Dewis nodiadau:
Cyfieithiad:

5. Awdl-gywydd i Ddewi Sant

golygwyd gan Dafydd Johnston

Moliant i Ddewi Sant gan Lewys Glyn Cothi. Dyddiad c.1447 × c.1489.

Mae ’mhwys, mewn crwys, lle croesant,
Ar un sant o’r ynys hon,
Dewi gâr, lle dug urael,
Dogwael1 Roedd Dogwael yn ffurf amrywiol ar Dogfael ab Ithael ap Ceredig, cefnder Dewi ap Sant ap Ceredig. o Geredigion,
5Ac ŵyr ydiw i⁠ 1 i Ni cheir yr arddodiad yn Llst 7, am nad yw’n cyfrif fel sillaf, ond mae’r treiglad i’r gair dilynol yn arwydd o’i bresenoldeb. Geredig
A drig ymyl dŵr eigion.
Meddan’, y nos y’i ganed
I roi gwared i’r gwirion,
Yno y gwisgwyd Myniw
10Â lliw mantell Gaerllion,⁠2 Yn ôl Brut y Brenhinedd Sieffre o Fynwy, Caerllion-ar-Wysg oedd safle archesgopty Cymru, ac ildiodd yr Archesgob Dyfrig ei le i Ddewi, gan ymneilltuo i Ynys Enlli, gw. BDe 161, TWS 60–1.
A Dyfrig roes diofryd
O’r byd, ennyd, a’r dynion,
Ac ydd aeth Padrig,⁠3 Sonnir ym Muchedd Dewi am angel yn dweud wrth Badrig am ildio ei le yng Nglyn Rhosyn i Ddewi ac ymadael am Iwerddon ddeng mlynedd ar hugain cyn geni Dewi, gweler BDe 2; StDW 110–13. Gan fod Padrig yn hŷn na Dewi, rhaid bod oedd iau yn ei gymharu â Dyfrig. oedd iau,
A’i urddau i Iwerddon.
15 Dewi a wnaeth o’r deau
Rhinweddau’n rhai newyddion:
Llawer o geirw a beris⁠4 Nid oes sôn am y wyrth hon yn y bucheddau Lladin na Chymraeg, ond dywed Iolo Goch fod ceirw wedi gwasanaethu Dewi, gw. DewiIG n15(e) a hefyd DewiGB ll. 18n(e).
Tra fu goris Tref Garon,⁠5 Mae Llanddewibrefi ryw dair milltir i’r de o Dregaron.
Ac o’r ŷd gyrru adar
20Yn wâr i brennau irion.⁠6 Cymh. DewiLGC2 llau. 15–16. Nid oes sôn am hyn yn y bucheddau Lladin na Chymraeg, ond sonia Gwynfardd Brycheiniog am Ddewi yn casglu adar i ysgubor, gw. DewiGB llau. 168–75 a ll. 172n(e), a dywed Iolo Goch iddo yrru adar gwyllt i’r tai, gw. DewiIG n14(e). Sonnir ym muchedd Paul Aurelian am Ddewi ac yntau gyda’i gilydd yn gyrru adar i ysgubor, gw. SoC, i, 14.
Bara gymerth a berwr,⁠7 Yn ôl y fuchedd, bara a dŵr yn unig oedd ei ymborth (BDe 3, StDW 108–9), ond sonia Iolo Goch am ferwr hefyd, DewiIG ll. 48.
Neu ddŵr afonydd oerion,
Ac o’r rhawn, gwisg ar ei hyd,
A phenyd ar lan ffynnon.
25Dyn heno, rhag dwyn hynny,
I’w dŷ y ffy wrth bwys ffon.
Dewi agos bendigodd,
O’n bodd, yr ennain baddon.⁠8 Yng Nghaerfaddon y bu i Ddewi droi dŵr gwenwynig yn ennaint twymyn, sef ymolchfa iachaol, gweler BDe 6, StDW 120–1.
Ei unllais aeth i Enlli
30O Landdewi Frefi fron.⁠9 Yn ôl yr hanes am senedd Llanddewibrefi yn y fuchedd, cododd bryn dan draed Dewi fel y gallai’r dorf enfawr ei glywed yn pregethu. Honna Ieuan ap Rhydderch fod ei lais i’w glywed yn Llandudoch, DewiIRh ll. 88, ond honiad Lewys Glyn Cothi yw’r un mwyaf o bell ffordd.
I bawb ffordd y bo aberth
Y bo nerth Dewi ab Non.
[Llst 7 →]

Mae fy mhwys, mewn croesau, lle croesant,
ar un sant o’r deyrnas hon,
Dewi, cefnder Dogfael o Geredigion,
lle bu’n gwisgo lliain main,
5ac ŵyr ydyw i Geredig
sy’n trigo yn ymyl dŵr y môr.
Meddan’ nhw, y nos y’i ganed
i roi gwaredigaeth i’r rhai diniwed,
yr adeg honno y gwisgwyd Mynyw
10â lliw mantell Caerllion,
ac ymwrthododd Dyfrig
â’r byd, am gyfnod, a’r bobl,
ac yr aeth Padrig, oedd yn iau,
a’i ddilynwyr i Iwerddon.
15Dewi o’r deau a wnaeth
wyrthiau o fath newydd:
achosodd i lawer o geirw ymddangos
tra bu islaw Tregaron,
a gyrrodd adar o’r ŷd
20yn ddof i goed deiliog.
Bara a berwr oedd ei ymborth,
neu ddŵr afonydd oer,
a gwisg o rawn i gyd oedd ganddo,
a bu’n penydio ar lan ffynnon.
25Rhag dioddef hynny mae dyn heno
yn ffoi i’w eglwys wrth bwys ffon.
Dewi a fendithiodd yn agos
y badd meddyginiaethol er ein lles.
Cyrhaeddodd ei un llais i Ynys Enlli
30o’r bryn yn Llanddewibrefi.
Bydded nerth Dewi fab Non
i bawb lle bynnag y bo’r offeren.

1 Roedd Dogwael yn ffurf amrywiol ar Dogfael ab Ithael ap Ceredig, cefnder Dewi ap Sant ap Ceredig.

2 Yn ôl Brut y Brenhinedd Sieffre o Fynwy, Caerllion-ar-Wysg oedd safle archesgopty Cymru, ac ildiodd yr Archesgob Dyfrig ei le i Ddewi, gan ymneilltuo i Ynys Enlli, gw. BDe 161, TWS 60–1.

3 Sonnir ym Muchedd Dewi am angel yn dweud wrth Badrig am ildio ei le yng Nglyn Rhosyn i Ddewi ac ymadael am Iwerddon ddeng mlynedd ar hugain cyn geni Dewi, gweler BDe 2; StDW 110–13. Gan fod Padrig yn hŷn na Dewi, rhaid bod oedd iau yn ei gymharu â Dyfrig.

4 Nid oes sôn am y wyrth hon yn y bucheddau Lladin na Chymraeg, ond dywed Iolo Goch fod ceirw wedi gwasanaethu Dewi, gw. DewiIG n15(e) a hefyd DewiGB ll. 18n(e).

5 Mae Llanddewibrefi ryw dair milltir i’r de o Dregaron.

6 Cymh. DewiLGC2 llau. 15–16. Nid oes sôn am hyn yn y bucheddau Lladin na Chymraeg, ond sonia Gwynfardd Brycheiniog am Ddewi yn casglu adar i ysgubor, gw. DewiGB llau. 168–75 a ll. 172n(e), a dywed Iolo Goch iddo yrru adar gwyllt i’r tai, gw. DewiIG n14(e). Sonnir ym muchedd Paul Aurelian am Ddewi ac yntau gyda’i gilydd yn gyrru adar i ysgubor, gw. SoC, i, 14.

7 Yn ôl y fuchedd, bara a dŵr yn unig oedd ei ymborth (BDe 3, StDW 108–9), ond sonia Iolo Goch am ferwr hefyd, DewiIG ll. 48.

8 Yng Nghaerfaddon y bu i Ddewi droi dŵr gwenwynig yn ennaint twymyn, sef ymolchfa iachaol, gweler BDe 6, StDW 120–1.

9 Yn ôl yr hanes am senedd Llanddewibrefi yn y fuchedd, cododd bryn dan draed Dewi fel y gallai’r dorf enfawr ei glywed yn pregethu. Honna Ieuan ap Rhydderch fod ei lais i’w glywed yn Llandudoch, DewiIRh ll. 88, ond honiad Lewys Glyn Cothi yw’r un mwyaf o bell ffordd.

1 i Ni cheir yr arddodiad yn Llst 7, am nad yw’n cyfrif fel sillaf, ond mae’r treiglad i’r gair dilynol yn arwydd o’i bresenoldeb.