Rhagymadrodd Testun golygedig Llawysgrifau English

1. Canu i Gadfan

golygwyd gan Ann Parry Owen

Rhagymadrodd

Cyhoeddwyd golygiad o’r awdl hon yng Nghyfres Beirdd y Tywysogion (GLlF cerdd 1) gan yr Athro Catherine McKenna, ac fe’i trafodwyd yn ddiweddarach mewn erthygl gan Dr Nerys Ann Jones a Dr Morfydd E. Owen lle ceisiwyd gosod y tair cerdd gan Feirdd y Tywysogion i’r saint yn eu cyd-destun gwleidyddol a hanesyddol yn y ddeuddegfed ganrif (Jones and Owen 2003: 45–76). Gan Dr Jones cafwyd erthyglau pellach yn bwrw golwg newydd ar y gerdd (Jones 2004: 9–31) ac yn trafod y bardd (Jones 2006: 1–12). Gwnaethpwyd defnydd o’r gweithiau hyn wrth baratoi’r nodiadau ar gefndir y golygiad newydd hwn.

Llywelyn Fardd
Cymerir yn gyffredinol mai awdur Canu i Gadfan oedd y cyntaf o ddau, neu, o bosibl, dri bardd o’r enw Llywelyn Fardd o gyfnod Beirdd y Tywysogion. At bwrpas gwahaniaethu, yr arfer yw cyfeirio at awdur Canu i Gadfan fel ‘Llywelyn Fardd I’, ond at bwrpas y golygiad hwn, cyfeirir ato’n syml fel ‘Llywelyn Fardd’. Bardd o Wynedd ydoedd, ac mae’n debygol iddo gychwyn ei yrfa yn gwasanaethu fel milwr ac fel bardd yn llys Owain Gwynedd. Ond gadawodd Wynedd yn weddol gynnar yn ei yrfa, oherwydd anghydfod gyda’r Tywysog Owain, ac gan ymsefydlu, o bosibl yn gynnar yn y 1150au, yn llys Madog ap Maredudd ym Mhowys. Ni chadwyd unrhyw gerddi ganddo o’r cyfnod hwn ym Mhowys. Pan fu farw Madog yn 1160, dychwelodd Llywelyn Fardd i Wynedd a chanu cerdd anarferol iawn o fawl i Owain Gwynedd lle mae fel petai’n ceisio ailsefydlu’r berthynas bardd-noddwr a fuasai rhyngddynt yn y gorffennol (gw. GLlF cerdd 2, yn arbennig lau. 35–8; Jones 2006: 5–6).

Y cyd-destun hanesyddol
Credir bod Canu i Gadfan wedi ei gyfansoddi’n fuan wedi 1147, a’i fod felly’n perthyn i’r cyfnod cyn i Lywelyn Fardd adael Gwynedd am Bowys. Ceir cofnod ym Mrut y Tywysogion, dan y flwyddyn 1147, sy’n esbonio sut y bu i Hywel ab Owain Gwynedd a’i frawd Cynan ymosod ar eu hewythr, Cadwaladr ap Gruffudd ap Cynan, arglwydd Meirionnydd, a sut y ceisiodd yr Abad Morfran amddiffyn Castell Cynfael, ger Tywyn, dros Gadwaladr: gw. CTC 256; GLlF 9; Jones and Owen 2003: 57–8 ac ymhellach ar y castell gw. King and Kenyon 2001: 411–12. O Geredigion yr ymosododd Hywel, a dehonglwyd llinell 136, Arfau o Ddehau, barau beri, yn gyfeiriad at ei gyrch ef. O ganlyniad i’r ymosodiad, bu’n rhaid i Gadwaladr adael Meirionnydd, ac ymsefydlodd Hywel ab Owain Gwynedd yn arglwydd yn ei le (gw. Jones 2006: 5; gthg. Jones and Owen 2003: 57 lle awgrymwyd mai ei frawd Cynan a ddaeth yn arglwydd). Ac yntau wedi cefnogi Cadwaladr yn erbyn Hywel, mae’n debygol y byddai’r Abad Morfran wedi teimlo’n chwithig ac yn ansicr iawn am ei sefyllfa, ac felly, fel yr awgrymir yn Jones 2006: 5) roedd gofyn ‘am fesur o ddiplomyddiaeth’ ar ei ran. Cynigir, felly, ibid., fod yr awdl hon wedi ei chomisiynu gan Morfran yn fuan wedi’r cyrch yn 1147, er mwyn cael gwared ar unrhyw densiwn rhyngddo a’r arglwydd newydd: ‘beth well na chomisiynu bardd o fri i lunio cerdd i’w chanu gerbron Hywel ab Owain er mwyn atgoffa’r arglwydd newydd o arbenigrwydd yr eglwys ac o awdurdod y sant a’i noddai?’ Gan hynny, mae’n debygol mai Canu i Gadfan yw’r gynharaf o’r tair awdl a ganwyd i’r saint o’r ddeuddegfed ganrif.

Canu i Gadfan
Roedd denu pererinion a’u rhoddion, yn ogystal â chymynroddion gan dywysogion ac uchelwyr cefnog, yn gwbl allweddol i lwyddiant eglwys yn y ddeuddegfed ganrif. Gobaith y rhoddwr, wrth gwrs, oedd y byddai nawddsant yr eglwys yn cael ei blesio ac felly’n gofalu drosto, drwy sicrhau ei iechyd a’i lwyddiant ar y ddaear a chaniatáu taith ddidramgwydd iddo i’r nefoedd ar ôl ei farwolaeth. Gan hynny, roedd pwysleisio pwysigrwydd ac effeithiolrwydd y sant, sef Cadfan yn yr achos hwn, fel gwas i Dduw ar y ddaear ac fel eiriolwr effeithiol dros eneidiau ei bobl ar Ddydd y Farn, yn gwbl allweddol. Prawf o’r berthynas ddwyfol rhwng y sant a Duw oedd y gwyrthiau a gyflawnodd y sant yn ystod ei fywyd ac y parhâi i’w cyflawni drwy gyfrwng ei greiriau a gedwid yn ei eglwys. Ac fel yr oedd Cadfan yn un o weision Duw ar y ddaear yn y chweched ganrif, roedd pennaeth eglwys Tywyn yn y ddeuddegfed ganrif, yr Abad Morfran, i raddau yn was i Gadfan, a’r sant yn parhau i weithredu drwy’r abad gan amddiffyn y rhai a drigai o fewn nawdd ei eglwys neu a rannai eu cyfoeth â hi. Yn wir, mae’n anodd penderfynu weithiau ai at Dduw, at Gadfan, at Forfran neu hyd yn oed at arglwydd secwlar (megis Hywel ab Owain Gwynedd) y cyfeiria’r bardd – a dichon fod yr amwysedd yn gwbl fwriadol.

Os bu erioed fuchedd ysgrifenedig i Gadfan nid yw wedi ei chadw, a chymharol brin yw’r traddodiadau amdano sydd wedi goroesi. Er hynny, cawn yr argraff, o’r deunydd achyddol yn arbennig, ei fod yn sant llawer pwysicach a mwy dylanwadol yn ei ddydd nag y mae’r diffyg tystiolaeth amdano yn ei awgrymu.

Yn ôl yr achau, gŵr o dras bonheddig oedd Cadfan a ddaeth i Gymru o Lydaw mewn cwmni o saint. Cedwir ei ach yn ‘Bonedd y Saint’: Catuan sant … m. Eneas ledewic o Lydaw, a Gwenn teirbron merch Emyr Llydaw y vam (EWGT 57). Nodir ymhellach (ibid. 57–8) fod ei gyd-deithwyr, Padarn, Tydecho, Trunio a Maelrhys, yn gefndryd iddo, oll yn wyrion i Emyr Llydaw (gw. ll. 45 a gw. n5(e)). Honnodd Llywelyn Fardd fod Lleudad yntau’n gefnder i Gadfan (gw. ll. n61(e)), ac er nad yw achau’r saint yn cefnogi hynny, mae’n ddigon posibl fod Llywelyn Fardd yn gyfarwydd â thraddodiad o’r fath.

Ceir awgrym o bwysigrwydd Cadfan fel arweinydd ymysg y saint ym muchedd Ladin Padarn (a ddyddir c.1120 yn VSB xii–xiii, ond gw. Russell 2012: 12–13 lle cynigir ei dyddio o’r 1030au ymlaen) lle disgrifir cwmni cenhadol o saint yn teithio o Lydaw (Letavia) i Brydain o dan arweiniad Cadfan, yn cynnwys Keintlau (?Cynllo), Tydecho a’r Padarn ifanc (VSB 254–5). Enwir saint eraill yn yr achau y credid iddynt deithio gyda hwy, gan eu cysylltu fel arfer ag Enlli (cf. EWGT 57, 68). Prin yw’r dystiolaeth yn Llydaw am Gadfan a’i gefndryd (gw. Jones and Owen 2003: 48), ac arweiniodd hyn P.C. Bartrum, ymysg eraill, i dybio mai man anhysbys ym Mhrydain oedd Llydaw yn yr achos hwn: ‘There seems to be little doubt that Cadfan and all his company really came from a forgotten place in Britain called Llydaw, not the better known Llydaw, that is, Brittany’ (WCD dan Cadfan ab Eneas Ledewig, a gw. hefyd TysilioCBM ll. 151n). Pa beth bynnag yw’r gwirionedd, mae’n debygol y credid erbyn y ddeuddegfed ganrif mai Llydaw’r wlad a oedd dan sylw.

Cysylltir Cadfan â thair prif eglwys: Tywyn, hen fameglwys Ystumanner, Enlli a Llangadfan yng Nghaereinion. Hyd y gellir barnu, ni chyfeirir at yr olaf gan Lywelyn Fardd. Eglwys Tywyn yw prif ffocws ei gerdd ef, a honna fod Duw wedi ei llunio ar gyfer Cadfan (Lluniwys ei Ddëws ddewis edrydd – iddaw, ll. 37) pan deithiodd yno o Lydaw. Sonnir hefyd am ei awdurdod yn Enlli (llau. 137–8), ac at y modd yr amddiffynnai ef a Lleudad hi:

Arwyn ei drwydded cyn no’i drengi – ydoedd

Yn cadw rhag cyhoedd anlloedd Enlli.

Un llogawd ysydd herwydd heli,

Lleudad a Chadfan yn ei chedwi. (llau. 137–40)

Cadfan oedd abad cyntaf Enlli, ac yn ôl traddodiad, penododd Leudad i’w olynu, fel y cadarnha Lewys Glyn Cothi mewn cerdd i Lawddog (lle credai Lewys mai’r un person oedd Llawddog a Lleud(d)ad): Cadfan a’i gwnaeth yn sianawn [= canon] / I Awstin …, LlawddogLGC llau. 35–6. Yma, fodd bynnag, mae Llywelyn Fardd fel petai’n awgrymu bod Cadfan a Lleudad wedi cydarwain yn Enlli (llau. 139–40). Mae’n bosibl nad oes unrhyw sail i’r cydweithio hwn yn Enlli, nac yn Nhywyn, ac efallai mai ‘prif rôle Lleuddad yn y gerdd yw bod yn gydymaith delfrydol i Gadfan a’u perthynas yn esiampl i geidwaid cyfoes Eglwys Tywyn’ (Jones 2006: 17).

Nodwedd arbennig ar Gadfan a bwysleisir drwy’r gerdd yw ei allu milwrol, sydd fel petai’n cadarnhau’r honiad ei fod yn cael ei ystyried yn nawddsant milwyr: ‘The saint is commonly regarded as the patron of warriors, from which we may suppose that he led a military life before he left Armorica’, LBS ii, 5–6. Mae’n ddigon posibl mai oherwydd yr elfen Cad- yn ei enw y datblygodd y traddodiadau hyn, ac efallai fod cerdd Llywelyn Fardd wedi hyrwyddo’r syniad, gan ei fod ynddi gymaint o chwarae ar yr elfen hon yn ei enw: Cadfan, cedwyr nodded (ll. 8), meddai’r bardd amdano, ac fel y gwelir yn llinellau 9–14, nid yn unig y mae cad yn enw yn golygu ‘brwydr’ ond mae hefyd yn dwyn i gof y ferf cadw ‘amddiffyn, diogelu’.

Fodd bynnag, mae’n rhaid cofio bod Cynddelw yn portreadu Tysilio – a oedd yntau wedi ei eni’n dywysog – fel sant a oedd yn fawr ei nawdd i filwyr Powys. Neilltua ganiad cyfan o’i awdl i ddisgrifio rhan lwyddiannus Tysilio fel arweinydd milwrol ym mrwydr hanesyddol Maes Cogwy, c.642, gan brofi, felly, ei fod yn sant cymwys iawn i amddiffyn milwyr Powys yn y ddeuddegfed ganrif. O safbwynt Cadfan mae’n anodd barnu a ystyrid ef mewn gwirionedd yn nawddsant milwyr yn y ddeuddegfed ganrif, mwy nag unrhyw sant arall a fu’n filwr ei hun cyn cael ei dröedigaeth. Ni cheir yr un pwyslais ar filwriaeth yn awdl Gwynfardd Brycheiniog i Ddewi, o bosibl gan nad oedd Dewi ei hun yn hanu o gefndir milwrol. Ond mae’n bosibl, hefyd, fod y pwyslais ar filwriaeth Tysilio a Chadfan yn adlewyrchu diddordebau’r ddau fardd, Llywelyn a Chynddelw, fel beirdd llys, tra bo Gwynfardd Brycheiniog, ar y llaw arall, yn debygol o fod yn fardd a oedd yn bennaf cysylltiedig â llys crefyddol.

Elfen bwysig ym mucheddau’r saint yw’r creiriau a’r gwyrthiau cysylltiedig â hwy. Cyfeiria Llywelyn Fardd at ddwy wyrth a gyflawnodd Cadfan: y naill pan ollyngodd dân yn ei ddillad heb eu llosgi (gw. n57(e)) a’r llall pan waredodd ei wlad rhag y pla a phwerau gelyniaethus eraill, pan oedd pennaeth (anhysbys) o’r enw Gwynnyr yn rheoli:

Ef gorau gwyrthau wrth Ei gennad:

Dillwng tân yman ymywn dillad;

Ef a warawd ball a gwall a gwad,

Bendigaw Gwynnyr a’i wŷr a’i wlad. (llau. 109–12)

Hyd y gellir barnu ni chyfeirir at y ddelw o Gadfan y tyngodd Dafydd ap Gwilym lw arni (DG.net 140.23n Myn delw Gadfan) ac a gysylltwyd â delw o’r sant a gofnodwyd mewn arolwg o’r eglwys yn 1535 (LBS ii, 7–8). Er hynny cyfeiria Llywelyn Fardd at greiriau enwog yr eglwys (ll. 81 Ei chreiriau banglau ban glywhitor), gan enwi’n benodol Lyfr yr Efengyl (n30(e)); a ffon fagl y santy nodweddid hi gan ei gwyrthiau cyson newydd a’i gallu i hyrwyddo heddwch rhwng gelynion (gw. n31(e)):

Uchelwlad Gadfan myn yd gydfydd

Breswyl Efengyl ufyl ofydd

A’r fagl ferth werthfawr wyrthau newydd

A ludd i’r gelyn ladd ei gilydd. (llau. 49–52)

Er bod Henri Perri yn cofnodi llw ar ffon fagl Cadfan ar ddiwedd yr unfed ganrif ar bymtheg (Perri 1595: 24 myn bacul Gadbhan) ni ddaethpwyd o hyd i gyfeiriadau pellach at ffon fagl y sant hwn yn y farddoniaeth. Mae’n bosibl hefyd fod y bardd yn cyfeirio at grog y tu mewn i’r eglwys (ond gw. n38(e)).

Cymharol brin, hefyd, yw’r cyfeiriadau at Gadfan yn y farddoniaeth. Fe’i henwir weithiau mewn rhestr o seintiau (e.e. GIG XXX.61; GLGC 7.49; DN XVII.45); weithiau gan ei fod yn sant ac iddo arwyddocâd lleol (e.e. GDLl 35.66); ond dro arall mae arwyddocâd ei enwi’n dywyll (e.e. GLGC 86.49, lle geilw’r bardd am nawdd Cadfan ar Siân, o Aberteifi). Gall mai galluoedd llesol ffynnon Cadfan yn Nhywyn a oedd gan Ddafydd ap Gwilym mewn golwg yn y gerdd ‘Llychwino pryd y ferch’, gan fod y ffynnon honno’n enwog am ei gallu i wella afiechydon ar y croen (DG.net 115.45 ac ymhellach LBS ii, 6). Ceir dau gyfeiriad at Gadfan gan Lewys Glyn Cothi sydd o bosibl yn ei gysylltu â milwriaeth: y naill mewn cerdd fawl i Risiart Twberfil (GLGC 105.55–6 tebygu’n cyrchu o’r min i’r cil / a wna i Gadfan ac i Wdfil) a’r llall mewn cerdd i ofyn bwa gan Ddafydd Llwyd ap Gruffudd a elwir yn mab Cadfan Abertanad, GLGC 211.59 (er y gallai’r ail ddyfyniad gyfeirio at Gadwallon ap Cadfan o Wynedd, gorchfygwr Northumbria).

Dyddiad
Yn fuan wedi 1147. Gweler y drafodaeth uchod.

Golygiadau blaenorol
HG Cref cerdd XXXIV; CTC 1–2, 256–7; GLlF cerdd 1.

Crynodeb o’r gerdd
Caniad I (1–36)
Agorir gyda gweddi i Dduw yn gofyn am awen i foli Cadfan (1–8). Cyfeirir at y modd y mae’r sant yn cynnig amddiffyniad gwych i’w bobl, gan enwi ei rieni, Eneas a Gwen (9–14). Gofynna’r bardd eto am gymorth Duw i gyflwyno ei gerdd yn yr eglwys sy’n gwbl ddiogel ar bwys glan y môr (15–22). Disgrifir ei thair allor (23–8) a molir ei harddwch a’r modd y disgleiria ei waliau gwyngalchog yn amlwg yn y dirwedd, gan ei chymharu ag eglwys Dewi.

Caniad II (37–66)
Sonnir am ddyfodiad Cadfan o Lydaw, i eglwys yr oedd Duw wedi ei chreu ar ei gyfer (37–8). Sonnir hefyd am y fendith a fwynhâi’r ardal oherwydd ei ddyfodiad i’w plith ac am hoffter y sant o leoliad yr eglwys (39–46). Cyfeiria’r bardd yn benodol at y gerdd y mae’n ei chyflwyno i Feirionnydd ac i Gadfan (47–8), gan fanylu ar greiriau gwerthfawr yr eglwys, sef Llyfr Efengyl a ffon fagl y sant ac iddi’r gallu i adfer heddwch rhwng gelynion a’i gilydd (49–54). Molir yr abad, sy’n amddiffynnwr gwych ac yn rhoddwr haelionus (55–60) a diweddir drwy foli’r ddau offeiriad sy’n gwarchod yr eglwys – ai Morfran a rhyw offeiriad cyfoes arall? – gan roi sylw unwaith eto i leoliad yr eglwys yn y dirwedd.

Caniad III (67–86)
Molir croeso’r eglwys i’r bardd, a lleoliad amlwg yr eglwys uwch y llanw (67–70). Molir ei diogelwch a’r ffaith na fyddai unrhyw un yn meiddio dwyn trais yn ei herbyn, tra bo Cadfan yn ei gwarchod (71–80). Diweddir y caniad drwy gyfeirio at ei chreiriau pwysig, ei gwyrthiau, ei cherddoriaeth, ei phenaethiaid a’i meini marmor, ac unwaith eto ei lleoliad hardd, yn gorwedd rhwng y bryniau coediog a’r môr (81–6).

Caniad IV (87–122)
Cyfeiria Llywelyn Fardd at ei rodd o gerdd newydd i’w arglwydd, a’r rhoddion o geffylau gwych a dderbyniodd ganddo yntau am ei gerdd yn y gorffennol (87–90). Fel y mae’n iawn iddo foli Iesu, iawn yw iddo hefyd foli Cadfan, gan mai priodol yw moli arglwydd haelionus a gwych ei amddiffyn (91–4). Molir yr eglwys ym Meirionnydd eto, gan fanylu ar ei gwasanaethau a’i cherddoriaeth, a’i lleoliad ger y môr (95–9). Pwysleisir ei llwyddiant, ffrwythlondeb ei thiroedd, cyfoeth ei gwleddoedd a’r rhoddion a ddaw iddi gan ymwelwyr (100–6). Disgrifir llawenydd Duw pan anwyd Cadfan hael (107–8) a chyfeirir yn benodol at ddwy o’i wyrthiau – cludo tân yn ei ddillad a gwaredu’r wlad o bla (109–12). Rhyfeddod oedd y ffaith iddo ymddwyn fel dyn doeth yn ei blentyndod a dewis byw bywyd fel sant yn hytrach na derbyn ei dreftadaeth (113–14). Diweddir y caniad drwy foli Cadfan a’i gefnder Lleudad (115–22).

Caniad V (123–62)
Sonnir am amddiffyn cadarn Cadfan ar gyfer yr eglwys ger y môr yn Nhywyn (123–4) gan gyfeirio at ei natur nefolaidd a’i lleoliad amlwg ger y môr (123–6). Molir ei haelioni, ei gwychder a’i llwyddiant, a’i lleoliad ger afon Dysynni (127–30). Cyfeiria’r bardd yn benodol at ei daith tuag ati ar hyd dyffryn Dyfi a thros Eryri, a’r peryglon a wynebai ar y daith honno tra bo ymosodiadau o’r De (131–6). Sonnir am berthynas Cadfan ag Enlli, a’r modd y bu iddo ef a Lleudad warchod yr eglwys boblogaidd honno (137–42). Dychwelir i foli eglwys Meirionnydd, gan fanylu unwaith eto ar ei harddwch, ei chroeso i’r beirdd a’u barddoniaeth, ei gwleddoedd, ei gwasanaethau nodedig, daioni cyffredinol ei thrigolion a lleoliad yr eglwys ger aber yr afon (143–62).

Caniad VI (163–78)
Yn llinellau cyntaf y caniad olaf hwn, uniaetha Llywelyn Fardd â’r beirdd a ddaw â’u cerddi i Gadfan (163–4), cyn moli gwyrda Meirionnydd sy’n fawr eu hamddiffyn i’w eglwys ac yn hael tuag at y beirdd (165–8). Unwaith eto disgrifir lleoliad yr eglwys ar bwys llifeiriant y môr a sŵn y tonnau (169–70). Ceir yna gyfres o linellau yn moli Cadfan: tra’i fod ef yn eistedd ar ei orsedd yn y nefoedd, yn bennaeth disglair dros ei bobl, bydd cerddi’r bardd yn sicr o gael eu trysori yn ei eglwys (175–7). Clöir gan fynegi gobaith y bydd Duw yn amddiffyn holl diriogaeth Cadfan (178).

Mesur a chynghanedd
Defnyddiwyd dau brif fesur drwy’r awdl, sef cyhydedd naw ban a thoddaid, gydag un enghraifft o gyhydedd hir yn lle toddaid (gw. y dosbarthiad isod). Cyfetyb y mesurau i ddisgrifiad John Morris-Jones ohonynt yn CD 337–40. Mae’r cyhydeddau naw ban, ac ail linellau’r toddeidiau, bron i gyd yn ymrannu’n 5:4 sillaf, a llinellau cyntaf y toddeidiau yn ymrannu’n 5:5 neu’n 5:6 sillaf. Os yw llinell yn rhy hir, ceir y sillafau dros ben yn aml yn ail hanner y llinellau, ac yn aml mae modd adfer hyd cywir y llinell drwy gywasgu neu dalfyrru. Tynnir sylw yn y nodiadau at linellau nad oes modd eu cywasgu.

Mae natur bur reolaidd i gynganeddion Llywelyn Fardd, ac nid oes yr un llinell yn y gerdd y gellid ei disgrifio’n ddigynghanedd: ceir un ai cytseinedd, yn enwedig ar ganol llinell (cynghanedd braidd gyffwrdd); odl fewnol, weithiau’n llunio cynghanedd lusg; neu gyfuniad o gytseinedd ac odl (yn llunio cynghanedd sain o ryw fath). Yn y cynganeddion cytsain, syrth gair cyntaf y gyfatebiaeth yn rheolaidd ar ddiwedd hanner cyntaf y llinell (sy’n diweddu ar y bumed sillaf), a daw’r gair sy’n cytseinio un ai’n syth ar ei ôl (e.e. ll. 42 Bendigedig fro | fraint gynhewydd) neu ar ddiwedd y llinell, gan greu cyfatebiaeth draws wreiddgoll (e.e. ll. 48 Uchelfardd a’i pryd | fegys prydydd). Ceir rhai patrymau cynganeddol gwahanol i’r rhai a ddisgrifir gan John Morris-Jones yn Cerdd Dafod, e.e. ll. 176 Yn ben ban llefair, yn bair eirian, lle ceir odl fewnol, odl lusg a chytseinedd, neu l. 34 Eglwys wen wyngalch falch wynhäed, sy’n gynghanedd sain dro, a thair rhan y gynghanedd sain mewn trefn wahanol i’r patrwm sy’n arferol erbyn oes y Cywyddwyr (Andrews 2003: 151–7). Tynnir sylw yn y nodiadau at linellau lle mae ystyriaethau cynganeddol yn effeithio ar ddarlleniad neu ystyr.

Caniad I (llau. 1–36): 36 llinell ar y brifodl -ed; cyhydedd nawban (1–2, 5–6, 9–10, 13–14, 17–18, 21–2, 25–6, 29–30, 33–4), toddaid (3–4, 7–8, 15–16, 19–20, 23–4, 27–8, 31–2, 35–6) a chyhydedd hir (11–12). Ceir cyrch-gymeriad rhwng diwedd y caniad hwn a dechrau’r nesaf (lunhied. / Lluniwys).

Caniad II (llau. 37–66): 30 llinell ar y brifodl -ydd; toddaid (37–8, 45–6, 61–2, 65–6), cyhydedd nawban (39–44, 47–60, 63–4). Ceir odl yn clymu diwedd y caniad wrth ddechrau’r nesaf (ac arfor a gorfynydd. / Mor elw).

Caniad III (llau. 67–86): 20 llinell ar y brifodl -or; toddaid (67–8, 71–2, 75–6, 79–80, 83–4), cyhydedd nawban (69–70, 73–4, 77–8, 81–2, 85–6). Ceir odl yn clymu diwedd y caniad wrth ddechrau’r nesaf (harfor . / Mor iawn).

Caniad IV (llau. 87–122): 36 llinell ar y brifodl -ad; toddaid (87–8, 91–2, 95–6, 99–100, 103–4, 107–8, 113–16, 119–20), cyhydedd nawban (89–90, 93–4, 97–8, 101–2, 105–6, 109–12, 117–18, 121–2). Cysylltir diwedd y caniad hwn â’r nesaf drwy ailadrodd Cadfan a ffurf ar y ferf cadw (Cadfan i gadw llan … / Cadr y ceidw Cadfan).

Caniad V (llau. 123–62): 40 llinell ar y brifodl -i; cyhydedd nawban (123–4, 127–8, 131–2, 135–6, 139–40, 143–4, 147–8, 151–6, 159–60), toddaid (125–6, 129–30, 133–4, 137–8, 141–2, 145–6, 149–50, 157–8, 161–2). Ceir cyrch-gymeriad yn cysylltu diwedd y caniad wrth y caniad nesaf (weini. / Gweinifiad).

Caniad VI (llau. 163–78): 16 llinell ar y brifodl -an; cyhydedd nawban (163–4, 167–8, 173–4, 177–8), toddaid (165–6, 169–72, 175–6). Mae diwedd yr awdl yn cyrchu ei dechrau drwy gyfrwng y gair Duw.

Nodyn ar yr aralleiriad
Mae’r aralleiriad a gynigir yn weddol lythrennol, ond weithiau rhoddir blaenoriaeth i aralleirio ystyr brawddeg, yn hytrach nag aralleirio geiriau unigol gan ddilyn union drefn y geiriau neu’r ymadroddion yn y testun. Cynigir aralleiriad mwy llythrennol yn GLlF.