Rhagymadrodd Testun golygedig Llawysgrifau English

1. Canu i Gadfan

golygwyd gan Ann Parry Owen

Llawysgrifau

Ceir un copi canoloesol o’r gerdd hon, yn Llawysgrif Hendregadredd, LlGC 6680B, wedi ei chopïo yno gan law alpha, prif law a chynllunydd y llawysgrif a weithiai c.1300 yn abaty Ystrad-fflur, yn ôl pob tebyg (gw. RepWM). Lleolir Canu i Gadfan yn nhrydydd plyg y llawysgrif (sef y deuddegfed plyg cyn i drefn y dalennau gael ei newid yn yr ail ganrif ar bymtheg); mae’r plyg hwn cynnwys awdlau amrywiol, gan feirdd o Wynedd gan mwyaf (Jones 2003: 119). Mae ffolio gyntaf y plyg yn eisiau ac mae’n ddigon posibl fod y pedair llinell o farddoniaeth grefyddol a geir ar frig ffolio 19r, yn rhagflaenu Canu i Gadfan, yn cynrychioli diwedd cerdd grefyddol arall gan Lywelyn Fardd.

Yn 1617 gwnaeth John Davies, Mallwyd gopi ffyddlon o destun LlGC 6680B yn ei ‘Liber A’, sef ei gasgliad o farddoniaeth Beirdd y Tywysogion yn BL 14869, a dyma ffynhonnell y copïau o’r gerdd yn Llst 31, Pen 119, BL 14877 a LlGC 1981B (stema). Gan hynny, seilir y golygiad hwn ar dystiolaeth LlGC 6680B yn unig.

Teitl
LlGC 6680B cānu y gaduan llywelyn uart ae cant.

Rhestr o lawysgrifau
LlGC 6680B, 19r‒21r (llaw alpha, c.1300)
BL 14869, 204r–208r (John Davies, Mallwyd, 1617)
Llst 31, 413–21 (William Maurice, 1662)
Pen 119, 463–7 (Wiliam Jones, c.1700)
BL 14877, 86r–89r (William Morris, 1756–7)
LlGC 1981B, 271–80 (Evan Evans, 1757)