Dewis nodiadau:
Cyfieithiad:

1. Canu i Gadfan

golygwyd gan Ann Parry Owen

Awdl chwe chaniad o fawl i Gadfan gan Lywelyn Fardd; fe’i canwyd c.1150, yn Nhywyn, Meirionnydd, yn ôl pob tebyg.

[LlGC 6680B →]
I
Gwerthefin Dewin, Duw1 Gwerthefin Dewin, Duw Dilynir HG Cref 84 o ran yr atalnodi, a’r llinell felly’n ymrannu’n 5:4 sillaf, fel sy’n arferol yng nghyhydeddau nawban y bardd: gw. Mesur a Chynghanedd. Gthg. GLlF 1.1 (fersiwn orgraff ddiweddar) Gwerthefin Ddewin Dduw, sy’n sicrhau’r cytseinedd Dd- Dd- ar ganol y llinell ar ôl treiglo Dewin ar ôl yr ansoddair gwerthefin. Ar galediad dd > d yn dilyn -n derfynol, gw. TC 26–7. Am yr ymadrodd Duw i’m gwared, cf. GCBM i, 21.147. i’m gwared,
Gwyrthfawr 2 Gwyrthfawr LlGC 6680B gwerthuaỽr. Awgrymir yn G 750 fod peth drysu rhwng gwerthfawr a gwyrthfawr yn y llawysgrifau, ac y dylid dehongli rhai enghreifftiau o gwerthuaỽr fel ‘gwyrthfawr’. Efallai mai amwysedd orgraff yn y gynsail a oedd yn gyfrifol am y drysu. Ar batrwm DewiGB ll. 217 Gwyrthfawr (llsgr. gwyrthuaỽr) briodawr, cymerir mai gwyrthfawr sydd yma; cf. GLlF 6.43 Dewin gwertheuin, gwerthuaỽr (orgraff ddiweddar ‘gwyrthfawr’), ond gthg. ibid. 22.3 Duw gwerthfawr (orgraff ddiweddar ‘gwerthfawr’), Gwerthefin. Briodawr, Gwawr gwaredred:
Wrth ei fodd 3 fodd LlGC 6680B uot (-t = ‘dd’, gan ddilyn orgraff arferol yr ysgrifydd). Cymerir mai’r cyfuniad wrth fodd sydd yma, gan ddilyn G 69; gthg. GLlF 1.3 sy’n dehongli uot yn ffurf dreigledig y berfenw bod, gan aralleirio cymal cyntaf ll. 3 fel ‘Gan ei fod yn Rheolwr arnaf’. i’m Rhwyf,1 Rhwyf ‘Pennaeth’, cf. GPC d.g. rhwyf1. Dilynir GLlF 3.3 a’i ddeall yn gyfeiriad at Dduw, ond gallai hefyd gyfeirio un ai at Gadfan neu ryw bennaeth cyfoes (boed yn bennaeth eglwysig yn Nhywyn neu’n arglwydd secwlar), yn yr ystyr fod yr awen a dderbynia’r bardd gan Dduw yn rhoi pleser i’r pennaeth hwnnw. a’m rhodded – awen,
Awdl deg dynghedfen, amgen ymgred.
5Amgyrwyf 4 Amgyrwyf Yn G 22 fe’i diffinnir fel cyntaf unigol presennol mynegol y ferf gyflawn ac anghyflawn amgyrfod ‘chwenychu, dymuno’; berf anghyflawn yw hi yma gyda caru canu yn wrthrych, cf. HG Cref 233; GLlF 1.5. (Gthg. GPC sy’n ei diffinio fel berf gyflawn yn unig.) Treiglir y gwrthrych yn GLlF 1.5 (fersiwn orgraff ddiweddar, Amgyrwyf garu), ond derbynnir yma ffurf gysefin y gwrthrych fel y’i ceir yn y llawysgrif, cf. GLlLl 26.136 Y’th ganmaỽl ny gannwyf goruod, lle ceir cysefin y gwrthrych yn dilyn cannwyf (ᚲ canfod). caru,2 caru Fel yn achos y ferf hoffi ‘moli’ (gw. Williams 1923–5: 39–41), defnyddiai’r beirdd caru weithiau am eu canu mawl. canu canrhed,3 canrhed Fe’i deellir yn yr ystyr ‘cynhorthwy, nodded’ a roddir yn GPC, yn gyfeiriad at y sant, neu o bosibl at bennaeth cyfoes; cf. ei ddefnydd gan Gynddelw am Dduw yn GCBM ii, 16.190 Canret cret, creuyd a’m rodỽy, ac ibid. 17.96. Nid amhosibl ychwaith yr ystyr ‘cymuned’ a roddir yn GLlF 1.5 (aralleiriad), ac a roddir hefyd yn GPC; cf. cyfieithiad y llinell yn McKenna 2015: 273 ‘I love the song of community’.
Can am rhoddes fy Rhên rheg 5 rheg LlGC 6680B rec, gydag r yn cynrychioli ‘r’ neu ‘rh’ yn orgraff y llawysgrif. Er mai treiglo’r gwrthrych sy’n arferol bellach mewn brawddeg yn dilyn y patrwm berf + goddrych + gwrthrych, nid oedd cysondeb mewn Cymraeg Canol, fel y dangosir yn TC 196. Ceir yr un patrwm cystrawennol yn llau. 7, 18, 19, 40, 61, 74, 123, gyda’r orgraff yn llau. 18, 74 a 123 yn cadarnhau mai cysefin y gwrthrych sy’n arferol gan Lywelyn Fardd. Gan hynny, cedwir cysefin y gwrthrych yn yr achosion lle nad yw’r orgraff o gymorth (h.y. pan fo’r gair yn dechrau â d- neu r- yn y llawysgrif) ac mae’r gyfatebiaeth gytseiniol ar ganol llinell yn cadarnhau hyn ymron pob achos. eidduned, 6 Mae’r llinell yn hir o sillaf a disgwylid i’r sillaf(au) ychwanegol fod yn ail hanner y llinell (gw. Mesur a Chynghanedd). O gywasgu Can am rhoddes yn deirsill (Can’m rhoddes) ceid llinell yn ymrannu’n rheolaidd yn 5:4 sillaf. (Am ffurf lafarog y rhagenw mewnol yn dilyn can, gw. GMW 56.) Er hynny, rhaid cymryd bod am yn cynnal sillaf yn ll. 7, fel arall syrthia’r rhagwant yn chwithig ar dogn yn hytrach nag ar Dofydd.
Can am rhydd Dofydd dogn foddhäed – i’m rhan 7 Fel yn achos sawl toddaid yn y gerdd hon, mae ail hanner y llinell gyntaf yn rhy hir o sillaf. Gan amlaf mae modd cywasgu (e.e. ll. 15 Duw ym > Duw ’m), ond nid felly yma, oni ellir cyfrif foddhäed yn ddeusill ar gyfer hyd y llinell ac yn deirsill ar gyfer yr odl.
I foli Cadfan, cedwyr nodded.4 cedwyr nodded Mae’r bardd yn llau. 8–14 yn chwarae ar yr elfen cad- yn enw Cadfan, ac mae’n bosibl mai yn sgil ei enw y daethpwyd i’w ystyried yn nawddsant milwyr yn benodol: gw. ymhellach y Rhagymadrodd.
Cedwis gwir ei dir a’i deÿrnged,
10Cedwis gŵr arwr arwymp drefred;
Cedwis Duw urddas, yn ŵr ac yn was,
I fab Eneas,5 Eneas Ceir ach Cadfan yn ‘Bonedd y Saint’: Catuan sant m. Eneas ledewic o Lydaw , a Gwenn teirbron merch Emyr Llydaw y vam (EWGT 57); gw. ymhellach y Rhagymadrodd. eurwas fyged;
Cedwir6 cedwir Fe’i deellir yn ansoddair cyfansawdd (ced + gwir) yn ddisgrifiad o Gadfan (y nen) y mae ei fendithion yn sicr i’w ddilynwyr. Ond fel berf amhersonol y’i deellir yn GLlF 1.13, ac ni restrir yr ansoddair yn GPC. nen, fab Gwen,7 Gwen Gwen Teirbron, mam Cadfan a merch Emyr Llydaw, gw. n26(e). Am ei chwlt yn Llydaw, gw. Jones and Owen 2003: 47–8. a fad weled:8 a fad weled Cyfeiriad at sancteiddrwydd Cadfan (cf. DewiGB ll. 210 Dewi mawr Mynyw, mad y’i gweled), neu at y ffaith fod y sawl a’i gwelai yn ‘ffodus’ (mad).
Cadwent nerthnawd nerth 8 nerth Dilynir GLlF 1.14; gthg. HG Cref 84 uerth. Ni ellir bod yn hyderus o blaid y naill ddarlleniad na’r llall gan mor debyg yw u ac n i’w gilydd yn y llawysgrif. a’m canherthed!
15Poed canhorthwy Duw ym, 9 Duw ym O’u cywasgu’n unsill (Duw ’m) ymranna’r llinell yn rheolaidd yn 5:5 sillaf. Tybed ai Dwy, ffurf amrywiol ar Duw (gw. GPC d.g. duw 1), a geid yma’n wreiddiol? Rhoddai hynny gynghanedd sain, gyda Dwy yn cynnal yr ail odl yn y rhagwant. Byddai newid Duw yn Dwy hefyd yn cryfhau’r gynghanedd yn ll. 95 Moladwy un Duw, un diffyniad a ll. 133 Ar a fynnwy Duw, nid egrygi dyhudded 10 dyhudded Mae cytsain gyntaf LlGC 6680B dyhuted yn ansicr oherwydd defnyddir d ar ddechrau gair am ‘d’ neu ‘dd’. Yn GLlF 1.15 darllenir ddyhudded, gan dreiglo’r enw sy’n dilyn ym ‘i mi’, cf. GMB 27.107 Menhid ym gyrreiuyeint. O gadw cysefin yr enw, ceir cyflythreniad angenrheidiol ar ganol y llinell rhwng Duw a dyhudded. Am enghreifftiau o gadw’r cysefin yn dilyn yr arddodiad ym, cf. GMB 29.20 Wedy kymynnu ym kymhenrwyt; GBF 26.9 Goreu kyrchlam ym cyrchu ataỽ. – anian,
Ennysg ddysg ddiddan, wahan weithred,
I wneuthur llafur ni bo9 ni bo Am ni bo, yn lle’r ni fo disgwyliedig mewn cymal perthynol (a chymryd mai dyna’r dehongliad cywir), gw. G 67. lludded
Myn na llefais 11 llefais LlGC 6680B lleueir, a dderbynnir yn HG Cref 84, heb esboniad. Ymddengys lleueir yn drydydd unigol presennol mynegol y ferf llefaru (GMW 116); ond nid yw’r ferf honno’n synhwyrol yma, a gwell diwygio, gyda GLlF 1.19n a G 464 d.g. eissywet, a deall y llinell yn un o gyfres o linellau yn cynnwys ffurf ar y ferf llafasu ‘to dare, venture’ (cf. llau. 18, 21, 22). trais trasglwy10 trasglwy Unig enghraifft, a gysylltir yn GLlF 1.18n â trawsgwydd / trawsglwydd a drafodir yn PKM 256–7; cf. GLlF 2.34 traỽsglỽyd uỽyhaf. Ar ystod ei ystyron, gw. GPC d.g. trawsglwydd, trawsgwydd ‘cynllun, bwriad, … ymgymeriad, darpariaeth’. Deellir trasglwy fyned yn gyfuniad, gyda trasglwy yn goleddfu’r berfenw. Posibilrwydd arall fyddai cymryd, gyda GLlF, fod trasglwy yn cyfuno â trais: ‘cynllwyn trais’. fyned,
Myn na llefais dyn dwyn 12 llefais dyn dwyn Treiglo’r gwrthrych, ddwyn, a wneir yn GLlF 1.19, ond o gadw’r gytsain gysefin ceir cyfatebiaeth braidd gyffwrdd rhyngddo a dyn yng nghanol y llinell. Gw. n5(t) ar rheg. eisiwed – o’r llan
20Ger glan glas dylan 13 glas dylan O gymryd bod calediad dd > d yn dilyn -s (cf. nos dda > nos da), ceir cynghanedd sain yn y llinell. o’i dylyed,
Men na llefesir dir o’i daered,11 Llinell anodd i’w chyfieithu, er bod yr ystyr yn weddol amlwg, cf. HG Cref 234 ‘Tybiaf mai ystyr y llinell yw na feiddir … dwyn dim o eiddo’r eglwys drwy drais.’ Deellir dir yn enw, ac ar daered, ‘dyled gyfreithiol (benodol), arian a delid gan y taeogion i’r brenin gyda’r dawnbwyd neu yn ei le, teyrnged, treth … cymynrodd i’r eglwys’, c., gw. GPC d.g. daered 1.
Men y llafasaf oes ddarymred.
Tair allawr gwyrthfawr gwyrthau glywed12 gwyrthau glywed Rhagflaenir y berfenw (clywed) gan ei wrthrych (gwyrthau), a goleddfa’r cyfuniad tair allawr gwyrthfawr. Aralleirir yn llac. Ar y diffyg treiglad i’r ansoddair, gwyrthfawr, yn dilyn rhifol + enw benywaidd, gw. TC 64–5. – ysydd 14 ysydd LlGC 6680B yssy; ychwanegir yr dd derfynol yn hyderus, gan fod y gair cyrch yn odli’n rheolaidd â’r bumed sillaf yn ail linell toddeidiau’r gerdd hon (ysydd / … gorwydd). Gellid darllen sydd er mwyn arbed sillaf, fel yn ll. 95 a cf. ll. 91 (lle byddai darllen ’sy yn lle ysy eto’n rhoi’r nifer safonol o sillafau).
Rhwng môr a gorwydd a gwrdd lanwed:13 gwrdd lanwed Cyfeiriad, yn ôl pob tebyg, at y llanw pwerus yn aber Dysynni a oedd yn nes at eglwys Tywyn yn yr Oesoedd Canol, cyn i deulu Corbet, Ynysymaengwyn, ddraenio llawer o’r morfa yn y 18g.; gw. Gover 2015: 30, ‘It was not until the draining of the marshes in the 18th century that the fields we see now to the north of the church were created. In the 12th century the whole area would have been covered at high tide … The church on its small mound would have towered above it’; cf. n64(e), n66(e).
25Allawr Fair o’r Pair, hygrair hygred;
Allawr Bedr i’w fedr yd yr folhed; 15 yd yr folhed LlGC 6680B ydyruolhed; cf. ll. 36 yd yr lunhied (LlGC 6680B ydyrlunhyed). Gweler trafodaeth gynhwysfawr McKenna 1990: 267–72 ar y ddwy ffurf ferfol hyn ac ar natur y ddau eiryn rhagferfol sy’n eu blaenori. Derbynnir yr awgrym yno i’w dehongli’n ferfau amhersonol amherffaith dibynnol, a’r geiryn yr (ᚲ ry) yn rhoi i’r naill, ll. 26, rym dymuniad (‘optative’) ac i’r llall, ll. 36, rym berf orberffaith, gw. ibid. 270. Esbonnir mai’r modd dibynnol sy’n cyfrif am yr -h- ar ddiwedd bonau’r berfau, a chedwir hwy yn y testun, gan y byddent yn effeithio’r ynganiad (fel y gwelir o’r ffaith fod yr h yn achosi calediad mewn bonau berfol sy’n diweddu â chytsain leisiol, gw. GMW 128–9).
A’r drydedd allawr14 a’r drydedd allawr Allor Cadfan, er nas henwir. a anllofed – o nef,
Gwyn ei fyd ei thref15 gwyn ei fyd ei thref Gan mai enw benywaidd yw tref bron yn ddieithriad (gw. GPC), disgwylid gwyn ei byd yma, fel yn LlDC 15.1 Gwin y bid hi y vedwen in diffrin guy. Ond am enghreifftiau eraill o’r ymadrodd gwyn ei fyd yn golygu ‘gwynfydedig’, a’r rhagenw wedi colli ei rym, gw. G 743 a cf. GLlG 3.15–16 Gwyn ei fyd feirdd byd / Gwyn ei fyd anant. gan ei thrwydded.
Gwyn ei fyd a fydd o foddhäed
30Men y trig gwledig gwlad Ednywed;16 gwlad Ednywed Dilynir GLlF 1.30n a’i ddeall yn ddisgrifiad o Feirionnydd fel gwlad Ednywed/Ednyfed fab Einudd, disgynnydd i Feirion Meirionnydd, sylfaenydd y cantref, gw. EWGT 108; WCD dan Ednyfed ab Einudd. Er mai cyffredin yn y farddoniaeth yw cyfeirio at ardal fel gwlad ei sylfaenydd (cf. disgrifiad Cynddelw o Bowys, GCBM i, 15.14 Gwlad Urochfael Ysgithraỽc), ni chafwyd enghraifft arall o ddisgrifio Meirionnydd fel gwlad Ednywed/Ednyfed nac ychwaith o’r enw Ednyfed ab Einudd yn y farddoniaeth. Felly ni ellir diystyru awgrym G 439 i’w ddeall yn unig enghraifft o enw cyffredin ednywed ‘bodlonrwydd, boddhad; dymuniad, dyhead’ (cf. HG Cref 85): ‘Gellir efallai gydio ednywet wrth fôn ernyw, ernywet, ernywyant, ond gellir hefyd dybio *ednyw: adneu, ac yna adffuriant o hwnnw.’ Ni chynhwyswyd ednywed yn GPC. 16 Ednywed LlGC 6680B ednywed; gthg. GLlF 1.30 lle diwygir darlleniad y llawysgrif yn Ednyued ‘Ednyfed’. Roedd ‘w’ ac ‘f’ yn nes at ei gilydd o ran sain mewn Cymraeg Canol nag y maent heddiw, felly cadwyd ffurf y llawysgrif. Yn anffodus, daw’r ffurf ar ddiwedd y llinell ac mae’r gynghanedd yn bengoll.
Gwyn ei fyd ei fryd a fawrhäed – yndi,17 Os derbynnir bod trefn naturiol y frawddeg wedi ei newid, gellid hefyd aralleirio ‘dedwydd fydd y sawl y mawrygwyd ei feddwl ynddi’. 17 yndi LlGC 6680B yndi; trydydd unigol benywaidd yr arddodiad yn, cf. llau. 103, 150 a gw. Sims-Williams 2013: 46 et passim. Profir y ffurf yn aml yn y farddoniaeth ddiweddarach gan y gynghanedd, e.e. GHDafi 36.30 Ni’m edwyn undyn yndi. (Nid yw’r orgraff o gymorth yma, oherwydd gallai yndi hefyd gynrychioli ‘ynddi’, gan mai d a ddefnyddiai’r ysgrifydd hwn am ‘dd’ yn rheolaidd ar ôl n, cf. kyndelỽ ‘Cynddelw’, c.)
Fal eglwys Dewi18 eglwys Dewi Fel y nodir yn GLlF 1.32n, ni ellir bod yn sicr at ba un o eglwysi Dewi y cyfeirir – ai Tyddewi, Llanddewibrefi neu hyd yn oed at ryw Landdewi arall. Ond awgrymir bod yr eglwys honno’n un fawreddog a bod eglwys Cadfan yn debyg iddi. 18 eglwys Dewi Ceir yma galediad Dd > D yn dilyn -s derfynol, ac felly gysteinedd rhwng Dewi a digoned. y’i digoned:
Eglwys gadr Gadfan, gan gynweled,
Eglwys wen wyngalch falch wynhäed,19 Cf. y disgrifiad enwog yn Historia Gruffudd ap Cynan o eglwysi newydd Gwynedd, a godwyd yn oes Gruffudd ap Cynan (m. 1137), yn disgleirio fel sêr: HGK 30.17–18 echtywynygu a wnei Wynedd yna o eglwysseu kalcheit, fal y ffurfafen o’r syr. 19 wyngalch falch wynhäed LlGC 6680B wyngalch wynhaed. Mae ychwanegu falch, gan ddilyn GPC d.g. gwynhaed, yn rhoi llinell fydryddol safonol. Posibilrwydd arall yw dilyn HG Cref 234 ac ychwanegu’r rhagenw perthynol (a wynhäed).
35Eglwys ffydd a chrefydd a chred – a chymun
Fal wrth20 wrth Nid yw ei union ystyr yn eglur; ond gw. GPC d.g. wrth (2) ‘oherwydd’, ‘mewn ymateb i’, ‘er mwyn’, ‘ar ran, dros’, c. Dduw ei 20 ei LlGC 6680B eu, gwall am y neu e (gan mai at Dduw y cyfeirir); gthg. GLlF 1.36 sy’n darllen cu yn y llawysgrif. hun yd yr lunhied! 21 yd yr lunhied Gw. n15(t).

II
Lluniwys 22 Lluniwys O ddiwygio yn lluniws ceid odl fewnol â Ddëws, a chynghanedd sain yn y llinell (Lluniws i Ddëws, ddewis ), fel a geir yn gyffredin yn llinellau cyntaf toddeidiau’r awdl hon; cf. n42(t) ar rhannwys. Ai’r terfyniad -ws a geid yn wreiddiol gan y bardd, ac a ddiweddarwyd ef yn -wys wrth gopïo’r gerdd? Ar ddosbarthiad a datblygiad y terfyniadau gorffennol -wys/-ws mewn Cymraeg Canol, gw. Rodway 2013: 128–53. ei Ddëws ddewis edrydd 23 edrydd LlGC 6680B edryd; am enghraifft arall o -d am ‘dd’ mewn safle derfynol yn y gerdd hon, cf. n59(t) rhagddudd (llsgr. racdud) a brofir gan y brifodl. Tybed a geid -d am ‘dd’ derfynol yn orgraff y ffynhonnell? – iddaw
Pan ddoeth o Lydaw ar lydw21 ar lydw Dilynir GLlF 1.37 a deall yr arddodiad ar yn yr ystyr ‘[yn ben] ar’. Cyfeirio a wneir yma at y traddodiad fod Cadfan wedi dod i Dywyn o Lydaw, yn bennaeth ar fintai o saint (a oedd gan mwyaf yn gefndryd iddo); gw. y Rhagymadrodd. bedydd.
Bendigedig fab ni faeth cerydd,22 ni faeth cerydd Cysefin y gwrthrych a geir hefyd ar ôl y ferf trydydd unigol gorffennol maeth hefyd yn GDB 3.21 Ny maeth bygylaeth; erbyn y 14g., roedd treiglo’n fwy arferol, cf. GGMD ii, 1.167 ni faeth gaeth gythrudd.
40Ys bendico Duw dwywawl 24 dwywawl Cedwir cysefin y gwrthrych yma ( dwywawl weinydd), yn dilyn yr orffwysfa ar ganol y llinell, er mwyn y gyfatebiaeth ganol llinell (⁠ Duw dwywawl); cf. n5(t) ar rheg. weinydd:
Bendith naw radd nef23 naw radd nef Naw gradd angylion y nefoedd, gw. GPC d.g. nawradd a GP 199. yn ei drefydd,
Bendigedig fro fraint gynhewydd.24 cynhewydd Dyma’r unig enghraifft o’r gair nad yw mewn geiriadur. Fe’i diffinnir yn Davies 1632: d.g. fel ‘qui tacet, taciturnus’, gan gydio’r bôn wrth y ferf cynhewi (ᚲ tewi), cf. GPC ‘?Gostegwr; gŵr distaw’. Felly hefyd G 250, ond gan awgrymu y gellid ystyr wahanol o’i gydio wrth yr ansoddair tew. Yn betrus fe’i deellir yma yn ddisgrifiad o Gadfan fel un sy’n ‘tawelu’ ei bobl, yn dod â thawelwch meddwl iddynt.
Bendigaid a daith o’i gyweithydd25 Bendigaid a daith o’i gyweithydd Cyfeiriad arall at y traddodiad fod Cadfan wedi dod i Gymru o Lydaw, yn bennaeth ar fintai o saint, gw. n21(e) a’r Rhagymadrodd. Ar o’i ‘i’w’, gw. GMW 53.
Pan ddoeth i’r cyfoeth, beunoeth beunydd,
45Pan ddyfu chwant syllu ar esillydd – Ymer26 esillydd – Ymer Disgrifiad o Gadfan fel disgynnydd (esillydd) i’w daid, Emyr Llydaw, tad ei fam, Gwen Teirbron: gw. n7(e). Dangoswyd mai enw cyffredin oedd ymyr, emyr (o’r Lladin imperium neu imperator) yn y cyfuniad emyr Llydaw, a bod emyr wedi ei gamddehongli’n enw priod (Lloyd-Jones 1941–4: 34–6).
Aber Menwenfer,27 Aber Menwenfer Neu o bosibl Aber Menwenwer (cf. LlGC 6680B aber menwener, a’r prif ysgrifydd wedi ychwanegu’r ). Yn HG Cref 234 awgrymir diwygio yn menver gan gymharu’r enw â Minwear yn Arberth ym Mhenfro, y ceid iddo ffurfiau megis Minuer a Mynwer yn yr Oesoedd Canol; cf. ymhellach Charles 1992: 526–7 lle awgrymir y gall mai min + gwern yw’r elfennau, felly ‘ymyl tir corsiog’. (Yn erbyn y diwygiad mae’r ffaith na fyddai’r bumed sillaf yn y llinell yn cynnig odl â’r gair cyrch yn ll. 45, patrwm sy’n gwbl reolaidd trwy’r gerdd hon.) Dehonglir Aber Menwenỽer yn enw lle hefyd yn GLlF 1.46, ond heb esboniad. Fel enw cyffredin y’i nodir yn G 5. Mae’n debygol mai at aber Dysynni y cyfeirir, fel yr awgryma Lewis 2005: 50–1 (ac ibid. troednodyn 29), ond mae’r ffurf yn anhysbys ac ni chafwyd unrhyw oleuni yn Archif MR. Fel y gwelwyd uchod, n13(e), roedd aber afon Dysynni yn nes at Dywyn yn yr Oesoedd Canol; a gollwyd yr enw wrth i’r aber newid safle?
Ceir yn y cwpled hwn enghraifft ddiddorol o ymdeimlad â thirwedd yn yr Oesoedd Canol. Gwahanol iawn oedd profiadau Tydecho, a ddaeth o Lydaw yng nghwmni Cadfan. Setlodd ef yn Llandudoch i ddechrau, ond ar ôl diflasu ar y môr (Ni charai / Y môr llwyd), symudodd i Fawddwy: gw. TydechoDLl llau. 7–18. Cawn yr argraff fod chwedloniaeth am y cwmni hwn o saint yn yr Oesoedd Canol, ond ysywaeth briwsion sydd ar ôl erbyn hyn.
ucher echwydd. 25 LlGC 6680B pan dyfu chwant syllu / ar essillyt. ymher aber menwener ucher echwyt. Dwy linell broblematig. Fe’u dehonglir yn doddaid, cf. GLlF 3.45–6, ond efallai mai cwpled o gyhydedd nawban sydd yma, fel y’u dehonglwyd yn HG Cref 85, lle rhoddir ymher ar ddechrau ll. 46. Crynhoir y dadleuon yn GLlF 3.45–6n. Mae ll. 45, fel y saif, yn 12 sillaf, yn hwy na’r 10 neu 11 sillaf sy’n arferol yn y gerdd hon, ac anarferol hefyd yw’r modd y mae ail odl y gynghanedd sain yn ll. 45 yn syrthio ar y chweched, yn hytrach na’r bumed sillaf. Go brin y gellid cyfiawnhau diwygio dyfu > fu, na dilyn awgrym G 463 a dileu chwant, ac felly gadewir y toddaid fel y mae.

Uchelwawd 26 Uchelwawd LlGC 6680B uchel waỽd; cf. ll. 48 Uchelfardd (llsgr. ucheluart) a ll. 49 Uchelwlad (llsgr. uchelwlad). Yn aml mae’n anodd gwybod pa mor arwyddocaol yw bylchau neu ddiffyg bylchau rhwng elfennau yn y llawysgrif, ond ceir cymeriad cynganeddol o adfer Uchelwawd, a’r un aceniad â ll. 48. yw hon i Feirionnydd,
Uchelfardd a’i pryd fegys prydydd:28 Uchelfardd a’i pryd fegys prydydd ‘Llunio’ neu ‘gyfansoddi’ yw ystyr y ferf prydu yma, a’r gwrthrych yw Uchelwawd (ll. 47). Wrth honni ei fod yn cyfansoddi fegys prydydd a yw Llywelyn Fardd yn awgrymu nad prydydd mohono? Cofier mai Llywelyn Fardd oedd ei enw; gthg. Cynddelw Brydydd Mawr. Cynghanedd draws wreiddgoll sydd yma, gyda’r elfen wreiddgoll (Uchelfardd) yn cynnal cymeriad â llau. 47 a 49.
Uchelwlad Gadfan myn yd gydfydd
50Breswyl29 preswyl Awgryma’r ansoddair fod yr Efengyl wastad ar gael (GPC ‘parod, wrth law’). Gallai ufyl ofydd fod yn gyfeiriad at Gadfan, neu at bennaeth cyfoes yr eglwys – dichon fod yr amwysedd yn fwriadol. Efengyl 27 Breswyl Efengyl LlGC 6680B bresswyl uchel euengyl, gyda llinell ddileu ysgafn drwy uchel (a’r ysgrifydd, yn ôl pob tebyg, wedi bwriadu rhoi llinell goch trwyddo yn ddiweddarach ar ôl newid ei inc, cf. y llinell ddileu goch drom sydd trwy a uo yn f. 20r, ll. 12). Cymerir mai cwpled o gyhydedd naw ban sydd yma; gthg. GLlF sy’n ei osod fel toddaid sydd gan ychwanegu uchel: Uchelwlad Gaduann mynd yd gyduyt bresswyl / Uchel euegyl uỽyl ouyt (cf. HG Cref 85), gan nodi ‘Ceir gwell synnwyr … o drafod bresswyl fel gair cyrch mewn Toddaid ac o roi uchel ar ddechrau’r ll., gan estyn felly gymeriad llythr. y darn’. Rhaid gwrthod hynny, gan fod y gair cyrch yn odli’n gwbl reolaidd â phumed sillaf y llinell ddilynol yn nhoddeidiau’r gerdd hon, ac nid yw breswyl (sy’n odl leddf, -ŵyl) yn odli’n gywir ag Efengyl. At hynny, nid yw’r bardd wastad yn cynnal cymeriad yn ail linell toddeidiau’r gerdd hon. ufyl ofydd
A’r fagl30 Efengyl … / A’r fagl Dau grair a gedwid, yn ôl pob tebyg, yn eglwys Tywyn, sef llyfr yn cynnwys testun o’r Efengylau a ffon fagl. Credid bod grym arbennig iddynt am eu bod unwaith wedi perthyn i Gadfan. Enwir ffon fagl sant a’i lyfr o’r Efengyl gyda’i gilydd yn y llyfrau cyfraith lle awgrymir bod arwyddocâd arbennig iddynt yng nghyswllt dynodi ffiniau tir, hawliau dros dir, ac ati: cf. Pryce 1993: 209 (lle trafodir eu pwysigrwydd yn y llyfrau cyfraith), ‘The crosier and gospel book will almost certainly have been relics, representing the authority of the church’s founding saint who had reputedly owned them. Originally, they may have been carried around the boundaries.’ Byddai dwy blaid mewn anghydfod yn tyngu llw ar y creiriau, ac mae’n bosibl weithiau, fel yr esbonia Pryce, y byddai manylion am ffiniau’r tiroedd a gymynroddid i’r eglwys ar hyd y canrifoedd yn cael eu cofnodi mewn llyfr Efengyl a gedwid ynddi. Dyna a ddigwyddodd yn achos y glosau a ychwanegwyd at lyfr Efengyl Caerlwytgoed, lle ceir gwybodaeth am hawliau tiroedd eglwysi Teilo yn Llandaf a Llandeilo. Ymhellach ar bwysigrwydd creiriau mewn llwon, gw. ibid. 41–3. ferth werthfawr wyrthau newydd
A ludd i’r gelyn ladd ei gilydd,31 A ludd i’r gelyn ladd ei gilydd Adferai ffon fagl Cadfan heddwch rhwng gelynion, fel y y gwnâi Cyrwen, ffon fagl Padarn, gw. Williams 1941–2: 70–1.
A’i harglwydd gwladlwydd, gwlad lewenydd,
A wna ei noddfa32 noddfa Ar arwyddocâd nawdd a braint eglwysi yn yr Oesoedd Canol, cf. Jones and Owen 2003: 55, ‘Both braint and nawdd are native legal concepts developed in a church context from the field of secular law where braint means the right of enjoying full legal status or privilege. In the case of a church, it is a privilege generally associated with royal grant or protection.’ Yn y 12g. pwysleisiodd Gerallt Gymro gymaint oedd parch y Cymry at noddfeydd eglwysi’r saint: ‘The more important churches … offer sanctuary for as far as the cattle go to feed in the morning and can return at evening’, Thorpe 1978: 254. Dichon mai’r arglwydd secwlar Hywel ab Owain yw’r arglwydd gwladlwydd y cyfeirir ato yn y llinell flaenorol, ef sy’n diogelu braint yr eglwys, gw. y Rhagymadrodd. yn 28 noddfa yn Gellid ei gywasgu’n noddfa’n gan fod ail hanner y llinell yn hir o sillaf; ond ar yr un pryd mae’r -a yn cynnal yr odl fewnol yn y gynghanedd sain. dda ddiwenydd.
55Ail Osfran33 Osfran Arwr anhysbys a gofid, o bosibl, am ei filwriaeth. Tybed ai ef oedd tad y milwr a fu farw yng Nghamlan yn ôl Englynion y Beddau, LlDC 18.36 Bet mab ossvran yg camlan? Mae’n bosibl y dylid ailystyried GGMD i, 4.85 rhuthr osbran a chymryd mai’r un cymeriad Osbran neu Osfran a gofid am ei filwriaeth sydd yno hefyd. Mae’n debygol mai moli’r arglwydd secwlar Hywel ab Owain (gw. Rhagymadrodd) a wna Llywelyn Fardd yn llau. 53–6, cyn troi yn ll. 57 i foli’r Abad Morfran. gynnan aeswan oswydd,
Aesawr hael orwawr 29 gorwawr LlGC 6680B or|waỽr. Dilynir GLlF 1.56 a’i ddeall yn enw ‘arglwydd gwych’ (ᚲ gor- + gwawr). Ond os yw w = ‘f’, gellid darllen [g]orfawr; cf. cynnig cyntaf G 564. Gellid dadlau bod orfawr yn rhoi gwell cyfatebiaeth ag orfydd yn y gynghanedd sain, ond roedd w yn llawer nes ei sain at f mewn Cymraeg Canol nac y mae’r w fodern. ar hawl orfydd, 30 ar hawl orfydd LlGC 6680B ar haỽl oruyt. Mae G 564 yn cysylltu’r arddodiad ar â’r ferf goruyt (h.y. gorfod ar). Posibilrwydd arall yw dilyn GLlF 1.56 arhaỽl orfydd, sy’n dilyn ail awgrym G. Ar arhawl, term a ddefnyddid yn y Cyfreithiau am ‘hawliad ychwanegol’ neu ‘wrth hawliad’, gw. GPC.
A’i habad rhoddiad, 31 rhoddiad Gan fod r yn cynrychioli ‘rh’ ac ‘r’ yn LlGC 6680B, anodd gwybod sut i ddiweddaru orgraff y tri gair yn y llinell hon sydd yn dechrau ag r- yn y llawysgrif. Deellir abad rhoddiad yn gyfuniad ar lun twyllwr bradwr, lle ceir ‘cyfosod dau enw cyffredin cydradd gyda’i gilydd heb fod y naill yn ansoddeiriol at ddisgrifio’r llall’, TC 125; byddai abad roddiad ‘rhoddwr [sy’n] abad’ hefyd yn bosibl. rhad rhyddyrydd, 32 rhyddyrydd LlGC 6680B ry dyryt; cf. ll. 59 ry dylyf, ll. 61 ry goruc ond ll. 58 rydyrann. Dehonglir rhy yn eiryn rhagferol a chan hynny fe’i gosodir ynghlwm wrth y ferf sy’n ei ddilyn ym mhob achos yma. Nid yn unig y mae union natur y gytsain r- yn y llawysgrif yn amwys (gall gynrychioli cytsain dreigledig ‘r’, rhad (a) ryddyrydd, neu’n fwy tebygol ‘rh’, a’r ferf yn cadw ei ffurf gysefin yn dilyn ei gwrthrych, ar lun patrwm GMB 10.30 Callonn klywaf yn llosgi), ond hefyd mae natur y gytsain sy’n dilyn r(h)y- yn ansicr, yn enwedig mewn achosion fel llau. 57, 58, 59 lle nad yw’r orgraff o gymorth (h.y. d- = ‘d’ neu ‘dd’ yn LlGC 6680B).
Awgrymir yn TC 365–6 mai’r hen drefn oedd bod c, p, t yn treiglo’n llaes yn dilyn rhy mewn prif gymal a bod y cytseiniaid eraill yn cadw eu ffurf gysefin; a bod c, p, t a’r cytseiniaid eraill yn treiglo’n feddal mewn cymal perthynol. Gydag amser, fel yn achos cystrawen y negydd ni, daeth y treiglad meddal yn gyffredin yn achos prif gymalau a chymalau perthynol fel ei gilydd.
Mentrir bod treiglad meddal i’r d- ym môn y ferf yn y tri achos yn llau. 57, 58, 59 (er bod lle i ddadlau dros gadw ‘d’ yn rhydylif, mewn prif frawddeg; rhoddai hynny gymeriad â rhod y llinell nesaf, ond gw. n33(t)). Fel y gwelir yn TC 365–6 (a cf. GMB 3.35n ar ry gated), ceir ansicrwydd pellach pan fo’r bôn yn dechrau ag g-, o bosibl gan y cynrychiolai’r g hen ffurf dreigledig ar g ar un adeg. Yn GLlF 1.61 cymerwyd mai presenoldeb rhagenw mewnol sy’n esbonio’r g yn rygoruc, gan ddiweddaru rhy-i-gorug.

Atan rhyddyran o’i lan luosydd:
Rhyddylif cynnif can fodd Dofydd,
60Rhod 33 rhod Cf. LlGC 6680B rod; gthg. GLlF 1.60 sy’n ei ddiwygio’n rot ‘rhodd’. Rhydd yr enw benywaidd rhod ‘tarian gron’ ystyr dda yma, yn sgil y cyfeiriad yn y llinell flaenorol at filwriaeth Morfran. Gw. GPC d.g. rhod 1 (c). gynnan Forfran,34 Morfran Abad eglwys Tywyn, a noddwr y gerdd hon, yn ôl pob tebyg; gw. y Rhagymadrodd. rhwysg diddan dydd.35 dydd Os cywir mai moli milwriaeth Morfran a wneir yn llau. 59–60, a natur wych ei amddiffyn (a symboleiddir gan ei rod, ei darian gron), yna gellir dehongli dydd yma yn yr ystyr ‘cyfarfod, brwydr, cad’, gw. GPC d.g. dydd 2(c), a diddan o bosibl yn cyfeirio at orfoledd mewn buddugoliaeth. Tybed ai cyfeiriad penodol sydd yma at y modd yr amddiffynnodd Morfran Gastell Cynfael yn 1147 yn erbyn ymosodiadau gan Hywel ab Owain a Chynan ei frawd? Gw. ymhellach y Rhagymadrodd. 34 diddan dydd LlGC 6680B dydandyt; dilynir HG Cref 86 a GLlF a’i ddehongli’n ddau air; ceir felly gynghanedd sain deirodl yn y llinell, patrwm sy’n weddol gyffredin yn y gerdd hon; cf. llau. 25, 44, 46, 54, 55, 57, 58, 70, c. ac yn arbennig l. 102 sydd hefyd yn cynnwys cynghanedd sain anghytbwys ddyrchafedig, gyda’r odlau mewnol yn disgyn ar sillafau 3:5:8. Mae’r gynghanedd hefyd yn awgrymu cadw’r ffurf gysefin dydd yn dilyn yr ansoddair diddan, ar galediad -n dd- > -n d-, gw. TC 26–7.
Rhygorug Duw dau henefydd36 dau henefydd Ai Cadfan a’r Abad Morfran? Neu Forfran a rhyw arweinydd cyfoes arall yn yr eglwys? – o’i phlaid,
Effeiriaid hynaid hynaws ysydd:
Ni ddeffryd ei fod 35 fod LlGC 6680B uot, sef ‘fodd’, o ddilyn orgraff arferol yr ysgrifydd; a derbyn hynny gellid aralleirio llau. 63–4 ‘nid yw’r dyffryn dedwydd a llwyr grefyddol yn tarfu ar ei ewyllys’. Ond gan na rydd hynny gynghanedd, dilynir GLlF 1.63n a chymryd mai ffurf dreigledig bod sydd yma. Rhydd hyn odl lusg gyda glodrydd, o’r math y byddid yn ei ystyried yn wallus yn ddiweddarach: cf. CD 175 ‘nid oedd angen yn yr hen gyfnod i’r odl gyntaf gynnwys yr holl gytseiniaid a ddilynai lafariad acennog y goben’. a dan glodrydd
Ddyffrynt37 dyffrynt Nid yw Tywyn ei hun wedi ei leoli mewn dyffryn, ond ceir dyffryn afon Dysynni i’r gogledd-ddwyrain a Chwm Maethlon a sawl dyffryn arall i’r de-ddwyrain. diletgynt diletgrefydd:
65Achadw crog38 crog Cymerir mai cyfeirio a wneir at ddelw o’r grog yn eglwys Tywyn, cf. GLlF 1.65n. Gthg. cynnig Pryce 1985: 166 i’w ddeall yn yr ystyr ‘crocbren’, gan esbonio bod y pethau a enwir yn y ddwy linell hyn, ‘sef ced, coedydd, môr, arfordir, a mynydd-dir, bob un ohonynt yn agweddau ar hawliau a thiriogaeth Tywyn’, a bod cyfeiriad at grocbren, felly, a’r hawl ymhlyg ‘i weinyddu barn ar ladron a’u crogi’, yn addas yma. Fodd bynnag, deellir crog gyda côr (eto yn ll. 65) i gyfeirio at nodwedd y tu mewn i’r eglwys ei hun. a ched a choedydd – a chôr
A môr 36 a chôr / A môr LlGC 6680B achor mor. Derbynnir y diwygiad a gynigir yn GLlF gan ddehongli llau. 65–6 yn doddaid, yn hytrach na chwpled o gyhydedd nawban, a chan ychwanegu’r cysylltair a ar flaen ll. 66 i sicrhau odl yn y bumed sillaf yn ail linell y toddaid, patrwm sy’n gwbl reolaidd yn y gerdd. ac arfor a gorfynydd.

III
Mor elw fy nghynnelw39 cynnelw ‘Cefnogaeth’ neu ‘gynhaliaeth’, c., gw. GPC. Fe’i defnyddir yn achlysurol gan y beirdd yng nghyswllt eu perthynas â’u noddwyr, ond nid yw’n eglur bob tro ai cynhaliaeth gan neu gynhaliaeth i noddwr yw’r ystyr; cf. DewiGB n2(e) ar Cynnelw o Ddewi. Cedwir yr amwysedd yn yr aralleiriad. Gyda’r llinell hon, cf. yn arbennig GCBM ii, 2.54 Kyndelỽ a’e kynnhelỽ yn y kynnhor (i Owain Gwynedd). Mae’n debygol fod Llywelyn Fardd a Chynddelw yn cyfeirio at eu statws uchel yn canu yn rhan flaen y llys. yng nghynnor – lliaws,
Yn llwybr maws achaws uchel dymor.40 uchel dymor Mae’n debyg mai cyfeirio at achlysur pwysig yng nghalendr yr eglwys a wna’r bardd yma, pan gâi Llywelyn ei drin â pharch arbennig gan bennaeth yr eglwys.
Uchel log yw hon rhag bron breisgior,
70Uchel lan41 Uchel log … / Uchel lan Gall fod y bardd yn gwahaniaethu yma rhwng llog (ᚲ Lladin locus ‘lle’), yn yr ystyr o’r eglwys yn cynnwys ei thiroedd ehangach (cf. TysilioCBM n69(e)), a’r llan, sef adeilad yr eglwys a’i mynwent a amgylchynid gan ffens neu wal. Cymerir bod yr ansoddair uchel yn disgrifio amlygrwydd yr eglwys yn y dirwedd, gw. n64(e) ar cadrfryn yw Tywyn; er hynny, gallai hefyd ddisgrifio statws ‘aruchel’ yr eglwys. Gadfan ger glan glas fôr. 37 glas fôr LlGC 6680B glas uor. Dilynir y llawysgrif, cf. GLlF 1.70; ond mae glasfor hefyd yn bosibl, cf. HG Cref 86 a GPC.
Ni chollir o’i thir nac o’i thewdor – annedd
Troedfedd er dyhedd, dihawdd hepgor!
Ni llefais neb trais tros ei hysgor, 38 ei hysgor LlGC 6680B y ysgor. Yn aml ni cheid yr h- a ychwanegir at enw’n dechrau â llafariad yn dilyn rhagenw blaen trydydd unigol benywaidd yn LlGC 6680B; fe’i hadferir yma ar sail ll. 86.
Ni chymwyll neb twyll42 ni chymwyll neb twyll Neb ‘unrhyw un’ yw goddrych y ferf, a twyll yw’r gwrthrych. (Ar y diffyg treiglad i’r gwrthrych, gw. n5(t) ar rheg.) Ond gellid deall neb twyll yn gyfuniad (‘unrhyw dwyll’) ac yn oddrych y ferf: ‘Nid oes unrhyw dwyll yn ystyried tyllu ei dôr’. tyllu ei dôr;
75Ni chymu rhwyf llu â llaw gyngor43 llaw gyngor Gellid hefyd ei ddeall yn gyfuniad ansoddeiriol gyda grym enwol, ‘yr un salw ei gyngor’, cf. GLlF 1.75; yn McKenna 2015: 276 cyfieithir ‘The lord of the host has not tolerated cowardice [= llaw gyngor] in conflict’. – yng ngawr
(Ni chymyrth aesawr yr un eisior44 yr un eisior Ai disgrifio Cadfan a wneir yn llau. 76–7, tra bo llau. 75, 78–80 yn ddisgrifiad o’r Abad Morfran? (Ar y modd yr amddiffynnodd yr abad ei diriogaeth, gw. y Rhagymadrodd.) Yn wahanol i’r abad, dywedir yn llau. 76–7 nad oedd angen arfau na geiriau llidiog ar Gadfan, gan fod ei ffon fagl yn sicrhau heddwch, fel y gwelsom yn llau. 51–2. 39 eisior LlGC 6680B eisg yor gyda dot dileu o dan yr g a’r y wedi ei hychwanegu uwchben gan law alpha. Roedd g ac y yn amlwg yn debyg i’w gilydd yn y gynsail.
Na cham leferydd ar lid Echdor45 Echdor Yr arwr clasurol Hector fab Priaf, y nodweddid ef gan ei nerth milwrol, gw. TYP 337–8.),
Ni chablwyd ysgwyd ar ysgwydd iôr:
Ni chablaf fy naf yn ei 40 yn ei Mae ail hanner y llinell yn rhy hir o sillaf ac mae’n debygol y dylid cywasgu yn ei > ’n ei. achor – faran,
80Bangeibr46 bangeibr Gair a ddefnyddiwyd gan Wynfardd Brycheiniog yntau i ddisgrifio eglwysi uchel eu statws, gw. DewiGB n58(e) d.g. Meiddrym. gadw47 cadw Deellir cadw yma’n ferfenw ‘amddiffyn’, cf. G 91. Cymerir bod Gadfan yn dibynnu ar yr enw benywaidd bangeibr er mwyn esbonio’r treiglad meddal. Gall cyfuniad berfenwol o’r fath gael ei ddefnyddio gyda grym rhangymeriad (fel y’i dehonglir yma), neu rym rhagenwol (‘amddiffynnwr eglwys fawr Cadfan’): gw. Parry Owen 2003: 248–9; Lloyd 1933–5: 16–22. Gthg. GLlF sy’n dehongli cadw fel enw ‘praidd’, gan aralleirio ‘eglwys fawr praidd Cadfan’. Gan mai enw gwrywaidd yn unig yw cadw yn yr ystyr honno (gw. GPC d.g. cadw 1, lle ceir enghreifftiau o’r 14g. ymlaen), ni ddisgwylid i Gadfan dreiglo. Gadfan fegis Bangor.48 Bangor Perthynai eglwys Tywyn i esgobaeth Bangor, a dichon y cymherir maint a statws eglwys Tywyn â’r eglwys gadeiriol fawr honno yn Arfon. Awgrymir yn GLlF 1.80n fod y bardd, trwy gymharu eglwys Tywyn â’r gadeirlan, ‘yn hawlio annibyniaeth Eglwys Cadfan ar awdurdod yr esgobaeth’, a hynny ar adeg pan fyddai’r hen fameglwys hon wedi colli peth o’i statws yn sgil creu’r esgobaeth yn gynharach yn y ganrif, gw. Gresham 1985–9: 191–2.
Ei chreiriau banglau ban glywhitor,49 ban glywhitor Ar y ffurf ferfol hynafol clywhitor, gw. n41(t). Gyda’r cyfuniad ban glywhitor, cf. yn arbennig GCBM ii, 2.20 cleu clywitor (er nad oes treiglad yno). 41 glywhitor LlGC 6680B glywhitor. Hen ffurf amhersonol presennol mynegol, gw. GMW 120–1 lle esbonnir yr -h- a geir yn achlysurol o flaen y terfyniad fel ‘analogical -h-’; cf. ll. 83 gwelhator, llsgr. gwelhator. Ymhellach ar y ffurf, gw. Rodway 2013: 90–1.
Ei cherdd, ei chynrain, ei main marmor;
Ei gwyrthiau golau gwelhator – beunydd,
Ei gwerthfawr edrydd edrychator,50 edrychator Ar edrych ‘ymweld’ gw. GPC d.g. edrychaf 1(b), ac am y terfyniad hynafol -ator cf. n41(t) ar clywhitor. Canmolir yma eglwys Tywyn fel cyrchfan i bererinion a ddenid gan ei chreiriau a’i gwyrthiau.
85Ei gorthir, ei gwir yn ei goror,51 ei gwir yn ei goror Deellir yn yn yr ystyr ‘o fewn’ yma, a’r bardd yn cyfeirio at y rhyddfreintiau cyfreithiol a fwynhâi’r rhai a drigai o fewn ffiniau nawdd Cadfan. Ond gallai yn ei goror hefyd olygu ‘yn ei ffiniau’, a gellid dehongli’r ymadrodd yn gyfeiriad penodol at yr arfer o gludo creiriau sant o gwmpas terfynau tiriogaeth ei eglwys, gan gadarnhau’r terfynau hynny trwy dyngu llw ar y creiriau, gw. Pryce 1993: 209n28.
Ei chlod, ei harfod yn ei harfor.

IV
Mor iawn ym o’m dawn ac o’m dirnad – dedwydd
Goffäu dofydd52 dofydd Dilynir GLlF 1.88 a’i ddeall yn gyfeiriad at arglwydd bydol (yr abad?) a rannodd ei geffylau gyda’r bardd (llau. 88–9); ond sylwer mai fel enw am Dduw y’i deellir yn HG Cref 86 (a chymryd mai dyna sy’n ymhlyg yn y briflythyren), a nodir yn G 385 mai prin iawn yw ei ddefnydd am arglwyddi secwlar. O blaid ei ddehongli am Dduw y mae’r ffaith y byddai Llywelyn Fardd yn enwi Duw yn gyntaf, yna Iesu (ll. 91), cyn enwi Cadfan (ll. 92), sef y drefn a ddisgwylid. Ond anodd esbonio’r rhoddion o geffylau (llau. 88–9) os Duw a enwir yn ll. 88, oni chymerir mai rhodd gan Forfran drwy ewyllys Duw oeddynt. o’m newydd nad,
Can rhoddes ym rhan feirch can cynwad,53 cynwad Unig enghraifft, sy’n ymddangos yn gyfuniad o cyn + gwad. Nis ceir yn GPC, ond yn G 262 awgrymir ‘a warafunir, a naceir; gwerthfawr’ neu hyd yn oed ‘yn gwrthod ildio’r blaen, cyflym’. Mentrir ‘cyflym’ yma, ond digon posibl hefyd yw GLlF ‘[m]eirch gwyn a nacesid o’r blaen’ neu hyd yn oed McKenna 2015: 277 (am y llinell gyfan) ‘Since he gave me a share of castoff white horses’.
90Can am coffäwys pan rhannwys 42 rhannwys LlGC 6680B rannỽs. Mae’n debygol mai cynghanedd sain sydd yma, fel yn ll. 89, felly diwygir er mwyn sicrhau odl fewnol â coffäwys. Gellid dadlau hefyd dros ddiwygio’r odl gyntaf, a darllen coffäws rhannws, fel y nodir yn HG Cref 235. Yn yr un modd mae’n bosibl y dylid diwygio lluniwys, ll. 37, yn lluniws er mwyn odl fewnol â Dëws (gw. n22(t)), ond ni ddiwygir yno gan fod y llinell eisoes yn cynnwys cynghanedd braidd gyffwrdd. Ar ffurf gysefin y gwrthrych yn dilyn berfau gorffennol yn diweddu yn -ws, -wys, gw. TC 189, ac ar galediad r- > rh- yn dilyn pan, gw. ibid. 161. rhad.
Coffäu Iesu ysy 43 ysy Byddai’r ffurf dalfyredig ’sy yn rhoi’r pum sillaf safonol yn ail hanner y llinell gyntaf hon o doddaid, cf. n14(t). bwyllad – i’m ban
A moli Cadfan gan Ei ganiad;
Molawd a ddyrllydd cedwidydd cad:
Iawn yw moli rhi a fo rhoddiad.
95Moladwy un Duw, 44 Duw Cf. LlGC 6680B duỽ. O ddarllen Dwy ceid yma gynghanedd sain, cf. n9(t). un diffyniad – ysydd,
Ym Meirionnydd rydd, rodd gyngwastad:54 rhodd gyngwastad Fe’i deellir yn ddisgrifiad o Feirionnydd (ll. 96), ond gallai hefyd fod yn ddisgrifiad o Dduw, y gweithredid ei haelioni trwy’r Abad Morfran.
Molidor 45 Molidor Gthg. glywhitor, n41(t), lle ceir -t- ‘t’ yn y terfyniad; yn GMW 122 awgrymir mai -d- oedd yn y terfyniad yn wreiddiol; gw. hefyd Rodway 2013: 91. Gan hynny ni raid darllen molitor gyda GLlF 1.97. ei chôr a’i chelyfrad
A’i cherdd55 cerdd Gallai gyfeirio at gerdd gan fardd i’r eglwys a’r sant, fel y gerdd hon, neu at gerddoriaeth, gw. GPC d.g. cerdd 1. Gan fod Llywelyn Fardd yn cyfeirio’n benodol yma at ddathlu’r offeren, efallai mai’r ail ystyr sydd debycaf. a’i chedwyr a’i llŷr a’i llad
A’i llan ger dylan, ger glan dylad – hefyd;56 ger dylan, ger glan dylad – hefyd Cyfeirir at leoliad eglwys Tywyn ar lan y môr yn ogystal ag yn agos i aber Dysynni, lle roedd porthladd pwysig yn yr Oesoedd Canol. Mae’n ddigon posibl, o gofio am leoliad yr eglwys ‘towards the southern end of the alluvial plain south of the Dysynni estuary’ (Davidson 2001: 368), fod yr afon yn llifo’n nes at yr eglwys yn yr Oesoedd Canol nag y mae heddiw (gw. hefyd n13(e)).
100Llwyddyd 46 Llwyddyd LlGC 6680B llwytyd, cf. llau. 101, 102; gthg. llau. 103, 104 lle ceir llwytid yn y llawysgrif. Dilynir GMW 119 a HG Cref 235 a deall llwyddyd yn hen ffurf trydydd unigol presennol gyda’r terfyniad -yd, yn odli’n fewnol yma â gweryd a hyd gan lunio cynghanedd sain deirodl, o’r math sy’n gyffredin yn y gerdd hon. Am enghraifft arall o’r terfyniad -yd, a brofir y tro hwn gan y brifodl, gw. TysilioCBM ll. 176 perhëyd. Gthg. GLlF 1.100 sy’n ei ddiweddaru yn llwyddid yma ac yn y llinellau canlynol, a’i ddehongli’n ffurf trydydd unigol orchmynnol (gallai llwyddid hefyd fod yn drydydd unigol presennol fel y gwelir yn GMW 119). Gw. hefyd n48(t). ei gweryd a’i hyd a’i had,
Llwyddyd gwir a thir yn ei threfad,
Llwyddyd gwledd a medd a meuedd mad,
Llwyddyd pob amyd a phob amad 47 a phob amad Byddai dileu’r cysylltair a a darllen pob amad yn rhoi llinell reolaidd o ran ei hyd, yn ogystal â chyfoethogi’r gyfatebiaeth gytseiniol yn y gynghanedd sain. Mae’n bosibl i’r copïydd gael ei ddylanwadu gan y gyfres o gysyllteiriau yn y llinellau blaenorol. – yndi:
Llwyddyd 48 Llwyddyd … / Llwyddyd… LlGC 6680B llwytid llwytid; gw. n46(t). Ar sail y gynghanedd a’r odl fewnol debygol ag amyd, gallwn ddarllen llwyddyd yn weddol hyderus yn ll. 103, fel yr awgrymir yn HG Cref 235; cymerir mai dyna sy’n gywir yn ll. 103 yn ogystal. Ond ar llwyddid, sydd hefyd yn ffurf trydydd unigol presennol, gw. GMW 119. ym foli filwyr 49 ym foli filwyr LlGC 6680B ym uoli uilwyr. Ni ddisgwylid i ‘wrthrych’ berfenw dreiglo, ond fel y nodir yn TC 231 efallai fod yma enghraifft o ‘gyseinedd dybiedig’, a’r ysgrifydd, o bosibl, wedi diwygio milwyr > filwyr er mwyn cael cyfatebiaeth braidd gyffwrdd yng nghanol y llinell. Holir ymhellach, ibid., ai ‘ym (u)olimilwyr yw’r iawn gynghanedd’? Posibilrwydd arall yw mai ym moli milwyr oedd y darlleniad cywir, yn enwedig gan nad yw’r treiglad sy’n dilyn yr arddodiad yn y math hwn o gystrawen yn un cyson: cf. GLlLl 19.21 Mabddysc ytt treulyaỽ treth enuyn y ueirt. Gwrthodir ail awgrym GLlF 1.104n i ddeall filwyr yma’n gyfarchol (‘Boed ffynnu imi ganu mawl, O atgyfnerthwr milwyr!’). neirthiad!
105Llwyddedig 50 Llwyddedig LlGC 6680B llutedic. Ni roddai ‘lluddedig’ ystyr dda yma: anarferol iawn fyddai i fardd o gyfnod Beirdd y Tywysogion gwyno bod ei gerdd yn lluddedig! Cynigir, felly, mai gwall sydd yma am llwyddedig ‘llwyddiannus, ffyniannus’, arno gw. GPC. Cf. n51(t) am awgrym y gall fod rhywbeth yn anarferol am siâp w yn y gynsail. Rhydd llwyddedig hefyd well cymeriad ar ddechrau’r llinell gyda Llwyddid (llau. 100–4) a Llwyddon (ll. 106). fy ngherdd yng nghynrabad
Llwyddon 51 Llwyddon LlGC 6680B lluỽydon. Dilynir GPC d.g. llwydd 1 (ansoddair) a’i ddeall yn ffurf luosog y gair hwnnw, yma’n enwol am y bobl a ymwelai ag eglwys Tywyn. Am enghraifft arall o -d- am ‘dd’ yn y testun hwn, cf. n56(t) ar addef (llsgr. adef). Mae’n bosibl fod yr ysgrifydd wedi camddehongli llythyren gymhleth w yn ei gynsail fel uỽ yma. Gthg. GLlF sy’n darllen lluyddon ‘lluoedd’, ffurf deirsill sy’n peri i hanner cyntaf y llinell fod yn hir o sillaf, ac felly i ail odl y gynghanedd sain syrthio’n anarferol ar y chweched yn lle’r bumed sillaf. a berthon parth 52 parth O ddarllen barth yma, ac yn ll. 168, ceid cynghanedd sain; cf. GBF 46.25 Ys byd guawt berthwawt barth ac atat Rys, ac yn GGMD ii, 11.37 Mair, dyro borthair barth ag ataf. Tybed na ddangosid treiglad meddal p- yn rheolaidd yn y gynsail? Cf. ll. 131 Arfeddyd yw i’m bryd prydu iddi, lle ceid cynghanedd sain yn yr un modd o ddarllen brydu. Ond ni ddiwygiwyd y testun gan ei bod yn bosibl mai’r hyn a geir yma yw enghraifft o ‘gytseinedd dreigledig’ ar ganol llinell, lle ceir cytsain leisiol yn cytseinio â’i chymar di-lais, gw. Jones 1997: 54. ag atad.
Llawen Duw Dofydd53 Duw Dofydd LlGC 6680B duỽ douyt; neu Duw Ddofydd, cf. G 398 lle nodir bod y ddau yn bosibl. Os treiglir Ddofydd, dichon fod angen treiglo ddydd hefyd (fel yn GLlF), er mwyn y gyfatebiaeth gytseiniol ddisgwyliedig ar ganol y llinell. dydd yd gaffad – Cadfan,
Agored i wan ei wen angad.
Ef gorau gwyrthau wrth 54 wrth Rhoddai gwrth gynghanedd sain yn y llinell. Ei gennad:
110Dillwng tân yman ymywn dillad;57 Nodweddid sawl sant gan ei allu i reoli’r pedair elfen (tân, dŵr, aer a daear), gw. Henken 1991: pennod 9. Ond dyma’r unig gyfeiriad at Gadfan yn cludo tân yn ei ddillad. Y wyrth oedd bod marwydos poeth yn cael eu gollwng i arffed pais y sant, heb i’r bais ddioddef dim. Cf. disgrifiad Rhys Brydydd o’r un wyrth a gyflawnwyd gan Gadog: CadogRhRh2 llau. 5–6 Cyrchu tân ni bu lanach / A’i ddwyn ’n ei bais yn ddyn bach. Ymhellach gw. Henken 1991: 65–6. Awgryma’r adferf yman ‘yma’ mai yn yr eglwys y cyflawnodd Cadfan y wyrth hon.
Ef a warawd 55 Ef a warawd LlGC 6680B ef waraỽd; ychwanegir y rhagenw perthynol fel bod y llinell yn ymrannu’n safonol yn 5:4 sillaf; cf. ll. 114 Ef a gymerth (llsgr. ef gymerth). ball a gwall a gwad,
Bendigaw Gwynnyr58 Gwynnyr Unig gyfeiriad at gymeriad anhysbys y gallwn gasglu o’r cyd-destun ei fod yn arweinydd ym Meirionnydd yn amser Cadfan. a’i wŷr a’i wlad.
Ef a wnaeth ei faeth fal yngnad59 yngnad Ffurf amrywiol ar ynad; ei ystyr sylfaenol oedd ‘dyn doeth’, c., ond gydag amser magodd ystyr fwy penodol yng nghyd-destun y gyfraith, sef ‘ustus, barnwr’, c., gw. GPC d.g. ynad. Ergyd y llinell yw bod Cadfan wedi treulio’i blentyndod (llythrennol ‘ei fagwraeth’) fel dyn doeth – dyma enghraifft o’r topos puer senex sydd mor gyffredin ym mucheddau’r saint. – addef, 56 addef LlGC 6680B adef; enghraifft o -d- = ‘dd’ yn y llawysgrif yn hytrach na’r -t- ddisgwyliedig, cf. n23(t), n59(t).
Ef a gymerth 57 Ef a gymerth LlGC 6680B ef gymerth. Mae adfer y rhagenw perthynol yn rhoi llinell o’r hyd cywir ac yn caniatáu i’r gair cyrch (addef) odli’n rheolaidd â’r bumed sillaf (nef) yn y llinell nesaf; cf. n55(t). nef dros dref ei dad.
115Dau ŵr a folaf, fal y’m ceniad – Dofydd,
Dau deg, dau ddedwydd, dau rydd roddiad,
Dau ddoeth yng nghyfoeth, yng nghyfaenad,60 yng nghyfaenad Dilynir G 199 a GPC a deall cyfaenad yn gyfeiriad at gerdd (nâd) y bardd ar gyfer y ddau ŵr y cyfeiriwyd atynt yn ll. 115. Yn GLlF ll. 117n rhoddir iddo ystyr fwy cyffredinol, ‘mewn cytgord’.
Dau gu, dau gywaith, 58 gywaith LlGC 6680B gyueith. Fe’i deellir yn G 209 yn amrywiad ar cyfiaith ‘gŵr cyfiaith, cymar’ (ac os felly’n gyfeiriad at y ffaith fod y ddau, Cadfan a Lleudad, llau. 121–2, yn gefndryd ac yn dod o’r un wlad, Llydaw); ond yn GPC fe’i rhestrir d.g. cywaith 1 ‘cydymaith, cymar, ffrind’. dau wyneithad,
Dau a wna gwyrthau er goleuad – rhagddudd, 59 rhagddudd LlGC 6680B racdud. Mae’r mydr yma’n galw am -udd, i odli â budd yn ll. 120, gw. GMW 59; am enghreifftiau eraill yn y testun o -d neu -d- am ‘dd’, gw. n23(t), n56(t).
120Dau ddiludd eu budd er bodd eirchad,
Dau gefnderw oeddynt ni ferwynt frad:
Cadfan i gadw llan, ef a Lleudad.61 Cadfan … a Lleudad Nid oes unrhyw dystiolaeth yn yr achau fod Cadfan a Lleudad/Lleuddad yn gefndryd go iawn (ll. 121 dau gefnderw), a chynigir yn GLlF 1.122n mai ‘ysbrydol’ oedd eu perthynas, felly. Er hynny, mae’r ddigon posibl fod Llywelyn Fardd yn gyfarwydd â thraddodiad a gynhwysai Lleudad ymysg ei holl gefndryd (EWGT 57–8).
Roedd traddodiad fod eglwys Cadfan yn Nhywyn yn fameglwys i eglwys Enlli, a bod Cadfan, abad cyntaf Enlli, wedi ei olynu gan Leudad: gw. Elliss 1950: 16; Thomas 1971: 227–31; TWS 168–73. Mae’n debygol mai Enlli yw’r llogawd ysydd herwydd heli a gysylltir â’r ddau sant yn llau. 139–40, ac o bosibl y llan y cyfeirir ati yn ll. 122.
60 Lleudad LlGC 6680B lleudad. Awgryma orgraff arferol y llawysgrif mai ‘Lleudad’, ac nid ‘Lleuddad’, yw’r ynganiad yma ac yn ll. 140. Dyma hefyd yw’r ffurf a geir gan Hywel Dafi mewn cywydd i Enlli, fel y prawf y gynghanedd: GHDafi 95.12 Gennad, at Leudad lwydwyn, ll. 33 Gweniaith lydan, gwnaeth Leudad, a hefyd gan Iolo Goch, yn ôl pob tebyg, yn GIG XXIII.56 O’i wlad i dir Lleudad llwyd (er nad oes rhaid ateb y gytsain ar ôl yr acen yn llwyd). Gthg. GLlF 1.122, 140 (orgraff ddiweddar) Lleuddad, lle dilynir LBS, iii, 369–74 a TWS 168–73 (sy’n sôn am y drysu rhwng Lleud(d)ad a Llawddog).

V
Cadr y ceidw Cadfan glan 61 glan Ar y diffyg treiglad i’r gwrthrych, cf. n5(t). glas weilgi,
Cadr fab Eneas,62 Eneas Ar rieni Cadfan, gw. n5(e), n7(e). gwanas63 gwanas Hoelen neu fachyn, gair a ddefnyddir yn gyffredin gan y beirdd am noddwr neu arglwydd sy’n cynnal ei bobl; gw. GPC. gweddi.
125Cadrfryn yw Tywyn,64 cadrfryn yw Tywyn Am hanes a disgrifiad cryno o eglwys Tywyn, a’i phwysigrwydd cynnar fel mameglwys, gw. Davidson 2001: 368–70; Thomas 1971: 226–31; ‘Coflein’ St Cadfan’s Church, Tywyn; Towyn. Yn 1620 cofnodwyd bod capel o’r enw Capel Cadfan ar dir ei mynwent (Davidson 2001: 369n239), ond ni wyddys dim am ei hanes. Dyddir adeilad yr eglwys, fel y mae heddiw, i ail hanner y 12g. (ibid. 369), sef yn fras i’r un cyfnod â cherdd Llywelyn Fardd. Efallai fod y disgrifiad o safle’r eglwys fel cadrfryn braidd yn annisgwyl, ond cf. ll. 165 morlan uchel, a llau. 69–70 Uchel log yw hon . / Uchel lan Gadfan Cyfeiria’r bardd, yn ôl pob tebyg, at y ffaith fod yr eglwys wedi ei lleoli ar godiad tir bychan y byddai’r llanw wedi ei amgylchynu yn yr Oesoedd Canol, gw. n13(e). nid iawn tewi – ag ef,
Cadr addef nef ail ei athrefi.
Cadr yd eu65 yd eu Sef geiryn rhagferfol yd yn cael ei ddilyn gan ffurf lafarog y rhagenw mewnol trydydd lluosog (llsgr. y), yma’n cyfeirio ymlaen at cadredd a llariedd y llinell ganlynol, gw. GMW 56 a cf. GLlF 2.28 Mal y’th ryuegeis, yd yth geissaf (= ‘fe’th geisiaf’). Gthg. GLlF 1.12n sy’n cymryd mai dau eiryn rhagferfol sydd yma, gan gymharu yd yr yn llau. 26, 36. cedwis ger Disynni⁠66 ger Disynni Lleolir aber Dysynni ryw ddwy filltir i fyny’r arfordir o Dywyn. Roedd yn nes at y dref yn amser Llywelyn Fardd, a’r eglwys felly’n llythrennol ger Disynni. Gw. n64(e). 62 Disynni LlGC 6680B dissynny, a’r brifodl yn profi mai y = ‘i’ a geir ar ddiwedd y gair yn y llawysgrif. Mae’r odl lusg rhwng y sillaf gyntaf â cedwis o bosibl yn ddadl o blaid cymryd mai Dis-, yn hytrach na Dys- a geir yma (gthg. ll. 132 dyffwn, llsgr. diffwn); cf. yr enghreifftiau o ‘lusg ragobennol’ yn Andrews 2009: 172. Awgrymir yn DPNW 135 mai ffurf gytras, neu darddair o’r Lladin distineo ‘gwahanu’, yw’r elfen gyntaf yn yr enw.
Cadredd a llariedd a llary roddi:
Cadr hwysgynt orfynt orfyrthi67 gorfyrthi Unig enghraifft; dilynir awgrym petrus GPC ‘?twf, cynnydd, ennill’. – tewdor,
130Cadr ysgor arfor, arfodd yndi.
Arfeddyd yw i’m 63 yw i’m Mae hanner cyntaf y llinell yn rhy hir o sillaf fel y saif, felly mae’n debygol y dylid cywasgu yw i’m yn unsill, neu hepgor yw. bryd prydu 64 prydu LlGC 6680B prydu; a ddylid darllen brydu, a roddai well cynghanedd (Arfeddyd bryd brydu)? Gw. n52(t). iddi,
Arfaethwn, dyffwn dyffrynt 65 dyffwn dyffrynt LlGC 6680B diffỽn dyffrynt. Am dyffwn, cyntaf unigol amherffaith dibynnol y ferf dyfod, gw. G 414; GMW 135. Yn GLlF 1.132 (orgraff ddiweddar) rhagdybir bod dyffrynt yn treiglo yma wrth fynegi cyrchfan yn uniongyrchol ar ôl ffurf ar y ferf dyfod; cf. TC 227 lle cadarnheir mai treiglo sydd i’w ddisgwyl yn y gystrawen hon. Ond o dreiglo collir y gyfatebiaeth gytseiniol ar ganol llinell (onid cytseinedd dreigledig sydd yma, gw. n52(t)). Cynigir, felly, fod yma yma enghraifft o galediad -n dd- > -n d-, gw. TC 26–7. Dyfi.68 dyffrynt Dyfi Lluniai Dyfi ffin ddeheuol Meirionnydd, ac yn fwy perthnasol, efallai, ffin ddeheuol plwyf Tywyn, gw. y cyfeiriadau yn GLlF 1.32n a’r map yn Smith 2001: 722.
Ar a fynnwy Duw, 66 Duw LlGC 6680B duỽ; rhoddai’r ffurf amrywiol Dwy gynghanedd sain yma, cf. n9(t). nid egrygi – iddaw
Arfeiddaw treiddaw trag Eryri:69 treiddaw trag Eryri Ai bardd o Wynedd neu Fôn oedd Llywelyn Fardd, y byddai’n rhaid iddo groesi Eryri er mwyn cyrraedd Tywyn? A gyrhaeddai’r eglwys trwy ddilyn afon Dyfi ac yna’r arfordir (ll. 132)?
135Arfaeth ehelaeth wrth ei holi,70 ei holi Ai cyfeirio at yr eglwys a wneir (cf. ll. 130 yndi?) neu at Gadfan?
Arfau o Ddehau⁠71 arfau o Ddehau Cyfeiriad at gyrch Hywel ab Owain Gwynedd ar Feirionnydd yn 1147, gw. y Rhagymadrodd. barau beri.
Arwyn ei drwydded cyn no’i drengi – ydoedd
Yn cadw rhag cyhoedd anlloedd Enlli.72 Enlli Am gysylltiad Cadfan a Lleudad ag Enlli, gw. n61(e).
Un llogawd ysydd herwydd heli,73 herwydd heli Cyfuniad cyfystyr â dra gweilgi, c.; cf. yr ystyron a roddir i herwydd fel arddodiad yn GPC 1(a) a sylwer ei fod yn gytras â gerfydd.
140 Lleudad a Chadfan74 Lleudad a Chadfan Gw. n61(e). yn ei chedwi:
Llyre werhydre75 llyre werydre Ar lun gwerydre ‘tir, ardal’ (ᚲ gweryd + -re), dehonglir yr unig enghraifft hon o llyre yn GPC yn gyfuniad o llŷr ‘môr’ + -re. O ran cystrawen y llinell, cymerir mai (g)wrhydri lliaws yw’r brif elfen, a bod llyre werydre yn dibynnu arno; cf. y llinell ganlynol gan yr un bardd, GLlF 2.53 Eryri getwi gat olystaf ‘yr un disgleiriaf ei fyddin (gat olystaf) sy’n gwarchod Eryri (Eryri getwi)’, ac am batrymau cystrawennol tebyg, gw. Parry Owen 2003: 246. wrhydri – lliaws,
Hydraws, hydraidd, maws a mynogi.
Ysid 67 Ysid LlGC 6680B yssyt, sy’n awgrymu ‘ysydd’. Yn G 62 cyfeirir at ddefnydd ‘yssy[dd] ar flaen brawddeg’ (heb nodi’r enghraifft hon). Ond gan mai berf berthynol yw ysydd (GMW 63), derbynnir awgrym CLlH 154 mai gwall am ysid yw’r enghreifftiau a geir ar ddechrau brawddeg, e.e. ibid. (V.7a) Yssydd (> Yssit) Lanfawr dra gweilgi (cf. Rowland 1990: 539). Derbynnir, felly, ddiwygiad GLlF 1.143 a darllen Ysid ‘mae’ yma; cf. GBF 26.1 Yssid (llsgr. ysyt) yn arglwyt. Dilynir ysid gan dreiglad meddal i’r goddrych sy’n ei ddilyn yn uniongyrchol, gw. G 62 d.g. yssit. lan lawndeg ei mynegi
Ym Meirionnydd wlad, mad ei moli.
145Molaf Dduw uchaf, archaf weddi – iddaw:
Athreiddaw, cyn taw 68 cyn taw LlGC 6680B kyn thaỽ. Gwall annisgwyl; diwygir er mwyn yr ystyr a’r gyfatebiaeth gytseiniol rhwng taw a tewi.~ a chyn tewi,
Athreiddlan Gadfan gadr athrefi,
Athreiddle haelon haelach no Thri;76 haelach no Thri Topos yn y canu oedd mynegi rhagoriaeth ar haelioni’r Tri Gŵr Hael, sef Nudd, Mordaf a Rhydderch Hael, gw. TYP 5–7. Cf. GLlLl 2.29–30, a chyda’r llinell hon, cf. yn arbennig GCBM i, 21.60 Pan voled haelon haelach no’r Tri. Canmol haelioni’r pererinion a’r ymwelwyr a ddeuai i eglwys Cadfan a wna Llywelyn Fardd yma.
A chrefydd herwydd, herwyr wrthi – nid moes
150Ac nid oes eisioes eisau yndi,
Namyn heirdd a beirdd a barddoni,
Namyn hedd, a medd ymewn llestri,
Namyn hawdd amrawdd yn ymroddi – â bardd
A gwŷr hardd heb gardd, heb galedi,
155Ac eurgrawn a dawn a daeoni,
Ac eurgrair cywair cywiw â hi,
Ac angerdd a cherdd a cheiniedi77 cerdd a cheiniedi ‘Crefft’ yw ystyr sylfaenol cerdd, ac felly gallai gyfeirio yma at gerddoriaeth yn ogystal â barddoniaeth. Mae’r un amwysedd i’r gair ceiniedi gan y cyfeiriai canu at weithgaredd y beirdd a cherddorion. Mae’n ddigon posibl fod y bardd yn cyfeirio at y ddwy grefft yn y llinell hon. – llawen,
Ac amgen yw ein 69 yw ein Mae’r llinell yn hir o sillaf, a chan fod chwe sillaf yn yr hanner cyntaf, yn lle’r pump safonol, gellid un ai cywasgu yw ein > yw’n, neu hepgor yw, cf. n63(t). llen â78 amgen … â Er mai no a geid yn arferol yn dilyn amgen mewn cymhariaeth, cf. G 22, ceir ambell enghraifft hefyd o â, cf. Jones 1937–9: 336 Ac nyt amgen weledigaeth a honno a weles libanius athro. Llan Ddewi,79 Llan Ddewi Ai eglwys Dewi yn Llanddewibrefi? Cyfeiriodd Gwynfardd Brycheiniog at ei llen bali, DewiGB ll. 157 A llên a llyfrau a’r llen bali. Mae’n debygol mai cyfeirio a wneir at len neu fantell, neu wisg litwrgïol a roddid ar grog neu ddelw yn yr eglwys; cf. GIBH 12.23n d.g. pais.
Ac am gylch ei chlawdd ei chlas80 clas Fe’i hesbonnir yn GPC yn fenthyciad o’r Lladin classis ‘byddin, llynges; dosbarth’; y brif ystyr a roddir, ibid. (a), yw ‘teulu neu gôr crefyddwyr mynachlog, cwfaint … cymdeithas o glaswyr’, a thrwy hynny datblygodd i gyfeirio at adeilad yr eglwys ei hun, ‘clawstr, … coleg’. Mae’n debygol (ond nid yn anorfod) mai at adeilad eglwys Meifod y cyfeiria Cynddelw yn TysilioCBM ll. 90 Berth ei chlas a’i chyrn glas gloywhir. Yn GLlF 1.159 cymerir mai cyfeirio at eglwyswyr eglwys Cadfan a wna Llywelyn Fardd, ond fel y nodir, ibid.n., mae’r llinell yn awgrymu bod yr eglwyswyr ‘yn byw y tu allan i gylch y llan os yw claỽt yn cyfeirio at derfyn ffiniau’r llan. Ar y llaw arall gallent fod yn byw y tu mewn i’r claỽt ond yn agos ato.’ Yn GPC, ibid. (b), rhoddir i clas yr ystyr ‘pobl o’r un wlad, mintai o gyd-wladwyr’ (gyda’r ystyr honno yr un mor gynnar â’r ystyr eglwysig), a chynigir mai yn yr ystyr honno y cyfeiria Llywelyn Fardd yma at y clas, sef trigolion Tywyn yn gyffredinol a drigai y tu hwnt i ffin y fynwent ond eto o fewn nawdd yr eglwys. gofri,
160Ac amgyrn o ddyrn, addurn westi,
Ac amgant lliant yn llenwi – aber,
Ac amser gosber gosbarth weini.81 gosbarth weini Deellir gosbarth yma yn yr ystyr ‘trefnwr, rheolwr’, gw. GPC; ond gellid hefyd ei ddeall am y gwasanaeth ei hun ac aralleirio’r cyfuniad fel ‘gweinyddiad y gwasanaeth’.

VI
Gweinifiad fy nad am rad, am ran,
Gwenifaid o’i blaid ceiniaid82 ceiniaid Tarddair o’r ferf canu a ddefnyddir yn aml gan y beirdd amdanynt eu hunain, cf. GCBM i, 16.5 Dysgỽeyd keinyeid kyuaenad eu rwyf, lle cyfeiria Cynddelw at feirdd yn cyflwyno’u cerddi i Owain Cyfeiliog. Er hynny, mae’n bosibl hefyd mai ‘cantorionֹ’ yn yr ystyr gerddorol sydd gan Lywelyn Fardd, cf. n77(e). Cadfan.
165Cedwyr o du mŷr, o du morlan – uchel,83 morlan – uchel Dosberthir yr enghraifft hon o uchel dan yr ystyr ddaearyddol yn GPC a GLlF 1.165 a cf. n64(e) ar cadrfryn yw Tywyn. Er dilyn GPC a chymryd mai glan yw ail elfen morlan yma, mae’n bosibl mai llan ‘eglwys’ oedd gan y bardd mewn golwg, ‘eglwys y môr’, yn enwedig gan fod safle ddaearyddol yr eglwys ar bwys ac uwch y môr wedi bod yn thema gyson drwy’r gerdd.
Yn cadw eu rhyfel, nid ymgelan:
Deon Meirionnydd, elfydd eilfan,84 elfydd eilfan Ar eilfan ‘safle neu ucheldir wedi ei amddiffyn â chaer’, gw. GPC d.g. eilfan 1 a cf. GLlLl 24.59 eiluann (‘uchelgaer’) Urychan Urycheinyawc; GCBM i, 9.10 Mur eluyt, eiluan (‘gorsaf uchel’) gaỽr. Gellir deall y cyfuniad yn ddisgrifiad o Feirionnydd, a’r bardd yn cyfeirio at yr eglwys yn Nhywyn fel safle amddiffynnol (cf. llau. 165–7); neu gall fod yn gyfeiriad penodol at Gastell Cynfael, a amddiffynnwyd gan Forfran yn aflwyddiannus yn 1147 (gw. y Rhagymadrodd). Mae’n llai tebygol mai’r enw personol Eilfan yw’r ail elfen: dyna sut y’i dehonglwyd yn GLlF gan ddilyn G 467 lle cysylltwyd ef ag Elfan Powys, mab Cyndrwyn (gw. Rowland 1990: 587), gan ein hatgoffa bod Meirionnydd yn gysylltiedig â Phowys cyn c.1120. Ni ddaethpwyd o hyd i gyfeiriadau pellach at E(i)lfan yng nghyswllt Meirionnydd yn y farddoniaeth.
Duw gantudd, 70 gantudd LlGC 6680B gantut a allai hefyd gynrychioli ‘ganddudd’ (cf. GLlF 1.168) yn ôl orgraff arferol y gerdd. Dilynir yma awgrym Sims-Williams 2013: 35 oherwydd diffyg tystiolaeth cynnar dros gandd-. eu budd parth 71 parth O ddarllen barth yma ceid cynghanedd sain; cf. n52(t). ag atan.
Dewisais fy ngherdd yng nghynfaran – cynnif85 cynnif ‘Llafur, ymdrech’ yw ei ystyr sylfaenol, GPC d.g. cynnif 1, ac mewn cyd-destun milwrol, ‘brwydr’. Mae’n ddigon posibl mai cyfeirio at ffyrnigrwydd y llanw, o bosibl ar adeg storm, a wna yng nghynfaran cynnif.
170O du llanw a llif a llef dylan:
Dewrwr a folaf a folan 72 folan LlGC 6680B uolafnt; derbynnir awgrym HG Cref 235 i ddiwygio darlleniad y llawysgrif yn uolann er mwyn y brifodl; cf. ll. 166 ymgelann, sydd hefyd yn drydydd lluosog berf bresennol. (Tybed ai uolann oedd darlleniad y gynsail, a bod yr ysgrifydd wedi ei gamddarllen fel uolaun, gan ddehongli’r ail u fel ‘f’, cyn sylweddoli mai ffurf trydydd lluosog oedd ei hangen, gan gywiro’n uolant?) Ceir, felly, doddaid rheolaidd yn llau. 171–2; ond sylwer mai fel cyhydedd hir y dehonglir y cwpled yn GLlF (er na nodir hynny, ibid. td. 10). Am enghreifftiau eraill gan y bardd o ddau doddaid yn dilyn ei gilydd, cf. llau. 113–16 a GLlF 2.33–6. Am y treiglad meddal sy’n arferol i’r goddrych yn dilyn berf trydydd lluosog, cf. GMB 3.141. – feirdd byd,
(Dewrwyr a weryd penyd pob gwan)
Doniawg bedrydawg o bedrydan,
Doniau diamau deddfau Ieuan.86 Ieuan Yr Apostol Ieuan.
175Tra 73 Tra LlGC 6680B y tra. O ddiwygio ceir y pum sillaf arferol yn hanner cyntaf y llinell hon o doddaid. Ond fel y nodir yn GLlF, mae’n bosibl fod y tra yn cynrychioli ffurf gywasgedig ar o hyd tra neu o yd tra. fo ef yn nef yn ei 74 yn ei O’i gywasgu’n unsill, ’n ei, ceir y pum sillaf arferol yn ail hanner y llinell hon o doddaid; cf. n40(t). wengan – gadair
Yn ben ban llefair, yn bair eirian,
Cadwedig fy ngwawd i’w logawd lan:87 llogawd lan Yn llythrennol llan ‘eglwys’ sy’n llogawd ‘mynachlog’.
Cedwid Duw dewrddoeth cyfoeth Cadfan!


I
Y Proffwyd goruchaf, Duw i’m hamddiffyn,
yr iawn Berchennog mawr Ei wyrthiau, Arglwydd gwaredigaeth:
yn ôl dymuniad fy Mhennaeth, boed iddo Ef roi i mi awen,
awdl wych ei thynged, ragorol ei defosiwn.
5Dymunaf ganmol, clodfori noddwr ar gân,
gan fod fy Arglwydd wedi rhoi i mi rodd sy’n wrthrych dymuniad,
gan fod Duw yn rhoi i’m rhan lawenydd digonol
i foli Cadfan, noddfa milwyr.
Amddiffynnodd ef hawl ei diriogaeth a’i freindaliadau,
10amddiffynnodd yr ymladdwr arwrol breswylfan wych;
cynhaliodd Duw urddas, yn ŵr ac yn llanc,
ar gyfer mab Eneas, yr un ac iddo anrhydedd llanc ucheldras;
yr arglwydd ffyddlon ei fendithion, mab Gwen, a welwyd yn sanctaidd:
bydded i’r un grymus sydd â’i ddull yn gryfder ar faes brwydr fy nghynnal innau!
15Boed i mi gynhaliaeth Duw, athrylith sy’n rhoi bodlonrwydd,
dysg gywrain sy’n rhoi pleser, gorchwyl arbennig,
i gyflawni gwaith na fo’n flinder
yn y lle nad yw trais yn mentro mynd trwy fwriad,
lle nad oes neb yn mentro gorfodi’r anghenus i adael yr eglwys
20ger glan yr eigion glas oherwydd ei braint,
lle na fentrir dwyn trais oherwydd ei hawl ariannol,
lle mentraf rodio ar hyd fy oes.
Mae tair allor fawr eu rhinwedd y mae eu gwyrthiau yn enwog
rhwng môr, bron goediog a llanw grymus:
25allor Mair gan yr Arglwydd, crair gwerthfawr y mae’n hawdd ymddiried ynddo;
allor Pedr, bydded iddi gael ei moli oherwydd ei awdurdod ef;
a’r drydedd allor a estynnwyd o’r nefoedd,
gwynfydedig yw ei chartref oherwydd ei chroeso yno.
Dedwydd yw’r sawl a fydd yn bod mewn bodlonrwydd
30yn y man lle mae arglwydd gwlad Ednyfed yn trigo;
dedwydd fydd meddwl y sawl a gafodd ei fawrygu ynddi,
ar lun eglwys Dewi y lluniwyd hi:
eglwys rymus Cadfan, golygfa danbaid,
eglwys lachar wyngalchog wedi ei gwneud yn ddisglair,
35eglwys ffydd a chrefydd a chred a chymun,
yr oedd wedi ei llunio fel petai ar gyfer Duw ei hun.

II
Lluniodd ei Dduw breswylfan gwych ar ei gyfer
pan ddaeth o Lydaw yn bennaeth ar fintai Gristnogol.
Mab sanctaidd nad ymgeleddodd unrhyw bechod,
40boed i Dduw fendithio’r gwas dwyfol:
bendith naw gradd y nefoedd ar ei drigfannau,
un llawn anrhydedd sy’n tawelu ei bobl yn y fro sydd wedi ei bendithio.
Roedd hi’n daith wedi ei bendithio i’w gymdeithion
bob nos a phob dydd pan ddaeth i’r deyrnas,
45pan ddaeth awydd ar ddisgynnydd Emyr i syllu
bob noswaith a phob bore ar Aber Menwenfer.
Cerdd fawl aruchel yw hon i Feirionnydd,
bardd aruchel sy’n ei llunio fel prydydd:
gwlad aruchel Cadfan lle trig ynghyd
50Lyfr Efengyl parod yr arglwydd gwylaidd
a’r ffon fagl hardd werthfawr a newydd ei gwyrthiau
sy’n rhwystro gelynion rhag lladd ei gilydd,
a’i harglwydd a ddaw â llwyddiant i’w diriogaeth, testun llawenydd gwlad,
a sicrha fod ei noddfa yn gadarn ac yn wynfydedig.
55Un tebyg i Osfran uchel ei glod yn trywanu tarianau’r gelyn,
tarian yr arglwydd gwych a haelionus sy’n trechu cais yn ei erbyn,
a’i habad sy’n anrhegwr, dosbartha fendith,
atom y dosbartha laweroedd o’i eglwys:
trefna ymgyrch filwrol trwy gydsyniad Duw,
60Morfran hyglod ei darian, un sy’n fawredd ar ddiwrnod gorfoleddus brwydr.
Mae Duw wedi creu dau henadur o’i phlaid [h.y. o blaid Meirionnydd],
yno y mae offeiriaid caredig a da eu ffawd:
nid yw bod o dan awdurdod un hael ei glod
yn achosi gofid i ddyffryn dedwydd, llwyr grefyddol,
65 [un sydd] yn gwarchod crog a threthi a choedydd a changell
a môr ac arfordir a mynydd-dir.

III
Mor fuddiol yw fy nghynhaliaeth ar flaen torf
yn ystod achlysur llawen y tymor gwyliau.
Eglwys amlwg yw hon yng ngŵydd arweinydd grymus,
70eglwys amlwg Cadfan ar lan y môr glas.
Ni chollir o’i thir nac o’i phreswylfan llawn cadernid
droedfedd trwy gythrwfl, lle anodd i wneud hebddo!
Nid oes neb yn mentro dwyn trais dros ei chadarnle,
nid oes neb yn ystyried twyll er mwyn treiddio trwy ei dôr;
75ni chymododd pennaeth llu trwy gyngor gwael mewn brwydr
(ni chymerodd yr un tebyg iddo feddiant o darian
nac o eiriau anghyfiawn yn erbyn yr un â dicter Echdor),
ni welwyd bai ar darian ar ysgwydd yr arglwydd:
ni welaf unrhyw fai ar fy arglwydd yn ei ddicter llawn cynnwrf
80wrth iddo amddiffyn eglwys fawr Cadfan sydd fel eglwys Bangor.
Clywir yn eglur am ei chreiriau enwog,
ei cherdd, ei harweinwyr, ei meini marmor;
gwelir ei gwyrthiau amlwg yn feunyddiol,
daw pobl i ymweld â’i thrigfan ffyniannus,
85ei hucheldir, ei chyfraith o fewn ei therfynau,
ei chlod, ei lleoliad ar ei harfordir.

IV
Mor briodol yw hi i mi gyda’m gallu a’m dealltwriaeth doeth
goffáu arglwydd gyda’m cân newydd,
gan iddo roi i mi gyfran o geffylau gwyn cyflym,
90gan iddo gofio amdanaf pan ddosbarthodd rodd.
Atgoffa pobl am Iesu yw bwriad fy ngherdd
a moli Cadfan gyda’i gydsyniad Ef;
cerdd foliant a haedda ceidwad byddin:
iawn yw moli arglwydd sy’n anrhegwr hael.
95Teilwng o fawl yw’r un Duw, yr unig amddiffynnwr sydd,
ym Meirionnydd hael, cyson ei rhodd:
molir ei chôr a gweinyddiad ei hofferen
a’i cherdd a’i milwyr a’i môr a’i diod
a’i heglwys ger y cefnfor ac ar bwys glan y llanw;
100ffynna ei daear a’i hŷd a’i had,
ffynna cyfraith a thir yn ei thiriogaeth,
ffynna gwledd a medd a chyfoeth llesol,
ffynna pob ŷd cymysg a phob had amrywiol ynddi:
daw ffyniant i mi wrth foli cynheiliad milwyr!
105Ffyniannus yw fy ngherdd ymhlith amlder
y bobl ffodus a’r trysorau a ddaw tuag atat.
Llawen oedd yr Arglwydd Dduw y dydd y cenhedlwyd Cadfan,
un yr oedd ei law fendigaid yn agored i’r gwan.
Cyflawnodd wyrthiau trwy Ei gydsyniad:
110gollwng tân yma mewn dillad;
cafodd wared ar bla, ar ddiffyg ac ar wadiad,
gan fendithio Gwynnyr a’i wŷr a’i wlad.
Cyflawnodd ei blentyndod fel gŵr doeth cydnabyddedig,
dewisodd nef yn hytrach na’i etifeddiaeth.
115Dau ŵr a folaf, fel y mae’r Arglwydd yn caniatáu i mi,
dau hardd, dau gwyn eu byd, dau roddwr hael,
dau ddoeth mewn awdurdod, mewn cerdd gyson,
dau annwyl, dau gyd-wladwr, dau ŵr sanctaidd,
dau sy’n gwneud gwyrthiau er mwyn taflu goleuni o’u blaen,
120dau ddirwystr eu rhodd er boddhad y sawl a ddaw ar eu gofyn,
dau gefnder oeddynt na chynllunient frad:
Cadfan yn amddiffyn eglwys ynghyd â Lleudad.

V
Yn rymus yr amddiffynna Cadfan lan y cefnfor glas,
mab cadarn Eneas, cynheiliad gweddi.
125Man amlwg cadarn yw Tywyn, nid iawn yw tewi amdano,
tebyg yw ei anheddau i breswylfan hardd y nefoedd.
Yn wych y cynhaliodd ger Dysynni
wychder a haelioni a rhoddi hael:
cynnydd yr amddiffynfa ac iddi awdurdod mawr a balch,
130amddiffynfa rymus y morlan, ceir bodlonrwydd ynddi.
Y bwriad yn fy meddwl yw llunio barddoniaeth iddi,
cynlluniwn, deuwn i ddyffryn Dyfi.
Nid gweithred ofer i’r sawl sy’n dymuno Duw
yw mentro teithio tu draw i Eryri:
135uchelgeisiol yw ei gynllun wrth iddo ei geisio,
arfau o’r Deheubarth yn achosi pryderon.
Cyn ei farwolaeth yr oedd yn un ysblennydd ei letygarwch
yn amddiffyn cyfoeth Enlli rhag pobl gyffredin.
Mae eglwys arbennig dros y môr,
140gyda Lleudad a Chadfan yn ei hamddiffyn:
dewrder i lawer mewn tiriogaeth wedi ei hamgylchynu gan y môr,
man cadarn, poblogaidd, lle ceir llawenydd ac urddas.
Mae yna eglwys brydferth iawn i draethu amdani
yng ngwlad Meirionnydd, teilwng yw ei moli.
145Molaf Dduw aruchaf, cyflwynaf iddo weddi:
am gael ymweld, cyn tawelwch a chyn tewi,
ag eglwys Cadfan y daw llawer i ymweld â hi, hyfryd ei thrigfannau,
cyrchfan pobl hael sy’n fwy hael na’r Tri;
ac yn sgil ei duwioldeb, nid yw’n arferol fod herwyr ar ei chyfyl
150ac nid oes ychwaith unrhyw angen ynddi,
eithr pobl hardd a beirdd a barddoni,
eithr hedd, a medd mewn llestri yfed,
eithr ymddiddan dymunol wrth sgwrsio â bardd
a dynion hardd heb unrhyw gywilydd, heb unrhyw grintachrwydd,
155a chasgliad o drysorau a bendith a graslonrwydd,
a chrair euraid wedi ei gynnal yn dda ac sydd yr un mor rhagorol â hi,
a chelfyddyd a barddoniaeth a cherddoriaeth lawen,
a gwell yw ein llen nag un Llanddewi,
ac o amgylch ei ffin ceir ei chyd-wladwyr clodfawr,
160a chyrn yfed o ddyrnau, cynhaliaeth wedi ei haddurno’n wych,
a chylch y llanw yn llenwi aber,
ac ar adeg yr hwyrol weddi, rheolwr yn gwasanaethu.

VI
Darparwr haelioni a chyfran o rodd yw fy ngherdd,
darparwyr ar ei ran yw beirdd Cadfan.
165Ni fydd y rhyfelwyr ger ymyl y môr, ger ymyl arfordir aruchel,
yn mynd i guddio wrth iddynt gynnal eu rhyfel:
pendefigion Meirionnydd, cadarnle’r byd,
boed Duw gyda nhw, rhennir eu cyfoeth gyda ni.
Dewisais fy ngherdd yn ffyrnigrwydd tymestl
170ger ymyl llanw a llifeiriant a bloedd y môr:
molaf ŵr dewr y mae beirdd y byd yn ei foli
(gwŷr dewr sy’n dileu penyd pob un gwan),
un perffaith, gogoneddus, cyflawn o ddawn,
o ddoniau sicr dulliau Ieuan.
175Tra fo ef yn y nefoedd yn ei gadair ddisgleirwen,
yn bennaeth wrth iddo lefaru, yn dywysog disglair,
diogelir fy marddoniaeth yn ei eglwys fynachaidd:
boed i Dduw doeth a dewr warchod teyrnas Cadfan!

1 Rhwyf ‘Pennaeth’, cf. GPC d.g. rhwyf1. Dilynir GLlF 3.3 a’i ddeall yn gyfeiriad at Dduw, ond gallai hefyd gyfeirio un ai at Gadfan neu ryw bennaeth cyfoes (boed yn bennaeth eglwysig yn Nhywyn neu’n arglwydd secwlar), yn yr ystyr fod yr awen a dderbynia’r bardd gan Dduw yn rhoi pleser i’r pennaeth hwnnw.

2 caru Fel yn achos y ferf hoffi ‘moli’ (gw. Williams 1923–5: 39–41), defnyddiai’r beirdd caru weithiau am eu canu mawl.

3 canrhed Fe’i deellir yn yr ystyr ‘cynhorthwy, nodded’ a roddir yn GPC, yn gyfeiriad at y sant, neu o bosibl at bennaeth cyfoes; cf. ei ddefnydd gan Gynddelw am Dduw yn GCBM ii, 16.190 Canret cret, creuyd a’m rodỽy, ac ibid. 17.96. Nid amhosibl ychwaith yr ystyr ‘cymuned’ a roddir yn GLlF 1.5 (aralleiriad), ac a roddir hefyd yn GPC; cf. cyfieithiad y llinell yn McKenna 2015: 273 ‘I love the song of community’.

4 cedwyr nodded Mae’r bardd yn llau. 8–14 yn chwarae ar yr elfen cad- yn enw Cadfan, ac mae’n bosibl mai yn sgil ei enw y daethpwyd i’w ystyried yn nawddsant milwyr yn benodol: gw. ymhellach y Rhagymadrodd.

5 Eneas Ceir ach Cadfan yn ‘Bonedd y Saint’: Catuan sant m. Eneas ledewic o Lydaw , a Gwenn teirbron merch Emyr Llydaw y vam (EWGT 57); gw. ymhellach y Rhagymadrodd.

6 cedwir Fe’i deellir yn ansoddair cyfansawdd (ced + gwir) yn ddisgrifiad o Gadfan (y nen) y mae ei fendithion yn sicr i’w ddilynwyr. Ond fel berf amhersonol y’i deellir yn GLlF 1.13, ac ni restrir yr ansoddair yn GPC.

7 Gwen Gwen Teirbron, mam Cadfan a merch Emyr Llydaw, gw. n26(e). Am ei chwlt yn Llydaw, gw. Jones and Owen 2003: 47–8.

8 a fad weled Cyfeiriad at sancteiddrwydd Cadfan (cf. DewiGB ll. 210 Dewi mawr Mynyw, mad y’i gweled), neu at y ffaith fod y sawl a’i gwelai yn ‘ffodus’ (mad).

9 ni bo Am ni bo, yn lle’r ni fo disgwyliedig mewn cymal perthynol (a chymryd mai dyna’r dehongliad cywir), gw. G 67.

10 trasglwy Unig enghraifft, a gysylltir yn GLlF 1.18n â trawsgwydd / trawsglwydd a drafodir yn PKM 256–7; cf. GLlF 2.34 traỽsglỽyd uỽyhaf. Ar ystod ei ystyron, gw. GPC d.g. trawsglwydd, trawsgwydd ‘cynllun, bwriad, … ymgymeriad, darpariaeth’. Deellir trasglwy fyned yn gyfuniad, gyda trasglwy yn goleddfu’r berfenw. Posibilrwydd arall fyddai cymryd, gyda GLlF, fod trasglwy yn cyfuno â trais: ‘cynllwyn trais’.

11 Llinell anodd i’w chyfieithu, er bod yr ystyr yn weddol amlwg, cf. HG Cref 234 ‘Tybiaf mai ystyr y llinell yw na feiddir … dwyn dim o eiddo’r eglwys drwy drais.’ Deellir dir yn enw, ac ar daered, ‘dyled gyfreithiol (benodol), arian a delid gan y taeogion i’r brenin gyda’r dawnbwyd neu yn ei le, teyrnged, treth … cymynrodd i’r eglwys’, c., gw. GPC d.g. daered 1.

12 gwyrthau glywed Rhagflaenir y berfenw (clywed) gan ei wrthrych (gwyrthau), a goleddfa’r cyfuniad tair allawr gwyrthfawr. Aralleirir yn llac. Ar y diffyg treiglad i’r ansoddair, gwyrthfawr, yn dilyn rhifol + enw benywaidd, gw. TC 64–5.

13 gwrdd lanwed Cyfeiriad, yn ôl pob tebyg, at y llanw pwerus yn aber Dysynni a oedd yn nes at eglwys Tywyn yn yr Oesoedd Canol, cyn i deulu Corbet, Ynysymaengwyn, ddraenio llawer o’r morfa yn y 18g.; gw. Gover 2015: 30, ‘It was not until the draining of the marshes in the 18th century that the fields we see now to the north of the church were created. In the 12th century the whole area would have been covered at high tide … The church on its small mound would have towered above it’; cf. n64(e), n66(e).

14 a’r drydedd allawr Allor Cadfan, er nas henwir.

15 gwyn ei fyd ei thref Gan mai enw benywaidd yw tref bron yn ddieithriad (gw. GPC), disgwylid gwyn ei byd yma, fel yn LlDC 15.1 Gwin y bid hi y vedwen in diffrin guy. Ond am enghreifftiau eraill o’r ymadrodd gwyn ei fyd yn golygu ‘gwynfydedig’, a’r rhagenw wedi colli ei rym, gw. G 743 a cf. GLlG 3.15–16 Gwyn ei fyd feirdd byd / Gwyn ei fyd anant.

16 gwlad Ednywed Dilynir GLlF 1.30n a’i ddeall yn ddisgrifiad o Feirionnydd fel gwlad Ednywed/Ednyfed fab Einudd, disgynnydd i Feirion Meirionnydd, sylfaenydd y cantref, gw. EWGT 108; WCD dan Ednyfed ab Einudd. Er mai cyffredin yn y farddoniaeth yw cyfeirio at ardal fel gwlad ei sylfaenydd (cf. disgrifiad Cynddelw o Bowys, GCBM i, 15.14 Gwlad Urochfael Ysgithraỽc), ni chafwyd enghraifft arall o ddisgrifio Meirionnydd fel gwlad Ednywed/Ednyfed nac ychwaith o’r enw Ednyfed ab Einudd yn y farddoniaeth. Felly ni ellir diystyru awgrym G 439 i’w ddeall yn unig enghraifft o enw cyffredin ednywed ‘bodlonrwydd, boddhad; dymuniad, dyhead’ (cf. HG Cref 85): ‘Gellir efallai gydio ednywet wrth fôn ernyw, ernywet, ernywyant, ond gellir hefyd dybio *ednyw: adneu, ac yna adffuriant o hwnnw.’ Ni chynhwyswyd ednywed yn GPC.

17 Os derbynnir bod trefn naturiol y frawddeg wedi ei newid, gellid hefyd aralleirio ‘dedwydd fydd y sawl y mawrygwyd ei feddwl ynddi’.

18 eglwys Dewi Fel y nodir yn GLlF 1.32n, ni ellir bod yn sicr at ba un o eglwysi Dewi y cyfeirir – ai Tyddewi, Llanddewibrefi neu hyd yn oed at ryw Landdewi arall. Ond awgrymir bod yr eglwys honno’n un fawreddog a bod eglwys Cadfan yn debyg iddi.

19 Cf. y disgrifiad enwog yn Historia Gruffudd ap Cynan o eglwysi newydd Gwynedd, a godwyd yn oes Gruffudd ap Cynan (m. 1137), yn disgleirio fel sêr: HGK 30.17–18 echtywynygu a wnei Wynedd yna o eglwysseu kalcheit, fal y ffurfafen o’r syr.

20 wrth Nid yw ei union ystyr yn eglur; ond gw. GPC d.g. wrth (2) ‘oherwydd’, ‘mewn ymateb i’, ‘er mwyn’, ‘ar ran, dros’, c.

21 ar lydw Dilynir GLlF 1.37 a deall yr arddodiad ar yn yr ystyr ‘[yn ben] ar’. Cyfeirio a wneir yma at y traddodiad fod Cadfan wedi dod i Dywyn o Lydaw, yn bennaeth ar fintai o saint (a oedd gan mwyaf yn gefndryd iddo); gw. y Rhagymadrodd.

22 ni faeth cerydd Cysefin y gwrthrych a geir hefyd ar ôl y ferf trydydd unigol gorffennol maeth hefyd yn GDB 3.21 Ny maeth bygylaeth; erbyn y 14g., roedd treiglo’n fwy arferol, cf. GGMD ii, 1.167 ni faeth gaeth gythrudd.

23 naw radd nef Naw gradd angylion y nefoedd, gw. GPC d.g. nawradd a GP 199.

24 cynhewydd Dyma’r unig enghraifft o’r gair nad yw mewn geiriadur. Fe’i diffinnir yn Davies 1632: d.g. fel ‘qui tacet, taciturnus’, gan gydio’r bôn wrth y ferf cynhewi (ᚲ tewi), cf. GPC ‘?Gostegwr; gŵr distaw’. Felly hefyd G 250, ond gan awgrymu y gellid ystyr wahanol o’i gydio wrth yr ansoddair tew. Yn betrus fe’i deellir yma yn ddisgrifiad o Gadfan fel un sy’n ‘tawelu’ ei bobl, yn dod â thawelwch meddwl iddynt.

25 Bendigaid a daith o’i gyweithydd Cyfeiriad arall at y traddodiad fod Cadfan wedi dod i Gymru o Lydaw, yn bennaeth ar fintai o saint, gw. n21(e) a’r Rhagymadrodd. Ar o’i ‘i’w’, gw. GMW 53.

26 esillydd – Ymer Disgrifiad o Gadfan fel disgynnydd (esillydd) i’w daid, Emyr Llydaw, tad ei fam, Gwen Teirbron: gw. n7(e). Dangoswyd mai enw cyffredin oedd ymyr, emyr (o’r Lladin imperium neu imperator) yn y cyfuniad emyr Llydaw, a bod emyr wedi ei gamddehongli’n enw priod (Lloyd-Jones 1941–4: 34–6).

27 Aber Menwenfer Neu o bosibl Aber Menwenwer (cf. LlGC 6680B aber menwener, a’r prif ysgrifydd wedi ychwanegu’r ). Yn HG Cref 234 awgrymir diwygio yn menver gan gymharu’r enw â Minwear yn Arberth ym Mhenfro, y ceid iddo ffurfiau megis Minuer a Mynwer yn yr Oesoedd Canol; cf. ymhellach Charles 1992: 526–7 lle awgrymir y gall mai min + gwern yw’r elfennau, felly ‘ymyl tir corsiog’. (Yn erbyn y diwygiad mae’r ffaith na fyddai’r bumed sillaf yn y llinell yn cynnig odl â’r gair cyrch yn ll. 45, patrwm sy’n gwbl reolaidd trwy’r gerdd hon.) Dehonglir Aber Menwenỽer yn enw lle hefyd yn GLlF 1.46, ond heb esboniad. Fel enw cyffredin y’i nodir yn G 5. Mae’n debygol mai at aber Dysynni y cyfeirir, fel yr awgryma Lewis 2005: 50–1 (ac ibid. troednodyn 29), ond mae’r ffurf yn anhysbys ac ni chafwyd unrhyw oleuni yn Archif MR. Fel y gwelwyd uchod, n13(e), roedd aber afon Dysynni yn nes at Dywyn yn yr Oesoedd Canol; a gollwyd yr enw wrth i’r aber newid safle?
Ceir yn y cwpled hwn enghraifft ddiddorol o ymdeimlad â thirwedd yn yr Oesoedd Canol. Gwahanol iawn oedd profiadau Tydecho, a ddaeth o Lydaw yng nghwmni Cadfan. Setlodd ef yn Llandudoch i ddechrau, ond ar ôl diflasu ar y môr (Ni charai / Y môr llwyd), symudodd i Fawddwy: gw. TydechoDLl llau. 7–18. Cawn yr argraff fod chwedloniaeth am y cwmni hwn o saint yn yr Oesoedd Canol, ond ysywaeth briwsion sydd ar ôl erbyn hyn.

28 Uchelfardd a’i pryd fegys prydydd ‘Llunio’ neu ‘gyfansoddi’ yw ystyr y ferf prydu yma, a’r gwrthrych yw Uchelwawd (ll. 47). Wrth honni ei fod yn cyfansoddi fegys prydydd a yw Llywelyn Fardd yn awgrymu nad prydydd mohono? Cofier mai Llywelyn Fardd oedd ei enw; gthg. Cynddelw Brydydd Mawr. Cynghanedd draws wreiddgoll sydd yma, gyda’r elfen wreiddgoll (Uchelfardd) yn cynnal cymeriad â llau. 47 a 49.

29 preswyl Awgryma’r ansoddair fod yr Efengyl wastad ar gael (GPC ‘parod, wrth law’). Gallai ufyl ofydd fod yn gyfeiriad at Gadfan, neu at bennaeth cyfoes yr eglwys – dichon fod yr amwysedd yn fwriadol.

30 Efengyl … / A’r fagl Dau grair a gedwid, yn ôl pob tebyg, yn eglwys Tywyn, sef llyfr yn cynnwys testun o’r Efengylau a ffon fagl. Credid bod grym arbennig iddynt am eu bod unwaith wedi perthyn i Gadfan. Enwir ffon fagl sant a’i lyfr o’r Efengyl gyda’i gilydd yn y llyfrau cyfraith lle awgrymir bod arwyddocâd arbennig iddynt yng nghyswllt dynodi ffiniau tir, hawliau dros dir, ac ati: cf. Pryce 1993: 209 (lle trafodir eu pwysigrwydd yn y llyfrau cyfraith), ‘The crosier and gospel book will almost certainly have been relics, representing the authority of the church’s founding saint who had reputedly owned them. Originally, they may have been carried around the boundaries.’ Byddai dwy blaid mewn anghydfod yn tyngu llw ar y creiriau, ac mae’n bosibl weithiau, fel yr esbonia Pryce, y byddai manylion am ffiniau’r tiroedd a gymynroddid i’r eglwys ar hyd y canrifoedd yn cael eu cofnodi mewn llyfr Efengyl a gedwid ynddi. Dyna a ddigwyddodd yn achos y glosau a ychwanegwyd at lyfr Efengyl Caerlwytgoed, lle ceir gwybodaeth am hawliau tiroedd eglwysi Teilo yn Llandaf a Llandeilo. Ymhellach ar bwysigrwydd creiriau mewn llwon, gw. ibid. 41–3.

31 A ludd i’r gelyn ladd ei gilydd Adferai ffon fagl Cadfan heddwch rhwng gelynion, fel y y gwnâi Cyrwen, ffon fagl Padarn, gw. Williams 1941–2: 70–1.

32 noddfa Ar arwyddocâd nawdd a braint eglwysi yn yr Oesoedd Canol, cf. Jones and Owen 2003: 55, ‘Both braint and nawdd are native legal concepts developed in a church context from the field of secular law where braint means the right of enjoying full legal status or privilege. In the case of a church, it is a privilege generally associated with royal grant or protection.’ Yn y 12g. pwysleisiodd Gerallt Gymro gymaint oedd parch y Cymry at noddfeydd eglwysi’r saint: ‘The more important churches … offer sanctuary for as far as the cattle go to feed in the morning and can return at evening’, Thorpe 1978: 254. Dichon mai’r arglwydd secwlar Hywel ab Owain yw’r arglwydd gwladlwydd y cyfeirir ato yn y llinell flaenorol, ef sy’n diogelu braint yr eglwys, gw. y Rhagymadrodd.

33 Osfran Arwr anhysbys a gofid, o bosibl, am ei filwriaeth. Tybed ai ef oedd tad y milwr a fu farw yng Nghamlan yn ôl Englynion y Beddau, LlDC 18.36 Bet mab ossvran yg camlan? Mae’n bosibl y dylid ailystyried GGMD i, 4.85 rhuthr osbran a chymryd mai’r un cymeriad Osbran neu Osfran a gofid am ei filwriaeth sydd yno hefyd. Mae’n debygol mai moli’r arglwydd secwlar Hywel ab Owain (gw. Rhagymadrodd) a wna Llywelyn Fardd yn llau. 53–6, cyn troi yn ll. 57 i foli’r Abad Morfran.

34 Morfran Abad eglwys Tywyn, a noddwr y gerdd hon, yn ôl pob tebyg; gw. y Rhagymadrodd.

35 dydd Os cywir mai moli milwriaeth Morfran a wneir yn llau. 59–60, a natur wych ei amddiffyn (a symboleiddir gan ei rod, ei darian gron), yna gellir dehongli dydd yma yn yr ystyr ‘cyfarfod, brwydr, cad’, gw. GPC d.g. dydd 2(c), a diddan o bosibl yn cyfeirio at orfoledd mewn buddugoliaeth. Tybed ai cyfeiriad penodol sydd yma at y modd yr amddiffynnodd Morfran Gastell Cynfael yn 1147 yn erbyn ymosodiadau gan Hywel ab Owain a Chynan ei frawd? Gw. ymhellach y Rhagymadrodd.

36 dau henefydd Ai Cadfan a’r Abad Morfran? Neu Forfran a rhyw arweinydd cyfoes arall yn yr eglwys?

37 dyffrynt Nid yw Tywyn ei hun wedi ei leoli mewn dyffryn, ond ceir dyffryn afon Dysynni i’r gogledd-ddwyrain a Chwm Maethlon a sawl dyffryn arall i’r de-ddwyrain.

38 crog Cymerir mai cyfeirio a wneir at ddelw o’r grog yn eglwys Tywyn, cf. GLlF 1.65n. Gthg. cynnig Pryce 1985: 166 i’w ddeall yn yr ystyr ‘crocbren’, gan esbonio bod y pethau a enwir yn y ddwy linell hyn, ‘sef ced, coedydd, môr, arfordir, a mynydd-dir, bob un ohonynt yn agweddau ar hawliau a thiriogaeth Tywyn’, a bod cyfeiriad at grocbren, felly, a’r hawl ymhlyg ‘i weinyddu barn ar ladron a’u crogi’, yn addas yma. Fodd bynnag, deellir crog gyda côr (eto yn ll. 65) i gyfeirio at nodwedd y tu mewn i’r eglwys ei hun.

39 cynnelw ‘Cefnogaeth’ neu ‘gynhaliaeth’, c., gw. GPC. Fe’i defnyddir yn achlysurol gan y beirdd yng nghyswllt eu perthynas â’u noddwyr, ond nid yw’n eglur bob tro ai cynhaliaeth gan neu gynhaliaeth i noddwr yw’r ystyr; cf. DewiGB n2(e) ar Cynnelw o Ddewi. Cedwir yr amwysedd yn yr aralleiriad. Gyda’r llinell hon, cf. yn arbennig GCBM ii, 2.54 Kyndelỽ a’e kynnhelỽ yn y kynnhor (i Owain Gwynedd). Mae’n debygol fod Llywelyn Fardd a Chynddelw yn cyfeirio at eu statws uchel yn canu yn rhan flaen y llys.

40 uchel dymor Mae’n debyg mai cyfeirio at achlysur pwysig yng nghalendr yr eglwys a wna’r bardd yma, pan gâi Llywelyn ei drin â pharch arbennig gan bennaeth yr eglwys.

41 Uchel log … / Uchel lan Gall fod y bardd yn gwahaniaethu yma rhwng llog (ᚲ Lladin locus ‘lle’), yn yr ystyr o’r eglwys yn cynnwys ei thiroedd ehangach (cf. TysilioCBM n69(e)), a’r llan, sef adeilad yr eglwys a’i mynwent a amgylchynid gan ffens neu wal. Cymerir bod yr ansoddair uchel yn disgrifio amlygrwydd yr eglwys yn y dirwedd, gw. n64(e) ar cadrfryn yw Tywyn; er hynny, gallai hefyd ddisgrifio statws ‘aruchel’ yr eglwys.

42 ni chymwyll neb twyll Neb ‘unrhyw un’ yw goddrych y ferf, a twyll yw’r gwrthrych. (Ar y diffyg treiglad i’r gwrthrych, gw. n5(t) ar rheg.) Ond gellid deall neb twyll yn gyfuniad (‘unrhyw dwyll’) ac yn oddrych y ferf: ‘Nid oes unrhyw dwyll yn ystyried tyllu ei dôr’.

43 llaw gyngor Gellid hefyd ei ddeall yn gyfuniad ansoddeiriol gyda grym enwol, ‘yr un salw ei gyngor’, cf. GLlF 1.75; yn McKenna 2015: 276 cyfieithir ‘The lord of the host has not tolerated cowardice [= llaw gyngor] in conflict’.

44 yr un eisior Ai disgrifio Cadfan a wneir yn llau. 76–7, tra bo llau. 75, 78–80 yn ddisgrifiad o’r Abad Morfran? (Ar y modd yr amddiffynnodd yr abad ei diriogaeth, gw. y Rhagymadrodd.) Yn wahanol i’r abad, dywedir yn llau. 76–7 nad oedd angen arfau na geiriau llidiog ar Gadfan, gan fod ei ffon fagl yn sicrhau heddwch, fel y gwelsom yn llau. 51–2.

45 Echdor Yr arwr clasurol Hector fab Priaf, y nodweddid ef gan ei nerth milwrol, gw. TYP 337–8.

46 bangeibr Gair a ddefnyddiwyd gan Wynfardd Brycheiniog yntau i ddisgrifio eglwysi uchel eu statws, gw. DewiGB n58(e) d.g. Meiddrym.

47 cadw Deellir cadw yma’n ferfenw ‘amddiffyn’, cf. G 91. Cymerir bod Gadfan yn dibynnu ar yr enw benywaidd bangeibr er mwyn esbonio’r treiglad meddal. Gall cyfuniad berfenwol o’r fath gael ei ddefnyddio gyda grym rhangymeriad (fel y’i dehonglir yma), neu rym rhagenwol (‘amddiffynnwr eglwys fawr Cadfan’): gw. Parry Owen 2003: 248–9; Lloyd 1933–5: 16–22. Gthg. GLlF sy’n dehongli cadw fel enw ‘praidd’, gan aralleirio ‘eglwys fawr praidd Cadfan’. Gan mai enw gwrywaidd yn unig yw cadw yn yr ystyr honno (gw. GPC d.g. cadw 1, lle ceir enghreifftiau o’r 14g. ymlaen), ni ddisgwylid i Gadfan dreiglo.

48 Bangor Perthynai eglwys Tywyn i esgobaeth Bangor, a dichon y cymherir maint a statws eglwys Tywyn â’r eglwys gadeiriol fawr honno yn Arfon. Awgrymir yn GLlF 1.80n fod y bardd, trwy gymharu eglwys Tywyn â’r gadeirlan, ‘yn hawlio annibyniaeth Eglwys Cadfan ar awdurdod yr esgobaeth’, a hynny ar adeg pan fyddai’r hen fameglwys hon wedi colli peth o’i statws yn sgil creu’r esgobaeth yn gynharach yn y ganrif, gw. Gresham 1985–9: 191–2.

49 ban glywhitor Ar y ffurf ferfol hynafol clywhitor, gw. n41(t). Gyda’r cyfuniad ban glywhitor, cf. yn arbennig GCBM ii, 2.20 cleu clywitor (er nad oes treiglad yno).

50 edrychator Ar edrych ‘ymweld’ gw. GPC d.g. edrychaf 1(b), ac am y terfyniad hynafol -ator cf. n41(t) ar clywhitor. Canmolir yma eglwys Tywyn fel cyrchfan i bererinion a ddenid gan ei chreiriau a’i gwyrthiau.

51 ei gwir yn ei goror Deellir yn yn yr ystyr ‘o fewn’ yma, a’r bardd yn cyfeirio at y rhyddfreintiau cyfreithiol a fwynhâi’r rhai a drigai o fewn ffiniau nawdd Cadfan. Ond gallai yn ei goror hefyd olygu ‘yn ei ffiniau’, a gellid dehongli’r ymadrodd yn gyfeiriad penodol at yr arfer o gludo creiriau sant o gwmpas terfynau tiriogaeth ei eglwys, gan gadarnhau’r terfynau hynny trwy dyngu llw ar y creiriau, gw. Pryce 1993: 209n28.

52 dofydd Dilynir GLlF 1.88 a’i ddeall yn gyfeiriad at arglwydd bydol (yr abad?) a rannodd ei geffylau gyda’r bardd (llau. 88–9); ond sylwer mai fel enw am Dduw y’i deellir yn HG Cref 86 (a chymryd mai dyna sy’n ymhlyg yn y briflythyren), a nodir yn G 385 mai prin iawn yw ei ddefnydd am arglwyddi secwlar. O blaid ei ddehongli am Dduw y mae’r ffaith y byddai Llywelyn Fardd yn enwi Duw yn gyntaf, yna Iesu (ll. 91), cyn enwi Cadfan (ll. 92), sef y drefn a ddisgwylid. Ond anodd esbonio’r rhoddion o geffylau (llau. 88–9) os Duw a enwir yn ll. 88, oni chymerir mai rhodd gan Forfran drwy ewyllys Duw oeddynt.

53 cynwad Unig enghraifft, sy’n ymddangos yn gyfuniad o cyn + gwad. Nis ceir yn GPC, ond yn G 262 awgrymir ‘a warafunir, a naceir; gwerthfawr’ neu hyd yn oed ‘yn gwrthod ildio’r blaen, cyflym’. Mentrir ‘cyflym’ yma, ond digon posibl hefyd yw GLlF ‘[m]eirch gwyn a nacesid o’r blaen’ neu hyd yn oed McKenna 2015: 277 (am y llinell gyfan) ‘Since he gave me a share of castoff white horses’.

54 rhodd gyngwastad Fe’i deellir yn ddisgrifiad o Feirionnydd (ll. 96), ond gallai hefyd fod yn ddisgrifiad o Dduw, y gweithredid ei haelioni trwy’r Abad Morfran.

55 cerdd Gallai gyfeirio at gerdd gan fardd i’r eglwys a’r sant, fel y gerdd hon, neu at gerddoriaeth, gw. GPC d.g. cerdd 1. Gan fod Llywelyn Fardd yn cyfeirio’n benodol yma at ddathlu’r offeren, efallai mai’r ail ystyr sydd debycaf.

56 ger dylan, ger glan dylad – hefyd Cyfeirir at leoliad eglwys Tywyn ar lan y môr yn ogystal ag yn agos i aber Dysynni, lle roedd porthladd pwysig yn yr Oesoedd Canol. Mae’n ddigon posibl, o gofio am leoliad yr eglwys ‘towards the southern end of the alluvial plain south of the Dysynni estuary’ (Davidson 2001: 368), fod yr afon yn llifo’n nes at yr eglwys yn yr Oesoedd Canol nag y mae heddiw (gw. hefyd n13(e)).

57 Nodweddid sawl sant gan ei allu i reoli’r pedair elfen (tân, dŵr, aer a daear), gw. Henken 1991: pennod 9. Ond dyma’r unig gyfeiriad at Gadfan yn cludo tân yn ei ddillad. Y wyrth oedd bod marwydos poeth yn cael eu gollwng i arffed pais y sant, heb i’r bais ddioddef dim. Cf. disgrifiad Rhys Brydydd o’r un wyrth a gyflawnwyd gan Gadog: CadogRhRh2 llau. 5–6 Cyrchu tân ni bu lanach / A’i ddwyn ’n ei bais yn ddyn bach. Ymhellach gw. Henken 1991: 65–6. Awgryma’r adferf yman ‘yma’ mai yn yr eglwys y cyflawnodd Cadfan y wyrth hon.

58 Gwynnyr Unig gyfeiriad at gymeriad anhysbys y gallwn gasglu o’r cyd-destun ei fod yn arweinydd ym Meirionnydd yn amser Cadfan.

59 yngnad Ffurf amrywiol ar ynad; ei ystyr sylfaenol oedd ‘dyn doeth’, c., ond gydag amser magodd ystyr fwy penodol yng nghyd-destun y gyfraith, sef ‘ustus, barnwr’, c., gw. GPC d.g. ynad. Ergyd y llinell yw bod Cadfan wedi treulio’i blentyndod (llythrennol ‘ei fagwraeth’) fel dyn doeth – dyma enghraifft o’r topos puer senex sydd mor gyffredin ym mucheddau’r saint.

60 yng nghyfaenad Dilynir G 199 a GPC a deall cyfaenad yn gyfeiriad at gerdd (nâd) y bardd ar gyfer y ddau ŵr y cyfeiriwyd atynt yn ll. 115. Yn GLlF ll. 117n rhoddir iddo ystyr fwy cyffredinol, ‘mewn cytgord’.

61 Cadfan … a Lleudad Nid oes unrhyw dystiolaeth yn yr achau fod Cadfan a Lleudad/Lleuddad yn gefndryd go iawn (ll. 121 dau gefnderw), a chynigir yn GLlF 1.122n mai ‘ysbrydol’ oedd eu perthynas, felly. Er hynny, mae’r ddigon posibl fod Llywelyn Fardd yn gyfarwydd â thraddodiad a gynhwysai Lleudad ymysg ei holl gefndryd (EWGT 57–8).
Roedd traddodiad fod eglwys Cadfan yn Nhywyn yn fameglwys i eglwys Enlli, a bod Cadfan, abad cyntaf Enlli, wedi ei olynu gan Leudad: gw. Elliss 1950: 16; Thomas 1971: 227–31; TWS 168–73. Mae’n debygol mai Enlli yw’r llogawd ysydd herwydd heli a gysylltir â’r ddau sant yn llau. 139–40, ac o bosibl y llan y cyfeirir ati yn ll. 122.

62 Eneas Ar rieni Cadfan, gw. n5(e), n7(e).

63 gwanas Hoelen neu fachyn, gair a ddefnyddir yn gyffredin gan y beirdd am noddwr neu arglwydd sy’n cynnal ei bobl; gw. GPC.

64 cadrfryn yw Tywyn Am hanes a disgrifiad cryno o eglwys Tywyn, a’i phwysigrwydd cynnar fel mameglwys, gw. Davidson 2001: 368–70; Thomas 1971: 226–31; ‘Coflein’ St Cadfan’s Church, Tywyn; Towyn. Yn 1620 cofnodwyd bod capel o’r enw Capel Cadfan ar dir ei mynwent (Davidson 2001: 369n239), ond ni wyddys dim am ei hanes. Dyddir adeilad yr eglwys, fel y mae heddiw, i ail hanner y 12g. (ibid. 369), sef yn fras i’r un cyfnod â cherdd Llywelyn Fardd. Efallai fod y disgrifiad o safle’r eglwys fel cadrfryn braidd yn annisgwyl, ond cf. ll. 165 morlan uchel, a llau. 69–70 Uchel log yw hon . / Uchel lan Gadfan Cyfeiria’r bardd, yn ôl pob tebyg, at y ffaith fod yr eglwys wedi ei lleoli ar godiad tir bychan y byddai’r llanw wedi ei amgylchynu yn yr Oesoedd Canol, gw. n13(e).

65 yd eu Sef geiryn rhagferfol yd yn cael ei ddilyn gan ffurf lafarog y rhagenw mewnol trydydd lluosog (llsgr. y), yma’n cyfeirio ymlaen at cadredd a llariedd y llinell ganlynol, gw. GMW 56 a cf. GLlF 2.28 Mal y’th ryuegeis, yd yth geissaf (= ‘fe’th geisiaf’). Gthg. GLlF 1.12n sy’n cymryd mai dau eiryn rhagferfol sydd yma, gan gymharu yd yr yn llau. 26, 36.

66 ger Disynni Lleolir aber Dysynni ryw ddwy filltir i fyny’r arfordir o Dywyn. Roedd yn nes at y dref yn amser Llywelyn Fardd, a’r eglwys felly’n llythrennol ger Disynni. Gw. n64(e).

67 gorfyrthi Unig enghraifft; dilynir awgrym petrus GPC ‘?twf, cynnydd, ennill’.

68 dyffrynt Dyfi Lluniai Dyfi ffin ddeheuol Meirionnydd, ac yn fwy perthnasol, efallai, ffin ddeheuol plwyf Tywyn, gw. y cyfeiriadau yn GLlF 1.32n a’r map yn Smith 2001: 722.

69 treiddaw trag Eryri Ai bardd o Wynedd neu Fôn oedd Llywelyn Fardd, y byddai’n rhaid iddo groesi Eryri er mwyn cyrraedd Tywyn? A gyrhaeddai’r eglwys trwy ddilyn afon Dyfi ac yna’r arfordir (ll. 132)?

70 ei holi Ai cyfeirio at yr eglwys a wneir (cf. ll. 130 yndi?) neu at Gadfan?

71 arfau o Ddehau Cyfeiriad at gyrch Hywel ab Owain Gwynedd ar Feirionnydd yn 1147, gw. y Rhagymadrodd.

72 Enlli Am gysylltiad Cadfan a Lleudad ag Enlli, gw. n61(e).

73 herwydd heli Cyfuniad cyfystyr â dra gweilgi, c.; cf. yr ystyron a roddir i herwydd fel arddodiad yn GPC 1(a) a sylwer ei fod yn gytras â gerfydd.

74 Lleudad a Chadfan Gw. n61(e).

75 llyre werydre Ar lun gwerydre ‘tir, ardal’ (ᚲ gweryd + -re), dehonglir yr unig enghraifft hon o llyre yn GPC yn gyfuniad o llŷr ‘môr’ + -re. O ran cystrawen y llinell, cymerir mai (g)wrhydri lliaws yw’r brif elfen, a bod llyre werydre yn dibynnu arno; cf. y llinell ganlynol gan yr un bardd, GLlF 2.53 Eryri getwi gat olystaf ‘yr un disgleiriaf ei fyddin (gat olystaf) sy’n gwarchod Eryri (Eryri getwi)’, ac am batrymau cystrawennol tebyg, gw. Parry Owen 2003: 246.

76 haelach no Thri Topos yn y canu oedd mynegi rhagoriaeth ar haelioni’r Tri Gŵr Hael, sef Nudd, Mordaf a Rhydderch Hael, gw. TYP 5–7. Cf. GLlLl 2.29–30, a chyda’r llinell hon, cf. yn arbennig GCBM i, 21.60 Pan voled haelon haelach no’r Tri. Canmol haelioni’r pererinion a’r ymwelwyr a ddeuai i eglwys Cadfan a wna Llywelyn Fardd yma.

77 cerdd a cheiniedi ‘Crefft’ yw ystyr sylfaenol cerdd, ac felly gallai gyfeirio yma at gerddoriaeth yn ogystal â barddoniaeth. Mae’r un amwysedd i’r gair ceiniedi gan y cyfeiriai canu at weithgaredd y beirdd a cherddorion. Mae’n ddigon posibl fod y bardd yn cyfeirio at y ddwy grefft yn y llinell hon.

78 amgen … â Er mai no a geid yn arferol yn dilyn amgen mewn cymhariaeth, cf. G 22, ceir ambell enghraifft hefyd o â, cf. Jones 1937–9: 336 Ac nyt amgen weledigaeth a honno a weles libanius athro.

79 Llan Ddewi Ai eglwys Dewi yn Llanddewibrefi? Cyfeiriodd Gwynfardd Brycheiniog at ei llen bali, DewiGB ll. 157 A llên a llyfrau a’r llen bali. Mae’n debygol mai cyfeirio a wneir at len neu fantell, neu wisg litwrgïol a roddid ar grog neu ddelw yn yr eglwys; cf. GIBH 12.23n d.g. pais.

80 clas Fe’i hesbonnir yn GPC yn fenthyciad o’r Lladin classis ‘byddin, llynges; dosbarth’; y brif ystyr a roddir, ibid. (a), yw ‘teulu neu gôr crefyddwyr mynachlog, cwfaint … cymdeithas o glaswyr’, a thrwy hynny datblygodd i gyfeirio at adeilad yr eglwys ei hun, ‘clawstr, … coleg’. Mae’n debygol (ond nid yn anorfod) mai at adeilad eglwys Meifod y cyfeiria Cynddelw yn TysilioCBM ll. 90 Berth ei chlas a’i chyrn glas gloywhir. Yn GLlF 1.159 cymerir mai cyfeirio at eglwyswyr eglwys Cadfan a wna Llywelyn Fardd, ond fel y nodir, ibid.n., mae’r llinell yn awgrymu bod yr eglwyswyr ‘yn byw y tu allan i gylch y llan os yw claỽt yn cyfeirio at derfyn ffiniau’r llan. Ar y llaw arall gallent fod yn byw y tu mewn i’r claỽt ond yn agos ato.’ Yn GPC, ibid. (b), rhoddir i clas yr ystyr ‘pobl o’r un wlad, mintai o gyd-wladwyr’ (gyda’r ystyr honno yr un mor gynnar â’r ystyr eglwysig), a chynigir mai yn yr ystyr honno y cyfeiria Llywelyn Fardd yma at y clas, sef trigolion Tywyn yn gyffredinol a drigai y tu hwnt i ffin y fynwent ond eto o fewn nawdd yr eglwys.

81 gosbarth weini Deellir gosbarth yma yn yr ystyr ‘trefnwr, rheolwr’, gw. GPC; ond gellid hefyd ei ddeall am y gwasanaeth ei hun ac aralleirio’r cyfuniad fel ‘gweinyddiad y gwasanaeth’.

82 ceiniaid Tarddair o’r ferf canu a ddefnyddir yn aml gan y beirdd amdanynt eu hunain, cf. GCBM i, 16.5 Dysgỽeyd keinyeid kyuaenad eu rwyf, lle cyfeiria Cynddelw at feirdd yn cyflwyno’u cerddi i Owain Cyfeiliog. Er hynny, mae’n bosibl hefyd mai ‘cantorionֹ’ yn yr ystyr gerddorol sydd gan Lywelyn Fardd, cf. n77(e).

83 morlan – uchel Dosberthir yr enghraifft hon o uchel dan yr ystyr ddaearyddol yn GPC a GLlF 1.165 a cf. n64(e) ar cadrfryn yw Tywyn. Er dilyn GPC a chymryd mai glan yw ail elfen morlan yma, mae’n bosibl mai llan ‘eglwys’ oedd gan y bardd mewn golwg, ‘eglwys y môr’, yn enwedig gan fod safle ddaearyddol yr eglwys ar bwys ac uwch y môr wedi bod yn thema gyson drwy’r gerdd.

84 elfydd eilfan Ar eilfan ‘safle neu ucheldir wedi ei amddiffyn â chaer’, gw. GPC d.g. eilfan 1 a cf. GLlLl 24.59 eiluann (‘uchelgaer’) Urychan Urycheinyawc; GCBM i, 9.10 Mur eluyt, eiluan (‘gorsaf uchel’) gaỽr. Gellir deall y cyfuniad yn ddisgrifiad o Feirionnydd, a’r bardd yn cyfeirio at yr eglwys yn Nhywyn fel safle amddiffynnol (cf. llau. 165–7); neu gall fod yn gyfeiriad penodol at Gastell Cynfael, a amddiffynnwyd gan Forfran yn aflwyddiannus yn 1147 (gw. y Rhagymadrodd). Mae’n llai tebygol mai’r enw personol Eilfan yw’r ail elfen: dyna sut y’i dehonglwyd yn GLlF gan ddilyn G 467 lle cysylltwyd ef ag Elfan Powys, mab Cyndrwyn (gw. Rowland 1990: 587), gan ein hatgoffa bod Meirionnydd yn gysylltiedig â Phowys cyn c.1120. Ni ddaethpwyd o hyd i gyfeiriadau pellach at E(i)lfan yng nghyswllt Meirionnydd yn y farddoniaeth.

85 cynnif ‘Llafur, ymdrech’ yw ei ystyr sylfaenol, GPC d.g. cynnif 1, ac mewn cyd-destun milwrol, ‘brwydr’. Mae’n ddigon posibl mai cyfeirio at ffyrnigrwydd y llanw, o bosibl ar adeg storm, a wna yng nghynfaran cynnif.

86 Ieuan Yr Apostol Ieuan.

87 llogawd lan Yn llythrennol llan ‘eglwys’ sy’n llogawd ‘mynachlog’.

1 Gwerthefin Dewin, Duw Dilynir HG Cref 84 o ran yr atalnodi, a’r llinell felly’n ymrannu’n 5:4 sillaf, fel sy’n arferol yng nghyhydeddau nawban y bardd: gw. Mesur a Chynghanedd. Gthg. GLlF 1.1 (fersiwn orgraff ddiweddar) Gwerthefin Ddewin Dduw, sy’n sicrhau’r cytseinedd Dd- Dd- ar ganol y llinell ar ôl treiglo Dewin ar ôl yr ansoddair gwerthefin. Ar galediad dd > d yn dilyn -n derfynol, gw. TC 26–7. Am yr ymadrodd Duw i’m gwared, cf. GCBM i, 21.147.

2 Gwyrthfawr LlGC 6680B gwerthuaỽr. Awgrymir yn G 750 fod peth drysu rhwng gwerthfawr a gwyrthfawr yn y llawysgrifau, ac y dylid dehongli rhai enghreifftiau o gwerthuaỽr fel ‘gwyrthfawr’. Efallai mai amwysedd orgraff yn y gynsail a oedd yn gyfrifol am y drysu. Ar batrwm DewiGB ll. 217 Gwyrthfawr (llsgr. gwyrthuaỽr) briodawr, cymerir mai gwyrthfawr sydd yma; cf. GLlF 6.43 Dewin gwertheuin, gwerthuaỽr (orgraff ddiweddar ‘gwyrthfawr’), ond gthg. ibid. 22.3 Duw gwerthfawr (orgraff ddiweddar ‘gwerthfawr’), Gwerthefin.

3 fodd LlGC 6680B uot (-t = ‘dd’, gan ddilyn orgraff arferol yr ysgrifydd). Cymerir mai’r cyfuniad wrth fodd sydd yma, gan ddilyn G 69; gthg. GLlF 1.3 sy’n dehongli uot yn ffurf dreigledig y berfenw bod, gan aralleirio cymal cyntaf ll. 3 fel ‘Gan ei fod yn Rheolwr arnaf’.

4 Amgyrwyf Yn G 22 fe’i diffinnir fel cyntaf unigol presennol mynegol y ferf gyflawn ac anghyflawn amgyrfod ‘chwenychu, dymuno’; berf anghyflawn yw hi yma gyda caru canu yn wrthrych, cf. HG Cref 233; GLlF 1.5. (Gthg. GPC sy’n ei diffinio fel berf gyflawn yn unig.) Treiglir y gwrthrych yn GLlF 1.5 (fersiwn orgraff ddiweddar, Amgyrwyf garu), ond derbynnir yma ffurf gysefin y gwrthrych fel y’i ceir yn y llawysgrif, cf. GLlLl 26.136 Y’th ganmaỽl ny gannwyf goruod, lle ceir cysefin y gwrthrych yn dilyn cannwyf (ᚲ canfod).

5 rheg LlGC 6680B rec, gydag r yn cynrychioli ‘r’ neu ‘rh’ yn orgraff y llawysgrif. Er mai treiglo’r gwrthrych sy’n arferol bellach mewn brawddeg yn dilyn y patrwm berf + goddrych + gwrthrych, nid oedd cysondeb mewn Cymraeg Canol, fel y dangosir yn TC 196. Ceir yr un patrwm cystrawennol yn llau. 7, 18, 19, 40, 61, 74, 123, gyda’r orgraff yn llau. 18, 74 a 123 yn cadarnhau mai cysefin y gwrthrych sy’n arferol gan Lywelyn Fardd. Gan hynny, cedwir cysefin y gwrthrych yn yr achosion lle nad yw’r orgraff o gymorth (h.y. pan fo’r gair yn dechrau â d- neu r- yn y llawysgrif) ac mae’r gyfatebiaeth gytseiniol ar ganol llinell yn cadarnhau hyn ymron pob achos.

6 Mae’r llinell yn hir o sillaf a disgwylid i’r sillaf(au) ychwanegol fod yn ail hanner y llinell (gw. Mesur a Chynghanedd). O gywasgu Can am rhoddes yn deirsill (Can’m rhoddes) ceid llinell yn ymrannu’n rheolaidd yn 5:4 sillaf. (Am ffurf lafarog y rhagenw mewnol yn dilyn can, gw. GMW 56.) Er hynny, rhaid cymryd bod am yn cynnal sillaf yn ll. 7, fel arall syrthia’r rhagwant yn chwithig ar dogn yn hytrach nag ar Dofydd.

7 Fel yn achos sawl toddaid yn y gerdd hon, mae ail hanner y llinell gyntaf yn rhy hir o sillaf. Gan amlaf mae modd cywasgu (e.e. ll. 15 Duw ym > Duw ’m), ond nid felly yma, oni ellir cyfrif foddhäed yn ddeusill ar gyfer hyd y llinell ac yn deirsill ar gyfer yr odl.

8 nerth Dilynir GLlF 1.14; gthg. HG Cref 84 uerth. Ni ellir bod yn hyderus o blaid y naill ddarlleniad na’r llall gan mor debyg yw u ac n i’w gilydd yn y llawysgrif.

9 Duw ym O’u cywasgu’n unsill (Duw ’m) ymranna’r llinell yn rheolaidd yn 5:5 sillaf. Tybed ai Dwy, ffurf amrywiol ar Duw (gw. GPC d.g. duw 1), a geid yma’n wreiddiol? Rhoddai hynny gynghanedd sain, gyda Dwy yn cynnal yr ail odl yn y rhagwant. Byddai newid Duw yn Dwy hefyd yn cryfhau’r gynghanedd yn ll. 95 Moladwy un Duw, un diffyniad a ll. 133 Ar a fynnwy Duw, nid egrygi

10 dyhudded Mae cytsain gyntaf LlGC 6680B dyhuted yn ansicr oherwydd defnyddir d ar ddechrau gair am ‘d’ neu ‘dd’. Yn GLlF 1.15 darllenir ddyhudded, gan dreiglo’r enw sy’n dilyn ym ‘i mi’, cf. GMB 27.107 Menhid ym gyrreiuyeint. O gadw cysefin yr enw, ceir cyflythreniad angenrheidiol ar ganol y llinell rhwng Duw a dyhudded. Am enghreifftiau o gadw’r cysefin yn dilyn yr arddodiad ym, cf. GMB 29.20 Wedy kymynnu ym kymhenrwyt; GBF 26.9 Goreu kyrchlam ym cyrchu ataỽ.

11 llefais LlGC 6680B lleueir, a dderbynnir yn HG Cref 84, heb esboniad. Ymddengys lleueir yn drydydd unigol presennol mynegol y ferf llefaru (GMW 116); ond nid yw’r ferf honno’n synhwyrol yma, a gwell diwygio, gyda GLlF 1.19n a G 464 d.g. eissywet, a deall y llinell yn un o gyfres o linellau yn cynnwys ffurf ar y ferf llafasu ‘to dare, venture’ (cf. llau. 18, 21, 22).

12 llefais dyn dwyn Treiglo’r gwrthrych, ddwyn, a wneir yn GLlF 1.19, ond o gadw’r gytsain gysefin ceir cyfatebiaeth braidd gyffwrdd rhyngddo a dyn yng nghanol y llinell. Gw. n5(t) ar rheg.

13 glas dylan O gymryd bod calediad dd > d yn dilyn -s (cf. nos dda > nos da), ceir cynghanedd sain yn y llinell.

14 ysydd LlGC 6680B yssy; ychwanegir yr dd derfynol yn hyderus, gan fod y gair cyrch yn odli’n rheolaidd â’r bumed sillaf yn ail linell toddeidiau’r gerdd hon (ysydd / … gorwydd). Gellid darllen sydd er mwyn arbed sillaf, fel yn ll. 95 a cf. ll. 91 (lle byddai darllen ’sy yn lle ysy eto’n rhoi’r nifer safonol o sillafau).

15 yd yr folhed LlGC 6680B ydyruolhed; cf. ll. 36 yd yr lunhied (LlGC 6680B ydyrlunhyed). Gweler trafodaeth gynhwysfawr McKenna 1990: 267–72 ar y ddwy ffurf ferfol hyn ac ar natur y ddau eiryn rhagferfol sy’n eu blaenori. Derbynnir yr awgrym yno i’w dehongli’n ferfau amhersonol amherffaith dibynnol, a’r geiryn yr (ᚲ ry) yn rhoi i’r naill, ll. 26, rym dymuniad (‘optative’) ac i’r llall, ll. 36, rym berf orberffaith, gw. ibid. 270. Esbonnir mai’r modd dibynnol sy’n cyfrif am yr -h- ar ddiwedd bonau’r berfau, a chedwir hwy yn y testun, gan y byddent yn effeithio’r ynganiad (fel y gwelir o’r ffaith fod yr h yn achosi calediad mewn bonau berfol sy’n diweddu â chytsain leisiol, gw. GMW 128–9).

16 Ednywed LlGC 6680B ednywed; gthg. GLlF 1.30 lle diwygir darlleniad y llawysgrif yn Ednyued ‘Ednyfed’. Roedd ‘w’ ac ‘f’ yn nes at ei gilydd o ran sain mewn Cymraeg Canol nag y maent heddiw, felly cadwyd ffurf y llawysgrif. Yn anffodus, daw’r ffurf ar ddiwedd y llinell ac mae’r gynghanedd yn bengoll.

17 yndi LlGC 6680B yndi; trydydd unigol benywaidd yr arddodiad yn, cf. llau. 103, 150 a gw. Sims-Williams 2013: 46 et passim. Profir y ffurf yn aml yn y farddoniaeth ddiweddarach gan y gynghanedd, e.e. GHDafi 36.30 Ni’m edwyn undyn yndi. (Nid yw’r orgraff o gymorth yma, oherwydd gallai yndi hefyd gynrychioli ‘ynddi’, gan mai d a ddefnyddiai’r ysgrifydd hwn am ‘dd’ yn rheolaidd ar ôl n, cf. kyndelỽ ‘Cynddelw’, c.)

18 eglwys Dewi Ceir yma galediad Dd > D yn dilyn -s derfynol, ac felly gysteinedd rhwng Dewi a digoned.

19 wyngalch falch wynhäed LlGC 6680B wyngalch wynhaed. Mae ychwanegu falch, gan ddilyn GPC d.g. gwynhaed, yn rhoi llinell fydryddol safonol. Posibilrwydd arall yw dilyn HG Cref 234 ac ychwanegu’r rhagenw perthynol (a wynhäed).

20 ei LlGC 6680B eu, gwall am y neu e (gan mai at Dduw y cyfeirir); gthg. GLlF 1.36 sy’n darllen cu yn y llawysgrif.

21 yd yr lunhied Gw. n15(t).

22 Lluniwys O ddiwygio yn lluniws ceid odl fewnol â Ddëws, a chynghanedd sain yn y llinell (Lluniws i Ddëws, ddewis ), fel a geir yn gyffredin yn llinellau cyntaf toddeidiau’r awdl hon; cf. n42(t) ar rhannwys. Ai’r terfyniad -ws a geid yn wreiddiol gan y bardd, ac a ddiweddarwyd ef yn -wys wrth gopïo’r gerdd? Ar ddosbarthiad a datblygiad y terfyniadau gorffennol -wys/-ws mewn Cymraeg Canol, gw. Rodway 2013: 128–53.

23 edrydd LlGC 6680B edryd; am enghraifft arall o -d am ‘dd’ mewn safle derfynol yn y gerdd hon, cf. n59(t) rhagddudd (llsgr. racdud) a brofir gan y brifodl. Tybed a geid -d am ‘dd’ derfynol yn orgraff y ffynhonnell?

24 dwywawl Cedwir cysefin y gwrthrych yma ( dwywawl weinydd), yn dilyn yr orffwysfa ar ganol y llinell, er mwyn y gyfatebiaeth ganol llinell (⁠ Duw dwywawl); cf. n5(t) ar rheg.

25 LlGC 6680B pan dyfu chwant syllu / ar essillyt. ymher aber menwener ucher echwyt. Dwy linell broblematig. Fe’u dehonglir yn doddaid, cf. GLlF 3.45–6, ond efallai mai cwpled o gyhydedd nawban sydd yma, fel y’u dehonglwyd yn HG Cref 85, lle rhoddir ymher ar ddechrau ll. 46. Crynhoir y dadleuon yn GLlF 3.45–6n. Mae ll. 45, fel y saif, yn 12 sillaf, yn hwy na’r 10 neu 11 sillaf sy’n arferol yn y gerdd hon, ac anarferol hefyd yw’r modd y mae ail odl y gynghanedd sain yn ll. 45 yn syrthio ar y chweched, yn hytrach na’r bumed sillaf. Go brin y gellid cyfiawnhau diwygio dyfu > fu, na dilyn awgrym G 463 a dileu chwant, ac felly gadewir y toddaid fel y mae.

26 Uchelwawd LlGC 6680B uchel waỽd; cf. ll. 48 Uchelfardd (llsgr. ucheluart) a ll. 49 Uchelwlad (llsgr. uchelwlad). Yn aml mae’n anodd gwybod pa mor arwyddocaol yw bylchau neu ddiffyg bylchau rhwng elfennau yn y llawysgrif, ond ceir cymeriad cynganeddol o adfer Uchelwawd, a’r un aceniad â ll. 48.

27 Breswyl Efengyl LlGC 6680B bresswyl uchel euengyl, gyda llinell ddileu ysgafn drwy uchel (a’r ysgrifydd, yn ôl pob tebyg, wedi bwriadu rhoi llinell goch trwyddo yn ddiweddarach ar ôl newid ei inc, cf. y llinell ddileu goch drom sydd trwy a uo yn f. 20r, ll. 12). Cymerir mai cwpled o gyhydedd naw ban sydd yma; gthg. GLlF sy’n ei osod fel toddaid sydd gan ychwanegu uchel: Uchelwlad Gaduann mynd yd gyduyt bresswyl / Uchel euegyl uỽyl ouyt (cf. HG Cref 85), gan nodi ‘Ceir gwell synnwyr … o drafod bresswyl fel gair cyrch mewn Toddaid ac o roi uchel ar ddechrau’r ll., gan estyn felly gymeriad llythr. y darn’. Rhaid gwrthod hynny, gan fod y gair cyrch yn odli’n gwbl reolaidd â phumed sillaf y llinell ddilynol yn nhoddeidiau’r gerdd hon, ac nid yw breswyl (sy’n odl leddf, -ŵyl) yn odli’n gywir ag Efengyl. At hynny, nid yw’r bardd wastad yn cynnal cymeriad yn ail linell toddeidiau’r gerdd hon.

28 noddfa yn Gellid ei gywasgu’n noddfa’n gan fod ail hanner y llinell yn hir o sillaf; ond ar yr un pryd mae’r -a yn cynnal yr odl fewnol yn y gynghanedd sain.

29 gorwawr LlGC 6680B or|waỽr. Dilynir GLlF 1.56 a’i ddeall yn enw ‘arglwydd gwych’ (ᚲ gor- + gwawr). Ond os yw w = ‘f’, gellid darllen [g]orfawr; cf. cynnig cyntaf G 564. Gellid dadlau bod orfawr yn rhoi gwell cyfatebiaeth ag orfydd yn y gynghanedd sain, ond roedd w yn llawer nes ei sain at f mewn Cymraeg Canol nac y mae’r w fodern.

30 ar hawl orfydd LlGC 6680B ar haỽl oruyt. Mae G 564 yn cysylltu’r arddodiad ar â’r ferf goruyt (h.y. gorfod ar). Posibilrwydd arall yw dilyn GLlF 1.56 arhaỽl orfydd, sy’n dilyn ail awgrym G. Ar arhawl, term a ddefnyddid yn y Cyfreithiau am ‘hawliad ychwanegol’ neu ‘wrth hawliad’, gw. GPC.

31 rhoddiad Gan fod r yn cynrychioli ‘rh’ ac ‘r’ yn LlGC 6680B, anodd gwybod sut i ddiweddaru orgraff y tri gair yn y llinell hon sydd yn dechrau ag r- yn y llawysgrif. Deellir abad rhoddiad yn gyfuniad ar lun twyllwr bradwr, lle ceir ‘cyfosod dau enw cyffredin cydradd gyda’i gilydd heb fod y naill yn ansoddeiriol at ddisgrifio’r llall’, TC 125; byddai abad roddiad ‘rhoddwr [sy’n] abad’ hefyd yn bosibl.

32 rhyddyrydd LlGC 6680B ry dyryt; cf. ll. 59 ry dylyf, ll. 61 ry goruc ond ll. 58 rydyrann. Dehonglir rhy yn eiryn rhagferol a chan hynny fe’i gosodir ynghlwm wrth y ferf sy’n ei ddilyn ym mhob achos yma. Nid yn unig y mae union natur y gytsain r- yn y llawysgrif yn amwys (gall gynrychioli cytsain dreigledig ‘r’, rhad (a) ryddyrydd, neu’n fwy tebygol ‘rh’, a’r ferf yn cadw ei ffurf gysefin yn dilyn ei gwrthrych, ar lun patrwm GMB 10.30 Callonn klywaf yn llosgi), ond hefyd mae natur y gytsain sy’n dilyn r(h)y- yn ansicr, yn enwedig mewn achosion fel llau. 57, 58, 59 lle nad yw’r orgraff o gymorth (h.y. d- = ‘d’ neu ‘dd’ yn LlGC 6680B).
Awgrymir yn TC 365–6 mai’r hen drefn oedd bod c, p, t yn treiglo’n llaes yn dilyn rhy mewn prif gymal a bod y cytseiniaid eraill yn cadw eu ffurf gysefin; a bod c, p, t a’r cytseiniaid eraill yn treiglo’n feddal mewn cymal perthynol. Gydag amser, fel yn achos cystrawen y negydd ni, daeth y treiglad meddal yn gyffredin yn achos prif gymalau a chymalau perthynol fel ei gilydd.
Mentrir bod treiglad meddal i’r d- ym môn y ferf yn y tri achos yn llau. 57, 58, 59 (er bod lle i ddadlau dros gadw ‘d’ yn rhydylif, mewn prif frawddeg; rhoddai hynny gymeriad â rhod y llinell nesaf, ond gw. n33(t)). Fel y gwelir yn TC 365–6 (a cf. GMB 3.35n ar ry gated), ceir ansicrwydd pellach pan fo’r bôn yn dechrau ag g-, o bosibl gan y cynrychiolai’r g hen ffurf dreigledig ar g ar un adeg. Yn GLlF 1.61 cymerwyd mai presenoldeb rhagenw mewnol sy’n esbonio’r g yn rygoruc, gan ddiweddaru rhy-i-gorug.

33 rhod Cf. LlGC 6680B rod; gthg. GLlF 1.60 sy’n ei ddiwygio’n rot ‘rhodd’. Rhydd yr enw benywaidd rhod ‘tarian gron’ ystyr dda yma, yn sgil y cyfeiriad yn y llinell flaenorol at filwriaeth Morfran. Gw. GPC d.g. rhod 1 (c).

34 diddan dydd LlGC 6680B dydandyt; dilynir HG Cref 86 a GLlF a’i ddehongli’n ddau air; ceir felly gynghanedd sain deirodl yn y llinell, patrwm sy’n weddol gyffredin yn y gerdd hon; cf. llau. 25, 44, 46, 54, 55, 57, 58, 70, c. ac yn arbennig l. 102 sydd hefyd yn cynnwys cynghanedd sain anghytbwys ddyrchafedig, gyda’r odlau mewnol yn disgyn ar sillafau 3:5:8. Mae’r gynghanedd hefyd yn awgrymu cadw’r ffurf gysefin dydd yn dilyn yr ansoddair diddan, ar galediad -n dd- > -n d-, gw. TC 26–7.

35 fod LlGC 6680B uot, sef ‘fodd’, o ddilyn orgraff arferol yr ysgrifydd; a derbyn hynny gellid aralleirio llau. 63–4 ‘nid yw’r dyffryn dedwydd a llwyr grefyddol yn tarfu ar ei ewyllys’. Ond gan na rydd hynny gynghanedd, dilynir GLlF 1.63n a chymryd mai ffurf dreigledig bod sydd yma. Rhydd hyn odl lusg gyda glodrydd, o’r math y byddid yn ei ystyried yn wallus yn ddiweddarach: cf. CD 175 ‘nid oedd angen yn yr hen gyfnod i’r odl gyntaf gynnwys yr holl gytseiniaid a ddilynai lafariad acennog y goben’.

36 a chôr / A môr LlGC 6680B achor mor. Derbynnir y diwygiad a gynigir yn GLlF gan ddehongli llau. 65–6 yn doddaid, yn hytrach na chwpled o gyhydedd nawban, a chan ychwanegu’r cysylltair a ar flaen ll. 66 i sicrhau odl yn y bumed sillaf yn ail linell y toddaid, patrwm sy’n gwbl reolaidd yn y gerdd.

37 glas fôr LlGC 6680B glas uor. Dilynir y llawysgrif, cf. GLlF 1.70; ond mae glasfor hefyd yn bosibl, cf. HG Cref 86 a GPC.

38 ei hysgor LlGC 6680B y ysgor. Yn aml ni cheid yr h- a ychwanegir at enw’n dechrau â llafariad yn dilyn rhagenw blaen trydydd unigol benywaidd yn LlGC 6680B; fe’i hadferir yma ar sail ll. 86.

39 eisior LlGC 6680B eisg yor gyda dot dileu o dan yr g a’r y wedi ei hychwanegu uwchben gan law alpha. Roedd g ac y yn amlwg yn debyg i’w gilydd yn y gynsail.

40 yn ei Mae ail hanner y llinell yn rhy hir o sillaf ac mae’n debygol y dylid cywasgu yn ei > ’n ei.

41 glywhitor LlGC 6680B glywhitor. Hen ffurf amhersonol presennol mynegol, gw. GMW 120–1 lle esbonnir yr -h- a geir yn achlysurol o flaen y terfyniad fel ‘analogical -h-’; cf. ll. 83 gwelhator, llsgr. gwelhator. Ymhellach ar y ffurf, gw. Rodway 2013: 90–1.

42 rhannwys LlGC 6680B rannỽs. Mae’n debygol mai cynghanedd sain sydd yma, fel yn ll. 89, felly diwygir er mwyn sicrhau odl fewnol â coffäwys. Gellid dadlau hefyd dros ddiwygio’r odl gyntaf, a darllen coffäws rhannws, fel y nodir yn HG Cref 235. Yn yr un modd mae’n bosibl y dylid diwygio lluniwys, ll. 37, yn lluniws er mwyn odl fewnol â Dëws (gw. n22(t)), ond ni ddiwygir yno gan fod y llinell eisoes yn cynnwys cynghanedd braidd gyffwrdd. Ar ffurf gysefin y gwrthrych yn dilyn berfau gorffennol yn diweddu yn -ws, -wys, gw. TC 189, ac ar galediad r- > rh- yn dilyn pan, gw. ibid. 161.

43 ysy Byddai’r ffurf dalfyredig ’sy yn rhoi’r pum sillaf safonol yn ail hanner y llinell gyntaf hon o doddaid, cf. n14(t).

44 Duw Cf. LlGC 6680B duỽ. O ddarllen Dwy ceid yma gynghanedd sain, cf. n9(t).

45 Molidor Gthg. glywhitor, n41(t), lle ceir -t- ‘t’ yn y terfyniad; yn GMW 122 awgrymir mai -d- oedd yn y terfyniad yn wreiddiol; gw. hefyd Rodway 2013: 91. Gan hynny ni raid darllen molitor gyda GLlF 1.97.

46 Llwyddyd LlGC 6680B llwytyd, cf. llau. 101, 102; gthg. llau. 103, 104 lle ceir llwytid yn y llawysgrif. Dilynir GMW 119 a HG Cref 235 a deall llwyddyd yn hen ffurf trydydd unigol presennol gyda’r terfyniad -yd, yn odli’n fewnol yma â gweryd a hyd gan lunio cynghanedd sain deirodl, o’r math sy’n gyffredin yn y gerdd hon. Am enghraifft arall o’r terfyniad -yd, a brofir y tro hwn gan y brifodl, gw. TysilioCBM ll. 176 perhëyd. Gthg. GLlF 1.100 sy’n ei ddiweddaru yn llwyddid yma ac yn y llinellau canlynol, a’i ddehongli’n ffurf trydydd unigol orchmynnol (gallai llwyddid hefyd fod yn drydydd unigol presennol fel y gwelir yn GMW 119). Gw. hefyd n48(t).

47 a phob amad Byddai dileu’r cysylltair a a darllen pob amad yn rhoi llinell reolaidd o ran ei hyd, yn ogystal â chyfoethogi’r gyfatebiaeth gytseiniol yn y gynghanedd sain. Mae’n bosibl i’r copïydd gael ei ddylanwadu gan y gyfres o gysyllteiriau yn y llinellau blaenorol.

48 Llwyddyd … / Llwyddyd… LlGC 6680B llwytid llwytid; gw. n46(t). Ar sail y gynghanedd a’r odl fewnol debygol ag amyd, gallwn ddarllen llwyddyd yn weddol hyderus yn ll. 103, fel yr awgrymir yn HG Cref 235; cymerir mai dyna sy’n gywir yn ll. 103 yn ogystal. Ond ar llwyddid, sydd hefyd yn ffurf trydydd unigol presennol, gw. GMW 119.

49 ym foli filwyr LlGC 6680B ym uoli uilwyr. Ni ddisgwylid i ‘wrthrych’ berfenw dreiglo, ond fel y nodir yn TC 231 efallai fod yma enghraifft o ‘gyseinedd dybiedig’, a’r ysgrifydd, o bosibl, wedi diwygio milwyr > filwyr er mwyn cael cyfatebiaeth braidd gyffwrdd yng nghanol y llinell. Holir ymhellach, ibid., ai ‘ym (u)olimilwyr yw’r iawn gynghanedd’? Posibilrwydd arall yw mai ym moli milwyr oedd y darlleniad cywir, yn enwedig gan nad yw’r treiglad sy’n dilyn yr arddodiad yn y math hwn o gystrawen yn un cyson: cf. GLlLl 19.21 Mabddysc ytt treulyaỽ treth enuyn y ueirt. Gwrthodir ail awgrym GLlF 1.104n i ddeall filwyr yma’n gyfarchol (‘Boed ffynnu imi ganu mawl, O atgyfnerthwr milwyr!’).

50 Llwyddedig LlGC 6680B llutedic. Ni roddai ‘lluddedig’ ystyr dda yma: anarferol iawn fyddai i fardd o gyfnod Beirdd y Tywysogion gwyno bod ei gerdd yn lluddedig! Cynigir, felly, mai gwall sydd yma am llwyddedig ‘llwyddiannus, ffyniannus’, arno gw. GPC. Cf. n51(t) am awgrym y gall fod rhywbeth yn anarferol am siâp w yn y gynsail. Rhydd llwyddedig hefyd well cymeriad ar ddechrau’r llinell gyda Llwyddid (llau. 100–4) a Llwyddon (ll. 106).

51 Llwyddon LlGC 6680B lluỽydon. Dilynir GPC d.g. llwydd 1 (ansoddair) a’i ddeall yn ffurf luosog y gair hwnnw, yma’n enwol am y bobl a ymwelai ag eglwys Tywyn. Am enghraifft arall o -d- am ‘dd’ yn y testun hwn, cf. n56(t) ar addef (llsgr. adef). Mae’n bosibl fod yr ysgrifydd wedi camddehongli llythyren gymhleth w yn ei gynsail fel uỽ yma. Gthg. GLlF sy’n darllen lluyddon ‘lluoedd’, ffurf deirsill sy’n peri i hanner cyntaf y llinell fod yn hir o sillaf, ac felly i ail odl y gynghanedd sain syrthio’n anarferol ar y chweched yn lle’r bumed sillaf.

52 parth O ddarllen barth yma, ac yn ll. 168, ceid cynghanedd sain; cf. GBF 46.25 Ys byd guawt berthwawt barth ac atat Rys, ac yn GGMD ii, 11.37 Mair, dyro borthair barth ag ataf. Tybed na ddangosid treiglad meddal p- yn rheolaidd yn y gynsail? Cf. ll. 131 Arfeddyd yw i’m bryd prydu iddi, lle ceid cynghanedd sain yn yr un modd o ddarllen brydu. Ond ni ddiwygiwyd y testun gan ei bod yn bosibl mai’r hyn a geir yma yw enghraifft o ‘gytseinedd dreigledig’ ar ganol llinell, lle ceir cytsain leisiol yn cytseinio â’i chymar di-lais, gw. Jones 1997: 54.

53 Duw Dofydd LlGC 6680B duỽ douyt; neu Duw Ddofydd, cf. G 398 lle nodir bod y ddau yn bosibl. Os treiglir Ddofydd, dichon fod angen treiglo ddydd hefyd (fel yn GLlF), er mwyn y gyfatebiaeth gytseiniol ddisgwyliedig ar ganol y llinell.

54 wrth Rhoddai gwrth gynghanedd sain yn y llinell.

55 Ef a warawd LlGC 6680B ef waraỽd; ychwanegir y rhagenw perthynol fel bod y llinell yn ymrannu’n safonol yn 5:4 sillaf; cf. ll. 114 Ef a gymerth (llsgr. ef gymerth).

56 addef LlGC 6680B adef; enghraifft o -d- = ‘dd’ yn y llawysgrif yn hytrach na’r -t- ddisgwyliedig, cf. n23(t), n59(t).

57 Ef a gymerth LlGC 6680B ef gymerth. Mae adfer y rhagenw perthynol yn rhoi llinell o’r hyd cywir ac yn caniatáu i’r gair cyrch (addef) odli’n rheolaidd â’r bumed sillaf (nef) yn y llinell nesaf; cf. n55(t).

58 gywaith LlGC 6680B gyueith. Fe’i deellir yn G 209 yn amrywiad ar cyfiaith ‘gŵr cyfiaith, cymar’ (ac os felly’n gyfeiriad at y ffaith fod y ddau, Cadfan a Lleudad, llau. 121–2, yn gefndryd ac yn dod o’r un wlad, Llydaw); ond yn GPC fe’i rhestrir d.g. cywaith 1 ‘cydymaith, cymar, ffrind’.

59 rhagddudd LlGC 6680B racdud. Mae’r mydr yma’n galw am -udd, i odli â budd yn ll. 120, gw. GMW 59; am enghreifftiau eraill yn y testun o -d neu -d- am ‘dd’, gw. n23(t), n56(t).

60 Lleudad LlGC 6680B lleudad. Awgryma orgraff arferol y llawysgrif mai ‘Lleudad’, ac nid ‘Lleuddad’, yw’r ynganiad yma ac yn ll. 140. Dyma hefyd yw’r ffurf a geir gan Hywel Dafi mewn cywydd i Enlli, fel y prawf y gynghanedd: GHDafi 95.12 Gennad, at Leudad lwydwyn, ll. 33 Gweniaith lydan, gwnaeth Leudad, a hefyd gan Iolo Goch, yn ôl pob tebyg, yn GIG XXIII.56 O’i wlad i dir Lleudad llwyd (er nad oes rhaid ateb y gytsain ar ôl yr acen yn llwyd). Gthg. GLlF 1.122, 140 (orgraff ddiweddar) Lleuddad, lle dilynir LBS, iii, 369–74 a TWS 168–73 (sy’n sôn am y drysu rhwng Lleud(d)ad a Llawddog).

61 glan Ar y diffyg treiglad i’r gwrthrych, cf. n5(t).

62 Disynni LlGC 6680B dissynny, a’r brifodl yn profi mai y = ‘i’ a geir ar ddiwedd y gair yn y llawysgrif. Mae’r odl lusg rhwng y sillaf gyntaf â cedwis o bosibl yn ddadl o blaid cymryd mai Dis-, yn hytrach na Dys- a geir yma (gthg. ll. 132 dyffwn, llsgr. diffwn); cf. yr enghreifftiau o ‘lusg ragobennol’ yn Andrews 2009: 172. Awgrymir yn DPNW 135 mai ffurf gytras, neu darddair o’r Lladin distineo ‘gwahanu’, yw’r elfen gyntaf yn yr enw.

63 yw i’m Mae hanner cyntaf y llinell yn rhy hir o sillaf fel y saif, felly mae’n debygol y dylid cywasgu yw i’m yn unsill, neu hepgor yw.

64 prydu LlGC 6680B prydu; a ddylid darllen brydu, a roddai well cynghanedd (Arfeddyd bryd brydu)? Gw. n52(t).

65 dyffwn dyffrynt LlGC 6680B diffỽn dyffrynt. Am dyffwn, cyntaf unigol amherffaith dibynnol y ferf dyfod, gw. G 414; GMW 135. Yn GLlF 1.132 (orgraff ddiweddar) rhagdybir bod dyffrynt yn treiglo yma wrth fynegi cyrchfan yn uniongyrchol ar ôl ffurf ar y ferf dyfod; cf. TC 227 lle cadarnheir mai treiglo sydd i’w ddisgwyl yn y gystrawen hon. Ond o dreiglo collir y gyfatebiaeth gytseiniol ar ganol llinell (onid cytseinedd dreigledig sydd yma, gw. n52(t)). Cynigir, felly, fod yma yma enghraifft o galediad -n dd- > -n d-, gw. TC 26–7.

66 Duw LlGC 6680B duỽ; rhoddai’r ffurf amrywiol Dwy gynghanedd sain yma, cf. n9(t).

67 Ysid LlGC 6680B yssyt, sy’n awgrymu ‘ysydd’. Yn G 62 cyfeirir at ddefnydd ‘yssy[dd] ar flaen brawddeg’ (heb nodi’r enghraifft hon). Ond gan mai berf berthynol yw ysydd (GMW 63), derbynnir awgrym CLlH 154 mai gwall am ysid yw’r enghreifftiau a geir ar ddechrau brawddeg, e.e. ibid. (V.7a) Yssydd (> Yssit) Lanfawr dra gweilgi (cf. Rowland 1990: 539). Derbynnir, felly, ddiwygiad GLlF 1.143 a darllen Ysid ‘mae’ yma; cf. GBF 26.1 Yssid (llsgr. ysyt) yn arglwyt. Dilynir ysid gan dreiglad meddal i’r goddrych sy’n ei ddilyn yn uniongyrchol, gw. G 62 d.g. yssit.

68 cyn taw LlGC 6680B kyn thaỽ. Gwall annisgwyl; diwygir er mwyn yr ystyr a’r gyfatebiaeth gytseiniol rhwng taw a tewi.

69 yw ein Mae’r llinell yn hir o sillaf, a chan fod chwe sillaf yn yr hanner cyntaf, yn lle’r pump safonol, gellid un ai cywasgu yw ein > yw’n, neu hepgor yw, cf. n63(t).

70 gantudd LlGC 6680B gantut a allai hefyd gynrychioli ‘ganddudd’ (cf. GLlF 1.168) yn ôl orgraff arferol y gerdd. Dilynir yma awgrym Sims-Williams 2013: 35 oherwydd diffyg tystiolaeth cynnar dros gandd-.

71 parth O ddarllen barth yma ceid cynghanedd sain; cf. n52(t).

72 folan LlGC 6680B uolafnt; derbynnir awgrym HG Cref 235 i ddiwygio darlleniad y llawysgrif yn uolann er mwyn y brifodl; cf. ll. 166 ymgelann, sydd hefyd yn drydydd lluosog berf bresennol. (Tybed ai uolann oedd darlleniad y gynsail, a bod yr ysgrifydd wedi ei gamddarllen fel uolaun, gan ddehongli’r ail u fel ‘f’, cyn sylweddoli mai ffurf trydydd lluosog oedd ei hangen, gan gywiro’n uolant?) Ceir, felly, doddaid rheolaidd yn llau. 171–2; ond sylwer mai fel cyhydedd hir y dehonglir y cwpled yn GLlF (er na nodir hynny, ibid. td. 10). Am enghreifftiau eraill gan y bardd o ddau doddaid yn dilyn ei gilydd, cf. llau. 113–16 a GLlF 2.33–6. Am y treiglad meddal sy’n arferol i’r goddrych yn dilyn berf trydydd lluosog, cf. GMB 3.141.

73 Tra LlGC 6680B y tra. O ddiwygio ceir y pum sillaf arferol yn hanner cyntaf y llinell hon o doddaid. Ond fel y nodir yn GLlF, mae’n bosibl fod y tra yn cynrychioli ffurf gywasgedig ar o hyd tra neu o yd tra.

74 yn ei O’i gywasgu’n unsill, ’n ei, ceir y pum sillaf arferol yn ail hanner y llinell hon o doddaid; cf. n40(t).