Rhagymadrodd Testun golygedig Llawysgrifau English

3. Canu i Ddewi

golygwyd gan Ann Parry Owen

Rhagymadrodd

Mae hon yn un o dair cerdd i saint a ganwyd yn y ddeuddegfed ganrif: gw. hefyd TysilioCBM a CadfanLlF. Trafodir cyd-destun gwleidyddol a hanesyddol y cerddi gan Nerys Ann Jones a Morfydd E. Owen (Jones and Owen 2003: 45–76), sy’n dadlau bod y tair wedi eu comisiynu ar gyfer eu datgan ar achlysuron penodol mewn eglwysi cysylltiedig â’r saint perthnasol. Yn ogystal â chynnwys deunydd hagiograffyddol am y saint, neilltuir cyfran sylweddol o’r cerddi i foli’r gymuned eglwysig gyfoes ac arwein wyr secwlar y diriogaeth lle lleolid eu eglwysi, sef yr Arglwydd Rhys o’r Deheubarth yn achos Canu i Ddewi gan Wynfardd Brycheiniog.

Mae’n debygol iawn mai enw barddol oedd Gwynfardd Brycheiniog, a luniwyd, ym marn R. Geraint Gruffydd, ar sail enw Gwynfardd Dyfed, un o gyndeidiau Dafydd ap Gwilym (Gruffydd 1979–80: 100). Gall Gwyn- olygu ‘sanctaidd’ neu ‘gwynfydedig’ ac mae’n ddigon posibl fod Gwynfardd wedi datblygu’n derm am fardd ac iddo gyswllt â sefydliad crefyddol penodol. Yn sicr, ymuniaetha Gwynfardd â dilynwyr Dewi yn y gerdd hon. Tybed a oedd ganddo gyswllt arbennig ag un o eglwysi Dewi ym Mrycheiniog, megis hen eglwys fynachlogaidd bwysig Llan-ddew, ryw filltir i’r gogledd-ddwyrain o dref Aberhonddu (gw. n73(e); Coflein dan St David’s Church, Llanddew; Davies 1873: 277–84)? Credir mai yno, mewn palas esgobaethol ar bwys eglwys Llan-ddew, y trigai Gerallt Gymro wedi iddo gael ei ethol yn archddiacon Brycheiniog yn 1175 (ibid. 282–4). Perthynai’r archddiaconiaeth i esgobaeth Tyddewi, ac yn ei flynyddoedd fel archddiacon gwelid Gerallt Gymro yn gweithredu’n ymarferol i hyrwyddo cwlt Dewi ac i amddiffyn hawliau’r esgobaeth. Os oedd cyswllt rhwng Gwynfardd a Llan-ddew (ai yma, efallai, y derbyniodd ei addysg?), yna ni raid synnu ei fod mor wybodus am hanes Dewi.

Cynigiodd Nerys Ann Jones a Morfydd E. Owen fod Canu i Ddewi wedi ei gyfansoddi ar ôl 1170, oherwydd y cyfeiriad yn y gerdd at yr Arglwydd Rhys fel Môn wledig (ll. 153): ‘A claim for supremacy over Anglesey was, by the twelfth century, tantamount to claiming supremacy over the whole of Wales’, ac felly, ‘It is unlikely that any poet would venture to refer to Rhys as Mon wledic before the death of Owain Gwynedd in 1170’ (Jones and Owen 2003: 61). Ond rhaid cofio bod mam Rhys, Gwenllïan ferch Gruffudd ap Cynan, yn chwaer i Owain Gwynedd (EWGT 104), ac efallai mai’r cyfan a wna Gwynfardd wrth ddisgrifio Rhys fel Mon wledic yw atgoffa’r gynulleidfa o etifeddiaeth Rhys ar ochr ei fam. Cynigir ymhellach, Jones and Owen 2003: 62, fod y cyfeiriad at esgob yn gweinyddu uwch allorau Dewi (ll. 267) yn awgrymu dyddiad mwy penodol rhwng 1175 a 1176, pan oedd David Fitzgerald yn esgob Tyddewi a’i nai, Gerallt Gymro, yn archddiacon Brycheiniog. Dyrchafwyd Gerallt yn archddiacon yn 1175 a bu farw David Fitzgerald yn 1176. Gall fod yn arwyddocaol hefyd fod noddwr tebygol y gerdd, yr Arglwydd Rhys, yntau’n perthyn i Gerallt Gymro, drwy fam Gerallt, Angharad, a chyfansoddod Gwynfardd awdl yn moli’r Arglwydd Rhys yn y 1170au, o bosibl tua 1176 (gw. GLlF 422 a ByCy Arlein dan Gwynfardd Brycheiniog).

Dehonglir buchedd Ladin Rhygyfarch, a gyfansoddwyd rywbryd cyn 1097, yn aml fel ‘A major manifestation of propaganda for St David’s cult, perhaps in the face of Norman opposition to native practices’ (Jones and Owen 2003: 52) ac fe’i gwelir yn rhagarweiniad i’r ymgyrch a enillodd dir yn y ddeuddegfed ganrif i ennill statws metropolitan i Dyddewi fel archesgobaeth annibynnol ar Gaer-gaint a fyddai’n uniongyrchol atebol i’r Pab yn Rhufain (Davies 2007b: 296–7; Pryce 1996: 146). Yr oedd y tywysogion Cymreig, ac yr Arglwydd Rhys yn benodol, yn gefnogol iawn i’r ymgyrch honno. Er mai Mynyw (sef esgobaeth Tyddewi) sy’n cael ei henwi ar frig y rhestr o eglwysi Dewi yn y gerdd hon (ll. 85), mae ei phrif ffocws, fel y nodwyd eisoes, ar eglwys Dewi yn Llanddewibrefi a’i nawdd hithau rhwng afonydd Teifi a Thywi⁠. Ymuniaetha Gwynfardd ag eglwyswyr Llanddewibrefi gan ganmol eu croeso yno yn ogystal â’r parch a ddangosid tuag at ei gerdd. Mae’r cyfeiriadau at yr Arglwydd Rhys a’r esgob (gw. uchod) yn awgrymu eu bod hwythau’n bresennol ar achlysur datgan y gerdd, ac mae hynny’n awgrymu gŵyl o gryn bwysigrwydd. Dichon hefyd mai cywir yw’r awgrym fod y bardd, drwy ei gyfeiriadau niferus at synod Llanddewibrefi, yn ceisio hyrwyddo’r ymgyrch i gael statws metropolitan ar gyfer Tyddewi (Jones and Owen 2003: 63), ond gallwn fod yn sicr hefyd, ei fod am hyrwyddo diddordebau eglwys Llanddewibrefi fel canolfan pererindota yn ogystal ag fel noddfa effeithiol. Arwyddocaol, hefyd, yw’r pwyslais ar y Gymraeg fel iaith y gerdd (llau. 136–9), yn hytrach na’r iaith Ladin efallai.

Braint y rhai a drigai o fewn dalgylch nawdd Dewi ym Mrefi oedd rhydid heb ofud, heb ofyn amgen, / Heb ofal cynnen (llau. 15–16). Yn wir sonnir sawl gwaith drwy’r gerdd am ei nawdd i’w bobl a braint y rhai a drigai o fewn ei diriogaeth, dau derm ac iddynt gynodiadau cyfreithiol, yn awgrymu amddiffyniad eithaf ac imiwnedd o’r gyfraith secwlar. Fel yr esbonnir yn Jones and Owen 2003: 55, ‘Both braint and nawdd are native legal concepts developed in a church context from the field of secular law where braint means the right of enjoying full legal status or privilege. In the case of a church, it is a privilege generally associated with royal grant or protection.’

Yn ôl Buchedd Dewi, ymestynnai nawdd Dewi rhwng afonydd Tywi a Theifi (BDe 18.21–2 o Dyui [= Dywi] hyt ar Deivi) a cheir disgrifiad manwl gan Wynfardd Brycheiniog o hyd a lled y diriogaeth hon ym mhumed caniad yr awdl hon. Diogel ei nawdd i’r neb a’i cyrcho (ll. 140), medd y bardd cyn mynd ymlaen i nodi pegynnau eithaf y nawdd hwnnw: O Garawn … / Hyd ar Dywi … / O’r Llyndu … / Hyd at Dwrch, terfyn tir â charreg (llau. 144–7). Yn Llyn Teifi, yn ardal Caron, y mae afon Teifi yn tarddu, a hi sy’n llunio ffin orllewinol y nawdd. Arwyddocâd enwi’r Llyn Du, ger Tregaron, yw mai yma y tardd afon Tywi sy’n llunio ffin ddwyreiniol y nawdd. Dichon fod y Llyn Du hefyd yn cynrychioli pegwn gogleddol y nawdd, o bosibl ar y ffin rhwng tiroedd Dewi yn ne Ceredigion a thiroedd Padarn yn y gogledd (ond gw. n94(e) am bosibiladau eraill ar gyfer lleoliad y llyn hwn). Cynrychiolir pedwerydd pegwn y cwmpawd gan afon Twrch, sy’n codi yn y mynydd-dir ychydig i’r de-ddwyrain o Landdewibrefi ac yn llifo i’r de trwy Lan-y-crwys cyn ymuno ag afon Cothi ychydig i’r de o Bumsaint. Casglwn mai ar bwys afon Twrch y mae carreg benodol sydd, meddai’r bardd, yn dynodi terfyn tir a dichon fod Heather James yn gywir mai Carreg Hirfaen Gwyddog yw hon, sy’n sefyll rhyw filltir i’r gorllewin o afon Twrch ac a ddisgrifir fel ‘An erect monolith, 4.8m high by 1.1m by 0.8m, carrying a modern in[s]cription: serves as a boundary marker between Ceredigion and Carmarthenshire’ (gw. Coflein dan Carreg Hirfaen; Hirvaen Gwyddog; hefyd James 2007: 67). Roedd yn garreg enwog yn ei dydd, ac fe’i henwir yn Efengylau Caerlwytgoed, yn dynodi ffin orllewinol Trefwyddog, sef ardal a gyfatebai’n ddiweddarach i diriogaeth Caeo (n96(e)).

Nodwedd ddiddorol arall ar y gerdd hon yw’r rhestr drefnus a geir ynddi o eglwysi Dewi yn y pedwerydd caniad, yn arbennig yn llinellau 85–107. Dechreuir gan enwi’r ddwy bwysicaf, Mynyw a Brefi, sef Tyddewi a Llanddewibrefi: Dewi mawr Mynyw, syw sywedydd, / A Dewi Brefi ger ei broydd (llau. 85–6). Nesaf daw Llangyfelach, prif eglwys Gŵyr, lle derbyniodd Dewi orchymyn gan angel i fynd i Jerwsalem, a lle danfonwyd iddo allor gan badriarch o Jerwsalem ar ôl iddo ddychwelyd i Gymru (n56(e)). Dichon mai arwydd o bwysigrwydd yr eglwys hon yw’r ffaith fod y bardd yn neilltuo cwpled cyfan i’w disgrifio. O hyn ymlaen enwir yr eglwysi mewn rhyw fath o drefn daearyddol: ceir eglwys Meidrum (ll. 90) yng nghwmd Ystlwyf, yna clwstwr ar lan afon Teifi – Bangor Teifi (ll. 91), Henllan (ll. 91) a Maenordeifi (ll. 93) – yna Abergwyli yn sir Gaerfyrddin (ll. 94). Yna symudir i’r gogledd at ei eglwysi i’r de o afon Aeron yng Ngheredigion, sef Henfynyw (ll. 95) a Llannarth (ll. 97). Mae lleoliad y ddwy nesaf, Llanadnau (ll. 97) a Llangadog (ll. 98), yn ansicr – o bosibl Llanarthne yn sir Gaerfyrddin a Llangadog, eglwys bwysig ar y Sarn Hir a gysylltai orllewin Cymru a Brycheiniog (n66(e), n67(e)). Lleolir y pedair nesaf yn agos i dref Aberhonddu – Llan-faes (ll. 99), Llywel (ll. 100), Garthbryngi (ll. 101) a Thrallwng Cynfyn (ll. 102) – a phump os gellir uniaethu Llanddewi (ll. 103) ag eglwys Llan-ddew, milltir i’r gogledd o’r dref (n73(e)). Yn nesaf enwir dwy eglwys yn Elfael, sef Glasgwm (ll. 104) a Chregrina (ll. 106), ac un ym Maelienydd, yn Ystradenni (ll. 107). Dychwelir ar y diwedd i Landdewibrefi (llau. 108–9) gan neilltuo sawl llinell i foli tiriogaeth a chymuned yr eglwys yno (llau. 108–115) a chyfeirio’n benodol at ei thrigolion bonheddig (llau. 116–19). Mae gwybodaeth fanwl Gwynfardd am yr eglwysi hyn, a’r modd y mae’n cyfeirio’n aml at ryw nodwedd ddaearyddol a berthyn iddynt – megis tir mynyddig, dôl, meysydd gwyrdd llawn meillion, tir coediog – yn awgrymu’n gryf ei fod yn bersonol cyfarwydd â’u lleoliadau.

O ran ei strwythur, mae’r gerdd yn gwbl nodweddiadol o ganu Beirdd y Tywysogion. Nid dweud hanes a wna’r bardd, gan symud yn rhesymegol neu’n gronolegol o’r naill bwnc i’r llall. Yn hytrach, neidia o un episod neu thema i’r nesaf gan ailadrodd rhai themâu neu hanesion sawl gwaith yng nghwrs y gerdd, gan roi i ni ddarlun cynyddol o wahanol agweddau ar Ddewi Sant a’i fuchedd ac ar fywyd yn ei eglwys yn Llanddewibrefi yn y ddeuddegfed ganrif. (Gw. isod am ddisgrifiad fesul caniad o gynnwys yr awdl, a cheir manylion pellach yn y nodiadau.) Ond hyd yn oed os na allwn ddisgrifio’r gerdd fel buchedd Dewi ar fydr, mae ynddi’r holl gynhwysion a ddisgwylid mewn buchedd sant: ei dras; yr hanesion amdano, yn enwedig am ei wyrthiau; ei greiriau; disgrifiad o’i eglwysi; hyd a lled ei nawdd; a’i bwysigrwydd i’w bobl ar Ddydd y Farn, pan fydd yn rhoi gair bach da amdanynt wrth y Barnwr Mawr, fel bod ganddynt well gobaith i ddianc rhag poenau pwll uffern.

Cyfansoddwyd Canu i Ddewi, sy’n gloddfa o wybodaeth am y sant a’i draddodiadau, ryw ganrif a hanner cyn i awdur-gyfieithydd dienw gynhyrchu buchedd Gymraeg ar gyfer Dewi, o bosibl yn hanner cyntaf y bedwaredd ganrif ar ddeg neu yn ail hanner y ganrif flaenorol (WLSD liv–lv). Mae sawl un wedi awgrymu bod ôl dylanwad gwaith Rhygyfarch ar y gerdd – yn rhannol gan fod rhai cyfatebiaethau rhyngddynt nas ceir yn y fuchedd Gymraeg – ond mewn gwirionedd mae’n fwy tebygol fod Rhygyfarch a Gwynfardd wedi tynnu ar yr un traddodiadau. Ceir gan y ddau themâu a hanesion heb fod yng ngwaith y llall.

O ddiddordeb arbennig yw’r cyfeiriadau yn y gerdd at hanesion neu themâu y ceir adleisiau ohonynt mewn barddoniaeth ddiweddarach, ond na chyfeirir atynt yn y bucheddau rhyddiaith, boed yn Lladin neu’n Gymraeg. Er enghraifft mae Gwynfardd yn nodi bod y bryn gwyn yn Llanddewibrefi wedi codi yng ngŵydd tyrfa o 147,000 o bobl. Fel y gwelir isod (n20(e)), ni cheir unrhyw rif yn y bucheddau rhyddiaith, ond dyma’r union rif a gafwyd yn ddiweddarach gan Iolo Goch a chan Ieuan ap Rhydderch yn eu cerddi hwythau i Ddewi (160,000 oedd y rhif yn ôl Dafydd Llwyd o Fathafarn), ac awgrymir bod y naill fardd neu’r llall wedi gweld cerdd Gwynfardd yn Llawysgrif Hendregadredd yng Nglyn Aeron a chodi’r manylyn oddi yno. Ceir tri chyfeiriad yn y gerdd hon at y bryn fel bryn gwyn, fel petai’n enw sefydlog. Ai cyd-ddigwyddiad yw hi fod Lewys Glyn Cothi yn defnyddio’r un cyfuniad, tra disgrifir y fan fel mynydd neu brynn vchel yn y fuchedd (n19(e))? Hefyd, Ieuan ap Rhydderch a Gwynfardd Brycheiniog yw’r unig rai sy’n cyfeirio at y mab a atgyfododd Dewi ar ei ffordd i synod Brefi fel Magna (n84(e)). Yn y farddoniaeth yn unig hefyd y ceir cyfeiriadau at yr hyddod gwyllt (17–18) ac at Ddewi’n dofi adar gwyllt a oedd yn dinistrio ŷd Peulin (168–75, ond gw. n110(e) lle trafodir cyfeiriadau at yr un hanes ym mucheddau Illtud a Phawl Aurelian). Ar y llaw arall mae ambell hanesyn fel petai’n unigryw i’r gerdd hon, fel y cyfeiriad at y ferch ‘greulon ei dannedd’ a roddodd i Ddewi ergyd â’i llaw, o bosibl pan oedd yn Jerwsalem (llau. 23–4); y cyfeiriad at Ddewi yn hwylio dros y môr ar lechen (n117(e)); hefyd y cyfeiriad at y Ffrancwr wynepglawr a deithiasai o Ffrainc i geisio iachâd gan y sant (llau. 158–61). Diddorol hefyd yw cyfeiriadau Gwynfardd at eiddigedd Boia ac ymdrechion y morynion ifanc i ddwyn gwarth ar Ddewi a’i ddisgyblion, a chyfetyb yr hanes yn nes, mewn mannau, at y fersiwn a geir ym muchedd Teilo nag at y fersiwn ym mucheddau Cymraeg a Lladin Dewi (e.e., gw. n118(e), n130(e)).

Ceir trafodaeth gynhwysfawr am Ddewi Sant a’r bucheddau rhyddiaith sydd wedi goroesi gan Dr Jenny Day yn BDewi.

Dyddiad
Ansicr: o bosibl ar ôl 1170 ac efallai yn y cyfnod 1175–6; gw. y drafodaeth uchod.

Golygiadau blaenorol
HG Cref cerdd XVIII; CTC 10–15, 260–7a; OBWV 33–6 (rhan); GLlF cerdd 26; Owen 1991–2.

Crynodeb o’r gerdd
Caniad I (1–30)
Agorir ag erfyniad traddodiadol gan y bardd ar i Dduw roi iddo awen i ganu cerdd ysbrydoledig i Ddewi (1–6). Mae’r ymadrodd pan ddêl pylgaint (2) yn awgrymu cyd-destun eglwysig, a byddai hynny’n cyd-fynd ag awgrymiadau pellach mai yn eglwys Llanddewibrefi y canwyd y gerdd hon. Cyfeirir at Sant (11), tad Dewi, cyn moli nawdd ac amddiffyn Dewi i’r sawl sy’n trigo yn ei diriogaeth (11–18). Sonnir am bererindod Dewi i Rufain a Jerwsalem, pan deithiodd yn wyrthiol dros y môr ar garreg, a phan ddioddefodd ymosodiad gan ferch filain (19–24). Cyfeirir yn fyr at helynt yn ymwneud â phennaeth o Ddyfnaint (25–6) a daw’r caniad i ben gyda disgrifiad o’r bryn yn codi o dan draed Dewi yng ngŵydd tyrfa o gant a deugain mil yn Llanddewibrefi, gan ddyrchafu braint ac enw da Brefi (27–30).

Caniad II (31–62)
Sonnir am fraint a rhyddid tiriogaeth Dewi gan gynnwys Iwerddon, y Deau a chantref Pebidiog yn Nyfed, lle y lleolir Tyddewi (31–4). Disgrifir Dewi ar Ddydd y Farn yn arwain y Cymry at Dduw, gan gymryd ei le gerbron Padrig a’i luoedd yntau o Iwerddon (35–40). Dilynir hyn gan gyfres o linellau ar y cymeriad A garo Dewi …, sy’n disgrifio rhinweddau dilynwyr Dewi, y rhai y bydd ef yn gofalu amdanynt (41–50). Sonnir am ddau draddodiad yn ymwneud ag ychen Dewi: sef eu bod wedi cael eu cydieuo dan gar Cynawg (51–2) (ni cheir rhagor o esboniad am hyn), a’u bod wedi cerdded dros ddau fynydd i fynd â chloch o’r enw Bangu i eglwys Glasgwm yn Elfael, cyn mynd â dwy rodd arall i Frycheiniog (53–8). Mae’r caniad yn cloi drwy gadarnhau mai ar Dduw a Dewi y byddwn ni yn galw pan fyddwn yn ofnus (a’r ni yma’n awgrymu bod y bardd yn uniaethu ei hun â dilynwyr Dewi.)

Caniad III (63–80)
Ar ôl mynegi hyder yn niogelwch eu bro (63–4), disgrifia Gwynfardd y croeso a gâi yn y gymuned eglwysig yn Llanddewibrefi (73), gan foli ei hoffeiriaid, ei gwasanaethau a’r gwleddoedd fin nos (65–72). Awgryma presenoldeb Gwragedd, rhianedd, rhai a garwyf (70) fod y wledd yn un gyhoeddus. Testun balchder arbennig i’r bardd yw’r ffaith ei fod wedi derbyn parch tuag ato ef ei hun a’i farddoniaeth – mae hyn yn cyd-fynd â’r rhagdybiaeth mai bardd o Frycheiniog oedd Gwynfardd a dderbyniasai wahoddiad i ddod i Landdewibrefi i ganu’r gerdd hon. Diwedda’r caniad gyda’r bardd yn cadarnhau ei deyrngarwch i Dduw ac i Ddewi (75–6), gan addo gwneud yn iawn i’r ddau ohonynt am ei gamweddau (77–8), a chan fynegi ei ffydd yng ngallu Dewi i’w amddiffyn ef yn bersonol (79–80).

Caniad IV (81–131):
Gofynnir i Dduw a Dewi am eu cariad a’u nawdd, gan bwysleisio unwaith eto statws pwysig Dewi ger Duw (81–4). Cyflwynir rhestr o eglwysi Dewi (85–107) gan enwi’r ddwy bwysicaf, Mynyw a Llanddewibrefi, yn y drefn honno (85–6), cyn neilltuo cwpled i foli Llangyfelach (87–8). Yna enwir cyfres o eglwysi gan ddilyn rhyw fath o drefn daearyddol cyn dychwelyd i Landdewibrefi (108–9) a neilltuo sawl llinell i foli tiriogaeth a chymuned yr eglwys yno (108–115) gan gyfeirio’n benodol at y trigolion bonheddig (116–19). Uniaetha’r bardd â’r gymuned yn Llanddewibrefi, a mynegi ei hyder yn nawdd Dewi i’w bobl ar y ddaear ac ar Ddydd y Farn (120–3). Cyfeirir at wyrth Dewi yn atgyfodi Magna ar ei ffordd i’r senedd yn Llanddewibrefi (124–7) cyn cloi gan foli unwaith yn rhagor gymuned elusengar Brefi a’u ffyddlondeb i’r sant (128–31).

Caniad V (132–53)
Yn y pedwar cwpled cyntaf ceir disgrifiad o’r croeso llawn parch a llawenydd a gafodd Gwynfardd a’i ganu yn Llanddewibrefi (132–9). Diffinnir nawdd Dewi, yn ymestyn o Garon yn y gogledd, tarddle afon Teifi, a’r Llyn Du, tarddle afon Tywi, hyd at afon Twrch a Charreg Hirfaen yn y de. Dehonglir y chwe chwpled olaf yn fawl i’r Arglwydd Rhys, sef noddwr effeithiol yr awdl, gan gyfeirio braidd yn enigmatig at achlysur pan ddialodd ddwyn ei wartheg (148–53).

Caniad IV (154–95)
Cadarnha’r bardd ei fwriad i gyflwyno ei ganu i bennaeth yr eglwys (yn Llanddewibrefi, yn ôl pob tebyg) (154–7). Sonnir am y sant yn adfer ei olwg i’r Ffrancwr wynepglawr (158–61), ac am ymweliad â Brefi gan ferch i frenin y dwyrain gan ddod â gwaredigaeth gyda hi (162–5). Gwyrth bellach yw’r ffaith fod y sawl a gleddir ym mynwent Dewi (?yn Nhyddewi) yn sicr o osgoi poenau uffern, a neulltuir sawl llinell i adrodd yr hanes am Ddewi yn ateb cais Peulin i amddiffyn ei ŷd rhag adar gwyllt (168–75). Cyfeirir at ei greiriau: ei allor ryfeddol (182), ei gloch (184) a’i fagl (186), cyn cyfeirio eto at wyrthiau’r bryn gwyn (189), y garreg a’i cariodd dros y weilgi (190) a’r tri mwg (193) a nodai ei diriogaeth.

Caniad VII (196–211)
Dyma ganiad o fawl mwy cyffredinol i Ddewi a’i awdurdod ar dir a môr. Dywed y bardd iddo ymweld â Mynyw yn y gorffennol, ac am yr ail waith yn yr awdl, cyfeirir at y sant fel Dewi mawr Mynyw (210, cf. 85).

Caniad VIII (212–45)
Ceir ansicrwydd yma a gyfeirir at y sant, neu at bennaeth cyfoes y gweithredai’r sant drwyddo. Pwy yw’r gwyrthfawr briodawr (217) a ddisgrifir yn llinellau cyntaf y caniad, yr un a rannai’n hael roddion, megis dillad drudfawr, ac a atebai gais pawb â gwyrthiau? Pwy bynnag ydoedd, gobeithia Gwynfardd y bydd yn dangos yr un haelioni tuag at ei fardd! Pwysleisir natur warcheidwol y pennaeth hwn eto (218–27) cyn cyfeirio’n fwy penodol at Ddewi yn adeiladu ei eglwys yn Nhyddewi (229 Hoddnant), yn groes i ewyllys yr arglwydd lleol gelyniaethus, Boia. Disgrifir ymgais ofer Boia i gael gwared ar y sant drwy ddwyn gwarth arno ef a’i ddisgyblion (232–7). Yn llinellau olaf y caniad sonnir am ymadawiad chwerw Padrig am Iwerddon, ar ôl i Dduw ei hysbysu, cyn genedigaeth Dewi, mai Dewi a fyddai’n arglwydd Mynyw. Clöir gyda chyfeiriad at wyrth arall a wnaeth Dewi cyn ei eni, sef bod Gildas (nas henwir yma) wedi pregethu’n uchel Fal corn pan aeth Non, a gariai Dewi yn ei chroth, allan o’r eglwys (244–5).

Caniad IX (246–71)
Ceir yma fawl mwy penodol i Ddewi, gan gyfeirio at wyrth ei sefydlu’n sant yn ei diriogaeth drwy gyfrwng arwydd brwynen o’r nefoedd. Cyfeirir at elfennau yn ei diriogaeth sy’n amlygu ei nerthoedd gwyrthiol – ei ffynnon (256–7) a chreigiau penodol ac ynddynt ôl ei droed ef a’i farch (258–9). Mae’r cyfeiriad y [b]ryn gwyn (260) yn awgrymu mai Llanddewibrefi eto yw ffocws y caniad hwn, a dichon mai cyfeiriad at y croeso a’r hwyl a gâi’r bardd yno ar adeg gwledd a geir yn llinellau 260–5. Yn llinellau olaf y caniad noda Gwynfardd iddo ddod i’r de (270 dothwyf i’r Dehau), a chan fod Mynyw, Llanddewibrefi a Brycheiniog oll yn y Dehau, mae’n bosibl mai cyfeirio a wna at ddychwelyd o’r gogledd, o bosibl o Fôn (271).

Caniad X (272–96)
Yn y caniad olaf hwn mynega Gwynfardd oruchafiaeth Dewi ar saint eraill, gan gyfeirio at y modd y cymhellodd saint o bob rhan o Brydain ac o Ffrainc a Llydaw i ymuno yn ei senedd yn Llanddewibrefi, lle y bu iddynt i gyd gymryd Dewi … / Yn bennaf (287–8). Clöir y caniad trwy ddisgrifio pwerau gwarcheidwol Dewi ar Ddydd y Farn, pan fydd ef, ynghyd â Mair a Mihangel, yn cyflwyno eirioled ar ran ei bobl ac yn eu harwain at drugaredd bythol Duw (289–96).

Mesur a chynganedd
Disgrifir y gerdd yn ei theitl fel Canu i Ddewi, term a ddefnyddir yn nheitlau nifer o gerddi o’r ddeuddegfed ganrif yn Llawysgrif Hendregadredd a Llyfr Coch Hergest am awdl hir amlganiad, a’r caniadau hynny gan amlaf wedi eu cydgysylltu gan gymeriad, cytseinedd neu odl.

Nid oes yr un llinell yn y gerdd y gellid ei disgrifio’n ddigynghanedd: ceir un ai cytseinedd, yn enwedig ar ganol llinell (cynghanedd braidd gyffwrdd); odl fewnol, weithiau’n llunio cynghanedd lusg; neu gyfuniad o gytseinedd ac odl (yn llunio cynghanedd sain o ryw fath).

Mae peth afreoleidd-dra yn hyd y llinellau. Gellir cywasgu nifer ohonynt er mwyn cael y nifer sillafau disgwyliedig, tra bod eraill yn sylfaenol yn rhy hir: tynnwyd sylw at rai achosion arwyddocaol yn y nodiadau. Mae’r diffyg cysondeb hwn yn awgrymu efallai nad oedd cyfri sillafau yn nodwedd o ganu Gwynfardd yn gyffredinol.

Defnyddiwyd tri mesur yn yr awdl, sef cyhydedd naw ban, cyhydedd hir a thoddaid (gw. y dosbarthiad isod), gan amlaf heb unrhyw batrwm. Mae’r cyhydeddau naw ban a’r toddeidiau yn cyfateb i ddisgrifiad John Morris-Jones o’r mesurau yn CD 337–40; ond, ac eithrio llinellau 99–100, mae’r cyhydeddau hir yn wahanol i’r patrwm a ddisgrifir ibid. 315, gyda chytseinedd, yn hytrach nag odl, yn cydio diwedd y cymal cyntaf wrth ddechrau’r ail gymal. Disgrifiwyd y llinellau hyn yn doddeidiau heb odl yn y gwant yn HG Cref 187.

Caniad I (llau. 1–30): 30 llinell ar y brifodl -(i)aint; cyhydedd nawban (1–2, 5–6, 9–10, 13–14, 17–18, 21–30), cyhydedd hir (3–4, 15–16) a thoddaid (11–12, 19–20). Ceir cyrch-gymeriad geiriol rhwng diwedd y caniad hwn a dechrau’r nesaf (braint / Ei fraint).

Caniad II (llau. 31–62): 32 llinell ar y brifodl -(i)awg; toddaid (31–2, 43–4, 49–50, 53–4), cyhydedd nawban (33–4, 37–42, 45–8, 51–2, 55–62), cyhydedd hir (35–6). Ceir cyrch-gymeriad cytseiniol yn clymu diwedd y caniad wrth ddechrau’r nesaf ( bresen breswyl fodawg / Breiniawl fyth fyddaf).

Caniad III (llau. 63–80): 18 llinell ar y brifodl -wyf; toddaid (63–4, 77–8), cyhydedd nawban (65–6, 69–70, 73–6, 79–70), cyhydedd hir (67–8, 71–2). Ceir cyrch-gymeriad yn clymu diwedd y caniad â dechrau’r nesaf (archwyf / Archaf).

Caniad IV (llau. 81–131): 51 llinell ar y brifodl -ydd; toddaid (81–2, 95–6, 108–9, 116–17, 122–3), cyhydedd nawban (83–6, 89–90, 93–4, 97–8, 101–7, 110–15, 118–121, 124–131), cyhydedd hir (87–8, 91–2, 99–100). Ni cheir cyrch-gymeriad yn cysylltu’r caniad hwn â’r nesaf (oni chyfrifir ailadrodd y gair Brefi yn llinell olaf y caniad hwn a thrydedd llinell y caniad nesaf).

Caniad V (llau. 132–53): 22 llinell ar y brifodl -eg; toddaid (132–3, 136–7, 148–9), cyhydedd nawban (134–5. 138–9, 142–7, 150–3), cyhydedd hir (140–1). Ceir cyrch-gymeriad llythrennol (rh-) yn cysylltu diwedd y caniad wrth y caniad nesaf.

Caniad VI (llau. 154–95): 42 llinell ar y brifodl -i; toddaid (154–5), cyhydedd nawban (156–95, ond gw. n73(t) am y posibilrwydd mai fel toddaid y dylid dehongli 184–5). Mae cyrch-gymeriad llythrennol (D-) yn cysylltu diwedd y caniad a dechrau’r nesaf.

Caniad VII (llau. 196–211): 16 llinell ar y brifodl -ed; toddaid (196–7, 204–5), cyhydedd nawban (198–203, 206–11). Ceir cyrch-gymeriad cytseiniol yn cysylltu diwedd y caniad â dechrau’r un canlynol (chred / chronnes).

Caniad VIII (llau. 212–45): 34 llinell ar y brifodl -au; toddaid (212–13), cyhydedd nawban (214–41, 244–5), cyhydedd hir (242–3). Ceir lledodl, o bosibl, yn cysylltu diwedd y caniad â dechrau’r caniad nesaf (eiriau / syrthai). Gan eu bod ar yr un brifodl, mae’n bosibl y dylid cymryd caniadau VIII a IX yn un caniad, gw. n95(t).

Caniad IX (llau. 246–71): 26 llinell ar y brifodl -au; toddaid (246–7, 252–3, 256–7, 260–1, 268–9), cyhydedd nawban (248–51, 254–5, 258–9, 262–5, 270–1), cyhydedd hir (266–7). Cysylltir diwedd y caniad â dechrau’r caniad dilynol gan gytseinedd (gwerendau / gŵr).

Caniad X (llau. 272–96): 25 llinell ar y brifodl -edd; cyhydedd nawban (272–296; ymddengys mai llinell unigol yw ll. 284 (gw. n100(t)). Nid yw diwedd yr awdl yn cyrchu’r dechrau, oni bai y cyfrifir y gytseinedd d- (Dycheferfyddwn … drugaredd / … Dofydd (dedwydd dewaint)).

Nodyn ar yr aralleiriad
Mae’r aralleiriad a gynigir yn weddol lythrennol, ond weithiau rhoddir blaenoriaeth i aralleirio ystyr brawddeg, yn hytrach nag aralleirio geiriau unigol gan ddilyn union drefn y geiriau neu’r ymadroddion yn y testun. Cynigir aralleiriad mwy llythrennol yn GLlF.