Dewis nodiadau:
Cyfieithiad:

2. Canu Tysilio

golygwyd gan Ann Parry Owen

Awdl amlganiad o fawl i Dysilio gan Gynddelw Brydydd Mawr a ganwyd c.1156–60 ym Meifod o dan nawdd Madog ap Maredudd, tywysog Powys.

[J 111 →]
I
Duw dinag, dinas1 dinag, dinas Yn G 360 awgrymir treiglo ansoddair yn dilyn Duw (felly Duw ddinag, ddinas ); ond fel y nodir yn TC 119, trinnir Duw yn aml fel enw cyffredin yn y cyfnod canol. tangnefedd,
Duw, dy nawdd, na’m cawdd i’m camwedd,
Duw doeth2 Duw doeth Dilynir G 413 gan ddeall doeth yn ffurf trydydd unigol gorffennol dyfod; gthg. GCBM i, 3.3 lle y’i deellir yn ansoddair. Cyfeirio a wneir yn llau. 3–4 at ddyfodiad Duw o’r nefoedd, fel Crist, i drigo ymhlith brenhinoedd y ddaear. i deithi teÿrnedd,
Teÿrnas wenwas wirionedd;
5 Duw a’m dwg i’m dogn anrhydedd
I’w wenwlad, i’w rad, i’w riedd,
Yn elwch, yn heddwch, yn hedd,
Yn hoddiaw 1 hoddiaw J 111 hodyaỽt a dderbynnir yn HG Cref 33 heb esboniad. Ni cheir hoddiawd yn GPC Ar Lein a chymerir mai gwall am hoddiaw sydd yma, a ddiffinnir yn betrus, ibid., fel ansoddair ‘llonydd, dedwydd, dymunol’ neu fel berf ‘rhwyddhau, gwneud neu ddod yn hawdd’, c. Cyfosodir y ddeuair hoddiaw a hedd eto yn GC 2.160 hoddiaw hedd, 7.234 hedd hoddiaw. yn hawdd farannedd.
Ac eilrodd, eilrodd3 eilrodd, eilrodd Cymerir bod i eil- rym y trefnol ‘ail’ yn yr eilrodd cyntaf, a’i fod yn golygu ‘plethiad’ yn yr ail, sef yr un elfen ag a geir ym môn y ferf adeiliaw, ac a ddefnyddir yn ffigurol yng nghyswllt cyfansoddi cerdd, gw. GPC Ar Lein d.g. ail 2 a cf. ll. 10 eildeg ‘plethiad cain’. Yr ail rodd y mae Cynddelw yn ei chyflwyno, ar ôl moli Duw (llau. 5–8), yw ei blethiad barddonol i’w rwyf, Tysilio (ll. 13). gyhydedd,4 cyhydedd Ei ystyr sylfaenol yw ‘cysondeb, cyfartalrwydd’ ac fe’i ceir yn yr hen ganu gyda tryganedd (ll. 10); gw. G 228; GPC Ar Lein a cf. PTal 58, ‘It is obvious that tryganedd and cyhydedd were synonyms for some kind of song’; hefyd, GMB 2.18 Gvaud tryganet, gvaud kyhidet ‘cysondeb moliant, rheol moliant’.
10Areilreg, eildeg dryganedd
A ganwyf i’m rhwyf o’m rhagwedd,
Rhagorfan rhad, rhan 2 Rhagorfan rhad, rhan J 111 ragor uam rat ram; cf. HG Cref 176, ‘mae’r testun yn llwgr yn ddiau’, a’r tebyg yw fod yma achos o gamddarllen minimau, gan roi m ddwywaith am nn. rhagyrwedd:
Tysiliaw terwyn gywrysedd,
Parth amnawdd, 3 amnawdd J 111 am naỽd; darllenir amnawdd ‘amddiffyn, nodded’ gyda GCBM i, 3.14, cf. G 24 a GPC Ar Lein d.g. amnawdd 1. O’i ddarllen fel a’m nawdd, gellid aralleirio Parth a’m nawdd fel ‘man diogel sy’n f’amddiffyn’. adrawdd adrysedd.
15Peris nêr o’r nifer nadredd
Praff wiber,5 Peris nêr o’r nifer nadredd / Praff wiber … Ai at eni Tysilio y cyfeirir yn llau. 15–16? Gw. n54(e) am y defnydd o sarff fel epithet gan deulu brenhinol cynnar Powys. Os Tysilio yw’r wiber yma, gellid deall y cwpled yn ddisgrifiad o’i ragoriaeth ymysg ei frodyr, y nadredd llai. Byddai’r dehongliad hwn yn cysylltu’r cwpled yn thematig â’r pedair llinell ganlynol sy’n enwi rhieni Tysilio. Ond mae hefyd yn bosibl mai cyfeirio a wna Cynddelw at wyrth a gyflawnodd Tysilio, un debyg, o bosibl, i’r wyrth ganlynol a gofnodir yn fersiwn Albert le Grand o fuchedd Suliau: Le Grand 1837: 484–5, L’heureux Prélat S. Samson, visitant son Diocese, se divertit expressément pour venir voir S. Suliau, lequel le reçcut dans son Monastere & l’y logea trois jours, le traittant, à l’ordinaire du Monastere, de pain, legumes & laitages. Il y avoit, en la compagnie du S. Archevêque, un certain delicat lequel, ne trouvant bon le pain du Monastere, cacha sa portion dans son sein, laquelle incontinent, fut convertie en un serpent, qui luy ceignit le corps (‘Pan oedd yn ymweld â’i esgobaeth, cymerodd y bendigaid brelad Sant Samson ddargyfeiriad er mwyn ymweld â Sant Suliau, a’i derbyniodd i’w fynachlog gan roi llety iddo am dridiau a’i fwydo ar luniaeth arferol y fynachlog, sef bara, llysiau a chynnyrch llaeth. Yng nghwmni’r archesgob roedd person braidd yn wanllyd nad oedd yn hoffi bara’r fynachlog ac a guddiodd ei gyfran ef ohono yn ei fynwes, a thrawsffurfiodd [y bara] ar ei union yn neidr a ffurfiodd gylch o gwmpas ei gorff’’; gw. SoC, v, 110 am gyfieithiad Saesneg). wibiad amrysedd:
Mab Garddun,6 Garddun Garddun Benasgell, merch Pabo Post Prydain a mam Tysilio. Arddun yw’r ffurf ar ei henw yn ‘Bonedd y Saint’ (gw. EWGT 59; WCD 21) a hefyd gan Hywel Dafi wrth ddisgrifio Lleucu, gwraig ei noddwr, GHDafi 8.24 Arddun ei hun ydyw hi. Mae’r gytafebiaeth gynganeddol ag ardduniant hefyd o blaid darllen Arddun yn awdl Cynddelw, er gwaethaf darlleniad y llawysgrif yma, cf. G 521. Ymhellach ar Arddun, gw. LBS i, 167–8 lle awgrymir mai hi a goffeir yn yr enw lle Dolarddun , trefgordd ym mhlwyf Castell Caereinion, ychydig i’r de-ddwyrain o Feifod, heb fod ymhell o Lannerchfrochwel, gw. WATU 59. arddunig fawredd, 4 fawredd J 111 naỽred. Gallwn fod yn sicr mai uaỽred a fwriadwyd, ond mae’r llythyren gyntaf yn nes at n nag u; cf. n38(t) ar Feifod.
Maboliaeth arfoliaeth waredd,
Mab Brochfael7 Brochfael Brochfael Ysgithrog, tywysog Powys a thad Tysilio, gw. EWGT 59 a WCD 60; cf. hefyd n6(e) ar Garddun. Cysylltir Brochfael â Phowys isod ll. 183, ac eto gan Gynddelw mewn cerdd i Owain ap Madog ap Maredudd, GCBM i, 15.14 Gwlad Urochfael Ysgithraỽc ac i Owain Cyfeiliog, ibid. 16.232 Powys wenn, ỽlad Urochuael. Am y canu a gysylltir â Thaliesin i Gynan Garwyn, mab arall Brochfael, gw. Haycock 2007: 279–80 d.g. rac Brochuael Powys. Yn ogystal â Llannerchfrochwel ger Meifod, gw. n6(e), ceir Brochwel yn elfen mewn enwau lleoedd ym Môn, a siroedd Dinbych a Meirionnydd, gw. ArchifMR, ond nid oes modd gwybod ai at yr un Brochfael y cyfeirir bob tro yn yr enwau hynny (cf. n83(e) ar Pen Mynydd). bron hael hawl ornedd,
20Gorpu nef yn Eifionydd⁠8 nef yn Eifionydd Ar leoliad cwmwd Eifionydd, gw. WATU 65, 266. Lluniai rhan o blwyf Beddgelert ffin ogleddol Eifionydd, ac os yw’n gywir fod Llan Llydaw, n64(e), i’w chysylltu â hen eglwys glas Geltaidd ym Meddgelert, efallai mai cyfeirio a wna Cynddelw yma at dymor y sant yn yr ardal honno. Ond ni ddaethpwyd o hyd i dystiolaeth bellach i’w gysylltu â’r ardal. Cyfeiria’r beirdd yn aml at fynachlog neu eglwys fel ‘nefoedd’, cf. disgrifiad Gwynfardd Brycheiniog o eglwys Brefi, DewiGB ll. 247 Nefoedd i gadau o’u hanoddau; a disgrifiad Ieuan ap Rhydderch o Fynyw, DewiIRh ll. 71 Rhyw dud nef. Ond tybed a oes arwyddocâd pellach i’r cyfeiriad hwn at nefoedd yng Nghanu Tysilio? Ym muchedd Suliau gan Albert le Grand (a oedd, fel y gwelwyd yn y Rhagymadrodd, yn seiliedig ar ddeunydd hagiograffydol am Dysilio a aeth o Gymru i Lydaw), dywedir i’r sant fyw une vie plus Angelique qu’humaine (‘buchedd fwy angylaidd na meidriol’) yn ystod ei alltudiaeth o Feifod (Le Grand 1837: 482–3). Eto i gyd, ceir dehongliad mwy llythrennol o gorpu nef yn Jones and Owen 2003: 59n sy’n cymryd mai cyfeirio at Eifionydd fel lleoliad ei farwolaeth a wneir. Am drafodaeth bellach, gw. y Rhagymadrodd. dudedd.9 Ymddengys y llinell hon yn rhy hir o sillaf ar bapur, ond cywasgai’n naturiol ar lafar, Gorpu nef ’n Eifionydd dudedd.
Mad gyrchawdd garchar alltudedd,
Cyrch cyflawn cyfle difröedd.10 Yn llau. 21–2 cyfeirir at daith Tysilio i alltudiaeth. Efallai y gellid cysylltu’r daith hon â’r cyfeiriad at Eifionydd (ll. 20), ond ym muchedd Lydewig Suliau a gofnodwyd gan Albert le Grand (buchedd a seiliwyd, fel y gwelir yn y nodyn cefndir, ar ddefnyddiau a darddai yn y pen draw o fuchedd goll Tysilio a ddaethai o Gymru), cyfeirir at ddau achlysur pan fu’n rhaid i Suliau ddianc i alltudiaeth. Y tro cyntaf, treuliodd saith mlynedd mewn priordy yn gysylltiedig â Meifod ar Ynys Sulio ar y Fenai, er mwyn dianc rhag ei dad, Brochfael Ysgithrog, gan y credai y byddai hwnnw’n ei orfodi i adael ei fywyd fel crefyddwr (Le Grand 1837: 482; SoC, v, 107–8). Yr eildro, bu’n rhaid i Suliau ddianc rhag gweddw ei frawd, Jacob, ar ôl iddi droi’n gas tuag ato am iddo wrthod ei phriodi. Gan ei bod hi’n bygwth gwneud drwg yn benodol i’r gymuned ym Meifod, penderfynodd Suliau y byddai’n well iddo adael am gyfnod (Le Grand 1837: 483–4; SoC, v, 109). Dihangodd unwaith eto i Ynys Sulio, ond parhâi ei chwaer yng nghyfraith i’w fygwth ac felly penderfynodd ymalltudio i Lydaw, gan ymsefydlu ar aber afon Rance ger Saint-Malo. Yn ôl buchedd arall o Lydaw, a gysylltir y tro hwn â Sulian ac a gofnodwyd gan Dom Lobineau yn y 18g., dihangodd y sant i Buelt rhag dynes annifyr o’r enw Haiarme (ni ddisgrifir hi y tro hwn fel chwaer yng nghyfraith), gan adeiladu eglwys a mynachlog yno: gw. SoC, v, 112, a gw. n67(e) ar llan Gamarch.
Mad gymerth arnaw praw prudded,
Prif obrwy, obryn trugaredd;
25Mad ganed11 mad ganed Disgwylid mad aned o ddilyn patrwm Mad gyrchawdd a Mad gymerth y ddau gwpled blaenorol, ond mae’r cytseinedd o blaid y ffurf gysefin ganed yma, cf. ll. 27 Mad gorau. Dichon y gellid esbonio’r ddwy arfer wahanol drwy gymryd bod i mad fwy o arlliw adferfol yn y llinell hon (ac yn ll. 27): ‘yn dda (y) ganed’, yn hytrach na’i fod yn llunio cyfansoddair gyda’r ferf. o geneddl 5 geneddl J 111 genedyl; mae’r -d- ganolog yn amwys yn y llawysgrif hon, a gall gynrychioli ‘d’ (cf. ll. 21 alltuded ‘alltudedd’) neu ‘dd’ (cf. ll. 27 madeu ‘maddau’). Ond fel y gwelir yn G 129 a GPC Ar Lein d.g. cenedl, ceneddl, y ffurf gydag ddl a geir gan amlaf yn y testunau cynharaf. fonedd
Mawrwledig mawrwlad dyllyedd;12 tyllyedd Gair ansicr ei ystyr a’i ffurf, gw. n6(t). 6 dyllyedd J 111 tyllued. Mae angen ffurf deirsill yma ac anodd gwybod ai tyllyedd, tyllẅedd neu tyllüedd yw’r ynganiad; cf. GMB 23.1 tyllued (= ‘tyllyedd’). Am ei ystyron a’i ddefnydd yn y Cyfreithiau, gw. GPC Ar Lein d.g. tyllwedd, c., ‘cytgord, cydfod, heddwch, distawrwydd, gosteg; ernes, gwarant, sicrhad (rhag colled, c.), llw (dros heddwch neu ddistawrwydd)’; GCBM i, 3.26n; hefyd GMB 23.1n lle awgrymir mai cyfuniad yw o twll ‘ysbaid’ + llw/lly + -edd ‘ysbaid dan (sicrwydd y) llw’, a’i aralleirio fel ‘cymodlonedd’. Gan hynny byddai tyllyedd neu tyllẅedd yn ffurfiau derbyniol, cf. yr amrywiol ffurfiau ar llw: llwon, llyfain, c. Fe’i deellir yn brif elfen mewn cyfuniad yma, mawrwlad dyllyedd, gyda’r ffurf gysefin (tyllyedd) yn y llawysgrif yn dangos calediad -d d- > t.
Mad gorau maddau marthöedd13 maddau marthöedd Ar maddau ‘gollwng, … rhoddi’r gorau i (rywbeth), ymwrthod’, c., gw. GPC Ar Lein. Mae marthöedd yn unig enghraifft a phrofir y terfyniad deusill -öedd gan y brifodl. Yn betrus iawn cynigir mai ffurf, lluosog o bosibl, ar marth sydd yma, cyfystyr â Chernyweg a Llydaweg Canol marzh ‘rhyfeddod’. Mae gan y gair Cymraeg, marth, gynodiadau mwy negyddol yn ôl tystiolaeth GPC Ar Lein lle y’i diffinnir fel ‘tristwch, gofid, ?rhyfeddod neu syndod poenus, braw; ?mefl, gwarth’. Deellir y cwpled (llau. 27–8) yn ddisgrifiad o ymdrech Tysilio i osgoi (maddau) y ‘gwarth’ a achosid iddo gan y chwaer yng nghyfraith gas.
Ac er Duw diofryd gwragedd.
Gwraig enwawg,14 gwraig enwawg Cyfeirir, yn ôl pob tebyg, at chwaer yng nghyfraith Tysilio a’i herlidiodd pan wrthododd ei phriodi ar ôl marwolaeth ei gŵr: gw. n10(e), lle gwelir mai Haiarme (= ?Haearnwedd) oedd enw’r erlidwraig yn ôl un ffynhonnell Lydewig. anwar ei throsedd,
30A’i treiddwys15 a’i treiddwys Deellir llau. 29–32 yn uned ystyr, a’r rhagenw mewnol trydydd unigol ’i yma’n cyfeirio ymlaen at wrthrych y ferf, llan fechan, yn ll. 31. – bu trwy enwiredd –
Llan fechan,16 llan fechan Deellir hwn yn ddisgrifiad o eglwys fechan Tysilio yn Llandysilio, ar y Fenai, lle dihangodd y sant, yn ôl y fuchedd Lydewig, yn gyntaf rhag ei dad, Brochfael, ac yna’r eilwaith rhag ei chwaer yng nghyfraith ddichellgar, gw. n10(e); dichon fod yr eglwys hon yn un a’i ‘thlysau yn brin’, mewn gwrthgyferbyniad ag eglwys Meifod neu o bosibl mewn gwrthgyferbyniad â’r llys brenhinol llawn cyfoeth y magwyd Tysilio ynddo. Ond ni ellir diystyru’n llwyr awgrym Ellis 1935: 154 i’w ddeall yn ffurf amrywiol ar yr enw Llanfechain, plwyf i’r gogledd o Feifod; cf. y ffurfiau yn ArchifMR dan Llanfechain. Nawddsant eglwys Llanfechain oedd Garmon, sant arall ac iddo gysylltiad arbennig â Phowys, cf. n7(t) (lle awgrymir mai Llan Armon a geir ar ddechrau’r llinell nesaf), a gw. HW 245n88; Richards 1970–1: 335. fychod ei berthedd,
Llan [ ] ym mron ei challedd. 7 Llan [ ] ym mron ei challedd Mae’r llinell yn fyr o ddeusill, ac o ran ystyr, disgwylid i’r ddeusill goll ddilyn Llan. Byddai Llan Armon yn rhoi odl fewnol â mron. A ddilynodd y wraig weddw flin y sant i’r lle hwnnw, gan beri iddo ffoi i afon Menai? Yn ll. 206 ceir enghraifft arall o hepgor gair yn J 111.
Dyniawl 8 Dyniawl Bu’r darlleniad hwn yn allweddol wrth greu’r stema; gw. y nodyn ar y llawysgrifau. bobl ni borthant iawnwedd,
Iawn i Dduw ddifanw eu rheufedd,
35Ar eubryd eu bradawg fuchedd,
A’u gweryd, ac Ef a’u gomedd.17 Dehonglir llau. 33–6 yn ddisgrifiad o’r bobl hynny (fel y wraig gas, ll. 29) y mae Duw yn eu gwrthod (gomedd). O ran y gystrawen, cysylltir llau. 34 a 36 (Iawn i Dduw ddifanw eu rheufedd A’u gweryd). Dehonglir ar (ll. 35) fel arddodiad yn golygu ‘o ganlyniad i, ar gyfrif, oherwydd; ar sail’, gw. GPC Ar Lein d.g. ar 1 (6), a dilynir J 111 a chymryd (g)eubryd yn air cyfansawdd. (Fe’i holltir yn HG Cref 33 er mwyn sicrhau bod y cytseinedd br/d yn syrthio o gwmpas yr acen fel yn bradawg: eu brýd brádawg.)
Cedawl udd, Cadell etifedd,18 Cadell etifedd Yn ôl yr achau roedd Cadell Ddyrnllug, un o sylfaenwyr traddodiadol llinach frenhinol Powys, yn hen daid i Dysilio: gw. EWGT 59, 107; WCD 73 a’r cyfeiriadau yn GCBM i, 3.37n. Parhaodd llinach Cadell, a adwaenid fel y Cadelling, hyd at farwolaeth Cyngen ap Cadell c.850, ond parhaodd y cof amdani fel llinach frenhinol Powys ymhell wedi hynny: cf. disgrifiad Gwalchmai o fryn ym Mhowys fel [C]adellig ure uro Dyssiliaw, GMB 9.130n. Sonia Cynddelw am y llinach hefyd yn ‘Gwelygorddau Powys’, cerdd sy’n awgrymu bod rhai ymysg uchelwyr Powys yn y 12g. yn parhau i honni eu bod yn disgyn o’r llinach. Disgrifir ail welygordd Powys yno fel Bleinnyeid reid kunyeid Cadellig, GCBM i, 10.28. Gw. n48(e) ar Gwaith Cogwy.
Cadair côr yn cadw 9: cadw Darlleniad pwysig arall ar gyfer creu’r stema; gw. y nodyn ar y llawysgrifau. haelonedd,19 cadw haelonedd Ar y defnydd arbennig hwn o cadw yn yr ystyr o ‘gynnal, gwarchod’ haelioni, cf. GDB 3.17 haelonaeth a geidw; GBF 23.16 Gỽr cadwent, kedwis haeloni.
Cedwis draig dragon20 draig dragon Geiriau a geir fynychaf yn y canu am bennaeth milwrol ac am filwyr, ond cymerir mai disgrifio Tysilio a’i fynaich a wneir yma, o bosibl fel milwyr yn ymladd yn erbyn drygioni neu creulonedd, ll. 40. gynhaddledd,
40Casäu caru creulonedd.
Cared bawb ceradwy ddiwedd,
Cerennydd21 cerennydd ‘Cyfeillgarwch, cariad, cymod’, c., GPC Ar Lein d.g. carennydd; cyfeiria yma at gymod â Duw ar derfyn oes (ll. 41 diwedd) cyn yr amser y daw cerydd am bechod (cyn cerydd caredd) i’r sawl nad yw mewn cymod â Duw: cf. GMB 23.25–6 Kymhennaf y dyn kynn y diwed / Kymodi a Duỽ kyn mut y med. cyn cerydd caredd.
Ceritor fy ngherdd yng nghyntedd22 cyntedd ‘Rhan anrhydeddusaf y neuadd yn yr Oesoedd Canol, sef y rhan lle’r eisteddai’r brenin’, GPC Ar Lein. Soniai’r beirdd yn fynych am ddatgan eu cerddi ac am dderbyn medd yn y cyntedd: meddai Cynddelw mewn cerdd i Hywel ab Owain Gwynedd, GCBM ii, 6.238–9 Rydyrllid uyg kert yg keinyon o uet / Yg kyntet Teyrnon.
Yn yd gâr gwŷr gwanar gwinwledd;
45Caraf-i lan 10 Caraf-i lan J 111 Caraf ylañ. Mae’r llinell fel y saif yn sillaf rhy hir. Ar ddefnydd rhagenwau ôl yng nghanu Beirdd y Tywysogion, a’r cwestiwn a ddylid eu cynnwys yn y cyfrif sillafau ai peidio, gw. Andrews 1989: 13–29. Roedd awdur Gramadeg Gwysanau (c.1375) fel petai’n ystyried y rhagenwau hyn yn nodwedd ar orgraff, gw. Parry Owen 2010: 26 (nodyn ar ll. 57 karaue eos). Gan fod llinellau Cynddelw yn tueddu i fod yn safonol o ran eu hyd, cymerir bod y rhagenw ategol yn ansillafog yma. a’r llên23 llên Sef gwŷr llên neu glerigwyr Meifod; cf. DewiGB llau. 67–8 Gwelaf i wir yn llwyr a llewenydd mawr / A llên uch allawr heb allu clwyf. gan gadredd
Ger y mae Gwyddfarch24 Gwyddfarch Sylfaenydd y gyntaf o’r tair eglwys ym Meifod: gw. ‘Eglwys Gwyddfarch’, yn Thomas 1908–13: i, 496–7; hefyd Coflein dan St Tysilio and St Mary’s Church, Meifod, ‘The site is believed to have become a Christian foundation c.550, dedicated first to St. Gwyddfarch, and later to St. Tysilio. The remains of this early church were still visible in the eighteenth century, but little trace remains today. A second church was built in the twelfth century by Madoc Maredudd, whose remains are believed to be buried within the grounds; much of the fabric of this building remains today.’ Cysylltir Gwyddfarch hefyd â Gallt yr Ancr ger Meifod, ibid. 493, lle ceid unwaith lecyn o’r enw Gwely Gwyddfarch. Yn ôl buchedd Lydewig Suliau, roedd Gwyddfarch (Guymarcus) yn abad ar fynachlog a sefydlwyd gan dywysogion Powys ym Meifod, ac ato ef yr aeth Suliau yn llanc ifanc pan benderfynodd ymwrthod â bywyd y milwr a dilyn gyrfa fel mynach: gw. Le Grand 1837: 481–2; SoC, v, 106–7. Am ei ach, gw. EWGT 60 Gỽyduarch yMeiuot m. Amalrus tywyssawc y Pwyl. uch Gwynedd:25 uch Gwynedd ‘Y tu hwnt i’ yw ystyr uch yma, yn ôl pob tebyg, gw. GPC Ar Lein d.g. uch 1, a cf. Richards 1964–5: 9–18 sy’n dangos mai ‘on the other side’ oedd grym gwreiddiol yr arddodiad u(w)ch mewn enwau lleoedd, tra dynodai is leoliad canolfan lywodraethol neu caput cantref neu gwmwd. Mae’r cyfeiriad hwn at uch Gwynedd, meddir yn Jones and Owen 2003: 59–60, yn lleoli ‘“Canu Tysilio”, not in the court of the prince of Powys sometime during the reign of Madog, … but in Gwynedd, probably in the last decade of the reign of Owain Gwynedd who died in 1170’. Gwrthodir yr awgrym hwnnw a dehonglir y cyfeiriad yn hytrach yng nghyd-destun y disgrifiad cynharach yn y caniad hwn o Dysilio yn ffoi i Wynedd er mwyn osgoi ei chwaer yng nghyfraith ddichellgar. Ar ôl disgrifio’r eglwys yno ar y Fenai (ond heb ei henwi, gw. yn arbennig lau. 29–32 a n16(e)), neilltua Cynddelw ddiwedd y caniad i ddisgrifio Meifod sydd ‘y tu hwnt i Wynedd’. Trafodir y llinell hon ymhellach yn y Rhagymadrodd.
Gwyddfidle glywdde glew dachwedd,26 tachwedd ‘Lladdfa, hefyd yn ffig.’ yw’r ystyr a roddir yn GPC Ar Lein, ac yn betrus cymerir mai moli mynwent Meifod a wneir yn y llinell hon, fel man claddu’r rhai a ddisgynnodd mewn ‘lladdfa ddewr’. 11 dachwedd J 111 deachwed, a’r e gyntaf yn ansicr; mae’r ffurf yn anhysbys, ac yn peri i’r llinell fod yn hir o sillaf. Defnyddir tachwedd gan Gynddelw fel gair am frwydr, gw. GCBM ii, 433.
Gŵydd fynwent, gwyddfa brenhinedd,27 gwyddfa brenhinedd Dywedir ym Mrut y Tywysogion mai ym mynwent eglwys Tysilio ym Meifod y claddwyd Madog ap Maredudd, tywysog Powys, yn 1160: BT (RB) 140: Ac yMeivot, yn y lle yd oed y wydua, yn eglwys Tissilyaw sant y cladwyt yn enrydedus. Yn anffodus ni wyddys ym mha le y claddwyd tad Madog, Maredudd ap Bleddyn, yn 1132 (ibid. 112), ond gwyddys mai yn Ystrad Marchell y claddwyd Owain Cyfeiliog a thywysogion eraill o Bowys erbyn diwedd y ganrif.
Beirdd neued, niferawg orsedd,
50Braisg adorth, eorth ehofnedd,
Breinawg log, leudir cyfannedd,
Meifod wen: nid meiwyr a’i medd!

II

Nis medd trais, nis traidd ysgeraint,
Nis daered trefred y trisaint.28 trisaint Y tri sant a gysylltir â Meifod, sef Gwyddfarch, Tysilio a Mair. Cysegrwyd yr eglwys i Fair yn 1155, gw. BT (RB) 132–5, felly canwyd y gerdd hon ar ôl hynny. Dadleuwyd yn Roberts 1956–8: 183 mai Sulien, nid Mair, oedd y trydydd sant; ond dangoswyd yn Richards 1965: 32 mai ffurfiau amrywiol ar enw’r un sant yw Sulien a Tysilio, a’r olaf yn cynnwys y rhagddodiad hypocoristig ty- a’r terfyniad -io a gysylltir ag enwau saint (cf. Teilo).
55Mwy yndi 12 yndi J 111 yndi. Trydydd unigol benywaidd yr arddodiad yn; cf. CadfanLlF llau. 103, 150 a gw. Sims–Williams 2013: 46 et passim. Profir y ffurf yndi (yn hytrach nag ynddi) yn aml mewn barddoniaeth ddiweddarach gan y gynghanedd, e.e. GHDafi 36.30 Ni’m edwyn undyn yndi. Ond mae’n ddigon posibl mai cynrychioli ‘ynddi’ a wna yndi yma, gan mai d a ddefnyddiai’r ysgrifydd hwn am ‘dd’ yn rheolaidd ar ôl n, e.e. kyndelỽ ‘Cynddelw’. – gwesti gwesteifiaint –
Ei balchnawdd nog amrawdd 13 amrawdd J 111 amraỽt (sy’n awgrymu ‘amrawd’), a ddeellir yn fai am amraỽd, gan ddilyn GPC Ar Lein d.g. amrawdd. Ceir y cyfuniad amrawdd amraint eto gan Gynddelw yn GCBM ii, 16.100 O amraỽd amreint diara (testun J 111), ac mae’r odl fewnol ar gyfer y gynghanedd sain yn ibid. 4.24 O’e amraỽt, gwarthulaỽt gorthorrynt (testun LlGC 6680B) yn cadarnhau’r terfyniad -awdd. amraint: 14 Mae’r atalnodi yn J 111 yn awgrymu i’r ysgrifydd ddehongli llau. 55–6 yn doddaid. Os felly, dyma fyddai’r unig doddaid yn y gerdd gyfan, a byddai’r dosbarthiad sillafau 11:5, yn lle’r 10:6 safonol, yn anarferol o safbwynt mydryddiaeth Cynddelw. Felly cymerir mai cyhydedd fer safonol sydd yma.
A’i balchlan yrhwng ei balchnaint,
A’i balchwyr a’i balchwyr 15 balchwyr … balchwyr J 111 balchwyr balchwyr. Cymerir bod y bardd yn ailadrodd yr un gair, y tro cyntaf i gyfeirio at y rhai dewr a amddiffynnai nodded Meifod, a’r eildro i gyfeirio’n fwy penodol at wŷr eglwysig Meifod. Posibilrwydd arall yw dilyn John Davies yn LlGC 4973B (sy’n tarddu’n anuniongyrchol o J 111), a dehongli’r ail balchwyr fel ‘balchwir’. O dderbyn hynny, gellid aralleirio ‘a’i gwŷr dewr a’i gwirionedd balch llawn’. tesaint,
A’i balchlwys eglwys eglurfraint,
60A’i balchradd29 balchradd Gellid hefyd ddeall yr ail elfen yn y cyfuniad, gradd, fel ‘urdd, dosbarth (o angylion, gwŷr eglwysig, bonedd, c.)’, yn gyfeiriad at y mynaich ym Meifod, gw. GPC Ar Lein. a’i balchrodd tramaint,
A’i balchwawr yn awr yn newaint,
A’i balchgor heb achor echwraint,30 echwraint ‘Distryw’ neu ‘drais’, gan ddilyn G 436; gthg. GPC Ar Lein sy’n rhoi i’r enghraifft hon yr ystyr ‘amddiffyn, nawdd, achles’. Moli diogelwch yr eglwys yng nghefn trymedd nos a wneir.
A’i balch offeiriad a’i hoffeiriaint, 16 Mae’r llinell yn rhy hir, ac mae’n debygol yr yngenid offeiriad yn ddeusill (’ffeiriad).
A’i pharawd offeren hoffaint.
65Balch ei bagl, bagwy aur ei hemiaint,
Balch ei llog rhag31 rhag Molir yma adeilad eglwys (llog) Meifod sy’n ddiogel rhag llifogydd o’r sianeli dŵr gerllaw (soniwyd eisoes am leoliad yr eglwys rhwng ei nentydd yn ll. 57). Mewn gwrthgyferbyniad, disgrifir yn llau. 67–70 y garfan (plaid) wan a fethodd rwystro uffern rhag cael ei llethu gan amrywiol blâu, llifogydd a thân. Ar ystod ystyron rhag, gw. GPC Ar Lein. y llifeiriaint,
Annhebig i’r blaid a blyg haint,
Afflau ffrau a phryfed llyffaint32 pryfed llyffaint Dehonglir y cyfuniad i olygu ‘llyffantod’ yn syml. Ar pryf am anifail gwyllt bychan yn gyffredinol, gw. GPC Ar Lein d.g. pryf 1 (f). Roedd llyffantod, fel nadroedd, yn breswylwyr cyffredin yn uffern, e.e. sonnir yn LlDC 7.29 am ei llyffeint a nadret.
A thân poen, 17 A thân poen Cf. J 111 athan poen; o ddiwygio yn Affan poen, gyda GCBM i, 3.69, ceid cymeriad ar ddechrau’r llinell â ll. 68 Afflau a ll. 70 Uffern. Cyffredin yn y canu yw affan ‘artaith, dioddefaint’, c. (cf. GPC Ar Lein), yng nghyswllt uffern, cf. GCBM ii, 17.123–4 Yn uffern gethern / Yn affan poethuann; GMB 22.13–14 Yn taerdan aphann uffernaỽl / Vffern porthloedd 18 porthloedd J 111 porthoed. Gan mai diweddar (16g./17g.) yw’r enghraifft gynharaf o porthoedd, ffurf luosog porth ‘mynedfa’, yn ôl tystiolaeth GPC Ar Lein (d.g. porth 2), derbynnir yma’r diwygiad a geir yn LlGC 4973B porthloedd; cf. ll. 195 porthloedd (J 111 porthloed), ac am enghreifftiau pellach o’r gair gan Gynddelw, gw. GCBM ii, 2.36, 4.146. Efallai i John Davies ddiwygio’r ffurf yn LlGC 4973B ar sail ystyr (gan fod enw unigol yma’n fwy tebygol), neu iddo ddilyn diwygiad gan Siôn Dafydd Rhys yn ei gopi coll o’r gerdd yn Pen 118 (gw. y nodyn ar y llawysgrifau). digofiaint,
70Uffern wern ffyrf 19 ffyrf J 111 ffuryf. Dilynir HG Cref 179 a chymryd mai ffyrf ‘cadarn’, c., a fwriadwyd yma. Mae’r llinell yn fyr o sillaf, onid yngenid ffyryf yn ddeusill, neu ddiwygio’r llinell yn Uffern wern ffurf, ffyrf ei henaint, fel y gwneir yn GCBM i, 3.70, gan aralleirio ‘Ar lun cors uffern, cadarn ei henaint’. ei henaint.
Cyn arnaf ernywed wythaint,
Wyth prifwyd33 wyth prifwyd Enwodd John Cassian (m. 435) wyth pechod marwol, ond erbyn cyfnod y Tywysogion, ymddengys mai saith oedd y rhif arferol: gw. Capps 2000: 11–12. Er hynny ceir nifer o gyfeiriadau at wyth ohonynt gan feirdd y 12g., cf. GMB 14.46, 24.36. wyth prifwyth gymaint, 20 Wyth prifwyd wyth prifwyth gymaint J 111 wyth p’f ỽythprif wyth p’fkymeint, sy’n amlwg yn wallus. Derbynnir y diwygiad a gynigir yn HG Cref 179 (ond gan dreiglo cymaint er mwyn yr ystyr; efallai fod darlleniad y llawysgrif yn dangos calediad g- > c- yn dilyn -th). Cyfosodir prifwyth a prifwyd eto yn GCBM ii, 17.42 Kyfyrdwyth kyfarfyrdwyth prifwyth prifwyd. Ceir treiglad meddal yn dilyn y rhifolyn wyth yn GMB 14.46 wyth bechaỽd, 24.36 Wyth brifwyt, a dyna’r drefn wreiddiol yn ôl TC 135. Ond y ffurf gysefin sy’n ei ddilyn yn GLlF 25.19 Wyth cad ac wyth cant ac wyth teulu taer, ac felly dilynir yma arweiniad y llawysgrif, yn hytrach na diwygio > Wyth brifwyd, wyth brifwyth.
Cyn ergryd penyd poenofaint,
Porthwyr Duw, poed wynt fy ngheraint
75Pan fo pawb, pan fwyf heb henaint
Yn oed dewr dengmlwydd ar hugaint:34 dengmlwydd ar hugaint Am y syniad fod pawb yn ddeng mlynedd ar hugain oed pan gaent eu hatgyfodi, sef oedran Crist pan groeshoeliwyd ef, cf. Elidir Sais, wrth gyfeirio at ddiwedd oes, GMB 19.13–14 Ys bwyf yn oed dyn dengmlwydd ar hugain / Rhag deulin fy Arglwydd; ac yntau Siôn Cent, IGE 274.3–4 Pawb yn ddengmlwydd, arwydd Iôr, / Ar hugain heb ddim rhagor.
Pan ddêl brawd rhag bron uchelsaint,
A’m rhoddwy Creawdr cyreifaint!
Cyn minnau, 21 minnau J 111 mimneu; canlyniad camgyfrif minimau. cyn ni bwyf35 cyn minnau, cyn ni bwyf … Cystrawen braidd yn annisgwyl, ond cymerir mai dull rhethregol i bwysleisio goddrych y ferf sydd yma. Cf. y modd yr ailadroddir can yn llau. 237–8 Can drugar, can wâr weryddon, / Can derrwyn, can dorf engylion. gywraint, 22 cyn ni bwyf gywraint J 111 kynnybỽyf gywreint. Dilynir G 119, d.g. ke, a dehongli kynny yn gyfuniad o cy(d) ‘er’ a’r negydd ni; ymhellach ar cyn ni ‘although … not’, gw. GMW 235–6.
80 Cynddelw wyf, cynhelwaf36 cynhelwaf Am ystyr y ferf yng nghyswllt canu bardd i’w noddwr, cf. DewiGB ll. 4n (esboniadol) ar cynnelw. o fraint,
Cerdd newydd i’m rhebydd rhygaint,37 rhygaint Ffurf hynafol cyntaf unigol gorffennol y ferf rhyganu; ar caint ‘cenais’, gw. GMW 124; G 109; a cf. DewiGB ll. 6 hynny dygaint. Gan nad yw’r orgraff yn gwahaniaethu rhwng rh- a r-, anodd gwybod a ddylai’r ferf dreiglo yma. Mae’r cytseinedd gyda rhebydd yn ffafrio rhygaint, ac mae digon o enghreifftiau yn y farddoniaeth o’r drefn gystrawennol gwrthrych + berf gysefin, heb ragenw perthynol yn eu cysylltu, cf. GMW 181; ac ymhellach ar y geiryn rhagferfol rhy-, gw. ibid. 166–8.
Cain awen gan awel bylgaint.38 Cain awen gan awel bylgaint Cf. yn arbennig gais Gwynfardd Brycheiniog ar ddechrau Canu i Ddewi: DewiGB llau. 1–2 A’m rhoddo Dofydd (dedwydd dewaint) / Awen gan awel pan ddêl pylgaint, a gw. DewiGB ll. 2n (esboniadol) am ystyr a ffurf pylgeint a all gyfeirio at wasanaeth neu weddi foreol yn ogystal â’r wawr; awgrymir yno y gall fod Gwynfardd yn adleisio’r llinell hon gan Gynddelw.

III

Pylgeinau39 pylgeinau Ar pylgain, ffurf gynharach ar plygain, gw. DewiGB ll. 2n (esboniadol). Ai’r awgrym yn y cwpled hwn yw fod Cynddelw wedi derbyn anrhydedd drwy gyfrannu i’r gwasanaeth ei hun (rhwyddgadr yd genir) – ai i gyd-destun o’r fath y perthyn ei ganu i Dduw (GCBM ii, cerddi 16–17)? raddau 23 raddau J 111 radeu a allai gynrychioli raddau (ffurf dreigledig graddau) neu radau (ffurf dreigledig rhadau). Cymerir mai’r gyntaf sydd yma, a’r bardd yn disgrifio’r parch arbennig a ddangosid tuag ato yng ngwasanaethau Meifod. Ceir felly gynghanedd sain gyflawn yn y llinell. Ond gan mai cyffredin yn y canu yw cyfosod rhad a rhoddi yn eu hamrywiol ffurfiau, byddai Pylgeinau radau a’m rhoddir hefyd yn bosibl. a’m rhoddir,
Rhodd rhwyddgall, rhwyddgadr yd genir:
85Canu draig Brydain⁠40 draig Brydain Ai Tysilio, y disgrifir ei lwyddiant fel pennaeth milwrol ym Mhowys y 7g. yn y caniad nesaf? a brydir,
O bryder berthfalch yd berchir.
Berth 24 Berth J 111 beth; derbynnir diwygiad LlGC 4973B Berth, a ategir gan y cymeriad a gynhelir hyd l. 91. y mae Meifod a’i hamdir,
Berth elfydd rhag Elfed⁠41 Elfed Teyrnas yn yr Hen Ogledd sy’n cyfateb i dde-orllewin swydd Efrog, ac a gofir mewn enwau lleoedd cyfoes yn y ffurf Elmet, e.e. Barwick in Elmet: gw. Koch 2006: ii.670–1, lle gwelir o’r map fod Elfed yn ffinio yn y de â thiriogaeth Mercia. Cysylltir y cyfeiriad hwn at dylwyth gelyniaethus Elfed yn HG Cref 180 ag ymgyrch Powys a Mercia yn erbyn Oswallt, brenin Northumbria, a ddaeth i ben ym mrwydr Cogwy, gw. llau. 117–18, 127–8. enwir;
Berth ei llog wrth ei lleu 25 wrth ei lleu J 111 ỽrth lleu. Dilynir awgrym HG Cref 179 gan ychwanegu’r rhagenw ei (llsgr. y) gan fod treiglad meddal yn arferol ar ôl yr arddodiad wrth (cf. CA ll. 138 wrth leu babir, a gw. TC 385). O blaid y gytsain gysefin hefyd mae’r cysteinedd rhwng lleu a llog a thrwy ychwanegu ei, sicrheir llinell o’r hyd cywir. babir,
90 Berth ei chlas a’i chyrn glas gloywhir;
Berth radau Rhiau rhygredir,
A’u credwy, credwch na thwyllir!
Tranc ar Dduw traethaf na ellir,
Trawd ar ddyn a’i tremyn trwy ddir,
95Periglus, pellus, pell ddygir,
Pall arnaw pwyllaf y dognir.
Preswylgoll drwydoll42 trwydoll Ffurf fenywaidd yr ansoddair trwydwll, amrywiad ar trydwll ‘llawn tyllau … drylliog’, gw. GPC Ar Lein d.g. trydwll. Fe’i deellir yn ddisgrifiad o’r cyrch effeithiol a ddygid ar y sawl a feiddiai ymosod ar Feifod trwy drais (trwy ddir, ll. 94). Thema gyffredin wrth foli eglwys sant yw honni bod y sefydliad yn gwbl ddiogel rhag trais o’r tu allan, a hynny oherwydd gwarchodaeth effeithiol y sant drosti; cf. y disgrifiad o eglwys Cadfan yn Nhywyn fel Myn na llefais trais trasglwy fyned, CadfanLlF ll. 18. engir, 26 Mae’r llinell yn fyr o sillaf ac mae’n bosibl ei bod hi’n llwgr.
Present fradw, fradawg y’i gelwir,
Pobl fyd yn ein gwŷd 27 Pobl fyd yn ein gwŷd J 111 Pobyl vyd yn an gỽyd sydd, o ddilyn orgraff arferol J 111, yn awgrymu ‘Pobl fydd yn ein gwŷdd’. Er mwyn y synnwyr, dilynir HG Cref 35 a GCBM i, 3.99 gan ddehongli’r ddwy -d yn y llinell hon fel ‘d’, yn hytrach na ‘dd’. y’n gelwir,
100Pawb ohonam 28 ohonam Am awgrym mai ohonan oedd y darlleniad gwreiddiol yma, gw. Sims–Williams 2013: 12–13. Ond mae’r gynghanedd o blaid ohonam. am ein cam y’n cosbir.
A wnêl iawn (rhadlawn rhymolir43 rhymolir Gan ddilyn patrwm ll. 107 llawen rhygyrchir a ll. 108 a fo llachar, rhyllochir, cymerir bod gwrthrych rhymolir yn ddealledig, ac fe’i mynegir wrth aralleirio. Yn gyffredinol (ond nid yn ddieithriad) yng nghanu Cynddelw, treiglir p, t, c yn feddal ar ôl rhy-, gan gadw cysefin y cytseiniaid eraill. Ond gellid darllen rhy’i molir (gyda’r rhagenw mewnol ’i yn mynegi’r gwrthrych). )
A fydd rhydd y dydd yd fernir;
A fo gŵyl, golau yd noddir,
Golwg Dduw arnaw a ddodir;
105A fo gwan wrth wan, wrth iawnwir,
Yn llwrw pwyll, pell yd adroddir;
A fo llary, llawen rhygyrchir,
Ac a fo llachar, rhyllochir;
A fo gwâr, gwell yd foddëir
110Nog a fo anwar ac enwir!

IV

Enwir ddyn a êl i’th erbyn,44 Enwir ddyn a êl i’th erbyn Deellir llau. 111–16 yn uned o ran ystyr, a’r bardd yn cyfarch ei gynulleidfa yn eglwys Meifod. Cynigir yn betrus mai Tysilio yw’r enwir ddyn a ddisgrifir ymhellach yn llau. 111–14. Ef yw’r un a fydd yn dy groesawu di (êl i’th erbyn) ar Ddydd y Farn. (Ar ddefnydd yn erbyn mewn cyd-destun tebyg, cf. DewiGB llau. 37–8 Tra êl yn erbyn, i’r parth nodawg, / Padrig a’i luoedd yn lluosawg.) Ceir cyswllt thematig, felly, rhwng dechrau’r caniad hwn â diwedd yr un blaenorol. Ar mynd yn erbyn ‘mynd i gyfarfod neu groesawu rhywun’, gw. GPC Ar Lein d.g. erbyn: mynd yn erbyn (iii). Annisgwyl, ar yr olwg gyntaf, yw galw sant yn ddyn enwir (‘gorchfygol’, c., gw. GPC Ar Lein d.g.), ond moli Tysilio’r pennaeth milwrol a wneir yn bennaf yn y caniad hwn, a’i rym milwrol a fydd yn gwarchod Meifod rhag ymosodwyr. Fodd bynnag mae i’r elfen en- weithiau rym cryfhaol (cf. enfawr ‘mawr iawn’), ac felly gallai enwir olygu ‘cywir / ffyddlon iawn’ yma (er bod GPC Ar Lein d.g. enwir 2 yn awgrymu mai bathiad o ddiwedd y 18g. oedd y gair hwnnw).
Enwawg fydd, fegys ei herfyn,45 fegys ei herfyn Am fegys, ffurf hŷn ar megis, fegis, cf. GMB 28.4 lle mae’n odli’n fewnol â uelys. Cymerir mai cyfeirio a wna Cynddelw yma at eiriolaeth Meifod (a drinnir ganddo yn y gerdd yn enw benywaidd).
Enw ddraig, ddragon amddiffyn,
Anwar fâr, feddgyrn eisyddyn:
115 Tysiliaw teÿrnedd gychwyn,46 teÿrnedd gychwyn Cyfuniad llac (yn cynnwys berfenw, cychwyn, a ragflaenir gan ei wrthrych, teÿrnedd) a ddefnyddir yma’n ansoddeiriol i ddisgrifio Tysiliaw. Ar gyfuniadau o’r fath, gw. Parry Owen 2003: 248–9 a cf. yn arbennig GLlLl 12.47 Milỽr milwyr gynytu ‘Milwr yn peri llwyddo milwyr’. Gthg. Williams 1926–7: 59, sy’n cyfieithu ‘of the race of kings’, gan ddeall cychwyn yn enw.
Trais wenwyn terrwyn, 29 terrwyn J 111 terwyn. Mae’n odli’n fewnol â gwenwyn (-ŵyn), gw. n41(t). torf erchwyn.
Pan aeth47 Pan aeth … Mynegir y gyrchfan, Gwaith Cogwy, heb arddodiad, yn dilyn berf yn dynodi symudiad, aeth, gw. n30(t). gŵr, gormes ufelyn,
Gwaith Cogwy,48 Gwaith Cogwy Brwydr Cogwy a ymladdwyd c.642, lle trechwyd Oswallt, brenin Northumbria, gan Benda, brenin Mercia. Cyfeirir at y frwydr yn yr ‘Historia Brittonum’ a’r ‘Annales Cambriae’ fel Bellum Cocboy, gw. Williams 1926–7. Maserfelth oedd enw safle’r frwydr, yn ôl Bede, ac fe’i lleolir yn draddodiadol ger Croesoswallt; gw. Stancliffe 1995: 84–96. Ymddengys fod Powys a Mercia wedi llunio cynghrair yn erbyn Northumbria ers yn gynnar yn y 630au, a dehonglir brwydr Cogwy yn gyffredinol fel ymgais gan Oswallt i ennill tir drwy ymosod ar y gynghrair bwerus hon, gw. Finberg 1964: 73. Credai Cynddelw, mae’n amlwg, fod Tysilio (o linach y Cadelling) yn brwydro gyda’r cynghreiriaid a thystia’r englyn strae canlynol yng Nghanu Heledd i draddodiad fod Cynddylan, brawd Heledd, o linach y Cyndrwynyn, yntau yno: Gweleis ar lawr Maes Cogwy / Byddinawr a gawr gymwy. / Cynddylan oedd kynnorthwy, CLlH XI englyn 111: gw. ymhellach Rowland 1990: 124–5; Koch 2013: 231–3. A oedd traddodiad ym Mhowys yn y 12g. fod llwythau’r Cadelling a’r Cyndrwynyn, dan arweiniad Tysilio a Chynddylan, wedi uno mewn cynghrair â Phenda i drechu’r gelyn cyffredin, Oswallt o Northumbria? Wrth gwrs, mae’n amhosibl gwybod a fu Tysilio mewn gwirionedd yn ymladd yn y frwydr hon, ond os yw’n gywir mai ei dad, Brochfael Ysgithrog, yw’r Brocmail y cyfeiria Bede ato ym mrwydr Caer, c.616 (fe’i dyfynnir yn Koch 2013: 107, ac ymhellach ibid. 109–10, ond gw. WCD dan Brochwel am bosibiliadau eraill), yna mae hynny’n ddigon posibl o ran cronoleg. Pa beth bynnag fo’r gwirionedd, mae’r cyfeiriad hwn gan Gynddelw at frwydr a ymladdwyd yn y 7g. yn sicr yn dyst i’r ‘especially lively interest in the older heroic traditions at the court of Madog ap Maredudd in the mid-twelfth century’, fel y nodir yn TYP xcvii. 30 Gwaith Cogwy LlGC 6680B Gweith cogwy; J 111 gỽeith gogỽy. Er bod enw priod gan amlaf yn treiglo yn dilyn gwaith ‘brwydr’ (e.e. GCBM i, 24.20 gweith Ueigen; GCBM ii, 1.40 Gweith Uadon), ceir ambell enghraifft o gadw’r gytsain gysefin (e.e. GCBM ii, 1.56 Gweith Brynn Dygannhwy; GDB 18.28 Gỽeith Canyscaỽl). Dilynir y llawysgrif hynaf yma. Sylwer hefyd na cheir y treiglad disgwyliedig i Gwaith yn y gystrawen ‘cyrchu lle’ yma, TC 227–8; ond am enghreifftiau o wrthsefyll treiglad ar ôl toriadau mydryddol ‘ar ganol llinell neu ar ddiwedd llinell’, gw. ibid. 196. gwythgad ymosgryn,
Pan gyrchwyd, ymlynwyd rhwyd rhyn
120Ym mhlymnaid, ym mhlaid 31 ym mhlaid LlGC 6680B ym pleid; nis ceir yn J 111, lle mae’r llinell yn fyr o ddeusill. ymwrthfyn,
Yn rheiddun orun oresgyn
Yn nydd rhaid â rhodawg yng ngryn,
Yn rhodwydd49 rhodwydd CLlH 159 ‘un ai’r rhyd ai’r clawdd i amddiffyn y rhyd yw, ac fel y dengys yr enghreifftiau, lle y dylid ei wylio, a lle y ceid y brwydro ffyrnicaf’; cf. GPC Ar Lein rhodwydd 1. Fe’i ceir hefyd yn enw lle, ac mae’n hynny’n bosibl yma, gw. Rowland 1990: 512–13. ebrwydd yn erbyn,
Yn rhodle gwyach50 gwyach Aderyn ysglyfaethus a borthai ar gyrff y meirw yn dilyn brwydr, yn ôl tystiolaeth y farddoniaeth: e.e. GCBM i, 12.30–1 gwaed gwyr y ar wlith, / A gwyach hylef, hylith, a GCBM ii, 4.19. Yn GPC Ar Lein nodir ei fod yn gytras â’r Hen Wyddeleg fíach ‘cigfran’, y ddau yn tarddu o’r gwreiddyn *ues- ‘gwledda’. Fe’i cysylltwyd gan eiriadurwyr y 18g. â’r Wil y wawch, Saesneg grebe, aderyn sy’n bwydo ar bysgod bychain a phryfetach, ond mae’n amlwg nad dyna’r math o aderyn a oedd gan Gynddelw mewn golwg; gw. Jones 1999: 125–8. gwyarllyn,
125Yng nghyfrgain gyfwyrain 32 gyfwyrain J 111 kyfwyrein; fe’i treiglir yn dilyn yr ansoddair cyfrgain ‘gwych’ (er y rhoddai’r ffurf gysefin gynghanedd sain gyflawn). cyfrbyn,
Yng nghyfrgoll 33 yng nghyfrgoll J 111 ygkyrgoll. Cyfosodir cyfrgoll a cyfwyrain eto gan Gynddelw yn GCBM i, 17.3 O win kyuyrgein nyd kyuyrgoll. tewdor ddôr 34 tewdor ddôr J 111 tewdor tor a ddehonglir yn gyfuniad o ddau enw gyda dôr yn brif elfen, ac felly’n treiglo: yn llythrennol, ‘dôr amddiffynfa / dôr cadernid’. Profir y treiglad meddal i’r enw benywaidd ddôr gan y cytseinedd â’r ansoddair ddychlyn sy’n ei ddilyn. Ar batrwm yr ymadrodd tewdor ddôr ddychlyn, cf. ll. 182 tewdor ddôr ddiffryd, hefyd GCBM i, 16.93 teudor dor Dygen (= ‘tewdor ddôr Ddygen’). ddychlyn,
Yng nghyfranc Powys, pobl ddengyn,
Ac Oswallt fab Oswi Aelwyn,51 Oswallt fab Oswi Aelwyn Brawd, ac nid tad, i Oswallt oedd Oswi, mewn gwirionedd, a’r ddau ohonynt yn feibion i Aethelfrith, brenin Northumbria: gw. ODNB dan Oswiu [Oswy] 611/12–670. Pan fu farw Oswallt ym mrwydr Cogwy (gw. n48(e), fe’i holynwyd gan ei frawd: BD 202.10–11 A guedy llad Oswallt y doeth Oswi Aelwyn y uravt yn urenhin wedy ef. Cyfeiriai rhai beirdd diweddarach hefyd at Oswi gyda’r epithet Aelwyn (e.e. GLGC 112.95 Oswy aelwyn), ond ni chafwyd enghraifft o’r cyfuniad mewn ffynhonnell y tu allan i’r Gymraeg. Roedd gan Oswi fab o’r enw Aelfwine a ddaeth yn frenin Deira yn 670–9. Tybed a droes yr Hen Saesneg Aelfwine yn Aelwyn yn y Gymraeg, a’r -f- yn diflannu fel y gwnaeth mewn enwau fel Golystan (< Wolfstan) ac Elystan (< Ælfstan), a bod yr enw hwnnw wedi ei gamddehongli’n epithet ‘ac iddo aeliau gwyn’ yn y Gymraeg (cf. Jones 1926–7: 32)? Mae’r ffaith fod awdur yr ‘Historia Brittonum’ yn cyfeirio at Oswallt â’r epithet Lamnguin ‘llafn’ + ‘gwyn’ yn awgrymu bod traddodiad o roi epithetau Cymraeg i hen frenhinoedd Northumbria i’w olrhain i’r 9g. o leiaf, gw. ODNB dan Oswald [St Oswald] (603/4–642). Lladdwyd Aelfwine yn ifanc mewn brwydr yn erbyn Mercia ger afon Trent. Mae’r cyfeiriad hwn at yr enw gan Gynddelw, er mor wallus, yn awgrymu bod y cof am Aelfwine wedi parhau yn nhraddodiadau Powys hyd y 12g.
Yn aele ofal amofyn,52 Llinell anodd. Yn betrus cymerir mai disgrifio nod hynt Tysilio a’i filwyr mewn brwydr a wneir, sef i geisio (amofyn) creu helynt (ofal) alaethus (aele) i’w gelynion.
130– Oedd aelaw coel cwynaw Canfryn⁠53 Canfryn Fe’i dehonglir yn betrus yn enw lle, cf. GCBM i, 3.130n. Os yw’n gywir cysylltu brwydr Cogwy â safle’r hen fryngaer ger Croesoswallt, y cyfeirir bellach ati fel Hen Groesoswallt (gw. n48(e)), yna byddai Canfryn (can(t) ‘lle amgaeedig, enclosure’ + bryn) yn ddisgrifiad digon tebygol o’r safle. Ond ni ddaethpwyd o hyd i enghraifft arall o’r enw yng nghyswllt y safle hwn. Ar Hen Groesoswallt a lluniau o’r bryn mewn oes gynharach, gw. English Heritage ‘History of Old Oswestry Hillfort’. Gw. hefyd n35(t). 35 Canfryn Fe’i dehonglir yn betrus yn enw lle (gw. n53(e)); ond fe’i rhennir yn ddau air yn J 111 can vrynn, ac felly gellid cymryd mai’r arddodiad can sydd yma gan aralleirio’r llinell: ‘Niferus oedd yr arwyddion o alar ar draws y bryn’ (disgrifiad o’r gyflafan ar y bryn yn dilyn brwydr Cogwy).
Yn rhyfel yn rhyfawr ddisgyn,
Wrth ddisgyr cedwyr cadr wehyn,
Yng nghynnif seirff oedd sarff54 seirff … sarff Ar y modd y cyfosodir seirff a sarff yma, cf. GCBM i, 16.58 Digriuỽch dragon, dreic ofrwy, hefyd ibid. 21.10. Roedd sarff a seirff yn eiriau prin gan y beirdd am filwr neu arwyr a Chynddelw piau tair o’r pedair enghraifft arall, GCBM i, 8.45, 11.9, 24.105 a GLlLl 4.9 (mae’r ychydig enghreiffitau eraill yn digwydd yng nghyswllt uffern neu’r diafol). Am enghraifft o’r cyfnod cynharach, cf. CA ll. 718. Tybed a yw Cynddelw yma’n dwyn i gof yr epithet Sarffgadau a gysylltir â Selyf, nai Tysilio, sef mab ei frawd Cynan Garwyn? Yn ei gyfres englynion ‘Breintiau Gwŷr Powys’, cyfeiria Cynddelw at filwyr Powys fel cosgort Dyssilyaỽ ac ymhellach at y milwyr fel Canaon Selyf, seirff cadeu Meigyen, gan ddwyn i gof Feigen, brwydr arall o’r 7g. yr enillodd wŷr Powys freintiau yn ei sgil: gw. GCBM i, 11.4, 9. unbyn, 36 J 111 yngkynnif sarff unbyn; mae’r llinell yn fyr o ddeusill a derbynnir awgrym HG Cref 181 i’w hestyn drwy ychwanegu seirff oedd.
Sefis ef, sefid Duw gennyn!

V

135Can fodd Duw yd fu ’n ei ddilen,55 dilen ‘Marwolaeth, tranc’ a ‘drwg dynged, dinistr’, yn ôl GPC Ar Lein d.g. dilen 1; ond rhoddai’r diffiniad ‘didoliad, neilltuad’ a roddir yn betrus yn G 353 well ystyr yma, yn enwedig gan y sonnir yn y llinellau canlynol am Fôn, lle dihangodd Tysilio rhag ei dad ac yn ddiweddarach rhag ei chwaer yng nghyfraith gas (gw. y Rhagymadrodd).
Tud wledig, elwig elfydden:
Tir gẃraidd gorwyf rhag unben,56 gorwyf rhag unben Deellir gorwyf yn ffurf gyntaf unigol presennol y ferf gorfod ‘cael, ennill’ (> ‘ymweld â’), yma mewn ystyr berffaith, cf. G 565. Tysilio, yn ôl pob tebyg, yw’r unben dan sylw. A yw Cynddelw yn honni iddo ymweld ag eglwys y sant ym Môn? O ddeall gorwyf yn enw, ‘balchder’, c., gw. GPC Ar Lein d.g. gorwyf 2 (gydag enghreifftiau o’r 14g. ymlaen), gellid aralleirio ‘tiriogaeth wych lle ceir balchder ar gyfrif ei phennaeth’.
Tirion Môn,57 tirion Môn Gellid dehongli tirion yn ansoddair (‘hynaws yw Môn’), ond mae’n fwy tebygol o fod yn enw yma, cf. GPC Ar Lein d.g. tirion 2 ‘?Tiroedd; tiriogaeth, gwastadedd, tir glas’. Cyfosodir tirion a meillion eto yn LlDC 5.11 Myn y mae meillon / a gulith ar tirion. Ym muchedd Lydewig Suliau, esbonnir bod y sant wedi cilio ddwywaith i briordy yn perthyn i Feifod ar ynys yn y Fenai, a bod yr ynys hon wedi ei henwi yn ddiweddarach ar ei ôl: un Prieuré dependant de son Monastere de Meibot, situé dans une isle, qui fait le fleuve Mené, laquelle, depuis, fut de son nom apellée Enez Suliau , Le Grand 1837: 382. meillon ym morben.
Tysiliaw, teÿrnedd nenbren,
140Teÿrnas dinas diasgen,58 Teÿrnas dinas diasgen Dehonglir Teÿrnas dinas yn gyfuniad enwol am Dysilio, ‘cadarnle teyrnas’, a’r ansoddair diasgen yn goleddfu’r cyfuniad; cf. dinas teÿrnas a geir gan Gynddelw am noddwr arall, GCBM i, 19.29, 20.41. Er disgwyl treiglad meddal yn y brif elfen dinas (cf. hydref ddail ), ceir yma galediad yn dilyn s, gan sicrhau cysteinedd â diasgen, sydd hefyd yn cadw’r gytsain gysefin gan mai enw gwrywaidd oedd dinas gan amlaf mewn Cymraeg Canol.
Teÿrnfardd a’i cân,59 a’i cân Cymerir bod y rhagenw mewn safle proleptig, yn cyfeirio ymlaen at wrthrych y ferf, sef teÿrnwawd, a fynegir yn ll. 142, cf. GMW 56–7. Cyfeiria cadr eurben a teÿrnwyr Cyngen at Dysilio. cadr eurben,
Teÿrnwawd teÿrnwyr Cyngen.60 Cyngen Cyngen Glodrydd, taid Tysilio ar ochr ei dad, Brochfael Ysgithrog. Yn ôl ‘Bonedd y Saint’, roedd Cyngen yn fab i Gadell Ddyrnllug, a enwyd yn ll. 37; gw. EWGT 59. Cyfeiria Cynddelw at Bowys mewn cerdd arall fel ‘bro Gyngen’, gw. GCBM i, 24.121.
Cynyddwys cynnif cyngorffen,
Cynnwys glain cyn glas dywarchen,61 Ar ôl moli Tysilio fel pennaeth milwrol effeithiol, disgrifia Cynddelw yma ei fuddugoliaeth derfynol yn ennill croeso’r saint (ll. 144 Cynnwys glain) cyn diwedd ei oes. Os dyma’r dehongliad cywir, ymddengys fod Cynddelw yn dehongli gyrfa Tysilio fel petai’n un o dywysogion y 12g. a enciliai ar ddiwedd eu hoes i’r fynachlog y buont yn ei noddi yn ystod eu bywydau (fel yr enciliodd Owain Cyfeiliog i Ystrad Marchell). Nid yw Cynddelw yn enwi Meifod yma, ond mae’n ddigon posibl mai’r eglwys honno sydd ganddo mewn golwg yn llau. 147–8.
145Cynnaddl cerdd, cerennydd gymen,
Gain wenwas heb gas, heb gynnen.
Llan a wnaeth â’i lawfaeth loflen,
Llan llugyrn,62 llan llugyrn Rhestrir eglwysi cysylltiedig â Thysilio yn llau. 151–4, a chymerir mai cyfeirio at eglwys Meifod a wna’r bardd yn llau. 147–8, heb ei henwi, ond gan gyfeirio at olau ei lampau. Byddai hyn wedi bod yn hollol amlwg i’r gynulleidfa a wrandawai ar Ganu Tysilio yng ngolau cannwyll yn eglwys Meifod, o bosibl adeg dathlu gŵyl y sant.
Cynigiwyd, fodd bynnag, mai enw lle yw Llanllugyrn yma, ac mai dyma oedd ffurf wreiddiol yr enw Llanllugan: LBS iv, 303 (am y llinell hon), ‘ “The church of Llugyrn (Llorcan)” … Llanllugyrn we believe to be Llanllugan … in Montgomeryshire.’ Cynigir ymhellach mai Llorgan Wyddel oedd sylfaenydd yr eglwys ac iddi gael ei hailgysegru i Dysilio’n ddiweddarach: LBS iii, 378; Thomas 1908–13: i, 484. Gw. hefyd WATU 133 lle nodir Llanllugyrn yn ffurf amrywiol ar Llanllugan . Ond fel y gwelir yn ArchifMR ceid y ffurf Llanllugan mor gynnar â’r 13g., a’r llinell hon yw’r unig dystiolaeth a roddir yno dros y ffurf amrywiol Llanllugyrn ; at hynny, ymddengys fod y cyswllt tybiedig rhwng Llanllugan a Thysilio yn ddibynnol ar y llinell hon ac ar y dybiaeth mai’r un yw Llanllugan a llan llugyrn y testun.
llogawd offeren,

Llan tra llŷr, tra lliant wyrddlen,
150Llan dra llanw, dra llys Ddinorben,63 dra llys Ddinorben Ar Ddinorben, y fryngaer hynafol ym mhlwyf Llansain Siôr ger Abergele yng nghantref Rhos, Gwynedd Is Conwy, gw. Gruffydd 1989–90: 7–8 lle trafodir y posibilrwydd iddi gael ei chysylltu â Chunedda. O gymryd mai o safbwynt Meifod y llefara’r bardd yma, ymddengys mai at eglwys y ‘tu draw’ i lys Dinorben, ac felly yng Ngwynedd Uwch Conwy, y cyfeiria Cynddelw yn llau. 149–50 – o bosibl eglwys Llandysilio ar Fenai neu eglwys Llydaw (gw. y nodyn canlynol). Ni wyddys am hanes Dinorben yn oes Cynddelw (gw. Coflein dan Dinorben: destroyed hillfort) ond yn sicr mae’r cyfeiriad gan Walchmai at arth Orben, gw. GMB 8.56n, yn awgrymu bod cof am bwysigrwydd hanesyddol y llys hwnnw wedi parhau hyd y 12g.
Llan Llydaw,64 llan Llydaw Awgrymir yn HG Cref 181 mai ‘at yr eglwys a sefydlodd yn Llydaw’, ‘y tu hwnt i’r llanw’, y cyfeirir yma. (Daw Llydaw, o ran ei darddiad, o’r Frythoneg *litavia ‘tir y traeth’, cytras â’r Lladin litus ‘traeth, glan’, ac felly mae’n gyfystyr â’r enw Armorica, gw. EANC 216.) Fel y gwelwyd yn y Rhagymadrodd, trosglwyddwyd buchedd Tysilio yn gynnar i Lydaw (o bosibl mewn ffurf ysgrifenedig yn Lladin); ond derbynnir yn gyffredinol nad oes unrhyw dystiolaeth fod Tysilio ei hun erioed wedi bod yn Llydaw.
Mae dau esboniad posibl, felly, ar yr enw lle yma: [i.] fod Cynddelw yn credu bod Tysilio wedi bod yn Llydaw, o bosibl drwy fod yr hanesion amdano a gludwyd ynghynt i Lydaw wedi eu cludo yn ôl i Gymru, wedi eu haddasu; [ii.] fod Llydaw i’w leoli yng Nghymru. Yn GCBM i, 3.151n holir tybed ai cyfeiriad sydd yma at hen eglwys glas a geid gynt ym Meddgelert, nepell o Lyn Llydaw ar yr Wyddfa. Y Llydaw hwn yw’r unig enw lle yn cynnwys yr elfen Llydaw a restrir yn ArchifMR, a cf. yn arbennig y cyfeiriad yno o’r Brutiau at mynyded Llydaw, neu Eryri sy’n awgrymu y gall fod ystyr ehangach i Lydaw yng nghyswllt Eryri. Ymhellach ar hen eglwys Beddgelert, gw. Coflein dan St Mary’s Church, Beddgelert; St Mary’s Priory (Augustinian), a Monastic Wales dan Beddgelert.
Yn WCD, dan Llydaw, awgrymir bod Llydaw wedi bod yn enw ar ardal yn ne-ddwyrain Cymru (‘Just as Devon [Dumnonia] and Cornwall gave their names to Domnonée and Cornouaille in Brittany, so Llydaw [Brittany] seems to have had its duplicate in Britain’), o bosibl ym Mrycheiniog, yn ôl awgrym Rhŷs 1901: 531–6. Awgrymir ymhellach yn WCD mai dyma’r Llydaw lle ganwyd Illtud yn ôl ei fuchedd, a lle dychwelodd i farw; byddai hynny’n cyd-fynd â thraddodiad ‘that he [h.y. Illtud] was buried in the parish of Defynnog in Brycheiniog’. Os felly, tybed a ddylid cysylltu’r cyfeiriad hwn at lan Llydaw â’r cyfeiriad at lan Gamarch yn ll. 154?
Gan fod llan yn enw benywaidd, disgwylid i’r enw priod dreiglo ar ei ôl, cf. llau. 152–4; ond ar gadw cysefin ll- yn dilyn n, gw. TC 103.
gan llydwedd wohen,

Llan Bengwern,65 llan Bengwern Eglwys arall na ellir bod yn sicr o’i lleoliad. Gan fod gwern ‘cors, mign’, c., yn nodwedd ar ddaearyddiaeth sawl ardal yng Nghymru, nid yw’n syndod fod yr enw Pengwern i’w ganfod ar hyd a lled y wlad, fel y gwelir yn ArchifMR: o Ynys Môn (Llanddona) hyd at Gydweli yn y de. Pengwern, yn ôl traddodiad, oedd enw prif lys tad Tysilio, Brochfael Ysgithrog, a dichon mai hwnnw yw’r llys a gysylltwyd gan Gerallt Gymro ag Amwythig: Jones 1938: 170, ‘Pengwern … y gelwid gynt y lle y saif castell Amwythig yn awr.’ Pengwern, meddai Gerallt Gymro ymhellach, ibid. 171, oedd prif lys Powys, yn un o dri phrif lys Cymru, ynghyd â Dinefwr ac Aberffraw. Os dyma’r fan sydd gan Cynddelw yn ei feddwl, yna byddai’r cysylltiad â Brochfael yn ddigon i esbonio’i ddisgrifiad o’r fan fel bennaf daearen. Cynigir yn LBS iv, 303 mai cyfeirio a wna Cynddelw at eglwys St Julian yn Amwythig (ai oherwydd cysylltu’r enw Julian a Sulien?). Am drafodaeth gynhwysfawr ar leoliad Pengwern yr hen ganu englynol, gw. Rowland 1990: 572–4. bennaf daearen,
Llan Bowys,66 llan Bowys Meifod, prif eglwys Powys, mae’n debyg. Cf. n95(e) a’r Rhagymadrodd. baradwys burwen,
Llan Gamarch,67 llan Gamarch Plwyf yng nghantref Buellt, bellach yn sir Frycheiniog, yw Llangamarch. Cynog yw nawddsant yr eglwys, ac ni ddaethpwyd o hyd i unrhyw dystiolaeth i’w chysylltu â Thysilio, ond gw. n64(e). Mae’r eglwys bresennol yn un fodern, gw. CPAT dan Llangammarch Wells. Yn y 18g. cofnododd Dom Lobineau yn Llydaw hanes am Sulian yn dianc i Buelt (nid i Fôn) rhag dynes annifyr o’r enw Haiarme, gan godi eglwys a mynachlog yno: gw. SoC, v, 112 ac ymhellach ibid. 125 am y testun Lladin. llawbarch i berchen.

VI

155Perchen côr, cerdd wosgor wasgawd,
Ced wasgar, cas llachar lluchnawd,
Lluch faran, lluchfan ei folawd,
Arfoliant urddiant urdd enwawd;68 enwawd Gw. n37(t). Yn hytrach na’i ddeall yn ansoddair, tybed a allai fod yn ferf, gyda’r terfyniad trydydd unigol presennol -awd, yn aml gydag ystyr ddyfodol, gw. GPC Ar Lein d.g. -awd 1? Os felly, gellid aralleirio Arfoliant enwawd / Berth Feifod ‘bydd cerdd o fawl yn crybwyll Meifod hardd’. 37 urdd enwawd LlGC 6680B urt ena[ ] gyda thoriad llinell yn dilyn yr a, cf. G 481 d.g. enwawt sy’n awgrymu mai urt e nawd yw’r darlleniad yno; J 111 vrd enwa6t. Gan fod enwawd yn unig enghraifft, awgrymwyd yn GCBM i, 3.158n y dylid darllen J 111 vrd enwaỽt fel urden waỽt, ar lun GCBM i, 21.2 Aỽdyl urten. Yn erbyn hynny mae’r ffaith fod bwlch hefyd yn dilyn urt yn y ddwy lawysgrif. Derbynnir yn betrus ddarlleniad J 111 yma; cf. G 32 d.g. anwawt. Gw. n68(e).
Berth Feifod, 38 Feifod J 111 veinot; gwall am veiuot ‘Feifod’; cf. n4(t). ofirain 39 ofirain J 111 o virein, a dderbynnir yn ddau air yn HG Cref 37. Ceir gwell ystyr o gymryd mai ffurf dreigledig govirein sydd yma, yn cynnwys y rhagddodiad cryfhaol go- a ychwanegir at enwau ac ansoddeiriau. Ond ni chydnabyddir y ffurf hon yn GPC Ar Lein nac yn G 546. logawd,
160Llog69 llog Benthyciad o’r Lladin locus ‘lle’, gw. GPC Ar Lein d.g. llog 2, yn cyfeirio yma, o bosibl, at dir amgaeedig yr eglwys ym Meifod, yn cynnwys ei mynwent (beddrawd) ar gyfer boneddigion (meddfaith, yn llythrennol ‘rhai wedi eu magu ar fedd’). Ar llog, a’i ddefnydd mewn enwau lleoedd yn Llydaw yn arbennig, gw. Jankulak 2000: 76–8. fawrfaith am feddfaith feddrawd.
Tremynt 40 Tremynt LlGC 6680B tremynt; J 111 teruyn. Ar tremynt ‘trem (y llygaid), golwg; trem, edrychiad, cipolwg, golygfa’, c., gw. GPC Ar Lein d.g. tremynt 1. Cyfeirio a wneir yma at Wyddfarch yn derbyn gweledigaeth o Rufain ym Meifod; gw. n70(e). O gymryd mai tremyn tec oedd darlleniad y gynsail (am y ffurfiau amrywiol tremynt a tremyn, gw. GPC Ar Lein d.g. tremynt 1), ceid odl fewnol yn y llinell. teg i’m terwyn 41 terwyn J 111 terwyn. Ymddengys fod dau air cyfystyr, mwy neu lai, yn golygu ‘ffyrnig, tanbaid’, c.: terrwyn (yn odli ag -ŵyn) a terwyn (yn odli ag -yn), gw. GPC Ar Lein ac am drafodaeth bellach GMB 3.12n. Heb gymorth odl mae bron yn amhosibl dewis rhyngddynt (ymddengys mai canllaw simsan yw presenoldeb -rr- neu -r- yn y llawysgrifau). Awgryma’r odl fewnol â (g)wenwyn yn ll. 116 mai terrwyn sydd yno, ond ar sail y posibilrwydd mai tremyn tec oedd y darlleniad gwreiddiol ar ddechrau’r llinell hon (gw. n40(t)), cymerir bod terwyn yn fwy tebygol yma gan y rhoddai odl fewnol â tremyn. beiddawd,
A weles, ni welir hyd Frawd:70 Yn llau. 161–70 disgrifir achlysur pan gafodd yr Abad Gwyddfarch weledigaeth o Rufain ym Meifod. Yn nhestun Le Grand (1837: 483) o fuchedd Suliau, esbonnir bod Suliau wedi cael caniatâd yr Abad Guymarch i adael Meifod am gyfnod er mwyn dianc rhag ei dad, Brocmail, i Enez Suliau yn afon Mené, oherwydd credai y byddai hwnnw yn ei orfodi i adael yr Eglwys. Ond ar ôl treulio saith mlynedd ar yr ynys, cafodd Suliau orchymyn gan yr Abad Guymarch i ddychwelyd i Feifod, gan ei fod ef yn dymuno mynd i Rufain. Sylweddolodd Suliau gymaint o niwed a achosai absenoldeb yr abad i’r fynachlog, ac fe’i perswadiodd i beidio ag ymgymryd â’r daith, drwy addo gweledigaeth o Rufain iddo ym Meifod ei hun. Ac un prynhawn, il mena l’Abbée sur un petit tertre, ou colline, qui estoit dans l’enclos du Monastere, d’où il luy fit voir distinctement toutes les Eglises, les palais, amphiteatres, obelisques & autres raretez de cette grande ville (‘arweiniodd yr abad i dwmpath bychan, neu fryn, a oedd o fewn ffiniau’r fynachlog, lle parodd iddo weld yn eglur yr holl eglwysi, palasau, amffitheatrau, obelisgiau a’r pethau prin eraill a oedd yn y ddinas fawr hon …’). Diau yr ystyrid hyn yn un o wyrthiau Tysilio. Dehonglodd Malcolm Thurlby y weledigaeth hon o Rufain fel ymgais i ddyrchafu eglwys Meifod drwy honni bod perthynas uniongyrchol rhyngddi a Rhufain: ‘This must surely be read as a strong statement in favour of the clas church, in that Meifod was associated with Rome without any Norman intermediary to impose or supervise Gregorian reform’, gw. Thurlby 2006: 248–9, ac ymhellach y Rhagymadrodd.
Caer Rufain, ryfedd olygawd,
Caer uchel, uchaf ei defawd.
165Caer eang, eofn ei chiwdawd,
Ni chyfred ei phobl â phechawd; 42 â phechawd J 111 ae phechaỽt; ar sail ystyr derbynnir y diwygiad ae > a a geir yn LlGC 4973B (un ai gan ysgrifydd y llawysgrif honno, John Davies, neu gan ysgrifydd ei ffynhonnell, Siôn Dafydd Rhys, yn ei gopi coll ef o’r gerdd yn Pen 118).
Caer araul, caer ddidraul ddidrawd,
Caer bellglaer o bellglod addawd:71 Awgrymir bod dinas Rhufain i’w gweld yn glir er mor bell yw hi (bellglaer) o Feifod, sydd hithau’n bell ei chlod (bellglod): gw. n70(e). Dichon fod amwysedd bwriadol yn llau. 169–70 o safbwynt gaer y cyfeirir ati, gyda Meifod a Rhufain yn ymdoddi’n un yn nychymyg y bardd.
Caer barchus, barhäus barawd,
170A berid i bererindawd.

VII

Peniadur cerygl, ceresyd72 ceresyd Ffurf hynafol ar drydydd unigol gorffennol y ferf caru, gw. GMW 123n1. Cymerir mai Tysilio yw’r goddrych.
Ced73 ced Gellid ei ddeall yn rhodd ysbrydol neu ‘fendith’ gan Dysilio i’r sawl a ymwelai â’i eglwys; ond mae’n fwy tebygol mai cyfeirio a wna’r bardd at rodd y byddai pererin yn ei chyflwyno i’r eglwys, wrth iddo gyflwyno ei ffydd a’i ddefosiwn ([c]red a chrefydd) i’r sant. Awgrymir, felly, yn llau. 171–2 y câi Tysilio ei blesio gan y rhoddion a roddai’r pererinion i Feifod yn ei enw. a chred a chrefydd i gyd;
Periglawr74 periglawr Am ei ystyr, a’r gwahaniaeth rhyngddo ac offeiriad, gw. Pryce 1986: 68–9, lle y’i cysylltir â’r Lladin parochia a ddynodai, cyn y 12g., ‘[g]ylch awdurdod’ eglwys, mynachlog neu esgobaeth, ac felly ‘Efallai i periglor ddynodi offeiriad a chanddo awdurdod eang dros parochia yn yr hen ystyr yn wreiddiol, ond wrth i parochia ddod i olygu “plwyf”, ac felly i gyfeirio at gylch llai o faint, nid oedd rheswm mwyach i wahaniaethu yn ymarferol rhwng periglor ac offeiriad.’ Fel y nodir ymhellach, efallai fod defnydd Cynddelw o’r gair yng nghyswllt pobl Gwynedd yn y llinell hon, ac yng nghyswllt pobl Powys yn ll. 232, yn adlewyrchu cylch gofal eang y periglor gwreiddiol. Gan hynny byddai’n ddisgrifiad da o Dysilio, yr oedd cylch ei ofal yn ymestyn dros bobl Gwynedd yn ogystal â phobl Powys, gan fod ei eglwys yn Llandysilio yn y Fenai yn perthyn i Feifod. peryglus75 peryglus Ansoddair yn disgrifio pobl Gwynedd fel rhai ‘mewn perygl’. Gellid ei ddeall yng nghyd-destun gwleidyddiaeth y 12g., fel y gwneir yn Jones and Owen 2003: 59–60; ond gwell yw ei ddeall yn gyfeiriad at y perygl cyffredinol sy’n ein hwynebu oll adeg ein marwolaeth; cf. defnydd Gwalchmai o’r ferf periglo ‘bod mewn perygl’ yn ei awdl i Dduw, GMB 14.65. Wyndyd,76 Gwyndyd Un ai trigolion Gwynedd neu’r wlad ei hun, gw. GPC Ar Lein. Yn ôl y bucheddau Llydewig a drafodwyd yn y Rhagymadrodd, treuliodd Tysilio gyfnod o saith mlynedd mewn eglwys yn perthyn i Feifod ar y Fenai, er mwyn dianc rhag ei dad, gan dreulio cyfnod pellach yno yn ddiweddarach, yn ôl un fersiwn, er mwyn dianc rhag ei chwaer yng nghyfraith annymunol. Gw. n83(e) ar elfydd Pen Mynydd. Dehonglir y cyfeiriad hwn yng nghyd-destun gwleidyddiaeth y 12g. yn Jones and Owen 2003: 59–60.
Gwyndawd gwyn, gwirion ormoddbryd:77 gwirion ormoddbryd Cyfieithir yn TWS 271 fel ‘the innocent one who ate too many meals’; ond i’r 16g. y perthyn yr enghraifft gynharaf o pryd yn yr ystyr o bryd bwyd yn GPC Ar Lein d.g. pryd 1 (c). Fe’i cysylltir yma, yn hytrach, â pryd 2 ‘golwg, wyneb’, c., gw. ibid., gan gymryd bod grym cryfhaol i’r ansoddair gormodd, cf. ibid. gormoddgas ‘llawn casineb’ a prydfawr ‘hardd neu osgeiddig iawn’. 43 ormoddbryd LlGC 6680B [ ]or mo[.]hbryd (mae’r llythrennau o[.]h yn aneglur, a gall mai e sydd yno nid o); J 111 ormodbryt. Ni chafwyd enghreifftiau eraill o meithbryd na mothbryd / moddbryd, felly derbynnir darlleniad J 111, gw. n77(e).
175Pereidwawd 44 Pereidwawd Cf. J 111 pereit waỽt. Ni restrir peraid yn GPC Ar Lein, ond am y terfyniad ansoddeiriol -aid, gw. GPC Ar Lein d.g. -aid 2, a cf. ariannaid, honnaid, c. (Os gwall am pereid (‘peraidd’) yw pereit y llawysgrif, gellid cymryd mai pereiddwawd yw’r cyfuniad.) pernawd perhëyd,78 perhëyd Hen ffurf trydydd unigol presennol mynegol parhäu, gw. GMW 119.
Pêr foliant esborthant esbyd.
Pair cyfraith, cyfrwydd y’n cyfyd,
Cyfoeth Duw a’n dug79 Cyfoeth Duw a’n dug Deellir Cyfoeth Duw yn wrthrych anuniongyrchol y ferf dug: ‘mae ef (?Tysilio neu o bosibl pennaeth cyfoes Meifod) wedi ein dwyn ni i awdurdod / teyrnas Duw’. yng ngwynfyd:
Cyfa fydd i’r prydydd a’i pryd
180Prydest loyw pryder ddihewyd.
Diwahardd i fardd ei fenwyd,
Diffleistor, tewdor ddôr ddiffryd;
Diffyrth hael hil 45 hil Cf. LlGC 6680B hil; J 111 hir. Ar Brochfael, tad Tysilio, gw. n7(e). Brochfael broglyd,80 Cymerir mai trefn y frawddeg yw berf (diffyrth) + goddrych (hael) + gwrthrych (hil Brochfael broglyd), ond gellid hefyd ddeall diffyrth yn ferf gyflawn, fel y gwneir yn HG Cref 182–3, a chymryd hael hil Brochfael broglyd i gyd yn enwol am Dysilio (‘amddiffynnodd yr un hael o linach Brochfael ddiogel ei bro’).
Gradd ufel, 46 Gradd ufel J 111 graduuel; cyfuniad afrywiog, yn llythrennol ‘llam fflam’ (ar gradd ‘cam, llam, naid’, gw. GPC Ar Lein d.g. gradd (2)). Os dylai gyflythrennu â greidiawl, gall mai gwall (neu amrywiad) yw graduuel am Gradifel, enw nawddsant plwyf Penmynydd, Môn, a adwaenid hefyd fel Llanredifael, WATU 174. Arno Gradifel, gw. LBS iii, 148–9. Ond nid yw’r cyfeiriad at y sant hwnnw’n synhwyrol yma ac nid yw’n sicr, ychwaith, mai at Benmynydd ym Môn y cyfeirir yn ll. 196. greidiawl ei wryd.
185Gwyrth a wnaeth ni wneir hir 47 hir LlGC 6680B hir; J 111 hyt. Defnyddir y cyfuniad hir ennyd eto gan Gynddelw yn GCBM ii, 17.46. ennyd,
Ni wnaethpwyd eirioed er yn oes byd:
O’i adaf etewyn tanllyd 48 etewyn tanllyd LlGC 6680B etewyn ta[.]llyd (a’r ail e yn ansicr); J 111 etwyn canllyt. Mae angen etewyn ar gyfer yr ystyr a hyd y llinell.
I dyfu 49 I dyfu LlGC 6680B y dyfu; J 111 ydyfu: sef yr arddodiad i a ffurf dreigledig y berfenw tyfu. Ar ddefnydd yr arddodiad a’r berfenw yma, cf. CA ll. 63 dadyl diheu angheu y eu treidaw. Gellid hefyd ddeall dyfu yn ffurf trydydd unigol gorffennol dyfod, a ragflaenir ar ddechrau brawddeg gan y geiryn rhagferfol y (GMW 171), ond nid yw’r cwpled mor ystyrlon felly. a dail ar ei hyd.81 Yn llau. 185–8 disgrifir gwyrth a gyflawnodd Tysilio pan barodd i ddarn o bren marw dyfu dail a chynhyrchu tân. Ni chafwyd hyd i ddim a allai esbonio hyn yn y deunydd Llydewig, ond cyfeirir yn TWS 272 at y modd y troes Kentigern gangen o goeden gollen yn llusern: gw. ymhellach Forbes 1874: 44–5.
Gwyrth arall, gwerthfawr ei dedfryd,
190Gran yng ngre, bu de, bu dybryd, 50 bu de, bu dybryd LlGC 6680B b[.] d[.] bu dybryd; J 111 dybu dybryt, sy’n peri i’r llinell fod yn fyr o sillaf.
Gre yng ngreddf yn lleddf yn llugfryd,
Yng ngharchar yn naear, yn ŷd!82 Disgrifiad braidd yn annelwig o wyrth arall a gyflawnodd Tysilio. Haid o anifeiliaid, ceffylau neu wartheg fel arfer, yw ystyr gre, a gall gran olygu ‘boch’, ‘wyneb’ ac o bosibl farf neu wallt y pen, gw. GPC Ar Lein d.g. gre, gran. Ymddengys fod wyneb wedi ymddangos i’r anifeiliaid, a’u bod o ganlyniad yn llawn tristwch (lleddf ) ac mewn pryder (llugfryd), wedi eu caethiwo (yng ngharchar) yn y ddaear ac mewn ŷd, o ganlyniad i ddilyn eu natur (yng ngreddf ), sef bwyta’r cnwd.
Yn fersiwn Albert le Grand o fuchedd Suliau (Le Grand 1837: 483–4) ceir hanesyn sydd fel petai’n taflu goleuni ar hyn. Sonnir am Suliau yn teithio o Gymru i Lydaw, er mwyn dianc rhag ei chwaer yng nghyfraith filain, gan lanio mewn dinas o’r enw Guicaleth (ger tref bresennol Saint-Malo, gw. Lanigan 1829: i.165). Gan ei fod yn dymuno cael tawelwch, gadawodd y sant y ddinas gyda’i fynaich a chyrraedd man unig ar lan afon Rance. Ar ôl trafod gydag arglwydd lleol, derbyniodd gan hwnnw lain o dir yn rhodd. Cododd Suliau dŷ iddo ef a’i fynaich cyn mynd ati i droi gweddill y tir a phlannu ŷd. Tyfodd hwnnw’n dda, nes y daeth gyr o anifeiliaid heibio un noson a difa rhan o’r cnwd. (Gelwir yr anifeiliaid yn bestail neu bétail gan le Grand, ibid., ac yn turba ferarum yn ActaS xlix 196.) Wedi clywed am hyn, aeth Suliau allan gyda’i ffon fagl, a’i dirwyn o amgylch y cae gan godi pedwar postyn, un ym mhob cwr iddo. Gweddïodd ar Dduw i gadw’r anifeiliaid draw. Trannoeth daethant yn eu holau, ond cyn gynted ag yr oeddent wedi croesi’r llinell a ddirwynodd y sant, rhewasant yn eu hunfan. Ai dyma’r olygfa sydd gan Gynddelw yn ei feddwl, gydag wyneb (gran) dig y sant yn syllu ar yr anifeiliaid troseddol?

Post Powys, pergyng cedernyd,
Pobl argledr, arglwydd diergryd;
195Porthloedd budd, porthes 51 porthes LlGC 6680B porthes; J 111 porthloes. Berf sydd ei hangen yma. Am enghraifft arall o’r cyfuniad porthi penyd, gw. GCBM ii, 18.79. o’i febyd
Yn elfydd Pen Mynydd⁠83 Pen Mynydd Dehonglir pen mynydd yn enw cyffredin yn HG Cref 38, gan ei aralleirio ‘[p]en eithaf y mynydd’. Ond os enw lle ydyw, yna rhestrir sawl Penmynydd posibl yn ArchifMR: e.e. yn Abergele, yn Nhremeirchion a’r Cwm yn sir y Fflint, yn Amlwch, Bodedern a Llanfechell ym Môn, yn Llandudno, Llanerfyl ac ati. Yr un enwocaf yn ddiweddarach oedd cartref y Tuduriaid yn Nindaethwy, a chymerir yn GCBM i, 3.196n a Jones and Owen 2003: 59 mai at y fan honno y cyfeirir yma (cf. y cyfeiriadau at Fôn yn ll. 138 ac at Wynedd yn ll. 173), ond os felly, dyma’r cyfeiriad cynharaf ato. penyd!

VIII

Penydwr pennaf ei grefydd
A gredws Duw, 52 a gredws Duw LlGC 6680B a gredws duỽ; J 111 agredỽys y duỽ. Ceir odl fewnol a chynghanedd sain o dderbyn darlleniad LlGC 6680B, yn ogystal â’r nifer cywir o sillafau. Am ddosbarthiad y terfyniad -wys / -ws yn y farddoniaeth, gw. Rodway 2013: 128–53 ac ibid. 137 lle awgrymir mai -ws oedd y terfyniad gwreiddiol ac mai datblygiad diweddarach arno oedd -wys. Dëws Dofydd;
Creded bawb i Bair 53 Creded bawb i Bair LlGC 6680B Creded paub i beir; J 111 cretet baỽp y peir. Mae’n bosibl nad oedd y gynsail yn dangos treiglad yn rheolaidd, ac mai ymdrechion y ddau ysgrifydd i ddiweddaru orgraff y gynsail a welir yma. (Cf. y duedd a welir yn Llyfr Du Caerfyrddin i beidio â dangos treiglad rhai cytseiniaid di-lais, e.e. LlDC 37.1 ar claur yn cyfateb i LlGC 6680B am glaỽr.) Ar sail yr egwyddor a nodir gan T.J. Morgan, cymerir mai ffurfiau treigledig y goddrych (pawb) a’r gwrthrych anuniongyrchol (pair) sydd eu hangen yma: TC 185, ‘Gellir bod yn weddol sicr o un peth: lle ceir treiglad wedi ei nodi gellir casglu’n weddol hyderus (ar wahân i ambell wall copïo) mai hynny oedd y gystrawen a fwriadai’r copïwr …’ Rhydd hyn gyfatebiaeth gytseiniol ar ganol y llinell. Sylwer mai treiglo’r goddrych a wneir hefyd yn ll. 41 Cared bawb, ac yn GMB 32.25 Credet baỽp y Duỽ a cf. TC 211–12 lle nodir mai treiglo’r goddrych oedd yn arferol yn wreiddiol ar ôl berf trydydd unigol gorchmynnol yn terfynu yn -ed (ac awgryma ddiwygio paub > baub yn LlGC 6680B yma). lluosydd,
200Lluosawg ei ddawn i ddedwydd.
Credaf dda ni ddifa, ni ddifydd,84 ni ddifydd Dilynir G 339 a chymryd mai berf gyflawn yn yr ystyr ‘ymadael, mynd ymaith, diflannu’ sydd yma; ni nodir yr ystyr hon yn GPC Ar Lein d.g. dyfyddaf: difod, ond gw. Williams 1968–70: 218.
Ni ddiffyg onid i ddiffydd;
Credaf fi fy Rhi, fy Rhebydd, 54 Rhebydd LlGC 6680B rebyt; J 111 rybyd. Ffurfiau amrywiol ar yr un gair yw’r rhain (GPC Ar Lein d.g. rhebydd) a’r ffurf rhybydd o bosibl yn ffrwyth cymathiad e..y > y..y.
Fy Llywawdr, Creawdr, Credofydd;
205Credaf-i 55 Credaf-i Cf. llau. 207, 209. Gan fod llinellau Cynddelw yn rheolaidd iawn o ran nifer sillafau, cymerir bod y rhagenw ategol yma’n ansillafog (oni bai bod reen y llawysgrif yn air unsill, Rhên). Ar ddefnydd rhagenwau ôl yng nghanu Beirdd y Tywysogion, a’r cwestiwn a ddylid eu cynnwys yn y mydr / cyfrif sillafau, neu beidio, gw. n10(t). wên a’m Rheen a’m rhydd
Mad gynnull mawrddull merwerydd; 56 Mae’r llinell yn fyr o ddwy sillaf yn J 111 mat gynnull maỽrweryd ond yn gywir yn LlGC 6680B.
Credaf-i Bost 57 Bost LlGC 6680B bost; J 111 post. Cf. ll. 209 lle ceir LlGC 6680B beryf ond J 111 peryf. Gw. ymhellach n53(t). present preswylwlydd
A’m peris o’r pedwar defnydd;85 pedwar defnydd Ar y pedwar defnydd, y credid yn yr Oesoedd Canol fod popeth wedi ei ffurfio ohonynt, gw. Lloyd ac Owen 1986: 106–9 a cf. DB 25.1–2 Ac yna y gwnaethpwyt y pedwar defnyd, a’r defnydyeu hynny yssyd ym pop peth, nyt amgen, tan, awyr, dwfyr, dayar.
Credaf-i Beryf nef yn elfydd
210A’m gwnaeth o burawr yn brydydd!

IX

Prydydd wyf rhag Prydain ddragon,86 Prydain ddragon Cyfeiriad at dywysog cyfoes Powys, Madog ap Maredudd, noddwr tebygol y gerdd; gw. y Rhagymadrodd. Ef yw’r Glyw y cyfeirir ato yn ll. 213 a roddai geffylau gwych i’w fardd. Cyfeiria Gerallt Gymro at geffylau gwerthfawr Powys yn y 12g., cf. Crouch 1992: 119, ‘Powys, according to Gerald of Wales, was famous for its exceedingly valuable horses, a breed he believed had been introduced there by Robert de Belleme, earl of Shresbury (exiled 1105).’
Priawd cerdd, cadair prydyddion.
Glyw a’m rhydd rhagorfeirch gleision,
Gleisiaid liw, glas87 gleisiaid liw, glas Ceir Cynddelw yn aml yn cymharu lliw glas ceffylau â lliw gleisiaid (sef eogiaid ifanc), cf. GCBM i, 1.24 Eiliw pysgaỽd glas, gleissyeid dylan; GCBM ii, 4.169 Fraeth leissyon, leissyeid kynhebyc. ganoligion,
215– Mau dedfryd maint gwryd gwron! –
Mal y gwnaeth mechdëyrn haelon
Meirch ar geirch yn garcharorion,
Maith gerdded, mygr gydred geidrion.88 Hynny yw, cyn gynted ag y mae’r arglwydd (Madog ap Maredudd) yn cynhyrchu ceffylau gwych drwy eu bwydo’n effeithiol mewn stablau, mae’n eu rhoi yn rhodd i’w fardd.
Ym Meifod y maent arwyddon
220Arwraidd i ẃraidd Frython:
Ei mawrwledd, ei medd, ei maon,
Ei threthau i’w thraethadurion.89 traethadurion Un o’r nifer o eiriau a ddefnyddiai Cynddelw a’i gyfoeswyr am feirdd: cf. GCBM i, 21.180; GCBM ii, 33.16; GLlF 25.32 Traethadur Prydein wyf yn prydu. 58 thraethadurion LlGC 6680B a J 111 traethaduryon; o adfer y treiglad llaes, fel y gwneir yn GCBM i, 6.222, cryfheir y cytseinedd.
Ei deugrair, gywair gyweithion,
A gyfyd yn gyfoethogion:90 cyfoethogion Roedd ystyron eang i cyfoeth a chyfoethog yn oes Cynddelw, a gallai gyfeirio nid yn unig at gyfoeth materol ond hefyd at awdurdod dros dir yn ogystal â grym a phŵer yn gyffredinol, gw. GPC Ar Lein d.g. cyfoeth, cyfoethog.
225Ei hynaf91 hynaf Pennaeth yr eglwys ym Meifod; gw. n94(e) ar sygynnab. henyw o’i thirion,
Handid92 handid Ffurf trydydd unigol presennol mynegol hanfod, a ddilynir gan gysefin y dibeniad, gw. TC 332 (lle trafodir tarddiad ansicr y ffurf). Mae’n gyfystyr â mae yma. rhydd rhwng ei dwy afon;93 rhydd rhwng ei dwy afon Ar ddefnydd rhydd yma i ddisgrifio tir a oedd yn rhydd o gyfraith gwlad, sef un o freintiau tiriogaeth a berthynai i fynachlog, cf. DewiGB llau. 31–2 Ei fraint wrth ei fryd i freiniawg ysydd / A’i elfydd yn rhydd, hefyd ibid. ll. 107. Llunia afon Efyrnwy ffin amlwg ychydig i’r de o Feifod, ac awgrymir yn HG Cref 183 mai afon Einion yw’r ail afon yma.
Ei sygynnab94 sygynnab Gair a fenthyciwyd o’r Lladin secundus abbas ac a drafodir yn Thomas 1956–8: 183, lle sylwir bod enghraifft arall ohono mewn dogfen eglwysig o gyfnod Edward III lle y’i ceir yn enw ar ‘swyddog yn esgobaeth Llanelwy’ (gw. n95(e)). Mae’r ffurf yn gytras â’r Hen Wyddeleg secnap, a ddiffinnir yn RIA fel ‘the prior of a monastery (inferior in status to the abbot …)’. Cymerir mai dyna’r ystyr yma hefyd, gan ddeall hynaf, ll. 225, yn gyfeiriad at yr abad. Ymhellach ar y ffurf gw. Charles–Edwards 1971: 180–90; GPC Ar Lein d.g. segynnab, sygynnab. 59 Ei sygynnab J 111 y sygynuab; mae’n aneglur iawn yn LlGC 6680B. Am y cymysgu rhwng u ac n yn J 111, gw. n4(t). Ar darddiad sygynnab a’i ystyr, gw. n94(e). Gwrthodir, felly, awgrym HG Cref 39 a G 247 i ddarllen Ysy gynuab. glew, gloyw roddion,
A folaf, a folant feirddon;
Caraf-i 60 Caraf-i Ar y rhagenw ategol i a gaiff ei eithrio yma o hyd y llinell, gw. n55(t) ar Credaf-i. barch ei harchddiagon,
230 Caradawg95 ei harchddiagon, / Caradawg ‘Clerigwr union islaw esgob o ran ei radd a’i awdurdod’, GPC Ar Lein, sef y nesaf ei awdurdod i esgob Llanelwy yn y cyswllt hwn. Yn y 12g. ymrannodd esgobaeth Llanelwy yn wyth archddiaconiaeth, a daeth Meifod, a fu cyn hynny’n eglwys glas bwysig, yn ganolfan archddiaconiaeth Powys, gw. Thomas 1997: 38; Pearson 2000: 35–56; Stephenson 2016: 55–6 et passim. Enwir gŵr o’r enw Sulien yn dyst i naw o siarteri Ystrad Marchell a luniwyd rhwng 1180 a 1215, ac os yr un yw hwn â’r Suglen filio Caradauc a fu’n dyst clerigol i siartr sylfaenu Ystrad Marchell tua’r flwyddyn 1170, awgrymir yn Thomas 1997: 39 y gall mai’r un yw ei dad â’r Caradog a enwir yn archddiacon yma gan Gynddelw. Awgrymir ymhellach y gall mai’r un yw hwnnw â Charadog ap Gollwyn ap Llawr Grach o Feifod, a enwir yn WG1 ‘Llawr Grach’ 1. Cf. Thomas 1997: 38, ‘archdeacons were nearly all native Welshmen drawn from the ranks of the boneddigion, often belonging to clerical families and holding their office by hereditary succession’; a gw. ymhellach Pearson 2000: 42–3. freiniawg, fraisg roddion,
Cardd olaith, olud 61 olud LlGC 6680B olut; J 111 olud. Mae orgraff arferol y ddwy lawysgrif yn awgrymu ‘(g)oludd’, a rhoddai hynny ystyr dderbyniol petai modd aralleirio ‘un sy’n osgoi cerydd am rwystro gwleddoedd’, ond anodd gweld sut mae’r ystyr ‘am’ yn cael ei chyfleu yma. Gan hynny cymerir mai darllen ‘(g)olud’ sydd orau. Gyda chyfosod golaith a golud yn y llinell hon, cf. yn arbennig GCBM i, 21.29 Py uyt cart oleith, olud angkraỽn? esborthion,
Periglawr porthfawr Powysion.
Delw ydd ŷm yn ddiamryson
Am lugyrn, am gyrn, am geinion, 62 am geinion LlGC 6680B am [ ]y[.]n (a’r am ar ddiwedd llinell ac arwydd // yn dynodi gair wedi ei hollti); J 111 amgeinyon. Ni nodir amgeinion yn GPC Ar Lein fel ffurf luosog amgen, ac felly cymerir mai’r arddodiad am sydd yma yn cael ei ddilyn gan yr enw ceinion ‘y ddiod gyntaf a’r orau a ddygid i’r neuadd’ (ibid. d.g. cain 1).
235Yn undref, undraul wleddolion
Yn undawd, undad96 undad Cymerir mai disgrifio’r brodyr ym Meifod mewn undod o dan yr abad, tad yr eglwys, a wneir; ond gallai tad yn y cyfuniad gyfeirio at Dduw ac efallai fod yr amwysedd yn fwriadol. frodorion,
Can drugar, can wâr weryddon,97 gweryddon Ffurf luosog gwyry(f), a ddefnyddir gan amlaf am ferched, ond gallai hefyd gyfeirio at ddynion sanctaidd, gw. GPC Ar Lein d.g. gwyry 1(a) ac 1(b).
Can derrwyn, 63 derrwyn LlGC 6680B derrwynn; J 111 terỽyn. Dilynir LlGC 6680B o ran y treiglad, ac am y ffurf, gw. n41(t). can dorf engylion, 64 engylion LlGC 6680B egylyon; J 111 eglynnyon. Gwall amlwg yn J 111 gan mai sôn am yr olygfa nefol a wneir.
Can dorfoedd, niferoedd neifion,98 neifion Gair prin, petrus ei ystyr. Dilynir GPC Ar Lein d.g. neifion 1 sy’n rhoi i’r enghraifft hon yr ystyr ‘?nef(oedd); arglwydd(i)’.
240Can fodd Duw, can fod yn wirion:
A’m rhoddwy Gwledig gwleidiadon 65 gwleidiadon Cf. LlGC 6680B gỽleidyadon sy’n awgrymu ‘gwleidiadon’; J 111 gỽleityadon sy’n awgrymu ‘gwleidiaddon’. Mae’r ddwy ffurf yn ddilys, gw. GPC Ar Lein d.g. gwleidiaddon, gwleidiadon, gwleiddiadon; dilynir y llawysgrif hynaf.
Drefred gwlad wared worchorddion! 66 worchorddion LlGC 6680B worchortyon; J 111 worthordyon (lle ceir t am c).


I
Duw hael, cadarnle tangnefedd,
Duw, [dyro i mi] dy amddiffyniad, paid â’m ceryddu yn fy nrygioni,
Duw, a ddaeth i hawliau brenhinoedd [bydol],
gwirionedd trigfan fendigaid teyrnas [nefoedd];
5Duw a fydd yn fy nghyrchu i’m cyfran o anrhydedd
i’w wlad ddisglair, i’w fendith, i’w ogoniant,
mewn llawenydd, mewn heddwch, mewn hedd,
yn hyrwyddo mewn cyfoeth rhwydd.
Ac yn ail rodd, barddoniaeth sy’n rhodd brydyddol,
10anrheg ofalus, canu sy’n blethiad cain
a ganaf i’m harglwydd oherwydd fy mharch arbennig,
man blaenllaw bendith, cyfran o anrhydedd:
Tysilio o filwriaeth ffyrnig,
man diogel nodded, ei hanes yn llawn gwychder.
15Parodd yr arglwydd o’r nifer o nadroedd
wiber fawr, yn llawn rhwysg yn gwibio yn ôl ac ymlaen:
mab Garddun, anrhydeddus ei fawredd,
a’i blentyndod yn diriondeb a haedda foliant,
mab Brochfael, un ac iddo fynwes garedig ac y mae ei awdurdod yn arswyd,
20parodd nefoedd [iddo ei hun] yn nhiroedd Eifionydd.
Teithiodd yn ffortunus i gaethiwed alltudiaeth,
taith gyflawn i ardal ddieithr.
Yn ffortunus cymerodd arno brawf o ddoethineb
gan ennill trugaredd, y wobr bennaf;
25yn ddedwydd y ganed o dylwyth bonheddig
arglwydd mawr sy’n dod â heddwch i wlad fawr;
yn ffodus fe lwyddodd i osgoi gwarth
ac er Duw ymwrthod â gwragedd.
Ymwelodd gwraig enwog, filain ei gormes
30– bu hyn drwy ddrygioni –
ag eglwys fechan yr oedd ei thrysorau’n brin,
eglwys [ ] ym mynwes ei llwyni.
Pobl fydol nad ydynt yn cynnal cyfiawnder,
iawn yw i Dduw leihau eu cyfoeth
35oherwydd gwedd ffals eu buchedd dwyllodrus
a [lleihau hefyd] eu tiriogaeth, a bydd Ef yn eu gwrthod.
Arglwydd haelionus, etifedd i Gadell,
pennaeth cwfaint yn cynnal haelioni,
cynhaliodd y pennaeth gynulliad o wŷr ysblennydd,
40gan gasáu caru creulondeb.
Boed i bawb chwenychu terfyn hawddgar i’w oes
a chymod cyn cerydd am gamweddau.
Caiff fy ngherdd ei mwynhau ym mhen uchaf y neuadd
lle mae gwŷr yr arglwydd yn mwynhau gwledd o win;
45canmolaf eglwys a’r clerigwyr llawn gwychder
ar bwys y fan lle mae Gwyddfarch y tu draw i Wynedd:
man coediog breintiedig ar gyfer [y rhai a laddwyd mewn] lladdfa ddewr,
mynwent anrhydeddus, claddfa brenhinoedd,
dyhead y beirdd, preswylfan poblog,
50helaeth ei gynhaliaeth, diwyd ei wroldeb,
mynachlog freintiedig, llannerch ddymunol,
Meifod sanctaidd: nid dynion llwfr sydd ag awdurdod drosti!

II
Nid oes i drais awdurdod drosti, nid yw gelynion yn ei chyrraedd,
nid yw preswylfod y tri sant yn rhoi teyrnged iddynt.
55Mwy ynddi – croeso ei lletygarwch –
yw ei nodded wych nag unrhyw fwriad amharchus:
gyda’i llan urddasol rhwng ei nentydd ysblennydd,
a’i gwŷr dewr, a’i gwŷr gwych llawn sêl,
a’i heglwys wych amlwg ei braint,
60a’i hurddas gwych a’i rhodd ysblennydd helaeth iawn,
a’i harglwydd gwych yn awr yn nhywyllwch nos,
a’i chôr gwych heb bryder am drais,
a’i hoffeiriad gwych a’i hoffeiriadaeth,
a hyfrydwch ei hofferen ddi-rwystr.
65Gwych yw ei ffon fagl a chlwstwr o rybedau aur arni,
gwych yw ei mynachlog yn erbyn y ffrydlifoedd,
annhebyg i’r blaid a lethir gan bla
yng ngafael llifeiriant a llyffantod
a thân llawn poen, hafan cystudd,
70cors uffern gadarn ei hynafiaeth.
Cyn bod arnaf ofid am yr wyth pla,
wyth prif bechod sydd mor fawr â’r wyth prif lid,
cyn bod arswyd penyd o ddioddefaint,
boed i gynorthwywyr Duw fod yn gyfeillion i mi
75pan fydd pawb, pan fyddaf innau heb henaint
mewn oedran gwych yn ddeng mlwydd ar hugain:
pan ddaw barn o flaen y saint aruchel,
boed i’r Creawdwr roi i mi faddeuant!
Minnau, cyn i mi beidio â bod yn abl,
80Cynddelw wyf, canaf fawl drwy fraint,
rwyf wedi canu cerdd newydd i’m harglwydd,
ysbrydoliaeth wych gydag awel y wawr.

III
Rhoddir i mi anrhydeddau’r gwasanaethau plygain,
rhodd hael a doeth, cenir yn rhugl a gwych:
85cyfansoddir canu ar gyfer arweinydd Prydain,
bydd yn cael ei barchu drwy ystyriaeth gywrain.
Hardd yw Meifod a’r tir sy’n ei hamgylchynu,
ardal hardd yn wyneb Elfed greulon;
hardd yw ei heglwys yng ngolau ei chanhwyllau disglair,
90hardd yw ei chymuned a’i chyrn yfed glas disglair a thal;
credir ym mendithion gwych yr Arglwydd,
pwy bynnag sy’n credu ynddynt, credwch na thwyllir!
Traethaf na ellir peri tranc Duw,
dygir cyrch enbyd a maith ac am amser hir
95ar y sawl sy’n ymweld â hi [h.y. Meifod] drwy drais,
credaf y rhoddir ataliad arno.
Colledigaeth barhaol niweidiol ac arswydus,
twyllodrus y gelwir y byd presennol brau,
pobl fydol yn ein pechod y’n gelwir ni,
100pawb ohonom, am ein drygioni y’n cosbir ni.
Y sawl a wna gymod (bydd yn cael ei foli’n hael)
a fydd yn rhydd ar y dydd y caiff ei farnu;
y sawl a fo’n garedig, caiff ei noddi’n eglur,
bydd golwg Duw yn disgyn arno;
105y sawl a fo’n addfwyn wrth rai addfwyn, wrth rai ffyddlon a chywir,
sonnir amdano yn faith yn ôl dull doethineb;
y sawl a fo’n hael, cyrchir ef i lawenydd,
a’r sawl a fo’n ddisglair, rhoddir iddo loches;
y sawl a fo’n fonheddig, yn well y caiff ef ei fodloni
110na’r sawl sy’n greulon ac yn ddiegwyddor!

IV
Dyn gorchfygol a fydd yn dy groesawu di,
bydd yn enwog, fel y mae eiriolaeth [Meifod],
draig clod, amddiffynnwr dreigiau,
creulon ei lid, preswylfan cyrn yfed medd:
115Tysilio sy’n cyffroi brenhinoedd,
lleiddiad ffyrnig mewn brwydr, un sy’n cynnal torf.
Pan aeth arwr, gormes tanbaid,
i frwydr Cogwy, gan hyrddio byddin lidiog,
pan ddygwyd cyrch ar rwydwr ffyrnig [y gelyn] a’i erlyn
120mewn brwydr wrth ymosod ar fintai,
gan orchfygu mewn cynnwrf llawn ysbail
ar ddydd brwydr gyda tharian gron mewn ymosodiad,
gwrthdaro’n chwim mewn amddiffynfa,
ym mhreswylfan cigfran gwaedlyd ei diod,
125yng ngorfoledd gwych penaethiaid
yn ninistr llwyr amddiffynnwr cadarn a dyfal,
mewn gwrthdrawiad rhwng Powys, cenedl benderfynol,
ac Oswallt fab Oswi Aelwyn,
yn ceisio creu helynt alaethus,
130– roedd y galaru yn sgil [brwydr] Canfryn yn argoel werthfawr [i Bowys] –
yn ymosod yn rhyfeddol mewn brwydr,
dinistrio grymus wrth floedd milwyr,
mewn ymladd rhwng seirff roedd yn sarff penaethiaid,
safodd ef ei dir, boed i Dduw sefyll gyda ni!

V
135Bu yn ei enciliad drwy gydsyniad Duw,
pennaeth ar diriogaeth, ar wlad doreithiog:
tiriogaeth wych yr euthum iddi ar gyfrif ei phennaeth,
gwastadeddau Môn a meillion ar hyd ei phentiroedd.
Tysilio, trawstbren brenhinoedd,
140cadarnle di-fai teyrnas,
bardd brenhinol, pennaeth ysblennydd a gwych,
sy’n canu barddoniaeth frenhinol ar gyfer ŵyr brenhinol Cyngen.
Bu’n fuddugol yn ymdrech y terfyn,
[gan dderbyn] croeso’r saint cyn glas dywarchen [y bedd],
145cymanfa cerdd, cyfeillgarwch gwych,
trigfan fendigedig heb gasineb, heb gynnen.
Eglwys a luniodd â’i law addfwyn,
eglwys lampau, mynachlog ar gyfer offeren,
eglwys y tu hwnt i’r weilgi, y tu hwnt i orchudd gwyrddlas y môr,
150eglwys y tu hwnt i’r llanw, y tu hwnt i lys Dinorben,
eglwys Llydaw, yn ddymuniad gan lu,
eglwys Pengwern, y wlad aruchaf,
eglwys Powys, paradwys bur a sanctaidd
eglwys Camarch, parch llawn awdurdod i berchennog.

VI
155Arglwydd cysegrfan, amddiffynnwr llu barddol,
gwasgarwr rhodd, tanbaid a fflamychol ei ddicter,
ei gynddaredd fel mellten, ei foliant yn disgleirio’n aruchel,
anrhydeddiad mewn cerdd fawl ar gyfer gŵr anrhydeddus enwog;
Meifod hardd, mynachlog brydferth iawn,
160man cysegredig sy’n ymestyn yn eang ac sy’n amgylchynu mynwent boneddigion.
Golygfa hardd i’m gŵr eiddgar anturus,
ni welir yr hyn a welodd ef hyd Ddydd y Farn:
dinas Rhufain, golygfa ryfeddol,
dinas aruchel, y mwyaf ardderchog ei harferion.
165Dinas eang, eofn ei thrigolion,
nid yw ei phobl yn canlyn pechod;
dinas ddisglair, dinas dragwyddol na ellir ei dinistrio,
dinas amlwg o bell ac o breswylfan enwog ei glod:
dinas anrhydeddus, sydd wastad yn barod [i dderbyn ymwelwyr],
170a grëwyd ar gyfer pererindod.

VII
Pennaeth cwpanau Cymun, carodd
yn llwyr deyrnged, ffydd a defosiwn;
cyffeswr pobl ofnus Gwynedd,
gwynfyd bendigaid, un tra theg ei wedd a phur:
175mae barddoniaeth beraidd o natur deg yn para,
moliant teg i gynheiliad gwesteion.
Pennaeth cyfraith, yn rhwydd y’n dyrchafa ni,
mae wedi ein harwain i deyrnas Duw, i ddedwyddwch:
perffaith fydd hynny i’r prydydd sy’n llunio
180cerdd ddisglair gyda gofal difrifddwys.
Diwahardd yw ei lawenydd i fardd,
amddiffynnwr diysgog, gwarchodwr sy’n noddfa i gaer;
amddiffynnodd yr un hael ddisgynyddion Brochfael diogel eu bro,
un a’i naid fel fflam, angerddol ei ddewrder.
185Cyflawnodd wyrth na chyflawnir mohoni eto am amser maith,
na chyflawnwyd erioed yn oes y byd:
o’i law parodd i ffagl danllyd
dyfu a dail ar ei hyd.
Gwyrth arall, buddiol ei chanlyniad,
190wyneb mewn praidd, bu’n daer, bu’n ddychrynllyd,
praidd yn ddolefus mewn digalondid wrth ddilyn ei natur,
mewn caethiwed yn y ddaear, mewn ŷd!
Cynheiliad Powys, pennaeth cadernid,
gwarchodwr pobl, arglwydd di-ofn;
195noddfa cyfoeth, dioddefodd o’i febyd
benyd yn ardal Penmynydd!

VIII
Penydiwr mwyaf aruchel ei ddefosiwn
a gredodd yn Nuw, Arglwydd Frenin;
bydded i bawb gredu yn Nhywysog lluoedd,
200lluosog yw ei fendith i’r gwynfydedig.
Credaf mewn daioni na fydd yn dinistrio, na fydd yn darfod,
na fydd yn methu heblaw am i berson di-ffydd;
credaf fi yn fy Arglwydd, fy Llywodraethwr,
fy Rheolwr, Creawdwr, Arglwydd Cred;
205credaf mewn gweddi ac yn fy Nuw a fydd yn caniatáu i mi
ymgynnull yn ddedwydd ym mintai fawr y gorfoledd [ar Ddydd y Farn];
credaf i yng Nghynheiliad gwastad garedig y byd hwn
a’m creodd o’r pedwar sylwedd;
credaf ym Mrenin nef ar y ddaear
210a’m gwnaeth o fardd cyffredin yn brydydd!

IX
Prydydd wyf o flaen milwyr Prydain,
priod ŵr barddoniaeth, pennaeth prydyddion.
Arglwydd sy’n rhoi i mi feirch gleision gwych
o liw gleisiaid, rhai glas wedi eu pesgi mewn stabl,
215– fy nyfarniad i yw cymaint yw gwrhydri’r gŵr bonheddig! –
fel y rhoes uchel frenin y boneddigion
feirch i fwydo ar geirch mewn stablau,
rhai sy’n teithio ymhell, rhai nerthol yn cydredeg yn wych.
Ym Meifod y mae argoelion
220arwrol ar gyfer Brython dewr:
ei gwledd fawr, ei medd, ei phobl,
ei theyrngedau ar gyfer y rhai sy’n traethu amdani.
Bydd ei dau drysor, cyfeillion trefnus,
yn codi’n wŷr grymus:
225mae ei phennaeth yn hanfod o’i thiriogaeth
sydd yn rhydd rhwng ei dwy afon;
ei phrior gwrol, disglair ei roddion,
a folaf, ac mae’r beirdd yn ei foli;
caraf i barch ei harchddiacon,
230Caradog breintiedig mawr ei roddion,
un sy’n osgoi gwarth, [darparwr] cyfoeth mewn gwleddoedd,
offeiriad mawr ei gynhaliaeth pobl Powys.
Fel yr ydym yn ddigweryl
o gwmpas lampau, o gwmpas cyrn yfed, o gwmpas diod anrhydeddus,
235yn loddestwyr o’r un drigfan yn mwynhau’r un gynhaliaeth,
mewn undod, yn frodyr o’r un tad,
yng nghwmni gwyryfon trugarog ac addfwyn,
yng nghwmni tyrfa ddisglair o angylion,
yng nghwmni torfoedd, niferoedd y nef,
240yn unol ag ewyllys Duw, drwy fod yn ddibechod:
boed i Frenin y brenhinoedd roi i mi
breswylfan yng ngwlad lluoedd y waredigaeth!

1 dinag, dinas Yn G 360 awgrymir treiglo ansoddair yn dilyn Duw (felly Duw ddinag, ddinas ); ond fel y nodir yn TC 119, trinnir Duw yn aml fel enw cyffredin yn y cyfnod canol.

2 Duw doeth Dilynir G 413 gan ddeall doeth yn ffurf trydydd unigol gorffennol dyfod; gthg. GCBM i, 3.3 lle y’i deellir yn ansoddair. Cyfeirio a wneir yn llau. 3–4 at ddyfodiad Duw o’r nefoedd, fel Crist, i drigo ymhlith brenhinoedd y ddaear.

3 eilrodd, eilrodd Cymerir bod i eil- rym y trefnol ‘ail’ yn yr eilrodd cyntaf, a’i fod yn golygu ‘plethiad’ yn yr ail, sef yr un elfen ag a geir ym môn y ferf adeiliaw, ac a ddefnyddir yn ffigurol yng nghyswllt cyfansoddi cerdd, gw. GPC Ar Lein d.g. ail 2 a cf. ll. 10 eildeg ‘plethiad cain’. Yr ail rodd y mae Cynddelw yn ei chyflwyno, ar ôl moli Duw (llau. 5–8), yw ei blethiad barddonol i’w rwyf, Tysilio (ll. 13).

4 cyhydedd Ei ystyr sylfaenol yw ‘cysondeb, cyfartalrwydd’ ac fe’i ceir yn yr hen ganu gyda tryganedd (ll. 10); gw. G 228; GPC Ar Lein a cf. PTal 58, ‘It is obvious that tryganedd and cyhydedd were synonyms for some kind of song’; hefyd, GMB 2.18 Gvaud tryganet, gvaud kyhidet ‘cysondeb moliant, rheol moliant’.

5 Peris nêr o’r nifer nadredd / Praff wiber … Ai at eni Tysilio y cyfeirir yn llau. 15–16? Gw. n54(e) am y defnydd o sarff fel epithet gan deulu brenhinol cynnar Powys. Os Tysilio yw’r wiber yma, gellid deall y cwpled yn ddisgrifiad o’i ragoriaeth ymysg ei frodyr, y nadredd llai. Byddai’r dehongliad hwn yn cysylltu’r cwpled yn thematig â’r pedair llinell ganlynol sy’n enwi rhieni Tysilio. Ond mae hefyd yn bosibl mai cyfeirio a wna Cynddelw at wyrth a gyflawnodd Tysilio, un debyg, o bosibl, i’r wyrth ganlynol a gofnodir yn fersiwn Albert le Grand o fuchedd Suliau: Le Grand 1837: 484–5, L’heureux Prélat S. Samson, visitant son Diocese, se divertit expressément pour venir voir S. Suliau, lequel le reçcut dans son Monastere & l’y logea trois jours, le traittant, à l’ordinaire du Monastere, de pain, legumes & laitages. Il y avoit, en la compagnie du S. Archevêque, un certain delicat lequel, ne trouvant bon le pain du Monastere, cacha sa portion dans son sein, laquelle incontinent, fut convertie en un serpent, qui luy ceignit le corps (‘Pan oedd yn ymweld â’i esgobaeth, cymerodd y bendigaid brelad Sant Samson ddargyfeiriad er mwyn ymweld â Sant Suliau, a’i derbyniodd i’w fynachlog gan roi llety iddo am dridiau a’i fwydo ar luniaeth arferol y fynachlog, sef bara, llysiau a chynnyrch llaeth. Yng nghwmni’r archesgob roedd person braidd yn wanllyd nad oedd yn hoffi bara’r fynachlog ac a guddiodd ei gyfran ef ohono yn ei fynwes, a thrawsffurfiodd [y bara] ar ei union yn neidr a ffurfiodd gylch o gwmpas ei gorff’’; gw. SoC, v, 110 am gyfieithiad Saesneg).

6 Garddun Garddun Benasgell, merch Pabo Post Prydain a mam Tysilio. Arddun yw’r ffurf ar ei henw yn ‘Bonedd y Saint’ (gw. EWGT 59; WCD 21) a hefyd gan Hywel Dafi wrth ddisgrifio Lleucu, gwraig ei noddwr, GHDafi 8.24 Arddun ei hun ydyw hi. Mae’r gytafebiaeth gynganeddol ag ardduniant hefyd o blaid darllen Arddun yn awdl Cynddelw, er gwaethaf darlleniad y llawysgrif yma, cf. G 521. Ymhellach ar Arddun, gw. LBS i, 167–8 lle awgrymir mai hi a goffeir yn yr enw lle Dolarddun , trefgordd ym mhlwyf Castell Caereinion, ychydig i’r de-ddwyrain o Feifod, heb fod ymhell o Lannerchfrochwel, gw. WATU 59.

7 Brochfael Brochfael Ysgithrog, tywysog Powys a thad Tysilio, gw. EWGT 59 a WCD 60; cf. hefyd n6(e) ar Garddun. Cysylltir Brochfael â Phowys isod ll. 183, ac eto gan Gynddelw mewn cerdd i Owain ap Madog ap Maredudd, GCBM i, 15.14 Gwlad Urochfael Ysgithraỽc ac i Owain Cyfeiliog, ibid. 16.232 Powys wenn, ỽlad Urochuael. Am y canu a gysylltir â Thaliesin i Gynan Garwyn, mab arall Brochfael, gw. Haycock 2007: 279–80 d.g. rac Brochuael Powys. Yn ogystal â Llannerchfrochwel ger Meifod, gw. n6(e), ceir Brochwel yn elfen mewn enwau lleoedd ym Môn, a siroedd Dinbych a Meirionnydd, gw. ArchifMR, ond nid oes modd gwybod ai at yr un Brochfael y cyfeirir bob tro yn yr enwau hynny (cf. n83(e) ar Pen Mynydd).

8 nef yn Eifionydd Ar leoliad cwmwd Eifionydd, gw. WATU 65, 266. Lluniai rhan o blwyf Beddgelert ffin ogleddol Eifionydd, ac os yw’n gywir fod Llan Llydaw, n64(e), i’w chysylltu â hen eglwys glas Geltaidd ym Meddgelert, efallai mai cyfeirio a wna Cynddelw yma at dymor y sant yn yr ardal honno. Ond ni ddaethpwyd o hyd i dystiolaeth bellach i’w gysylltu â’r ardal. Cyfeiria’r beirdd yn aml at fynachlog neu eglwys fel ‘nefoedd’, cf. disgrifiad Gwynfardd Brycheiniog o eglwys Brefi, DewiGB ll. 247 Nefoedd i gadau o’u hanoddau; a disgrifiad Ieuan ap Rhydderch o Fynyw, DewiIRh ll. 71 Rhyw dud nef. Ond tybed a oes arwyddocâd pellach i’r cyfeiriad hwn at nefoedd yng Nghanu Tysilio? Ym muchedd Suliau gan Albert le Grand (a oedd, fel y gwelwyd yn y Rhagymadrodd, yn seiliedig ar ddeunydd hagiograffydol am Dysilio a aeth o Gymru i Lydaw), dywedir i’r sant fyw une vie plus Angelique qu’humaine (‘buchedd fwy angylaidd na meidriol’) yn ystod ei alltudiaeth o Feifod (Le Grand 1837: 482–3). Eto i gyd, ceir dehongliad mwy llythrennol o gorpu nef yn Jones and Owen 2003: 59n sy’n cymryd mai cyfeirio at Eifionydd fel lleoliad ei farwolaeth a wneir. Am drafodaeth bellach, gw. y Rhagymadrodd.

9 Ymddengys y llinell hon yn rhy hir o sillaf ar bapur, ond cywasgai’n naturiol ar lafar, Gorpu nef ’n Eifionydd dudedd.

10 Yn llau. 21–2 cyfeirir at daith Tysilio i alltudiaeth. Efallai y gellid cysylltu’r daith hon â’r cyfeiriad at Eifionydd (ll. 20), ond ym muchedd Lydewig Suliau a gofnodwyd gan Albert le Grand (buchedd a seiliwyd, fel y gwelir yn y nodyn cefndir, ar ddefnyddiau a darddai yn y pen draw o fuchedd goll Tysilio a ddaethai o Gymru), cyfeirir at ddau achlysur pan fu’n rhaid i Suliau ddianc i alltudiaeth. Y tro cyntaf, treuliodd saith mlynedd mewn priordy yn gysylltiedig â Meifod ar Ynys Sulio ar y Fenai, er mwyn dianc rhag ei dad, Brochfael Ysgithrog, gan y credai y byddai hwnnw’n ei orfodi i adael ei fywyd fel crefyddwr (Le Grand 1837: 482; SoC, v, 107–8). Yr eildro, bu’n rhaid i Suliau ddianc rhag gweddw ei frawd, Jacob, ar ôl iddi droi’n gas tuag ato am iddo wrthod ei phriodi. Gan ei bod hi’n bygwth gwneud drwg yn benodol i’r gymuned ym Meifod, penderfynodd Suliau y byddai’n well iddo adael am gyfnod (Le Grand 1837: 483–4; SoC, v, 109). Dihangodd unwaith eto i Ynys Sulio, ond parhâi ei chwaer yng nghyfraith i’w fygwth ac felly penderfynodd ymalltudio i Lydaw, gan ymsefydlu ar aber afon Rance ger Saint-Malo. Yn ôl buchedd arall o Lydaw, a gysylltir y tro hwn â Sulian ac a gofnodwyd gan Dom Lobineau yn y 18g., dihangodd y sant i Buelt rhag dynes annifyr o’r enw Haiarme (ni ddisgrifir hi y tro hwn fel chwaer yng nghyfraith), gan adeiladu eglwys a mynachlog yno: gw. SoC, v, 112, a gw. n67(e) ar llan Gamarch.

11 mad ganed Disgwylid mad aned o ddilyn patrwm Mad gyrchawdd a Mad gymerth y ddau gwpled blaenorol, ond mae’r cytseinedd o blaid y ffurf gysefin ganed yma, cf. ll. 27 Mad gorau. Dichon y gellid esbonio’r ddwy arfer wahanol drwy gymryd bod i mad fwy o arlliw adferfol yn y llinell hon (ac yn ll. 27): ‘yn dda (y) ganed’, yn hytrach na’i fod yn llunio cyfansoddair gyda’r ferf.

12 tyllyedd Gair ansicr ei ystyr a’i ffurf, gw. n6(t).

13 maddau marthöedd Ar maddau ‘gollwng, … rhoddi’r gorau i (rywbeth), ymwrthod’, c., gw. GPC Ar Lein. Mae marthöedd yn unig enghraifft a phrofir y terfyniad deusill -öedd gan y brifodl. Yn betrus iawn cynigir mai ffurf, lluosog o bosibl, ar marth sydd yma, cyfystyr â Chernyweg a Llydaweg Canol marzh ‘rhyfeddod’. Mae gan y gair Cymraeg, marth, gynodiadau mwy negyddol yn ôl tystiolaeth GPC Ar Lein lle y’i diffinnir fel ‘tristwch, gofid, ?rhyfeddod neu syndod poenus, braw; ?mefl, gwarth’. Deellir y cwpled (llau. 27–8) yn ddisgrifiad o ymdrech Tysilio i osgoi (maddau) y ‘gwarth’ a achosid iddo gan y chwaer yng nghyfraith gas.

14 gwraig enwawg Cyfeirir, yn ôl pob tebyg, at chwaer yng nghyfraith Tysilio a’i herlidiodd pan wrthododd ei phriodi ar ôl marwolaeth ei gŵr: gw. n10(e), lle gwelir mai Haiarme (= ?Haearnwedd) oedd enw’r erlidwraig yn ôl un ffynhonnell Lydewig.

15 a’i treiddwys Deellir llau. 29–32 yn uned ystyr, a’r rhagenw mewnol trydydd unigol ’i yma’n cyfeirio ymlaen at wrthrych y ferf, llan fechan, yn ll. 31.

16 llan fechan Deellir hwn yn ddisgrifiad o eglwys fechan Tysilio yn Llandysilio, ar y Fenai, lle dihangodd y sant, yn ôl y fuchedd Lydewig, yn gyntaf rhag ei dad, Brochfael, ac yna’r eilwaith rhag ei chwaer yng nghyfraith ddichellgar, gw. n10(e); dichon fod yr eglwys hon yn un a’i ‘thlysau yn brin’, mewn gwrthgyferbyniad ag eglwys Meifod neu o bosibl mewn gwrthgyferbyniad â’r llys brenhinol llawn cyfoeth y magwyd Tysilio ynddo. Ond ni ellir diystyru’n llwyr awgrym Ellis 1935: 154 i’w ddeall yn ffurf amrywiol ar yr enw Llanfechain, plwyf i’r gogledd o Feifod; cf. y ffurfiau yn ArchifMR dan Llanfechain. Nawddsant eglwys Llanfechain oedd Garmon, sant arall ac iddo gysylltiad arbennig â Phowys, cf. n7(t) (lle awgrymir mai Llan Armon a geir ar ddechrau’r llinell nesaf), a gw. HW 245n88; Richards 1970–1: 335.

17 Dehonglir llau. 33–6 yn ddisgrifiad o’r bobl hynny (fel y wraig gas, ll. 29) y mae Duw yn eu gwrthod (gomedd). O ran y gystrawen, cysylltir llau. 34 a 36 (Iawn i Dduw ddifanw eu rheufedd A’u gweryd). Dehonglir ar (ll. 35) fel arddodiad yn golygu ‘o ganlyniad i, ar gyfrif, oherwydd; ar sail’, gw. GPC Ar Lein d.g. ar 1 (6), a dilynir J 111 a chymryd (g)eubryd yn air cyfansawdd. (Fe’i holltir yn HG Cref 33 er mwyn sicrhau bod y cytseinedd br/d yn syrthio o gwmpas yr acen fel yn bradawg: eu brýd brádawg.)

18 Cadell etifedd Yn ôl yr achau roedd Cadell Ddyrnllug, un o sylfaenwyr traddodiadol llinach frenhinol Powys, yn hen daid i Dysilio: gw. EWGT 59, 107; WCD 73 a’r cyfeiriadau yn GCBM i, 3.37n. Parhaodd llinach Cadell, a adwaenid fel y Cadelling, hyd at farwolaeth Cyngen ap Cadell c.850, ond parhaodd y cof amdani fel llinach frenhinol Powys ymhell wedi hynny: cf. disgrifiad Gwalchmai o fryn ym Mhowys fel [C]adellig ure uro Dyssiliaw, GMB 9.130n. Sonia Cynddelw am y llinach hefyd yn ‘Gwelygorddau Powys’, cerdd sy’n awgrymu bod rhai ymysg uchelwyr Powys yn y 12g. yn parhau i honni eu bod yn disgyn o’r llinach. Disgrifir ail welygordd Powys yno fel Bleinnyeid reid kunyeid Cadellig, GCBM i, 10.28. Gw. n48(e) ar Gwaith Cogwy.

19 cadw haelonedd Ar y defnydd arbennig hwn o cadw yn yr ystyr o ‘gynnal, gwarchod’ haelioni, cf. GDB 3.17 haelonaeth a geidw; GBF 23.16 Gỽr cadwent, kedwis haeloni.

20 draig dragon Geiriau a geir fynychaf yn y canu am bennaeth milwrol ac am filwyr, ond cymerir mai disgrifio Tysilio a’i fynaich a wneir yma, o bosibl fel milwyr yn ymladd yn erbyn drygioni neu creulonedd, ll. 40.

21 cerennydd ‘Cyfeillgarwch, cariad, cymod’, c., GPC Ar Lein d.g. carennydd; cyfeiria yma at gymod â Duw ar derfyn oes (ll. 41 diwedd) cyn yr amser y daw cerydd am bechod (cyn cerydd caredd) i’r sawl nad yw mewn cymod â Duw: cf. GMB 23.25–6 Kymhennaf y dyn kynn y diwed / Kymodi a Duỽ kyn mut y med.

22 cyntedd ‘Rhan anrhydeddusaf y neuadd yn yr Oesoedd Canol, sef y rhan lle’r eisteddai’r brenin’, GPC Ar Lein. Soniai’r beirdd yn fynych am ddatgan eu cerddi ac am dderbyn medd yn y cyntedd: meddai Cynddelw mewn cerdd i Hywel ab Owain Gwynedd, GCBM ii, 6.238–9 Rydyrllid uyg kert yg keinyon o uet / Yg kyntet Teyrnon.

23 llên Sef gwŷr llên neu glerigwyr Meifod; cf. DewiGB llau. 67–8 Gwelaf i wir yn llwyr a llewenydd mawr / A llên uch allawr heb allu clwyf.

24 Gwyddfarch Sylfaenydd y gyntaf o’r tair eglwys ym Meifod: gw. ‘Eglwys Gwyddfarch’, yn Thomas 1908–13: i, 496–7; hefyd Coflein dan St Tysilio and St Mary’s Church, Meifod, ‘The site is believed to have become a Christian foundation c.550, dedicated first to St. Gwyddfarch, and later to St. Tysilio. The remains of this early church were still visible in the eighteenth century, but little trace remains today. A second church was built in the twelfth century by Madoc Maredudd, whose remains are believed to be buried within the grounds; much of the fabric of this building remains today.’ Cysylltir Gwyddfarch hefyd â Gallt yr Ancr ger Meifod, ibid. 493, lle ceid unwaith lecyn o’r enw Gwely Gwyddfarch. Yn ôl buchedd Lydewig Suliau, roedd Gwyddfarch (Guymarcus) yn abad ar fynachlog a sefydlwyd gan dywysogion Powys ym Meifod, ac ato ef yr aeth Suliau yn llanc ifanc pan benderfynodd ymwrthod â bywyd y milwr a dilyn gyrfa fel mynach: gw. Le Grand 1837: 481–2; SoC, v, 106–7. Am ei ach, gw. EWGT 60 Gỽyduarch yMeiuot m. Amalrus tywyssawc y Pwyl.

25 uch Gwynedd ‘Y tu hwnt i’ yw ystyr uch yma, yn ôl pob tebyg, gw. GPC Ar Lein d.g. uch 1, a cf. Richards 1964–5: 9–18 sy’n dangos mai ‘on the other side’ oedd grym gwreiddiol yr arddodiad u(w)ch mewn enwau lleoedd, tra dynodai is leoliad canolfan lywodraethol neu caput cantref neu gwmwd. Mae’r cyfeiriad hwn at uch Gwynedd, meddir yn Jones and Owen 2003: 59–60, yn lleoli ‘“Canu Tysilio”, not in the court of the prince of Powys sometime during the reign of Madog, … but in Gwynedd, probably in the last decade of the reign of Owain Gwynedd who died in 1170’. Gwrthodir yr awgrym hwnnw a dehonglir y cyfeiriad yn hytrach yng nghyd-destun y disgrifiad cynharach yn y caniad hwn o Dysilio yn ffoi i Wynedd er mwyn osgoi ei chwaer yng nghyfraith ddichellgar. Ar ôl disgrifio’r eglwys yno ar y Fenai (ond heb ei henwi, gw. yn arbennig lau. 29–32 a n16(e)), neilltua Cynddelw ddiwedd y caniad i ddisgrifio Meifod sydd ‘y tu hwnt i Wynedd’. Trafodir y llinell hon ymhellach yn y Rhagymadrodd.

26 tachwedd ‘Lladdfa, hefyd yn ffig.’ yw’r ystyr a roddir yn GPC Ar Lein, ac yn betrus cymerir mai moli mynwent Meifod a wneir yn y llinell hon, fel man claddu’r rhai a ddisgynnodd mewn ‘lladdfa ddewr’.

27 gwyddfa brenhinedd Dywedir ym Mrut y Tywysogion mai ym mynwent eglwys Tysilio ym Meifod y claddwyd Madog ap Maredudd, tywysog Powys, yn 1160: BT (RB) 140: Ac yMeivot, yn y lle yd oed y wydua, yn eglwys Tissilyaw sant y cladwyt yn enrydedus. Yn anffodus ni wyddys ym mha le y claddwyd tad Madog, Maredudd ap Bleddyn, yn 1132 (ibid. 112), ond gwyddys mai yn Ystrad Marchell y claddwyd Owain Cyfeiliog a thywysogion eraill o Bowys erbyn diwedd y ganrif.

28 trisaint Y tri sant a gysylltir â Meifod, sef Gwyddfarch, Tysilio a Mair. Cysegrwyd yr eglwys i Fair yn 1155, gw. BT (RB) 132–5, felly canwyd y gerdd hon ar ôl hynny. Dadleuwyd yn Roberts 1956–8: 183 mai Sulien, nid Mair, oedd y trydydd sant; ond dangoswyd yn Richards 1965: 32 mai ffurfiau amrywiol ar enw’r un sant yw Sulien a Tysilio, a’r olaf yn cynnwys y rhagddodiad hypocoristig ty- a’r terfyniad -io a gysylltir ag enwau saint (cf. Teilo).

29 balchradd Gellid hefyd ddeall yr ail elfen yn y cyfuniad, gradd, fel ‘urdd, dosbarth (o angylion, gwŷr eglwysig, bonedd, c.)’, yn gyfeiriad at y mynaich ym Meifod, gw. GPC Ar Lein.

30 echwraint ‘Distryw’ neu ‘drais’, gan ddilyn G 436; gthg. GPC Ar Lein sy’n rhoi i’r enghraifft hon yr ystyr ‘amddiffyn, nawdd, achles’. Moli diogelwch yr eglwys yng nghefn trymedd nos a wneir.

31 rhag Molir yma adeilad eglwys (llog) Meifod sy’n ddiogel rhag llifogydd o’r sianeli dŵr gerllaw (soniwyd eisoes am leoliad yr eglwys rhwng ei nentydd yn ll. 57). Mewn gwrthgyferbyniad, disgrifir yn llau. 67–70 y garfan (plaid) wan a fethodd rwystro uffern rhag cael ei llethu gan amrywiol blâu, llifogydd a thân. Ar ystod ystyron rhag, gw. GPC Ar Lein.

32 pryfed llyffaint Dehonglir y cyfuniad i olygu ‘llyffantod’ yn syml. Ar pryf am anifail gwyllt bychan yn gyffredinol, gw. GPC Ar Lein d.g. pryf 1 (f). Roedd llyffantod, fel nadroedd, yn breswylwyr cyffredin yn uffern, e.e. sonnir yn LlDC 7.29 am ei llyffeint a nadret.

33 wyth prifwyd Enwodd John Cassian (m. 435) wyth pechod marwol, ond erbyn cyfnod y Tywysogion, ymddengys mai saith oedd y rhif arferol: gw. Capps 2000: 11–12. Er hynny ceir nifer o gyfeiriadau at wyth ohonynt gan feirdd y 12g., cf. GMB 14.46, 24.36.

34 dengmlwydd ar hugaint Am y syniad fod pawb yn ddeng mlynedd ar hugain oed pan gaent eu hatgyfodi, sef oedran Crist pan groeshoeliwyd ef, cf. Elidir Sais, wrth gyfeirio at ddiwedd oes, GMB 19.13–14 Ys bwyf yn oed dyn dengmlwydd ar hugain / Rhag deulin fy Arglwydd; ac yntau Siôn Cent, IGE 274.3–4 Pawb yn ddengmlwydd, arwydd Iôr, / Ar hugain heb ddim rhagor.

35 cyn minnau, cyn ni bwyf … Cystrawen braidd yn annisgwyl, ond cymerir mai dull rhethregol i bwysleisio goddrych y ferf sydd yma. Cf. y modd yr ailadroddir can yn llau. 237–8 Can drugar, can wâr weryddon, / Can derrwyn, can dorf engylion.

36 cynhelwaf Am ystyr y ferf yng nghyswllt canu bardd i’w noddwr, cf. DewiGB ll. 4n (esboniadol) ar cynnelw.

37 rhygaint Ffurf hynafol cyntaf unigol gorffennol y ferf rhyganu; ar caint ‘cenais’, gw. GMW 124; G 109; a cf. DewiGB ll. 6 hynny dygaint. Gan nad yw’r orgraff yn gwahaniaethu rhwng rh- a r-, anodd gwybod a ddylai’r ferf dreiglo yma. Mae’r cytseinedd gyda rhebydd yn ffafrio rhygaint, ac mae digon o enghreifftiau yn y farddoniaeth o’r drefn gystrawennol gwrthrych + berf gysefin, heb ragenw perthynol yn eu cysylltu, cf. GMW 181; ac ymhellach ar y geiryn rhagferfol rhy-, gw. ibid. 166–8.

38 Cain awen gan awel bylgaint Cf. yn arbennig gais Gwynfardd Brycheiniog ar ddechrau Canu i Ddewi: DewiGB llau. 1–2 A’m rhoddo Dofydd (dedwydd dewaint) / Awen gan awel pan ddêl pylgaint, a gw. DewiGB ll. 2n (esboniadol) am ystyr a ffurf pylgeint a all gyfeirio at wasanaeth neu weddi foreol yn ogystal â’r wawr; awgrymir yno y gall fod Gwynfardd yn adleisio’r llinell hon gan Gynddelw.

39 pylgeinau Ar pylgain, ffurf gynharach ar plygain, gw. DewiGB ll. 2n (esboniadol). Ai’r awgrym yn y cwpled hwn yw fod Cynddelw wedi derbyn anrhydedd drwy gyfrannu i’r gwasanaeth ei hun (rhwyddgadr yd genir) – ai i gyd-destun o’r fath y perthyn ei ganu i Dduw (GCBM ii, cerddi 16–17)?

40 draig Brydain Ai Tysilio, y disgrifir ei lwyddiant fel pennaeth milwrol ym Mhowys y 7g. yn y caniad nesaf?

41 Elfed Teyrnas yn yr Hen Ogledd sy’n cyfateb i dde-orllewin swydd Efrog, ac a gofir mewn enwau lleoedd cyfoes yn y ffurf Elmet, e.e. Barwick in Elmet: gw. Koch 2006: ii.670–1, lle gwelir o’r map fod Elfed yn ffinio yn y de â thiriogaeth Mercia. Cysylltir y cyfeiriad hwn at dylwyth gelyniaethus Elfed yn HG Cref 180 ag ymgyrch Powys a Mercia yn erbyn Oswallt, brenin Northumbria, a ddaeth i ben ym mrwydr Cogwy, gw. llau. 117–18, 127–8.

42 trwydoll Ffurf fenywaidd yr ansoddair trwydwll, amrywiad ar trydwll ‘llawn tyllau … drylliog’, gw. GPC Ar Lein d.g. trydwll. Fe’i deellir yn ddisgrifiad o’r cyrch effeithiol a ddygid ar y sawl a feiddiai ymosod ar Feifod trwy drais (trwy ddir, ll. 94). Thema gyffredin wrth foli eglwys sant yw honni bod y sefydliad yn gwbl ddiogel rhag trais o’r tu allan, a hynny oherwydd gwarchodaeth effeithiol y sant drosti; cf. y disgrifiad o eglwys Cadfan yn Nhywyn fel Myn na llefais trais trasglwy fyned, CadfanLlF ll. 18.

43 rhymolir Gan ddilyn patrwm ll. 107 llawen rhygyrchir a ll. 108 a fo llachar, rhyllochir, cymerir bod gwrthrych rhymolir yn ddealledig, ac fe’i mynegir wrth aralleirio. Yn gyffredinol (ond nid yn ddieithriad) yng nghanu Cynddelw, treiglir p, t, c yn feddal ar ôl rhy-, gan gadw cysefin y cytseiniaid eraill. Ond gellid darllen rhy’i molir (gyda’r rhagenw mewnol ’i yn mynegi’r gwrthrych).

44 Enwir ddyn a êl i’th erbyn Deellir llau. 111–16 yn uned o ran ystyr, a’r bardd yn cyfarch ei gynulleidfa yn eglwys Meifod. Cynigir yn betrus mai Tysilio yw’r enwir ddyn a ddisgrifir ymhellach yn llau. 111–14. Ef yw’r un a fydd yn dy groesawu di (êl i’th erbyn) ar Ddydd y Farn. (Ar ddefnydd yn erbyn mewn cyd-destun tebyg, cf. DewiGB llau. 37–8 Tra êl yn erbyn, i’r parth nodawg, / Padrig a’i luoedd yn lluosawg.) Ceir cyswllt thematig, felly, rhwng dechrau’r caniad hwn â diwedd yr un blaenorol. Ar mynd yn erbyn ‘mynd i gyfarfod neu groesawu rhywun’, gw. GPC Ar Lein d.g. erbyn: mynd yn erbyn (iii). Annisgwyl, ar yr olwg gyntaf, yw galw sant yn ddyn enwir (‘gorchfygol’, c., gw. GPC Ar Lein d.g.), ond moli Tysilio’r pennaeth milwrol a wneir yn bennaf yn y caniad hwn, a’i rym milwrol a fydd yn gwarchod Meifod rhag ymosodwyr. Fodd bynnag mae i’r elfen en- weithiau rym cryfhaol (cf. enfawr ‘mawr iawn’), ac felly gallai enwir olygu ‘cywir / ffyddlon iawn’ yma (er bod GPC Ar Lein d.g. enwir 2 yn awgrymu mai bathiad o ddiwedd y 18g. oedd y gair hwnnw).

45 fegys ei herfyn Am fegys, ffurf hŷn ar megis, fegis, cf. GMB 28.4 lle mae’n odli’n fewnol â uelys. Cymerir mai cyfeirio a wna Cynddelw yma at eiriolaeth Meifod (a drinnir ganddo yn y gerdd yn enw benywaidd).

46 teÿrnedd gychwyn Cyfuniad llac (yn cynnwys berfenw, cychwyn, a ragflaenir gan ei wrthrych, teÿrnedd) a ddefnyddir yma’n ansoddeiriol i ddisgrifio Tysiliaw. Ar gyfuniadau o’r fath, gw. Parry Owen 2003: 248–9 a cf. yn arbennig GLlLl 12.47 Milỽr milwyr gynytu ‘Milwr yn peri llwyddo milwyr’. Gthg. Williams 1926–7: 59, sy’n cyfieithu ‘of the race of kings’, gan ddeall cychwyn yn enw.

47 Pan aeth … Mynegir y gyrchfan, Gwaith Cogwy, heb arddodiad, yn dilyn berf yn dynodi symudiad, aeth, gw. n30(t).

48 Gwaith Cogwy Brwydr Cogwy a ymladdwyd c.642, lle trechwyd Oswallt, brenin Northumbria, gan Benda, brenin Mercia. Cyfeirir at y frwydr yn yr ‘Historia Brittonum’ a’r ‘Annales Cambriae’ fel Bellum Cocboy, gw. Williams 1926–7. Maserfelth oedd enw safle’r frwydr, yn ôl Bede, ac fe’i lleolir yn draddodiadol ger Croesoswallt; gw. Stancliffe 1995: 84–96. Ymddengys fod Powys a Mercia wedi llunio cynghrair yn erbyn Northumbria ers yn gynnar yn y 630au, a dehonglir brwydr Cogwy yn gyffredinol fel ymgais gan Oswallt i ennill tir drwy ymosod ar y gynghrair bwerus hon, gw. Finberg 1964: 73. Credai Cynddelw, mae’n amlwg, fod Tysilio (o linach y Cadelling) yn brwydro gyda’r cynghreiriaid a thystia’r englyn strae canlynol yng Nghanu Heledd i draddodiad fod Cynddylan, brawd Heledd, o linach y Cyndrwynyn, yntau yno: Gweleis ar lawr Maes Cogwy / Byddinawr a gawr gymwy. / Cynddylan oedd kynnorthwy, CLlH XI englyn 111: gw. ymhellach Rowland 1990: 124–5; Koch 2013: 231–3. A oedd traddodiad ym Mhowys yn y 12g. fod llwythau’r Cadelling a’r Cyndrwynyn, dan arweiniad Tysilio a Chynddylan, wedi uno mewn cynghrair â Phenda i drechu’r gelyn cyffredin, Oswallt o Northumbria? Wrth gwrs, mae’n amhosibl gwybod a fu Tysilio mewn gwirionedd yn ymladd yn y frwydr hon, ond os yw’n gywir mai ei dad, Brochfael Ysgithrog, yw’r Brocmail y cyfeiria Bede ato ym mrwydr Caer, c.616 (fe’i dyfynnir yn Koch 2013: 107, ac ymhellach ibid. 109–10, ond gw. WCD dan Brochwel am bosibiliadau eraill), yna mae hynny’n ddigon posibl o ran cronoleg. Pa beth bynnag fo’r gwirionedd, mae’r cyfeiriad hwn gan Gynddelw at frwydr a ymladdwyd yn y 7g. yn sicr yn dyst i’r ‘especially lively interest in the older heroic traditions at the court of Madog ap Maredudd in the mid-twelfth century’, fel y nodir yn TYP xcvii.

49 rhodwydd CLlH 159 ‘un ai’r rhyd ai’r clawdd i amddiffyn y rhyd yw, ac fel y dengys yr enghreifftiau, lle y dylid ei wylio, a lle y ceid y brwydro ffyrnicaf’; cf. GPC Ar Lein rhodwydd 1. Fe’i ceir hefyd yn enw lle, ac mae’n hynny’n bosibl yma, gw. Rowland 1990: 512–13.

50 gwyach Aderyn ysglyfaethus a borthai ar gyrff y meirw yn dilyn brwydr, yn ôl tystiolaeth y farddoniaeth: e.e. GCBM i, 12.30–1 gwaed gwyr y ar wlith, / A gwyach hylef, hylith, a GCBM ii, 4.19. Yn GPC Ar Lein nodir ei fod yn gytras â’r Hen Wyddeleg fíach ‘cigfran’, y ddau yn tarddu o’r gwreiddyn *ues- ‘gwledda’. Fe’i cysylltwyd gan eiriadurwyr y 18g. â’r Wil y wawch, Saesneg grebe, aderyn sy’n bwydo ar bysgod bychain a phryfetach, ond mae’n amlwg nad dyna’r math o aderyn a oedd gan Gynddelw mewn golwg; gw. Jones 1999: 125–8.

51 Oswallt fab Oswi Aelwyn Brawd, ac nid tad, i Oswallt oedd Oswi, mewn gwirionedd, a’r ddau ohonynt yn feibion i Aethelfrith, brenin Northumbria: gw. ODNB dan Oswiu [Oswy] 611/12–670. Pan fu farw Oswallt ym mrwydr Cogwy (gw. n48(e), fe’i holynwyd gan ei frawd: BD 202.10–11 A guedy llad Oswallt y doeth Oswi Aelwyn y uravt yn urenhin wedy ef. Cyfeiriai rhai beirdd diweddarach hefyd at Oswi gyda’r epithet Aelwyn (e.e. GLGC 112.95 Oswy aelwyn), ond ni chafwyd enghraifft o’r cyfuniad mewn ffynhonnell y tu allan i’r Gymraeg. Roedd gan Oswi fab o’r enw Aelfwine a ddaeth yn frenin Deira yn 670–9. Tybed a droes yr Hen Saesneg Aelfwine yn Aelwyn yn y Gymraeg, a’r -f- yn diflannu fel y gwnaeth mewn enwau fel Golystan (< Wolfstan) ac Elystan (< Ælfstan), a bod yr enw hwnnw wedi ei gamddehongli’n epithet ‘ac iddo aeliau gwyn’ yn y Gymraeg (cf. Jones 1926–7: 32)? Mae’r ffaith fod awdur yr ‘Historia Brittonum’ yn cyfeirio at Oswallt â’r epithet Lamnguin ‘llafn’ + ‘gwyn’ yn awgrymu bod traddodiad o roi epithetau Cymraeg i hen frenhinoedd Northumbria i’w olrhain i’r 9g. o leiaf, gw. ODNB dan Oswald [St Oswald] (603/4–642). Lladdwyd Aelfwine yn ifanc mewn brwydr yn erbyn Mercia ger afon Trent. Mae’r cyfeiriad hwn at yr enw gan Gynddelw, er mor wallus, yn awgrymu bod y cof am Aelfwine wedi parhau yn nhraddodiadau Powys hyd y 12g.

52 Llinell anodd. Yn betrus cymerir mai disgrifio nod hynt Tysilio a’i filwyr mewn brwydr a wneir, sef i geisio (amofyn) creu helynt (ofal) alaethus (aele) i’w gelynion.

53 Canfryn Fe’i dehonglir yn betrus yn enw lle, cf. GCBM i, 3.130n. Os yw’n gywir cysylltu brwydr Cogwy â safle’r hen fryngaer ger Croesoswallt, y cyfeirir bellach ati fel Hen Groesoswallt (gw. n48(e)), yna byddai Canfryn (can(t) ‘lle amgaeedig, enclosure’ + bryn) yn ddisgrifiad digon tebygol o’r safle. Ond ni ddaethpwyd o hyd i enghraifft arall o’r enw yng nghyswllt y safle hwn. Ar Hen Groesoswallt a lluniau o’r bryn mewn oes gynharach, gw. English Heritage ‘History of Old Oswestry Hillfort’. Gw. hefyd n35(t).

54 seirff … sarff Ar y modd y cyfosodir seirff a sarff yma, cf. GCBM i, 16.58 Digriuỽch dragon, dreic ofrwy, hefyd ibid. 21.10. Roedd sarff a seirff yn eiriau prin gan y beirdd am filwr neu arwyr a Chynddelw piau tair o’r pedair enghraifft arall, GCBM i, 8.45, 11.9, 24.105 a GLlLl 4.9 (mae’r ychydig enghreiffitau eraill yn digwydd yng nghyswllt uffern neu’r diafol). Am enghraifft o’r cyfnod cynharach, cf. CA ll. 718. Tybed a yw Cynddelw yma’n dwyn i gof yr epithet Sarffgadau a gysylltir â Selyf, nai Tysilio, sef mab ei frawd Cynan Garwyn? Yn ei gyfres englynion ‘Breintiau Gwŷr Powys’, cyfeiria Cynddelw at filwyr Powys fel cosgort Dyssilyaỽ ac ymhellach at y milwyr fel Canaon Selyf, seirff cadeu Meigyen, gan ddwyn i gof Feigen, brwydr arall o’r 7g. yr enillodd wŷr Powys freintiau yn ei sgil: gw. GCBM i, 11.4, 9.

55 dilen ‘Marwolaeth, tranc’ a ‘drwg dynged, dinistr’, yn ôl GPC Ar Lein d.g. dilen 1; ond rhoddai’r diffiniad ‘didoliad, neilltuad’ a roddir yn betrus yn G 353 well ystyr yma, yn enwedig gan y sonnir yn y llinellau canlynol am Fôn, lle dihangodd Tysilio rhag ei dad ac yn ddiweddarach rhag ei chwaer yng nghyfraith gas (gw. y Rhagymadrodd).

56 gorwyf rhag unben Deellir gorwyf yn ffurf gyntaf unigol presennol y ferf gorfod ‘cael, ennill’ (> ‘ymweld â’), yma mewn ystyr berffaith, cf. G 565. Tysilio, yn ôl pob tebyg, yw’r unben dan sylw. A yw Cynddelw yn honni iddo ymweld ag eglwys y sant ym Môn? O ddeall gorwyf yn enw, ‘balchder’, c., gw. GPC Ar Lein d.g. gorwyf 2 (gydag enghreifftiau o’r 14g. ymlaen), gellid aralleirio ‘tiriogaeth wych lle ceir balchder ar gyfrif ei phennaeth’.

57 tirion Môn Gellid dehongli tirion yn ansoddair (‘hynaws yw Môn’), ond mae’n fwy tebygol o fod yn enw yma, cf. GPC Ar Lein d.g. tirion 2 ‘?Tiroedd; tiriogaeth, gwastadedd, tir glas’. Cyfosodir tirion a meillion eto yn LlDC 5.11 Myn y mae meillon / a gulith ar tirion. Ym muchedd Lydewig Suliau, esbonnir bod y sant wedi cilio ddwywaith i briordy yn perthyn i Feifod ar ynys yn y Fenai, a bod yr ynys hon wedi ei henwi yn ddiweddarach ar ei ôl: un Prieuré dependant de son Monastere de Meibot, situé dans une isle, qui fait le fleuve Mené, laquelle, depuis, fut de son nom apellée Enez Suliau , Le Grand 1837: 382.

58 Teÿrnas dinas diasgen Dehonglir Teÿrnas dinas yn gyfuniad enwol am Dysilio, ‘cadarnle teyrnas’, a’r ansoddair diasgen yn goleddfu’r cyfuniad; cf. dinas teÿrnas a geir gan Gynddelw am noddwr arall, GCBM i, 19.29, 20.41. Er disgwyl treiglad meddal yn y brif elfen dinas (cf. hydref ddail ), ceir yma galediad yn dilyn s, gan sicrhau cysteinedd â diasgen, sydd hefyd yn cadw’r gytsain gysefin gan mai enw gwrywaidd oedd dinas gan amlaf mewn Cymraeg Canol.

59 a’i cân Cymerir bod y rhagenw mewn safle proleptig, yn cyfeirio ymlaen at wrthrych y ferf, sef teÿrnwawd, a fynegir yn ll. 142, cf. GMW 56–7. Cyfeiria cadr eurben a teÿrnwyr Cyngen at Dysilio.

60 Cyngen Cyngen Glodrydd, taid Tysilio ar ochr ei dad, Brochfael Ysgithrog. Yn ôl ‘Bonedd y Saint’, roedd Cyngen yn fab i Gadell Ddyrnllug, a enwyd yn ll. 37; gw. EWGT 59. Cyfeiria Cynddelw at Bowys mewn cerdd arall fel ‘bro Gyngen’, gw. GCBM i, 24.121.

61 Ar ôl moli Tysilio fel pennaeth milwrol effeithiol, disgrifia Cynddelw yma ei fuddugoliaeth derfynol yn ennill croeso’r saint (ll. 144 Cynnwys glain) cyn diwedd ei oes. Os dyma’r dehongliad cywir, ymddengys fod Cynddelw yn dehongli gyrfa Tysilio fel petai’n un o dywysogion y 12g. a enciliai ar ddiwedd eu hoes i’r fynachlog y buont yn ei noddi yn ystod eu bywydau (fel yr enciliodd Owain Cyfeiliog i Ystrad Marchell). Nid yw Cynddelw yn enwi Meifod yma, ond mae’n ddigon posibl mai’r eglwys honno sydd ganddo mewn golwg yn llau. 147–8.

62 llan llugyrn Rhestrir eglwysi cysylltiedig â Thysilio yn llau. 151–4, a chymerir mai cyfeirio at eglwys Meifod a wna’r bardd yn llau. 147–8, heb ei henwi, ond gan gyfeirio at olau ei lampau. Byddai hyn wedi bod yn hollol amlwg i’r gynulleidfa a wrandawai ar Ganu Tysilio yng ngolau cannwyll yn eglwys Meifod, o bosibl adeg dathlu gŵyl y sant.
Cynigiwyd, fodd bynnag, mai enw lle yw Llanllugyrn yma, ac mai dyma oedd ffurf wreiddiol yr enw Llanllugan: LBS iv, 303 (am y llinell hon), ‘ “The church of Llugyrn (Llorcan)” … Llanllugyrn we believe to be Llanllugan … in Montgomeryshire.’ Cynigir ymhellach mai Llorgan Wyddel oedd sylfaenydd yr eglwys ac iddi gael ei hailgysegru i Dysilio’n ddiweddarach: LBS iii, 378; Thomas 1908–13: i, 484. Gw. hefyd WATU 133 lle nodir Llanllugyrn yn ffurf amrywiol ar Llanllugan . Ond fel y gwelir yn ArchifMR ceid y ffurf Llanllugan mor gynnar â’r 13g., a’r llinell hon yw’r unig dystiolaeth a roddir yno dros y ffurf amrywiol Llanllugyrn ; at hynny, ymddengys fod y cyswllt tybiedig rhwng Llanllugan a Thysilio yn ddibynnol ar y llinell hon ac ar y dybiaeth mai’r un yw Llanllugan a llan llugyrn y testun.

63 dra llys Ddinorben Ar Ddinorben, y fryngaer hynafol ym mhlwyf Llansain Siôr ger Abergele yng nghantref Rhos, Gwynedd Is Conwy, gw. Gruffydd 1989–90: 7–8 lle trafodir y posibilrwydd iddi gael ei chysylltu â Chunedda. O gymryd mai o safbwynt Meifod y llefara’r bardd yma, ymddengys mai at eglwys y ‘tu draw’ i lys Dinorben, ac felly yng Ngwynedd Uwch Conwy, y cyfeiria Cynddelw yn llau. 149–50 – o bosibl eglwys Llandysilio ar Fenai neu eglwys Llydaw (gw. y nodyn canlynol). Ni wyddys am hanes Dinorben yn oes Cynddelw (gw. Coflein dan Dinorben: destroyed hillfort) ond yn sicr mae’r cyfeiriad gan Walchmai at arth Orben, gw. GMB 8.56n, yn awgrymu bod cof am bwysigrwydd hanesyddol y llys hwnnw wedi parhau hyd y 12g.

64 llan Llydaw Awgrymir yn HG Cref 181 mai ‘at yr eglwys a sefydlodd yn Llydaw’, ‘y tu hwnt i’r llanw’, y cyfeirir yma. (Daw Llydaw, o ran ei darddiad, o’r Frythoneg *litavia ‘tir y traeth’, cytras â’r Lladin litus ‘traeth, glan’, ac felly mae’n gyfystyr â’r enw Armorica, gw. EANC 216.) Fel y gwelwyd yn y Rhagymadrodd, trosglwyddwyd buchedd Tysilio yn gynnar i Lydaw (o bosibl mewn ffurf ysgrifenedig yn Lladin); ond derbynnir yn gyffredinol nad oes unrhyw dystiolaeth fod Tysilio ei hun erioed wedi bod yn Llydaw.
Mae dau esboniad posibl, felly, ar yr enw lle yma: [i.] fod Cynddelw yn credu bod Tysilio wedi bod yn Llydaw, o bosibl drwy fod yr hanesion amdano a gludwyd ynghynt i Lydaw wedi eu cludo yn ôl i Gymru, wedi eu haddasu; [ii.] fod Llydaw i’w leoli yng Nghymru. Yn GCBM i, 3.151n holir tybed ai cyfeiriad sydd yma at hen eglwys glas a geid gynt ym Meddgelert, nepell o Lyn Llydaw ar yr Wyddfa. Y Llydaw hwn yw’r unig enw lle yn cynnwys yr elfen Llydaw a restrir yn ArchifMR, a cf. yn arbennig y cyfeiriad yno o’r Brutiau at mynyded Llydaw, neu Eryri sy’n awgrymu y gall fod ystyr ehangach i Lydaw yng nghyswllt Eryri. Ymhellach ar hen eglwys Beddgelert, gw. Coflein dan St Mary’s Church, Beddgelert; St Mary’s Priory (Augustinian), a Monastic Wales dan Beddgelert.
Yn WCD, dan Llydaw, awgrymir bod Llydaw wedi bod yn enw ar ardal yn ne-ddwyrain Cymru (‘Just as Devon [Dumnonia] and Cornwall gave their names to Domnonée and Cornouaille in Brittany, so Llydaw [Brittany] seems to have had its duplicate in Britain’), o bosibl ym Mrycheiniog, yn ôl awgrym Rhŷs 1901: 531–6. Awgrymir ymhellach yn WCD mai dyma’r Llydaw lle ganwyd Illtud yn ôl ei fuchedd, a lle dychwelodd i farw; byddai hynny’n cyd-fynd â thraddodiad ‘that he [h.y. Illtud] was buried in the parish of Defynnog in Brycheiniog’. Os felly, tybed a ddylid cysylltu’r cyfeiriad hwn at lan Llydaw â’r cyfeiriad at lan Gamarch yn ll. 154?
Gan fod llan yn enw benywaidd, disgwylid i’r enw priod dreiglo ar ei ôl, cf. llau. 152–4; ond ar gadw cysefin ll- yn dilyn n, gw. TC 103.

65 llan Bengwern Eglwys arall na ellir bod yn sicr o’i lleoliad. Gan fod gwern ‘cors, mign’, c., yn nodwedd ar ddaearyddiaeth sawl ardal yng Nghymru, nid yw’n syndod fod yr enw Pengwern i’w ganfod ar hyd a lled y wlad, fel y gwelir yn ArchifMR: o Ynys Môn (Llanddona) hyd at Gydweli yn y de. Pengwern, yn ôl traddodiad, oedd enw prif lys tad Tysilio, Brochfael Ysgithrog, a dichon mai hwnnw yw’r llys a gysylltwyd gan Gerallt Gymro ag Amwythig: Jones 1938: 170, ‘Pengwern … y gelwid gynt y lle y saif castell Amwythig yn awr.’ Pengwern, meddai Gerallt Gymro ymhellach, ibid. 171, oedd prif lys Powys, yn un o dri phrif lys Cymru, ynghyd â Dinefwr ac Aberffraw. Os dyma’r fan sydd gan Cynddelw yn ei feddwl, yna byddai’r cysylltiad â Brochfael yn ddigon i esbonio’i ddisgrifiad o’r fan fel bennaf daearen. Cynigir yn LBS iv, 303 mai cyfeirio a wna Cynddelw at eglwys St Julian yn Amwythig (ai oherwydd cysylltu’r enw Julian a Sulien?). Am drafodaeth gynhwysfawr ar leoliad Pengwern yr hen ganu englynol, gw. Rowland 1990: 572–4.

66 llan Bowys Meifod, prif eglwys Powys, mae’n debyg. Cf. n95(e) a’r Rhagymadrodd.

67 llan Gamarch Plwyf yng nghantref Buellt, bellach yn sir Frycheiniog, yw Llangamarch. Cynog yw nawddsant yr eglwys, ac ni ddaethpwyd o hyd i unrhyw dystiolaeth i’w chysylltu â Thysilio, ond gw. n64(e). Mae’r eglwys bresennol yn un fodern, gw. CPAT dan Llangammarch Wells. Yn y 18g. cofnododd Dom Lobineau yn Llydaw hanes am Sulian yn dianc i Buelt (nid i Fôn) rhag dynes annifyr o’r enw Haiarme, gan godi eglwys a mynachlog yno: gw. SoC, v, 112 ac ymhellach ibid. 125 am y testun Lladin.

68 enwawd Gw. n37(t). Yn hytrach na’i ddeall yn ansoddair, tybed a allai fod yn ferf, gyda’r terfyniad trydydd unigol presennol -awd, yn aml gydag ystyr ddyfodol, gw. GPC Ar Lein d.g. -awd 1? Os felly, gellid aralleirio Arfoliant enwawd / Berth Feifod ‘bydd cerdd o fawl yn crybwyll Meifod hardd’.

69 llog Benthyciad o’r Lladin locus ‘lle’, gw. GPC Ar Lein d.g. llog 2, yn cyfeirio yma, o bosibl, at dir amgaeedig yr eglwys ym Meifod, yn cynnwys ei mynwent (beddrawd) ar gyfer boneddigion (meddfaith, yn llythrennol ‘rhai wedi eu magu ar fedd’). Ar llog, a’i ddefnydd mewn enwau lleoedd yn Llydaw yn arbennig, gw. Jankulak 2000: 76–8.

70 Yn llau. 161–70 disgrifir achlysur pan gafodd yr Abad Gwyddfarch weledigaeth o Rufain ym Meifod. Yn nhestun Le Grand (1837: 483) o fuchedd Suliau, esbonnir bod Suliau wedi cael caniatâd yr Abad Guymarch i adael Meifod am gyfnod er mwyn dianc rhag ei dad, Brocmail, i Enez Suliau yn afon Mené, oherwydd credai y byddai hwnnw yn ei orfodi i adael yr Eglwys. Ond ar ôl treulio saith mlynedd ar yr ynys, cafodd Suliau orchymyn gan yr Abad Guymarch i ddychwelyd i Feifod, gan ei fod ef yn dymuno mynd i Rufain. Sylweddolodd Suliau gymaint o niwed a achosai absenoldeb yr abad i’r fynachlog, ac fe’i perswadiodd i beidio ag ymgymryd â’r daith, drwy addo gweledigaeth o Rufain iddo ym Meifod ei hun. Ac un prynhawn, il mena l’Abbée sur un petit tertre, ou colline, qui estoit dans l’enclos du Monastere, d’où il luy fit voir distinctement toutes les Eglises, les palais, amphiteatres, obelisques & autres raretez de cette grande ville (‘arweiniodd yr abad i dwmpath bychan, neu fryn, a oedd o fewn ffiniau’r fynachlog, lle parodd iddo weld yn eglur yr holl eglwysi, palasau, amffitheatrau, obelisgiau a’r pethau prin eraill a oedd yn y ddinas fawr hon …’). Diau yr ystyrid hyn yn un o wyrthiau Tysilio. Dehonglodd Malcolm Thurlby y weledigaeth hon o Rufain fel ymgais i ddyrchafu eglwys Meifod drwy honni bod perthynas uniongyrchol rhyngddi a Rhufain: ‘This must surely be read as a strong statement in favour of the clas church, in that Meifod was associated with Rome without any Norman intermediary to impose or supervise Gregorian reform’, gw. Thurlby 2006: 248–9, ac ymhellach y Rhagymadrodd.

71 Awgrymir bod dinas Rhufain i’w gweld yn glir er mor bell yw hi (bellglaer) o Feifod, sydd hithau’n bell ei chlod (bellglod): gw. n70(e). Dichon fod amwysedd bwriadol yn llau. 169–70 o safbwynt gaer y cyfeirir ati, gyda Meifod a Rhufain yn ymdoddi’n un yn nychymyg y bardd.

72 ceresyd Ffurf hynafol ar drydydd unigol gorffennol y ferf caru, gw. GMW 123n1. Cymerir mai Tysilio yw’r goddrych.

73 ced Gellid ei ddeall yn rhodd ysbrydol neu ‘fendith’ gan Dysilio i’r sawl a ymwelai â’i eglwys; ond mae’n fwy tebygol mai cyfeirio a wna’r bardd at rodd y byddai pererin yn ei chyflwyno i’r eglwys, wrth iddo gyflwyno ei ffydd a’i ddefosiwn ([c]red a chrefydd) i’r sant. Awgrymir, felly, yn llau. 171–2 y câi Tysilio ei blesio gan y rhoddion a roddai’r pererinion i Feifod yn ei enw.

74 periglawr Am ei ystyr, a’r gwahaniaeth rhyngddo ac offeiriad, gw. Pryce 1986: 68–9, lle y’i cysylltir â’r Lladin parochia a ddynodai, cyn y 12g., ‘[g]ylch awdurdod’ eglwys, mynachlog neu esgobaeth, ac felly ‘Efallai i periglor ddynodi offeiriad a chanddo awdurdod eang dros parochia yn yr hen ystyr yn wreiddiol, ond wrth i parochia ddod i olygu “plwyf”, ac felly i gyfeirio at gylch llai o faint, nid oedd rheswm mwyach i wahaniaethu yn ymarferol rhwng periglor ac offeiriad.’ Fel y nodir ymhellach, efallai fod defnydd Cynddelw o’r gair yng nghyswllt pobl Gwynedd yn y llinell hon, ac yng nghyswllt pobl Powys yn ll. 232, yn adlewyrchu cylch gofal eang y periglor gwreiddiol. Gan hynny byddai’n ddisgrifiad da o Dysilio, yr oedd cylch ei ofal yn ymestyn dros bobl Gwynedd yn ogystal â phobl Powys, gan fod ei eglwys yn Llandysilio yn y Fenai yn perthyn i Feifod.

75 peryglus Ansoddair yn disgrifio pobl Gwynedd fel rhai ‘mewn perygl’. Gellid ei ddeall yng nghyd-destun gwleidyddiaeth y 12g., fel y gwneir yn Jones and Owen 2003: 59–60; ond gwell yw ei ddeall yn gyfeiriad at y perygl cyffredinol sy’n ein hwynebu oll adeg ein marwolaeth; cf. defnydd Gwalchmai o’r ferf periglo ‘bod mewn perygl’ yn ei awdl i Dduw, GMB 14.65.

76 Gwyndyd Un ai trigolion Gwynedd neu’r wlad ei hun, gw. GPC Ar Lein. Yn ôl y bucheddau Llydewig a drafodwyd yn y Rhagymadrodd, treuliodd Tysilio gyfnod o saith mlynedd mewn eglwys yn perthyn i Feifod ar y Fenai, er mwyn dianc rhag ei dad, gan dreulio cyfnod pellach yno yn ddiweddarach, yn ôl un fersiwn, er mwyn dianc rhag ei chwaer yng nghyfraith annymunol. Gw. n83(e) ar elfydd Pen Mynydd. Dehonglir y cyfeiriad hwn yng nghyd-destun gwleidyddiaeth y 12g. yn Jones and Owen 2003: 59–60.

77 gwirion ormoddbryd Cyfieithir yn TWS 271 fel ‘the innocent one who ate too many meals’; ond i’r 16g. y perthyn yr enghraifft gynharaf o pryd yn yr ystyr o bryd bwyd yn GPC Ar Lein d.g. pryd 1 (c). Fe’i cysylltir yma, yn hytrach, â pryd 2 ‘golwg, wyneb’, c., gw. ibid., gan gymryd bod grym cryfhaol i’r ansoddair gormodd, cf. ibid. gormoddgas ‘llawn casineb’ a prydfawr ‘hardd neu osgeiddig iawn’.

78 perhëyd Hen ffurf trydydd unigol presennol mynegol parhäu, gw. GMW 119.

79 Cyfoeth Duw a’n dug Deellir Cyfoeth Duw yn wrthrych anuniongyrchol y ferf dug: ‘mae ef (?Tysilio neu o bosibl pennaeth cyfoes Meifod) wedi ein dwyn ni i awdurdod / teyrnas Duw’.

80 Cymerir mai trefn y frawddeg yw berf (diffyrth) + goddrych (hael) + gwrthrych (hil Brochfael broglyd), ond gellid hefyd ddeall diffyrth yn ferf gyflawn, fel y gwneir yn HG Cref 182–3, a chymryd hael hil Brochfael broglyd i gyd yn enwol am Dysilio (‘amddiffynnodd yr un hael o linach Brochfael ddiogel ei bro’).

81 Yn llau. 185–8 disgrifir gwyrth a gyflawnodd Tysilio pan barodd i ddarn o bren marw dyfu dail a chynhyrchu tân. Ni chafwyd hyd i ddim a allai esbonio hyn yn y deunydd Llydewig, ond cyfeirir yn TWS 272 at y modd y troes Kentigern gangen o goeden gollen yn llusern: gw. ymhellach Forbes 1874: 44–5.

82 Disgrifiad braidd yn annelwig o wyrth arall a gyflawnodd Tysilio. Haid o anifeiliaid, ceffylau neu wartheg fel arfer, yw ystyr gre, a gall gran olygu ‘boch’, ‘wyneb’ ac o bosibl farf neu wallt y pen, gw. GPC Ar Lein d.g. gre, gran. Ymddengys fod wyneb wedi ymddangos i’r anifeiliaid, a’u bod o ganlyniad yn llawn tristwch (lleddf ) ac mewn pryder (llugfryd), wedi eu caethiwo (yng ngharchar) yn y ddaear ac mewn ŷd, o ganlyniad i ddilyn eu natur (yng ngreddf ), sef bwyta’r cnwd.
Yn fersiwn Albert le Grand o fuchedd Suliau (Le Grand 1837: 483–4) ceir hanesyn sydd fel petai’n taflu goleuni ar hyn. Sonnir am Suliau yn teithio o Gymru i Lydaw, er mwyn dianc rhag ei chwaer yng nghyfraith filain, gan lanio mewn dinas o’r enw Guicaleth (ger tref bresennol Saint-Malo, gw. Lanigan 1829: i.165). Gan ei fod yn dymuno cael tawelwch, gadawodd y sant y ddinas gyda’i fynaich a chyrraedd man unig ar lan afon Rance. Ar ôl trafod gydag arglwydd lleol, derbyniodd gan hwnnw lain o dir yn rhodd. Cododd Suliau dŷ iddo ef a’i fynaich cyn mynd ati i droi gweddill y tir a phlannu ŷd. Tyfodd hwnnw’n dda, nes y daeth gyr o anifeiliaid heibio un noson a difa rhan o’r cnwd. (Gelwir yr anifeiliaid yn bestail neu bétail gan le Grand, ibid., ac yn turba ferarum yn ActaS xlix 196.) Wedi clywed am hyn, aeth Suliau allan gyda’i ffon fagl, a’i dirwyn o amgylch y cae gan godi pedwar postyn, un ym mhob cwr iddo. Gweddïodd ar Dduw i gadw’r anifeiliaid draw. Trannoeth daethant yn eu holau, ond cyn gynted ag yr oeddent wedi croesi’r llinell a ddirwynodd y sant, rhewasant yn eu hunfan. Ai dyma’r olygfa sydd gan Gynddelw yn ei feddwl, gydag wyneb (gran) dig y sant yn syllu ar yr anifeiliaid troseddol?

83 Pen Mynydd Dehonglir pen mynydd yn enw cyffredin yn HG Cref 38, gan ei aralleirio ‘[p]en eithaf y mynydd’. Ond os enw lle ydyw, yna rhestrir sawl Penmynydd posibl yn ArchifMR: e.e. yn Abergele, yn Nhremeirchion a’r Cwm yn sir y Fflint, yn Amlwch, Bodedern a Llanfechell ym Môn, yn Llandudno, Llanerfyl ac ati. Yr un enwocaf yn ddiweddarach oedd cartref y Tuduriaid yn Nindaethwy, a chymerir yn GCBM i, 3.196n a Jones and Owen 2003: 59 mai at y fan honno y cyfeirir yma (cf. y cyfeiriadau at Fôn yn ll. 138 ac at Wynedd yn ll. 173), ond os felly, dyma’r cyfeiriad cynharaf ato.

84 ni ddifydd Dilynir G 339 a chymryd mai berf gyflawn yn yr ystyr ‘ymadael, mynd ymaith, diflannu’ sydd yma; ni nodir yr ystyr hon yn GPC Ar Lein d.g. dyfyddaf: difod, ond gw. Williams 1968–70: 218.

85 pedwar defnydd Ar y pedwar defnydd, y credid yn yr Oesoedd Canol fod popeth wedi ei ffurfio ohonynt, gw. Lloyd ac Owen 1986: 106–9 a cf. DB 25.1–2 Ac yna y gwnaethpwyt y pedwar defnyd, a’r defnydyeu hynny yssyd ym pop peth, nyt amgen, tan, awyr, dwfyr, dayar.

86 Prydain ddragon Cyfeiriad at dywysog cyfoes Powys, Madog ap Maredudd, noddwr tebygol y gerdd; gw. y Rhagymadrodd. Ef yw’r Glyw y cyfeirir ato yn ll. 213 a roddai geffylau gwych i’w fardd. Cyfeiria Gerallt Gymro at geffylau gwerthfawr Powys yn y 12g., cf. Crouch 1992: 119, ‘Powys, according to Gerald of Wales, was famous for its exceedingly valuable horses, a breed he believed had been introduced there by Robert de Belleme, earl of Shresbury (exiled 1105).’

87 gleisiaid liw, glas Ceir Cynddelw yn aml yn cymharu lliw glas ceffylau â lliw gleisiaid (sef eogiaid ifanc), cf. GCBM i, 1.24 Eiliw pysgaỽd glas, gleissyeid dylan; GCBM ii, 4.169 Fraeth leissyon, leissyeid kynhebyc.

88 Hynny yw, cyn gynted ag y mae’r arglwydd (Madog ap Maredudd) yn cynhyrchu ceffylau gwych drwy eu bwydo’n effeithiol mewn stablau, mae’n eu rhoi yn rhodd i’w fardd.

89 traethadurion Un o’r nifer o eiriau a ddefnyddiai Cynddelw a’i gyfoeswyr am feirdd: cf. GCBM i, 21.180; GCBM ii, 33.16; GLlF 25.32 Traethadur Prydein wyf yn prydu.

90 cyfoethogion Roedd ystyron eang i cyfoeth a chyfoethog yn oes Cynddelw, a gallai gyfeirio nid yn unig at gyfoeth materol ond hefyd at awdurdod dros dir yn ogystal â grym a phŵer yn gyffredinol, gw. GPC Ar Lein d.g. cyfoeth, cyfoethog.

91 hynaf Pennaeth yr eglwys ym Meifod; gw. n94(e) ar sygynnab.

92 handid Ffurf trydydd unigol presennol mynegol hanfod, a ddilynir gan gysefin y dibeniad, gw. TC 332 (lle trafodir tarddiad ansicr y ffurf). Mae’n gyfystyr â mae yma.

93 rhydd rhwng ei dwy afon Ar ddefnydd rhydd yma i ddisgrifio tir a oedd yn rhydd o gyfraith gwlad, sef un o freintiau tiriogaeth a berthynai i fynachlog, cf. DewiGB llau. 31–2 Ei fraint wrth ei fryd i freiniawg ysydd / A’i elfydd yn rhydd, hefyd ibid. ll. 107. Llunia afon Efyrnwy ffin amlwg ychydig i’r de o Feifod, ac awgrymir yn HG Cref 183 mai afon Einion yw’r ail afon yma.

94 sygynnab Gair a fenthyciwyd o’r Lladin secundus abbas ac a drafodir yn Thomas 1956–8: 183, lle sylwir bod enghraifft arall ohono mewn dogfen eglwysig o gyfnod Edward III lle y’i ceir yn enw ar ‘swyddog yn esgobaeth Llanelwy’ (gw. n95(e)). Mae’r ffurf yn gytras â’r Hen Wyddeleg secnap, a ddiffinnir yn RIA fel ‘the prior of a monastery (inferior in status to the abbot …)’. Cymerir mai dyna’r ystyr yma hefyd, gan ddeall hynaf, ll. 225, yn gyfeiriad at yr abad. Ymhellach ar y ffurf gw. Charles–Edwards 1971: 180–90; GPC Ar Lein d.g. segynnab, sygynnab.

95 ei harchddiagon, / Caradawg ‘Clerigwr union islaw esgob o ran ei radd a’i awdurdod’, GPC Ar Lein, sef y nesaf ei awdurdod i esgob Llanelwy yn y cyswllt hwn. Yn y 12g. ymrannodd esgobaeth Llanelwy yn wyth archddiaconiaeth, a daeth Meifod, a fu cyn hynny’n eglwys glas bwysig, yn ganolfan archddiaconiaeth Powys, gw. Thomas 1997: 38; Pearson 2000: 35–56; Stephenson 2016: 55–6 et passim. Enwir gŵr o’r enw Sulien yn dyst i naw o siarteri Ystrad Marchell a luniwyd rhwng 1180 a 1215, ac os yr un yw hwn â’r Suglen filio Caradauc a fu’n dyst clerigol i siartr sylfaenu Ystrad Marchell tua’r flwyddyn 1170, awgrymir yn Thomas 1997: 39 y gall mai’r un yw ei dad â’r Caradog a enwir yn archddiacon yma gan Gynddelw. Awgrymir ymhellach y gall mai’r un yw hwnnw â Charadog ap Gollwyn ap Llawr Grach o Feifod, a enwir yn WG1 ‘Llawr Grach’ 1. Cf. Thomas 1997: 38, ‘archdeacons were nearly all native Welshmen drawn from the ranks of the boneddigion, often belonging to clerical families and holding their office by hereditary succession’; a gw. ymhellach Pearson 2000: 42–3.

96 undad Cymerir mai disgrifio’r brodyr ym Meifod mewn undod o dan yr abad, tad yr eglwys, a wneir; ond gallai tad yn y cyfuniad gyfeirio at Dduw ac efallai fod yr amwysedd yn fwriadol.

97 gweryddon Ffurf luosog gwyry(f), a ddefnyddir gan amlaf am ferched, ond gallai hefyd gyfeirio at ddynion sanctaidd, gw. GPC Ar Lein d.g. gwyry 1(a) ac 1(b).

98 neifion Gair prin, petrus ei ystyr. Dilynir GPC Ar Lein d.g. neifion 1 sy’n rhoi i’r enghraifft hon yr ystyr ‘?nef(oedd); arglwydd(i)’.

1 hoddiaw J 111 hodyaỽt a dderbynnir yn HG Cref 33 heb esboniad. Ni cheir hoddiawd yn GPC Ar Lein a chymerir mai gwall am hoddiaw sydd yma, a ddiffinnir yn betrus, ibid., fel ansoddair ‘llonydd, dedwydd, dymunol’ neu fel berf ‘rhwyddhau, gwneud neu ddod yn hawdd’, c. Cyfosodir y ddeuair hoddiaw a hedd eto yn GC 2.160 hoddiaw hedd, 7.234 hedd hoddiaw.

2 Rhagorfan rhad, rhan J 111 ragor uam rat ram; cf. HG Cref 176, ‘mae’r testun yn llwgr yn ddiau’, a’r tebyg yw fod yma achos o gamddarllen minimau, gan roi m ddwywaith am nn.

3 amnawdd J 111 am naỽd; darllenir amnawdd ‘amddiffyn, nodded’ gyda GCBM i, 3.14, cf. G 24 a GPC Ar Lein d.g. amnawdd 1. O’i ddarllen fel a’m nawdd, gellid aralleirio Parth a’m nawdd fel ‘man diogel sy’n f’amddiffyn’.

4 fawredd J 111 naỽred. Gallwn fod yn sicr mai uaỽred a fwriadwyd, ond mae’r llythyren gyntaf yn nes at n nag u; cf. n38(t) ar Feifod.

5 geneddl J 111 genedyl; mae’r -d- ganolog yn amwys yn y llawysgrif hon, a gall gynrychioli ‘d’ (cf. ll. 21 alltuded ‘alltudedd’) neu ‘dd’ (cf. ll. 27 madeu ‘maddau’). Ond fel y gwelir yn G 129 a GPC Ar Lein d.g. cenedl, ceneddl, y ffurf gydag ddl a geir gan amlaf yn y testunau cynharaf.

6 dyllyedd J 111 tyllued. Mae angen ffurf deirsill yma ac anodd gwybod ai tyllyedd, tyllẅedd neu tyllüedd yw’r ynganiad; cf. GMB 23.1 tyllued (= ‘tyllyedd’). Am ei ystyron a’i ddefnydd yn y Cyfreithiau, gw. GPC Ar Lein d.g. tyllwedd, c., ‘cytgord, cydfod, heddwch, distawrwydd, gosteg; ernes, gwarant, sicrhad (rhag colled, c.), llw (dros heddwch neu ddistawrwydd)’; GCBM i, 3.26n; hefyd GMB 23.1n lle awgrymir mai cyfuniad yw o twll ‘ysbaid’ + llw/lly + -edd ‘ysbaid dan (sicrwydd y) llw’, a’i aralleirio fel ‘cymodlonedd’. Gan hynny byddai tyllyedd neu tyllẅedd yn ffurfiau derbyniol, cf. yr amrywiol ffurfiau ar llw: llwon, llyfain, c. Fe’i deellir yn brif elfen mewn cyfuniad yma, mawrwlad dyllyedd, gyda’r ffurf gysefin (tyllyedd) yn y llawysgrif yn dangos calediad -d d- > t.

7 Llan [ ] ym mron ei challedd Mae’r llinell yn fyr o ddeusill, ac o ran ystyr, disgwylid i’r ddeusill goll ddilyn Llan. Byddai Llan Armon yn rhoi odl fewnol â mron. A ddilynodd y wraig weddw flin y sant i’r lle hwnnw, gan beri iddo ffoi i afon Menai? Yn ll. 206 ceir enghraifft arall o hepgor gair yn J 111.

8 Dyniawl Bu’r darlleniad hwn yn allweddol wrth greu’r stema; gw. y nodyn ar y llawysgrifau.

9 : cadw Darlleniad pwysig arall ar gyfer creu’r stema; gw. y nodyn ar y llawysgrifau.

10 Caraf-i lan J 111 Caraf ylañ. Mae’r llinell fel y saif yn sillaf rhy hir. Ar ddefnydd rhagenwau ôl yng nghanu Beirdd y Tywysogion, a’r cwestiwn a ddylid eu cynnwys yn y cyfrif sillafau ai peidio, gw. Andrews 1989: 13–29. Roedd awdur Gramadeg Gwysanau (c.1375) fel petai’n ystyried y rhagenwau hyn yn nodwedd ar orgraff, gw. Parry Owen 2010: 26 (nodyn ar ll. 57 karaue eos). Gan fod llinellau Cynddelw yn tueddu i fod yn safonol o ran eu hyd, cymerir bod y rhagenw ategol yn ansillafog yma.

11 dachwedd J 111 deachwed, a’r e gyntaf yn ansicr; mae’r ffurf yn anhysbys, ac yn peri i’r llinell fod yn hir o sillaf. Defnyddir tachwedd gan Gynddelw fel gair am frwydr, gw. GCBM ii, 433.

12 yndi J 111 yndi. Trydydd unigol benywaidd yr arddodiad yn; cf. CadfanLlF llau. 103, 150 a gw. Sims–Williams 2013: 46 et passim. Profir y ffurf yndi (yn hytrach nag ynddi) yn aml mewn barddoniaeth ddiweddarach gan y gynghanedd, e.e. GHDafi 36.30 Ni’m edwyn undyn yndi. Ond mae’n ddigon posibl mai cynrychioli ‘ynddi’ a wna yndi yma, gan mai d a ddefnyddiai’r ysgrifydd hwn am ‘dd’ yn rheolaidd ar ôl n, e.e. kyndelỽ ‘Cynddelw’.

13 amrawdd J 111 amraỽt (sy’n awgrymu ‘amrawd’), a ddeellir yn fai am amraỽd, gan ddilyn GPC Ar Lein d.g. amrawdd. Ceir y cyfuniad amrawdd amraint eto gan Gynddelw yn GCBM ii, 16.100 O amraỽd amreint diara (testun J 111), ac mae’r odl fewnol ar gyfer y gynghanedd sain yn ibid. 4.24 O’e amraỽt, gwarthulaỽt gorthorrynt (testun LlGC 6680B) yn cadarnhau’r terfyniad -awdd.

14 Mae’r atalnodi yn J 111 yn awgrymu i’r ysgrifydd ddehongli llau. 55–6 yn doddaid. Os felly, dyma fyddai’r unig doddaid yn y gerdd gyfan, a byddai’r dosbarthiad sillafau 11:5, yn lle’r 10:6 safonol, yn anarferol o safbwynt mydryddiaeth Cynddelw. Felly cymerir mai cyhydedd fer safonol sydd yma.

15 balchwyr … balchwyr J 111 balchwyr balchwyr. Cymerir bod y bardd yn ailadrodd yr un gair, y tro cyntaf i gyfeirio at y rhai dewr a amddiffynnai nodded Meifod, a’r eildro i gyfeirio’n fwy penodol at wŷr eglwysig Meifod. Posibilrwydd arall yw dilyn John Davies yn LlGC 4973B (sy’n tarddu’n anuniongyrchol o J 111), a dehongli’r ail balchwyr fel ‘balchwir’. O dderbyn hynny, gellid aralleirio ‘a’i gwŷr dewr a’i gwirionedd balch llawn’.

16 Mae’r llinell yn rhy hir, ac mae’n debygol yr yngenid offeiriad yn ddeusill (’ffeiriad).

17 A thân poen Cf. J 111 athan poen; o ddiwygio yn Affan poen, gyda GCBM i, 3.69, ceid cymeriad ar ddechrau’r llinell â ll. 68 Afflau a ll. 70 Uffern. Cyffredin yn y canu yw affan ‘artaith, dioddefaint’, c. (cf. GPC Ar Lein), yng nghyswllt uffern, cf. GCBM ii, 17.123–4 Yn uffern gethern / Yn affan poethuann; GMB 22.13–14 Yn taerdan aphann uffernaỽl / Vffern

18 porthloedd J 111 porthoed. Gan mai diweddar (16g./17g.) yw’r enghraifft gynharaf o porthoedd, ffurf luosog porth ‘mynedfa’, yn ôl tystiolaeth GPC Ar Lein (d.g. porth 2), derbynnir yma’r diwygiad a geir yn LlGC 4973B porthloedd; cf. ll. 195 porthloedd (J 111 porthloed), ac am enghreifftiau pellach o’r gair gan Gynddelw, gw. GCBM ii, 2.36, 4.146. Efallai i John Davies ddiwygio’r ffurf yn LlGC 4973B ar sail ystyr (gan fod enw unigol yma’n fwy tebygol), neu iddo ddilyn diwygiad gan Siôn Dafydd Rhys yn ei gopi coll o’r gerdd yn Pen 118 (gw. y nodyn ar y llawysgrifau).

19 ffyrf J 111 ffuryf. Dilynir HG Cref 179 a chymryd mai ffyrf ‘cadarn’, c., a fwriadwyd yma. Mae’r llinell yn fyr o sillaf, onid yngenid ffyryf yn ddeusill, neu ddiwygio’r llinell yn Uffern wern ffurf, ffyrf ei henaint, fel y gwneir yn GCBM i, 3.70, gan aralleirio ‘Ar lun cors uffern, cadarn ei henaint’.

20 Wyth prifwyd wyth prifwyth gymaint J 111 wyth p’f ỽythprif wyth p’fkymeint, sy’n amlwg yn wallus. Derbynnir y diwygiad a gynigir yn HG Cref 179 (ond gan dreiglo cymaint er mwyn yr ystyr; efallai fod darlleniad y llawysgrif yn dangos calediad g- > c- yn dilyn -th). Cyfosodir prifwyth a prifwyd eto yn GCBM ii, 17.42 Kyfyrdwyth kyfarfyrdwyth prifwyth prifwyd. Ceir treiglad meddal yn dilyn y rhifolyn wyth yn GMB 14.46 wyth bechaỽd, 24.36 Wyth brifwyt, a dyna’r drefn wreiddiol yn ôl TC 135. Ond y ffurf gysefin sy’n ei ddilyn yn GLlF 25.19 Wyth cad ac wyth cant ac wyth teulu taer, ac felly dilynir yma arweiniad y llawysgrif, yn hytrach na diwygio > Wyth brifwyd, wyth brifwyth.

21 minnau J 111 mimneu; canlyniad camgyfrif minimau.

22 cyn ni bwyf gywraint J 111 kynnybỽyf gywreint. Dilynir G 119, d.g. ke, a dehongli kynny yn gyfuniad o cy(d) ‘er’ a’r negydd ni; ymhellach ar cyn ni ‘although … not’, gw. GMW 235–6.

23 raddau J 111 radeu a allai gynrychioli raddau (ffurf dreigledig graddau) neu radau (ffurf dreigledig rhadau). Cymerir mai’r gyntaf sydd yma, a’r bardd yn disgrifio’r parch arbennig a ddangosid tuag ato yng ngwasanaethau Meifod. Ceir felly gynghanedd sain gyflawn yn y llinell. Ond gan mai cyffredin yn y canu yw cyfosod rhad a rhoddi yn eu hamrywiol ffurfiau, byddai Pylgeinau radau a’m rhoddir hefyd yn bosibl.

24 Berth J 111 beth; derbynnir diwygiad LlGC 4973B Berth, a ategir gan y cymeriad a gynhelir hyd l. 91.

25 wrth ei lleu J 111 ỽrth lleu. Dilynir awgrym HG Cref 179 gan ychwanegu’r rhagenw ei (llsgr. y) gan fod treiglad meddal yn arferol ar ôl yr arddodiad wrth (cf. CA ll. 138 wrth leu babir, a gw. TC 385). O blaid y gytsain gysefin hefyd mae’r cysteinedd rhwng lleu a llog a thrwy ychwanegu ei, sicrheir llinell o’r hyd cywir.

26 Mae’r llinell yn fyr o sillaf ac mae’n bosibl ei bod hi’n llwgr.

27 Pobl fyd yn ein gwŷd J 111 Pobyl vyd yn an gỽyd sydd, o ddilyn orgraff arferol J 111, yn awgrymu ‘Pobl fydd yn ein gwŷdd’. Er mwyn y synnwyr, dilynir HG Cref 35 a GCBM i, 3.99 gan ddehongli’r ddwy -d yn y llinell hon fel ‘d’, yn hytrach na ‘dd’.

28 ohonam Am awgrym mai ohonan oedd y darlleniad gwreiddiol yma, gw. Sims–Williams 2013: 12–13. Ond mae’r gynghanedd o blaid ohonam.

29 terrwyn J 111 terwyn. Mae’n odli’n fewnol â gwenwyn (-ŵyn), gw. n41(t).

30 Gwaith Cogwy LlGC 6680B Gweith cogwy; J 111 gỽeith gogỽy. Er bod enw priod gan amlaf yn treiglo yn dilyn gwaith ‘brwydr’ (e.e. GCBM i, 24.20 gweith Ueigen; GCBM ii, 1.40 Gweith Uadon), ceir ambell enghraifft o gadw’r gytsain gysefin (e.e. GCBM ii, 1.56 Gweith Brynn Dygannhwy; GDB 18.28 Gỽeith Canyscaỽl). Dilynir y llawysgrif hynaf yma. Sylwer hefyd na cheir y treiglad disgwyliedig i Gwaith yn y gystrawen ‘cyrchu lle’ yma, TC 227–8; ond am enghreifftiau o wrthsefyll treiglad ar ôl toriadau mydryddol ‘ar ganol llinell neu ar ddiwedd llinell’, gw. ibid. 196.

31 ym mhlaid LlGC 6680B ym pleid; nis ceir yn J 111, lle mae’r llinell yn fyr o ddeusill.

32 gyfwyrain J 111 kyfwyrein; fe’i treiglir yn dilyn yr ansoddair cyfrgain ‘gwych’ (er y rhoddai’r ffurf gysefin gynghanedd sain gyflawn).

33 yng nghyfrgoll J 111 ygkyrgoll. Cyfosodir cyfrgoll a cyfwyrain eto gan Gynddelw yn GCBM i, 17.3 O win kyuyrgein nyd kyuyrgoll.

34 tewdor ddôr J 111 tewdor tor a ddehonglir yn gyfuniad o ddau enw gyda dôr yn brif elfen, ac felly’n treiglo: yn llythrennol, ‘dôr amddiffynfa / dôr cadernid’. Profir y treiglad meddal i’r enw benywaidd ddôr gan y cytseinedd â’r ansoddair ddychlyn sy’n ei ddilyn. Ar batrwm yr ymadrodd tewdor ddôr ddychlyn, cf. ll. 182 tewdor ddôr ddiffryd, hefyd GCBM i, 16.93 teudor dor Dygen (= ‘tewdor ddôr Ddygen’).

35 Canfryn Fe’i dehonglir yn betrus yn enw lle (gw. n53(e)); ond fe’i rhennir yn ddau air yn J 111 can vrynn, ac felly gellid cymryd mai’r arddodiad can sydd yma gan aralleirio’r llinell: ‘Niferus oedd yr arwyddion o alar ar draws y bryn’ (disgrifiad o’r gyflafan ar y bryn yn dilyn brwydr Cogwy).

36 J 111 yngkynnif sarff unbyn; mae’r llinell yn fyr o ddeusill a derbynnir awgrym HG Cref 181 i’w hestyn drwy ychwanegu seirff oedd.

37 urdd enwawd LlGC 6680B urt ena[ ] gyda thoriad llinell yn dilyn yr a, cf. G 481 d.g. enwawt sy’n awgrymu mai urt e nawd yw’r darlleniad yno; J 111 vrd enwa6t. Gan fod enwawd yn unig enghraifft, awgrymwyd yn GCBM i, 3.158n y dylid darllen J 111 vrd enwaỽt fel urden waỽt, ar lun GCBM i, 21.2 Aỽdyl urten. Yn erbyn hynny mae’r ffaith fod bwlch hefyd yn dilyn urt yn y ddwy lawysgrif. Derbynnir yn betrus ddarlleniad J 111 yma; cf. G 32 d.g. anwawt. Gw. n68(e).

38 Feifod J 111 veinot; gwall am veiuot ‘Feifod’; cf. n4(t).

39 ofirain J 111 o virein, a dderbynnir yn ddau air yn HG Cref 37. Ceir gwell ystyr o gymryd mai ffurf dreigledig govirein sydd yma, yn cynnwys y rhagddodiad cryfhaol go- a ychwanegir at enwau ac ansoddeiriau. Ond ni chydnabyddir y ffurf hon yn GPC Ar Lein nac yn G 546.

40 Tremynt LlGC 6680B tremynt; J 111 teruyn. Ar tremynt ‘trem (y llygaid), golwg; trem, edrychiad, cipolwg, golygfa’, c., gw. GPC Ar Lein d.g. tremynt 1. Cyfeirio a wneir yma at Wyddfarch yn derbyn gweledigaeth o Rufain ym Meifod; gw. n70(e). O gymryd mai tremyn tec oedd darlleniad y gynsail (am y ffurfiau amrywiol tremynt a tremyn, gw. GPC Ar Lein d.g. tremynt 1), ceid odl fewnol yn y llinell.

41 terwyn J 111 terwyn. Ymddengys fod dau air cyfystyr, mwy neu lai, yn golygu ‘ffyrnig, tanbaid’, c.: terrwyn (yn odli ag -ŵyn) a terwyn (yn odli ag -yn), gw. GPC Ar Lein ac am drafodaeth bellach GMB 3.12n. Heb gymorth odl mae bron yn amhosibl dewis rhyngddynt (ymddengys mai canllaw simsan yw presenoldeb -rr- neu -r- yn y llawysgrifau). Awgryma’r odl fewnol â (g)wenwyn yn ll. 116 mai terrwyn sydd yno, ond ar sail y posibilrwydd mai tremyn tec oedd y darlleniad gwreiddiol ar ddechrau’r llinell hon (gw. n40(t)), cymerir bod terwyn yn fwy tebygol yma gan y rhoddai odl fewnol â tremyn.

42 â phechawd J 111 ae phechaỽt; ar sail ystyr derbynnir y diwygiad ae > a a geir yn LlGC 4973B (un ai gan ysgrifydd y llawysgrif honno, John Davies, neu gan ysgrifydd ei ffynhonnell, Siôn Dafydd Rhys, yn ei gopi coll ef o’r gerdd yn Pen 118).

43 ormoddbryd LlGC 6680B [ ]or mo[.]hbryd (mae’r llythrennau o[.]h yn aneglur, a gall mai e sydd yno nid o); J 111 ormodbryt. Ni chafwyd enghreifftiau eraill o meithbryd na mothbryd / moddbryd, felly derbynnir darlleniad J 111, gw. n77(e).

44 Pereidwawd Cf. J 111 pereit waỽt. Ni restrir peraid yn GPC Ar Lein, ond am y terfyniad ansoddeiriol -aid, gw. GPC Ar Lein d.g. -aid 2, a cf. ariannaid, honnaid, c. (Os gwall am pereid (‘peraidd’) yw pereit y llawysgrif, gellid cymryd mai pereiddwawd yw’r cyfuniad.)

45 hil Cf. LlGC 6680B hil; J 111 hir. Ar Brochfael, tad Tysilio, gw. n7(e).

46 Gradd ufel J 111 graduuel; cyfuniad afrywiog, yn llythrennol ‘llam fflam’ (ar gradd ‘cam, llam, naid’, gw. GPC Ar Lein d.g. gradd (2)). Os dylai gyflythrennu â greidiawl, gall mai gwall (neu amrywiad) yw graduuel am Gradifel, enw nawddsant plwyf Penmynydd, Môn, a adwaenid hefyd fel Llanredifael, WATU 174. Arno Gradifel, gw. LBS iii, 148–9. Ond nid yw’r cyfeiriad at y sant hwnnw’n synhwyrol yma ac nid yw’n sicr, ychwaith, mai at Benmynydd ym Môn y cyfeirir yn ll. 196.

47 hir LlGC 6680B hir; J 111 hyt. Defnyddir y cyfuniad hir ennyd eto gan Gynddelw yn GCBM ii, 17.46.

48 etewyn tanllyd LlGC 6680B etewyn ta[.]llyd (a’r ail e yn ansicr); J 111 etwyn canllyt. Mae angen etewyn ar gyfer yr ystyr a hyd y llinell.

49 I dyfu LlGC 6680B y dyfu; J 111 ydyfu: sef yr arddodiad i a ffurf dreigledig y berfenw tyfu. Ar ddefnydd yr arddodiad a’r berfenw yma, cf. CA ll. 63 dadyl diheu angheu y eu treidaw. Gellid hefyd ddeall dyfu yn ffurf trydydd unigol gorffennol dyfod, a ragflaenir ar ddechrau brawddeg gan y geiryn rhagferfol y (GMW 171), ond nid yw’r cwpled mor ystyrlon felly.

50 bu de, bu dybryd LlGC 6680B b[.] d[.] bu dybryd; J 111 dybu dybryt, sy’n peri i’r llinell fod yn fyr o sillaf.

51 porthes LlGC 6680B porthes; J 111 porthloes. Berf sydd ei hangen yma. Am enghraifft arall o’r cyfuniad porthi penyd, gw. GCBM ii, 18.79.

52 a gredws Duw LlGC 6680B a gredws duỽ; J 111 agredỽys y duỽ. Ceir odl fewnol a chynghanedd sain o dderbyn darlleniad LlGC 6680B, yn ogystal â’r nifer cywir o sillafau. Am ddosbarthiad y terfyniad -wys / -ws yn y farddoniaeth, gw. Rodway 2013: 128–53 ac ibid. 137 lle awgrymir mai -ws oedd y terfyniad gwreiddiol ac mai datblygiad diweddarach arno oedd -wys.

53 Creded bawb i Bair LlGC 6680B Creded paub i beir; J 111 cretet baỽp y peir. Mae’n bosibl nad oedd y gynsail yn dangos treiglad yn rheolaidd, ac mai ymdrechion y ddau ysgrifydd i ddiweddaru orgraff y gynsail a welir yma. (Cf. y duedd a welir yn Llyfr Du Caerfyrddin i beidio â dangos treiglad rhai cytseiniaid di-lais, e.e. LlDC 37.1 ar claur yn cyfateb i LlGC 6680B am glaỽr.) Ar sail yr egwyddor a nodir gan T.J. Morgan, cymerir mai ffurfiau treigledig y goddrych (pawb) a’r gwrthrych anuniongyrchol (pair) sydd eu hangen yma: TC 185, ‘Gellir bod yn weddol sicr o un peth: lle ceir treiglad wedi ei nodi gellir casglu’n weddol hyderus (ar wahân i ambell wall copïo) mai hynny oedd y gystrawen a fwriadai’r copïwr …’ Rhydd hyn gyfatebiaeth gytseiniol ar ganol y llinell. Sylwer mai treiglo’r goddrych a wneir hefyd yn ll. 41 Cared bawb, ac yn GMB 32.25 Credet baỽp y Duỽ a cf. TC 211–12 lle nodir mai treiglo’r goddrych oedd yn arferol yn wreiddiol ar ôl berf trydydd unigol gorchmynnol yn terfynu yn -ed (ac awgryma ddiwygio paub > baub yn LlGC 6680B yma).

54 Rhebydd LlGC 6680B rebyt; J 111 rybyd. Ffurfiau amrywiol ar yr un gair yw’r rhain (GPC Ar Lein d.g. rhebydd) a’r ffurf rhybydd o bosibl yn ffrwyth cymathiad e..y > y..y.

55 Credaf-i Cf. llau. 207, 209. Gan fod llinellau Cynddelw yn rheolaidd iawn o ran nifer sillafau, cymerir bod y rhagenw ategol yma’n ansillafog (oni bai bod reen y llawysgrif yn air unsill, Rhên). Ar ddefnydd rhagenwau ôl yng nghanu Beirdd y Tywysogion, a’r cwestiwn a ddylid eu cynnwys yn y mydr / cyfrif sillafau, neu beidio, gw. n10(t).

56 Mae’r llinell yn fyr o ddwy sillaf yn J 111 mat gynnull maỽrweryd ond yn gywir yn LlGC 6680B.

57 Bost LlGC 6680B bost; J 111 post. Cf. ll. 209 lle ceir LlGC 6680B beryf ond J 111 peryf. Gw. ymhellach n53(t).

58 thraethadurion LlGC 6680B a J 111 traethaduryon; o adfer y treiglad llaes, fel y gwneir yn GCBM i, 6.222, cryfheir y cytseinedd.

59 Ei sygynnab J 111 y sygynuab; mae’n aneglur iawn yn LlGC 6680B. Am y cymysgu rhwng u ac n yn J 111, gw. n4(t). Ar darddiad sygynnab a’i ystyr, gw. n94(e). Gwrthodir, felly, awgrym HG Cref 39 a G 247 i ddarllen Ysy gynuab.

60 Caraf-i Ar y rhagenw ategol i a gaiff ei eithrio yma o hyd y llinell, gw. n55(t) ar Credaf-i.

61 olud LlGC 6680B olut; J 111 olud. Mae orgraff arferol y ddwy lawysgrif yn awgrymu ‘(g)oludd’, a rhoddai hynny ystyr dderbyniol petai modd aralleirio ‘un sy’n osgoi cerydd am rwystro gwleddoedd’, ond anodd gweld sut mae’r ystyr ‘am’ yn cael ei chyfleu yma. Gan hynny cymerir mai darllen ‘(g)olud’ sydd orau. Gyda chyfosod golaith a golud yn y llinell hon, cf. yn arbennig GCBM i, 21.29 Py uyt cart oleith, olud angkraỽn?

62 am geinion LlGC 6680B am [ ]y[.]n (a’r am ar ddiwedd llinell ac arwydd // yn dynodi gair wedi ei hollti); J 111 amgeinyon. Ni nodir amgeinion yn GPC Ar Lein fel ffurf luosog amgen, ac felly cymerir mai’r arddodiad am sydd yma yn cael ei ddilyn gan yr enw ceinion ‘y ddiod gyntaf a’r orau a ddygid i’r neuadd’ (ibid. d.g. cain 1).

63 derrwyn LlGC 6680B derrwynn; J 111 terỽyn. Dilynir LlGC 6680B o ran y treiglad, ac am y ffurf, gw. n41(t).

64 engylion LlGC 6680B egylyon; J 111 eglynnyon. Gwall amlwg yn J 111 gan mai sôn am yr olygfa nefol a wneir.

65 gwleidiadon Cf. LlGC 6680B gỽleidyadon sy’n awgrymu ‘gwleidiadon’; J 111 gỽleityadon sy’n awgrymu ‘gwleidiaddon’. Mae’r ddwy ffurf yn ddilys, gw. GPC Ar Lein d.g. gwleidiaddon, gwleidiadon, gwleiddiadon; dilynir y llawysgrif hynaf.

66 worchorddion LlGC 6680B worchortyon; J 111 worthordyon (lle ceir t am c).