant.) Brefiyw enw’r afon sy’n llifo heibio’r eglwys, a phrawf o hynafiaeth yr enw yw’r ffaith iddo gael ei fabwysiadu fel enw ar yr
hen gaer Rufeinig Bremiagerllaw. Ar yr enw a’i darddiad, gw. Wmffre 2004: 509–10.Nid oedd treiglad yn arferol i’r gwrthrych yn y gystrawen hon yn y farddoniaeth gynnar, h.y. berf (dyrchafwys) + goddrych (Dewi) + gwrthrych (Brefi), gw. TC 195–6. a’i braint.
II
Ei fraint wrth ei fryd i freiniawg – ysydd
A’i elfydd yn rhydd, yn rhieddawg:
Ar Iwerddon22
Iwerddon O Iwerddon y daw rhai o’r cyfeiriadau cynharaf at Ddewi a thrafodir y rhain yn WLSD xvi–xvii; Davies 2002: 376–7. Tystia buchedd Ladin Rhygyfarch i boblogrwydd Dewi yn Iwerddon, gw. Sharpe and Davies 2007: 136, 137 Verum pene tercia pars uel quarta Hibernie seruit
Dauid Aquilento ‘And nearly a third or a quarter of Ireland served David Aquilentus.’ Dewi yw nawddsant eglwys bwysig Naas yn Cill Dara, gw. LBS ii, 295. wlad ys rhad rannawg,
A’r Dehau ef biau a Phebidiawg;23
Dehau … a Phebidiawg Cantref a gynhwysai blwyf Tyddewi yng ngogledd-orllewin y sir
Benfro fodern oedd Pebidiog, gw. WATU 170. Cofnodir mewn nodyn ar ymyl y ddalen yn yr Annales Cambriae (testun C) fod Rhys ap Tewdwr wedi rhoi Pebidiog i esgobion Tyddewi yn 1082, ac mae Gerallt Gymro yntau’n ategu hynny drwy honni mai tywysogion de Cymru a’i rhoddodd i’r eglwys, gw. Pryce 2007: 305. Ymhellach ar Bebidiog, gw. James 2007: 47–56, ac yn arbennig ibid. 47–8 am y llinell hon, ‘Gwynfardd Brycheiniog in his Canu Dewi continues that distinction between St Davids’s lordship and overlordship in the world of the twelfth century.’
35A phobloedd Cymry24
Cymry Y wlad. Dyma’r ffurf arferol mewn Cymraeg Canol am y wlad a’r bobl, ac mae’r ystyr yn dibynnu ar y cyd-destun. a gymer ataw
Ac a rydd yn llaw llwyr Deithïawg25
Teithïawg Ansoddair ac iddo rym enw yn aml, am frenin neu arglwydd sy’n llywodraethu drwy rym cyfraith a hawl, cf. disgrifiad Gwalchmai ap Meilyr o Owain Gwynedd, GMB 8.29 Teithiaỽc
Prydein‘Teyrn cyfreithlon Prydain’. Cyfeirir yn llau. 35–6 at Ddewi yn cymryd pobl Cymru dan ei ofal ac yn eu trosglwyddo i awdurdod (yn llaw) Duw (y llwyr Deithïawg) ar Ddydd y Farn. Yn y cwpled nesaf esbonnir y bydd Padrig, gyda’i luoedd yntau o Iwerddon, yn dod i sefyll gerllaw (êl yn erbyn), yn y man a ragnodwyd iddo yntau (i’r parth nodawg, ll. 37). Dyrchafu Dewi fel nawddsant y Cymry yw nod y bardd yn y llinellau hyn, yn gydradd â Phadrig nawddsant y Gwyddelod.
Tra êl yn erbyn, i’r parth nodawg,26
i’r parth nodawg Deellir nodawg yn ansoddair o’r enw nod ‘targed, … amcan, diben, pwrpas’, &c. neu ‘enwogrwydd, bri’, &c., gw. GPC Ar Lein d.g. nod1. Dyma’r unig enghraifft o’r gair nodawg yn yr ystyr hon cyn y 19g.; ond mae llawerawg, ll. 46, hefyd yn unig enghraifft. Am yr ystyr, gw. n25(e).
9
i’r parth nodawg
LlGC 6680B
yr parth nodaỽc; J 111
yrparth uodaỽc. Anodd, os nad amhosibl ar brydiau, yw gwahaniaethu rhwng t ac c a rhwng n ac u yn y ddwy lawysgrif, fel y gwelir o’r ffaith fod trawsysgrifwyr blaenorol wedi anghytuno yma: GLlF 26.37 yr parch uodaỽc (sef testun LlGC 6680B, heb nodi unrhyw amrywiad yn J 111), H
yr parch nodaỽc, R
yr parth uodaỽc. (Ar y darlleniad a fabwysiadwyd yn y golygiad hwn, gw. n26(e).) O ddilyn GLlF 26.37 a darllen er parch fodawg, gellid deall y cyfuniad ar lun GMB 3.90 [G]ruffut Gwynet gwylet vodaỽc ‘[G]ruffudd Gwynedd cyson ei haelioni’, ibid. 9.108 Cathyl uodaỽc coed ‘cyson gân [mewn] coed’ (am aderyn); cf. GLlF 456 sy’n ei ddeall i olygu ‘[yr Un sy’n] barhaus ei barch’.
Padrig27
Padrig Nawddsant Iwerddon; am ystyr y cwpled, gw. n25(e). Nid oes rhaid credu, gyda GLlF 465, fod y llinellau hyn yn awgrymu bod gwrthdaro wedi bod rhwng Padrig a Dewi. a’i luoedd yn lluosawg;
Ac ef a’n gwrthfyn, wrth10
wrth Fe’i hepgorwyd yn J 111. Byddai darllen gwrth heb ei dreiglo yma’n rhoi gwell cyfatebiaeth ar ganol y llinell. nad ofnawg,28
wrth nad ofnawg Am y cysylltair wrth na, rhydd GPC Ar Lein ‘because or since … not’; cf. GLlF 256 sy’n deall yr ymadrodd yn ddisgrifiad o Ddewi: ‘gan nad yw’n ofnus’. Ond rhoddir i’r arddodiad wrth hefyd yr ystyr ‘er mwyn, i berwyl, i’r amcan o’ yn GPC Ar Lein d.g. wrth 2(c), ac felly deellir yr ymadrodd yn ddisgrifiad o bobl Dewi: ‘fel na fyddom yn ofnus’. Cyfeirio a wneir yn y cwpled at Ddewi yn croesawu ei bobl ar Ddydd y Farn, pan fydd yn dadlau eu hachos a’u hamddiffyn.
40Ar drugaredd Duw, ar Drugarawg.11
Ar drugaredd … ar Drugarawg
J 111
ar trugared … ar trugaraỽc; arfer y llawysgrif hon yw dangos treiglad t > d ar ddechrau gair, ond gw. n51(t) am enghreifftiau pellach o beidio â dangos y treiglad yn orgraffyddol.
A garo Dewi29
A garo
Dewi Dyma eiriau cyntaf y pum cwpled nesaf. Cymerir mai Dewi yw’r gwrthrych ym mhob achos, er nad amhosibl ei ddeall yn oddrych yn y llinell hon. da30
da Ansoddair yn goleddfu Dewi, heb dreiglad er mwyn y gyfatebiaeth gytseiniol ar ganol y llinell; cf. ll. 45 Dewi diofredawg. Nid oedd y treiglad i ansoddair yn dilyn enw priod yn un sefydlog, gw. n5(e). Dewis arall fyddai rhoi coma ar ôl Dewi, a deall da yn enwol, ‘un da’, fel y gwneir yn GLlF 456, neu’n ansoddair yn goleddfu diffreidiawg, fel y gwneir yn Owen 1991–2: 73 ‘the good protector’. diffreidiawg12
diffreidiawg Dilynir LlGC 6680B, gthg. J 111
diofreidyaỽc (o bosibl dan ddylanwad ll. 45 diofredỽac). Deellir diffreidiawg yn ansoddair yma, ond o’i ddeall yn enw ‘amddiffynnwr, noddwr’ (GPC Ar Lein d.g.) gellid darllen da ddiffreidiawg heb amharu ar y gynghanedd, gan fod cyfatebiaeth yng nghanol ll. eisoes rhwng Dewi a da.
A gaho13
A gaho
LlGC 6680B
ac gaho; J 111
Ac agaho (wedi ei gywiro gan John Davies yn LlGC 497, yn Ac
agaho). a’i caro fal caradawg;31 Yn llau. 41–2 dywedir y bydd y sawl sy’n caru Dewi yn ei dderbyn yn gyfaill, yn un a fydd yn dadlau ei achos ar Ddydd y Farn (cf. llau. 39–40). Cymerir caradawg yn ansoddair â grym enwol, ond fel y nodir yn GLlF 465, gall fod yn gyfeiriad at Garadog, sant a fu farw yn 1124 yn ôl Gerallt Gymro, ac a gladdwyd yn Nhyddewi: gw. ibid. am gyfeiriadau pellach.
A garo Dewi, fal deueiriawg – na fid,
Na chared na llid na lleidr difiawg;
45A garo Dewi diofredawg,32
diofredawg Amrywiad ar diofrydawg, ansoddair o’r ferf diofryd ‘ymwrthod neu ymwadu â (pheth) drwy lw’, gw. GPC Ar Lein; disgrifiad sydd yma o fywyd hunanymwadol Dewi.
Cared efferen lên14
lên Dyma a awgrymir gan orgraff y ddwy lawysgrif (len). Fel y nodir yn GLlF 466 rhydd y darlleniad hwn y bai trwm ac ysgafn yn y ll., gan fod yr -en yn efferen o darddiad n-ddwbl, ac felly’n odli’n drwm. Ond nodir yn CD 232–3 bod lle i gredu nad ‘wrth y glust, y cadwai’r gogynfeirdd y rheol’, ac felly nid oes angen darllen len (< llen) yma fel y gwneir yn HG Cref 189. Gan mai cymharol lac yw cynganeddion Gwynfardd Brycheiniog, mae’n bosibl mai l- .. l- (
lên lawerawg) yw’r gyfatebiaeth berthnasol yn y llinell. lawerawg;
A garo Dewi, da gymydawg,
Cared ymwared ag15
ag Gellid deall ac y llawysgrifau yn gysylltair a darllen Cared ymwared ac anghenawg ‘boed iddo garu gwaredigaeth a’r anghenus’. anghenawg;
A garo Dewi fal difuddiawg – doeth,
50Rhy’i gelwir ef yn goeth,16
yn goeth
LlGC 6680B; gthg. J 111
yn doeth. Mae’n debygol fod ysgrifydd J 111 wedi camgopïo doeth a geir yn llinell flaenorol. yn gyfoethawg.
Dau ychen33
dau ychen Enw lluosog a ddilynai rifol yn aml mewn Cymraeg Canol (gw. GMW 47), ond gall mai’r hen ffurf ddeuol yw ychen yma (ibid. 33–4). Ceir nifer o draddodiadau yn cysylltu ychen chwedlonol â Llanddewibrefi a’r ardal, rhai yn adrodd fel y
bu i’r ychen gynorthwyo gyda chodi’r eglwys oherwydd eu cryfder eithriadol: gw. GLlF 466; Payne 1975: 161; TWS 66–7; James 2007: 78–9. Yr ychen hyn a gofir, yn ôl pob tebyg, yn yr enw Cwys yr Ychen Bannog, clawdd mynyddig ger Llanddewibrefi: gw. Wmffre 2004: 563, ‘The ychen bannog were reputed oxen of a gigantic size … who created this mountain embankment by the act of ploughing
a single furrow-slice’; gw. ymhellach yno am enwau eraill o’r ardal yn cynnwys yr elfen ychen. Ond fel y nodir yn Sims-Williams 2011: 42, nid yw’n sicr mai’r Ychen Bannog chwedlonol yw’r ddau ych y cyfeiria Gwynfardd Brycheiniog atynt: ‘Saints often tame and harness wild animals and later folklore is not a reliable key to Gwynfardd’s allusion.’
Dewi, dau odidawg,
Dodysant hwy eu gwar dan gar Cynawg;34
Cynawg Cyfeiriad, yn ôl pob tebyg, at Gynog mab Brychan Brycheiniog a Banadlwedd, merch brenin Powys. Cysylltir Cynog â nifer o eglwysi ym Mrycheiniog, yn cynnwys Merthyr Cynog, Llangynog ac Ystradgynlais, ac eraill yn siroedd Maesyfed a Threfaldwyn
a swydd Henffordd, gw. LBS ii, 265. Canwyd cywyddau mawl iddo gan Hywel Dafi (gw. CynogHD) a Dafydd Epynt (gw. CynogDE). Ni wyddys am unrhyw draddodiad a allai esbonio’r cyfeiriad hwn at gar Cynawg, ond gw. TWS 184. Tybed a gollwyd rhyw chwedl ym Mrycheiniog a esboniai’r cyfeiriad? Neu a gyfeirir at ryw Gynog arall? Honnodd Sieffre o Fynwy a Gerallt Gymro fod rhyw Esgob Cynog, gynt o Lanbadarn, wedi ei ethol yn esgob Tyddewi i olynu Dewi, gw. WCD 182 s.n. Cynog, bishop of Llanbadarn and Mynyw.
Dau ychen Dewi, ardderchawg – oeddynt,
Dau garn35
dau
garn Cymerir mai cyfeirio at fryniau neu fynydd-dir a groesai’r ychen a wneir (cf. Cwys yr Ychen Bannog, ger Llanddewibrefi, Wmffre 2004: 536); ond gall mai trosiad yw carn yma am y ddau ych, gw. GPC Ar Lein.
17
Dau
garn Anodd penderfynu ai n neu u yw’r llythyren olaf yn LlGC 6680B a J 111 & yn H a R darllenwyd garn ond yn GLlF 466 darllenwyd garu. Dyfynnir y llinell yn GPC Ar Lein d.g. carn (eb.g.) yn yr ystyr ‘rhan gyfatebol i ewin troed ar anifail …; troed’. Derbynnir garn yn betrus yma, ond ceir gwell ystyr o’i ddeall yn yr ystyr ‘craig, bryn, mynydd, pen, copa’ (ibid.) a chymryd bod y bardd
yn cyfeirio at yr ychen yn croesi dau garn, neu dau gopa mynyddig, i fynd â’r anrhegion o Landdewibrefi i Lasgwm a Brycheiniog.
Yn GLlF 26.54 diwygiwyd y darlleniad yn dau gâr, gan ddilyn HG Cref 45, gan nodi ‘mai elfen bwysig yn y stori [am yr Ychen Bannog] yw’r ffaith fod yr ychen yn perthyn i’w gilydd’. Mae’r diwygiad yn ddiangen. a gerddynt yn gydbreiniawg36
cydbreiniawg Cf. y disgrifiad yn chwedl Culhwch ac Olwen o ychen Gwlwlyd Wineu, yn deu gytbreinawc y eredic y tir dyrys draw, CO3 llau. 589–90.
55I hebrwng anrheg yn rhedegawg
I Lasgwm,37
Glasgwm Cf. n74(e). Dyma oedd prif eglwys Dewi yn Elfael, cantref uwch ffin ogledd-ddwyreiniol Brycheiniog, a reolid gan dywysogion Powys cyn ei gipio gan William de Braose tua diwedd y 12g., gw. James 2007: 80. Enwir Glasgwm gan Rygyfarch yn un o’r naw eglwys a sefydlodd Dewi, gw. Sharpe and Davies 2007: 120, 121; Evans 2007: 303. Cyfeiriodd Lewys Glyn Cothi yntau at bwysigrwydd Glasgwm mewn cywydd yn gofyn am nawdd Dewi ar Elfael: DewiLGC2 llau. 33–6 Gwnaethost ddau o blasau blwm, / Angel esgob, yng Nglasgwm, / Esgopty i
Gymru a’i gwŷr, / Ac i Dduw a gweddïwyr. Yr oedd Glasgwm yn enwog am ei chrair arbennig, sef cloch o’r enw Bangu (n38(e)), ac esbonnir yn y llinellau hyn sut y cludodd y ddau ych hi yno. nid oedd trwm tri urddasawg:18
urddasawg Cf. LlGC 6680B
urtassaỽc, gthg. J 111
urdassaỽt, a’r t derfynol yn hollol eglur yno, er mai -aỽc sydd ei angen ar gyfer y brifodl. Mae’n debygol ei bod yn anodd gwahaniaethu rhwng c a t y gynsail; cf. J 111
uodaỽt am LlGC 6680B
uodaỽc yn ll. 62.
Edewid Bangu, gu gadwynawg,38
Bangu … gadwynawg Yn hanes ei daith drwy Gymru, meddai Gerallt Gymro: ‘… yn eglwys Glasgwm, y mae llawgloch o’r rhinwedd mwyaf, a alwant wrth ei phriod enw Bangu, ac y dywedir iddi fod ym meddiant
Dewi Sant’, Jones 1938: 16–17. Nid yw Gerallt Gymro yn sôn bod cadwyn ar y gloch fel y cyfryw, ond mae’n cyfeirio at achlysur pan ddygodd gwraig y gloch a’i rhoi i grogi (?gerfydd
cadwyn) ar wal carchar yng nghastell Rhaeadr Gwy lle roedd ei gŵr yn garcharor, yn y gobaith y byddai’r gloch yn sicrhau ei
ryddid, gw. ibid. 17. Cyfeiriodd Rhygyfarch yn ei fuchedd Ladin at y ffaith fod Dewi wedi derbyn pedair rhodd gan y padriarch yn Jerwsalem, yn cynnwys cloch enwog am ei gwyrthiau, ond nid yw’n enwi’r gloch
honno, gw. n114(e). Am y clychau a oedd yn gysylltiedig â Chadog ac Illtud, a chlychau eglwysig cynnar sydd wedi goroesi, gw. Knight 2013: 88.
19
gadwynawg Gellir gwrthod J 111
garỽynnaỽc gan fod y gloch Bangu yn hongian (gerfydd cadwyn, yn ôl pob tebyg) wrth wal yr eglwys; gw. n38(e).
A’r ddau eraill39
dau eraill Derbyniodd Dewi bedair anrheg gan y padriarch yn Jerwsalem: os aeth y gloch i Lasgwm (n38(e)), a’r allor i Langyfelach (n114(e)), tybed ai’r ffon fagl a’r tiwnig a aeth i Frycheiniog? (Sylwer bod anrheg yn enw benywaidd a gwrywaidd yn ôl GPC Ar Lein.) fraisg i Frycheiniawg.
Ban ddêl ofn arnam, ni rhybyddwn ofnawg,40
ofnawg Mae ystyr ddeublyg i’r ansoddair hwn: ‘llawn ofn, ofnus’ ar y naill law, ac ‘yn peri ofn’ ar y llall, gw. GPC Ar Lein. Cynigir yr ystyr gyntaf yn yr aralleiriad, ond heb ddeall rhagor am y cyd-destun, nid oes modd bod yn sicr.
20
Ban ddêl ofn arnam, ni rhybyddwn ofnawg Mae’r ll. hon fel y mae yn y ddwy lawysgrif (LlGC 6680B
Ban del gofyn arnam ny ry
bytỽn ofnaỽc; J 111
Bandel gouyn arnam ni rybydỽn ofynaỽc) yn ddeuddeg sillaf o hyd, yn hytrach na’r naw sillaf safonol, neu’r deg a geir yn aml gan Wynfardd Brycheiniog yn ei linellau o gyhydedd naw ban. Yn sicr nid yw’r bardd hwn yn gyson o ran hyd ei linellau (o’i gymharu, dyweder, â Chynddelw Brydydd Mawr), ond mae deuddeg sillaf yn hytrach na naw yn anarferol iddo yntau, ac ar sail hynny derbynnir awgrym G 547 d.g. gofyn, a diwygio yn ‘ou(y)n er mwyn hyd ac odl lusg ag ofnawc’. Gellid arbed sillaf arall drwy ddilyn GLlF 26.59 a chymryd mai’r rhagenw ategol na chyfrifir yn y mydr yw’r ni (arnam-ni), ond ceir gwell synnwyr yma o’i ddeall yn negydd. Ar ddefnydd rhagenwau ôl yng nghanu Beirdd y Tywysogion, a’r cwestiwn
a ddylid eu cynnwys yn y cyfrif sillafau ai peidio, gw. Andrews 1989: 13–29.
60Rhag gormes cedeirn21
cedeirn
LlGC 6680B
kedeirn; J 111
ketyrn. Cydnabyddir y ddwy ffurf luosog yn GPC Ar Lein. cad Dybrunawg,41
cad Dybrunawg Neu o bosibl cad
Ddybrunawg, gan ddibynnu ai Dybrunawg neu Tybrunawg oedd y ffurf gysefin (arferid treiglo enw priod yn dilyn yr enw benywaidd cad, cf. GMB 3.129 Cad
Geredigiaỽn). Yn Haycock 2013: 57–9 trafodir y ffurf kattybrudaỽt a geir yn y gerdd broffwydol ‘Glaswawd Taliesin’ yn Llyfr Taliesin (T 31.37), gan awgrymu ei diwygio yn kattybrunawc, a chysylltu’r ail elfen, Tybrunawg, â Brunanburh (sef ryfel brun ym Mrut y Tywysogion, gw. Jones 1955: 12), brwydr lle enillodd Aethelstan fuddugoliaeth yn 937. Awgryma Haycock 2013: 58) ymhellach, ‘the decisive encounter at Brunanburh became virtually a term for a major battle’. Ymhellach ar y frwydr
honno, gw. Breeze 1999: 479–82; Bollard and Haycock 2011: 245–268.
Ar Dduw a Dewi, dau niferawg,
Yd alwn,22
Yd
alwn
LlGC 6680B
yd gallỽn; J 111
yt gallỽn, a’r ddwy lawysgrif o blaid y geiryn rhagferfol ‘yd’ a geir o flaen cytsain ac a ddilynir gan dreiglad meddal, GMW 171–2. Gan na wyddys am ferf addas â’r bôn call-, rhaid diwygio a darllen un ai yd alwn neu y galwn. Gan nad yw’r llawysgrifau bob tro yn dangos treiglad (cf. n11(t)), dilynir HG Cref 189 a GLlF 26.62 a diwygio yn yd alwn. O ran yr -ll- yn y llawysgrifau, awgrymir yn G 520 mai enghraifft sydd yma o ll = l.l, fel a geir yn aml yn achos y gair callon ‘calon’. bresen breswyl fodawg.42
presen breswyl fodawg Cyfuniad anodd, cf. GMB 9.108 Cathyl uodaỽc coed ‘cyson gân [mewn] coed’ (am aderyn). Yma deellir breswyl fodawg (‘un sefydlog diysgog’) yn enwol am Ddewi, a’r cyfuniad yn dibynnu ar presen (‘y byd hwn’). Ar preswyl fel ansoddair ‘trigiannol, cyfanheddol’, &c., gw. GPC Ar Lein.
23
bresen breswyl fodawg
LlGC 6680B
bressen bresswil vodaỽc; J 111 pressen p’ssỽyl uodaỽt. Os cywir y dyb fod y ddau destun yn gopi o ffynhonnell gyffredin, tybed ai’r gytsain gysefin p- a geid yn honno a bod ysgrifydd LlGC 6680B wedi eu treiglo, yn ôl ei ddehongliad o’r ystyr? Am enghraifft arall o roi -t yn wallus am -c yn J 111, gw. n18(t) ar urddasawg (J 111
urdassaỽt).
III
Breiniawl fyth fyddaf ban ddelwyf – yno,24
yno
LlGC 6680B
eno; J 111
eno. Dilynir GPC Ar Lein a’i ddeall yn ffurf orgraffyddol ar yno1. Am e = /ǝ/, cf. n31(t).
Ni bydd yn eu bro a bryderwyf.
65Gwelaf-i25
Gwelaf-i Ar ddefnydd rhagenwau ôl yng nghanu Beirdd y Tywysogion, a’r cwestiwn a ddylid eu cynnwys yn y mydr / cyfrif sillafau, gw.
Andrews 1989: 13–29. O’i hepgor yma, syrthia sillaf olaf effeiriaid yn rheolaidd yng nghanol y llinell (ar y bumed sillaf). Am enghreiffiau eraill o’r rhagenw ategol yn y gerdd hon, gw. llau.
67, 69, 71, 74, 133 (2), 154, 197: mae eithrio’r rhagenw o’r cyfrif sillafau yn sicrhau hyd mwy safonol i bob un o’r llinellau.
Mae’n ddiddorol nodi bod awdur Gramadeg Gwysanau (c. 1375) fel petai’n ystyried y rhagenwau hyn yn nodwedd ar orgraff, gw. Parry Owen 2010: 26 (nodyn ar ll. 57 karaue eos). effeiriaid, coethaid cannwyf,43
cannwyf Dilynir awgrym cyntaf G 104 i’w ddeall yn ffurf cyntaf unigol presennol mynegol canfod, gan gymryd Gwelaf i effeiriaid a coethaid cannwyf yn ddau ymadrodd cydradd. Ar gystrawen coethaid cannwyf, sef gwrthrych + berf (heb eiryn perthynol a heb dreiglad), cf. GLlF 1.83 gwyrthyeu goleu gwelhator ‘gwyrthiau amlwg a welir’, a gw. GMW 181(e). Ond gwell gan G 104 ddeall cannwyf yn gyfansoddair, ac fe’i dosberthir yn betrus, ibid. 107, fel enw ‘bywiogrwydd, pybyrwch, nwyfiant’; cf. GGDT 4.69 gwir gannwyf ‘gwir angerdd mawr’. Ni chydnabyddir y ffurf honno yn GPC Ar Lein ond, o’i derbyn, gellid ei chymharu â cannerth ‘cymorth’ (can + nerth). Yn GLlF 457 dehonglir cannwyf yn ansoddair ‘tra nwyfus’.
Canaf eu moliant men y delwyf;
Gwelaf-i wir yn llwyr44
gwelaf-i wir yn llwyr Er y gellid deall yn llwyr yn adferf yn goleddfu gwelaf (cf. n50(e)), fe’i deellir yma’n draethiadol, yn goleddfu gwir. Moli hawl ac awdurdod cyfreithiol gyflawn yr eglwys a wneir yn y cwpled hwn – yr hawl sy’n rhoi diogelwch i’w gwŷr. Ond
gall mai cyfeirio at drefn reolaidd bywyd yr eglwyswyr a wneir, cf. Owen 1991–2: 74 ‘I shall see true order’. a llewenydd mawr
A llên26
A llên
J 111
achlen; mae John Davies wedi dileu’r c. uch allawr heb allu clwyf.45
heb allu clwyf
GLlF 457 ‘heb allu [gwneuthur] clwyf’; ond o gofio bod i gallu, fel deall(u), ystyron megis ‘dwyn, cymryd’ (gw. GPC Ar Lein), deellir gallu clwyf yma i olygu ‘derbyn / dioddef clwyf’.
Gwelais-i am ucher, uchel eu rhwyf,
70Gwragedd,27
Gwragedd
LlGC 6680B
A gỽraget; J 111
a gỽraged. Diwygiwyd gan ddileu’r cysylltair sydd braidd yn chwithig gan na cheir enw cysylltiedig o’i flaen. rhianedd, rhai a garwyf;
Gwelais-i glas46
clas Cyfeirir at y teulu o grefyddwyr yn eglwys Dewi yn Llanddewibrefi, a oedd yn hen eglwys glas yn wreiddiol cyn datblygu’n eglwys golegol erbyn 1287; gw. Williams 1976: 17–18. ac urddas, urddedig haelon,
Ymhlith dedwyddion doethon dothwyf.
Ym mhlwyf28
Ym mhlwyf
LlGC 6680B
ym blwyf, ond nid dyma ddull arferol llaw alpha o ddynodi treiglad trwynol p- ar ôl yr arddodiad yn: gthg. ll. 72 ymhlith (llsgr. ymplith). Tybed a yw’r llithriad yn dadlennu orgraff ei gynsail yma?
Llan Ddewi,47
Llan Ddewi Eglwys Dewi yn Llanddewibrefi. Ond sylwer mai dyma’r unig gyfeiriad at yr eglwys honno fel Llanddewi, yn hytrach na Brefi, yn y gerdd hon: gw. n21(e) lle sylwir hefyd ar ddefnydd y ffurf Mynyw am Dyddewi. Neu tybed a yw Gwynfardd Brycheiniog yn cyfeirio at eglwys ym Mrycheiniog yn y cwpled hwn (gw. y Rhagymadrodd; Lloyd-Jones 1948: 182 a n73(e))? lle a folwyf,
Yd gaffwyf-i48
caffwyf Cyntaf unigol presennol dibynnol y ferf caffael, gyda grym dymuniad neu orchymyn i’r ferf ddibynnol yma, gw. GMW 113 a cf. ll. 76 dihangwyf a ll. 78 diwycwyf.
29
Yd gaffwyf-i
LlGC 6680B
yd gaffawyfy; J 111
yt gaffỽyf y. Dilynir J 111, gan mai caff- yw bôn arferol y ferf cael, caffael (cf. G 94 – sy’n awgrymu hepgor yr ail a yn gaffawyf – gthg. GLlF 26.74 sy’n derbyn darlleniad LlGC 6680B, ond heb esboniad ar y ffurf). Mae cymryd bod y rhagenw ategol yma’n ansillafog,
fel yn peri felly bod y llinell yn fyr o sillaf (gw. n25(t)). barch, cyn nys archwyf.
75Ac o blaid Dofydd diheufardd wyf,
Ac ar30
Ac ar
J 111
ac nar (neu o bosibl uar), a John Davies wedi rhoi llinell ddileu drwy’r n. nawdd Dewi y dihangwyf:49
ar nawdd Dewi y dihangwyf Deellir ar yma fel arddodiad ‘at’ o flaen cyrchfan, gw. GMW 187. Posibilrwydd arall fyddai deall ar nawdd yn gyfuniad adferfol ‘dan nawdd’ (gw. ibid 184 am ar ‘in various expressions which denote manner or condition’, a cf. ar fyrder, ar gam, ar helw, &c.). Ar ystod ystyron dianc, sef ‘dod yn ddiogel (drwy beryglon)’ yma, gw. GPC Ar Lein.
A ddigonais i o gam, o gynghlwyf – difri,
I Dduw a Dewi y diwycwyf.
Canys dichawn Dewi nis dichonwyf,
80Gwnaed eirioled ym am a archwyf.
IV
Archaf reg yn deg,50
yn deg Fe’i deellir yn ymadrodd adferfol (ond gw. n44(e)). Cymerir mai cyfeirio at wychder ei ganu a wna’r bardd, ond byddai ‘cywir, cyfiawn, rhesymol; ?ufudd’ hefyd yn bosibl ar
gyfer teg, gw. GPC Ar Lein. a digerydd – wyf,
I erchi i’m rhwyf rhwydd gerennydd:51 Topos yn y farddoniaeth yw gofyn i Dduw am y gallu i ganu cerdd er mwyn gwneud cyfiawnder â gwrthrych y gerdd: cf. GCBM i, 7.1–4 Kyuarchaf y’m Ri rad wobeith, / Kyuarchaf, kyuercheis ganweith, / Y broui prydu o’m prifyeith – eurgert / Y’m arglwyt gedymdeith. Ysbrydoliaeth i ganu cerdd i Dduw yn gyntaf (ll. 83 gysefin) ac wedyn i Ddewi yw’r rheg y mae Gwynfardd Brycheiniog yn ei deisyf.
I Dduw gysefin,31
gysefin
LlGC 6680B
gessefin; J 111
gysseuin. Dichon y ceir e am /ǝ/ yn y sillaf gyntaf yn gessefin, cf. n24(t) ar yno (llsgrau. eno) a n32(t). Dewin Dofydd,52
Dewin Dofydd Cyfuniad ar batrwm twyllwr bradwr, lle cyfosodir ‘dau enw cyffredin cydradd gyda’i gilydd, heb fod y naill yn ansoddeiriol at ddisgrifio’r llall’ a heb dreiglad
meddal i’r ail enw, TC 125. Anarferol iawn yw cael yr un gair yn safle’r brifodl mewn cwpled, fel a geir yn llau. 83–4; tybed a yw’n dderbyniol
am mai Duw sy’n cael ei enwi?
Ac i Ddewi wyn wedy Dofydd.
85Dewi mawr Mynyw,53
Mynyw Yr enw arferol yn y cyfnod hwn am Dyddewi, a’r enw Lladin Menevia yn tarddu o ffurf hŷn ar y gair a oedd yn gytras â’r Wyddeleg muine ‘drain’ (DPNW: 431–2) neu o bosibl yn fenthyciad o’r Wyddeleg (Sharpe 2007: 99). syw sywedydd,54
sywedydd Fe’i haralleirir yn ‘athro’, ond byddai’r ystyron canlynol a nodir yn GPC Ar Lein hefyd yn addas, ‘gweledydd, daroganwr; dewin; dyn neu fardd doeth neu ddysgedig’ (gall fod y bardd am gyfleu gradd oruwchnaturiol
doethineb y sant).
A Dewi
Brefi55
Dewi Brefi Cf. Dewi …Mynyw y llinell flaenorol. ger ei broydd;
A Dewi biau balchlan Gyfelach56
balchlan
Gyfelach
Llangyfelach, prif eglwys Gŵyr, wedi ei lleoli rhwng Gŵyr Is Coed a Gŵyr Uwch Coed: ‘This was undoubtedly the mother church
in the eleventh and twelfth centuries at least’, James 2007: 70. Ymddengys i Gŵyr gael ei chynnwys yn rhan o esgobaeth Tyddewi yn gymharol hwyr; ibid. 70, ‘It is hard to escape the
conclusion that its acquisition by St Davids was late’. Tybed ai dyna pryd y cysegrwyd yr eglwys i Ddewi yn ogystal â Chyfelach? Ni wyddys fawr ddim am Gyfelach, ac ni ellir bod yn sicr ai sant ynteu noddwr lleyg ydoedd, gw. ibid. 71; LBS ii, 215–16; WCD 161. Yn Llangyfelach yr oedd Dewi, yn ôl Ieuan ap Rhydderch, pan ddaeth angel ato i’w anfon i Jerwsalem (gw. n14(e)), ac yno, ar ôl iddo ddychwelyd, y derbyniodd rodd, sef allor mae’n debyg, gan y padriarch o Jerwsalem, yn ôl Rhygyfarch: gw. Sharpe and Davies 2007: 140, 141 ac ibid. 120, 121 deinde monasterium in loco, qui dicitur Langemelach, fundauit in regione Guhir, in quo postea altare missum accepit ‘then he founded a monastery in the place called Llangyfelach, in the region of Gower, in which he later received the altar
sent to him’. Mae adeilad presennol yr eglwys yn un diweddar, ond mae tŵr canoloesol yr eglwys (sydd yn sefyll ar wahân i
gorff yr eglwys bellach) a hen groes garreg yn y fynwent yn profi hynafiaeth y safle: gw. Coflein d.g. St David and Cyfelach’s church pillar cross, Llangyfelach a Tower of St David and Cyfelachs Church, Llangyfelach.
32
Gyfelach
LlGC 6680B
gefelach; J 111
gyuelach; am y ffurf gefelach yn LlGC 6680B, cf. o bosibl n31(t).
Lle mae morach a mawr grefydd;
A Dewi biau bangeibr57
bangeibr Cf. ll. 91 bangeibr Henllan a gw. n58(e). ysydd
90Meiddrym58
Meiddrym Bellach Meidrim, eglwys wedi ei chysegru i Ddewi a phlwyf yng nghwmwd Ystlwyf, Cantref Gwarthaf, gorllewin sir Gaerfyrddin, gw. WATU 154; Evans 1993. Am yr enw, sy’n gyfuniad o meidd ‘canol’ + drum / trum ‘cefnen’, gw. Williams 1921–3: 38. Cynigir yn Evans 1993: 14 mai Meidrim oedd mam eglwys y cwmwd, a hynny ar sail ei gwerth yn Taxatio 1291; cf. James 2007: 65, ‘it is evident (not least from the large size of its parish and a small detached portion) that Meidrim was the major
church of this commote. It is dedicated to St David and is sited on a spur above a bridging point of the River Dewi Fawr’. Mae’r eglwys wedi ei lleoli ar safle caer gynhanesyddol,
ac mae’n bosibl fod Gwynfardd Brycheiniog yn ymwybodol o hynny, wrth iddo gyfeirio at ei mynwent i luosydd: ‘The latter epithet seems probably to refer to the graveyard’s status as a sanctuary or noddfa although the enclosure is small. It is possible that there may have been some knowledge of the fortified nature of the enclosure’,
James 2007: 65. Mae hefyd yn bosibl fod y bardd yma’n cyfeirio at y ffaith fod byddinoedd yn manteisio ar noddfa’r fynwent ym Meidrim
ar adeg rhyfela, gw. Pryce 1993: 174n58. Am y disgrifiad o’r eglwys fel bangeibr, ll. 89, term a ddefnyddir hefyd i ddisgrifio eglwys Henllan yn ll. 91, awgryma Evans 1993: 14 ‘Bangeibr, appears to mean “high” or “great” church, perhaps in terms of a steeply pitched roof’, a chynigir ymhellach ei fod yn awgrymu
adeilad pren (yn cynnwys yr elfen ceibr ‘trawst’ pren, gw. GPC Ar Lein). Ceir dau gyfeiriad perthnasol at Feidrum (ond â’r enw lle wedi ei lygru), y naill yn De Situ Brecheniauc a’r llall ym muchedd Dewi, gw. Evans 1993: 20.
33
Meiddrym
LlGC 6680B
Meitrym; J 111
meidrym. Meiddrym a awgrymir gan orgraff y ddwy lawysgrif: cf. GPC Ar Lein d.g. trum lle nodir trum a drum (ail elfen yr enw) yn ffurfiau cysefin. le a’i mynwent i luosydd;
A Bangor esgor59
Bangor esgor Sef Bangor Teifi yng nghwmwd Gwynionydd, Ceredigion. Ar esgor, ffurf amrywiol ar ysgor ‘caer, cadarnle, amddiffynfa’, gw. GPC Ar Lein d.g. esgor2, ysgor3; gall gyfeirio yma un ai at yr adeilad neu’n ffigurol at nawdd neu ddiogelwch yr eglwys. Enwir yn llau. 91, 93 dair o eglwysi
Dewi ar lan afon Teifi: Bangor Teifi, Henllan a Maenordeifi. Mae eglwys gyfoes Bangor Teifi yn un ddiweddar: gw. James 2007: 61, a Coflein dan St Davids Church, Bangor Teifi, ‘It was rebuilt in 1812 on the same site, but possibly not in the same location as the medieval church, and retaining nothing
from the earlier fabric. This church was substantially rebuilt in 1855, and then entirely rebuilt in 1930–32.’ a bangeibr Henllan60
bangeibr Henllan Eglwys wedi ei chysegru i Ddewi, dwy filltir i’r dwyrain o Fangor Teifi, gw. n59(e), ac ar lan ogleddol afon Teifi, yng Ngheredigion. Awgryma’r enw fod y safle yn un hynafol, ond adeilad diweddar a geir yma
bellach, er bod y fynwent o’i hamgylch yn hen, gw. Coflein dan St Davids Church, Henllan. Mae’r disgrifiad o’r eglwys fel bangeibr yn awgrymu eglwys sylweddol o bren, gw. n58(e). Mae’n sicr y dylid cysylltu’r safle â Linhenlann ‘Llyn Henllan’, lle derbyniodd Sant, tad Dewi, dair rhodd yn ôl y vita Ladin, sef carw, pysgodyn a haid o wenyn, gw. Sharpe and Davies 2007: 108, 109.
Ysydd i’r clodfan, i’r clyd ei wŷdd;34
i’r clyd ei wŷdd
LlGC 6680B
yr clyd ywyt; J 111
yrclytywyd; GLlF 26.92 clyt y wyt ‘un cysgodol ei goed’ (:gwŷdd), gan ddeall yr ansoddair clyd yn enwol am Ddewi; cf. awgrym cyntaf G 152 ‘clydwr ei goed’. Ond posibl hefyd yw ail awgrym G i ddeall ywydd fel ‘coed yw’; cf. GPC Ar Lein lle y’i rhestrir yn betrus yn ffurf luosog ddwbl yw2 (ar lun coed: coedydd, cf. ll. 96); daw’r unig enghraifft a nodir yno o eiriadur William Owen-Pughe, P d.g., lle y dyfynnir y ll. hon gan Wynfardd Brycheiniog. O dderbyn yr ail ystyr hon, gellid aralleirio: ‘i’r un cysgodol ei goed yw’.
A Maenawrdeifi61
Maenawrdeifi Trydedd eglwys Dewi ar lan afon Teifi (cf. n59(e), n60(e) ar Bangor a Henllan), a’r eglwys hon yng nghwmwd Emlyn Is-Cuch, sir Benfro, gw. WATU 149. Fe’i lleolir bellach ar lan ddeheuol yr afon, ond gall fod cwrs yr afon wedi newid (ai yng Ngheredigion ydoedd ynghynt,
felly?), fel yr esbonnir yn James 2007: 61, ‘Maenordeifi has consequently lost its twelfth-century meadows, referred to by Gwynfardd Brycheiniog’. Gall yr enw Maenordeifi, fel y nodir ibid. 60, awgrymu bod y safle’n perthyn i faenor, ond ni cheir unrhyw dystiolaeth gadarn i’w gysylltu â maenor
esgobaethol yn perthyn i Dyddewi. diorfynydd
Ac Abergwyli62
Abergwyli Eglwys blwyf wedi ei chysegru i Ddewi. Mae’r eglwys bresennol yn un ddiweddar, gw. Coflein dan St David’s Church, Abergwili. Am gysylltiad Abergwili â Thyddewi yn yr Oesoedd Canol, gw. Pryce 2007: 315. Ceir y ffurfiau Gwyli a Gwili yn gynnar (ArchifMR), ac awgryma DPNW: 8 y gall mai gŵyl ‘caredig, mwyn’ yw’r brif elfen yn yr enw gyda’r olddodiad afonol -i; felly derbynnir sillafiad y llawysgrifau yn y testun golygedig. biau gwylwlydd63
gwylwlydd Dilynir G 737 a GPC Ar Lein, a’i ddeall yn ansoddair cyfansawdd gyda grym enwol yma (er y disgwylid bannod o’i flaen, efallai); cyfeirio at Ddewi a wneir, nawddsant eglwys Abergwili. Ni chafwyd enghraifft arall o gwylwlydd, ac eithrio fel enw person mewn triawd yn Pen 16: Teir phryf ychen … gỽineu ych gwylwylyd, gw. Bromwich 1946–8: 15.
95A Henfynyw35
Henfynyw LlGC 6680B
henfyniw; J 111
hen vynyỽ. Er mai –yw/-yỽ yw’r terfyniad arferol gan ysgrifydd LlGC 6680B yn yr enw Henfynyw a Mynyw, ceir ambell enghraifft ganddo hefyd o iw/-iỽ, cf. llau. 209, 219, 226, 230, 241, lle y ceir cysondeb –yw/-yỽ gan ysgrifydd J 111. Cymerir mai amrywiad orgraffyddol sydd yma, ond cyffredin yw codi y > i o flaen w. deg o du glennydd – Aeron,
Hyfaes ei meillion, hyfes64
hyfes Hon yw’r unig enghraifft gynnar o’r gair yn GPC Ar Lein; ond am yr ystyr, cf. ibid. d.g. mesyryd ‘cyflawnder o fes, mes’, lle gwelir o’r enghreifftiau fod mes yn ffynhonnell incwm werthfawr, oherwydd gellid codi am yr
hawl i fwydo moch arnynt, gw. OED s.v. pannage.
36
hyfes
J 111
hyfues, a’r u wedi ei dileu gan John Davies. Ceir fu = ‘f’ yn achlysurol yn J 111 yn ogystal â rhai llawysgrifau cynnar eraill, e.e. BL Cotton Cleo B v. i, 10v, ll. 9 cafuas, 66r, ll. 11 hafuren. goedydd;
Llannarth,65
Llannarth Eglwys blwyf wedi ei chysegru i Ddewi a Meilig yng nghwmwd Caerwedros yn Is Aeron, Ceredigion; ar yr enw, gw. Wmffre 2004: 372, ‘Llannarth means “llan of the garth” (or even possibly “the garth of the llan” if it is an inverse construction), the
garth being the high ground jutting up above the streams Llethi and Iwffratus.’ Ymddengys mai Meilig oedd nawddsant cyntaf yr eglwys (amrywiad o bosibl ar Maelog, gw. James 2007: 77), ac ni wyddys pryd y cysylltwyd hi â Dewi yn ogystal. Mae’n debygol fod Llannarth yn eglwys o bwys, yn fam eglwys, ac awgrymir gan James, ibid., fod iddi gyswllt cynnar
â Llanddewibrefi. Gw. hefyd LBS ii, 405.
Llanadnau,66
Llanadnau Fe’i deellir yn GLlF 26.9 yn gyfeiriad at enw lle anhysbys; gw. ibid. 468–9, ‘Cyfetyb yr enw i’r Depositi Monasterium a geir ym muchedd Ladin Dewi’ a nodir ymhellach fod Wade-Evans 1923: 60, yn cysylltu’r fan â Llanfeugan ym Mrycheiniog, sef eglwys wedi ei chysegru hefyd i Ddewi: Sharpe and Davies 2007: 108, 109 ad Maucanni monasterium, quod nunc usque
Depositi Monasterium uocatur ‘to the monastery of Meugan … To this day it is called the Monastery of the Deposit’. Credai J.E. Lloyd mai ffurf ar enw Llanarthnau/Llanarthne a geir yma, sy’n digwydd yn y ffurf lan hardneu yn Llyfr Llandaf, gw. HW3 158n165. Mae’r eglwys yn Llanarthnau hithau wedi ei chysegru i Ddewi; arni, gw. Lloyd &c. 2006: 233. Ond nid yw’r newid o Llanadnau > Llanarthnau neu vice versa yn gwbl eglur a chan na cheir tystiolaeth bellach o Llanadnau fel ffurf ar yr enw lle, mae’n rhaid hefyd ystyried awgrym
G 8 i ddeall adnau yn enw cyffredin yma (cf. yr ystyron ‘claddiad, bedd’ neu ‘?lloches, gorweddfa, gorffwysfa’ a roddir iddo yn GPC Ar Lein). llannau llywydd,
Llangadawg,67
Llangadawg O bosibl Llangadog (Fawr) yng Nghwmwd Perfedd, y Cantref Bychan, Ystrad Tywi, gw. WATU 125. Roedd hon yn eglwys bwysig, wedi ei lleoli ar y Sarn Hir, hen ffordd a gysylltai Frycheiniog a’r gorllewin: gw. James 2007: 69 ‘From Llangadog … the ancient route known as Sarn Hir, crosses Mynydd Talsarn and Mynydd Wysg across the headwaters of the River Usk to descend into the Usk valley and the ancient
kingdom of Brycheiniog’. Efallai fod hyn yn arwyddocaol, o sylwi bod y bardd yn enwi Llangadog rhwng eglwysi sir Caerfyrddin
/ Ceredigion (llau. 90–7) ac eglwysi Brycheiniog (llau. 99–102). Er hynny, y mae cyswllt yr eglwys â Dewi yn ansicr, ac ymddengys mai ar sail y gerdd hon yr hawlir hi i Ddewi yn ogystal â Chadog yn LBS ii, 316; Coflein dan St Cadog’s Church, Llangadog. At hynny, fe’n hatgoffir ni yn James 2007: 69 fod y Cantref Bychan wedi ei hawlio gan Landaf, nid Tyddewi, yn y 12g. Ni ellir bod yn sicr ychwaith ai’r sant Cadog a goffeir yn enw’r eglwys, yn hytrach na noddwr secwlar. (Er hynny, cysylltir y terfyniad -og gan amlaf ag enwau saint, cf. Teyrnog, Cynog, &c., a gw. Russell 2001: 237–49.)Posibilrwydd arall yw mai cyfeiriad sydd yma at eglwys Llangadog ger Cydweli. Credir bod mam eglwys y cwmwd wedi ei lleoli
yng Nghydweli, a meddir yn James 2007: 69, ‘This may have been at Llangadog, close to the Norman borough and Priory church of St Mary, where the place-name Sanctuary
Bank also suggests an important church site.’ Ymhellach ar ddosbarthiad eglwysi Cadog yng Nghymru, gw. Bowen 1956: 39–40. lle breiniawg rhannawg rihydd.
Nis arfaidd rhyfel Llan-faes,68
Llan-faes Fe’i rhennir yn ddau air yn y llawysgrifau, gan awgrymu cyfuniad acennog. Cyfeirir at eglwys Dewi yn Llan-faes ger Aberhonddu. Eglwys o ddiwedd yr Oesoedd Canol sydd bellach ar y safle, ond dichon fod hon wedi ei hadeiladu
ar safle eglwys hŷn, ac mae ffynnon gyfagos, Ffynnon Dewi, yn cadarnhau cyswllt y fan â Dewi. Gw. James 2007: 46, 72. lle uchel,
100Na’r llan yn Llywel69
Llywel Eglwys a phlwyf yn Nefynnog yn y Cantref Mawr, Brycheiniog, gw. WATU 147. Ni wyddys dim am Lywel, nawddsant cyntaf yr eglwys: ai’r un sant ag a goffeir yn yr enw lle Lanlouel yn Finistère, Llydaw? Gw. LBS iii, 387. Yn 1229 cyfeiriwyd at yr eglwys fel un a chanddi dri nawddsant, sef Llywel, Teilo a Dewi ac fe’i hadwaenid hefyd fel Llantrisant, gw. James 2007: 72; LBS ii, 317, iii, 387. Ymhellach ar yr eglwys, gw. James 2007: 72, ‘Llywel’s medieval parish was very large, divided into sub-divisions suggesting a territorial unit possibly once a cymwd (sic). Llywel is thus a good candidate for a pre-Conquest mother church’; hefyd Coflein under St Davids Church; St Teilo’s Church, Llywel or Llantrisant. Yn ei ‘Hanes y Daith trwy Gymru’, esbonia Gerallt Gymro sut y llosgwyd yr eglwys gan elynion yn ystod ei oes ‘a difa popeth yn llwyr, y tu mewn a’r tu allan’, Jones 1938: 17. gan neb lluydd;
Garthbryngi,70
Garthbryngi
Garthbrengi, enw eglwys a phlwyf ar ochr ddwyreiniol afon
Honddu yng nghwmwd Pengelli, Cantref Selyf, Brycheiniog, gw. WATU 73. Ceir yno eglwys wedi ei chysegru i Ddewi, gw. Coflein dan Church of St David, Garthbrengy, sy’n dyddio’r eglwys i’r 12g. Fe’i lleolir ar fryn, ac felly dehonglir bryn Dewi yma’n ddisgrifiad o’r safle. bryn Dewi digewilydd,
A Thrallwng Cynfyn71
Trallwng Cynfyn Eglwys Dewi ym Merthyr Cynog yng Nghantref Selyf, Brycheiniog, 8km i’r gorllewin o Aberhonddu, gw. WATU 204. Meddir yn James 2007: 72, ‘Trallong, one of the three chapels of Llywel, was a valuable part of the medieval bishops’ Breconshire estates’. Mae’r
disgrifiad o’r eglwys gan y bardd fel un cer ei dolydd yn amlygu agwedd ar y cyfoeth hwnnw, cf. ibid. 73, ‘The importance of meadows for hay and also for rich grazing for fattening
cattle cannot be overstressed – meadows attached to David’s churches are a constant item of praise for Gwynfardd in his Canu Dewi’. cer ei dolydd;72 Yn llau. 99–102 enwir clwstwr o eglwysi ym mharthau uwch dyffryn Wysg ym Mrycheiniog: Llan-faes, Llywel, Garthbryngi a Thrallwng
Cynfyn. Mae Llanddewi yn ll. 103 o bosibl yn bumed, gw. y nodyn canlynol.
A Llanddewi y crwys,73
Llanddewi y crwys Fe’i cysylltir yn GLlF 469, gan ddilyn CTC 264, â Llan-crwys neu Lan-y-crwys yng Nghwmwd Caeo, Ystrad Tywi, plwyf am y ffin â phlwyf Llanddewibrefi; gw. WATU 105, 112, 142; ond fel y nodir yn James 2007: 46, 67, ‘There is no indication that St Davids gained much here other than a dedication at, perhaps, a new stone church
[llogawd newyt]’. Ni lwyddwyd i ddod o hyd i’r un cyfeiriad arall at Lan-y-crwys fel Llanddewi y crwys (cf. ArchifMR). At hynny, ni ddisgwyliem i’r bardd enwi eglwys yn y gorllewin yma, gan ei fod yn enwi’r eglwysi yn ôl eu lleoliad daearyddol
yn y caniad hwn. Yn llau. 99–102 cyfeiriodd at eglwysi yn ardal Aberhonddu (Llan-faes, Llywel, Garthbryngi a Thrallwng Cynfyn);
yn llau. 104 a 106 enwir dwy eglwys yn Elfael (Glasgwm a Chregrina) ac yna un ym Maelienydd yn ll. 107 (Ystradenni). Byddem
yn disgwyl, felly, fod Llanddewi y crwys (ll. 103) un ai yn ardal Aberhonddu neu yn Elfael. Os felly, gellir ystyried dilyn awgrym CPAT dan Llanddewi Fach, i’w huniaethu â Llanddewi Fach yn Elfael Is Mynydd, ond gan gydnabod, ‘The significance of the “cross” element is not clear.’
Gall crwys fod yn enw unigol neu luosog, ‘croes(au)’, ac nid oes rhaid cymryd ei fod yn rhan o’r enw lle (cf. GPC Ar Lein d.g. crwys sy’n ei ddeall yn ffurf luosog ‘croesau; croesluniau’ yma). A yw’n cyfeirio at groes neu groesau arbennig yn yr eglwys neu’r
fynwent? Ond tybed, mewn gwirionedd, ai cyfeiriad sydd yma at hen eglwys glas Llan-ddew ger Aberhonddu, eglwys wedi ei chysegru
i Dduw yn wreiddiol, ond yna i Ddewi yn ogystal (o bosibl yn y 12g.)? (Arni, gw. Coflein dan St David’s Church, Llanddew.) Dyna a ddisgwyliem, oherwydd rhyfedd fyddai i’r bardd beidio â chynnwys yr eglwys bwysig hon lle trigai Gerallt Gymro fel archddiacon Brycheiniog; cf. James 2007: 71–2), sy’n awgrymu, ar sail y diffyg cyfeiriad ati, ‘The suspicion is that Llanddew may have been a late – even post-Conquest
– addition to David’s patrimony.’ Tybed, mewn gwirionedd, ai Llandew y crwys oedd y darlleniad yma’n wreiddiol, a bod copïydd y gynsail wedi cymryd bod dew y yn wall am dewi y, gan gymryd mai enw Dewi a oedd i fod i ddilyn Llan (a hon yn gerdd iddo ef). O dderbyn y darlleniad Llanddew y crwys, ceid hefyd linell reolaidd o ran ei hyd (er, wrth gwrs, mae nifer o linellau Gwynfardd yn rhy hir, felly nid oes modd defnyddio’r ffaith honno fel dadl dros ddiwygio’r testun). Mae Llan-ddew wedi ei hadeiladu
ar ffurf croes; a yw’n bosibl mai dyna yw arwyddocâd crwys? Neu ai cyfeirio a wneir at groes nodedig yn yr eglwys ei hun? Cf. Redknap and Lewis 2007: 179–80 lle disgrifir carreg a chroes wedi ei cherfio arni a oedd, o bosibl, yn rhan o allor yr eglwys ar un adeg. (Rwyf
yn ddiolchgar i Heather James am ei chymorth gyda’r nodyn hwn.) llogawd newydd,
A Glasgwm74
Glasgwm Prif eglwys Elfael, gw. n37(e) ac ymhellach ar ei lleoliad, ger bryn Glasgwm (ger glas fynydd, ll. 104), gw. CPAT dan Glascwm. a’i eglwys37
a’i eglwys
LlGC 6680B
ae glwys; J 111
ae eglỽys – dyma un o’r ychydig achosion lle mae darlleniad J 111 yn rhagori ar eiddo LlGC 6680B. ger glas fynydd,
105Gwyddelfod aruchel, nawdd ni echwydd,
Craig Fruna75
Craig Fruna Eglwys blwyf wedi ei chysegru i Ddewi, bellach Cregrina, yn Elfael Uwch Mynydd, gw. WATU 49. Roedd Cregrina, fel Glasgwm, yn eglwys o bwys yn Elfael wedi ei lleoli ar afon
Edwy wrth droed bryn sylweddol (teg ei mynydd, ll. 106). Ymhellach, gw. James 2007: 80; Coflein dan St David’s Church, Cregrina, ‘Small 13th century church extensively restored in 1903 …’ Esbonnir yr enw, yn DPNW: 100, yn gyfuniad o craig (neu o bosibl crug) a’r enw priod anhysbys Muruna. Crugruna yw’r ffurf a geir gan Lewys Glyn Cothi yn ei gywydd i ofyn am nawdd Dewi dros Elfael, DewiLGC2 llau. 51–2 Nertha Elfael dda ddwyoes, / nodda Grugruna â’th groes. Byddai Craig(f)uruna / Crug(f)runa > Crugruna yn ddatblygiad posibl. Am ffurfiau cynnar yr enw, gw. ArchifMR d.g. Cregrina a gw. ymhellach nodyn cynhwysfawr John Rhys yn RCAHM(Rad) 39. deg38
Craig Fruna deg LlGC 6680B
kreic vuruna dec; J 111
kreic uruna dec, gyda’r u wedi ei hychwanegu gan John Davies i ddilyn yr r yn sgil cymharu’r testun ag eiddo LlGC 6680B. Mae darlleniad LlGC 6680B fel y saif yn peri bod y llinell yn ddwy sillaf yn
rhy hir. O ystyried ffurfiau diweddar yr enw (Cregrina, &c., gw. n75(e)), credir mai llafariad epenthetig yw’r u gyntaf yn LlGC 6680B vuruna, ac mai Craig Fruna felly yw’r ffurf a fwriadwyd. Mae’n rhaid amau’r ansoddair dec, gan ei fod yn digwydd ddwywaith yn y llinell: ai Craig Fruna yma, teg [>deg?] ei mynydd oedd y darlleniad cywir (a roddai linell reolaidd o gyhydedd nawban yn ymrannu’n 5:4 sillaf)? yma, teg ei mynydd
Ac Ystrad Nynnid76
Ystrad Nynnid
Llanddewi Ystradenni, neu Ystradenni’n syml heddiw, yng nghantref Maelienydd, gw. WATU 112; DPNW: 226. Daw Nynnid o’r Lladin Nonnita, ac nid yw’n eglur ai ffurf ar yr enw Non, mam Dewi, ydoedd (gw. EANC 173) neu enw person anhysbys. Lleolir eglwys Dewi yn Ystradenni ar lan ddwyreiniol afon Ieithon; eglwys o’r cyfnod modern sydd ar y safle heddiw. Gw. CPAT dan Church of St David, Llanddewi Ystradenni. a’i rhydid39
rhydid
LlGC 6680B
rydid (= ‘rhydid’); J 111
rydit (=‘rhydid’ neu ‘rhyddid’): ar amrywiol ffurfiau’r gair, gw. GPC Ar Lein d.g. rhyddid, rhydd-did, rhydid, rhydyd. rhydd.
Rhoddes Duw Dofydd defnydd – o’i77
o’i Ffurf amrywiol ar i’w, gw. GMW 53. foli:
Dewi ar Frefi fryn llewenydd,40
Dewi ar Frefi fryn llewenydd
LlGC 6680B
Dew ar ureui urȳn llewenyt; J 111
dewi ureui vrenhin llewenyd. Ar wahân i’r ffaith fod llaw alpha wedi colli’r ¬-i ar ddiwedd enw’r sant yn LlGC 6680B, mae’r ddau ddarlleniad yn synhwyrol, ond mae darlleniad ll. 110 yn profi mai cyfeirio
at y bryn yn codi o dan draed Dewi yn Llanddewibrefi a wneir yma, ac felly derbynnir darlleniad LlGC 6680B.
110Rhagor mawr uch llawr rhag lluosydd,
Pen argynnan coned cred a bedydd;78
cred a bedydd Gallai hefyd olygu byd Cred neu Gristnogaeth yn fwy cyffredinol, gw. GPC Ar Lein d.g. cred a bedydd.
A bod o’i gylchyn, cylch ei feysydd,
Haelon a thirion79
tirion Fe’i diffinnir yn GPC Ar Lein fel ‘e.ll. neu eg.’ ‘?tiroedd; tiriogaeth, gwastadedd, tir glas’; cf. ll. 143. a theg drefydd
A gwerin a gwin a gwirodydd
115A gorfod a gwared lliwed llonydd.
Llwyth Daniel80
llwyth Daniel Cf. n42(t) ar Llwyth Maried. Cynigir yn HG Cref 190 mai cyfeiriad at Ddeiniol, un o’r ddau sant a berswadiodd Ddewi i fynd i synod Brefi, sydd yma; fe’i dilynir gan CTC 264 a G 296. Ond mwy argyhoeddiadol yw cynnig GLlF 470, ‘mai enw ar linach abad neu brif glerigwr y gymuned grefyddol yn Llanddewibrefi sydd yma’. Posibilrwydd arall a gynigir
yno yw i gysylltu’r enw â Daniel fab Sulien ‘a fu yn archddiagon Powys ac yn ymgeisydd ei hun am esgobaeth Tyddewi yn 1115’. Ymhellach arno, gw. Stephenson 2016: 12, 25. aruchel, eu hefelydd – nid oes41
eu hefelydd
–
nid oes Dilynir HG Cref 190–1 a drefmpdd lau. 116–17 yn doddaid. Ond ymddengys fod ysgrifydd LlGC 6680B wedi cymryd mai cwpled o gyhydedd nawban
sydd yma, gan iddo roi priflythyren goch i Nyd; fe’i dilynwyd yn GLlF 26.116–17. Ond anarferol braidd fyddai’r modd y goferai’r frawddeg felly dros y ddwy linell (eu hefelydd / Nid oes) a byddai’r ail linell hefyd yn cynnwys un sillaf ar ddeg yn hytrach na’r naw neu’r deg sy’n fwy arferol yn y gerdd.
Yn cadw oes a moes a mynudydd;
Llwyth Maried,42
Maried Mae orgraff y ddwy lawysgrif (LlGC 6680B
maryed; J 111
maryet) yn awgrymu’r terfyniad ‘-ied’, a dehonglir y ffurf yn enw personol (cf. HG Cref 47), gyda’r fformwla Llwyth + enw priod yn adleisio dechrau’r cwpled blaenorol (Llwyth Daniel …), yn yr un modd ag yr ailadroddir A Dewi … ar ddechrau llau. 120, 122, 124 a 126. Disgwylid enw dyn, ond ymddengys mai enw merch oedd Mar(i)ed, yn ôl yr ychydig dystiolaeth, cf. EWGT 202–3. Er gwaethaf orgraff y ddwy lawysgrif, ac yn dilyn CTC 264, fe’i dehonglir yn GLlF 470 fel ‘mariedd’, ffurf amrywiol bosibl ar yr enw cyffredin maredd ‘?ysblander, rhwysg’, gw. GPC Ar Lein d.g. Ffefrir y ffurf hon yn GLlF gan ei bod yn cynnig odl fewnol â mawreddus. mawreddus43
mawreddus
LlGC 6680B
maỽretus (mawredd + -us); J 111
maỽrwedus (mawrwedd + -us, neu mawr + gweddus). Rhoddir yn fras yr un ystyron i’r ddwy ffurf yn GPC Ar Lein. eu merwerydd,
Gwell pob un duun44
duun
LlGC 6680B
duun; J 111
dyuun. Cofnodir dyun a duun yn GPC Ar Lein. dewr no’i gilydd.
120A Dewi a’n differ, a’n diffyn fydd,
A’i wyrth a’n diffyrth81
ddiffyrth Ffurf trydydd unigol gorffennol diffryd, gw. GMW 124 (cafwyd y ffurf trydydd unigol presennol differ yn ll. 120). Tybed a yw’r bardd yn cyfeirio at achlysur benodol yn y gorffennol yma? rhag pob diffydd;45 Ni cheir y ll. hon yn J 111, gan adael ll. 120 yn llinell unigol o gyhydedd nawban yn lle bod yn rhan o gwpled.
LlGC 6680B sy’n gywir yma, oherwydd ceir A
Dewi … ar ddechrau pob cwpled yn llau. 120, 122, 124, 126.
A Dewi a’n gweryd rhag cryd cerydd – pechawd,
Ym maes maëstawd Dyddbrawd dybydd!
A Dewi a’i gorug82
a’i gorug Enghraifft o ragenw mewnol proleptig sy’n cyfeirio ymlaen at wrthrych y ferf a nodir yn ddiweddarach yn y frawddeg (Magna fab yn fyw). Nid oes angen ei gyfieithu felly. (gŵr bieifydd83
gŵr bieifydd Ystyr sylfaenol pieu oedd ‘i bwy [pi] y mae?’; ar gystrawen pieu, gw. GMW 80–1 a cf. RM 239.11 (a ddyfynnir yno) nyt oed deu di yr un onadunt, namyn duw bioedynt. Yn betrus cymerir mai Dewi yw’r gŵr, a’r wyrth o atgyfodi Magna yw’r goddrych dealledig, y nodwedd sy’n perthyn i Ddewi.)
125Magna84
Magna Cyfeirir yma at hanes Dewi yn atgyfodi mab ar ei ffordd i synod Brefi, lle y disgleiriodd o flaen y gynulleidfa fel haul … ysblennydd (llau. 126–7). Fel y sylwir yn Sharpe and Davies 2007: 145, ceir yma adlais o’r hanes am Grist yn atgyfodi mab i wraig weddw yn Nain, gw. Luc 7.11–15. Ni cheir enw’r mab yn y
fuchedd Gymraeg: gw., e.e., BDe 15–16 ‘Cyfodi Mab y Weddw’; WLSD 9–10. Yn y fuchedd Ladin fe’i gelwir yn Magnus (Sharpe and Davies 2007: 144, 145 Et ecce orbata mater corpus extincti pueri seruabat, qui Magnus uocabatur ‘And behold, a bereaved mother was holding the body of her dead son, who was called Magnus’). Mae’r ffurf Magna yn annisgwyl, gan ei bod yn ymddangos yn fenywaidd, ond dyma’r ffurf a geir hefyd gan Ieuan ap Rhydderch yn ei gerdd i Ddewi: DewiIRh llau. 77–8 Da y gwnâi Fagna â’i fagl / O farw yn fyw o firagl (a’r wyrth yn cael ei chyflawni unwaith eto ar ei ffordd i Frefi), gw. ibid.n. Tybed a wnaeth Ieuan ap Rhydderch, unwaith eto, ddibynnu ar awdl Gwynfardd Brycheiniog am ei wybodaeth? (Cf. n20(e) lle nodir y gall fod Ieuan ap Rhydderch wedi cael ei wybodaeth am faint tyrfa synod Brefi o gopi o’r awdl hon yn Llawysgrif Hendregadredd , llawysgrif a fyddai wedi
bod yn ei gartref yng Nglyn Aeron.) Ymddengys mai Magnus a roddodd y ffurf Maen yn y Gymraeg (cf. CLlH VII.42a), sef yr enw a gofir, yn ôl pob tebyg, yn yr enw lle Llandyfânger Llandeilo Fawr (< Tyfaen, ffurf anwes ar Maen): gw. WLSD 58–9. Os yw’r enw lle yn cyfeirio at y mab a atgyfododd Dewi, mae’n ddiddorol fod Gwynfardd Brycheiniog ac Ieuan ap Rhydderch yn gyfarwydd â ffurf Ladin yr enw, yn hytrach na’r ffurf Gymraeg. Posibilrwydd arall yw fod Gwynfardd Brycheiniog wedi drysu gyda hanes am Badrig yn atgyfodi dyn marw ar ei ffordd i Magna Porta, sef y Porth Mawr ger Tyddewi: Sharpe and Davies 2007: 112, 113 paransque nauem in Portu Magno suscitauit quendam senem nomine Cruimtherj per .xii. annos iuxta litus illud sepultum ‘As he was preparing a ship at Porth Mawr, he raised up an old man, named Cruimther, who had been buried near that shore
for twelve years.’ fab yn fyw a’i farw ddeuddydd.
A Dewi ryweled46
ryweled
LlGC 6680B
ry weled; J 111
rywelat. Gwelad oedd ffurf fwy arferol amhersonol gorffennol gweled yn y cyfnod hwn, gw. GMW 126. yn ei rihydd
Fal cyfliw â haul hwyl ysblennydd.
Ysid i Ddewi dda gyweithydd
Wrth wan a chadarn a chadw47
a chadw
LlGC 6680B
a chadỽ; J 111
achadỽ. Yn GLlF 26.129 darllennir achadỽ (GPC Ar Lein d.g. achadw ‘gwarchod, amddiffyn, cadw’), ond cymerir mai’r cysylltair a + cadw sydd yma. (Sylwer na nodir y ll. hon yn G 6 d.g. achadw.) eu48
eu LlGC 6680B
y; J 111
y. Cymerir mai’r rhagenw blaen trydydd lluosog eu a gynrychiolir gan y y llawysgrifau er mai eu yw’r ffurf arferol gan ysgrifwyr y ddwy lawysgrif. Gw. ymhellach n90(t) lle cawgrymir mai y a ddefnyddid am ‘eu’ yn y gynsail. prydydd;
130Ac iddaw y mae, mal i ddedwydd,
Ddedwyddion Brefi yn ei broydd.
V
O fedru canu coeth anrheg – i hael
Cefais-i archafael, caffaf-i osteg;
O gyrchu Brefi, braint ehedeg,85
braint
ehedeg Dilynir G 451 a GPC Ar Lein (‘hedegog, rhwydd ei rediad’) a chymryd bod grym ansoddair i’r berfenw ehedeg yma.
135Dy-m-gordden86
dy-m-gordden Yr unig enghraifft yn G 425 a GPC Ar Lein o’r ferf dyordden(u) ‘bodloni, boddhau, rhyngu bodd; denu’, gyda’r rhagenw mewnol gwrthrychol, ’m, wedi ei leoli rhwng y rhagddodiad a’r ferf; gw. GMW 56 am enghreifftiau pellach o’r gystrawen hynafol hon. yn llawen llawer gosteg
I foli Dewi, da Gymräeg – eofn,
O fodd bryd a bron, o brydest chweg,
O brydest87
prydest Tarddair o’r ferf prydu (am y terfyniad -est, cf. gwledd + -est > gloddest); esbonnir yn GPC Ar Lein mai canlyniad camddeall hen orgraff, yn ôl pob tebyg, yw’r ffurf ddiweddar pryddest.
49
brydest
LlGC 6680B
brydest; J 111
bryst, a John Davies wedi ychwanegu dde uwchben. dyllest dull ychwaneg88
dull ychwaneg Dehonglir ychwaneg yma yn ddisgrifiad o’r math hwn o awdl, lle yr ychwanegid sawl caniad at ei gilydd i wneud un gerdd hir. Ond mae GLlF 459 ‘o ffurf ragorol’ hefyd yn bosibl.
I Frefi a Dewi doeth Gymräeg.
140Diogel ei nawdd i’r neb a’i cyrcho,
Diogan ei fro ddiogyweg
(Rhag creiriau Dewi yd grŷn50
yd grŷn Derbynnir arweiniad y llawysgrifau (lle ceir -n yn hytrach nag -nn), cf. G 183; ond byddai yd gryn hefyd yn bosibl (cf. GLlF 452 yd gryn).
Gröeg89
Gröeg Fel y nodir yn GPC Ar Lein d.g. Groeg, Goröeg, gall gyfeirio at diriogaeth ehangach na’r wlad ei hun. Ai gormodiaith sydd yma drwy awgrymu bod dylanwad Dewi yn cyrraedd mor bell â Groeg?
Ac Iwerddon – tirion90
Iwerddon – tirion tir Gwyddeleg Yn GLlF 459 deellir Iwerddon tirion yn gyfansoddair gyda tirion yn brif elfen, ‘[t]iriogaethau Iwerddon’ (ar tirion fel enw unigol neu luosog, gw. n79(e)). Ond os felly, disgwylid Iwerddon dirion (ar lun hydref ddail). At hynny, gan mai enw benywaidd yw Iwerddon (cf. GDEp 3.28 Iwerddon fawr), disgwylid hefyd i tirion dreiglo ar ôl yr enw benywaidd Iwerddon petai’n ansoddair yn ei oleddfu. Yn betrus, felly, deellir tirion yn ansoddair yn perthyn i ail hanner y ll., gyda tirion tir Gwyddeleg (er mai chwithig braidd yw hynny gan y disgwylid toriad mydryddol ar ôl tirion). tir Gwyddeleg)
O Garawn91
Carawn Ardal yng nghwmwd Pennardd yn Uwch Aeron yn cynnwys Caron-is-clawdd (ardal Tregaron) a Charon-is-clawdd (Ystrad-fflur) a
ymestynnai hyd afon
Aeron, gw. WATU 35, 311. Caron hefyd oedd enw’r sant a gladdwyd yn ôl traddodiad yn Nhregaron, gw. LBS ii, 135–6; WCD 107. Tardda afon Teifi yn Llyn Teifi, ychydig i’r gogledd o Garon-is-clawdd a lluniai’r afon ffin orllewinol nodua Dewi: BDe 18.21–2 kennat yw idaw vynet o Dyui [= Dywi] hyt ar Deivi, a gw. ibid. 55. gan iawn, gan ehöeg,92
ehöeg ‘Lliw blodau’r grug, porffor’, GPC Ar Lein. Dichon mai cyfeirio a wneir at wawr borffor y tir yn ardal Caron oherwydd y grug a dyfai yno.
145Hyd ar Dywi93
Tywi Afon yn tarddu yn y Llyn Du, gw. n94(e), gan lunio’r ffin rhwng Ceredigion a Buellt i’r dwyrain a rhwng Ceredigion a sir Gaerfyrddin yn y de, gw. EANC 171–2. Dynodai afon Tywi ffin ddwyreiniol nawdd Dewi yng Ngheredigion, gw. n91(e). afon firain a theg;
O’r Llyndu,94
Llyndu Anodd bod yn sicr am leoliad Llyndu / Llyn Du, gan fod sawl un yng Ngheredigion oherwydd natur y pridd corslyd mewn mannau.
Lleolir yr enwocaf ohonynt i’r gogledd o Lynnoedd Teifi, ac mae dŵr ohono’n llifo i Glaerddu ac i gronfa Claerwen. Dyma, yn
ôl pob tebyg, yw’r ‘Linduy, i.e. lacus niger’ yng Ngheredigion y cyfeiria Leland ato yn yr 16g. (Smith 1906: 107; Wmffre 2004: 882). Ond dichon fod hwn yn rhy ogleddol i fod yn berthnasol ar gyfer yr awdl hon.Ceir un arall yn rhan ogleddol Fforest Tywi, yn y mynyddoedd sy’n gorwedd rhwng Ceredigion a Buellt, tua chwe milltir i’r
gogledd-ddwyrain o Dregaron. Esbonnir yn Jenkins 2005: 62), ‘Mae’r afon Tywi yn tarddu yn Llyn Du ger Tregaron, gan lifo trwy ddyffryn toreithiog i Fae Caerfyrddin’; dyma’r llyn
y cyfeiria Gwynfardd Brycheiniog ato yn ôl y nodyn yn HG Cref 192 (a gw. n91(e), n93(e)). Mae disgrifiad y bardd o’r llyn fel man lle y bu gwrthdaro chwyrn (llid gyhydreg) yn ddadl o blaid ei uniaethu â’r llyn hwn sydd, fel y nodwyd uchod, ar y ffin rhwyng dwy ardal. Tybed a fu’n fan lle byddai
pleidiau o’r ddwy ardal yn cydgyfarfod er mwyn ceisio datrys anghydfod, yn yr un modd ag yr oedd Bwlchoerddrws yn cael ei
gydnabod yn fan cyfarfod rhwng Meirionnydd a Mawddwy yn ôl tystiolaeth ddiweddarach, gw. Smith 1964–6: 313–14. Tybed a ddynodai’r Llyn Du y ffin rhwng tiroedd Padarn yng ngogledd Ceredigion a thiroedd Dewi yn y de?
Trydydd posibilrwydd, a ffafriwyd yn Wmffre 2004: 1258), yw Llyndu rhwng Llanddewibrefi a Llangeitho a oedd hefyd yn gwagio i afon Teifi. Mae’r llyn hwn bellach wedi sychu,
ond ceir cyfeiriadau ato mewn enwau lleoedd cysylltiedig megis Celli Llyndu a Phontllyndu; cf. hefyd cyfeiriad canlynol mewn
siediwl o’r 17g. at Y Ddôl Wen ar Lan y Llyndu (gw. ibid. 1258, also 538, 595).
Gan fod y cwpled O’r Llyndu … / Hyd ar Dwrch (146–7) yn awgrymu ehangder tiriogaeth Dewi o’r gogledd i’r de, ac oherwydd yr awgrym o leoliad ar y ffin, yr ail Lyndu a nodwyd uchod a ffefrir (gyda pheth petruster) yn y golygiad hwn. lle ’d fu llid gyhydreg,
Hyd ar Dwrch,
51
hyd ar Dwrch
LlGC 6680B
hyd ar tỽrch; J 111
hyt ar tỽrch; ceid y treiglad meddal yn rheolaidd yn dilyn hyd ar, cf. ll. 145 Hyd ar Dywi; GGMD i, 6.36 hyd ar Duedd. Mae’n bosibl na ddangosai’r gynsail dreiglad ffrwydrolion di-lais yn rheolaidd (cf., e.e., n11(t) a ll. 54 LlGC 6680B
gyd preinyaỽc, J 111
gyt breinaỽc), felly mae’n bosibl bod y ddau ysgrifydd yma wedi esgeuluso’r treiglad, efallai dan ddylanwad y ddau air dilynol sy’n dechrau
â t-. terfyn tir â charreg.96
terfyn tir â charreg Ymddengys hwn yn gyfeiriad at ryw garreg o bwys a ddynodai’r ffin, a hynny heb fod ymhell o afon Twrch. Dichon fod James 2007: 67) yn gywir mai Hirfaen Gwyddog, carreg sy’n dal i sefyll o hyd, yw hon: arni, gw. Coflein dan Carreg Hirfaen; Hirvaen Gwyddog, ‘An erect monolith, 4.8m high by 1.1m by 0.8m, carrying a modern in[s]cription: serves as a boundary marker between Ceredigion
and Carmarthenshire, first mentioned in this role in the 10th century AD’. Saif y garreg tua 2km i’r gorllewin o afon Twrch.
Fe’i henwir yn Efengylau Caerlwytgoed (hirmain guidauc), yn nodi ffin orllewinol Trefwyddog, sef ardal a gyfatebai’n ddiweddarach i diriogaeth Caeo.
Dothyw52
Dothyw
LlGC 6680B
Dothyỽ; J 111
Dodyỽ, dwy ffurf amrywiol ar drydydd unigol perffaith dyfod, gw. GMW 134. Dothyỽ a fynnir gan y cymeriad geiriol ar ddechrau’r tri chwpled ar ddiwedd y caniad hwn, ac yn y llinell hon yn unig y ceir Dodyỽ yn J 111. i Ddewi Ddeheubartheg – bair
I ddial fal diwair dwyn ei wartheg;97 Disgrifia chwe llinell olaf y caniad (llau. 148–53) arglwydd sy’n gyfoes â’r bardd ei hun. Fe’i gelwir yn Ddehebartheg – bair (ll. 148), yn ddiffreidiad teg (ll. 152) a daw’r caniad i uchafbwynt drwy ei enwi’n llawn: Rhys mawr, Môn wledig, rheodig reg (ll. 153). Dilynir GLlF 471 a deall y cwpled cyntaf yn gyfeiriad ‘at ryw ddigwyddiad cyfoes lle yr oedd gwartheg Llanddewibrefi, a oedd o dan ofal
yr arglwydd lleol, wedi eu dwyn. Geill mai’r Arglwydd Rhys a olygir gan Deheuparthec beir a’i fod yntau wedi dod i Landdewibrefi i ddial y lladrad.’ Ond yn HG Cref 192 a CTC 264 cymerir mai cyfeirio a wneir yn y cwpled at yr achlysur pan fu farw holl anifeiliaid Boia, ac y danododd Boia hynny i Ddewi, gw. BDe 8.5–8. O blaid y dehongliad cyntaf y mae’r disgrifiad canmoliaethus o’r arglwydd fel dyn diwair (ll. 149).
150Dothyw i Ddewi yn ddeheueg
Gan borth Duw, porth dyn yn ddiatreg;
Dothyw i Ddewi ddiffreidiad teg:
Rhys mawr, Môn wledig,98
Môn wledig Yr Arglwydd Rhys ap Gruffudd. Roedd gwledig yn derm a ddynodai statws brenhinol, fel rhi, tëyrn, brenin, mechdëyrn ac amherawdr, gw. Andrews 2010: 90, 94–6; Andrews 2011: 56. Ceir sawl cyfeiriad at leoedd ym Môn yn y cerddi i’r Arglwydd Rhys gan Gynddelw Brydydd Mawr a Seisyll Bryffwrch yn ogystal â chan Wynfardd Brycheiniog, ac awgrymir yn GLlF 472 y gall mai gwerth symbolaidd sydd i’r cyfeiriadau hyn, oherwydd ‘bod goruchafiaeth dros Fôn yn golygu rhyw fath o oruchafiaeth
dros Gymru gyfan’; cf. Jones 1996: 137. Yr Arglwydd Rhys oedd tywysog mwyaf pwerus Cymru ar ôl marwolaeth Owain Gwynedd yn 1170, ac er nad oes tystiolaeth bod grym penodol ganddo ym Môn, mae’n bosibl ‘iddo gael dylanwad ehangach yng Ngwynedd
yn rhinwedd yr oruchafiaeth a sicrhaodd Rhodri ab Owain, ei fab-yng-nghyfraith, yng Ngwynedd Uwch Conwy [yn cynnwys Môn] erbyn 1175’, fel y nodir yn Smith 1996: 35. rheodig reg.
VI
Rhymeddyliais-i53
Rhymeddyliais-i Ar -i, y rhagenw ôl ansillafog, gw. n25(t). Ar ddefnydd y rhagddodiad rhagferfol cadarnhaol rhy-, ac yn arbennig ‘where ry appears to denote customary or repeated action’, gw. GMW 166–7. Y treiglad llaes a ddilynai rhy- mewn prif frawddeg mewn hen Gymraeg, a chytsain gysefin yn achos y cytseiniaid eraill; fodd bynnag erbyn testunau rhyddiaith
yr Oesoedd Canol meddir, ‘neu and ry are followed by lenition in every case’, ibid. 62. Anodd gwybod, felly, a yw’r gytsain gysefin -m- yn rhymeddyliais yn nodwedd ar forffoleg hynafol (cf., o bosibl, GCBM i, 7.13 Rhygelwid Madawg cyn no’i laith …), neu ynteu a oedd rhagenw mewnol ynghlwm wrth rhy yn atal y treiglad: rhy’i meddyliais. Os felly dyma enghraifft arall o ragenw mewnol proleptig, yn achub y blaen ar y gwrthrych a fynegir yn ddiweddarach (sef
hyn), cf. n82(e) ar a’i gorug. hyn i honni – urddawl,99
urddawl Cymerir bod llinellau agoriadol y caniad hwn yn disgrifio cynrychiolydd Dewi yn Llanddewibrefi, sef pennaeth yr eglwys yno yn y 12g. a oedd yn gyfrifol am ei hysgolheigion, ei llyfrau a’i mantell o
sidan wedi’i brodio (ll. 157).
155Ei urddas anfedrawl54
anfedrawl
LlGC 6680B
anuedraỽl, a esbonnir yn GPC Ar Lein d.g. fel cyfuniad o anfedr + -ol ‘anfesurol, difesur; anferth, enfawr’. Yn J 111 ceir anueitraỽl sy’n awgrymu an- + meidrawl ‘anfeidrol, … annherfynol, diderfyn’, GPC Ar Lein d.g. Mae’n amhosibl gwybod pa un a oedd yn y gynsail, ond dilynir LlGC 6680B yma, fel mater o egwyddor. a fedr roddi:
Rhwyf rhadau biau beirdd wy55
wy
LlGC 6680B
wy (ffurf amrywiol ar yw ‘i’w’, cf. ll. 193, &c.); J 111
yw. Gw. GMW 53n2. foli
A llên100
llên ‘Gwŷr llên’, yr ‘ysgolheigion’ neu’r ‘clerigwyr’ yn Llanddewibrefi; ond gall hefyd mai ‘dysg, dysgeidiaeth’ yw’r ystyr yma;
gw. GPC Ar Lein d.g. llên (a) a (b). a llyfrau a’r llen bali.101
llen bali Gw. n114(e) ar allawr deg.
Pan ddeuth102
deuth Un o ffurfiau trydydd unigol gorffennol dyfod; ceir ffurf arall, doeth, yn ll. 162. Gw. GMW 134. o Ffrainc Ffranc o’i103
o’i Ffurf amrywiol ar y’w ‘i’w’, gw. GMW 53n2. erchi
Iechyd rhag clefyd, rhag clwyf delli,
160Wynepglawr diddawr dim ni weli,
Pesychwys, dremwys56
dremwys Cf. LlGC 6680B
dremwys, trydydd unigol gorffennol dremiaw ‘gweld’, &c. (a’r d- yn gytsain gysefin), gw. GPC Ar Lein d.g.; mae’n amrywiad ar y ferf tremiaw, cf. J 111
tremỽys. drwy fodd Dewi.104 Cyfeirir yn llau. 158–61 at wyrth pan adferodd Dewi ei olwg i Ffranc a oedd yn wynepglawr a deithiasai o Ffrainc i geisio ei gymorth. Mae’n bosibl mai gwyrth a gyflawnwyd yn Llanddewbrefi trwy ras Dewi yn y 12g. oedd hon, fel yr awgrymir yn GLlF 472. Mae’r hanesyn nid yn unig yn cyfleu grym parhaol gwyrthiau Dewi i iacháu dallineb, ond hefyd yn awgrymu enwogrwydd pell-gyrhaeddol y gwyrthiau hynny. Ni cheir dim yn cyfateb i’r hanes hwn
yn y bucheddau (ac nid yw arwyddocâd y pesychu yn amlwg!), ond ceir tri hanes am Ddewi yn adfer golwg deillion, ac mae’n ddigon posibl ei fod yn cael ei gysylltu’n arbennig â’r gallu i adfer golwg.i. Digwyddodd y wyrth gyntaf ar ddydd ei fedydd: BDe 4.15–16, 19–20 A dall a oed yn daly Dewi wrth vedyd a gafas yna y olwc … Ac o’r awr y ganet, dall wynepclawr oed. Ac yna y olwc a gafas …. Ym muchedd Rhygyfarch, enwir y dyn dall a ddaliodd y baban Dewi fel Mobhí Sant o Glasnevin, gw. Sharpe and Davies 2007: 117n34, ‘St Mobi of Glasnevin, known in Irish as Mobi Clarainech (flat-faced) from his having been born without eyes or
nose’; a chyfeiria Iolo Goch ac Ieuan ap Rhydderch at y gŵr hwn fel tad bedydd i Ddewi: DewiIG llau. 39–40 Ei dad bedydd, dud bydawl, / Dall wynepglawr, mawr fu’r mawl; DewiIRh llau. 33–4 Rhoes i’i dad bedydd, medd rhai / Ei olwg – gynt ni welai. (A yw’n bosibl fod Gwynfardd Brycheiniog yn cyfeirio at y wyrth hon yma? Gallai Ffranc gyfeirio at rywun o dramor yn gyffredinol, yn ogystal ag at rywun o Ffrainc, gw. GPC Ar Lein. A ddefnyddiwyd y gair Ffranc am Saint Mobhí fel un o dramor (o Iwerddon) yn ffynhonnell Gwynfardd (boed honno’n ffynhonnell lafar neu ysgrifenedig) ond iddo gael ei ddehongli ganddo ef, neu ei ffynhonnell, i gyfeirio at
rywun o Ffrainc yn benodol?)
ii. Digwyddodd yr ail wyrth yn ystod ieuenctid Dewi, pan adferodd olwg ei athro Peulin, BDe 5.17–18 A phan rodes
Dauyd y law ar y lygeit ef, y buant holl iach.
iii. Y trydydd achos oedd adfer ei olwg i Beibiog neu Beibio, brenin Erging: BDe 6.10 Odyna y rodes gwaret i Pebiawc, vrenhin Erging, a oed yn ddall. Yn y nodyn, ibid. 39, cyfeirir at y disgrifiad yn Llyfr Llandaf o Beibiog fel clauorauc ‘clafoeriog, drivelling’; ond yn y nodyn cyfatebol yn WLSD 39, ychwanegwyd ‘leprous’ (cf. GPC Ar Lein dan claforog). Dyma, felly, bosibilrwydd arall o ran y gŵr wynepglawr y cyfeiria Gwynfardd Brycheiniog ato yn yr awdl.
Merch brenin dwyrain doeth i Frefi
A phryd a gweryd57
A phryd a gweryd
LlGC 6680B
a phryd a gỽeryd; J 111
aphryt agỽeryt. Derbynnir yma ddarlleniad llawysgrifau, sy’n rhoi ystyr ddigonol, gw. n106(e). Yn HG Cref 193 dehonglir pryd / pryt y llawysgrifau fel ‘pridd’ a gweryd fel ‘tywarchen’. Os cywir hynny, gellid cofio am draddodiadau am santesau’n dod i Gymru o Iwerddon ar ddarn o dywarchen,
cf. FfraidIF llau. 45–7 O Iwerddon ar donnen / i’r môr yn wir, morwyn wen, / da nofiaist hyd yn Nyfi …; ond o’r dwyrain y daeth y ferch y cyfeirir ati yma. Gw. GLlF 472 am bosibiliadau eraill. i gyd â hi
Wrth glywed däed tynged Dewi105
tynged Dewi Topos yn y cerddi i seintiau yw canmol tynged neu ffawd y sant, a’r hyn a olygir fel arfer yw bod y sawl sy’n byw dan nawdd
neu ffafr y sant hwnnw yn mwynhau bywyd o ddedwyddwch a diogelwch yn sgil derbyn ei fendith: cf. DewiIRh llau. 5–6 Nid gwell sant (ffyniant ei ffawd) / No
Dewi, iawn y dywawd.
165A’i fuchedd wirionedd, wirion ynni,106 Llau. 162–5. Ni cheir goleuni ym muchedd Dewi am ferch i frenin o’r dwyrain yn dod i Landdewibrefi i ganlyn ei fri. Os cywir mai at wyrth a ddigwyddodd yn y 12g. y cyfeiriodd
y bardd yn llau. 158–61 (gw. n104(e)), yna gall mai at ymweliad cyfoes arall y cyfeirir yma (er bod tinc chwedlonol i’r cyfuniad brenin dwyrain yn ll. 162). Dilynir GLlF 472 wrth ddehongli A phryd a gweryd yn ddisgrifiad o harddwch a daioni’r ferch, gyda’r gair gweryd ‘gwaredigaeth’ yn benodol yn awgrymu mai merch dduwiol ydoedd (gan mai ceisio gwaredigaeth a wnâi pererinion fel arfer, nid
ei chynnig). Ond mae’n bosibl hefyd mai ‘tywarchen’ yw ystyr gweryd yma: gw. n57(t).
58
ynni
LlGC 6680B
enni; J 111
ynni. Ar enni fel amrywiad, orgraffyddol yn ôl pob tebyg, ar ynni, cf. G 479 a hefyd GPC Ar Lein lle ceir enghraifft bellach o enni ymysg y cyfeiriadau. Ond am e = /ǝ/ yn LlGC 6680B, gw. n24(t).
A êl ym medrawd59
ym medrawd
LlGC 6680B
y medraỽd; J 111
ymbedraỽt, gydag orgraff y naill lawysgrif yn awgrymu bedrawd, a’r llall yn awgrymu beddrawd. Cofnodir y ddwy ffurf yn GPC Ar Lein d.g. beddrod. mynwent Ddewi107
mynwent Ddewi Mae’r cyd-destun yn awgrymu mai mynwent Llanddewibrefi sydd gan y bardd yn ei feddwl yma (cf. y cyfeiriad at Frefi yn ll. 162), ond gallai efallai gyfeirio’n gyffredinol at unrhyw fynwent a oedd yn gysylltiedig ag eglwys ar enw Dewi. Fodd bynnag, cofier mai i fynwent Mynyw, lle claddwyd Dewi ei hun yn ôl traddodiad, y priodolodd Iolo Goch y rhinwedd hon, DewiIG llau. 95–8 I bwll uffern ni fernir / Enaid dyn, yn anad tir, / A gladder, diofer yw, / Ym mynwent
Dewi Mynyw; cf. yr hyn a ddywedir yn y fuchedd am fynwent Dewi yng Nglyn Rhosyn, BDe 7.2–3 a glader y mynwent y lle hwnnw heuyt, nyt a neb y uffern. Sylwer nad dweud a wneir yn y ffynonellau hyn fod y sawl a gleddir ym mynwent Dewi yn mynd yn syth i’r nefoedd, ond yn hytrach ei fod yn osgoi cael ei anfon i uffern. Nid rhinwedd yn perthyn i fynwentoedd
Dewi yn unig oedd hon (cf. TWS 47), oherwydd credid yn gyffredinol yn yr Oesoedd Canol bod claddedigaeth ar dir cysegredig eglwys yn llesol i’r enaid, un
ai drwy bod nawddsant yr eglwys honno’n eiriol ar ran yr enaid gerbron Duw ar Ddydd y Farn, neu ynteu bod gweddïau’r eglwyswyr yn hyrwyddo’i ffordd i’r nefoedd (Burton and Kerr 2011: 163–5). Diddorol yw’r cyfeiriad canlynol yn Parochialia
Edward Lhuyd at natur warchodol llain bychan o dir cysylltiedig ag enw Dewi ym mynwent eglwys San Mihangel yng Nghaerwys, sir Ddinbych: Mae Troeedvedh o dîr yn y Vynwent o [sic] elwir tir Dewi; am hynny ni dhaw byth gornwyd ir dre ymma, gw. Paroch i, 67.
60
mynwent Ddewi Cymerir bod yma dreiglad meddal i’r enw priod Dewiyn dilyn yr enw benywaidd mynwent, cf. DewiIG ll. 98 Ym mynwent Ddewi Mynyw. Diwedderir yn mynwent Dewi yn GLlF 452, o bosibl oherwydd tybio bod calediad dd > d yn dilyn y -t derfynol yn mynwent.
Nid â yn uffern, bengwern boeni.
A Pheulin a pheunydd61
A Pheulin a pheunydd … Rhyfedd braidd yw ailadrodd y cysylltair yma, ac anodd gweld ei union rym o flaen peunydd, ac eithrio i ysbarduno treiglad llaes ar gyfer y gyfatebiaeth gytseiniol. y’i gorelwi62
gorelwi Ffurf trydydd unigol amherffaith mynegol goralw. Mae J 111
yggorweli fel petai’n awgrymu’r arddodiad yg (‘yng’) ac enw, o bosibl gweli ‘clwyf’, &c. Ond mae’r gystrawen yn gofyn am ferf.
I geisiaw diffryd ŷd ei erwi;63
ŷd ei erwi
LlGC 6680B
yd eerwi; J 111
ydeerỽi. Os cywir y dehongliad, ŷd ei erwi, yna sylwer bod e yn cynrychioli’r rhagenw blaen ‘ei’ yn y ddwy lawysgrif, lle disgwylid y yn ôl orgraff arferol y ddau ysgrifydd. Tybed ai nodwedd ar y gynsail oedd e am ‘ei’?
170Ni allwys gwerin gwared iddi108
iddi Cyfeirir at yr enw benywaid gwerin. Yn GLlF 459 cymerir mai at ‘tiriogaeth Peulin’ y cyfeirir, ond nid oes enw benywaidd sy’n cyfleu hynny yn y testun.
Hyd ban y’i gwarawd109
y’i gwarawd Cyfeiria’r rhagenw mewnol at yr enw benywaidd unigol gwerin yn y llinell flaenorol (er ei aralleirio yma fel petai’n lluosog, ‘daeth … â gwaredigaeth iddynt’). gwirion Ddewi:
A’r adar anwar110 Ceir yn llau. 168–75 hanes am Ddewi yn ymateb i gais Peulin am gymorth i atal adar gwyllt rhag difetha’r ŷd ar ei dir, drwy eu casglu ynghyd mewn un ysgubor fawr. Ni cheir dim i gyfateb
i hyn yn fersiynau rhyddiaith ei fuchedd. Fodd bynnag, cyfeiria’r beirdd at y wyrth hon yng nghyswllt Dewi: DewiLGC1 llau. 19–20 Ac o’r ŷd gyrru adar / Yn wâr i brennau irion; DewiLGC2 llau. 15–16 O’r ŷd y troist yr adar / I dŷ’r nos yn daran wâr; DewiIG llau. 85–6 Yr adar gwyllt o’r hedeg / A yrrai i’r tai, fy iôr teg; ac mae’n debygol mai dyma’r wyrth a oedd gan Risiart ap Rhys yntau yn ei feddwl, DewiRhRh llau. 9–10 Ceirw a’r adar, o’u cerrynt, / Di-led, gwâr, y’u delid gynt. Ceir hanes gwyrth debyg ym muchedd Illtud, pan gaethiwodd Samson yr adar a oedd yn dwyn ŷd Illtud mewn ysgubor, gw. VSB 212–15 (§14); ac ym muchedd Paul Aurelian, gyrrir yr adar ymaith o’r ŷd ac i mewn i ysgubor fel pe baent yn ddefaid yn cael eu gyrru i mewn i gorlan, gw. Doble 1960: 14.
64
anwar Ni cheir y gair hwn yn y llawysgrifau; fe’i hadferir, gan ddilyn HG Cref 195 a GLlF 473, er mwyn hyd y ll. ac er mwyn y gynghanedd. Cf. y cyfeiriadau yng ngherddi’r beirdd diweddarach at adar gwyllt ac at Ddewi yn gyrru’r adar yn wâr; gw. ymhellach n110(e). a’i harhöi,65
harhöi Ffurf trydydd unigol amherffaith mynegol aros gyda’r terfyniad -i (GMW 121); mae’r ffurf harhoei
J 111 yn difetha’r brifodl -i. Sylwer mai fel berf anghyflawn y’i defnyddir yma ac yn ll. 174.
Nid arhöynt wy neb namwyn Dewi;
Ac ef a’u dyddug oll heb eu colli
175Yn un ysgubawr fawr a’r llawr llenwi.111
llawr llenwi Deellir llenwi yn ferfenw yma, ac er disgwyl iddo dreiglo o’i ragflaenu gan ei ‘wrthrych’, cedwir y gysefin ll- yn dilyn –r, gw. TC 27–9. Gellid hefyd gymryd llenwi yn ffurf trydydd unigol amherffaith (am y terfyniad i, gw. GMW 121 a cf. ll. 168 gorelwi) a deall llawr llenwi yn enghraifft o hen gystrawen, lle gosodid y gwrthrych yn syth o flaen berf bersonol, heb na rhagenw perthynol na threiglad,
gw. TC 368; Lewis 1928–9: 149–52; a cf. GMB 10.30 Callonn klywaf yn llosgi.
Pan ddêl rhyfel a rhwysg Ffichti112
Ffichti Y Pictiaid, a adwaenid weithiau fel y Gwyddyl Ffichti(aid), gw. G 505 a GPC Ar Lein; hwy, yn ôl y Trioedd, oedd yr ail Gormes a doeth y’r Enys Hon, TYP 90, 93. Disgrifir Boia (heb ei enwi) ym Muchedd Teilo fel tywysog o blith y Pictiaid, a ddisgrifir fel pobl ystrywgar wedi eu hyfforddi i ymladd ar fôr ac ar dir: gw. Rees 1840: 335 ‘a certain people, of Scythia, who … were called Picts, came in a very large fleet to Britain … the Picts were crafty, and trained in many engagements by sea and land’, ac ymhellach
ibid. 336. Mae’n bosibl, felly, mai at wŷr Boia y cyfeiria Gwynfardd Brycheiniog yma. Ymddengys fod Ffichti wedi magu’r ystyr mwy cyffredinol o fôr-ladron yn gynnar: cf. Gruffydd 2002: 24 ‘Efallai fod yr enw Ffichti gyda threigl amser yn cael ei ddefnyddio ar gyfer unrhyw fath o fôr-leidr’; gw. ymhellach
LPBT 70 a cf. GIG XI.31–2 O daw dan llaw llu Ffichtiaid / O’r môr hwnt …, XVII.57–8. Mae’n ddigon posibl, felly, mai at ymosodiad cyffredinol o’r môr y cyfeiria Gwynfardd Brycheiniog yma.
Ros113
Rhos Cantref i’r de o Bebidiog (WATU 188) a oedd yn arbennig o agored i ymosodiadau o’r môr.
66
Ros Mae’r cyrchfan Ros yn cael ei fynegi fel gwrthrych uniongyrchol i’r ferf dêl (ll. 176) yn hytrach nag o dan reolaeth arddodiad, ac mae’n debygol ei fod wedi ei dreiglo yma (gw. TC 227–8), ond nid yw orgraff y llawysgrifau yn gwahaniaethu rhwng r- ac rh . elfydd, pob celfydd geilw Dewi!
A gwyrthau a orug gwerthfawr67
gwerthfawr Dyma ddarlleniad LlGC 6680B a J 111 ac fe’i deellir yn yr ystyr ‘buddiol; llwyddiannus’, gw. GPC Ar Lein. Ond mae’n bosibl, fel yr awgrymir yn G 671, mai ffurf ar gwyrthfawr ‘grymus, galluog, rhinweddol; graslon, bendithiol’ sydd yma (gw. ibid. 750); derbyniwyd yr awgrym hwnnw yn GLlF 26.178 lle diwygiwyd y testun.
Ddewi,
Bu obaith canwaith cyn no’i eni.
180Danfoned iddaw, diddan berchi,68
diddan berchi
LlGC 6680B
ditan perchi; J 111
didanberchi. Yn GLlF 26.180 derbynnir darlleniad LlGC 6680B a’i ddehongli, ibid. 460, yn ymadrodd enwol ‘hyfryd yw trysori’, er treiglo’r ail
elfen yn y testun orgraff ddiweddar, ibid. 452. Gan mor gyffredin yw cyfuniadau yn cynnwys enw + berfenw yn y canu (gyda’r
enw yn wrthrych effeithiol y berfenw, a’r berfenw felly’n treiglo), cymerir mai dyna’r gystrawen yma: yn llythrennol ‘anrhydeddu
hapusrwydd’. Ar diddan fel enw, gw. GPC Ar Lein d.g. Am enghreifftiau pellach o beidio â dangos ffurf dreigledig y cytseiniaid di-lais yn y llawysgrifau, gw., e.e., n11(t), n51(t), n71(t), n94(t).
O nef deg addef, addfwyn69
addfwyn
LlGC 6680B
adfwyn; J 111
adỽyn. Dichon mai cynrychioli ‘addwyn’, ffurf amrywiol o bosibl ar addfwyn, a wna darlleniad J 111 (gw. GPC Ar Lein d.g. addwyn1). westi,
Allawr deg114
allawr deg Yn ôl buchedd Ladin Rhygyfarch, derbyniodd Dewi bedair rhodd gan badriarch o Jerwsalem pan oedd ar bererindod yno, sef allor, cloch, ffon fagl a thiwnig, gw. Sharpe and Davies 2007: 140, 141. Ond gan y byddent yn rhy drwm i Ddewi eu cludo yn ôl i Gymru, dywedodd y padriarch y byddai’n eu gyrru ato ar ôl iddo ddychwelyd gartref. Derbyniodd yr allor pan
oedd yn Llangyfelach: ibid. 120, 121 deinde monasterium in loco, qui dicitur
Langemelach, fundauit in regione
Guhir, in quo postea altare missum accepit ‘then he founded a monastery in the place called Llangyfelach, in the region of Gower, in which he later received the altar
sent to him’. Cyfeirir at cloch Ddewi yn ll. 184 (cf. n38(e) ar Bangu) ac at ei fagl aur ei phen yn ll. 186. Tybed ai’r tiwnig neu’r fantell a dderbyniodd gan y padriarch yw’r syndal dudded yn ll. 209? Ac ai hon yw’r llen bali (ll. 157) a wisgai pennaeth yr eglwys yn Llanddewibrefi yn oes Gwynfardd Brycheiniog? Gw. hefyd n39(e). ni aill dyn ddisgwyl erni:70
erni
LlGC 6680B
arnei; J 111
arnei, sy’n difetha’r brifodl, -i; cf. n65(t) ar harhöi. Dyma enghraifft arall lle yr oedd y gynsail yn wallus. Ar trydydd unigol benywaidd yr arddodiad ar, gw. Sims-Williams 2013: 7–11; o blaid y darlleniad erni, yn hytrach nag arni, gw. yn arbennig ibid. 7, ‘I do not know of any example of arni in a pre-1425 MS.’, dosbarthiad y ffurfiau, ibid. 11, a cf. GMB 33.13 erni.
Ychwaneg cyfoeth crefydd beri.71
beri
LlGC 6680B
peri; J 111
peri; os berfenw yw peri yma a bod crefydd yn wrthrych iddo, disgwylid i’r berfenw dreiglo, gw. Parry Owen 2003: 248 a cf. n68(t) ar diddan berchi; efallai nad oedd y treiglad wedi ei ddangos eto yn orgraff y gynsail. Posibilrwydd arall yw mai ffurf trydydd unigol amherffaith
yw peri, yma’n cael ei rhagflaenu’n uniongyrchol gan ei gwrthrych: crefydd peri ‘cymhellai ddefosiwn’. Ar y gystrawen gwrthrych + berf bersonol, heb dreiglad a heb ragenw perthynol, gw. GMW 181.
Credwch a glywwch,72
glywwch
LlGC 6680B
glywch; J 111
glywych. Dilynnir LlGC 6680B ond gan gymryd mai glyw-wch yw’r ynganiad; cf. G 151; er bod chwe sillaf weithiau yn hanner cyntaf llinellau cyhydedd nawban Gwynfardd Brycheiniog, eithriadol fyddai pedair. cedwch gloch Ddewi115
cloch Ddewi Un arall o’r pedair rhodd a dderbyniodd Dewi gan y padriarch o Jerwsalem, gw. ll. n114(e). Ai Bangu yw hon, y gloch a roddodd Dewi yn rhodd i’w eglwys yng Nglasgwm, gw. n38(e)?
73
cedwch gloch
Ddewi
LlGC 6680B
kedỽch dewi; J 111
kedỽch dewi. Ychwanegir cloch yma er mwyn yr ystyr gan ddilyn awgrym GLlF 473; gw. n115(e). Soniwyd am yr allor yn ll. 182 a’r ffon ffagl yn llau. 186–7: gw. n114(e) am y rhoddion a dderbyniodd Dewi gan y padriarch o Jerwsalem. O dderbyn y cwpled fel y’i ceir yn y llsgr., rhaid ei ddeall yn doddaid, gyda’r ail linell yn
fyr o sillaf: Credwch a glywch, cedwch Dewi – yn eich llaw / A llu y byd i gyd â chwi (GLlF 460 ‘Credwch yr hyn a glywch, cedwch Ddewi yn eich gwarchodaeth / A holl bobl y byd gyda chwi’).
185Yn eich llaw a llu y byd i gyd â chwi;
A’r fagl aur ei phen, fföwch rhegddi74
rhegddi
LlGC 6680B
recddi (a’r dd am ‘dd’ yn annisgwyl yn orgraff safonol yr ysgrifydd); J 111
racdi. Y ffurf gydag affeithiad-i a ddisgwylid yma, cf. Sims-Williams 2013: 45, ac anodd gwybod ai amwyriad neu gwall yw J 111
racdi ‘rhagddi’ (cf. ibid. 7 ar erni /
arni).
Fal rhag tân, tost yd wân, tyst Duw iddi;
A’i fraich fraisg116
braich fraisg Yn GLlF 474 fe’i cysylltir â Chapel y Gwrhyd ger Tyddewi, gan awgrymu y gall fod traddodiad ‘ynglŷn â grym a maint breichiau Dewi’ (gw. GPC Ar Lein d.g. gwryd1, gwrhyd ‘yr hyd rhwng eithafion y ddwyfraich ar led’, &c.). Wrth gwrs, mae’n ddigon posibl mai enw topograffyddol pur oedd gwrhyd yn wreiddiol, ac mai yn ddiweddarach y cysylltwyd ef a hanesion am y sant. [ ]
A’i fryn gwyn uchaf uchel beri;75
LlGC 6680B
Ae ureich ureisc ae urynn gwyn uchaf peri uchel peri (gyda llinell goch drwy peri a phwyntiau dileu o dan y llythrennau); J 111
arureich ureisc ae vrynn. gỽynn: uchaf uchel beri. Ffurf dreigledig y berfenw sydd ei hangen yma, yn ôl pob tebyg, cf. n71(t), ond fel y nodir yno, gellid dehongli peri yn ffurf trydydd unigol amherffaith. Mae’r llinell yn ddeuddeg sillaf yn y ddwy lawysgrif a dichon fod GLlF 26.188–9 yn gywir mai dwy linell sydd yma, yn enwedig gan ei bod hi’n amlwg fod llau. 184–7 yn perthyn i’w gilydd fel y gwna
llau. 190–5, ac y byddai’n anarferol cael llinell heb fod yn rhan o gwpled. Os gwall sydd yma, rhaid credu bod y gwall yn
y gynsail, oherwydd ymddengys na chredai’r naill ysgrifydd na’r llall fod a’i fryn gwyn i fod ar ddechrau’r llinell, oherwydd ni cheir atalnod o’i flaen fel sy’n arferol. Yn HG Cref 195 awgrymwyd dileu uchaf, gan roi llinell o gyhydedd nawban deg sillaf, sy’n ddigon arferol gan Wynfardd Brycheiniog. (Tybed a oedd ysgrifydd LlGC 6680B wedi bwriadu dileu uchaf a peri cyn cywiro’r darlleniad yn uchel peri?)
190A llech deg dros waneg a thros weilgi
A’i dyddug, dybu Duw wrth ei throsi;117 Mae llau. 190–1 fel petaent yn cyfeirio at draddodiad am Ddewi yn hwylio dros y môr ar lechen drwy gymorth Duw. Cyfeiriodd y bardd at yr un traddodiad, eto yng nghyswllt pererindod y sant, gw. n11(e).
Ac nad fo76
nad fo Disgwylid na fo, gan mai o flaen berf yn dechrau â llafariad y disgwylid nad, gw. GMW 173; ond gw. G 67 lle dyfynnir yr enghraifft hon a hefyd R 1056.27–8 nyt oes reith nat vo pennaeth breyenhin fel enghreifftiau dan nat vo. yn ei fro braint a theithi
Eithr tri mwg118
tri mwg Ni wyddys am gyfeiriad arall at dri mwg yn benodol yn hanes Dewi, a chan hynny awgrymwyd dileu’r tri yn HG Cref 195 gan fod y llinell yn rhy hir o sillaf; o ddiwygio byddai’r llinell yn ymrannu’n rheolaidd yn 5:4 sillaf. Ond gan fod
nifer fawr o linellau’r gerdd yn afreolaidd o ran eu hyd, derbynnir y darlleniad fel y saif. Dichon mai cyfeirio a wneir at
hanes y mwg yn y fuchedd. Daethai Dewi a’i ddisgyblion i Lyn Rhosyn a chynnau tân yno: BDe 7.8–10 A phan gynneuassant wy dan yno y bore glas, y kyuodes mwc ac y kylchynawd y mwc hwnnw yr ynys honn oll, a llawer o
Iwerdon. Achosodd yr olygfa hon dristwch mawr i’r arglwydd lleol, Boia, a esboniodd wrth ei wraig: Y gwr … a gynneuawd y tan hwnnw, y vedyant ef a gerda fford y kerdawd y mwc, ibid. 7.18–19. Arwydd o feddiant ac awdurdod, felly, oedd y mwg, fel yr esbonnir yn GLlF 474. Ceir yr un thema ym muchedd Padrig yn Iwerddon, gw. TWS 47–8; Sharpe and Davies 2007: 121n51. Gellir cymharu hyn ag arferion dadannudd yn y Cyfreithiau, a oedd yn symbol o barhad etifeddiaeth, gw. Charles-Edwards 1968–70: 212–13. yn amlwg o’i amlenwi.
A fyn Duw,119
a fyn Duw Cyfeirir at y person sy’n chwennych Duw, ac yn dod i’w adnabod drwy Ddewi. Duw felly yw gwrthrych y ferf. dybydd byth wy foli;
195A fynno nodded, cyrched Dewi!
VII
Duw a folaf! Er eirioled – ym,
Can ni allaf-i ddim heb Dduw Trined,
Dewi yn eang, yn rhan120
rhan Dyfynnir y llinell hon yn GPC Ar Lein d.g. rhan (f) lle rhoddir yn betrus yr ystyr ‘rhannwr’. rhwyddged,
Ac yn yng diedding77
diedding
LlGC 6680B
dietig; J 111
diedig; gydag orgraff LlGC 6680B yn bleidiol dros ‘dd’ ar ganol y gair. Yn GPC Ar Lein rhestrir yr enghraifft hon dan diedyng ‘?Ystyfnig, di-droi’n-ôl; ffyddlon, cywir; caled, creulon’ a’i hesbonio’n gyfuniad o’r rhagddodiad negyddol di- ac elfen edyng, sydd, mae’n debyg, yn cynnwys bôn y ferf gadu; cf. yr awgrym yn CA 252 (wrth drafod ll. 173 yno a’r cyfuniad brwydyr dieding yn GCBM i, 24.156n): ‘Gellir deall yr olaf fel rhai na fynnent adael brwydr, ystyfnig, didroi’n ôl.’ Fodd bynnag, os yw’r dd yn ffurf Gwynfardd Brycheiniog yn ddiogel, collir y cysylltiad â’r ferf gadu. Tybed ai cyfuniad (ansoddeiriol neu enwol) ydyw yn cynnwys y gair dyedd ‘rhyfel, cythrwfl’, &c. + yng ‘cyfyngder, cyfyng’, &c.? Fel y nodir yn GPC Ar Lein d.g. ing, tuedda y glir droi yn i o flaen ng neu g, ac mae’n bosibl felly y cafwyd y..i > i..i yma drwy gymathiad. Yn G 333 rhestrir diedding yn amrywiad ar dieding, ond tybed a oes dau air yma mewn gwirionedd: y naill yn darddair o di-ad(u) a’r llall o dyedd? Yr un yn ymarferol fyddai’r ystyr wrth ddisgrifio’r milwr ystyfnig a chreulon.
Dewi wared:
200Dewi mawr ar y môr, mynych nodded,
Rhy’i gelwir ar y tir rhag dywrthred.
A gwestfa121
gwestfa Ar ei ystyr gyfreithiol, sef treth a delid i frenin gan wŷr rhydd, gw. GPC Ar Lein d.g. gwestfa (b); ond fel y nodir yn GLlF 474, dichon mai’r ystyr yma yw ‘erfyniad am dâl i Ddewi neu yn hytrach i’w gymuned’ gan y gwestai, o bosibl Gwynfardd Bycheiniog ei hun, neu ynteu’r Arglwydd Rhys. i Ddewi78
A gwestfa i Ddewi
LlGC 6680B
A gỽestua y dewi; J 111
a gỽesti ydei. A oedd y darlleniad yn aneglur yng nghynsail J 111? gwestai rhodded,
Ar bob sant gormant, geugant goned;
A Dewi a’u treiddiwys tros dydwed79
tros dydwed
LlGC 6680B
tros tydwed; J 111
tros dydwet. Dichon fod darlleniad LlGC 6680B yn ffrwyth calediad d > t yn dilyn –s, neu efallai bod yma enghraifft arall o beidio â dangos treiglad meddal i gytsain dilais yn yr orgraff, gw., e.e., n11(t), n51(t), &c. – elfydd,
205Ar saint sywedydd, dedwydd dynged.
Ac i Fynyw ethwyf eithaf Dyfed,
A theÿrnedd ethynt â theÿrnged
Ar fab Non haelfron, hawdd ogoned,
Ar Ddewi fab Sant, syndal122
syndal Defnydd yn arwyddo statws uchel y sawl a’i gwisgai: GPC Ar Lein ‘math o liain main sidanaidd’, cf. OED s.v. sendal ‘a thin rich silken material’. A ellir cysylltu’r wisg hon â’r tiwnig a dderbyniodd Dewi yn rhodd gan y padriarch o Jerwsalem? Gw. n114(e). dudded:
210Dewi mawr Mynyw, mad y’i gweled,
Pen argynnan bedydd, crefydd a chred.123 Cf. ll. 111 Pen argynnan coned cred a bedydd.
VIII
Ni chronnes, rhoddes rhadau80
rhadau Cf. LlGC 6680B
radeu; gallai J 111
radeu gyfleu ‘rhadau’ neu ‘raddau’, sef ffurf dreigledig graddeu. Mae’r ystyr yn bleidiol dros ffurf luosog rhad ‘rhodd’. – wallofiad
Ruddaur a dillad, fad ferthidau;
Ni cheffid gan naf nâg o’i enau,
215Ni chaffad gwrtheb namwyn gwyrthau:124 Ai Dewi oedd y rhoddwr yn llau. 212–13, yn yr ystyr bod y rhoddion wedi eu cyflwyno yn enw Dewi, boed yn Llanddewibrefi neu ym Mynyw?
Gwrthebed125
gwrthebed Ffurf trydydd unigol gorchmynnol gwrthebu ‘ateb’; gthg. ll. 215 gwrtheb ‘ateb negyddol, gwrthodiad’.
81
Gwrthebed
LlGC 6680B
Gỽerthebed; J 111
Gỽrthebet. Dilynir J 111 – cf. G 715 a GLlF 26.216. hyged ei hyglau126
hyglau Wrth ddisgrifio bardd (sef Gwynfardd Brycheiniog ei hun yma), byddai ‘uchel, hyglyw, … clir, eglur’ neu ‘hysbys, enwog’ yn ystyron addas, gw. GPC Ar Lein. – gerddawr,
Gwyrthfawr82
Gwyrthfawr
LlGC 6680B
gwythuaỽr; J 111
gwyrthuaỽr. Derbynnir darlleniad J 111, cf. y cyfeiriad at gwyrthau yn ll. 215. Mae gwythfawr ‘mawr ei lid’ (< gŵyth ‘llid’ + mawr) yn bosibl, er nas rhestrir yn GPC Ar Lein, ond nid yw cystal o ran ystyr yma. briodawr,127
gwyrthfawr briodawr Disgrifiad o Ddewi, mae’n debyg, neu efallai’r pennaeth eglwysig yn Llanddewibrefi neu Fynyw (cyfeirir at Fynyw yn ll. 220) neu bennaeth secwlar,
megis yr Arglwydd Rhys. briawd ddeddfau.83
ddeddfau
LlGC 6680B
defeu; J 111
dedueu. Un o’r achosion prin lle ceir gwall yn LlGC 6680B a’r darlleniad cywir yn J 111.
O’r daw llynges drom, drwm ei geiriau,
I geisiaw cymraw, cymryd preiddiau,
220Rhwng Mynyw a’r môr, mawr a droau84 Mae’r atalnodi yn J 111 yn awgrymu dehongli hon yn llinell gyntaf toddaid: Rhwng Mynyw a’r môr mawr o droau – a fydd (ac o blaid hynny byddai’r patrwm toddaid + cyhydedd naw ban a geir yn llau. 211–18; eithr ni chynhelir y patrwm hwnnw am
weddill y caniad). O dderbyn hyn ni cheir cyfatebiaeth rhwng y gair cyrch a dechrau’r llinell nesaf, ac mae’n debygol mai
dyna pam yr ychwanegodd ysgrifydd J 111
d at llywy y ll. ganlynol (a fydd … llywydd). Fodd bynnag, drwy ruddellu a phriflythrennu’r A (A uyt), mae ysgrifydd LlGC 6680B yn amlwg yn cymryd mai ar ddechrau ll. y daw’r A (ceir ganddo ragor o enghreifftiau o ruddellu llythyren gyntaf ail linell toddaid yn llau. 50, 68, 109, 137, &c.; ond sylwer
iddo ruddellu llythyren gyntaf y gair cyrch yn ll. 116, oherwydd iddo gamdehongli’r cwpled yno, yn ôl pob tebyg, fel cyhydedd
nawban yn lle toddaid).
A fydd ar eu85
ar eu
LlGC 6680B
ary eu; J 111
ar yeu. Tybed a ysgrifennodd ysgrifydd y gynsail y am y rhagenw blaen trydydd lluosog (gan ddilyn arfer ei gynsail yntau o bosibl, gw. n48(t), n90(t)), cyn ei gywiro’n eu gan anghofio dileu’r y?
llu wy lliw dydd golau:
Collant86
Collant
LlGC 6680B
collat (a anghofiodd yr ysgrifydd roi nod talfyriad trwynol ar yr a?); J 111
Collant. a’r llygaid a’r eneidiau,
Ni welant na lliant nac eu llongau
A chyngor a wnânt â chenadau
225I hebrwng iddaw ebrwydd drethau:
Trydypla Wyddyl,128
trydypla Wyddyl Cymerir mai’r ymosodwyr o’r môr neu’r môr-ladron a ddisgrifiwyd yn llau. 218–25 yw’r trydydd pla hwn. Cf. n112(e) ar Ffichti (ffurf amrywiol ar Wyddyl Ffichti). Daeth y rhain â trydybudd ‘un o dri budd’ (ll. 227) i Fynyw oherwydd bu’n rhaid iddynt dalu treth i’r sant er mwyn iddo adfer eu golwg. Mae’r bardd
yn cyfeirio at yr ymosodiad hwn gan mwyaf yn y presennol / dyfodol, a’r tebyg yw mai’r ergyd yw os daw ymosodiad eto, fel
yr un (neu’r tri) a fu yn y gorffennol, yna bydd yn sicr o fethu a bydd y tywysog (boed y sant, pennaeth yr eglwys neu’r arglwydd
secwlar) yn elwa unwaith eto. aflwydd diau,
Trydybudd Mynyw,129
Trydypla Wyddyl … / Trydybudd Mynyw Ar trydy-, ffurf arbennig ar y rhifol trydydd mewn cyfuniadau, gw. GPC Ar Lein a GMW 48. O ran ei ystyr, gallai olygu ‘un rhan o dri’ yn ogystal ag ‘olaf mewn cyfres o dri’: mae’n debygol mai’r ail ystyr sy’n
berthnasol yma. Mae’r treiglad meddal yn dilyn Trydypla (yn wahanol i Trydybudd) gan fod iddo rym ansoddeiriol, yn goleddfu Wyddyl. mynawg biau!
Peusydwys,130
peusydwys Berf trydydd unigol gorffennol sydd yma; am y terfyniad, gw. GMW 123. Ni chynhwysir y ferf yn GPC Ar Lein, ond ceir yno’r enw peusyd, peusydd, peusyth gydag enghreifftiau o’r 16g. ymlaen: ‘darn o haearn ar lun croes wedi ei osod yn wyneb isaf yr uchaf o’r ddau faen melin
i gynnal hwnnw ar y werthyd sy’n ei droi; uniad cynffonnog, tryfaliad, cynffon y golomen; cramp, gafaelfach, craff’. Dilynir
awgrym GLlF 461, 475 a’i ddeall yn gyfeiriad at y weithred o adeiladu, hynny yw, drwy gysylltu prennau â’i gilydd. Mae’n aneglur ai Boia neu Ddewi yw goddrych y ferf yma. Efallai bod yr hanesyn canlynol o fuchedd Teilo yn awgrymu mai Boia ydyw:ar ôl disgrifio’r Pictiaid yn ymosod o’r môr (cf. n112(e), n128(e)), meddir, ‘And when a certain prince of that impious nation had arrived from the seaport, and by murdering the unfortunate
inhabitants, and burning the houses and churches of the saints, proceeded as far as the city of St. David’s; he here stopped,
and built himself a palace’, Rees 1840: 336. Dilynir hyn gan esbonio sut y ceisiodd Boia (heb ei enwi) gael ei feistres tŷ i yrru ei morynion i godi cywilydd ar Ddewi a’i ddisgyblion, sef yr hanes a geir nesaf yn y gerdd hon, yn llau. 230–35. trefnwys diffwys drefnau131
trefnau Lluosog trefn, e ac iddo ystod ehangach o ystyron mewn Cymraeg Canol, e.e. GPC Ar Lein ‘ystafell, siambr, cell, adeilad, tŷ, cartref; (yn y ll.) offer, celfi, dodrefn’. Ar ei ystyr yma, gw. y nodyn blaenorol
ar peusydwys.
Yn amgant Hoddnant132
Hoddnant Enw cyffredin ar nant yng Nghymru (cf. EANC 151–2): < hawdd (‘rhwydd, dymunol’) + nant (‘dyffryn’ yn ogystal â’r dŵr a lifai drwy’r dyffryn, cf. GPC Ar Lein d.g. nant (a), (b)). Hoddnant, yn ôl Rhygyfarch, oedd ffurf y Cymry ar yr enw Vallis Rosina: Sharpe and Davies 2007: 120–1 Rosinam Vallem, quam uulgari nomine Hodnant Brittones uocitant ‘Vallis Rosina, which the Welsh are in the habit of calling by the common name of Hoddnant’, gw. hefyd BDe 42; WLSD 44–5. Cyfeirir hefyd at safle eglwys Dewi yn Nhyddewi fel Glynn Hodnantyn y fuchedd Gymraeg, gw. BDe 9.23–4. ormant, orau:
230O anfodd Boia,87
Boia
LlGC 6680B
boia; J 111
bora. Mae’n amlwg fod yr enw personol yn anghyfarwydd i ysgrifydd J 111. bu diamau,
Y doeth ef i Fynyw, syw synhwyrau.
Ceiswyd cythreulaeth gwaeth gweithredau,
Ni allwyd a fynnwyd, methlwyd wyntau:
Ellyngwys gwragedd eu gwregysau,133 Cyfetyb llau. 232–5 i hanes a geir yn y fuchedd am wraig Boia yn gorchymyn i’w llawforynion ddiosg eu dillad o flaen Dewi a’i ddisgyblion er mwyn codi cywilydd arnynt a’u gorfodi i adael y fan, fel bod ei gŵr yn gallu bod yn bennaeth: BDe 8.17–20 Ac yna y dywawt gwreic Boya wrth y llawvorynyon: ‘Ewch, ’ heb hi, ‘hyt yr auon yssyd geyr llaw y sant, a diosglwch awch dillat, ac yn noeth dywedwch wrthunt geireu anniweir kewilydyus’. Roedd y disgyblion yn awyddus iawn i ymadael, ond cyngor Dewi iddynt oedd i sefyll yn gadarn gan felly orfodi’r merched i adael (cf. ll. 233 methlwyd wyntau). Er mai gwraig Boia a oedd yn gyfrifol am orchymyn y merched yn ôl buchedd Dewi, Boia ei hun a barodd i’w wraig wneud hynny yn ôl buchedd Teilo, gw. Rees 1840: 336. Nid yw’r berfau amhersonol a geir yn y gerdd yn gymorth i benderfynu pa fersiwn o’r hanes a oedd yn hysbys i’r bardd.
235Rhai gweinion88
gweinion
LlGC 6680B
gỽeinyon; J 111
gỽynnyon. Dilynir LlGC 6680B a’i ddeall yn ffurf luosog gwan, yn gyfeiriad at wendid meddyliol y merched, yn hytrach na’u gwendid corfforol. Byddai ffurf luosog gwyn, fel a geir yn J 111, hefyd yn bosibl i ddisgrifio merched ifanc noeth. noethon89
noethon
LlGC 6680B nothon; J 111
noethon. Dichon mai gwallus yw’r ffurf yn LlGC 6680B oni bai bod yma enghraifft o gywasgu oe > o fel a geir heddiw yn rhai o dafodieithoedd y De. aethan’ faddau;134
aethan’ faddau Ar myned maddau ‘to be in vain, be lost, be forfeit’, gw. GPC Ar Lein d.g. maddeuaf:
maddau. Gan mai ar lan afon y gweithredodd y merched eu cynllun digywilydd, yn ôl y fuchedd (BDe 8.18 a gw. y nodyn blaenorol), nid amhosibl yw cynnig HG Cref 196 i ddeall faddau yn ffurf dreigledig baddau, lluosog badd ‘bath’, a’r cyfuniad yn golygu rhywbeth fel ‘aethant i ymdrochi’. Nid yw fersiynau Cymraeg a Lladin buchedd Dewi yn esbonio beth a ddigwyddodd i’r merched, ond ym muchedd Teilo dywedir eu bod wedi mynd yn wallgof (gw. y nodyn canlynol). Mae’n amlwg fod Gwynfardd Brycheiniog ac awdur buchedd Teilo yn gyfarwydd â fersiwn llawnach, ac ychydig yn wahanol, o’r stori na’r hyn a geir gan Rygyfarch a’r bucheddwr Cymraeg; neu, wrth gwrs, efallai fod Gwynfardd yma’n tynnu ar fuchedd Teilo.
Yng ngwerth eu gwrthwarae90
eu gwrthwarae Dilynir LlGC 6680B
eu gỽrth warae; J 111
yggỽrthwareu. Tybed ai y oedd ffurf y rhagenw blaen trydydd lluosog yn y gynsail (cf. n85(t)) a bod J 111 wedi ei gamddehongli fel yr arddodiad y(ng). O ran y gynghanedd dichon mai ffurf i ateb gwyrth sydd ei angen. gwyrth a orau,
Cerddasant gan wynt ar hynt angau.135
Cerddasant gan wynt ar hynt angau Ni ddywedir beth a ddigwyddodd i’r merched yn fersiynau Cymraeg a Lladin buchedd Dewi, ond ym muchedd Teilo dywedir eu bod wedi mynd yn wallgof: ‘Who, whilst they executed the orders of their mistress, and counterfeited madness,
became really mad, as it is said, “He that acts in a filthy manner, deserves to become more filthy”’, Rees 1840: 336. Ai dyma, tybed, a gyfleir yn y gerdd gan cerddasant gan wynt?
Edewis Padrig drwy ddig ddagrau136
Edewis Padrig drwy ddig ddagrau Ar orchymyn angel bu’n rhaid i Badrig adael Cymru am Iwerddon, ddeg mlynedd ar hugain cyn geni Dewi; gw. BDe 2. Deellir edewis yma’n ferf gyflawn, ‘ymadawodd’; gthg. HG Cref 196 sy’n ei deall yn ferf anghyflawn, gyda llonaid Llech Llafar, ll. 239, yn wrthrych. Dilynir GLlF 461 ac Owen 1991–2: 77 gan ddeall llonaid Llech Llafar yn ddisgrifiad o swm y dagrau mawr a wylodd Padrig. Dywedir yn syml yn y fuchedd Gymraeg fod Padrig wedi llidiaw ar ôl clywed gorchymyn yr angel i adael, BDe 2.4; rhoddir mwy o sylw i deimladau chwerw Padrig ym muchedd Ladin Rhygyfarch, gw. Sharpe and Davies 2007: 110–14, er na sonnir yn benodol am ddagrau yno.
Llonaid Llech Llafar137
Llech Llafar Carreg sylweddol a weithredai fel pont dros afon
Alun yn Nhyddewi, fel yr esbonia Gerallt Gymro, Jones 1938: 110, ‘[c]arreg a orweddai, gan wasanaethu fel pont, ar draws afon Alun, sy’n gwahanu’r fynwent oddi wrth ran ogleddol yr
eglwys, trwy lifo rhyngddynt. Llech bryderth o farmor ydoedd, wedi ei llyfnhau ar du ei hwyneb gan draed y fforddolion, yn
ymestyn yn ddeg troedfedd o hyd ac yn chwech o led, a chyda thrwch o un droedfedd. Ystyr Llech Lafar yn Gymraeg yw “Carreg
Siaradus.”’ Mae’n amlwg fod chwedloniaeth wedi tyfu ynglŷn â gallu’r garreg hon i broffwydo, gw. ibid. Deellir llonaid yma’n ddisgrifiad o’r dagrau niferus, ond gall mai’r ystyr yw fod ymadawiad Padrig wedi gwireddu (cyflenwi) darogan yn ymwneud â’r Llech Llafar.
91
Llech Llafar Gan mai eb. yn unig yw llech, yn ôl y dystiolaeth, disgwylid i’r ansoddair llafar dreiglo, cf. llech lafar (lefair) ‘echo, echo stone, sounding or speaking stone’, gw. GPC Ar Lein d.g. llech1. Ond dilynir yma ddarlleniad y ddwy lsgr. (sy’n cryfhau’r gytseinedd yn y ll.) gan gymryd bod ll yma’n gwrthsefyll treiglad ar ôl –ch. hygar hyglau,
240Pan aeth Iwerddon, 92
aeth Iwerddon
LlGC 6680B
aeth ywerton; J 111
aeth y Iwerdon. Dilynir LlGC 6680B sy’n rhoi’r nawsill disgwyliedig, a’r cyrchfan Iwerddon, yn cael ei gyflwyno heb arddodiad ar ôl ffurf ar myned, gw. TC 227. Wrth gwrs mae’n bosibl fod yr arddodiad i wedi ei gywasgu yn yr enw lle, fel yr awgrymir gan ddarlleniad J 111. ei wyrth yntau,
Ag eingl rhagddaw, draw dra thonnau.138
eingl Yn betrus dilynir GLlF a HG Cref 51 a’i ddeall yn ffurf luosog angel, er na nodir y ffurf luosog honno yn GPC Ar Lein d.g. angel. Awgrymwyd yn G 456 mai cyfeirio a wneir yma at Saeson (Eingl); er bod hynny’n bosibl, haws yw credu mai angylion a arweiniodd y ffordd i Badrig dros y môr i Iwerddon.
A Duw a’i mynnwys Mynyw i Ddewi
Cyn geni ein rhi i enrhyfeddau;93
ein rhi i enrhyfeddau
LlGC 6680B
yn ri y en ryueteu; J 111
yn ri enryuedeu. Ni nodir darlleniad LlGC 6680B yn GLlF 242 a dilynir yno J 111 gan aralleirio ‘ein brenin rhyfeddodau’. Dilynir LlGC 6680B a chan fod hyd y llinell yn hir o sillaf
fel y saif, gellid cywasgu rhi i yn unsill.
Pan bregethwys hael bregeth94
bregethwys … bregeth
LlGC 6680B
peregethwys … pregeth; J 111
bregethỽys … bregeth. Gan fod pan yn cael ei ddilyn yn rheolaidd gan dreiglad meddal, oni bai bod calediad cystseiniol, gw. TC 161, dilynir yma ddarlleniad J 111. orau
245Fal corn yd glywid, gloyw ei eiriau.139
Fal corn yd glywid, gloyw ei eiriau Cf. GLlF 476 lle nodir mai cyfeirio a wneir yn y cwpled hwn at Gildas (sef hael, ll. 244) a ddisgrifir gan Rygyfarch yn pregethu yn uchel fel utgorn cyn geni Dewi: cf. Sharpe and Davies 2007: 114–15 et predicauit
Gildas quasi de buccina clare ‘and Gildas preached loud and clear as a trumpet’.
IX
Cyn syrthai frwynen140
brwynen Ni wyddys at beth yn union y cyfeirir yn llau. 246–9 a beth yw arwyddocâd y frwynen. A oedd traddodiad fod brwynen wedi disgyn
o’r nefoedd i ddynodi tiriogaeth y sant (ar frynnau) a’r sawl a ddewiswyd gan Dduw yn sant (dyn urddawl, ll. 249)? Neu ai disgrifiad o noddfa Dewi yw frynnau – o nef, y gellid ei aralleirio fel ‘bryniau nefolaidd’? Gellid rhannu nefoedd y llinell ganlynol yn nef oedd, a deall y llinell honno yn ddisgrifiad o’r noddfa fel man diogel i finteioedd rhag eu trallodion. Delweddu rhywbeth diwerth
a wnâi’r frwynen fel arfer yn y farddoniaeth (cf. GMRh 19.51–2 Cybydd ni rydd, yn ei raid, / Frwynen, er nef i’r enaid) neu rywbeth hawdd ei blygu (ac felly hawdd dylanwadu arno). ar frynnau – o nef,95 Dilynir yma LlGC 6680B a J 111 sy’n gosod ll. 245 fel agoriad caniad newydd, er bod y caniad ar yr un brifodl â’r caniad
blaenorol. Rhaid cydnabod y posibilrwydd mai fel un caniad y bwriadai’r bardd ganu llau. 212–71, ond eu bod wedi eu rhannu’n
wallus yn ddau ganiad yn y gynsail. (Ni chafwyd hyd i enghraifft arall o ddau ganiad ar yr un odl yn dilyn ei gilydd.) Gan
mai tenau iawn yw’r cymeriad rhwng y rhan fwyaf o’r caniadau, mae’n anodd defnyddio’r diffyg cyswllt rhwng llau. 245 a 246
fel sail dros eu gosod yn yr un caniad.
Nefoedd i gadau141
nefoedd i gadau Cyfeiriad at seintwar eglwys Dewi (?yn Llanddewibrefi) i filwyr. Fel y nodir yn y nodyn blaenorol, gellid rhannu nefoedd yma’n nef oedd. o’u hanoddau,
Ni syrthai i’r llawr, fawr filltirau,
Namyn ar ddyn urddawl urddhynt seiniau.
250A Dewi oedd bennaf o’r penaethau
A Duw yn gwybod ei ddefodau;
Ac Ef oedd uchaf er yn nechrau – byd
A hefyd cerddynt ynghyd96
ynghyd
LlGC 6680B
y gyd; J 111
ygyt. Anodd gwybod, ar sail yr orgraff, ai ynghyd neu i gyd a fwriadwyd; cf. G 105. â ninnau.
Dewi differwys ei eglwysau,
255Dichones rhag gormes gormant greiriau:
A ffynnon Ddewi a’i ffynhonnau – llawn,
Llawer un rhadlawn, ffrwythlawn ffrydau;
Ac ôl ei farch a’i ôl yntau,
Ys adwen y maen y maent ell dau.142 Cyfeirir yn llau. 258–9 at garreg y credid bod arni olion o’r sant a’i geffyl, a’r olion hyn, megis creiriau, yn meddu ar
y gallu i wrthdroi effaith drygioni. Cyfeirir yn TWS 72–3 at feini y credid bod olion Dewi ei hun arnynt, a nodir tair enghraifft o’r enw lle Olmarch yng nghyffiniau Llanddewibrefi yn GLlF 476. Cf. y cyfeiriad canlynol o’r 17g. at ôl pedol ceffyl Beuno ar garreg yng Ngwyddelwern: Paroch ii, 52: Ol pedol Keffyl veino ar Vaen Beino.
260Ysid hyn ar ei fryn gwyn, golau, – uchel,
Gan ochel drygoedd drygweithredau:
Mynogi a pherchi a pharch beincau
Yn eglwys, a chynnwys a chanhwyllau;
Ysid gyfeddach gan gyfeddau
265A charu Duw yn drech97
drech Gellid dehongli’r c yn LlGC 6680B fel t (dreth);nid oes amheuaeth nad drech a fwriadwyd, fel a geir yn J 111. no phenaethau!
Ysid gan unbyn unbarch dyniolaeth,
Ysid unbennaeth unbenesau;
98
unbennaeth unbenesau Cf. LlGC 6680B; gthg. J 111
unbennaeth.
yssit unbennesseu, gyda llinell ddileu o dan yssit yn llaw John Davies yn ôl pob tebyg. Byddai cynnwys yssit yn peri i’r llinell fod yn rhy hir o ddwy sillaf.
Ysid esgob llary uch allorau – Dewi,
Pym allawr Brefi,144
pym allawr Brefi Un ai pum allor yn eglwys Llanddewibrefi ei hun (ceid tair allor yn eglwys Tywyn, gw. CadfanLlF ll. 23) neu, yn fwy tebygol, gyfeiriad at y allorau yn y capeli cysylltiedig â phlwyf Llanddewibrefi. braint i’r seiniau.
270Ac i foli Dewi dothwyf i’r Dehau:145
dothwyf i’r Dehau Dilynir GLlF 476 a dehongli’r cwpled yn awgrym ‘bod Gwynfardd wedi dychwelyd i’r de ar ôl bod ar daith i’r gogledd’; cf. y cyfeiriad yn ll. 271 at Fôn.
Boed doeth Fôn a’m clyw a’m gwerendau!146
gwerendeu Ffurf trydydd unigol presennol mynegol gwarandaw, gw. GMW 116.
X
Y gŵr a folaf, gwir ogonedd,
Ni wnaeth na gwaeth147
gwaeth Ar ei ddefnydd fel enw ‘drwg, drygioni, niwed’, gw. GPC Ar Lein d.g. gwaeth. na gwythlonedd
Namyn o bell148
o bell Gallai pell gyfeirio at bellter daearyddol neu at feithder amser, gw. GPC Ar Lein lle rhoddir i’r cyfuniad o bell yr ystyron ‘from afar, from far away; far-off, far-away, distant; aloof, distant; ?by far; ?for a long time’. Byddai’r naill
ystyr neu’r llall yn addas yma. dygymell, gwell gwirionedd,
275A dygynnull saint yn ei senedd:
Saint Angaw a Llydaw, llu edrysedd,
Saint Lloegrwys ac Iwys149
Lloegrwys ac Iwys Trigolion Wessex yw Iwys, y Gewissae; fe’u gelwid hefyd yn Ddeheuwyr, cf. GPC Ar Lein d.g. Deheuwr (b). Enwir yr Iwys hefyd yn y gerdd ‘Armes Prydain’ (ArmP2 llau. 108, 181 hefyd tt. xv, 49–50). Am ddatblygiad yr enw, gw. Jenkins 1962–4: 1–10. Tybed ai cyfeirio at wŷr Mercia a wna Lloegrwys yma, yn hytrach nag at wŷr Lloegr yn gyffredinol? Tynnir sylw yn ArmP2 50 at linell mewn cerdd cynnar a gofnododd John Jones
Gellilyfdy yn Pen 111, lle cyfeirir at Eigil ywuys lloegrwuis keint (Williams 1927–9: 45): ‘ “Eingl, Iwys, Lloegrwys and Caint (men of Kent)” are named as though they represented sub-divisions of the English
nation. The other names are geographically identifiable, but what about the Lloegrwys? Were they not the inhabitans of Mercia?’. a saint y Gogledd,
Saint Manaw ac Anaw ac Ynysedd150
Anaw ac Ynysedd Dilynir yn betrus GLlF 477 a HG Cref 198 sy’n deall Anaw yn gyfeiriad at enw lle anhysbys ac Ynysedd yn gyfeiriad at Ynysoedd yr Hebrides.
A seiniau Powys, pobl enrhyfedd,
280Saint Iwerddon a Môn a saint Gwynedd,
Saint Dyfnaint a Chaint a chynaddledd,
Saint Brycheiniawg, bro hyẅredd,
A seiniau Maelenydd,151
Maelenydd Cantref Maelienydd, i’r gogledd o Elfael ac i’r de o Geri yn Rhwng Gwy a Hafren. Yr oedd Ystradenni (ll. 107 Ystrad Nynnid) ym Maelienydd. elfydd fannedd,
99 Ni cheir y llinell hon yn J 111, ond ceir arwydd mewnddodi yn llaw John Davies ar ôl iddo sylweddoli bod llinell yn eisiau ar ôl cymharu ei gopi ef o’r testun yn BL 14869 â thestun LlGC 6680B.
A seiniau present, worment tiredd,100 Tybed a oes llinell yn eisiau o flaen ll. 284, gan nad yw’r llinell hon yn rhan o gwpled? Mae’n cychwyn â chysylltair fel
y gwna llau. 279 a 283, sydd ill dwy yn ail linell mewn cwpled.
285Dybuant i gyd i un orsedd101
i un orsedd
LlGC 6680B
y un orsset; J 111
ynunorsed. Rhydd y ddau ddarlleniad ystyr ddigonol, ond dilynir LlGC 6680B yma.
I Frefi ar Ddewi dda ei fuchedd,
I gymryd Dewi ddigymrodedd102
digymrodedd
LlGC 6680B
dy gymrodet; J 111
dygymroded. Rhestrir yr enghraifft hon o cymrodedd yn G 437 a GPC Ar Lein d.g. cymrodedd1 ‘cymod; cytundeb’, &c. (a’r ffurf yn cynnwys yr enw brawd ‘barn’); dilynant HG Cref 286 sy’n esbonio’r dy (ddy) yma fel hen ffurf ar yr arddodiad y a welir mewn cyfuniadau megis y dreis ‘trwy drais’; ar hwnnw gw. GPC Ar Lein d.g. i4; cf. GLlF 462 di gymrodedd ‘drwy gytundeb’. Ond prin iawn yw’r dystiolaeth dros d(d)i/d(d)y fel arddodiad yn y cyfnod hwn ac eithrio mewn cyfuniadau sefydlog, a gwell yw deall digymrodedd yma’n ansoddair i ddisgrifio Dewi, yn cynnwys y rhagddodiad negyddol di- (am enghreifftiau achlysurol o dy- yn y llawysgrifau yn lle di-, gw. G 323 et passim), a’r elfen cymrodedd ‘hefelydd, cystedlydd, cymar’ (< cym- + brawd ‘brother’), gw. GPC Ar Lein d.g. cymrodedd2. Am y syniad a fynegir yma, cf. GDB 30.87–8 A Dafydd … / Ni bu o Gymro ei gymrodedd.
Yn bennaf, yn decaf o’r teÿrnedd.
Or digonsam153
or digonsam Cywasgiad o o ry, sef y cysylltair a’r geiryn rhagferfol rhy i roi ystyr berffaith i ferf orffennol, gw. GMW 167 (a). ni gam o gymaredd,
290Cyfodwn, archwn arch ddiomedd
Drwy eirioled Dewi a Duw a fedd,
Gwaeanad gwenwlad gwedy maswedd
Drwy eirioled Mair, mam rhadlonedd,
A Mihangel154
Mihangel Yr archangel, a ddelweddid yn aml fel arweinydd byddinoedd nefol ac amddiffynnwr yr enaid dynol ar adeg marwolaeth. mawr ym mhob awrfedd:
295Dycheferfyddwn103
Dycheferfyddwn Ffurf person cyntaf lluosog orchmynnol dychyfarfod; ni nodir dycheferfydd- fel ffurf amrywiol ar fôn y ferf yn GPC Ar Lein d.g. dychyfarfyddaf, ond gan mai dyna a awgrymir gan ddarlleniad LlGC 6680B a J 111 yn y llinell hon a’r llinell ddilynol, cymerir bod yma gymathiad
y..e (dychyferfydd-) > e..e (dycheferfydd-). ni, lu, am ei lariedd,
Dycheferfyddwn ninnau155
dycheferfyddwn ni, lu, … / Dycheferfyddwn ninnau … Fel berf gyflawn y diffinnir dychyfarfod yn GPC Ar Lein, ac felly cymerir bod y ffurf dreigledig lu yn gyfarchol (er aralleirio ychydig yn wahanol), a bod ninnau yn ei ategu. Bu i nifer o saint ymgynnull o amgylch Dewi yn y gorffennol (llau. 275–88), a bellach y mae’r bardd yn cloi ei awdl drwy annog y gynulleidfa bresennol yn Llanddewibrefi,
gan gynnwys ef ei hunan (ninnau), i ddod ynghyd yn yr un modd o amgylch eu nawddsant. am drugaredd!
I
Boed i Dduw roi i mi (gwynfydedig yw cefn nos)
awen gyda’r awel pan ddaw’r wawr,
boed fy mrwdfrydedd yn hwylus, deddf barddoni;
cerdd o foliant i Ddewi sy’n ddwywaith cymaint â hwnnw [h.y. fy mrwdfrydedd]
5 (nid yw bardd nad yw’n adnabod hwn yn teilyngu corn medd,
y ddiod feddwol orau): dyna a genais.
Ni chanaf gyda meddwl llawn tristwch,
yn hytrach cyfansoddaf brydyddiaeth gelfydd:
canaf ragor cyn henaint,
10canu i Ddewi mawr a moli saint.
Mab doeth a gorchestol Sant nad yw’n caniatáu ymosodiad haint
na bod trosedd lleidr yn ddiwrthwynebiad, rhwyd gelynion;
mae gras yn ei wlad a daioni a helaethrwydd,
yn arglwyddiaeth Dewi mae teuluoedd di-fai
15a rhyddid heb ofid, heb orfod gofyn am ddim rhagor,
heb bryder am anghydfod o amgylch ei ucheldiroedd
oni ddaw yno flaidd yn llawn cynddaredd
neu hydd y mynydd-dir, carw nwydus.
Er mwyn Duw derbyniodd ddioddefaint yn ufudd
20ar don a charreg, ac amddiffyn ei fraint,
a chyrchu Rhufain, rhanbarth maddeuant,
a lletya ym Mhalesteina, ymdrech aruchel,
a dioddef ergyd â’r llaw, dyrnod anferthol,
gan forwyn annymunol, greulon ei dannedd.
25Gweithredodd y pennaeth sanctaidd yn ddialgar dros arglwydd Dyfnaint,
llosgwyd y sawl na laddwyd, lladdwyd lluoedd.
Cododd bryn gwyn aruchel ei fraint
ym mhresenoldeb saith a saith ugain mil mawr:
dyrchafiad [tir], a’i dderbyn gyda chroeso,
30dyrchafodd Dewi Frefi a’i braint.
II
Mae ei ryddfraint i’r breintiedig yn unol â’i ewyllys
a’i wlad yn rhydd, yn ysblennydd:
mae ganddo gyfran o wlad Iwerddon trwy ras,
ac ef biau Deheubarth a Phebidiog;
35a bydd yn cymryd pobloedd Cymru ato ei hun
ac yn eu rhoi yng ngofal yr Arglwydd hollol ddilys
tra bod Padrig a’i luoedd yn fawr eu nifer
yn mynd gyferbyn ag ef i’r man a drefnwyd;
ac ef a fydd yn ein croesawu, fel na byddwn yn ofnus,
40at drugaredd Duw, at yr Un trugarog.
Pwy bynnag a fo’n caru Dewi bendigaid ac amddiffynnol
a gaiff yr un sy’n ei garu yn gyfaill;
pwy bynnag a fo’n caru Dewi, na foed iddo fod fel person twyllodrus,
na foed iddo garu dicter na lleidr milain;
45pwy bynnag a fo’n caru Dewi sydd dan lw hunanymwadol,
boed iddo garu offeren ac ynddi glerigwyr niferus;
pwy bynnag a fo’n caru Dewi, y cymydog da,
boed iddo garu gofalu am y rhai anghenus;
pwy bynnag a fo’n caru Dewi fel un angerddol doeth,
50fe’i gelwir ef yn wych, yn gyfoethog.
Dau ych Dewi, dau ryfeddol,
bu iddynt roddi eu gwar i dynnu cerbyd Cynog;
dau ych Dewi, roeddent yn ardderchog,
dau fynydd a dramwyent wedi eu hieuo ynghyd
55i gyrchu anrheg yn gyflym
i Lasgwm, nid oedd y tri pheth anrhydeddus yn drwm:
gadawyd Bangu, yr un annwyl wedi ei gadwyno, [yng Nglasgwm]
a’r ddau arall grymus i Frycheiniog.
Pan ddêl arswyd arnom (ni fyddwn yn ofnus)
60oherwydd gorthrwm gwŷr cadarn brwydr Dybrunog,
ar Dduw a Dewi, dau a ddilynir gan niferoedd,
y byddwn yn galw, [Dewi, yr] un sefydlog a diysgog y byd hwn.
III
Breintiedig bob amser fyddaf pan ddof yno,
ni bydd dim yn eu bro i mi bryderu amdano.
65Gwelaf i offeiriaid, rhai gwych a ganfyddaf,
canaf eu moliant pa le bynnag y dof;
gwelaf i hawl sy’n gyflawn a llawenydd mawr
a gwŷr eglwysig uwchlaw allor heb ddioddef niwed.
Gwelais i fin nos, yn uchel eu rhwysg,
70wragedd, merched ifanc, y rhai y gallwn eu caru;
gwelais i gymuned fynachaidd ac urddas, gwŷr hael mewn urddau,
deuthum i blith dynion bendigaid doeth.
Ymysg pobl Llanddewi, y man y gallaf ei foli,
boed i mi dderbyn parch, hyd yn oed heb ofyn amdano.
75Ac yr wyf yn fardd diffuant yn cefnogi’r Arglwydd,
a boed i mi ddyfod yn ddiogel at seintwar Dewi:
pa faint bynnag o bechod ac o niwed difrifol y bu i mi ei gyflawni,
boed i mi wneud yn iawn amdanynt i Dduw ac i Ddewi.
Gan fod Dewi yn gallu gwneud yr hyn na allaf i ei wneud,
80boed iddo eiriol ar fy rhan am yr hyn yr wyf yn ei geisio.
IV
Gofynnaf yn deg am rodd, a di-fai ydwyf,
er mwyn gallu gofyn i’m Harglwydd am Ei gariad hael:
i Dduw yn gyntaf, Dewin ac Arglwydd,
ac i Ddewi sanctaidd ar ôl yr Arglwydd.
85Dewi mawr Mynyw, athro doeth,
a Dewi Brefi ger ei gwastadeddau;
a Dewi biau eglwys ysblennydd Cyfelach
lle mae llawenydd a defosiwn mawr;
a Dewi biau eglwys fawr sydd
90mewn lle o’r enw Meidrim a hefyd ei mynwent i niferoedd;
a chadarnle Bangor ac eglwys fawr Henllan
sy’n eiddo i’r gŵr enwog, i’r un cysgodol ei goed;
a Maenordeifi nad yw’n fynyddig
ac Abergwili sy’n eiddo i’r un addfwyn a hynaws
95a Henfynyw hardd ger glannau Aeron,
ei meillion yn gorchuddio’r meysydd, a’r coedydd yn llawn mes;
Llannarth, Llanadnau, eglwysi’r llywodraethwr,
Llangadog, lle breintiedig ac iddo gyfran o wychder.
Nid yw rhyfel gan unrhyw fyddin yn mentro yn erbyn Llan-faes, lle aruchel,
100nac yn erbyn yr eglwys yn Llywel;
Garthbrengi, bryn Dewi sy’n rhydd o warth,
a Thrallwng Cynfyn ar bwys ei dolydd;
a Llanddewi’r groes, eglwys newydd,
a Glasgwm a’i heglwys ger mynydd gwyrddlas,
105tir uchel wedi ei orchuddio gan lwyni, nad yw ei amddiffyniad yn pallu,
hardd Gregrina yma, hardd ei mynydd
ac Ystradenni gyda’i rhyddfraint rydd.
Rhoddodd Duw Arglwydd sylwedd i’w foli:
Dewi ar fryn Brefi llawn llawenydd,
110uchafiaeth fawr uwch y llawr o flaen lluoedd,
pennaeth mawr ei fri byd cred a’r byd bedyddiedig,
a bod o’i gwmpas, o amgylch ei feysydd,
wŷr hael a thiriogaeth a thrigfannau hardd
a phobl a gwin a gwirodydd
115a buddugoliaeth a gwaredigaeth ar gyfer mintai esmwyth.
Llinach aruchel Daniel, nid oes eu tebyg
yn cynnal bywyd a boneddigrwydd a chwrteisi;
llinach Maried, ysblennydd eu rhialtwch,
gwell yw pob un cytûn a dewr o’u plith nag unrhyw un arall.
120A Dewi sy’n ein gwarchod ni, ef fydd ein hamddiffyniad,
a’i wyrth a’n gwarchododd ni rhag pob un heb ffydd;
a bydd Dewi yn ein harbed ni rhag yr ofn am gosb pechod,
bydd yn dod i faes gogoniant ar Ddydd y Farn!
A Dewi (y gŵr y bydd hyn yn briodol iddo) a barodd
125fod y mab Magna yn fyw ac yntau wedi marw er deuddydd.
A gwelwyd Dewi yn ei ogoniant
fel un o’r un lliw â’r haul ar ei gwrs ysblennydd.
Mae i Ddewi gwmni graslon
tuag at rai gwan a chadarn ac sydd yn cynnal eu prydydd;
130ac y mae iddo, fel i ŵr gwynfydedig,
drigolion gwynfydedig Brefi yng nghanol ei thiroedd.
V
Trwy fod yn abl i ganu teyrnged gywrain i ŵr haelionus
cefais i fy mawrygu, caf dawelwch;
trwy ymweld â Brefi, ei braint yn ymledu’n rhwydd,
135fy modloni’n llawen a wna llawer galwad am dawelwch
i ganu moliant i Ddewi mewn Cymraeg da hyderus,
trwy foddhad ewyllys a chalon, trwy gyfrwng cerdd felys,
trwy ffurf cerdd gynyddol ei dull
i Frefi a Dewi mewn Cymraeg doeth.
140Mae ei amddiffyniad yn ddi-feth i’r sawl sy’n ei geisio,
heb warth yw ei fro ddi-fai
(o flaen creiriau Dewi, crynu a wna Groeg
ac Iwerddon – hynaws yw tir Gwyddelig!)
o Garon trwy iawnder, a’i lliw porffor,
145hyd afon Tywi wych a hardd;
o’r Llyn Du, lle bu gwrthdaro llidiog,
hyd afon Twrch, terfyn tir â charreg.
Daeth arglwydd o’r Deheubarth at Ddewi
i ddial dwyn ei wartheg fel dyn ffyddlon;
150daeth ef yn ddoeth at Ddewi
trwy gymorth Duw, cynhaliaeth sy’n chwim i ddyn;
daeth amddiffynnwr teg at Ddewi:
Rhys mawr, arglwydd Môn, gwych ei rodd.
VI
Cynlluniais i hyn [i.e. yr awdl hon] er mwyn hyrwyddo gŵr wedi ei ordeinio,
155ei urddas diderfyn yn dra chyfarwydd â rhoddi:
eiddo’r arglwydd bendithion yw beirdd i’w foli
yn ogystal ag ysgolheigion a llyfrau a mantell o sidan wedi’i brodio.
Pan ddaeth Ffrancwr o Ffrainc i ofyn iddo
am iachâd rhag afiechyd, rhag dallineb,
160dyn pryderus heb na llygaid na thrwyn ac na allai weld dim,
pesychodd, a medrodd weld drwy ewyllys Dewi.
Daeth merch brenin o’r dwyrain i Frefi
a harddwch a gwaredigaeth gyda hi
yn sgil clywed mor dda oedd bendith Dewi
165a chywirdeb ei fuchedd, ei ewyllys cyfiawn.
Pwy bynnag a êl i fedd ym mynwent Dewi
nid â i uffern, i arteithio’r gors fawr.
A Pheulin a alwai arno yn feunyddiol
i geisio amddiffyn ŷd ei erwau;
170ni allodd y bobl gael gwaredigaeth
hyd nes y daeth Dewi ffyddlon â gwaredigaeth iddynt:
a pheidiodd yr adar gwyllt iddo,
ni pheidient hwy i neb oni bai am i Ddewi;
ac ef a’u harweiniodd oll heb eu colli
175i mewn i un ysgubor fawr gan lenwi’r llawr.
Pan ddaw rhyfel ac ymosodiad y Pictiaid
i diriogaeth Rhos, bydd pob dyn doeth yn galw ar Ddewi!
A gwyrthiau a gyflawnodd Dewi llesol,
bu’n wrthrych gobaith yn fynych iawn cyn ei eni.
180Danfonwyd iddo, hyfrydwch i’w anrhydeddu,
o drigfan hardd y nefoedd, gorffwysfa addfwyn,
allor hardd nad yw dyn yn gallu edrych arni:
mwy fyth o allu gwyrthiol sy’n cymell defosiwn.
Credwch yr hyn a glywch, cadwch gloch Dewi
185yn eich llaw a llu’r byd Cristnogol gyda chwi;
a’r ffon fagl aur ei phen, ffowch rhagddi
fel rhag tân, bydd yn trywanu’n boenus, tystia Duw iddi;
a’i fraich gadarn [ ]
a’i fryn sanctaidd uchaf a barodd ei godi’n uchel;
190a llechfaen hardd dros don a thros y weilgi
a’i dygodd, daeth Duw i’w throsglwyddo;
ac na fo yn ei fro ragorfraint a hawl gyfreithiol
heblaw fod tri chwmwl o fwg yn ei hamgylchynu yn amlwg.
Pwy bynnag sy’n dymuno Duw, ef a ddaw wastad i’w foli [h.y. Dewi];
195pwy bynnag a fo’n dymuno nodded, boed iddo gyrchu Dewi!
VII
Duw a folaf! Yn eiriolaeth ar fy rhan,
gan na allaf i wneud dim heb Dduw’r Drindod,
y mae Dewi yn haelfrydig, yn rhoddwr hael ei roddion,
ac yng nghyfyngder cyni cythrwfl ceir achubiaeth Dewi:
200Dewi mawr ar y môr yn nodded aml,
gelwir arno ar y tir yn wyneb trallod.
A boed i westai roi teyrnged i Ddewi,
gogoniant diamheuol dros bob sant goruchel;
ac fe gyrchodd Dewi atynt dros wyneb y ddaear,
205athro ar saint, un ffodus ei ffawd.
Ac rwyf wedi mynd i Fynyw ym mhen eithaf Dyfed,
ac mae brenhinoedd wedi mynd â theyrnged
i fab Non hael ei mynwes, llwyddiannus ei fri,
at Ddewi fab Sant a’i fantell o liain sidanaidd:
210Dewi mawr Mynyw, yn sanctaidd y’i gwelwyd ef,
pennaeth mawr ei fri y byd bedyddiedig, ffydd a byd cred.
VIII
Ni phentyrrodd eiddo, rhoddodd y rhannwr rhoddion
aur coch a dillad, trysorau hardd;
ni cheid gwrthodiad o’i enau gan yr arglwydd,
215ni chafwyd ateb oni bai am gwyrthiau:
boed i’r un haelfrydig ymateb i’w gerddor enwog,
iawn berchennog mawr ei rinwedd, cymwys ei ddefodau.
Os daw llynges niferus, yn llym ei geiriau,
i geisio creu dychryn, yn dwyn ysbail,
220rhwng Mynyw a’r môr, bydd trychinebau mawr
yn dod i ran eu llu hwy liw golau dydd:
byddant yn colli eu golwg yn ogystal â’u heneidiau,
ni fyddant yn gallu gweld na’r môr na’u llongau
a byddant yn cymryd cyngor drwy gyfrwng negeseuwyr
225i anfon rhoddion cyflym ato:
Gwyddelod sy’n un o dri phla, methiant sicr,
un o dri budd i Fynyw sy’n eiddo i dywysog!
Adeiladodd a rhoddodd drefn ar ddirfawr adeiladau
yn ardal ragorol a mwyaf goruchel Hoddnant:
230heb amheuaeth bu drwy anfodd Boia
y daeth ef i Fynyw, yr un gwych ei ddoethineb.
Trowyd at ddiawledigrwydd gweithredoedd gwaeth fyth,
ni lwyddwyd i gyflawni yr hyn a fwriadwyd, rhwystrwyd hwythau:
rhyddhaodd y gwragedd eu gwregysau,
235rhai gwan eu meddyliau a noeth a aeth i ddifancoll;
yn dâl am eu gwawdio, cyflawnodd wyrth,
bu iddynt gerdded gyda’r gwynt ar lwybr angau.
Ymadawodd Padrig gyda dagrau dicllon
yn llenwi Llech Llafar annwyl a hyglyw
240pan aeth i Iwerddon, dyma oedd ei wyrth yntau,
draw dros y tonnau gydag angylion o’i flaen.
A dymunodd Duw fod Mynyw yn mynd i Ddewi
cyn i’n harglwydd gael ei eni i ryfeddodau;
pan bregethodd y gŵr bonheddig y bregeth orau
245fe’i clywyd ef fel utgorn, eglur oedd ei eiriau.
IX
Er y syrthiai brwynen o’r nef ar fryniau,
nefoedd i finteioedd o ganol eu trallodion,
ni syrthiai i’r llawr, milltiroedd mawr,
onid ar ddyn wedi ei urddo sydd ar lwybr anrhydeddus y saint.
250A Dewi oedd y pennaf o’r penaethiaid
a Duw yn adnabod ei ddulliau;
ac ef oedd y goruchaf ers dechrau’r byd
a byddent hwy hefyd [h.y. Duw a Dewi] yn cerdded gyda ninnau.
Amddiffynnodd Dewi ei eglwysi,
255lluniodd greiriau rhagorol yn erbyn gormes:
ffynnon Dewi a’i ffynhonnau llawn,
llawer un yn derbyn bendith, toreithiog yw ei ffrydiau;
ac ôl ei farch a’i ôl yntau,
rwy’n gwybod am y graig lle maent ill dau.
260Ceir y pethau canlynol ar ei fryn sanctaidd, disglair, uchel,
yn gwrthdroi drygioni gweithredoedd drwg:
addfwynder a pharch ac anrhydedd meinciau
mewn eglwys, a chroeso a chanhwyllau;
ceir cydwledda gan gyfeillion
265a charu Duw yn fwy na phenaethiaid!
Mwynha’r arglwyddi barch sicr y ddynoliaeth,
ceir goruchafiaeth yr arglwyddesau;
ceir esgob hael uwch allorau Dewi,
pum allor Brefi sy’n anrhydedd i’r saint.
270Ac er mwyn moli Dewi yr wyf wedi dod i’r Deheubarth:
boed i Fôn ddoeth fy nghlywed a gwrando arnaf!
X
Y gŵr a folaf, gwir ogoniant,
ni chyflawnodd na drygioni na chasineb
ond yn hytrach parodd i saint ddod o bell, gwell cyfiawnder,
275a’u cynnull ynghyd yn ei synod:
saint Anjou a Llydaw, llu llawn gwychder,
saint trigolion Lloegr a thrigolion Wessex a saint y Gogledd,
saint Manaw ac Anaw ac Ynysoedd yr Hebrides,
a seintiau Powys, pobl rhyfeddol,
280saint Iwerddon a Môn a saint Gwynedd,
saint Dyfnaint a Chaint mewn cyngres,
saint Brycheiniog, bro gwroldeb,
a seintiau Maelienydd, copaon y byd,
a seintiau’r byd hwn, lluoedd y gwledydd,
285daethant i gyd yn un cynulliad
i Frefi at Ddewi rhinweddol ei fuchedd,
i dderbyn Dewi, nad oes iddo ei gymar,
yn bennaf ac yn decaf o blith yr arweinwyr.
Os bu i ni gyflawni camwedd drwy falchder,
290cyfodwn, cyflwynwn gais na fydd yn cael ei wrthod
drwy eiriolaeth Dewi a Duw sy’n rheoli,
[cais] yn dilyn gwagedd am lawenydd paradwys
drwy eiriolaeth Mair, mam graslonrwydd,
a Mihangel sy’n fawr ym mhob achlysur:
295boed i ni ddod ynghyd yn llu er mwyn ei haelioni,
boed i ni hefyd ddod ynghyd er mwyn trugaredd!
1 pylgaint Ffurf hŷn ar plygain, gw. GPC Ar Lein d.g. Gallai gyfeirio’n benodol at ‘un o’r oriau gweddi canonaidd, yn wreiddiol am hanner nos, ond weithiau gyda’r wawr’ (ibid. (a)), sef y matins, gw. OED s.v.; ond mae’n fwy tebygol mai cyfeirio’n syml at y wawr neu amser codi a wneir yma (GPC Ar Lein d.g. plygain (b)), mewn cyferbyniad â dewaint (1) ‘canol nos, tywyllwch’. Gyda’r llinell hon, cf. yn arbennig ddisgrifiad Cynddelw o’i ganu yntau i Dysilio, TysilioCBM ll. 82 Cain awen gan awel bylgaint. Tybed a oedd Gwynfardd Brycheiniog yn gyfarwydd â cherdd Cynddelw?
2 cynnelw o Ddewi Cyffredin yw’r enw a’r ferf cynnelw gan feirdd 12g. yng nghyswllt eu canu mawl i’w noddwyr, gyda’r ystyr ‘cymorth, cefnogaeth’ i’w noddwyr yn ymhlyg: gw. GPC Ar Lein d.g. cynnelw1. Rhoddir derbynnydd y mawl yn aml dan reolaeth yr arddodiad o, cf. GCBM ii, 6.32 A’m kynhelỽ o’m perchen ‘A’m moliant i’m harglwydd’. Eto i gyd, mae’n bosibl mai cefnogaeth gan noddwr yw’r ystyr weithiau.
3 ei ddau cymaint Nid yw deisyfiad y bardd yn gwbl eglur yn y llinellau agoriadol hyn. Cymerir bod ei yn cyfeirio at awydd y llinell flaenorol. A yw’r bardd yn gobeithio y bydd ei frwdfrydedd a’i ysbrydoliaeth i ganu cerdd i Ddewi, drwy gymorth Duw a’r sant, yn ddwywaith cymaint nag arfer?
4 bardd ni wypo hwn Deellir gwypo (ffurf trydydd unigol presennol dibynnol gwybod) yn yr ystyr ‘adnabod’, a’r llinell yn cyfeirio at y beirdd hynny nad ydynt yn ‘adnabod’ Dewi. Ar y defnydd hwn o gwybod mewn cyswllt crefyddol, cf. GCBM ii, 16.201 Gỽr a’n gỽyr (am Dduw), 18.65 Mihangel a’m gŵyr; GMB 21.5 Ef yn llwyr a’n gỽyr. Ond sylwer mai’r crediniwr sy’n cael ei ‘adnabod’ gan y noddwr nefolaidd yn yr enghreifftiau hyn, a gellid dehongli’r llinell hon gan Wynfardd Brycheiniog yn yr un modd, gan gymryd hwn, Dewi, yn oddrych: ‘bardd nad yw hwn [sef Dewi] yn ei adnabod’. Nid amhosibl ychwaith yw dehongliad GLlF 456 ‘[b]ardd na wypo [sut i ganu] hwn’, sef cyfeiriad at feirdd na wyddent gerdd y bardd (ac os felly dichon mai at yr enw gwrywaidd cynnelw yn ll. 4 y cyfeiria hwn).
5 canu Dewi mawr Cymerir bod mawr yn goleddfu Dewi yma, cf. Dewi mawr yn llau. 85, 200, 210 (a sylwer mai tueddiad, nid rheol, oedd yr arfer o dreiglo ansoddair yn dilyn enw priod gwrywaidd, gw. TC 114). Mae’n bosibl fod i canu ystyr arbennig yma o gofio mai fel ‘canu’ y disgrifir y gerdd hon yn ei theitl; mae’n air a ddefnyddir yn nheitlau cerddi beirdd y 12g. yn benodol am awdlau mawl amlganiad fel hon.
6 mab Sant Sant ap Ceredig ap Cunedda, brenin Ceredigion, oedd tad Dewi yn ôl traddodiad, gw. BDe 25. Fel y nodir yn GLlF 463, go brin y dylid darllen Mabsant gyda HG Cref 43.
7 yn ei wlad Gellir cywasgu yn ’n ei wlad, er mwyn hyd y llinell ac er mwyn i’r rhagwant ddilyn y bumed sillaf yn rheolaidd.
8 cylch ei bennaint Dilynir GLlF 463 a GPC Ar Lein a deall pennaint yn ffurf luosog pennant. Ar ddefnydd cylch fel arddodiad ‘o gwmpas, o amgylch’, cf. ll. 112 cylch ei feysydd a gw. GPC Ar Lein d.g.
9 hydd gorfynydd, rhewydd redaint Yn llau. 17–18 nodir dau beth a allai achosi gofid i’r trigolion yn ucheldiroedd y sant, sef blaidd cynddeiriog a hydd mewn gwres (rhewydd). Mae ystyr rhedaint yn ansicr: cynigir dwy ystyr yn betrus yn GPC Ar Lein ‘?carw (ifanc); ?cwrs’. Yr ail a dderbyniwyd yn GLlF 456 (gan wrthod awgrym blaenorol HG Cref 188 ‘3ydd llu. amherff. o rhedeg … rhedent yn nwydus’). Ond yng ngoleuni R 1030.9 Bit vuan redeint yn ardal mynyd (gw. y nodyn yn Jacobs 2012: 44), mae’r ystyr gyntaf, ‘carw (ifanc)’, yn fwy tebygol. Mae’n hysbys fod hyddod mewn gwres yn nhymor yr hydref yn gallu ymosod yn filain ar bobl. At hynny, ceir cyfeiriadau achlysurol at hyddod neu geirw gwyllt yng nghyswllt hanes Dewi: cyfeiriodd Dafydd Llwyd at hyddod yn dod o gysgod gwŷdd i wrando arno yn Llanddewibrefi (DewiDLl llau. 29–30), ond mwy perthnasol, o bosibl, ceir cyfeiriad gan Iolo Goch at y modd y bu i ffon fagl Dewi ddofi’r ceirw osglgyrn chwyrn chwai (DewiIG llau. 87–8); cf. DewiRhRh llau. 9–10 Ceirw a’r adar, o’u cerrynt. / Di-led, gwâr, y’u delid gynt. Ar un olwg mae’n rhyfedd fod Gwynfardd Brycheiniog fel petai’n awgrymu bod bleiddiaid gwyllt a cheirw nwydus yn parhau i godi ofn ar bobl y sant, ond efallai mai’r awgrym sy’n ymhlyg yw nad oes neb o blith dynolryw yn meiddio ymosod ar noddfa Dewi, dim ond anifeiliaid direswm ac anwybodus.
10 teg ‘Ufudd’, ystyr a nodir yn betrus yn GPC Ar Lein; ond byddai ‘union, cyfiawn’ hefyd yn addas.
11 ar don a charreg Tybed a oedd traddodiad fod Dewi wedi croesi’r môr ar garreg ar ei daith i Rufain? Cf. llau. 190–1 A llech deg dros waneg a thros weilgi / A’i dyddug … Am gyfeiriadau pellach at saint yn hwylio dros y môr ar gerrig, gw. Henken 1991: 98.
12 Rhufain Yn ôl Ieuan ap Rhydderch, ymwelodd Dewi â Rhufain pan ddaeth yn oedolyn, ar ôl cyfnod o addysg gyda’r Esgob Peulin: DewiIRh llau. 43–6 Pan fu ŵr, wiw gyflwr wedd, / Aeth i Rufain, waith ryfedd. Pan gyflwynwyd Dewi gan Beulin i’r synod ym Mrefi, dywedodd amdano: ac a vu athro, ac yn Ruuein a urdwyt yn archescob, BDe 14 (llau. 8–9). Mae Gwynfardd Brycheiniog, fel y bucheddwyr Cymraeg, am bwysleisio bod Dewi yn uniongyrchol atebol i awdurdod y pab yn Rhufain: cynsail i’r dymuniad yn y 12g. i weld esgobaeth Mynyw yn ennill statws archesgobaeth, yn uniongyrchol atebol i Rufain, yn hytrach nag yn ddarostyngedig i awdurdod Caer-gaint. Yn Jerwsalem y cysegrwyd Dewi yn archesgob yn ôl vita Rhygyfarch (gw. Sharpe and Davies 2007: 140–1, 142–3; BDe xxxii–xxxiii); cytuna fersiwn Lincoln 149 â’r fuchedd Gymraeg, gan ddweud mai’r pab a’i hurddodd yn Rhufain.
13 rhan gyreifiaint ‘Rhanbarth maddeuant’ (disgrifiad o Rufain); am y treiglad i’r enw genidol ansoddol yn dibynnu ar yr enw benywaidd rhan yma, cf. GLlLl 23.207 rann westiuyant ‘rhanbarth llawenydd’. Dewis arall fyddai dehongli’r cyfuniad ar batrwm hydref ddail: ‘maddeuant y rhanbarth’.
14 Efrai ‘Gwlad yr Hebreaid neu’r Iddewon, Palesteina’, GPC Ar Lein. Ni sonnir yn y fuchedd Gymraeg am Ddewi ym Mhalesteina, ond yn y fuchedd Ladin dywedir bod angel wedi dod ato yn y nos a gofyn iddo adael am Jerwsalem drennydd: Sharpe and Davies 2007: 138, Nam quadam nocte ad eum angelus affuit, cui inquit, ‘Crastina die precingens calcia te, Ierusalem usque pergere proficiscens (ibid. 139 ‘one night, an angel came to him, and said, “Tomorrow, put your shoes on and set out to travel to Jerusalem” ’). Teithiodd yng nghwmni Teilo a Phadarn. Cyfeiriodd Ieuan ap Rhydderch at yr un traddodiad, DewiIRh llau. 55–8, Angel a ddoeth … / I gôr Llangyfelach gynt / I yrru Dewi euriaith / I fedd Caerusalem faith, a chyfeiria’n benodol at y croeso a dderbyniodd Dewi a’i gydymdeithion gan y padriarch: ibid. llau. 63–5 Daethant ill tri heb duthiaw / I dref Caerusalem draw; / Y padrïarch a’u parchawdd, / Dydd a nos da oedd ei nawdd. Anodd gwybod ai at yr ymweliad hwn â Jerwsalem y cyfeiria Gwynfardd Brycheiniog – ni sonnir yn y fuchedd Ladin am daith i Rufain, ond wrth gwrs byddai unrhyw daith i Jerwsalem yn debygol o fynd drwy Rufain.
15 gwst diamraint Dilynir GPC Ar Lein a G 325 gan ddeall diamraint yn yr ystyr ‘breiniol, aruchel’. Disgrifiad o’r bererindod sydd yma: yr ymdrech a’r fraint a oedd yn ymhlyg yn y weithred honno heb sôn am yr anrhydedd mawr a dderbyniodd Dewi gan badriarch Jerwsalem pan gyflwynodd hwnnw bedair rhodd iddo, gw. n114(e).
16 diwyl ei daint Dehonglir daint yn ffurf luosog dant, a’r dannedd, yn ôl pob tebyg, yn ffigurol am y geiriau creulon a ddaeth o enau’r ferch, cf. Jones 1923–5: 196 Gwenniaith yw gwaith y gwythlawn daint. Tybed a oes modd cysylltu hyn â’r hanes am wraig Boia yn gorchymyn i’w llawforynion fynd at ddilynwyr Dewi a chodi cywilydd arnynt drwy dynnu eu dillad a dweud geireu aniweir kywilydus wrthynt (gw. n133(e))? Ond eto, ymddengys o’r cyd-destun mai ym Mhalesteina y digwyddodd yr ymosodiad hwn ar y sant.Yn GLlF 456 dehonglwyd daint yn yr ystyr ‘arferion’, gan ddilyn G 297 sy’n ei ddiffinio fel lluosog dant2 ‘moes modd’, gan gymharu’r ffurf irddant ‘gloes, cystudd’; cf. Vendryes 1929: 252–4, lle cyfieithir diwyl ei daint fel ‘aux manières impudentes’. Ni cheir daint yn yr ystyr honno yn GPC Ar Lein.
17 Dyfnaint O bosibl hen deyrnas Frythonig Dumnonia yma, a gwmpasai Ddyfnaint a Chernyw. Ni cheir hanes yn y rhyddiaith am Ddewi yn dial ar ran pennaeth (neu ar bennaeth) o Ddyfnaint, ond fel y nodir yn GLlF 464 a LBS ii, 295–6, mae nifer o eglwysi wedi eu cysegru iddo yn ne-orllewin Lloegr. Cyfeiriodd Rhygyfarch yn fyr yn ei fuchedd at y Brenin Custennin o Gernyw yn dod yn un o ddilynwyr Dewi, ond ni sonnir yno am ei ferthyru (os hynny sydd yn ymhlyg yn y cyfeiriad at losgi pobl yn ll. 26). Ymhellach ar Gustennin a Chernyw, gw. WCD 144. Tybed a yw Gwynfardd Brycheiniog yn cyfeirio yma at ryw chwedl goll am y brenin hwn?
18 llas … llesaint Ar llas ‘lladdwyd’, GMW 127; ffurf oddefol brin yw llesaint, ibid., a welir bron yn unig yn y farddoniaeth gynnar.
19 bryn gwyn Cyfeirir ymhellach at y bryn gwyn yn llau. 189, 260 fel safle eglwys Dewi yn Llanddewibrefi. Esbonnir yn llau. 27–30 fel y cododd y ddaear yn fryn o dan draed y sant wrth iddo bregethu o flaen tyrfa enfawr yn Llanddewibrefi. Meddir yn y fuchedd Gymraeg, BDe 17.19–20, kyuodes y llawr hwnnw megys mynyd uchel dan y draet ef, gan ddilyn geiriad tebyg yn y fuchedd Ladin (Sharpe and Davies 2007: 144–7). Ni cheir yn y bucheddau rhyddiaith ddim i gyfateb i bryn gwyn, ond ceir yr un cyfuniad gan Lewys Glyn Cothi: DewiLGC2 llau. 27–8 Dan dy draed unDuw a droes / Bryn gwyn a bery gannoes. (Ni wyddys pa mor hen yw’r enw Bryngwyn / Bryn Gwyn ger Llanddewibrefi y ceir y cyfeiriad cynharaf ato yn y 18g., gw. Wmffre 2004: 616.) Deellir bryn yn oddrych dyrchafwys; ond gall mai Dewi yw’r goddrych dealledig ac mai bryn yw’r gwrthrych. Nid yw’r ffurf gysefin bryn o gymorth gan na threiglid y goddrych na’r gwrthrych yn dilyn -wys yn y testunau cynharaf, gw. TC 216.
20 saith mil mawr a saith ugaint Sef 147,000 o ddehongli’r geiriau fel ‘saith mil a saith ugain [mil]’. Ni chyfeirir yn y ffynonellau rhyddiaith at faint y gynulleidfa yn synod Llanddewibrefi, ond rhoddodd Iolo Goch yr union un rhif â Gwynfardd Brycheiniog, DewiIG llau. 61–2 Chwemil, saith ugeinmil saint / Ac unfil, wi o’r genfaint, a Ieuan ap Rhydderch yntau, DewiIRh llau. 81–2 Saith ugain mil, syth hoywgad, / A saith mil, cynnil y cad; 160,000 oedd maint y dyrfa yn ôl Dafydd Llwyd o Fathafarn, DewiDLl llau. 27–8 Ydd oedd i’th bregeth ryw ddydd i’th ganmol / Wyth ugeinmil, Dafydd.Mae disgrifiad Iolo Goch (c. 1345–c. 1397, GIG xix) ac Ieuan ap Rhydderch (c. 1390–1470) o hanes Dewi yn pregethu yn Llanddewibrefi yn debyg: gw. DewiIG llau. 53–62 a DewiIRh llau. 79–86. Tybed a oedd y naill yn tynnu ar waith y llall, neu a oedd y ddau yn tynnu ar ffynhonnell gyffredin? Tybed ai Gwynfardd Brycheiniog a ddyfalodd y rhif yn y lle cyntaf? Ac os felly, tybed ai testun y gerdd yn Llawysgrif Hendregadredd (LlGC 6680B) oedd ffynhonnell Iolo Goch ac Ieuan ap Rhydderch? Gwyddom fod y llawysgrif honno yng nghartref Ieuan yng Nglyn Aeron erbyn ail chwarter y 14g. (GLlBH 1 et passim), a bod Iolo Goch wedi derbyn nawdd yno gan y teulu (gw. Johnston 2009: 136). Mae 147,000 yn ymddangos yn rhif braidd yn annisgwyl, nes i ni gofio mai 147 oedd oedran Dewi pan fu farw, yn ôl Rhygyfarch, gw. Sharpe and Davies 2007: 148–9.
21 Brefi Defnyddia’r bardd Brefi yn syml drwy’r gerdd hon am Landdewibrefi a hefyd am diriogaeth ehangach yr eglwys honno rhwng afonydd Teifi a Thywi, gw. n91(e). (Tybed a ddefnyddid y ffurf Tyddewi, weithiau, yn yr un modd i gyfeirio at eglwys Dewi, tra gallai Mynyw gyfeirio at yr eglwys a’i thiriogaeth yn ehangach? Ond ni cheir tystiolaeth cyn y 15g. i’r ffurf Tyddewi, yr unig enw lle yng Nghymru sydd yn adleisio’r dull Wyddelig o enwi eglwysi, teach ‘tŷ’ + enw sant.) Brefiyw enw’r afon sy’n llifo heibio’r eglwys, a phrawf o hynafiaeth yr enw yw’r ffaith iddo gael ei fabwysiadu fel enw ar yr hen gaer Rufeinig Bremiagerllaw. Ar yr enw a’i darddiad, gw. Wmffre 2004: 509–10.Nid oedd treiglad yn arferol i’r gwrthrych yn y gystrawen hon yn y farddoniaeth gynnar, h.y. berf (dyrchafwys) + goddrych (Dewi) + gwrthrych (Brefi), gw. TC 195–6.
22 Iwerddon O Iwerddon y daw rhai o’r cyfeiriadau cynharaf at Ddewi a thrafodir y rhain yn WLSD xvi–xvii; Davies 2002: 376–7. Tystia buchedd Ladin Rhygyfarch i boblogrwydd Dewi yn Iwerddon, gw. Sharpe and Davies 2007: 136, 137 Verum pene tercia pars uel quarta Hibernie seruit Dauid Aquilento ‘And nearly a third or a quarter of Ireland served David Aquilentus.’ Dewi yw nawddsant eglwys bwysig Naas yn Cill Dara, gw. LBS ii, 295.
23 Dehau … a Phebidiawg Cantref a gynhwysai blwyf Tyddewi yng ngogledd-orllewin y sir Benfro fodern oedd Pebidiog, gw. WATU 170. Cofnodir mewn nodyn ar ymyl y ddalen yn yr Annales Cambriae (testun C) fod Rhys ap Tewdwr wedi rhoi Pebidiog i esgobion Tyddewi yn 1082, ac mae Gerallt Gymro yntau’n ategu hynny drwy honni mai tywysogion de Cymru a’i rhoddodd i’r eglwys, gw. Pryce 2007: 305. Ymhellach ar Bebidiog, gw. James 2007: 47–56, ac yn arbennig ibid. 47–8 am y llinell hon, ‘Gwynfardd Brycheiniog in his Canu Dewi continues that distinction between St Davids’s lordship and overlordship in the world of the twelfth century.’
24 Cymry Y wlad. Dyma’r ffurf arferol mewn Cymraeg Canol am y wlad a’r bobl, ac mae’r ystyr yn dibynnu ar y cyd-destun.
25 Teithïawg Ansoddair ac iddo rym enw yn aml, am frenin neu arglwydd sy’n llywodraethu drwy rym cyfraith a hawl, cf. disgrifiad Gwalchmai ap Meilyr o Owain Gwynedd, GMB 8.29 Teithiaỽc Prydein‘Teyrn cyfreithlon Prydain’. Cyfeirir yn llau. 35–6 at Ddewi yn cymryd pobl Cymru dan ei ofal ac yn eu trosglwyddo i awdurdod (yn llaw) Duw (y llwyr Deithïawg) ar Ddydd y Farn. Yn y cwpled nesaf esbonnir y bydd Padrig, gyda’i luoedd yntau o Iwerddon, yn dod i sefyll gerllaw (êl yn erbyn), yn y man a ragnodwyd iddo yntau (i’r parth nodawg, ll. 37). Dyrchafu Dewi fel nawddsant y Cymry yw nod y bardd yn y llinellau hyn, yn gydradd â Phadrig nawddsant y Gwyddelod.
26 i’r parth nodawg Deellir nodawg yn ansoddair o’r enw nod ‘targed, … amcan, diben, pwrpas’, &c. neu ‘enwogrwydd, bri’, &c., gw. GPC Ar Lein d.g. nod1. Dyma’r unig enghraifft o’r gair nodawg yn yr ystyr hon cyn y 19g.; ond mae llawerawg, ll. 46, hefyd yn unig enghraifft. Am yr ystyr, gw. n25(e).
27 Padrig Nawddsant Iwerddon; am ystyr y cwpled, gw. n25(e). Nid oes rhaid credu, gyda GLlF 465, fod y llinellau hyn yn awgrymu bod gwrthdaro wedi bod rhwng Padrig a Dewi.
28 wrth nad ofnawg Am y cysylltair wrth na, rhydd GPC Ar Lein ‘because or since … not’; cf. GLlF 256 sy’n deall yr ymadrodd yn ddisgrifiad o Ddewi: ‘gan nad yw’n ofnus’. Ond rhoddir i’r arddodiad wrth hefyd yr ystyr ‘er mwyn, i berwyl, i’r amcan o’ yn GPC Ar Lein d.g. wrth 2(c), ac felly deellir yr ymadrodd yn ddisgrifiad o bobl Dewi: ‘fel na fyddom yn ofnus’. Cyfeirio a wneir yn y cwpled at Ddewi yn croesawu ei bobl ar Ddydd y Farn, pan fydd yn dadlau eu hachos a’u hamddiffyn.
29 A garo Dewi Dyma eiriau cyntaf y pum cwpled nesaf. Cymerir mai Dewi yw’r gwrthrych ym mhob achos, er nad amhosibl ei ddeall yn oddrych yn y llinell hon.
30 da Ansoddair yn goleddfu Dewi, heb dreiglad er mwyn y gyfatebiaeth gytseiniol ar ganol y llinell; cf. ll. 45 Dewi diofredawg. Nid oedd y treiglad i ansoddair yn dilyn enw priod yn un sefydlog, gw. n5(e). Dewis arall fyddai rhoi coma ar ôl Dewi, a deall da yn enwol, ‘un da’, fel y gwneir yn GLlF 456, neu’n ansoddair yn goleddfu diffreidiawg, fel y gwneir yn Owen 1991–2: 73 ‘the good protector’.
31 Yn llau. 41–2 dywedir y bydd y sawl sy’n caru Dewi yn ei dderbyn yn gyfaill, yn un a fydd yn dadlau ei achos ar Ddydd y Farn (cf. llau. 39–40). Cymerir caradawg yn ansoddair â grym enwol, ond fel y nodir yn GLlF 465, gall fod yn gyfeiriad at Garadog, sant a fu farw yn 1124 yn ôl Gerallt Gymro, ac a gladdwyd yn Nhyddewi: gw. ibid. am gyfeiriadau pellach.
32 diofredawg Amrywiad ar diofrydawg, ansoddair o’r ferf diofryd ‘ymwrthod neu ymwadu â (pheth) drwy lw’, gw. GPC Ar Lein; disgrifiad sydd yma o fywyd hunanymwadol Dewi.
33 dau ychen Enw lluosog a ddilynai rifol yn aml mewn Cymraeg Canol (gw. GMW 47), ond gall mai’r hen ffurf ddeuol yw ychen yma (ibid. 33–4). Ceir nifer o draddodiadau yn cysylltu ychen chwedlonol â Llanddewibrefi a’r ardal, rhai yn adrodd fel y bu i’r ychen gynorthwyo gyda chodi’r eglwys oherwydd eu cryfder eithriadol: gw. GLlF 466; Payne 1975: 161; TWS 66–7; James 2007: 78–9. Yr ychen hyn a gofir, yn ôl pob tebyg, yn yr enw Cwys yr Ychen Bannog, clawdd mynyddig ger Llanddewibrefi: gw. Wmffre 2004: 563, ‘The ychen bannog were reputed oxen of a gigantic size … who created this mountain embankment by the act of ploughing a single furrow-slice’; gw. ymhellach yno am enwau eraill o’r ardal yn cynnwys yr elfen ychen. Ond fel y nodir yn Sims-Williams 2011: 42, nid yw’n sicr mai’r Ychen Bannog chwedlonol yw’r ddau ych y cyfeiria Gwynfardd Brycheiniog atynt: ‘Saints often tame and harness wild animals and later folklore is not a reliable key to Gwynfardd’s allusion.’
34 Cynawg Cyfeiriad, yn ôl pob tebyg, at Gynog mab Brychan Brycheiniog a Banadlwedd, merch brenin Powys. Cysylltir Cynog â nifer o eglwysi ym Mrycheiniog, yn cynnwys Merthyr Cynog, Llangynog ac Ystradgynlais, ac eraill yn siroedd Maesyfed a Threfaldwyn a swydd Henffordd, gw. LBS ii, 265. Canwyd cywyddau mawl iddo gan Hywel Dafi (gw. CynogHD) a Dafydd Epynt (gw. CynogDE). Ni wyddys am unrhyw draddodiad a allai esbonio’r cyfeiriad hwn at gar Cynawg, ond gw. TWS 184. Tybed a gollwyd rhyw chwedl ym Mrycheiniog a esboniai’r cyfeiriad? Neu a gyfeirir at ryw Gynog arall? Honnodd Sieffre o Fynwy a Gerallt Gymro fod rhyw Esgob Cynog, gynt o Lanbadarn, wedi ei ethol yn esgob Tyddewi i olynu Dewi, gw. WCD 182 s.n. Cynog, bishop of Llanbadarn and Mynyw.
35 dau garn Cymerir mai cyfeirio at fryniau neu fynydd-dir a groesai’r ychen a wneir (cf. Cwys yr Ychen Bannog, ger Llanddewibrefi, Wmffre 2004: 536); ond gall mai trosiad yw carn yma am y ddau ych, gw. GPC Ar Lein.
36 cydbreiniawg Cf. y disgrifiad yn chwedl Culhwch ac Olwen o ychen Gwlwlyd Wineu, yn deu gytbreinawc y eredic y tir dyrys draw, CO3 llau. 589–90.
37 Glasgwm Cf. n74(e). Dyma oedd prif eglwys Dewi yn Elfael, cantref uwch ffin ogledd-ddwyreiniol Brycheiniog, a reolid gan dywysogion Powys cyn ei gipio gan William de Braose tua diwedd y 12g., gw. James 2007: 80. Enwir Glasgwm gan Rygyfarch yn un o’r naw eglwys a sefydlodd Dewi, gw. Sharpe and Davies 2007: 120, 121; Evans 2007: 303. Cyfeiriodd Lewys Glyn Cothi yntau at bwysigrwydd Glasgwm mewn cywydd yn gofyn am nawdd Dewi ar Elfael: DewiLGC2 llau. 33–6 Gwnaethost ddau o blasau blwm, / Angel esgob, yng Nglasgwm, / Esgopty i Gymru a’i gwŷr, / Ac i Dduw a gweddïwyr. Yr oedd Glasgwm yn enwog am ei chrair arbennig, sef cloch o’r enw Bangu (n38(e)), ac esbonnir yn y llinellau hyn sut y cludodd y ddau ych hi yno.
38 Bangu … gadwynawg Yn hanes ei daith drwy Gymru, meddai Gerallt Gymro: ‘… yn eglwys Glasgwm, y mae llawgloch o’r rhinwedd mwyaf, a alwant wrth ei phriod enw Bangu, ac y dywedir iddi fod ym meddiant Dewi Sant’, Jones 1938: 16–17. Nid yw Gerallt Gymro yn sôn bod cadwyn ar y gloch fel y cyfryw, ond mae’n cyfeirio at achlysur pan ddygodd gwraig y gloch a’i rhoi i grogi (?gerfydd cadwyn) ar wal carchar yng nghastell Rhaeadr Gwy lle roedd ei gŵr yn garcharor, yn y gobaith y byddai’r gloch yn sicrhau ei ryddid, gw. ibid. 17. Cyfeiriodd Rhygyfarch yn ei fuchedd Ladin at y ffaith fod Dewi wedi derbyn pedair rhodd gan y padriarch yn Jerwsalem, yn cynnwys cloch enwog am ei gwyrthiau, ond nid yw’n enwi’r gloch honno, gw. n114(e). Am y clychau a oedd yn gysylltiedig â Chadog ac Illtud, a chlychau eglwysig cynnar sydd wedi goroesi, gw. Knight 2013: 88.
39 dau eraill Derbyniodd Dewi bedair anrheg gan y padriarch yn Jerwsalem: os aeth y gloch i Lasgwm (n38(e)), a’r allor i Langyfelach (n114(e)), tybed ai’r ffon fagl a’r tiwnig a aeth i Frycheiniog? (Sylwer bod anrheg yn enw benywaidd a gwrywaidd yn ôl GPC Ar Lein.)
40 ofnawg Mae ystyr ddeublyg i’r ansoddair hwn: ‘llawn ofn, ofnus’ ar y naill law, ac ‘yn peri ofn’ ar y llall, gw. GPC Ar Lein. Cynigir yr ystyr gyntaf yn yr aralleiriad, ond heb ddeall rhagor am y cyd-destun, nid oes modd bod yn sicr.
41 cad Dybrunawg Neu o bosibl cad Ddybrunawg, gan ddibynnu ai Dybrunawg neu Tybrunawg oedd y ffurf gysefin (arferid treiglo enw priod yn dilyn yr enw benywaidd cad, cf. GMB 3.129 Cad Geredigiaỽn). Yn Haycock 2013: 57–9 trafodir y ffurf kattybrudaỽt a geir yn y gerdd broffwydol ‘Glaswawd Taliesin’ yn Llyfr Taliesin (T 31.37), gan awgrymu ei diwygio yn kattybrunawc, a chysylltu’r ail elfen, Tybrunawg, â Brunanburh (sef ryfel brun ym Mrut y Tywysogion, gw. Jones 1955: 12), brwydr lle enillodd Aethelstan fuddugoliaeth yn 937. Awgryma Haycock 2013: 58) ymhellach, ‘the decisive encounter at Brunanburh became virtually a term for a major battle’. Ymhellach ar y frwydr honno, gw. Breeze 1999: 479–82; Bollard and Haycock 2011: 245–268.
42 presen breswyl fodawg Cyfuniad anodd, cf. GMB 9.108 Cathyl uodaỽc coed ‘cyson gân [mewn] coed’ (am aderyn). Yma deellir breswyl fodawg (‘un sefydlog diysgog’) yn enwol am Ddewi, a’r cyfuniad yn dibynnu ar presen (‘y byd hwn’). Ar preswyl fel ansoddair ‘trigiannol, cyfanheddol’, &c., gw. GPC Ar Lein.
43 cannwyf Dilynir awgrym cyntaf G 104 i’w ddeall yn ffurf cyntaf unigol presennol mynegol canfod, gan gymryd Gwelaf i effeiriaid a coethaid cannwyf yn ddau ymadrodd cydradd. Ar gystrawen coethaid cannwyf, sef gwrthrych + berf (heb eiryn perthynol a heb dreiglad), cf. GLlF 1.83 gwyrthyeu goleu gwelhator ‘gwyrthiau amlwg a welir’, a gw. GMW 181(e). Ond gwell gan G 104 ddeall cannwyf yn gyfansoddair, ac fe’i dosberthir yn betrus, ibid. 107, fel enw ‘bywiogrwydd, pybyrwch, nwyfiant’; cf. GGDT 4.69 gwir gannwyf ‘gwir angerdd mawr’. Ni chydnabyddir y ffurf honno yn GPC Ar Lein ond, o’i derbyn, gellid ei chymharu â cannerth ‘cymorth’ (can + nerth). Yn GLlF 457 dehonglir cannwyf yn ansoddair ‘tra nwyfus’.
44 gwelaf-i wir yn llwyr Er y gellid deall yn llwyr yn adferf yn goleddfu gwelaf (cf. n50(e)), fe’i deellir yma’n draethiadol, yn goleddfu gwir. Moli hawl ac awdurdod cyfreithiol gyflawn yr eglwys a wneir yn y cwpled hwn – yr hawl sy’n rhoi diogelwch i’w gwŷr. Ond gall mai cyfeirio at drefn reolaidd bywyd yr eglwyswyr a wneir, cf. Owen 1991–2: 74 ‘I shall see true order’.
45 heb allu clwyf GLlF 457 ‘heb allu [gwneuthur] clwyf’; ond o gofio bod i gallu, fel deall(u), ystyron megis ‘dwyn, cymryd’ (gw. GPC Ar Lein), deellir gallu clwyf yma i olygu ‘derbyn / dioddef clwyf’.
46 clas Cyfeirir at y teulu o grefyddwyr yn eglwys Dewi yn Llanddewibrefi, a oedd yn hen eglwys glas yn wreiddiol cyn datblygu’n eglwys golegol erbyn 1287; gw. Williams 1976: 17–18.
47 Llan Ddewi Eglwys Dewi yn Llanddewibrefi. Ond sylwer mai dyma’r unig gyfeiriad at yr eglwys honno fel Llanddewi, yn hytrach na Brefi, yn y gerdd hon: gw. n21(e) lle sylwir hefyd ar ddefnydd y ffurf Mynyw am Dyddewi. Neu tybed a yw Gwynfardd Brycheiniog yn cyfeirio at eglwys ym Mrycheiniog yn y cwpled hwn (gw. y Rhagymadrodd; Lloyd-Jones 1948: 182 a n73(e))?
48 caffwyf Cyntaf unigol presennol dibynnol y ferf caffael, gyda grym dymuniad neu orchymyn i’r ferf ddibynnol yma, gw. GMW 113 a cf. ll. 76 dihangwyf a ll. 78 diwycwyf.
49 ar nawdd Dewi y dihangwyf Deellir ar yma fel arddodiad ‘at’ o flaen cyrchfan, gw. GMW 187. Posibilrwydd arall fyddai deall ar nawdd yn gyfuniad adferfol ‘dan nawdd’ (gw. ibid 184 am ar ‘in various expressions which denote manner or condition’, a cf. ar fyrder, ar gam, ar helw, &c.). Ar ystod ystyron dianc, sef ‘dod yn ddiogel (drwy beryglon)’ yma, gw. GPC Ar Lein.
50 yn deg Fe’i deellir yn ymadrodd adferfol (ond gw. n44(e)). Cymerir mai cyfeirio at wychder ei ganu a wna’r bardd, ond byddai ‘cywir, cyfiawn, rhesymol; ?ufudd’ hefyd yn bosibl ar gyfer teg, gw. GPC Ar Lein.
51 Topos yn y farddoniaeth yw gofyn i Dduw am y gallu i ganu cerdd er mwyn gwneud cyfiawnder â gwrthrych y gerdd: cf. GCBM i, 7.1–4 Kyuarchaf y’m Ri rad wobeith, / Kyuarchaf, kyuercheis ganweith, / Y broui prydu o’m prifyeith – eurgert / Y’m arglwyt gedymdeith. Ysbrydoliaeth i ganu cerdd i Dduw yn gyntaf (ll. 83 gysefin) ac wedyn i Ddewi yw’r rheg y mae Gwynfardd Brycheiniog yn ei deisyf.
52 Dewin Dofydd Cyfuniad ar batrwm twyllwr bradwr, lle cyfosodir ‘dau enw cyffredin cydradd gyda’i gilydd, heb fod y naill yn ansoddeiriol at ddisgrifio’r llall’ a heb dreiglad meddal i’r ail enw, TC 125. Anarferol iawn yw cael yr un gair yn safle’r brifodl mewn cwpled, fel a geir yn llau. 83–4; tybed a yw’n dderbyniol am mai Duw sy’n cael ei enwi?
53 Mynyw Yr enw arferol yn y cyfnod hwn am Dyddewi, a’r enw Lladin Menevia yn tarddu o ffurf hŷn ar y gair a oedd yn gytras â’r Wyddeleg muine ‘drain’ (DPNW: 431–2) neu o bosibl yn fenthyciad o’r Wyddeleg (Sharpe 2007: 99).
54 sywedydd Fe’i haralleirir yn ‘athro’, ond byddai’r ystyron canlynol a nodir yn GPC Ar Lein hefyd yn addas, ‘gweledydd, daroganwr; dewin; dyn neu fardd doeth neu ddysgedig’ (gall fod y bardd am gyfleu gradd oruwchnaturiol doethineb y sant).
55 Dewi Brefi Cf. Dewi …Mynyw y llinell flaenorol.
56 balchlan Gyfelach Llangyfelach, prif eglwys Gŵyr, wedi ei lleoli rhwng Gŵyr Is Coed a Gŵyr Uwch Coed: ‘This was undoubtedly the mother church in the eleventh and twelfth centuries at least’, James 2007: 70. Ymddengys i Gŵyr gael ei chynnwys yn rhan o esgobaeth Tyddewi yn gymharol hwyr; ibid. 70, ‘It is hard to escape the conclusion that its acquisition by St Davids was late’. Tybed ai dyna pryd y cysegrwyd yr eglwys i Ddewi yn ogystal â Chyfelach? Ni wyddys fawr ddim am Gyfelach, ac ni ellir bod yn sicr ai sant ynteu noddwr lleyg ydoedd, gw. ibid. 71; LBS ii, 215–16; WCD 161. Yn Llangyfelach yr oedd Dewi, yn ôl Ieuan ap Rhydderch, pan ddaeth angel ato i’w anfon i Jerwsalem (gw. n14(e)), ac yno, ar ôl iddo ddychwelyd, y derbyniodd rodd, sef allor mae’n debyg, gan y padriarch o Jerwsalem, yn ôl Rhygyfarch: gw. Sharpe and Davies 2007: 140, 141 ac ibid. 120, 121 deinde monasterium in loco, qui dicitur Langemelach, fundauit in regione Guhir, in quo postea altare missum accepit ‘then he founded a monastery in the place called Llangyfelach, in the region of Gower, in which he later received the altar sent to him’. Mae adeilad presennol yr eglwys yn un diweddar, ond mae tŵr canoloesol yr eglwys (sydd yn sefyll ar wahân i gorff yr eglwys bellach) a hen groes garreg yn y fynwent yn profi hynafiaeth y safle: gw. Coflein d.g. St David and Cyfelach’s church pillar cross, Llangyfelach a Tower of St David and Cyfelachs Church, Llangyfelach.
57 bangeibr Cf. ll. 91 bangeibr Henllan a gw. n58(e).
58 Meiddrym Bellach Meidrim, eglwys wedi ei chysegru i Ddewi a phlwyf yng nghwmwd Ystlwyf, Cantref Gwarthaf, gorllewin sir Gaerfyrddin, gw. WATU 154; Evans 1993. Am yr enw, sy’n gyfuniad o meidd ‘canol’ + drum / trum ‘cefnen’, gw. Williams 1921–3: 38. Cynigir yn Evans 1993: 14 mai Meidrim oedd mam eglwys y cwmwd, a hynny ar sail ei gwerth yn Taxatio 1291; cf. James 2007: 65, ‘it is evident (not least from the large size of its parish and a small detached portion) that Meidrim was the major church of this commote. It is dedicated to St David and is sited on a spur above a bridging point of the River Dewi Fawr’. Mae’r eglwys wedi ei lleoli ar safle caer gynhanesyddol, ac mae’n bosibl fod Gwynfardd Brycheiniog yn ymwybodol o hynny, wrth iddo gyfeirio at ei mynwent i luosydd: ‘The latter epithet seems probably to refer to the graveyard’s status as a sanctuary or noddfa although the enclosure is small. It is possible that there may have been some knowledge of the fortified nature of the enclosure’, James 2007: 65. Mae hefyd yn bosibl fod y bardd yma’n cyfeirio at y ffaith fod byddinoedd yn manteisio ar noddfa’r fynwent ym Meidrim ar adeg rhyfela, gw. Pryce 1993: 174n58. Am y disgrifiad o’r eglwys fel bangeibr, ll. 89, term a ddefnyddir hefyd i ddisgrifio eglwys Henllan yn ll. 91, awgryma Evans 1993: 14 ‘Bangeibr, appears to mean “high” or “great” church, perhaps in terms of a steeply pitched roof’, a chynigir ymhellach ei fod yn awgrymu adeilad pren (yn cynnwys yr elfen ceibr ‘trawst’ pren, gw. GPC Ar Lein). Ceir dau gyfeiriad perthnasol at Feidrum (ond â’r enw lle wedi ei lygru), y naill yn De Situ Brecheniauc a’r llall ym muchedd Dewi, gw. Evans 1993: 20.
59 Bangor esgor Sef Bangor Teifi yng nghwmwd Gwynionydd, Ceredigion. Ar esgor, ffurf amrywiol ar ysgor ‘caer, cadarnle, amddiffynfa’, gw. GPC Ar Lein d.g. esgor2, ysgor3; gall gyfeirio yma un ai at yr adeilad neu’n ffigurol at nawdd neu ddiogelwch yr eglwys. Enwir yn llau. 91, 93 dair o eglwysi Dewi ar lan afon Teifi: Bangor Teifi, Henllan a Maenordeifi. Mae eglwys gyfoes Bangor Teifi yn un ddiweddar: gw. James 2007: 61, a Coflein dan St Davids Church, Bangor Teifi, ‘It was rebuilt in 1812 on the same site, but possibly not in the same location as the medieval church, and retaining nothing from the earlier fabric. This church was substantially rebuilt in 1855, and then entirely rebuilt in 1930–32.’
60 bangeibr Henllan Eglwys wedi ei chysegru i Ddewi, dwy filltir i’r dwyrain o Fangor Teifi, gw. n59(e), ac ar lan ogleddol afon Teifi, yng Ngheredigion. Awgryma’r enw fod y safle yn un hynafol, ond adeilad diweddar a geir yma bellach, er bod y fynwent o’i hamgylch yn hen, gw. Coflein dan St Davids Church, Henllan. Mae’r disgrifiad o’r eglwys fel bangeibr yn awgrymu eglwys sylweddol o bren, gw. n58(e). Mae’n sicr y dylid cysylltu’r safle â Linhenlann ‘Llyn Henllan’, lle derbyniodd Sant, tad Dewi, dair rhodd yn ôl y vita Ladin, sef carw, pysgodyn a haid o wenyn, gw. Sharpe and Davies 2007: 108, 109.
61 Maenawrdeifi Trydedd eglwys Dewi ar lan afon Teifi (cf. n59(e), n60(e) ar Bangor a Henllan), a’r eglwys hon yng nghwmwd Emlyn Is-Cuch, sir Benfro, gw. WATU 149. Fe’i lleolir bellach ar lan ddeheuol yr afon, ond gall fod cwrs yr afon wedi newid (ai yng Ngheredigion ydoedd ynghynt, felly?), fel yr esbonnir yn James 2007: 61, ‘Maenordeifi has consequently lost its twelfth-century meadows, referred to by Gwynfardd Brycheiniog’. Gall yr enw Maenordeifi, fel y nodir ibid. 60, awgrymu bod y safle’n perthyn i faenor, ond ni cheir unrhyw dystiolaeth gadarn i’w gysylltu â maenor esgobaethol yn perthyn i Dyddewi.
62 Abergwyli Eglwys blwyf wedi ei chysegru i Ddewi. Mae’r eglwys bresennol yn un ddiweddar, gw. Coflein dan St David’s Church, Abergwili. Am gysylltiad Abergwili â Thyddewi yn yr Oesoedd Canol, gw. Pryce 2007: 315. Ceir y ffurfiau Gwyli a Gwili yn gynnar (ArchifMR), ac awgryma DPNW: 8 y gall mai gŵyl ‘caredig, mwyn’ yw’r brif elfen yn yr enw gyda’r olddodiad afonol -i; felly derbynnir sillafiad y llawysgrifau yn y testun golygedig.
63 gwylwlydd Dilynir G 737 a GPC Ar Lein, a’i ddeall yn ansoddair cyfansawdd gyda grym enwol yma (er y disgwylid bannod o’i flaen, efallai); cyfeirio at Ddewi a wneir, nawddsant eglwys Abergwili. Ni chafwyd enghraifft arall o gwylwlydd, ac eithrio fel enw person mewn triawd yn Pen 16: Teir phryf ychen … gỽineu ych gwylwylyd, gw. Bromwich 1946–8: 15.
64 hyfes Hon yw’r unig enghraifft gynnar o’r gair yn GPC Ar Lein; ond am yr ystyr, cf. ibid. d.g. mesyryd ‘cyflawnder o fes, mes’, lle gwelir o’r enghreifftiau fod mes yn ffynhonnell incwm werthfawr, oherwydd gellid codi am yr hawl i fwydo moch arnynt, gw. OED s.v. pannage.
65 Llannarth Eglwys blwyf wedi ei chysegru i Ddewi a Meilig yng nghwmwd Caerwedros yn Is Aeron, Ceredigion; ar yr enw, gw. Wmffre 2004: 372, ‘Llannarth means “llan of the garth” (or even possibly “the garth of the llan” if it is an inverse construction), the garth being the high ground jutting up above the streams Llethi and Iwffratus.’ Ymddengys mai Meilig oedd nawddsant cyntaf yr eglwys (amrywiad o bosibl ar Maelog, gw. James 2007: 77), ac ni wyddys pryd y cysylltwyd hi â Dewi yn ogystal. Mae’n debygol fod Llannarth yn eglwys o bwys, yn fam eglwys, ac awgrymir gan James, ibid., fod iddi gyswllt cynnar â Llanddewibrefi. Gw. hefyd LBS ii, 405.
66 Llanadnau Fe’i deellir yn GLlF 26.9 yn gyfeiriad at enw lle anhysbys; gw. ibid. 468–9, ‘Cyfetyb yr enw i’r Depositi Monasterium a geir ym muchedd Ladin Dewi’ a nodir ymhellach fod Wade-Evans 1923: 60, yn cysylltu’r fan â Llanfeugan ym Mrycheiniog, sef eglwys wedi ei chysegru hefyd i Ddewi: Sharpe and Davies 2007: 108, 109 ad Maucanni monasterium, quod nunc usque Depositi Monasterium uocatur ‘to the monastery of Meugan … To this day it is called the Monastery of the Deposit’. Credai J.E. Lloyd mai ffurf ar enw Llanarthnau/Llanarthne a geir yma, sy’n digwydd yn y ffurf lan hardneu yn Llyfr Llandaf, gw. HW3 158n165. Mae’r eglwys yn Llanarthnau hithau wedi ei chysegru i Ddewi; arni, gw. Lloyd &c. 2006: 233. Ond nid yw’r newid o Llanadnau > Llanarthnau neu vice versa yn gwbl eglur a chan na cheir tystiolaeth bellach o Llanadnau fel ffurf ar yr enw lle, mae’n rhaid hefyd ystyried awgrym G 8 i ddeall adnau yn enw cyffredin yma (cf. yr ystyron ‘claddiad, bedd’ neu ‘?lloches, gorweddfa, gorffwysfa’ a roddir iddo yn GPC Ar Lein).
67 Llangadawg O bosibl Llangadog (Fawr) yng Nghwmwd Perfedd, y Cantref Bychan, Ystrad Tywi, gw. WATU 125. Roedd hon yn eglwys bwysig, wedi ei lleoli ar y Sarn Hir, hen ffordd a gysylltai Frycheiniog a’r gorllewin: gw. James 2007: 69 ‘From Llangadog … the ancient route known as Sarn Hir, crosses Mynydd Talsarn and Mynydd Wysg across the headwaters of the River Usk to descend into the Usk valley and the ancient kingdom of Brycheiniog’. Efallai fod hyn yn arwyddocaol, o sylwi bod y bardd yn enwi Llangadog rhwng eglwysi sir Caerfyrddin / Ceredigion (llau. 90–7) ac eglwysi Brycheiniog (llau. 99–102). Er hynny, y mae cyswllt yr eglwys â Dewi yn ansicr, ac ymddengys mai ar sail y gerdd hon yr hawlir hi i Ddewi yn ogystal â Chadog yn LBS ii, 316; Coflein dan St Cadog’s Church, Llangadog. At hynny, fe’n hatgoffir ni yn James 2007: 69 fod y Cantref Bychan wedi ei hawlio gan Landaf, nid Tyddewi, yn y 12g. Ni ellir bod yn sicr ychwaith ai’r sant Cadog a goffeir yn enw’r eglwys, yn hytrach na noddwr secwlar. (Er hynny, cysylltir y terfyniad -og gan amlaf ag enwau saint, cf. Teyrnog, Cynog, &c., a gw. Russell 2001: 237–49.)Posibilrwydd arall yw mai cyfeiriad sydd yma at eglwys Llangadog ger Cydweli. Credir bod mam eglwys y cwmwd wedi ei lleoli yng Nghydweli, a meddir yn James 2007: 69, ‘This may have been at Llangadog, close to the Norman borough and Priory church of St Mary, where the place-name Sanctuary Bank also suggests an important church site.’ Ymhellach ar ddosbarthiad eglwysi Cadog yng Nghymru, gw. Bowen 1956: 39–40.
68 Llan-faes Fe’i rhennir yn ddau air yn y llawysgrifau, gan awgrymu cyfuniad acennog. Cyfeirir at eglwys Dewi yn Llan-faes ger Aberhonddu. Eglwys o ddiwedd yr Oesoedd Canol sydd bellach ar y safle, ond dichon fod hon wedi ei hadeiladu ar safle eglwys hŷn, ac mae ffynnon gyfagos, Ffynnon Dewi, yn cadarnhau cyswllt y fan â Dewi. Gw. James 2007: 46, 72.
69 Llywel Eglwys a phlwyf yn Nefynnog yn y Cantref Mawr, Brycheiniog, gw. WATU 147. Ni wyddys dim am Lywel, nawddsant cyntaf yr eglwys: ai’r un sant ag a goffeir yn yr enw lle Lanlouel yn Finistère, Llydaw? Gw. LBS iii, 387. Yn 1229 cyfeiriwyd at yr eglwys fel un a chanddi dri nawddsant, sef Llywel, Teilo a Dewi ac fe’i hadwaenid hefyd fel Llantrisant, gw. James 2007: 72; LBS ii, 317, iii, 387. Ymhellach ar yr eglwys, gw. James 2007: 72, ‘Llywel’s medieval parish was very large, divided into sub-divisions suggesting a territorial unit possibly once a cymwd (sic). Llywel is thus a good candidate for a pre-Conquest mother church’; hefyd Coflein under St Davids Church; St Teilo’s Church, Llywel or Llantrisant. Yn ei ‘Hanes y Daith trwy Gymru’, esbonia Gerallt Gymro sut y llosgwyd yr eglwys gan elynion yn ystod ei oes ‘a difa popeth yn llwyr, y tu mewn a’r tu allan’, Jones 1938: 17.
70 Garthbryngi Garthbrengi, enw eglwys a phlwyf ar ochr ddwyreiniol afon Honddu yng nghwmwd Pengelli, Cantref Selyf, Brycheiniog, gw. WATU 73. Ceir yno eglwys wedi ei chysegru i Ddewi, gw. Coflein dan Church of St David, Garthbrengy, sy’n dyddio’r eglwys i’r 12g. Fe’i lleolir ar fryn, ac felly dehonglir bryn Dewi yma’n ddisgrifiad o’r safle.
71 Trallwng Cynfyn Eglwys Dewi ym Merthyr Cynog yng Nghantref Selyf, Brycheiniog, 8km i’r gorllewin o Aberhonddu, gw. WATU 204. Meddir yn James 2007: 72, ‘Trallong, one of the three chapels of Llywel, was a valuable part of the medieval bishops’ Breconshire estates’. Mae’r disgrifiad o’r eglwys gan y bardd fel un cer ei dolydd yn amlygu agwedd ar y cyfoeth hwnnw, cf. ibid. 73, ‘The importance of meadows for hay and also for rich grazing for fattening cattle cannot be overstressed – meadows attached to David’s churches are a constant item of praise for Gwynfardd in his Canu Dewi’.
72 Yn llau. 99–102 enwir clwstwr o eglwysi ym mharthau uwch dyffryn Wysg ym Mrycheiniog: Llan-faes, Llywel, Garthbryngi a Thrallwng Cynfyn. Mae Llanddewi yn ll. 103 o bosibl yn bumed, gw. y nodyn canlynol.
73 Llanddewi y crwys Fe’i cysylltir yn GLlF 469, gan ddilyn CTC 264, â Llan-crwys neu Lan-y-crwys yng Nghwmwd Caeo, Ystrad Tywi, plwyf am y ffin â phlwyf Llanddewibrefi; gw. WATU 105, 112, 142; ond fel y nodir yn James 2007: 46, 67, ‘There is no indication that St Davids gained much here other than a dedication at, perhaps, a new stone church [llogawd newyt]’. Ni lwyddwyd i ddod o hyd i’r un cyfeiriad arall at Lan-y-crwys fel Llanddewi y crwys (cf. ArchifMR). At hynny, ni ddisgwyliem i’r bardd enwi eglwys yn y gorllewin yma, gan ei fod yn enwi’r eglwysi yn ôl eu lleoliad daearyddol yn y caniad hwn. Yn llau. 99–102 cyfeiriodd at eglwysi yn ardal Aberhonddu (Llan-faes, Llywel, Garthbryngi a Thrallwng Cynfyn); yn llau. 104 a 106 enwir dwy eglwys yn Elfael (Glasgwm a Chregrina) ac yna un ym Maelienydd yn ll. 107 (Ystradenni). Byddem yn disgwyl, felly, fod Llanddewi y crwys (ll. 103) un ai yn ardal Aberhonddu neu yn Elfael. Os felly, gellir ystyried dilyn awgrym CPAT dan Llanddewi Fach, i’w huniaethu â Llanddewi Fach yn Elfael Is Mynydd, ond gan gydnabod, ‘The significance of the “cross” element is not clear.’ Gall crwys fod yn enw unigol neu luosog, ‘croes(au)’, ac nid oes rhaid cymryd ei fod yn rhan o’r enw lle (cf. GPC Ar Lein d.g. crwys sy’n ei ddeall yn ffurf luosog ‘croesau; croesluniau’ yma). A yw’n cyfeirio at groes neu groesau arbennig yn yr eglwys neu’r fynwent? Ond tybed, mewn gwirionedd, ai cyfeiriad sydd yma at hen eglwys glas Llan-ddew ger Aberhonddu, eglwys wedi ei chysegru i Dduw yn wreiddiol, ond yna i Ddewi yn ogystal (o bosibl yn y 12g.)? (Arni, gw. Coflein dan St David’s Church, Llanddew.) Dyna a ddisgwyliem, oherwydd rhyfedd fyddai i’r bardd beidio â chynnwys yr eglwys bwysig hon lle trigai Gerallt Gymro fel archddiacon Brycheiniog; cf. James 2007: 71–2), sy’n awgrymu, ar sail y diffyg cyfeiriad ati, ‘The suspicion is that Llanddew may have been a late – even post-Conquest – addition to David’s patrimony.’ Tybed, mewn gwirionedd, ai Llandew y crwys oedd y darlleniad yma’n wreiddiol, a bod copïydd y gynsail wedi cymryd bod dew y yn wall am dewi y, gan gymryd mai enw Dewi a oedd i fod i ddilyn Llan (a hon yn gerdd iddo ef). O dderbyn y darlleniad Llanddew y crwys, ceid hefyd linell reolaidd o ran ei hyd (er, wrth gwrs, mae nifer o linellau Gwynfardd yn rhy hir, felly nid oes modd defnyddio’r ffaith honno fel dadl dros ddiwygio’r testun). Mae Llan-ddew wedi ei hadeiladu ar ffurf croes; a yw’n bosibl mai dyna yw arwyddocâd crwys? Neu ai cyfeirio a wneir at groes nodedig yn yr eglwys ei hun? Cf. Redknap and Lewis 2007: 179–80 lle disgrifir carreg a chroes wedi ei cherfio arni a oedd, o bosibl, yn rhan o allor yr eglwys ar un adeg. (Rwyf yn ddiolchgar i Heather James am ei chymorth gyda’r nodyn hwn.)
74 Glasgwm Prif eglwys Elfael, gw. n37(e) ac ymhellach ar ei lleoliad, ger bryn Glasgwm (ger glas fynydd, ll. 104), gw. CPAT dan Glascwm.
75 Craig Fruna Eglwys blwyf wedi ei chysegru i Ddewi, bellach Cregrina, yn Elfael Uwch Mynydd, gw. WATU 49. Roedd Cregrina, fel Glasgwm, yn eglwys o bwys yn Elfael wedi ei lleoli ar afon Edwy wrth droed bryn sylweddol (teg ei mynydd, ll. 106). Ymhellach, gw. James 2007: 80; Coflein dan St David’s Church, Cregrina, ‘Small 13th century church extensively restored in 1903 …’ Esbonnir yr enw, yn DPNW: 100, yn gyfuniad o craig (neu o bosibl crug) a’r enw priod anhysbys Muruna. Crugruna yw’r ffurf a geir gan Lewys Glyn Cothi yn ei gywydd i ofyn am nawdd Dewi dros Elfael, DewiLGC2 llau. 51–2 Nertha Elfael dda ddwyoes, / nodda Grugruna â’th groes. Byddai Craig(f)uruna / Crug(f)runa > Crugruna yn ddatblygiad posibl. Am ffurfiau cynnar yr enw, gw. ArchifMR d.g. Cregrina a gw. ymhellach nodyn cynhwysfawr John Rhys yn RCAHM(Rad) 39.
76 Ystrad Nynnid Llanddewi Ystradenni, neu Ystradenni’n syml heddiw, yng nghantref Maelienydd, gw. WATU 112; DPNW: 226. Daw Nynnid o’r Lladin Nonnita, ac nid yw’n eglur ai ffurf ar yr enw Non, mam Dewi, ydoedd (gw. EANC 173) neu enw person anhysbys. Lleolir eglwys Dewi yn Ystradenni ar lan ddwyreiniol afon Ieithon; eglwys o’r cyfnod modern sydd ar y safle heddiw. Gw. CPAT dan Church of St David, Llanddewi Ystradenni.
77 o’i Ffurf amrywiol ar i’w, gw. GMW 53.
78 cred a bedydd Gallai hefyd olygu byd Cred neu Gristnogaeth yn fwy cyffredinol, gw. GPC Ar Lein d.g. cred a bedydd.
79 tirion Fe’i diffinnir yn GPC Ar Lein fel ‘e.ll. neu eg.’ ‘?tiroedd; tiriogaeth, gwastadedd, tir glas’; cf. ll. 143.
80 llwyth Daniel Cf. n42(t) ar Llwyth Maried. Cynigir yn HG Cref 190 mai cyfeiriad at Ddeiniol, un o’r ddau sant a berswadiodd Ddewi i fynd i synod Brefi, sydd yma; fe’i dilynir gan CTC 264 a G 296. Ond mwy argyhoeddiadol yw cynnig GLlF 470, ‘mai enw ar linach abad neu brif glerigwr y gymuned grefyddol yn Llanddewibrefi sydd yma’. Posibilrwydd arall a gynigir yno yw i gysylltu’r enw â Daniel fab Sulien ‘a fu yn archddiagon Powys ac yn ymgeisydd ei hun am esgobaeth Tyddewi yn 1115’. Ymhellach arno, gw. Stephenson 2016: 12, 25.
81 ddiffyrth Ffurf trydydd unigol gorffennol diffryd, gw. GMW 124 (cafwyd y ffurf trydydd unigol presennol differ yn ll. 120). Tybed a yw’r bardd yn cyfeirio at achlysur benodol yn y gorffennol yma?
82 a’i gorug Enghraifft o ragenw mewnol proleptig sy’n cyfeirio ymlaen at wrthrych y ferf a nodir yn ddiweddarach yn y frawddeg (Magna fab yn fyw). Nid oes angen ei gyfieithu felly.
83 gŵr bieifydd Ystyr sylfaenol pieu oedd ‘i bwy [pi] y mae?’; ar gystrawen pieu, gw. GMW 80–1 a cf. RM 239.11 (a ddyfynnir yno) nyt oed deu di yr un onadunt, namyn duw bioedynt. Yn betrus cymerir mai Dewi yw’r gŵr, a’r wyrth o atgyfodi Magna yw’r goddrych dealledig, y nodwedd sy’n perthyn i Ddewi.
84 Magna Cyfeirir yma at hanes Dewi yn atgyfodi mab ar ei ffordd i synod Brefi, lle y disgleiriodd o flaen y gynulleidfa fel haul … ysblennydd (llau. 126–7). Fel y sylwir yn Sharpe and Davies 2007: 145, ceir yma adlais o’r hanes am Grist yn atgyfodi mab i wraig weddw yn Nain, gw. Luc 7.11–15. Ni cheir enw’r mab yn y fuchedd Gymraeg: gw., e.e., BDe 15–16 ‘Cyfodi Mab y Weddw’; WLSD 9–10. Yn y fuchedd Ladin fe’i gelwir yn Magnus (Sharpe and Davies 2007: 144, 145 Et ecce orbata mater corpus extincti pueri seruabat, qui Magnus uocabatur ‘And behold, a bereaved mother was holding the body of her dead son, who was called Magnus’). Mae’r ffurf Magna yn annisgwyl, gan ei bod yn ymddangos yn fenywaidd, ond dyma’r ffurf a geir hefyd gan Ieuan ap Rhydderch yn ei gerdd i Ddewi: DewiIRh llau. 77–8 Da y gwnâi Fagna â’i fagl / O farw yn fyw o firagl (a’r wyrth yn cael ei chyflawni unwaith eto ar ei ffordd i Frefi), gw. ibid.n. Tybed a wnaeth Ieuan ap Rhydderch, unwaith eto, ddibynnu ar awdl Gwynfardd Brycheiniog am ei wybodaeth? (Cf. n20(e) lle nodir y gall fod Ieuan ap Rhydderch wedi cael ei wybodaeth am faint tyrfa synod Brefi o gopi o’r awdl hon yn Llawysgrif Hendregadredd , llawysgrif a fyddai wedi bod yn ei gartref yng Nglyn Aeron.) Ymddengys mai Magnus a roddodd y ffurf Maen yn y Gymraeg (cf. CLlH VII.42a), sef yr enw a gofir, yn ôl pob tebyg, yn yr enw lle Llandyfânger Llandeilo Fawr (< Tyfaen, ffurf anwes ar Maen): gw. WLSD 58–9. Os yw’r enw lle yn cyfeirio at y mab a atgyfododd Dewi, mae’n ddiddorol fod Gwynfardd Brycheiniog ac Ieuan ap Rhydderch yn gyfarwydd â ffurf Ladin yr enw, yn hytrach na’r ffurf Gymraeg. Posibilrwydd arall yw fod Gwynfardd Brycheiniog wedi drysu gyda hanes am Badrig yn atgyfodi dyn marw ar ei ffordd i Magna Porta, sef y Porth Mawr ger Tyddewi: Sharpe and Davies 2007: 112, 113 paransque nauem in Portu Magno suscitauit quendam senem nomine Cruimtherj per .xii. annos iuxta litus illud sepultum ‘As he was preparing a ship at Porth Mawr, he raised up an old man, named Cruimther, who had been buried near that shore for twelve years.’
85 braint ehedeg Dilynir G 451 a GPC Ar Lein (‘hedegog, rhwydd ei rediad’) a chymryd bod grym ansoddair i’r berfenw ehedeg yma.
86 dy-m-gordden Yr unig enghraifft yn G 425 a GPC Ar Lein o’r ferf dyordden(u) ‘bodloni, boddhau, rhyngu bodd; denu’, gyda’r rhagenw mewnol gwrthrychol, ’m, wedi ei leoli rhwng y rhagddodiad a’r ferf; gw. GMW 56 am enghreifftiau pellach o’r gystrawen hynafol hon.
87 prydest Tarddair o’r ferf prydu (am y terfyniad -est, cf. gwledd + -est > gloddest); esbonnir yn GPC Ar Lein mai canlyniad camddeall hen orgraff, yn ôl pob tebyg, yw’r ffurf ddiweddar pryddest.
88 dull ychwaneg Dehonglir ychwaneg yma yn ddisgrifiad o’r math hwn o awdl, lle yr ychwanegid sawl caniad at ei gilydd i wneud un gerdd hir. Ond mae GLlF 459 ‘o ffurf ragorol’ hefyd yn bosibl.
89 Gröeg Fel y nodir yn GPC Ar Lein d.g. Groeg, Goröeg, gall gyfeirio at diriogaeth ehangach na’r wlad ei hun. Ai gormodiaith sydd yma drwy awgrymu bod dylanwad Dewi yn cyrraedd mor bell â Groeg?
90 Iwerddon – tirion tir Gwyddeleg Yn GLlF 459 deellir Iwerddon tirion yn gyfansoddair gyda tirion yn brif elfen, ‘[t]iriogaethau Iwerddon’ (ar tirion fel enw unigol neu luosog, gw. n79(e)). Ond os felly, disgwylid Iwerddon dirion (ar lun hydref ddail). At hynny, gan mai enw benywaidd yw Iwerddon (cf. GDEp 3.28 Iwerddon fawr), disgwylid hefyd i tirion dreiglo ar ôl yr enw benywaidd Iwerddon petai’n ansoddair yn ei oleddfu. Yn betrus, felly, deellir tirion yn ansoddair yn perthyn i ail hanner y ll., gyda tirion tir Gwyddeleg (er mai chwithig braidd yw hynny gan y disgwylid toriad mydryddol ar ôl tirion).
91 Carawn Ardal yng nghwmwd Pennardd yn Uwch Aeron yn cynnwys Caron-is-clawdd (ardal Tregaron) a Charon-is-clawdd (Ystrad-fflur) a ymestynnai hyd afon Aeron, gw. WATU 35, 311. Caron hefyd oedd enw’r sant a gladdwyd yn ôl traddodiad yn Nhregaron, gw. LBS ii, 135–6; WCD 107. Tardda afon Teifi yn Llyn Teifi, ychydig i’r gogledd o Garon-is-clawdd a lluniai’r afon ffin orllewinol nodua Dewi: BDe 18.21–2 kennat yw idaw vynet o Dyui [= Dywi] hyt ar Deivi, a gw. ibid. 55.
92 ehöeg ‘Lliw blodau’r grug, porffor’, GPC Ar Lein. Dichon mai cyfeirio a wneir at wawr borffor y tir yn ardal Caron oherwydd y grug a dyfai yno.
93 Tywi Afon yn tarddu yn y Llyn Du, gw. n94(e), gan lunio’r ffin rhwng Ceredigion a Buellt i’r dwyrain a rhwng Ceredigion a sir Gaerfyrddin yn y de, gw. EANC 171–2. Dynodai afon Tywi ffin ddwyreiniol nawdd Dewi yng Ngheredigion, gw. n91(e).
94
Llyndu Anodd bod yn sicr am leoliad Llyndu / Llyn Du, gan fod sawl un yng Ngheredigion oherwydd natur y pridd corslyd mewn mannau.
Lleolir yr enwocaf ohonynt i’r gogledd o Lynnoedd Teifi, ac mae dŵr ohono’n llifo i Glaerddu ac i gronfa Claerwen. Dyma, yn
ôl pob tebyg, yw’r ‘Linduy, i.e. lacus niger’ yng Ngheredigion y cyfeiria Leland ato yn yr 16g. (Smith 1906: 107; Wmffre 2004: 882). Ond dichon fod hwn yn rhy ogleddol i fod yn berthnasol ar gyfer yr awdl hon.Ceir un arall yn rhan ogleddol Fforest Tywi, yn y mynyddoedd sy’n gorwedd rhwng Ceredigion a Buellt, tua chwe milltir i’r
gogledd-ddwyrain o Dregaron. Esbonnir yn Jenkins 2005: 62), ‘Mae’r afon Tywi yn tarddu yn Llyn Du ger Tregaron, gan lifo trwy ddyffryn toreithiog i Fae Caerfyrddin’; dyma’r llyn
y cyfeiria Gwynfardd Brycheiniog ato yn ôl y nodyn yn HG Cref 192 (a gw. n91(e), n93(e)). Mae disgrifiad y bardd o’r llyn fel man lle y bu gwrthdaro chwyrn (llid gyhydreg) yn ddadl o blaid ei uniaethu â’r llyn hwn sydd, fel y nodwyd uchod, ar y ffin rhwyng dwy ardal. Tybed a fu’n fan lle byddai
pleidiau o’r ddwy ardal yn cydgyfarfod er mwyn ceisio datrys anghydfod, yn yr un modd ag yr oedd Bwlchoerddrws yn cael ei
gydnabod yn fan cyfarfod rhwng Meirionnydd a Mawddwy yn ôl tystiolaeth ddiweddarach, gw. Smith 1964–6: 313–14. Tybed a ddynodai’r Llyn Du y ffin rhwng tiroedd Padarn yng ngogledd Ceredigion a thiroedd Dewi yn y de?
Trydydd posibilrwydd, a ffafriwyd yn Wmffre 2004: 1258), yw Llyndu rhwng Llanddewibrefi a Llangeitho a oedd hefyd yn gwagio i afon Teifi. Mae’r llyn hwn bellach wedi sychu,
ond ceir cyfeiriadau ato mewn enwau lleoedd cysylltiedig megis Celli Llyndu a Phontllyndu; cf. hefyd cyfeiriad canlynol mewn
siediwl o’r 17g. at Y Ddôl Wen ar Lan y Llyndu (gw. ibid. 1258, also 538, 595).
Gan fod y cwpled O’r Llyndu … / Hyd ar Dwrch (146–7) yn awgrymu ehangder tiriogaeth Dewi o’r gogledd i’r de, ac oherwydd yr awgrym o leoliad ar y ffin, yr ail Lyndu a nodwyd uchod a ffefrir (gyda pheth petruster) yn y golygiad hwn.
95 Twrch Cf. GLlF 471; Wmffre 2004: 1294 a James 2007: 67 sy’n ei ddeall yn gyfeiriad at afon Twrch sy’n codi yn y mynydd-dir ychydig i’r de-ddwyrain o Landdewibrefi ac yn llifo i’r de trwy Lanycrwys cyn ymuno ag afon Cothi ychydig i’r de o Bumsaint. Ymddengys fod yr afon hon yn dynodi ffin dde-ddwyreiniol noddfa Dewi. (Gwrthodir awgrym CTC 264 mai afon Twrch yn sir Frycheiniog ydyw, sy’n ymuno ag afon Tawe yn Ystalyfera.)
96 terfyn tir â charreg Ymddengys hwn yn gyfeiriad at ryw garreg o bwys a ddynodai’r ffin, a hynny heb fod ymhell o afon Twrch. Dichon fod James 2007: 67) yn gywir mai Hirfaen Gwyddog, carreg sy’n dal i sefyll o hyd, yw hon: arni, gw. Coflein dan Carreg Hirfaen; Hirvaen Gwyddog, ‘An erect monolith, 4.8m high by 1.1m by 0.8m, carrying a modern in[s]cription: serves as a boundary marker between Ceredigion and Carmarthenshire, first mentioned in this role in the 10th century AD’. Saif y garreg tua 2km i’r gorllewin o afon Twrch. Fe’i henwir yn Efengylau Caerlwytgoed (hirmain guidauc), yn nodi ffin orllewinol Trefwyddog, sef ardal a gyfatebai’n ddiweddarach i diriogaeth Caeo.
97 Disgrifia chwe llinell olaf y caniad (llau. 148–53) arglwydd sy’n gyfoes â’r bardd ei hun. Fe’i gelwir yn Ddehebartheg – bair (ll. 148), yn ddiffreidiad teg (ll. 152) a daw’r caniad i uchafbwynt drwy ei enwi’n llawn: Rhys mawr, Môn wledig, rheodig reg (ll. 153). Dilynir GLlF 471 a deall y cwpled cyntaf yn gyfeiriad ‘at ryw ddigwyddiad cyfoes lle yr oedd gwartheg Llanddewibrefi, a oedd o dan ofal yr arglwydd lleol, wedi eu dwyn. Geill mai’r Arglwydd Rhys a olygir gan Deheuparthec beir a’i fod yntau wedi dod i Landdewibrefi i ddial y lladrad.’ Ond yn HG Cref 192 a CTC 264 cymerir mai cyfeirio a wneir yn y cwpled at yr achlysur pan fu farw holl anifeiliaid Boia, ac y danododd Boia hynny i Ddewi, gw. BDe 8.5–8. O blaid y dehongliad cyntaf y mae’r disgrifiad canmoliaethus o’r arglwydd fel dyn diwair (ll. 149).
98 Môn wledig Yr Arglwydd Rhys ap Gruffudd. Roedd gwledig yn derm a ddynodai statws brenhinol, fel rhi, tëyrn, brenin, mechdëyrn ac amherawdr, gw. Andrews 2010: 90, 94–6; Andrews 2011: 56. Ceir sawl cyfeiriad at leoedd ym Môn yn y cerddi i’r Arglwydd Rhys gan Gynddelw Brydydd Mawr a Seisyll Bryffwrch yn ogystal â chan Wynfardd Brycheiniog, ac awgrymir yn GLlF 472 y gall mai gwerth symbolaidd sydd i’r cyfeiriadau hyn, oherwydd ‘bod goruchafiaeth dros Fôn yn golygu rhyw fath o oruchafiaeth dros Gymru gyfan’; cf. Jones 1996: 137. Yr Arglwydd Rhys oedd tywysog mwyaf pwerus Cymru ar ôl marwolaeth Owain Gwynedd yn 1170, ac er nad oes tystiolaeth bod grym penodol ganddo ym Môn, mae’n bosibl ‘iddo gael dylanwad ehangach yng Ngwynedd yn rhinwedd yr oruchafiaeth a sicrhaodd Rhodri ab Owain, ei fab-yng-nghyfraith, yng Ngwynedd Uwch Conwy [yn cynnwys Môn] erbyn 1175’, fel y nodir yn Smith 1996: 35.
99 urddawl Cymerir bod llinellau agoriadol y caniad hwn yn disgrifio cynrychiolydd Dewi yn Llanddewibrefi, sef pennaeth yr eglwys yno yn y 12g. a oedd yn gyfrifol am ei hysgolheigion, ei llyfrau a’i mantell o sidan wedi’i brodio (ll. 157).
100 llên ‘Gwŷr llên’, yr ‘ysgolheigion’ neu’r ‘clerigwyr’ yn Llanddewibrefi; ond gall hefyd mai ‘dysg, dysgeidiaeth’ yw’r ystyr yma; gw. GPC Ar Lein d.g. llên (a) a (b).
101 llen bali Gw. n114(e) ar allawr deg.
102 deuth Un o ffurfiau trydydd unigol gorffennol dyfod; ceir ffurf arall, doeth, yn ll. 162. Gw. GMW 134.
103 o’i Ffurf amrywiol ar y’w ‘i’w’, gw. GMW 53n2.
104 Cyfeirir yn llau. 158–61 at wyrth pan adferodd Dewi ei olwg i Ffranc a oedd yn wynepglawr a deithiasai o Ffrainc i geisio ei gymorth. Mae’n bosibl mai gwyrth a gyflawnwyd yn Llanddewbrefi trwy ras Dewi yn y 12g. oedd hon, fel yr awgrymir yn GLlF 472. Mae’r hanesyn nid yn unig yn cyfleu grym parhaol gwyrthiau Dewi i iacháu dallineb, ond hefyd yn awgrymu enwogrwydd pell-gyrhaeddol y gwyrthiau hynny. Ni cheir dim yn cyfateb i’r hanes hwn
yn y bucheddau (ac nid yw arwyddocâd y pesychu yn amlwg!), ond ceir tri hanes am Ddewi yn adfer golwg deillion, ac mae’n ddigon posibl ei fod yn cael ei gysylltu’n arbennig â’r gallu i adfer golwg.i. Digwyddodd y wyrth gyntaf ar ddydd ei fedydd: BDe 4.15–16, 19–20 A dall a oed yn daly Dewi wrth vedyd a gafas yna y olwc … Ac o’r awr y ganet, dall wynepclawr oed. Ac yna y olwc a gafas …. Ym muchedd Rhygyfarch, enwir y dyn dall a ddaliodd y baban Dewi fel Mobhí Sant o Glasnevin, gw. Sharpe and Davies 2007: 117n34, ‘St Mobi of Glasnevin, known in Irish as Mobi Clarainech (flat-faced) from his having been born without eyes or
nose’; a chyfeiria Iolo Goch ac Ieuan ap Rhydderch at y gŵr hwn fel tad bedydd i Ddewi: DewiIG llau. 39–40 Ei dad bedydd, dud bydawl, / Dall wynepglawr, mawr fu’r mawl; DewiIRh llau. 33–4 Rhoes i’i dad bedydd, medd rhai / Ei olwg – gynt ni welai. (A yw’n bosibl fod Gwynfardd Brycheiniog yn cyfeirio at y wyrth hon yma? Gallai Ffranc gyfeirio at rywun o dramor yn gyffredinol, yn ogystal ag at rywun o Ffrainc, gw. GPC Ar Lein. A ddefnyddiwyd y gair Ffranc am Saint Mobhí fel un o dramor (o Iwerddon) yn ffynhonnell Gwynfardd (boed honno’n ffynhonnell lafar neu ysgrifenedig) ond iddo gael ei ddehongli ganddo ef, neu ei ffynhonnell, i gyfeirio at
rywun o Ffrainc yn benodol?)
ii. Digwyddodd yr ail wyrth yn ystod ieuenctid Dewi, pan adferodd olwg ei athro Peulin, BDe 5.17–18 A phan rodes
Dauyd y law ar y lygeit ef, y buant holl iach.
iii. Y trydydd achos oedd adfer ei olwg i Beibiog neu Beibio, brenin Erging: BDe 6.10 Odyna y rodes gwaret i Pebiawc, vrenhin Erging, a oed yn ddall. Yn y nodyn, ibid. 39, cyfeirir at y disgrifiad yn Llyfr Llandaf o Beibiog fel clauorauc ‘clafoeriog, drivelling’; ond yn y nodyn cyfatebol yn WLSD 39, ychwanegwyd ‘leprous’ (cf. GPC Ar Lein dan claforog). Dyma, felly, bosibilrwydd arall o ran y gŵr wynepglawr y cyfeiria Gwynfardd Brycheiniog ato yn yr awdl.
105 tynged Dewi Topos yn y cerddi i seintiau yw canmol tynged neu ffawd y sant, a’r hyn a olygir fel arfer yw bod y sawl sy’n byw dan nawdd neu ffafr y sant hwnnw yn mwynhau bywyd o ddedwyddwch a diogelwch yn sgil derbyn ei fendith: cf. DewiIRh llau. 5–6 Nid gwell sant (ffyniant ei ffawd) / No Dewi, iawn y dywawd.
106 Llau. 162–5. Ni cheir goleuni ym muchedd Dewi am ferch i frenin o’r dwyrain yn dod i Landdewibrefi i ganlyn ei fri. Os cywir mai at wyrth a ddigwyddodd yn y 12g. y cyfeiriodd y bardd yn llau. 158–61 (gw. n104(e)), yna gall mai at ymweliad cyfoes arall y cyfeirir yma (er bod tinc chwedlonol i’r cyfuniad brenin dwyrain yn ll. 162). Dilynir GLlF 472 wrth ddehongli A phryd a gweryd yn ddisgrifiad o harddwch a daioni’r ferch, gyda’r gair gweryd ‘gwaredigaeth’ yn benodol yn awgrymu mai merch dduwiol ydoedd (gan mai ceisio gwaredigaeth a wnâi pererinion fel arfer, nid ei chynnig). Ond mae’n bosibl hefyd mai ‘tywarchen’ yw ystyr gweryd yma: gw. n57(t).
107 mynwent Ddewi Mae’r cyd-destun yn awgrymu mai mynwent Llanddewibrefi sydd gan y bardd yn ei feddwl yma (cf. y cyfeiriad at Frefi yn ll. 162), ond gallai efallai gyfeirio’n gyffredinol at unrhyw fynwent a oedd yn gysylltiedig ag eglwys ar enw Dewi. Fodd bynnag, cofier mai i fynwent Mynyw, lle claddwyd Dewi ei hun yn ôl traddodiad, y priodolodd Iolo Goch y rhinwedd hon, DewiIG llau. 95–8 I bwll uffern ni fernir / Enaid dyn, yn anad tir, / A gladder, diofer yw, / Ym mynwent Dewi Mynyw; cf. yr hyn a ddywedir yn y fuchedd am fynwent Dewi yng Nglyn Rhosyn, BDe 7.2–3 a glader y mynwent y lle hwnnw heuyt, nyt a neb y uffern. Sylwer nad dweud a wneir yn y ffynonellau hyn fod y sawl a gleddir ym mynwent Dewi yn mynd yn syth i’r nefoedd, ond yn hytrach ei fod yn osgoi cael ei anfon i uffern. Nid rhinwedd yn perthyn i fynwentoedd Dewi yn unig oedd hon (cf. TWS 47), oherwydd credid yn gyffredinol yn yr Oesoedd Canol bod claddedigaeth ar dir cysegredig eglwys yn llesol i’r enaid, un ai drwy bod nawddsant yr eglwys honno’n eiriol ar ran yr enaid gerbron Duw ar Ddydd y Farn, neu ynteu bod gweddïau’r eglwyswyr yn hyrwyddo’i ffordd i’r nefoedd (Burton and Kerr 2011: 163–5). Diddorol yw’r cyfeiriad canlynol yn Parochialia Edward Lhuyd at natur warchodol llain bychan o dir cysylltiedig ag enw Dewi ym mynwent eglwys San Mihangel yng Nghaerwys, sir Ddinbych: Mae Troeedvedh o dîr yn y Vynwent o [sic] elwir tir Dewi; am hynny ni dhaw byth gornwyd ir dre ymma, gw. Paroch i, 67.
108 iddi Cyfeirir at yr enw benywaid gwerin. Yn GLlF 459 cymerir mai at ‘tiriogaeth Peulin’ y cyfeirir, ond nid oes enw benywaidd sy’n cyfleu hynny yn y testun.
109 y’i gwarawd Cyfeiria’r rhagenw mewnol at yr enw benywaidd unigol gwerin yn y llinell flaenorol (er ei aralleirio yma fel petai’n lluosog, ‘daeth … â gwaredigaeth iddynt’).
110 Ceir yn llau. 168–75 hanes am Ddewi yn ymateb i gais Peulin am gymorth i atal adar gwyllt rhag difetha’r ŷd ar ei dir, drwy eu casglu ynghyd mewn un ysgubor fawr. Ni cheir dim i gyfateb i hyn yn fersiynau rhyddiaith ei fuchedd. Fodd bynnag, cyfeiria’r beirdd at y wyrth hon yng nghyswllt Dewi: DewiLGC1 llau. 19–20 Ac o’r ŷd gyrru adar / Yn wâr i brennau irion; DewiLGC2 llau. 15–16 O’r ŷd y troist yr adar / I dŷ’r nos yn daran wâr; DewiIG llau. 85–6 Yr adar gwyllt o’r hedeg / A yrrai i’r tai, fy iôr teg; ac mae’n debygol mai dyma’r wyrth a oedd gan Risiart ap Rhys yntau yn ei feddwl, DewiRhRh llau. 9–10 Ceirw a’r adar, o’u cerrynt, / Di-led, gwâr, y’u delid gynt. Ceir hanes gwyrth debyg ym muchedd Illtud, pan gaethiwodd Samson yr adar a oedd yn dwyn ŷd Illtud mewn ysgubor, gw. VSB 212–15 (§14); ac ym muchedd Paul Aurelian, gyrrir yr adar ymaith o’r ŷd ac i mewn i ysgubor fel pe baent yn ddefaid yn cael eu gyrru i mewn i gorlan, gw. Doble 1960: 14.
111 llawr llenwi Deellir llenwi yn ferfenw yma, ac er disgwyl iddo dreiglo o’i ragflaenu gan ei ‘wrthrych’, cedwir y gysefin ll- yn dilyn –r, gw. TC 27–9. Gellid hefyd gymryd llenwi yn ffurf trydydd unigol amherffaith (am y terfyniad i, gw. GMW 121 a cf. ll. 168 gorelwi) a deall llawr llenwi yn enghraifft o hen gystrawen, lle gosodid y gwrthrych yn syth o flaen berf bersonol, heb na rhagenw perthynol na threiglad, gw. TC 368; Lewis 1928–9: 149–52; a cf. GMB 10.30 Callonn klywaf yn llosgi.
112 Ffichti Y Pictiaid, a adwaenid weithiau fel y Gwyddyl Ffichti(aid), gw. G 505 a GPC Ar Lein; hwy, yn ôl y Trioedd, oedd yr ail Gormes a doeth y’r Enys Hon, TYP 90, 93. Disgrifir Boia (heb ei enwi) ym Muchedd Teilo fel tywysog o blith y Pictiaid, a ddisgrifir fel pobl ystrywgar wedi eu hyfforddi i ymladd ar fôr ac ar dir: gw. Rees 1840: 335 ‘a certain people, of Scythia, who … were called Picts, came in a very large fleet to Britain … the Picts were crafty, and trained in many engagements by sea and land’, ac ymhellach ibid. 336. Mae’n bosibl, felly, mai at wŷr Boia y cyfeiria Gwynfardd Brycheiniog yma. Ymddengys fod Ffichti wedi magu’r ystyr mwy cyffredinol o fôr-ladron yn gynnar: cf. Gruffydd 2002: 24 ‘Efallai fod yr enw Ffichti gyda threigl amser yn cael ei ddefnyddio ar gyfer unrhyw fath o fôr-leidr’; gw. ymhellach LPBT 70 a cf. GIG XI.31–2 O daw dan llaw llu Ffichtiaid / O’r môr hwnt …, XVII.57–8. Mae’n ddigon posibl, felly, mai at ymosodiad cyffredinol o’r môr y cyfeiria Gwynfardd Brycheiniog yma.
113 Rhos Cantref i’r de o Bebidiog (WATU 188) a oedd yn arbennig o agored i ymosodiadau o’r môr.
114 allawr deg Yn ôl buchedd Ladin Rhygyfarch, derbyniodd Dewi bedair rhodd gan badriarch o Jerwsalem pan oedd ar bererindod yno, sef allor, cloch, ffon fagl a thiwnig, gw. Sharpe and Davies 2007: 140, 141. Ond gan y byddent yn rhy drwm i Ddewi eu cludo yn ôl i Gymru, dywedodd y padriarch y byddai’n eu gyrru ato ar ôl iddo ddychwelyd gartref. Derbyniodd yr allor pan oedd yn Llangyfelach: ibid. 120, 121 deinde monasterium in loco, qui dicitur Langemelach, fundauit in regione Guhir, in quo postea altare missum accepit ‘then he founded a monastery in the place called Llangyfelach, in the region of Gower, in which he later received the altar sent to him’. Cyfeirir at cloch Ddewi yn ll. 184 (cf. n38(e) ar Bangu) ac at ei fagl aur ei phen yn ll. 186. Tybed ai’r tiwnig neu’r fantell a dderbyniodd gan y padriarch yw’r syndal dudded yn ll. 209? Ac ai hon yw’r llen bali (ll. 157) a wisgai pennaeth yr eglwys yn Llanddewibrefi yn oes Gwynfardd Brycheiniog? Gw. hefyd n39(e).
115 cloch Ddewi Un arall o’r pedair rhodd a dderbyniodd Dewi gan y padriarch o Jerwsalem, gw. ll. n114(e). Ai Bangu yw hon, y gloch a roddodd Dewi yn rhodd i’w eglwys yng Nglasgwm, gw. n38(e)?
116 braich fraisg Yn GLlF 474 fe’i cysylltir â Chapel y Gwrhyd ger Tyddewi, gan awgrymu y gall fod traddodiad ‘ynglŷn â grym a maint breichiau Dewi’ (gw. GPC Ar Lein d.g. gwryd1, gwrhyd ‘yr hyd rhwng eithafion y ddwyfraich ar led’, &c.). Wrth gwrs, mae’n ddigon posibl mai enw topograffyddol pur oedd gwrhyd yn wreiddiol, ac mai yn ddiweddarach y cysylltwyd ef a hanesion am y sant.
117 Mae llau. 190–1 fel petaent yn cyfeirio at draddodiad am Ddewi yn hwylio dros y môr ar lechen drwy gymorth Duw. Cyfeiriodd y bardd at yr un traddodiad, eto yng nghyswllt pererindod y sant, gw. n11(e).
118 tri mwg Ni wyddys am gyfeiriad arall at dri mwg yn benodol yn hanes Dewi, a chan hynny awgrymwyd dileu’r tri yn HG Cref 195 gan fod y llinell yn rhy hir o sillaf; o ddiwygio byddai’r llinell yn ymrannu’n rheolaidd yn 5:4 sillaf. Ond gan fod nifer fawr o linellau’r gerdd yn afreolaidd o ran eu hyd, derbynnir y darlleniad fel y saif. Dichon mai cyfeirio a wneir at hanes y mwg yn y fuchedd. Daethai Dewi a’i ddisgyblion i Lyn Rhosyn a chynnau tân yno: BDe 7.8–10 A phan gynneuassant wy dan yno y bore glas, y kyuodes mwc ac y kylchynawd y mwc hwnnw yr ynys honn oll, a llawer o Iwerdon. Achosodd yr olygfa hon dristwch mawr i’r arglwydd lleol, Boia, a esboniodd wrth ei wraig: Y gwr … a gynneuawd y tan hwnnw, y vedyant ef a gerda fford y kerdawd y mwc, ibid. 7.18–19. Arwydd o feddiant ac awdurdod, felly, oedd y mwg, fel yr esbonnir yn GLlF 474. Ceir yr un thema ym muchedd Padrig yn Iwerddon, gw. TWS 47–8; Sharpe and Davies 2007: 121n51. Gellir cymharu hyn ag arferion dadannudd yn y Cyfreithiau, a oedd yn symbol o barhad etifeddiaeth, gw. Charles-Edwards 1968–70: 212–13.
119 a fyn Duw Cyfeirir at y person sy’n chwennych Duw, ac yn dod i’w adnabod drwy Ddewi. Duw felly yw gwrthrych y ferf.
120 rhan Dyfynnir y llinell hon yn GPC Ar Lein d.g. rhan (f) lle rhoddir yn betrus yr ystyr ‘rhannwr’.
121 gwestfa Ar ei ystyr gyfreithiol, sef treth a delid i frenin gan wŷr rhydd, gw. GPC Ar Lein d.g. gwestfa (b); ond fel y nodir yn GLlF 474, dichon mai’r ystyr yma yw ‘erfyniad am dâl i Ddewi neu yn hytrach i’w gymuned’ gan y gwestai, o bosibl Gwynfardd Bycheiniog ei hun, neu ynteu’r Arglwydd Rhys.
122 syndal Defnydd yn arwyddo statws uchel y sawl a’i gwisgai: GPC Ar Lein ‘math o liain main sidanaidd’, cf. OED s.v. sendal ‘a thin rich silken material’. A ellir cysylltu’r wisg hon â’r tiwnig a dderbyniodd Dewi yn rhodd gan y padriarch o Jerwsalem? Gw. n114(e).
123 Cf. ll. 111 Pen argynnan coned cred a bedydd.
124 Ai Dewi oedd y rhoddwr yn llau. 212–13, yn yr ystyr bod y rhoddion wedi eu cyflwyno yn enw Dewi, boed yn Llanddewibrefi neu ym Mynyw?
125 gwrthebed Ffurf trydydd unigol gorchmynnol gwrthebu ‘ateb’; gthg. ll. 215 gwrtheb ‘ateb negyddol, gwrthodiad’.
126 hyglau Wrth ddisgrifio bardd (sef Gwynfardd Brycheiniog ei hun yma), byddai ‘uchel, hyglyw, … clir, eglur’ neu ‘hysbys, enwog’ yn ystyron addas, gw. GPC Ar Lein.
127 gwyrthfawr briodawr Disgrifiad o Ddewi, mae’n debyg, neu efallai’r pennaeth eglwysig yn Llanddewibrefi neu Fynyw (cyfeirir at Fynyw yn ll. 220) neu bennaeth secwlar, megis yr Arglwydd Rhys.
128 trydypla Wyddyl Cymerir mai’r ymosodwyr o’r môr neu’r môr-ladron a ddisgrifiwyd yn llau. 218–25 yw’r trydydd pla hwn. Cf. n112(e) ar Ffichti (ffurf amrywiol ar Wyddyl Ffichti). Daeth y rhain â trydybudd ‘un o dri budd’ (ll. 227) i Fynyw oherwydd bu’n rhaid iddynt dalu treth i’r sant er mwyn iddo adfer eu golwg. Mae’r bardd yn cyfeirio at yr ymosodiad hwn gan mwyaf yn y presennol / dyfodol, a’r tebyg yw mai’r ergyd yw os daw ymosodiad eto, fel yr un (neu’r tri) a fu yn y gorffennol, yna bydd yn sicr o fethu a bydd y tywysog (boed y sant, pennaeth yr eglwys neu’r arglwydd secwlar) yn elwa unwaith eto.
129 Trydypla Wyddyl … / Trydybudd Mynyw Ar trydy-, ffurf arbennig ar y rhifol trydydd mewn cyfuniadau, gw. GPC Ar Lein a GMW 48. O ran ei ystyr, gallai olygu ‘un rhan o dri’ yn ogystal ag ‘olaf mewn cyfres o dri’: mae’n debygol mai’r ail ystyr sy’n berthnasol yma. Mae’r treiglad meddal yn dilyn Trydypla (yn wahanol i Trydybudd) gan fod iddo rym ansoddeiriol, yn goleddfu Wyddyl.
130 peusydwys Berf trydydd unigol gorffennol sydd yma; am y terfyniad, gw. GMW 123. Ni chynhwysir y ferf yn GPC Ar Lein, ond ceir yno’r enw peusyd, peusydd, peusyth gydag enghreifftiau o’r 16g. ymlaen: ‘darn o haearn ar lun croes wedi ei osod yn wyneb isaf yr uchaf o’r ddau faen melin i gynnal hwnnw ar y werthyd sy’n ei droi; uniad cynffonnog, tryfaliad, cynffon y golomen; cramp, gafaelfach, craff’. Dilynir awgrym GLlF 461, 475 a’i ddeall yn gyfeiriad at y weithred o adeiladu, hynny yw, drwy gysylltu prennau â’i gilydd. Mae’n aneglur ai Boia neu Ddewi yw goddrych y ferf yma. Efallai bod yr hanesyn canlynol o fuchedd Teilo yn awgrymu mai Boia ydyw:ar ôl disgrifio’r Pictiaid yn ymosod o’r môr (cf. n112(e), n128(e)), meddir, ‘And when a certain prince of that impious nation had arrived from the seaport, and by murdering the unfortunate inhabitants, and burning the houses and churches of the saints, proceeded as far as the city of St. David’s; he here stopped, and built himself a palace’, Rees 1840: 336. Dilynir hyn gan esbonio sut y ceisiodd Boia (heb ei enwi) gael ei feistres tŷ i yrru ei morynion i godi cywilydd ar Ddewi a’i ddisgyblion, sef yr hanes a geir nesaf yn y gerdd hon, yn llau. 230–35.
131 trefnau Lluosog trefn, e ac iddo ystod ehangach o ystyron mewn Cymraeg Canol, e.e. GPC Ar Lein ‘ystafell, siambr, cell, adeilad, tŷ, cartref; (yn y ll.) offer, celfi, dodrefn’. Ar ei ystyr yma, gw. y nodyn blaenorol ar peusydwys.
132 Hoddnant Enw cyffredin ar nant yng Nghymru (cf. EANC 151–2): < hawdd (‘rhwydd, dymunol’) + nant (‘dyffryn’ yn ogystal â’r dŵr a lifai drwy’r dyffryn, cf. GPC Ar Lein d.g. nant (a), (b)). Hoddnant, yn ôl Rhygyfarch, oedd ffurf y Cymry ar yr enw Vallis Rosina: Sharpe and Davies 2007: 120–1 Rosinam Vallem, quam uulgari nomine Hodnant Brittones uocitant ‘Vallis Rosina, which the Welsh are in the habit of calling by the common name of Hoddnant’, gw. hefyd BDe 42; WLSD 44–5. Cyfeirir hefyd at safle eglwys Dewi yn Nhyddewi fel Glynn Hodnantyn y fuchedd Gymraeg, gw. BDe 9.23–4.
133 Cyfetyb llau. 232–5 i hanes a geir yn y fuchedd am wraig Boia yn gorchymyn i’w llawforynion ddiosg eu dillad o flaen Dewi a’i ddisgyblion er mwyn codi cywilydd arnynt a’u gorfodi i adael y fan, fel bod ei gŵr yn gallu bod yn bennaeth: BDe 8.17–20 Ac yna y dywawt gwreic Boya wrth y llawvorynyon: ‘Ewch, ’ heb hi, ‘hyt yr auon yssyd geyr llaw y sant, a diosglwch awch dillat, ac yn noeth dywedwch wrthunt geireu anniweir kewilydyus’. Roedd y disgyblion yn awyddus iawn i ymadael, ond cyngor Dewi iddynt oedd i sefyll yn gadarn gan felly orfodi’r merched i adael (cf. ll. 233 methlwyd wyntau). Er mai gwraig Boia a oedd yn gyfrifol am orchymyn y merched yn ôl buchedd Dewi, Boia ei hun a barodd i’w wraig wneud hynny yn ôl buchedd Teilo, gw. Rees 1840: 336. Nid yw’r berfau amhersonol a geir yn y gerdd yn gymorth i benderfynu pa fersiwn o’r hanes a oedd yn hysbys i’r bardd.
134 aethan’ faddau Ar myned maddau ‘to be in vain, be lost, be forfeit’, gw. GPC Ar Lein d.g. maddeuaf: maddau. Gan mai ar lan afon y gweithredodd y merched eu cynllun digywilydd, yn ôl y fuchedd (BDe 8.18 a gw. y nodyn blaenorol), nid amhosibl yw cynnig HG Cref 196 i ddeall faddau yn ffurf dreigledig baddau, lluosog badd ‘bath’, a’r cyfuniad yn golygu rhywbeth fel ‘aethant i ymdrochi’. Nid yw fersiynau Cymraeg a Lladin buchedd Dewi yn esbonio beth a ddigwyddodd i’r merched, ond ym muchedd Teilo dywedir eu bod wedi mynd yn wallgof (gw. y nodyn canlynol). Mae’n amlwg fod Gwynfardd Brycheiniog ac awdur buchedd Teilo yn gyfarwydd â fersiwn llawnach, ac ychydig yn wahanol, o’r stori na’r hyn a geir gan Rygyfarch a’r bucheddwr Cymraeg; neu, wrth gwrs, efallai fod Gwynfardd yma’n tynnu ar fuchedd Teilo.
135 Cerddasant gan wynt ar hynt angau Ni ddywedir beth a ddigwyddodd i’r merched yn fersiynau Cymraeg a Lladin buchedd Dewi, ond ym muchedd Teilo dywedir eu bod wedi mynd yn wallgof: ‘Who, whilst they executed the orders of their mistress, and counterfeited madness, became really mad, as it is said, “He that acts in a filthy manner, deserves to become more filthy”’, Rees 1840: 336. Ai dyma, tybed, a gyfleir yn y gerdd gan cerddasant gan wynt?
136 Edewis Padrig drwy ddig ddagrau Ar orchymyn angel bu’n rhaid i Badrig adael Cymru am Iwerddon, ddeg mlynedd ar hugain cyn geni Dewi; gw. BDe 2. Deellir edewis yma’n ferf gyflawn, ‘ymadawodd’; gthg. HG Cref 196 sy’n ei deall yn ferf anghyflawn, gyda llonaid Llech Llafar, ll. 239, yn wrthrych. Dilynir GLlF 461 ac Owen 1991–2: 77 gan ddeall llonaid Llech Llafar yn ddisgrifiad o swm y dagrau mawr a wylodd Padrig. Dywedir yn syml yn y fuchedd Gymraeg fod Padrig wedi llidiaw ar ôl clywed gorchymyn yr angel i adael, BDe 2.4; rhoddir mwy o sylw i deimladau chwerw Padrig ym muchedd Ladin Rhygyfarch, gw. Sharpe and Davies 2007: 110–14, er na sonnir yn benodol am ddagrau yno.
137 Llech Llafar Carreg sylweddol a weithredai fel pont dros afon Alun yn Nhyddewi, fel yr esbonia Gerallt Gymro, Jones 1938: 110, ‘[c]arreg a orweddai, gan wasanaethu fel pont, ar draws afon Alun, sy’n gwahanu’r fynwent oddi wrth ran ogleddol yr eglwys, trwy lifo rhyngddynt. Llech bryderth o farmor ydoedd, wedi ei llyfnhau ar du ei hwyneb gan draed y fforddolion, yn ymestyn yn ddeg troedfedd o hyd ac yn chwech o led, a chyda thrwch o un droedfedd. Ystyr Llech Lafar yn Gymraeg yw “Carreg Siaradus.”’ Mae’n amlwg fod chwedloniaeth wedi tyfu ynglŷn â gallu’r garreg hon i broffwydo, gw. ibid. Deellir llonaid yma’n ddisgrifiad o’r dagrau niferus, ond gall mai’r ystyr yw fod ymadawiad Padrig wedi gwireddu (cyflenwi) darogan yn ymwneud â’r Llech Llafar.
138 eingl Yn betrus dilynir GLlF a HG Cref 51 a’i ddeall yn ffurf luosog angel, er na nodir y ffurf luosog honno yn GPC Ar Lein d.g. angel. Awgrymwyd yn G 456 mai cyfeirio a wneir yma at Saeson (Eingl); er bod hynny’n bosibl, haws yw credu mai angylion a arweiniodd y ffordd i Badrig dros y môr i Iwerddon.
139 Fal corn yd glywid, gloyw ei eiriau Cf. GLlF 476 lle nodir mai cyfeirio a wneir yn y cwpled hwn at Gildas (sef hael, ll. 244) a ddisgrifir gan Rygyfarch yn pregethu yn uchel fel utgorn cyn geni Dewi: cf. Sharpe and Davies 2007: 114–15 et predicauit Gildas quasi de buccina clare ‘and Gildas preached loud and clear as a trumpet’.
140 brwynen Ni wyddys at beth yn union y cyfeirir yn llau. 246–9 a beth yw arwyddocâd y frwynen. A oedd traddodiad fod brwynen wedi disgyn o’r nefoedd i ddynodi tiriogaeth y sant (ar frynnau) a’r sawl a ddewiswyd gan Dduw yn sant (dyn urddawl, ll. 249)? Neu ai disgrifiad o noddfa Dewi yw frynnau – o nef, y gellid ei aralleirio fel ‘bryniau nefolaidd’? Gellid rhannu nefoedd y llinell ganlynol yn nef oedd, a deall y llinell honno yn ddisgrifiad o’r noddfa fel man diogel i finteioedd rhag eu trallodion. Delweddu rhywbeth diwerth a wnâi’r frwynen fel arfer yn y farddoniaeth (cf. GMRh 19.51–2 Cybydd ni rydd, yn ei raid, / Frwynen, er nef i’r enaid) neu rywbeth hawdd ei blygu (ac felly hawdd dylanwadu arno).
141 nefoedd i gadau Cyfeiriad at seintwar eglwys Dewi (?yn Llanddewibrefi) i filwyr. Fel y nodir yn y nodyn blaenorol, gellid rhannu nefoedd yma’n nef oedd.
142 Cyfeirir yn llau. 258–9 at garreg y credid bod arni olion o’r sant a’i geffyl, a’r olion hyn, megis creiriau, yn meddu ar y gallu i wrthdroi effaith drygioni. Cyfeirir yn TWS 72–3 at feini y credid bod olion Dewi ei hun arnynt, a nodir tair enghraifft o’r enw lle Olmarch yng nghyffiniau Llanddewibrefi yn GLlF 476. Cf. y cyfeiriad canlynol o’r 17g. at ôl pedol ceffyl Beuno ar garreg yng Ngwyddelwern: Paroch ii, 52: Ol pedol Keffyl veino ar Vaen Beino.
143 unbennaeth unbenesau Yn GLlF 461 aralleirir ‘arglwyddiaeth [dros] arglwyddesau’ (cf. Owen 1991–2: 78 ‘lordship over ladies’), sydd hefyd yn bosibl. Ai’r unbenesau yw’r merched yn Llanddewibrefi y cyfeiriodd y bardd atynt yn llau. 69–70?
144 pym allawr Brefi Un ai pum allor yn eglwys Llanddewibrefi ei hun (ceid tair allor yn eglwys Tywyn, gw. CadfanLlF ll. 23) neu, yn fwy tebygol, gyfeiriad at y allorau yn y capeli cysylltiedig â phlwyf Llanddewibrefi.
145 dothwyf i’r Dehau Dilynir GLlF 476 a dehongli’r cwpled yn awgrym ‘bod Gwynfardd wedi dychwelyd i’r de ar ôl bod ar daith i’r gogledd’; cf. y cyfeiriad yn ll. 271 at Fôn.
146 gwerendeu Ffurf trydydd unigol presennol mynegol gwarandaw, gw. GMW 116.
147 gwaeth Ar ei ddefnydd fel enw ‘drwg, drygioni, niwed’, gw. GPC Ar Lein d.g. gwaeth.
148 o bell Gallai pell gyfeirio at bellter daearyddol neu at feithder amser, gw. GPC Ar Lein lle rhoddir i’r cyfuniad o bell yr ystyron ‘from afar, from far away; far-off, far-away, distant; aloof, distant; ?by far; ?for a long time’. Byddai’r naill ystyr neu’r llall yn addas yma.
149 Lloegrwys ac Iwys Trigolion Wessex yw Iwys, y Gewissae; fe’u gelwid hefyd yn Ddeheuwyr, cf. GPC Ar Lein d.g. Deheuwr (b). Enwir yr Iwys hefyd yn y gerdd ‘Armes Prydain’ (ArmP2 llau. 108, 181 hefyd tt. xv, 49–50). Am ddatblygiad yr enw, gw. Jenkins 1962–4: 1–10. Tybed ai cyfeirio at wŷr Mercia a wna Lloegrwys yma, yn hytrach nag at wŷr Lloegr yn gyffredinol? Tynnir sylw yn ArmP2 50 at linell mewn cerdd cynnar a gofnododd John Jones Gellilyfdy yn Pen 111, lle cyfeirir at Eigil ywuys lloegrwuis keint (Williams 1927–9: 45): ‘ “Eingl, Iwys, Lloegrwys and Caint (men of Kent)” are named as though they represented sub-divisions of the English nation. The other names are geographically identifiable, but what about the Lloegrwys? Were they not the inhabitans of Mercia?’.
150 Anaw ac Ynysedd Dilynir yn betrus GLlF 477 a HG Cref 198 sy’n deall Anaw yn gyfeiriad at enw lle anhysbys ac Ynysedd yn gyfeiriad at Ynysoedd yr Hebrides.
151 Maelenydd Cantref Maelienydd, i’r gogledd o Elfael ac i’r de o Geri yn Rhwng Gwy a Hafren. Yr oedd Ystradenni (ll. 107 Ystrad Nynnid) ym Maelienydd.
152 elfydd fannedd Mae’r enw lluosog, bannedd, yma’n treiglo’n feddal gan fod iddo rym ansoddeiriol yn dilyn yr enw benywaidd, elfydd.
153 or digonsam Cywasgiad o o ry, sef y cysylltair a’r geiryn rhagferfol rhy i roi ystyr berffaith i ferf orffennol, gw. GMW 167 (a).
154 Mihangel Yr archangel, a ddelweddid yn aml fel arweinydd byddinoedd nefol ac amddiffynnwr yr enaid dynol ar adeg marwolaeth.
155 dycheferfyddwn ni, lu, … / Dycheferfyddwn ninnau … Fel berf gyflawn y diffinnir dychyfarfod yn GPC Ar Lein, ac felly cymerir bod y ffurf dreigledig lu yn gyfarchol (er aralleirio ychydig yn wahanol), a bod ninnau yn ei ategu. Bu i nifer o saint ymgynnull o amgylch Dewi yn y gorffennol (llau. 275–88), a bellach y mae’r bardd yn cloi ei awdl drwy annog y gynulleidfa bresennol yn Llanddewibrefi, gan gynnwys ef ei hunan (ninnau), i ddod ynghyd yn yr un modd o amgylch eu nawddsant.
1 o Ddewi LlGC 6680B o dewi; J 111 adeỽi. Ar cynnelw o, gw. n2(e); ar ddarlleniad J 111, gw. n2(t) ar ei ddau cymaint.
2 ei ddau cymaint LlGC 6680B y deukymeint; J 111 y deukymmeint. Dehonglir y y llawysgrifau fel rhagenw blaen, gan ddilyn GLlF 449 (ei ddeugymaint), ond dilynir y llawysgrifau gan beidio â threiglo cymaint ar ôl y rhifol: gw. GPC Ar Lein d.g.; TC 143–4; a cf. GDB 3.8 Dau cymaint rhif seithrif sêr; BrM2 ll. 263 eu deu kymeint o wyr. O gymryd mai’r fannod sy’n rhagflaenu dau, nid yw’n aneglur a ddisgwylid i’r rhifol dreiglo ar ei ôl ai peidio, oherwydd prinder enghreifftiau cynnar o’r gystrawen; ond gwelir yn TC 143 mai y dau cymaint sy’n arferol mewn testunau Cymraeg Diweddar Cynnar; cf. hefyd yr enghreifftiau yn GPC Ar Lein d.g. cymaint. O dderbyn y dau cymaint yma, collid y gyfatebiaeth gytseiniol yng nghanol y llinell â Ddewi (ond sylwer ar J 111 adeỽi).
3 gormes haint LlGC 6680B gormes heint; J 111 gormes seint (gormes heint > gormes (h)eint > gormes seint). Er mai codi ei destun o gynsail ysgrifenedig a wnaeth ysgrifydd J 111, mae’n ddigon posibl ei fod yn darllen ychydig o eiriau ar y tro, eu cofio ac wedyn eu hysgrifennu. Gallai proses o’r fath yn hawdd esgor ar wall camraniad.
4 ofud Fe’i rhestrir yn amrywiad ar gofid yn GPC Ar Lein. O ddarllen (g)ofid yma ceid odl fewnol â rydid, ac felly gynghanedd sain; ond ceir cyflythreniad digonol eisoes rhwng heb ofud a heb ofyn.
5 heb ofyn Dilynir GLlF 456 a deall ofyn yn ffurf dreigledig y berfenw gofyn. Deellir amgen felly’n enwol, yn wrthrych y ferf, cf. GPC Ar Lein d.g. Gan fod y llinell yn hir o sillaf, awgrymir hepgor y cysylltair ar ddechrau’r llinell yn HG Cref 187; sicrhâi hynny fod y rhagwant yn syrthio’n rheolaidd ar y bumed sillaf. Gellid ystyried deall ofyn y llawysgrifau (LlGC 6680B heb ofyn; J 111 heb ofyn) fel yr enw unsill of(y)n ‘braw, dychryn’; rhoddai hynny bedwar sillaf yn ail hanner y llinell, patrwm sy’n ddigon arferol yn nhoddeidiau Gwynfardd Brycheiniog, gw. hefyd Lewis 1929–31: 96–7.
6 rhewydd redaint Nid yw orgraff y llawysgrifau o gymorth wrth benderfynu ai rh- neu r- sydd ar ddechrau r(h)ewydd a r(h)edaint. O ran y gynghanedd ymddengys fod y beirdd yn ddigon parod i ateb rh gydag r, hyd yn oed yn oes y Cywyddwyr.
7 dyrnawd Dilynir J 111 dyrnaỽt; yn LlGC 6680B ceir dernaỽt, sydd o bosibl yn awgrymu e = /ǝ/ (y-dywyll) yn y ffynhonnell, nodwedd ar rai hen systemau orgraff.
8 saith mil J 111 seint mil. Gwall yw hwn, gw. n20(e).
9 i’r parth nodawg LlGC 6680B yr parth nodaỽc; J 111 yrparth uodaỽc. Anodd, os nad amhosibl ar brydiau, yw gwahaniaethu rhwng t ac c a rhwng n ac u yn y ddwy lawysgrif, fel y gwelir o’r ffaith fod trawsysgrifwyr blaenorol wedi anghytuno yma: GLlF 26.37 yr parch uodaỽc (sef testun LlGC 6680B, heb nodi unrhyw amrywiad yn J 111), H yr parch nodaỽc, R yr parth uodaỽc. (Ar y darlleniad a fabwysiadwyd yn y golygiad hwn, gw. n26(e).) O ddilyn GLlF 26.37 a darllen er parch fodawg, gellid deall y cyfuniad ar lun GMB 3.90 [G]ruffut Gwynet gwylet vodaỽc ‘[G]ruffudd Gwynedd cyson ei haelioni’, ibid. 9.108 Cathyl uodaỽc coed ‘cyson gân [mewn] coed’ (am aderyn); cf. GLlF 456 sy’n ei ddeall i olygu ‘[yr Un sy’n] barhaus ei barch’.
10 wrth Fe’i hepgorwyd yn J 111. Byddai darllen gwrth heb ei dreiglo yma’n rhoi gwell cyfatebiaeth ar ganol y llinell.
11 Ar drugaredd … ar Drugarawg J 111 ar trugared … ar trugaraỽc; arfer y llawysgrif hon yw dangos treiglad t > d ar ddechrau gair, ond gw. n51(t) am enghreifftiau pellach o beidio â dangos y treiglad yn orgraffyddol.
12 diffreidiawg Dilynir LlGC 6680B, gthg. J 111 diofreidyaỽc (o bosibl dan ddylanwad ll. 45 diofredỽac). Deellir diffreidiawg yn ansoddair yma, ond o’i ddeall yn enw ‘amddiffynnwr, noddwr’ (GPC Ar Lein d.g.) gellid darllen da ddiffreidiawg heb amharu ar y gynghanedd, gan fod cyfatebiaeth yng nghanol ll. eisoes rhwng Dewi a da.
13
A gaho
LlGC 6680B
ac gaho; J 111
Ac agaho (wedi ei gywiro gan John Davies yn LlGC 497, yn Ac
agaho).
14 lên Dyma a awgrymir gan orgraff y ddwy lawysgrif (len). Fel y nodir yn GLlF 466 rhydd y darlleniad hwn y bai trwm ac ysgafn yn y ll., gan fod yr -en yn efferen o darddiad n-ddwbl, ac felly’n odli’n drwm. Ond nodir yn CD 232–3 bod lle i gredu nad ‘wrth y glust, y cadwai’r gogynfeirdd y rheol’, ac felly nid oes angen darllen len (< llen) yma fel y gwneir yn HG Cref 189. Gan mai cymharol lac yw cynganeddion Gwynfardd Brycheiniog, mae’n bosibl mai l- .. l- ( lên lawerawg) yw’r gyfatebiaeth berthnasol yn y llinell.
15 ag Gellid deall ac y llawysgrifau yn gysylltair a darllen Cared ymwared ac anghenawg ‘boed iddo garu gwaredigaeth a’r anghenus’.
16 yn goeth LlGC 6680B; gthg. J 111 yn doeth. Mae’n debygol fod ysgrifydd J 111 wedi camgopïo doeth a geir yn llinell flaenorol.
17 Dau garn Anodd penderfynu ai n neu u yw’r llythyren olaf yn LlGC 6680B a J 111 & yn H a R darllenwyd garn ond yn GLlF 466 darllenwyd garu. Dyfynnir y llinell yn GPC Ar Lein d.g. carn (eb.g.) yn yr ystyr ‘rhan gyfatebol i ewin troed ar anifail …; troed’. Derbynnir garn yn betrus yma, ond ceir gwell ystyr o’i ddeall yn yr ystyr ‘craig, bryn, mynydd, pen, copa’ (ibid.) a chymryd bod y bardd yn cyfeirio at yr ychen yn croesi dau garn, neu dau gopa mynyddig, i fynd â’r anrhegion o Landdewibrefi i Lasgwm a Brycheiniog. Yn GLlF 26.54 diwygiwyd y darlleniad yn dau gâr, gan ddilyn HG Cref 45, gan nodi ‘mai elfen bwysig yn y stori [am yr Ychen Bannog] yw’r ffaith fod yr ychen yn perthyn i’w gilydd’. Mae’r diwygiad yn ddiangen.
18 urddasawg Cf. LlGC 6680B urtassaỽc, gthg. J 111 urdassaỽt, a’r t derfynol yn hollol eglur yno, er mai -aỽc sydd ei angen ar gyfer y brifodl. Mae’n debygol ei bod yn anodd gwahaniaethu rhwng c a t y gynsail; cf. J 111 uodaỽt am LlGC 6680B uodaỽc yn ll. 62.
19 gadwynawg Gellir gwrthod J 111 garỽynnaỽc gan fod y gloch Bangu yn hongian (gerfydd cadwyn, yn ôl pob tebyg) wrth wal yr eglwys; gw. n38(e).
20 Ban ddêl ofn arnam, ni rhybyddwn ofnawg Mae’r ll. hon fel y mae yn y ddwy lawysgrif (LlGC 6680B Ban del gofyn arnam ny ry bytỽn ofnaỽc; J 111 Bandel gouyn arnam ni rybydỽn ofynaỽc) yn ddeuddeg sillaf o hyd, yn hytrach na’r naw sillaf safonol, neu’r deg a geir yn aml gan Wynfardd Brycheiniog yn ei linellau o gyhydedd naw ban. Yn sicr nid yw’r bardd hwn yn gyson o ran hyd ei linellau (o’i gymharu, dyweder, â Chynddelw Brydydd Mawr), ond mae deuddeg sillaf yn hytrach na naw yn anarferol iddo yntau, ac ar sail hynny derbynnir awgrym G 547 d.g. gofyn, a diwygio yn ‘ou(y)n er mwyn hyd ac odl lusg ag ofnawc’. Gellid arbed sillaf arall drwy ddilyn GLlF 26.59 a chymryd mai’r rhagenw ategol na chyfrifir yn y mydr yw’r ni (arnam-ni), ond ceir gwell synnwyr yma o’i ddeall yn negydd. Ar ddefnydd rhagenwau ôl yng nghanu Beirdd y Tywysogion, a’r cwestiwn a ddylid eu cynnwys yn y cyfrif sillafau ai peidio, gw. Andrews 1989: 13–29.
21 cedeirn LlGC 6680B kedeirn; J 111 ketyrn. Cydnabyddir y ddwy ffurf luosog yn GPC Ar Lein.
22 Yd alwn LlGC 6680B yd gallỽn; J 111 yt gallỽn, a’r ddwy lawysgrif o blaid y geiryn rhagferfol ‘yd’ a geir o flaen cytsain ac a ddilynir gan dreiglad meddal, GMW 171–2. Gan na wyddys am ferf addas â’r bôn call-, rhaid diwygio a darllen un ai yd alwn neu y galwn. Gan nad yw’r llawysgrifau bob tro yn dangos treiglad (cf. n11(t)), dilynir HG Cref 189 a GLlF 26.62 a diwygio yn yd alwn. O ran yr -ll- yn y llawysgrifau, awgrymir yn G 520 mai enghraifft sydd yma o ll = l.l, fel a geir yn aml yn achos y gair callon ‘calon’.
23 bresen breswyl fodawg LlGC 6680B bressen bresswil vodaỽc; J 111 pressen p’ssỽyl uodaỽt. Os cywir y dyb fod y ddau destun yn gopi o ffynhonnell gyffredin, tybed ai’r gytsain gysefin p- a geid yn honno a bod ysgrifydd LlGC 6680B wedi eu treiglo, yn ôl ei ddehongliad o’r ystyr? Am enghraifft arall o roi -t yn wallus am -c yn J 111, gw. n18(t) ar urddasawg (J 111 urdassaỽt).
24 yno LlGC 6680B eno; J 111 eno. Dilynir GPC Ar Lein a’i ddeall yn ffurf orgraffyddol ar yno1. Am e = /ǝ/, cf. n31(t).
25 Gwelaf-i Ar ddefnydd rhagenwau ôl yng nghanu Beirdd y Tywysogion, a’r cwestiwn a ddylid eu cynnwys yn y mydr / cyfrif sillafau, gw. Andrews 1989: 13–29. O’i hepgor yma, syrthia sillaf olaf effeiriaid yn rheolaidd yng nghanol y llinell (ar y bumed sillaf). Am enghreiffiau eraill o’r rhagenw ategol yn y gerdd hon, gw. llau. 67, 69, 71, 74, 133 (2), 154, 197: mae eithrio’r rhagenw o’r cyfrif sillafau yn sicrhau hyd mwy safonol i bob un o’r llinellau. Mae’n ddiddorol nodi bod awdur Gramadeg Gwysanau (c. 1375) fel petai’n ystyried y rhagenwau hyn yn nodwedd ar orgraff, gw. Parry Owen 2010: 26 (nodyn ar ll. 57 karaue eos).
26 A llên J 111 achlen; mae John Davies wedi dileu’r c.
27 Gwragedd LlGC 6680B A gỽraget; J 111 a gỽraged. Diwygiwyd gan ddileu’r cysylltair sydd braidd yn chwithig gan na cheir enw cysylltiedig o’i flaen.
28 Ym mhlwyf LlGC 6680B ym blwyf, ond nid dyma ddull arferol llaw alpha o ddynodi treiglad trwynol p- ar ôl yr arddodiad yn: gthg. ll. 72 ymhlith (llsgr. ymplith). Tybed a yw’r llithriad yn dadlennu orgraff ei gynsail yma?
29 Yd gaffwyf-i LlGC 6680B yd gaffawyfy; J 111 yt gaffỽyf y. Dilynir J 111, gan mai caff- yw bôn arferol y ferf cael, caffael (cf. G 94 – sy’n awgrymu hepgor yr ail a yn gaffawyf – gthg. GLlF 26.74 sy’n derbyn darlleniad LlGC 6680B, ond heb esboniad ar y ffurf). Mae cymryd bod y rhagenw ategol yma’n ansillafog, fel yn peri felly bod y llinell yn fyr o sillaf (gw. n25(t)).
30 Ac ar J 111 ac nar (neu o bosibl uar), a John Davies wedi rhoi llinell ddileu drwy’r n.
31 gysefin LlGC 6680B gessefin; J 111 gysseuin. Dichon y ceir e am /ǝ/ yn y sillaf gyntaf yn gessefin, cf. n24(t) ar yno (llsgrau. eno) a n32(t).
32 Gyfelach LlGC 6680B gefelach; J 111 gyuelach; am y ffurf gefelach yn LlGC 6680B, cf. o bosibl n31(t).
33 Meiddrym LlGC 6680B Meitrym; J 111 meidrym. Meiddrym a awgrymir gan orgraff y ddwy lawysgrif: cf. GPC Ar Lein d.g. trum lle nodir trum a drum (ail elfen yr enw) yn ffurfiau cysefin.
34 i’r clyd ei wŷdd LlGC 6680B yr clyd ywyt; J 111 yrclytywyd; GLlF 26.92 clyt y wyt ‘un cysgodol ei goed’ (:gwŷdd), gan ddeall yr ansoddair clyd yn enwol am Ddewi; cf. awgrym cyntaf G 152 ‘clydwr ei goed’. Ond posibl hefyd yw ail awgrym G i ddeall ywydd fel ‘coed yw’; cf. GPC Ar Lein lle y’i rhestrir yn betrus yn ffurf luosog ddwbl yw2 (ar lun coed: coedydd, cf. ll. 96); daw’r unig enghraifft a nodir yno o eiriadur William Owen-Pughe, P d.g., lle y dyfynnir y ll. hon gan Wynfardd Brycheiniog. O dderbyn yr ail ystyr hon, gellid aralleirio: ‘i’r un cysgodol ei goed yw’.
35 Henfynyw LlGC 6680B henfyniw; J 111 hen vynyỽ. Er mai –yw/-yỽ yw’r terfyniad arferol gan ysgrifydd LlGC 6680B yn yr enw Henfynyw a Mynyw, ceir ambell enghraifft ganddo hefyd o iw/-iỽ, cf. llau. 209, 219, 226, 230, 241, lle y ceir cysondeb –yw/-yỽ gan ysgrifydd J 111. Cymerir mai amrywiad orgraffyddol sydd yma, ond cyffredin yw codi y > i o flaen w.
36 hyfes J 111 hyfues, a’r u wedi ei dileu gan John Davies. Ceir fu = ‘f’ yn achlysurol yn J 111 yn ogystal â rhai llawysgrifau cynnar eraill, e.e. BL Cotton Cleo B v. i, 10v, ll. 9 cafuas, 66r, ll. 11 hafuren.
37 a’i eglwys LlGC 6680B ae glwys; J 111 ae eglỽys – dyma un o’r ychydig achosion lle mae darlleniad J 111 yn rhagori ar eiddo LlGC 6680B.
38 Craig Fruna deg LlGC 6680B kreic vuruna dec; J 111 kreic uruna dec, gyda’r u wedi ei hychwanegu gan John Davies i ddilyn yr r yn sgil cymharu’r testun ag eiddo LlGC 6680B. Mae darlleniad LlGC 6680B fel y saif yn peri bod y llinell yn ddwy sillaf yn rhy hir. O ystyried ffurfiau diweddar yr enw (Cregrina, &c., gw. n75(e)), credir mai llafariad epenthetig yw’r u gyntaf yn LlGC 6680B vuruna, ac mai Craig Fruna felly yw’r ffurf a fwriadwyd. Mae’n rhaid amau’r ansoddair dec, gan ei fod yn digwydd ddwywaith yn y llinell: ai Craig Fruna yma, teg [>deg?] ei mynydd oedd y darlleniad cywir (a roddai linell reolaidd o gyhydedd nawban yn ymrannu’n 5:4 sillaf)?
39 rhydid LlGC 6680B rydid (= ‘rhydid’); J 111 rydit (=‘rhydid’ neu ‘rhyddid’): ar amrywiol ffurfiau’r gair, gw. GPC Ar Lein d.g. rhyddid, rhydd-did, rhydid, rhydyd.
40 Dewi ar Frefi fryn llewenydd LlGC 6680B Dew ar ureui urȳn llewenyt; J 111 dewi ureui vrenhin llewenyd. Ar wahân i’r ffaith fod llaw alpha wedi colli’r ¬-i ar ddiwedd enw’r sant yn LlGC 6680B, mae’r ddau ddarlleniad yn synhwyrol, ond mae darlleniad ll. 110 yn profi mai cyfeirio at y bryn yn codi o dan draed Dewi yn Llanddewibrefi a wneir yma, ac felly derbynnir darlleniad LlGC 6680B.
41 eu hefelydd – nid oes Dilynir HG Cref 190–1 a drefmpdd lau. 116–17 yn doddaid. Ond ymddengys fod ysgrifydd LlGC 6680B wedi cymryd mai cwpled o gyhydedd nawban sydd yma, gan iddo roi priflythyren goch i Nyd; fe’i dilynwyd yn GLlF 26.116–17. Ond anarferol braidd fyddai’r modd y goferai’r frawddeg felly dros y ddwy linell (eu hefelydd / Nid oes) a byddai’r ail linell hefyd yn cynnwys un sillaf ar ddeg yn hytrach na’r naw neu’r deg sy’n fwy arferol yn y gerdd.
42 Maried Mae orgraff y ddwy lawysgrif (LlGC 6680B maryed; J 111 maryet) yn awgrymu’r terfyniad ‘-ied’, a dehonglir y ffurf yn enw personol (cf. HG Cref 47), gyda’r fformwla Llwyth + enw priod yn adleisio dechrau’r cwpled blaenorol (Llwyth Daniel …), yn yr un modd ag yr ailadroddir A Dewi … ar ddechrau llau. 120, 122, 124 a 126. Disgwylid enw dyn, ond ymddengys mai enw merch oedd Mar(i)ed, yn ôl yr ychydig dystiolaeth, cf. EWGT 202–3. Er gwaethaf orgraff y ddwy lawysgrif, ac yn dilyn CTC 264, fe’i dehonglir yn GLlF 470 fel ‘mariedd’, ffurf amrywiol bosibl ar yr enw cyffredin maredd ‘?ysblander, rhwysg’, gw. GPC Ar Lein d.g. Ffefrir y ffurf hon yn GLlF gan ei bod yn cynnig odl fewnol â mawreddus.
43 mawreddus LlGC 6680B maỽretus (mawredd + -us); J 111 maỽrwedus (mawrwedd + -us, neu mawr + gweddus). Rhoddir yn fras yr un ystyron i’r ddwy ffurf yn GPC Ar Lein.
44 duun LlGC 6680B duun; J 111 dyuun. Cofnodir dyun a duun yn GPC Ar Lein.
45 Ni cheir y ll. hon yn J 111, gan adael ll. 120 yn llinell unigol o gyhydedd nawban yn lle bod yn rhan o gwpled. LlGC 6680B sy’n gywir yma, oherwydd ceir A Dewi … ar ddechrau pob cwpled yn llau. 120, 122, 124, 126.
46 ryweled LlGC 6680B ry weled; J 111 rywelat. Gwelad oedd ffurf fwy arferol amhersonol gorffennol gweled yn y cyfnod hwn, gw. GMW 126.
47 a chadw LlGC 6680B a chadỽ; J 111 achadỽ. Yn GLlF 26.129 darllennir achadỽ (GPC Ar Lein d.g. achadw ‘gwarchod, amddiffyn, cadw’), ond cymerir mai’r cysylltair a + cadw sydd yma. (Sylwer na nodir y ll. hon yn G 6 d.g. achadw.)
48 eu LlGC 6680B y; J 111 y. Cymerir mai’r rhagenw blaen trydydd lluosog eu a gynrychiolir gan y y llawysgrifau er mai eu yw’r ffurf arferol gan ysgrifwyr y ddwy lawysgrif. Gw. ymhellach n90(t) lle cawgrymir mai y a ddefnyddid am ‘eu’ yn y gynsail.
49 brydest LlGC 6680B brydest; J 111 bryst, a John Davies wedi ychwanegu dde uwchben.
50 yd grŷn Derbynnir arweiniad y llawysgrifau (lle ceir -n yn hytrach nag -nn), cf. G 183; ond byddai yd gryn hefyd yn bosibl (cf. GLlF 452 yd gryn).
51 hyd ar Dwrch LlGC 6680B hyd ar tỽrch; J 111 hyt ar tỽrch; ceid y treiglad meddal yn rheolaidd yn dilyn hyd ar, cf. ll. 145 Hyd ar Dywi; GGMD i, 6.36 hyd ar Duedd. Mae’n bosibl na ddangosai’r gynsail dreiglad ffrwydrolion di-lais yn rheolaidd (cf., e.e., n11(t) a ll. 54 LlGC 6680B gyd preinyaỽc, J 111 gyt breinaỽc), felly mae’n bosibl bod y ddau ysgrifydd yma wedi esgeuluso’r treiglad, efallai dan ddylanwad y ddau air dilynol sy’n dechrau â t-.
52 Dothyw LlGC 6680B Dothyỽ; J 111 Dodyỽ, dwy ffurf amrywiol ar drydydd unigol perffaith dyfod, gw. GMW 134. Dothyỽ a fynnir gan y cymeriad geiriol ar ddechrau’r tri chwpled ar ddiwedd y caniad hwn, ac yn y llinell hon yn unig y ceir Dodyỽ yn J 111.
53 Rhymeddyliais-i Ar -i, y rhagenw ôl ansillafog, gw. n25(t). Ar ddefnydd y rhagddodiad rhagferfol cadarnhaol rhy-, ac yn arbennig ‘where ry appears to denote customary or repeated action’, gw. GMW 166–7. Y treiglad llaes a ddilynai rhy- mewn prif frawddeg mewn hen Gymraeg, a chytsain gysefin yn achos y cytseiniaid eraill; fodd bynnag erbyn testunau rhyddiaith yr Oesoedd Canol meddir, ‘neu and ry are followed by lenition in every case’, ibid. 62. Anodd gwybod, felly, a yw’r gytsain gysefin -m- yn rhymeddyliais yn nodwedd ar forffoleg hynafol (cf., o bosibl, GCBM i, 7.13 Rhygelwid Madawg cyn no’i laith …), neu ynteu a oedd rhagenw mewnol ynghlwm wrth rhy yn atal y treiglad: rhy’i meddyliais. Os felly dyma enghraifft arall o ragenw mewnol proleptig, yn achub y blaen ar y gwrthrych a fynegir yn ddiweddarach (sef hyn), cf. n82(e) ar a’i gorug.
54 anfedrawl LlGC 6680B anuedraỽl, a esbonnir yn GPC Ar Lein d.g. fel cyfuniad o anfedr + -ol ‘anfesurol, difesur; anferth, enfawr’. Yn J 111 ceir anueitraỽl sy’n awgrymu an- + meidrawl ‘anfeidrol, … annherfynol, diderfyn’, GPC Ar Lein d.g. Mae’n amhosibl gwybod pa un a oedd yn y gynsail, ond dilynir LlGC 6680B yma, fel mater o egwyddor.
55 wy LlGC 6680B wy (ffurf amrywiol ar yw ‘i’w’, cf. ll. 193, &c.); J 111 yw. Gw. GMW 53n2.
56 dremwys Cf. LlGC 6680B dremwys, trydydd unigol gorffennol dremiaw ‘gweld’, &c. (a’r d- yn gytsain gysefin), gw. GPC Ar Lein d.g.; mae’n amrywiad ar y ferf tremiaw, cf. J 111 tremỽys.
57 A phryd a gweryd LlGC 6680B a phryd a gỽeryd; J 111 aphryt agỽeryt. Derbynnir yma ddarlleniad llawysgrifau, sy’n rhoi ystyr ddigonol, gw. n106(e). Yn HG Cref 193 dehonglir pryd / pryt y llawysgrifau fel ‘pridd’ a gweryd fel ‘tywarchen’. Os cywir hynny, gellid cofio am draddodiadau am santesau’n dod i Gymru o Iwerddon ar ddarn o dywarchen, cf. FfraidIF llau. 45–7 O Iwerddon ar donnen / i’r môr yn wir, morwyn wen, / da nofiaist hyd yn Nyfi …; ond o’r dwyrain y daeth y ferch y cyfeirir ati yma. Gw. GLlF 472 am bosibiliadau eraill.
58 ynni LlGC 6680B enni; J 111 ynni. Ar enni fel amrywiad, orgraffyddol yn ôl pob tebyg, ar ynni, cf. G 479 a hefyd GPC Ar Lein lle ceir enghraifft bellach o enni ymysg y cyfeiriadau. Ond am e = /ǝ/ yn LlGC 6680B, gw. n24(t).
59 ym medrawd LlGC 6680B y medraỽd; J 111 ymbedraỽt, gydag orgraff y naill lawysgrif yn awgrymu bedrawd, a’r llall yn awgrymu beddrawd. Cofnodir y ddwy ffurf yn GPC Ar Lein d.g. beddrod.
60 mynwent Ddewi Cymerir bod yma dreiglad meddal i’r enw priod Dewiyn dilyn yr enw benywaidd mynwent, cf. DewiIG ll. 98 Ym mynwent Ddewi Mynyw. Diwedderir yn mynwent Dewi yn GLlF 452, o bosibl oherwydd tybio bod calediad dd > d yn dilyn y -t derfynol yn mynwent.
61 A Pheulin a pheunydd … Rhyfedd braidd yw ailadrodd y cysylltair yma, ac anodd gweld ei union rym o flaen peunydd, ac eithrio i ysbarduno treiglad llaes ar gyfer y gyfatebiaeth gytseiniol.
62 gorelwi Ffurf trydydd unigol amherffaith mynegol goralw. Mae J 111 yggorweli fel petai’n awgrymu’r arddodiad yg (‘yng’) ac enw, o bosibl gweli ‘clwyf’, &c. Ond mae’r gystrawen yn gofyn am ferf.
63 ŷd ei erwi LlGC 6680B yd eerwi; J 111 ydeerỽi. Os cywir y dehongliad, ŷd ei erwi, yna sylwer bod e yn cynrychioli’r rhagenw blaen ‘ei’ yn y ddwy lawysgrif, lle disgwylid y yn ôl orgraff arferol y ddau ysgrifydd. Tybed ai nodwedd ar y gynsail oedd e am ‘ei’?
64 anwar Ni cheir y gair hwn yn y llawysgrifau; fe’i hadferir, gan ddilyn HG Cref 195 a GLlF 473, er mwyn hyd y ll. ac er mwyn y gynghanedd. Cf. y cyfeiriadau yng ngherddi’r beirdd diweddarach at adar gwyllt ac at Ddewi yn gyrru’r adar yn wâr; gw. ymhellach n110(e).
65 harhöi Ffurf trydydd unigol amherffaith mynegol aros gyda’r terfyniad -i (GMW 121); mae’r ffurf harhoei J 111 yn difetha’r brifodl -i. Sylwer mai fel berf anghyflawn y’i defnyddir yma ac yn ll. 174.
66 Ros Mae’r cyrchfan Ros yn cael ei fynegi fel gwrthrych uniongyrchol i’r ferf dêl (ll. 176) yn hytrach nag o dan reolaeth arddodiad, ac mae’n debygol ei fod wedi ei dreiglo yma (gw. TC 227–8), ond nid yw orgraff y llawysgrifau yn gwahaniaethu rhwng r- ac rh .
67 gwerthfawr Dyma ddarlleniad LlGC 6680B a J 111 ac fe’i deellir yn yr ystyr ‘buddiol; llwyddiannus’, gw. GPC Ar Lein. Ond mae’n bosibl, fel yr awgrymir yn G 671, mai ffurf ar gwyrthfawr ‘grymus, galluog, rhinweddol; graslon, bendithiol’ sydd yma (gw. ibid. 750); derbyniwyd yr awgrym hwnnw yn GLlF 26.178 lle diwygiwyd y testun.
68 diddan berchi LlGC 6680B ditan perchi; J 111 didanberchi. Yn GLlF 26.180 derbynnir darlleniad LlGC 6680B a’i ddehongli, ibid. 460, yn ymadrodd enwol ‘hyfryd yw trysori’, er treiglo’r ail elfen yn y testun orgraff ddiweddar, ibid. 452. Gan mor gyffredin yw cyfuniadau yn cynnwys enw + berfenw yn y canu (gyda’r enw yn wrthrych effeithiol y berfenw, a’r berfenw felly’n treiglo), cymerir mai dyna’r gystrawen yma: yn llythrennol ‘anrhydeddu hapusrwydd’. Ar diddan fel enw, gw. GPC Ar Lein d.g. Am enghreifftiau pellach o beidio â dangos ffurf dreigledig y cytseiniaid di-lais yn y llawysgrifau, gw., e.e., n11(t), n51(t), n71(t), n94(t).
69 addfwyn LlGC 6680B adfwyn; J 111 adỽyn. Dichon mai cynrychioli ‘addwyn’, ffurf amrywiol o bosibl ar addfwyn, a wna darlleniad J 111 (gw. GPC Ar Lein d.g. addwyn1).
70 erni LlGC 6680B arnei; J 111 arnei, sy’n difetha’r brifodl, -i; cf. n65(t) ar harhöi. Dyma enghraifft arall lle yr oedd y gynsail yn wallus. Ar trydydd unigol benywaidd yr arddodiad ar, gw. Sims-Williams 2013: 7–11; o blaid y darlleniad erni, yn hytrach nag arni, gw. yn arbennig ibid. 7, ‘I do not know of any example of arni in a pre-1425 MS.’, dosbarthiad y ffurfiau, ibid. 11, a cf. GMB 33.13 erni.
71 beri LlGC 6680B peri; J 111 peri; os berfenw yw peri yma a bod crefydd yn wrthrych iddo, disgwylid i’r berfenw dreiglo, gw. Parry Owen 2003: 248 a cf. n68(t) ar diddan berchi; efallai nad oedd y treiglad wedi ei ddangos eto yn orgraff y gynsail. Posibilrwydd arall yw mai ffurf trydydd unigol amherffaith yw peri, yma’n cael ei rhagflaenu’n uniongyrchol gan ei gwrthrych: crefydd peri ‘cymhellai ddefosiwn’. Ar y gystrawen gwrthrych + berf bersonol, heb dreiglad a heb ragenw perthynol, gw. GMW 181.
72 glywwch LlGC 6680B glywch; J 111 glywych. Dilynnir LlGC 6680B ond gan gymryd mai glyw-wch yw’r ynganiad; cf. G 151; er bod chwe sillaf weithiau yn hanner cyntaf llinellau cyhydedd nawban Gwynfardd Brycheiniog, eithriadol fyddai pedair.
73 cedwch gloch Ddewi LlGC 6680B kedỽch dewi; J 111 kedỽch dewi. Ychwanegir cloch yma er mwyn yr ystyr gan ddilyn awgrym GLlF 473; gw. n115(e). Soniwyd am yr allor yn ll. 182 a’r ffon ffagl yn llau. 186–7: gw. n114(e) am y rhoddion a dderbyniodd Dewi gan y padriarch o Jerwsalem. O dderbyn y cwpled fel y’i ceir yn y llsgr., rhaid ei ddeall yn doddaid, gyda’r ail linell yn fyr o sillaf: Credwch a glywch, cedwch Dewi – yn eich llaw / A llu y byd i gyd â chwi (GLlF 460 ‘Credwch yr hyn a glywch, cedwch Ddewi yn eich gwarchodaeth / A holl bobl y byd gyda chwi’).
74 rhegddi LlGC 6680B recddi (a’r dd am ‘dd’ yn annisgwyl yn orgraff safonol yr ysgrifydd); J 111 racdi. Y ffurf gydag affeithiad-i a ddisgwylid yma, cf. Sims-Williams 2013: 45, ac anodd gwybod ai amwyriad neu gwall yw J 111 racdi ‘rhagddi’ (cf. ibid. 7 ar erni / arni).
75
LlGC 6680B
Ae ureich ureisc ae urynn gwyn uchaf peri uchel peri (gyda llinell goch drwy peri a phwyntiau dileu o dan y llythrennau); J 111
arureich ureisc ae vrynn. gỽynn: uchaf uchel beri. Ffurf dreigledig y berfenw sydd ei hangen yma, yn ôl pob tebyg, cf. n71(t), ond fel y nodir yno, gellid dehongli peri yn ffurf trydydd unigol amherffaith. Mae’r llinell yn ddeuddeg sillaf yn y ddwy lawysgrif a dichon fod GLlF 26.188–9 yn gywir mai dwy linell sydd yma, yn enwedig gan ei bod hi’n amlwg fod llau. 184–7 yn perthyn i’w gilydd fel y gwna
llau. 190–5, ac y byddai’n anarferol cael llinell heb fod yn rhan o gwpled. Os gwall sydd yma, rhaid credu bod y gwall yn
y gynsail, oherwydd ymddengys na chredai’r naill ysgrifydd na’r llall fod a’i fryn gwyn i fod ar ddechrau’r llinell, oherwydd ni cheir atalnod o’i flaen fel sy’n arferol. Yn HG Cref 195 awgrymwyd dileu uchaf, gan roi llinell o gyhydedd nawban deg sillaf, sy’n ddigon arferol gan Wynfardd Brycheiniog. (Tybed a oedd ysgrifydd LlGC 6680B wedi bwriadu dileu uchaf a peri cyn cywiro’r darlleniad yn uchel peri?)
76 nad fo Disgwylid na fo, gan mai o flaen berf yn dechrau â llafariad y disgwylid nad, gw. GMW 173; ond gw. G 67 lle dyfynnir yr enghraifft hon a hefyd R 1056.27–8 nyt oes reith nat vo pennaeth breyenhin fel enghreifftiau dan nat vo.
77 diedding LlGC 6680B dietig; J 111 diedig; gydag orgraff LlGC 6680B yn bleidiol dros ‘dd’ ar ganol y gair. Yn GPC Ar Lein rhestrir yr enghraifft hon dan diedyng ‘?Ystyfnig, di-droi’n-ôl; ffyddlon, cywir; caled, creulon’ a’i hesbonio’n gyfuniad o’r rhagddodiad negyddol di- ac elfen edyng, sydd, mae’n debyg, yn cynnwys bôn y ferf gadu; cf. yr awgrym yn CA 252 (wrth drafod ll. 173 yno a’r cyfuniad brwydyr dieding yn GCBM i, 24.156n): ‘Gellir deall yr olaf fel rhai na fynnent adael brwydr, ystyfnig, didroi’n ôl.’ Fodd bynnag, os yw’r dd yn ffurf Gwynfardd Brycheiniog yn ddiogel, collir y cysylltiad â’r ferf gadu. Tybed ai cyfuniad (ansoddeiriol neu enwol) ydyw yn cynnwys y gair dyedd ‘rhyfel, cythrwfl’, &c. + yng ‘cyfyngder, cyfyng’, &c.? Fel y nodir yn GPC Ar Lein d.g. ing, tuedda y glir droi yn i o flaen ng neu g, ac mae’n bosibl felly y cafwyd y..i > i..i yma drwy gymathiad. Yn G 333 rhestrir diedding yn amrywiad ar dieding, ond tybed a oes dau air yma mewn gwirionedd: y naill yn darddair o di-ad(u) a’r llall o dyedd? Yr un yn ymarferol fyddai’r ystyr wrth ddisgrifio’r milwr ystyfnig a chreulon.
78 A gwestfa i Ddewi LlGC 6680B A gỽestua y dewi; J 111 a gỽesti ydei. A oedd y darlleniad yn aneglur yng nghynsail J 111?
79 tros dydwed LlGC 6680B tros tydwed; J 111 tros dydwet. Dichon fod darlleniad LlGC 6680B yn ffrwyth calediad d > t yn dilyn –s, neu efallai bod yma enghraifft arall o beidio â dangos treiglad meddal i gytsain dilais yn yr orgraff, gw., e.e., n11(t), n51(t), &c.
80 rhadau Cf. LlGC 6680B radeu; gallai J 111 radeu gyfleu ‘rhadau’ neu ‘raddau’, sef ffurf dreigledig graddeu. Mae’r ystyr yn bleidiol dros ffurf luosog rhad ‘rhodd’.
81 Gwrthebed LlGC 6680B Gỽerthebed; J 111 Gỽrthebet. Dilynir J 111 – cf. G 715 a GLlF 26.216.
82 Gwyrthfawr LlGC 6680B gwythuaỽr; J 111 gwyrthuaỽr. Derbynnir darlleniad J 111, cf. y cyfeiriad at gwyrthau yn ll. 215. Mae gwythfawr ‘mawr ei lid’ (< gŵyth ‘llid’ + mawr) yn bosibl, er nas rhestrir yn GPC Ar Lein, ond nid yw cystal o ran ystyr yma.
83 ddeddfau LlGC 6680B defeu; J 111 dedueu. Un o’r achosion prin lle ceir gwall yn LlGC 6680B a’r darlleniad cywir yn J 111.
84 Mae’r atalnodi yn J 111 yn awgrymu dehongli hon yn llinell gyntaf toddaid: Rhwng Mynyw a’r môr mawr o droau – a fydd (ac o blaid hynny byddai’r patrwm toddaid + cyhydedd naw ban a geir yn llau. 211–18; eithr ni chynhelir y patrwm hwnnw am weddill y caniad). O dderbyn hyn ni cheir cyfatebiaeth rhwng y gair cyrch a dechrau’r llinell nesaf, ac mae’n debygol mai dyna pam yr ychwanegodd ysgrifydd J 111 d at llywy y ll. ganlynol (a fydd … llywydd). Fodd bynnag, drwy ruddellu a phriflythrennu’r A (A uyt), mae ysgrifydd LlGC 6680B yn amlwg yn cymryd mai ar ddechrau ll. y daw’r A (ceir ganddo ragor o enghreifftiau o ruddellu llythyren gyntaf ail linell toddaid yn llau. 50, 68, 109, 137, &c.; ond sylwer iddo ruddellu llythyren gyntaf y gair cyrch yn ll. 116, oherwydd iddo gamdehongli’r cwpled yno, yn ôl pob tebyg, fel cyhydedd nawban yn lle toddaid).
85 ar eu LlGC 6680B ary eu; J 111 ar yeu. Tybed a ysgrifennodd ysgrifydd y gynsail y am y rhagenw blaen trydydd lluosog (gan ddilyn arfer ei gynsail yntau o bosibl, gw. n48(t), n90(t)), cyn ei gywiro’n eu gan anghofio dileu’r y?
86 Collant LlGC 6680B collat (a anghofiodd yr ysgrifydd roi nod talfyriad trwynol ar yr a?); J 111 Collant.
87 Boia LlGC 6680B boia; J 111 bora. Mae’n amlwg fod yr enw personol yn anghyfarwydd i ysgrifydd J 111.
88 gweinion LlGC 6680B gỽeinyon; J 111 gỽynnyon. Dilynir LlGC 6680B a’i ddeall yn ffurf luosog gwan, yn gyfeiriad at wendid meddyliol y merched, yn hytrach na’u gwendid corfforol. Byddai ffurf luosog gwyn, fel a geir yn J 111, hefyd yn bosibl i ddisgrifio merched ifanc noeth.
89 noethon LlGC 6680B nothon; J 111 noethon. Dichon mai gwallus yw’r ffurf yn LlGC 6680B oni bai bod yma enghraifft o gywasgu oe > o fel a geir heddiw yn rhai o dafodieithoedd y De.
90 eu gwrthwarae Dilynir LlGC 6680B eu gỽrth warae; J 111 yggỽrthwareu. Tybed ai y oedd ffurf y rhagenw blaen trydydd lluosog yn y gynsail (cf. n85(t)) a bod J 111 wedi ei gamddehongli fel yr arddodiad y(ng). O ran y gynghanedd dichon mai ffurf i ateb gwyrth sydd ei angen.
91 Llech Llafar Gan mai eb. yn unig yw llech, yn ôl y dystiolaeth, disgwylid i’r ansoddair llafar dreiglo, cf. llech lafar (lefair) ‘echo, echo stone, sounding or speaking stone’, gw. GPC Ar Lein d.g. llech1. Ond dilynir yma ddarlleniad y ddwy lsgr. (sy’n cryfhau’r gytseinedd yn y ll.) gan gymryd bod ll yma’n gwrthsefyll treiglad ar ôl –ch.
92 aeth Iwerddon LlGC 6680B aeth ywerton; J 111 aeth y Iwerdon. Dilynir LlGC 6680B sy’n rhoi’r nawsill disgwyliedig, a’r cyrchfan Iwerddon, yn cael ei gyflwyno heb arddodiad ar ôl ffurf ar myned, gw. TC 227. Wrth gwrs mae’n bosibl fod yr arddodiad i wedi ei gywasgu yn yr enw lle, fel yr awgrymir gan ddarlleniad J 111.
93 ein rhi i enrhyfeddau LlGC 6680B yn ri y en ryueteu; J 111 yn ri enryuedeu. Ni nodir darlleniad LlGC 6680B yn GLlF 242 a dilynir yno J 111 gan aralleirio ‘ein brenin rhyfeddodau’. Dilynir LlGC 6680B a chan fod hyd y llinell yn hir o sillaf fel y saif, gellid cywasgu rhi i yn unsill.
94 bregethwys … bregeth LlGC 6680B peregethwys … pregeth; J 111 bregethỽys … bregeth. Gan fod pan yn cael ei ddilyn yn rheolaidd gan dreiglad meddal, oni bai bod calediad cystseiniol, gw. TC 161, dilynir yma ddarlleniad J 111.
95 Dilynir yma LlGC 6680B a J 111 sy’n gosod ll. 245 fel agoriad caniad newydd, er bod y caniad ar yr un brifodl â’r caniad blaenorol. Rhaid cydnabod y posibilrwydd mai fel un caniad y bwriadai’r bardd ganu llau. 212–71, ond eu bod wedi eu rhannu’n wallus yn ddau ganiad yn y gynsail. (Ni chafwyd hyd i enghraifft arall o ddau ganiad ar yr un odl yn dilyn ei gilydd.) Gan mai tenau iawn yw’r cymeriad rhwng y rhan fwyaf o’r caniadau, mae’n anodd defnyddio’r diffyg cyswllt rhwng llau. 245 a 246 fel sail dros eu gosod yn yr un caniad.
96 ynghyd LlGC 6680B y gyd; J 111 ygyt. Anodd gwybod, ar sail yr orgraff, ai ynghyd neu i gyd a fwriadwyd; cf. G 105.
97 drech Gellid dehongli’r c yn LlGC 6680B fel t (dreth);nid oes amheuaeth nad drech a fwriadwyd, fel a geir yn J 111.
98 unbennaeth unbenesau Cf. LlGC 6680B; gthg. J 111 unbennaeth. yssit unbennesseu, gyda llinell ddileu o dan yssit yn llaw John Davies yn ôl pob tebyg. Byddai cynnwys yssit yn peri i’r llinell fod yn rhy hir o ddwy sillaf.
99 Ni cheir y llinell hon yn J 111, ond ceir arwydd mewnddodi yn llaw John Davies ar ôl iddo sylweddoli bod llinell yn eisiau ar ôl cymharu ei gopi ef o’r testun yn BL 14869 â thestun LlGC 6680B.
100 Tybed a oes llinell yn eisiau o flaen ll. 284, gan nad yw’r llinell hon yn rhan o gwpled? Mae’n cychwyn â chysylltair fel y gwna llau. 279 a 283, sydd ill dwy yn ail linell mewn cwpled.
101 i un orsedd LlGC 6680B y un orsset; J 111 ynunorsed. Rhydd y ddau ddarlleniad ystyr ddigonol, ond dilynir LlGC 6680B yma.
102 digymrodedd LlGC 6680B dy gymrodet; J 111 dygymroded. Rhestrir yr enghraifft hon o cymrodedd yn G 437 a GPC Ar Lein d.g. cymrodedd1 ‘cymod; cytundeb’, &c. (a’r ffurf yn cynnwys yr enw brawd ‘barn’); dilynant HG Cref 286 sy’n esbonio’r dy (ddy) yma fel hen ffurf ar yr arddodiad y a welir mewn cyfuniadau megis y dreis ‘trwy drais’; ar hwnnw gw. GPC Ar Lein d.g. i4; cf. GLlF 462 di gymrodedd ‘drwy gytundeb’. Ond prin iawn yw’r dystiolaeth dros d(d)i/d(d)y fel arddodiad yn y cyfnod hwn ac eithrio mewn cyfuniadau sefydlog, a gwell yw deall digymrodedd yma’n ansoddair i ddisgrifio Dewi, yn cynnwys y rhagddodiad negyddol di- (am enghreifftiau achlysurol o dy- yn y llawysgrifau yn lle di-, gw. G 323 et passim), a’r elfen cymrodedd ‘hefelydd, cystedlydd, cymar’ (< cym- + brawd ‘brother’), gw. GPC Ar Lein d.g. cymrodedd2. Am y syniad a fynegir yma, cf. GDB 30.87–8 A Dafydd … / Ni bu o Gymro ei gymrodedd.
103 Dycheferfyddwn Ffurf person cyntaf lluosog orchmynnol dychyfarfod; ni nodir dycheferfydd- fel ffurf amrywiol ar fôn y ferf yn GPC Ar Lein d.g. dychyfarfyddaf, ond gan mai dyna a awgrymir gan ddarlleniad LlGC 6680B a J 111 yn y llinell hon a’r llinell ddilynol, cymerir bod yma gymathiad y..e (dychyferfydd-) > e..e (dycheferfydd-).