Dewis nodiadau:
Cyfieithiad:

23. Moliant i Dydecho

golygwyd gan Eurig Salisbury

Cywydd mawl i Dydecho gan Ddafydd Llwyd o Fathafarn. Dyddiad c.1450 × c.1490.

Mae gŵr llwyd yma garllaw,
Mawl a wedd yn aml iddaw,
Crefyddwr cryf o Fawddwy,1 Mawddwy Cwmwd ym Meirionnydd lle ceir eglwysi wedi eu cysegru i Dydecho yn Llanymawddwy ac ym Mallwyd, gw. WATU 154. Sylwer ar y modd y cyfeiria’r rhagenw lluosog at holl drigolion Mawddwy yn ail linell y cwpled: eu hollwlad hwy.
Ceidwad ar eu hollwlad hwy,
5Tydecho lwys, tad uwchlaw
Un o filwyr nef aelaw.
Llyma lle bu’r gwyrda gynt,
Llandudoch,2 Llandudoch Llandudoch ym Mhenfro, fe ymddengys, gw. ll. 9n Dogwel; gthg. Llandudech mewn testun a olygwyd gan ‘Lasynys’ (Jones 1863: 454), lle noda mai’r enw hwnnw oedd ‘enw cysefin Llan ym Mawddwy: gelwir hi eto gan yr hen bobl ar yr enw hwn. Onid yr un ydyw â Llandudoch?’ Mae’n debygol fod ‘Glasynys’ wedi codi testun y gerdd o blith ‘lluaws mawr’ o gywyddau Dafydd Llwyd a geid mewn llawysgrif a oedd ‘gan Mr. Ifan Jones, Ty’n y braich, ger llaw Dinas Mawddwy’ (ibid. 453). Nid ymddengys fod y llawysgrif honno’n hysbys, ac ni ellir dweud pa mor agos y dilynodd ‘Glasynys’ ei darlleniadau. Ni cheir y ffurf Llandudech yn yr un o’r llawysgrifau a ddefnyddiwyd i sefydlu testun y golygiad hwn, ac ni ddaethpwyd o hyd i dystiolaeth ategol o blaid y ffurf honno. lle nid ydynt,
Dogwel,3 Dogwel Nawddsant nifer o eglwysi ym Mhenfro, yn cynnwys Llandudoch, gw. Dogwel; ll. 8n Llandudoch. heb gêl y galwant,
10Iaith groyw swrn, a Thegwan Sant.⁠4 Tegwan Sant Nawddsant Llandegfan ym Môn, gw. Tegfan. Roedd capel a gysegrwyd i Dydecho yn gysylltiedig ag eglwys Llandegfan yn ystod yr Oesoedd Canol, gw. LBS iv, 285; Coflein d.g. Capel Tydecho.1 Iaith groyw swrn, a Thegwan Sant Mae’n sicr mai’r gyfatebiaeth gynganeddol annisgwyl hon a geid yn narlleniad X2, ac felly hefyd, yn ôl pob tebyg, yn X1, eithr ei bod wedi ei diwygio er mwyn cywiro’r gynghanedd yn CM 21 a LlGC 6499B Iaith groyw swrn a Thegwar Sant, cf. Pen 225 Thegwanr. Bernir mai rhith yw Tegwar, a grewyd (ar sail yr enw priod pur anghyffredin, Tegwared, efallai) er mwyn bodloni gofynion y gynghanedd. Ni cheir unrhyw dystiolaeth am sant o’r enw hwnnw. Mae’n bosibl fod y gyfatebiaeth gynganeddol yn y llinell hon yn wallus o’r dechrau, oni chanateid dwy gytsain berfeddgoll mewn cynghanedd gytsain, y naill yn hanner cyntaf y llinell a’r llall yn yr ail (sylwer bod y ddwy gytsain a anwybyddir – r ac n – yn rhai a anwybyddid yn bur aml, fel eithriadau unigol, mewn llinellau rheolaidd). Ymhellach, gw. llau. 7–10n (esboniadol).
Abad hael yn batelu⁠2 batelu Dilynir mwyafrif y llawysgrifau, gthg. BL 14866 a J 140 bitelu. Er mor amlwg oedd haelioni fel un o rinweddau’r saint (gw. GPC Ar Lein d.g. bitelaf ‘cyflenwi (llong, mintai, &c.) ag ymborth, &c., bwydo’), bernir bod batelu (gw. ibid. d.g. batelaf ‘brwydro’) yn cyd-fynd yn well ag ail linell y cwpled.
Â’i fagl fawr, difwgl⁠3 difwgl Ymddengys fod y darlleniad difwgl wedi peri i rai copïwyr dybio mai chwe sillaf yn unig a geid yn y llinell hon, ac y dylid ei diwygio er mwyn adfer y sillaf: CM 21 ai fagal fawr di fygwl fu, Pen 86 di fwgl a fv, Pen 225 divwgwl. Diau mai gair trisill ydoedd gan Ddafydd Llwyd, ond nid oes wybod pa ffurf drisill a ddefnyddiodd ef, gw. GPC Ar Lein d.g. difygwl. fu;
Câr o waed, cywir ydoedd,
Arthur benadur ban⁠4 ban Dilynir X1, cf. y ffurf amrywiol ben yn X2, gw. GPC Ar Lein d.g. pan1. Bernir bod y darlleniad hwnnw wedi ei ddylanwadu gan ben- yn benadur. O ran y llinell nesaf, sylwer mai pan a geir yno ym mhob llawysgrif ac eithrio Llst 118. oedd.5 Llau. 13–14 Câr o waed … / Arthur Yn ôl ‘Historia Regum Britanniae’ Sieffre o Fynwy, roedd Arthur yn frawd yng nghyfraith i Budicus, a elwir Emyr Llydaw (taid Tydecho, gw. ll. 16n) yn y fersiwn Cymraeg, gw. BD 146, 268; GMon 193–4. Am gyfieithiad arall posibl ar gyfer y cwpled hwn, gw. TWS 210 ‘Kinsman of true blood he was to Arthur, ruler, a noble was he.’
15Ni charai ban dreiglai draw
Y môr, llwyd ŵyr Emyr Llydaw,6 Llau. 15–16. Bernir mai Tydecho, sef ŵyr Emyr Llydaw drwy ei dad, Annun Ddu (TYP3 348; WCD 249–50), yw goddrych y ferf [c]arai, a bod llwyd yn ddisgrifiad o’r sant yn hytrach nag o liw’r môr, gw. GPC Ar Lein d.g. llwyd (a), (d); cf. ll. 1 gŵr llwyd ‘gŵr sanctaidd’. Fodd bynnag, nid yw’n amhosibl mai’r môr llwyd yw goddrych y ferf, gyda’r ystyr fod y môr wedi bod yn angharedig wrth y sant, cf. honiad Lewis Morris fod Tydecho wedi mynd i deithio ‘having suffered by an inundation of the sea’ (Jones 1802: 45). Tybed ai oherwydd i’r môr oresgyn ei eglwys ar lan afon Teifi yn Llandudoch yr aeth Tydecho ac eraill oddi yno? Cf. hanes y môr yn bygwth tir ac eglwys Illtud, ynghyd ag enghreifftiau niferus o sant yn adleoli ei eglwys, IlltudLM llau. 47–54n (esboniadol); Henken 1991: 107–9.5 Y môr, llwyd ŵyr Emyr Llydaw Dilynir CM 21, a barnu mai dyma a geid yn X1. Mae’n sicr mai ymgais i gwtogi’r llinell a geir yn LlGC 6499B, lle hepgorwyd ŵyr, ac felly hefyd, yn ôl pob tebyg, o ran hepgor y fannod yn X3. Gellid dadlau mai darlleniad X3 sydd fwyaf synhwyrol, gan y gallai’r diffyg treiglad i môr – a ganiateid ar ddechrau llinell o gywydd (TC 196) – fod wedi peri dryswch i rai copïwyr. Fodd bynnag, ni cheir digon o dystiolaeth o’i blaid, a’r tebyg yw mai llinell wythsill oedd hon o’r dechrau. Posibilrwydd arall yw bod y fannod wedi ei chollnodi’n wreiddiol, ond i rywun ei hadfer wrth gopïo’r testun mewn ffynhonnell gynnar, a hynny rhag peri dryswch drwy roi r ar ddiwedd y brifodl yn y llinell flaenorol (neu r ddigyswllt ar ddechrau’r llinell hon), hynny yw: Ni charai ban dreiglai draw’r / Môr, llwyd ŵyr Emyr Llydaw. Pur ddryslyd yw darlleniad X2 myrllydaw. Ai ymgais arall ydyw i gael gwared ar sillaf, ynteu a gollwyd e- oherwydd traul?
Yna mudawdd⁠6 Yna mudawdd Dilynir yn betrus ddarlleniad X2, gthg. CM 21, LlGC 6499B yno y tynnawdd. Mae darlleniad J 140 yno y mynawdd ac, o bosibl, y cywiriad aneglur a geir yn Pen 225 yno yxtynawdh, yn awgrymu bod dryswch yn narlleniad X3. Tybed a gamgopïwyd neu a gamgofiwyd y darlleniad gwreiddiol yn X1, lle ceid mynawdd, a bod y darlleniad hwnnw, yn sgil ansicrwydd ynghylch yr ystyr, wedi ei ddiwygio i tynnawdd? i Fawddwy
Rhag dygyfor y môr mwy.
Teml a wnaeth yntau yma,7 Teml a wnaeth yntau yma Sef eglwys Tydecho yn Llanymawddwy, gw. WATU 143. Mae’n eglur fod Dafydd Llwyd rywle ym Mawddwy pan ddatganodd ei gerdd, cf. ll. 59 nid rhwydd yma.
20Tad oedd, ei berchen tŷ da,7 Tad oedd, ei berchen tŷ da Nid yw orgraff y llawysgrifau o gymorth i benderfynu ai’r rhagenw ei ynteu’r arddodiad i a geir cyn berchen. Os yr ail, gall mai’r hyn a ddywedir yw bod y sant yn ‘dad i berchentywr da’, sef offeiriad yr eglwys yn amser Dafydd Llwyd a noddwr y gerdd, cf. enghraifft arall o gyfeirio at noddwr heb ei enwi yn PedrLD ll. 62n [y] tenant (esboniadol). Mae’r defnydd o’r ffurf orffennol oedd, fodd bynnag, yn chwithig yn y cyd-destun hwnnw. Gwell cymryd mai’r rhagenw ei yw’r darlleniad cywir, ac mai [p]erchen yn yr ystyr ‘perchnogaeth, meddiant’ a geir yma, er na cheir enghraifft o’r gair yn yr ystyr honno cyn yr 16g./17g. yn GPC Ar Lein d.g. perchen (b).
Crefyddwr, llafurwr fu,
Cryf ei wedd8 cryf ei wedd Fel y sonnir yn y nodyn testunol ar y llinell hon, gellir dehongli gwedd mewn dwy ffordd, gw. GPC Ar Lein d.g. gwedd1 ‘ymddangosiad’, gwedd2 ‘iau’. Bernir bod yr ail ystyr fyw fymryn yn amlycach yng nghyd-destun y cwpled hwn. yn8 wedd yn Dilynir X2, gthg. X1 Cryf ei weddi’n crefyddu (collwyd y llinell hon yn Pen 86 yn sgil rhwygo’r ddalen). Diau bod copïwyr wedi dehongli mewn dwy ffordd wahanol ddarlleniad tebyg i weddyn mewn rhyw gynsail goll. Ni ellir yn hawdd wahaniaethu rhwng y ddau ddarlleniad o ran ystyr, ond bernir bod darlleniad X2 ryw fymryn yn fwy apelgar ar ddau gyfrif. Ni cheir amwysedd yn y darlleniad hwnnw o safbwynt cynganeddol, yn wahanol i ddarlleniad X1, lle gellid dadlau bod weddi a crefyddu yn proestio, onid yn ymylu ar roi’r bai ‘gormod odlau’. Eto i gyd, mae’n bosibl nad oedd beirdd y bymthegfed ganrif yn ystyried proest i’r odl yn fai fel y gwneir heddiw, cf. GG.net 97.1 Pererin piau’r awron. Y brif ddadl o blaid darlleniad X2 yw’r cyfeiriad at Dydecho fel llafurwr yn llinell gyntaf y cwpled hwn, sy’n rhoi ystyr ddeublyg i’r gair [g]wedd yn y llinell hon, gw. GPC Ar Lein d.g. gwedd1 ‘ymddangosiad’, gwedd2 ‘iau’. At hynny, gall fod dylanwad llinell 29 I’w porthi â gweddi’r gwr ar y defnydd o weddi yn X1. crefyddu,
Un a’i wely, anwylwas,
Ar gwr y glyn ar graig las.9 Llau. 23–4. Un a’i wely … / Ar gwr y glyn ar graig las Yn ôl Jones (1863: 454), roedd y garreg lle âi Tydecho i gysgu neu fyfyrio tua ‘dwy filltir a hanner i fyny tu hwnt i Lan ym Mawddwy … lle o’r enw Rhiw’r March … ar ben y golwg rhwng y Pennant a Llaethnant.’ Dywed ymhellach nad yw ‘gwely Sant Tydecho eto heb ei falurio gan ddwylaw creaduriaid cethin … Yn y graig y mae amryw groesau wedi eu cerfio gan ddwylaw ryw bererinion hunanymwadol … ac fel cofarwydd o’u gofwyad, dodasant y nôd Cristionogol yn “y graig las” yn dyst i’r oesoedd a ddelai eu bod hwy yn dilyn y Grog fel cyfeirlun nodedig o’r dyoddefaint a waredodd y byd o afaelion crafangawg anobaith.’ Gall mai’r un garreg ydoedd â’r garreg lle eisteddodd Maelgwn a chael ei hun yn sownd, yn ôl yr hanes yn llinellau 45–50, gw. TWS 214.
25Diledach, duwiol ydoedd,
 phais rawn, conffesor oedd.

Gyrrodd (nid er ei garu)
Maelgwn10 Maelgwn Maelgwn Gwynedd, brenin Gwynedd yn y 6g., gw. TYP3 428–32; ODNB d.g. Maelgwn Gwynedd. Bu farw tua 547/9. Fe’i darlunir yn aml yn y bucheddau fel gwrthbwynt anwar i ddwyfoldeb y seintiau, yn ôl pob tebyg yn sgil y darlun anffafriol ohono a luniodd Gildas yn ei ‘De Excidio Britanniae’ c.479–84/c.515–30. feirch, amlwg iawn fu,⁠9 amlwg iawn fu Dilynir X2, gthg. X1 a milgwn fu. Mae’r ffaith mai at feirch (34) a [ch]wrseriaid (38) yn unig y cyfeirir yn y llinellau sy’n dilyn yn awgrymu nad oedd milgwn ymhlith yr haid a yrrodd Maelgwn at Dydecho. Hawdd gweld sut y gellid bod wedi camgopïo neu gamgofio’r darlleniad gwreiddiol, yn enwedig gan fod milgwn yn odli â Maelgwn.
I’w porthi â gweddi’r gŵr
30Ar ei barth i’r aberthwr;
Yna y’u rhoddes yn rhyddion
A’u gyrru fry i gwr y fron.
Somed hwy⁠10 hwy Dilynir mwyafrif y llawysgrifau, gthg. X4 hwyl, sef ymgais aflwyddiannus, o bosibl, i gywiro’r bai cynganeddol yn y llinell hon, sef camosodiad ll. oll – symud lliw
Meirch gwnion marchog anwiw.
35O bu oerwynt a barrug,
Yn dewion gryfion o’r grug,11 Yn dewion gryfion o’r grug At y meirch yn y cwpled nesaf y cyfeirir yma. Roeddynt yn rhai praff a chryf er gwaethaf y tywydd gaeafol ar y mynydd a ddisgrifir yn y llinell flaenorol.
Yr oedd pan gyrchwyd i’r allt
Gwrseriaid grysau eurwallt.
Dug Maelgwn⁠11 Maelgwn Mae darlleniadau’r llawysgrifau’n unfrydol o blaid y ffurf Maelgwyn. Fel yn achos llinell 28, lle ceir y ffurf Maelgwn ym mhob llawysgrif ac eithrio X4, nid yw’r gynghanedd o gymorth wrth bennu’r ffurf. Fodd bynnag, dengys yr odl fewnol yn y gynghanedd sain yn llinellau 45 a 51 mai’r ffurf gywir yn yr achosion hynny yw Maelgwn. Cysonir, er hwylustod. wedi digiaw
40Ychen y gŵr llên garllaw,
A’r ail dydd, bu arial dig,
Yr ydoedd geirw’n aredig;12 Yr ydoedd geirw’n aredig Yn ôl Jones (1863: 455), ‘Yn Nôl y Ceirw y bu hyn, yr hon sydd eto yn rhan o Eglwysdir Person Llan ym Mawddwy: saif ar lan yr afon Dyfi.’
Blaidd llwyd heb oludd lledwar
Ar ôl oedd yn llyfnu’r âr.
45Doeth Maelgwn a’i gŵn gwnion
I’r graig hwnt ar garreg hon;13 Llau. 45–6. Doeth Maelgwn … / I’r graig hwnt ar garreg hon Yn ôl Jones (1863: 455), ‘y mae ol ei eisteddiad anghysurus i’w weled hyd heddyw’, ond ni nodir ym mhle’n union y mae.
Eisteddodd, bu wst addas,
Uwch y lan ar y llech⁠12 y llech Dilynir X1. O ran X2, ceir yr un darlleniad yn BL 14866, ond gthg. Llst 118 i lech a Pen 86 elech. Mae darllenaid Pen 86 yn apelgar (gw. GPC Ar Lein d.g. elech ‘llech’), ond mae darlleniad Llst 118 yn awgrymu mai darlleniad tebyg i yllech neu ylech (efallai yn sgil ansicrwydd ynghylch treiglo enw benywaidd yn dechrau ag ll- ar ôl y fannod) a geid yn X2. las;
Pan godai nid âi ei din
50I ar y⁠13 I ar y Gthg. y darlleniad cyfystyr ond cynganeddol wallus yn X1 Oddi ar garreg. garreg, ŵr gerwin.
Gwnaeth Maelgwn, od gwn (dig oedd),
Iawn iddo am a wnaeddoedd:
Danfoned trwy godded tro
Dodi ychen i Dydecho;⁠14 Dodi ychen i Dydecho Dilynir X2. Ymddengys fod copïwyr y testunau sy’n deillio o X1 wedi ystyried hon yn llinell wythsill (heb sylweddoli y gellir cywasgu dodi ychen yn drisill) ac wedi ceisio ei chwtogi. Hepgorwyd i yn X3, a cheir ailwampio mwy sylweddol yn CM 21 a LlGC 6499B Ei ychen i Dydecho, lle dehonglwyd danfoned yn y llinell flaenorol fel ffurf trydydd unigol orchmynnol yn hytrach na ffurf amhersonol orffennol, gw. GMW 126.
55Rhoes gannoes – nid rhwysg enwir
Nawdd Duw Dad – nodded i’w dir;
Siwrnai’i was⁠15 Siwrnai’i was Noder mai siwrne a geir ym mwyafrif y llawysgrifau. Gall mai ffurf dafodieithol ydyw (cf. ll. 93n wrthie (testunol)), neu ffurf amrywiol nas nodir yn GPC Ar Lein, ond y tebyg yw mai siwrnei a geid yn wreiddiol, a bod -i wedi ei cholli drwy gymathiad â’r rhagenw dilynol. Ceid gwall copïo, yn ôl pob tebyg, yn X4, lle collwyd was. drwy swrn o wŷdd,
Meilir,14 Meilir Deil Jones (1863: 455) mai ‘Mab arall i Gwyddnaw ab Emyr Llydaw, a charenydd i’r sant’ oedd y Meilyr hwn ond, a dilyn y testun, ni raid cymryd mewn gwirionedd ei fod yn ddim mwy na gwas y sant. Ynghylch mesur maint y tir mewn siwrnai undydd, cf. yr hyn a nodir yn y cyfreithiau am hawl y sawl a gawsai loches ar dir eglwysig i adael i’w dda byw grwydro o’r tir hwnnw cyhyd ag y medrent ddychwelyd yn ôl o fewn un dydd, Jenkins 1986: 82; Pryce 1993: 193, 199–200. o’i randir undydd.

Nid rhydd ddim,⁠16 Nid rhydd ddim Dilynir X2, gthg. X1 nid rhydd ym (camrannu). nid rhwydd yma,
60Dwyn o’i dir dynion na da;15 da Mae’n sicr mai ‘gwartheg’ neu ‘dda byw’ a olygir, yn hytrach na ‘chyfoeth’, gw. GPC Ar Lein d.g. da fel enw (a); cf. GGLl 17.49 A’i dda ar fynyddoedd ŷnt ‘A’i wartheg ydynt ar fynyddoedd’.
O daw dyn â da i’w dir,⁠17 O daw dyn â da i’w dir Dilynir darlleniad X2, gthg. X1 Od â dyn â da o’i dir. Mae’r ddau ddarlleniad yn synhwyrol o safbwynt cyfreithiol, ond mae’n debygol fod darlleniad X1, sy’n ymwneud â dwyn gwartheg o dir Tydecho, dan ddylanwad y cwpled blaenorol o ran pwnc a geiriad (o’i dir). Ceir y darlleniad anos, mewn gwirionedd, yn X2, sy’n ymwneud â hawliau eglwys Tydecho mewn achos o dresmasu, gw. llau. 61–2n (esboniadol).
 chebystr yr achubir.16 Llau. 61–2. O daw dyn â da i’w dir, /  chebyst yr achubir Cf. yr hyn a nodir yn y cyfreithiau ynghylch hawl y sawl a dyfai ŷd i feddiannu unrhyw anifail a dresmasai ar dir ei gnydau, gw. Jenkins 1986: 202–9.
Tiroedd aml, nid rhydd ymladd
Na phrofi llosgi na lladd,
65Na sarhau un o’r sir hon
Oni wnair iawn i wirion.

Gwnaeth ddynion efryddion fry
I rodio pob tir wedy,
A dall a byddar allan
70Weled a chlywed achlân;
Mwy oedd y gobrwy heb gêl
I Dydecho, dad uchel,
Y nosau golau heb gilwg⁠18 Y nosau golau heb gilwg Awgryma darlleniadau Llst 118 a Pen 86 mai’r llinell wythsill hon a geid yn X2, a bod David Johns wedi cwtogi’r llinell yn BL 14866 drwy hepgor heb. Bernir mai ymgais debyg a geid yn X1, lle hepgorwyd y fannod.
Golli trem y gwylliaid drwg.
75Pan ddycpwyd Tegfedd,17 Tegfedd Chwaer Tydecho, yn ôl y gerdd hon, a ystyrid yn santes (LBS iv, 216–17). meddynt,
Dirasa’ gwaith, i drais gynt,
Yn iawn, rhoes Cynon18 Cynon Yn ôl LBS iv, 217 (cf. WCD 603), ‘local chieftain’ anhysbys ydoedd, ond nid yw’n amhosibl fod Cynon yn ffurf ar Cynan, ac mai’r gŵr a olygir yw Cynan Garwyn, brenin Powys yn ail hanner y 6g., gw. ODNB; cf. disgrifiad Lewis Morris ohono fel ‘Prince of Powys’ yn Jones 1802: 46. Mae’r darlun o Gynon yn y gerdd hon yn sicr yn cydweddu â chyfeiriadau at Gynan Garwyn ym muchedd Ladin Cadog, lle’i darbwyllir gan y sant rhag anrheithio Morgannwg, ac ym muchedd Gymraeg Beuno, lle rhodda dir i’r sant yng Ngwyddelwern, gw. VSB2 114–17; Sims-Williams 2018, 53–4, 145.19 Cynon Dilynir mwyafrif y llawysgrifau, gthg. J 140 einion, LlGC 6499B cynan. a’i wŷr
Iddo Arthbeibio bybyr,19 Garthbeibio bybyr Plwyf yng nghwmwd Caereinion ym Mhowys lle ceir eglwys wedi ei chysegru i Dydecho, gw. WATU 73; cf. cywydd gan Lewys Môn i gymodi â gwŷr Caereinion, lle dywed iddo dderbyn pardwn gan Dydecho, GLM LXXXI.55–8. Ar dreiglo ansoddair yn feddal ar ôl enw lle, gw. TC 119–20.20 Iddo Arthbeibio bybyr Dilynir X2, gthg. X1 Iddo Arthbeibio’n bybyr.
A’i chwaer deg, bu chwerw ei dwyn,
80O’r drin fawr adre’n forwyn.

Nid amod bod ebedyw20 ebedyw Gw. GPC Ar Lein d.g. ebediw ‘Taliad i arglwydd y tir neu i’r brenin ar farwolaeth deiliad’; OED Online d.g. heriot 2 (a) ‘A feudal service, originally consisting of weapons, horses, and other military equipments, restored to a lord on the death of his tenant; afterwards a render of the best live beast or dead chattel of a deceased tenant due by legal custom to the lord of whom he held’. Ymhellach, gw. llau. 81–90n.21 ebedyw Noder mai ybedyw a geid yn X2 ac, o bosibl, yn X1, cf. y ffurf amrywiol obedyw yn BL 14866 a LlGC 6499B, ynghyd ag X3 abedyw, gw. GPC Ar Lein d.g. ebediw.
Yn nhir y gŵr, anrheg yw,
Nac arddel gam na gorddwy21 cam na gorddwy Ac ystyried bod ebedyw (gw. ll. 81n) a gobr merch (ll. 84n) yn ddau daliad cyfreithiol, ymddengys y dylid ystyried [c]am a gorddwy yn yr un modd. Ar gyfer gorddwy, dilynir yr ail ystyr a nodir yn GPC Ar Lein (b) ‘Camlwrw, dirwy’, ond ni cheir ystyr debyg i [c]am ac eithrio fel ‘trosedd, bai, pechod, camwedd, anghyfiawnder …’, gw. ibid. d.g. cam2. Cynigir, felly, mai ffurf gryno ydyw ar camlwrw, gw. ibid. d.g. 1 ‘Dirwy neu fforffed, gan amlaf o dair buwch neu naw ugain ceiniog, a delid i’r brenin neu i’w swyddogion yn gosb am y troseddau lleiaf’; Jenkins 1986: 279, 322. Ymhellach, gw. llau. 81–90n.
Na gobr merch,22 gobr merch Gw. y cyfuniad yn GPC Ar Lein d.g. gobr; cf. ibid. d.g. amobr ‘Taliad i arglwydd gwraig ar gyfrif perthynas rywiol (yn y cyfreithiad Cymreig), hefyd weithiau am drais’. Diddorol nodi y gallai’r arfer bur broffidiol o dalu arian i arglwydd seciwlar pan fyddai merch a oedd yn ddeiliad iddo’n colli ei gwyryfdod (yn bennaf ar achlysur ei phriodas) arwain at lai o ferched yn byw’r bywyd diwair a hyrwyddid gan yr eglwys, gw. Cartwright 1999: 169–70. Ymhellach, gw. llau. 81–90n. nid gwiw bwrw mwy.⁠22 Na gobr merch, nid gwiw bwrw mwy Dilynir X2. Collwyd gwiw yn X1, a’r tebyg yw bod copïydd diweddarach wedi diwygio’r darlleniad yno er mwyn ceisio cywiro’r gynghanedd. Copïwyd y darlleniad gwreiddiol yn X3 (efallai cyn i’r llinell gael ei diwygio), a chopïwyd y darlleniad diwygiedig yn CM 21 a LlGC 6499B Neu wobr merch, nid bwrw mwy.
85Barwniaid, bybyr einioes
Pab Rhufain i’r rhain a’i rhoes;
Hywel a’i cadarnhaodd
Ap Cadell,23 Llau. 87–8. Hywel … / ap Cadell Brenin a reolai Gymru gyfan ar ddiwedd ei oes (bu farw c.949/50), ond fe’i adnabyddir yn bennaf fel brenin Deheubarth ac, wrth yr enw Hywel Dda, fel un a fu’n gyfrifol am roi trefn newydd ar gyfraith y wlad, gw. ODNB d.g. Hywel Dda. rhybell fu’r rhodd:
Breiniau i ni bob awr yn ôl,
90A rhydid mawr, gwaredol.24 Llau. 81–90. Mae’r llinellau hyn, ynghyd ag adran flaenorol o’r gerdd sy’n ymwneud â chosbi troseddwyr yn effeithlon ar dir Tydecho (llau. 59–66), yn pwysleisio arwahanrwydd eglwys neu eglwysi’r sant yng ngolwg y gyfraith. Fe ymddengys mai’r hyn a ddethlir yma yw’r ffaith fod gan eglwys Tydecho rym dros daliadau a oedd yn orfodol o dan y gyfraith seciwlar, a’u bod, gan hynny, wedi eu diddymu ar dir Tydecho. Mewn rhai fersiynau o’r gyfraith a gysylltir â Gwynedd, cyfeirir at hawliau’r sawl a elwir yn ‘frenin’ mewn perthynas â thaliadau cyfreithiol ar dir eglwysig, gw. LlI 54 Ny dele un tyr bot en dyurenhyn: o byd abbattyr ef, o bydant lleygyon, dyrue a chamluru ac amober ac ebedyv a lledrat a lluyd ef a’e dele. O byd escoptyr ew a dyly llvyd a lledrat; Jenkins 1986: 101 ‘It is not right for any land to be kingless. If it is abbey land, if there are any laymen he [the King] is entitled to dirwy and camlwrw and amobr and ebediw and theft and hosting. If it is bishop’s land he is entitled to hosting and theft’ (am drafodaeth, gw. Pryce 1993: 211–15). Ac ystyried y tebygrwydd sydd rhwng y cyfeiriadau uchod at [dd]yrue a chamluru ac amober ac ebedyv a’r pedwar taliad a enwir yn y gerdd – ebediw, [c]am, gorddwy a gobr merch (gw. llau. 81n, 83n ac 84n) – y tebyg yw fod Dafydd Llwyd yn gyfarwydd â rhyw ffurf ar y gyfarwyddyd gyfreithiol a roddai’r gair olaf i’r eglwyswyr o ran y taliadau y gellid eu casglu ar dir Tydecho. Darn ategol o dystiolaeth yn y cyswllt hwn yw cyfeiriad mewn dau fersiwn Lladin o’r gyfraith at ymestyn hawl esgob Tyddewi i gynrychiolaeth gyfreithiol i benaethiaid cymunedau tri sant a gysylltir â’r gogledd, sef Beuno, Trillo a Thydecho, gw. ibid. 136. Er nad oes a wnelo’r gerdd hon â’r fraint honno’n benodol (ni wyddys, at hynny, a oedd mewn grym yn y bymthegfed ganrif), mae’n arwydd sicr o annibyniaeth eglwys Tydecho mewn materion cyfreithiol. Disgrifir y ffaith fod taliadau wedi eu heithrio ar dir y sant fel anrheg yn llinell 82 (cf. ll. 88 rhybell fu’r rhodd), sef braint a roes i [f]arwniaid Cymru fywyd gwych ac a awdurdodwyd gan y pab a Hywel Dda (arno, gw. llau. 87–8n). Mewn rhai fersiynau o’r rhagymadrodd i gyfraith Hywel a welir mewn llawysgrifau a gystylltir yn bennaf â’r gogledd (cofnodwyd y testunau cynharaf c.1400), honnir i Hywel a gosgordd o bwysigion eglwysig deithio i Rufain i dderbyn sêl bendith y Pab ar y gyfraith, gw. Owen 2000: 226–9, 246–9; cf. James 1994: 75–81. Ni ellir dilysu’r hanes hwnnw, ond gwyddys i Hywel ymweld â Rhufain (ar bererindod, yn ôl pob tebyg) yn y flwyddyn 929.23 A rhydid mawr, gwaredol Roedd y llinell hon yn X4 naill ai’n amhosibl i’w darllen neu wedi ei cholli yn sgil traul ar waelod neu frig y ddalen. Gadawyd bwlch ar ei chyfer yn nhestunau BL 14866 a Llst 118.

Pan fu ar ei dir luoedd⁠24 Pan fu ar ei dir luoedd Dilynir X1. Mae’r ffaith fod y darlleniad cynganeddol wallus, Pan ddoeth ar ei dir luoedd, yn Llst 118 ac yn Pen 86 yn awgrymu’n gryf mai’r darlleniad hwnnw a geid yn X2. Y tebyg yw bod David Johns wedi adfer y darlleniad cywir yn BL 14866 (lle ceir fu i gwblhau’r gynghanedd lusg) ar sail ei wybodaeth ef am y gynghanedd, yn hytrach nag ar ôl gweld testun arall o’r gerdd.
– Amcan tyn⁠25 Amcan tyn Dilynir X2. Ymddengys y ceid gwall camrannu yn nhestun X1 Amcant hyn – a hynny yn sgil codi’r testun oddi ar dafod leferydd, yn ôl pob tebyg – a bod dryswch ynghylch amcant wedi arwain at hepgor -t- yn X3, gan ddifetha’r gynghanedd. i bumcant oedd –
Trech fu wrthie⁠26 wrthie Derbynnir y ffurf dafodieithol a geir yn CM 21, J 140 a Pen 86, cf. Pen 225 wrthia, LlGC 6499B ac X4 wrthiau. Tydecho:
A’i tarfodd, ni ffynnodd ffo.
95Daliwyd, dilëwyd heb ladd25 heb ladd Mae ail linell y cwpled hwn yn awgrymu mai’r ergyd yn y llinell gyntaf yw bod Tydecho wedi llwyddo i drechu’r fyddin cyn i’w milwyr fedru lladd neu daro neb, ond gall hefyd mai llwyddo i’w trechu’n heddychlon a wnaeth.
Llu aml heb allu ymladd,
Y modd y delis⁠27 delis Derbynnir y ffurf hynafol a geid yn X2, cf. X1 daliodd. diawl, meddynt,
Y brodyr bregethwyr gynt.

Gwan borth a gaffo gorthrech,
100Gwnfyd rhai gân’ a fo trech;
Eled bawb o’r wlad y bo
I duchan at Dydecho!

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

Mae gŵr sanctaidd yma gerllaw,
moliant sy’n gweddu iddo’n doreithiog,
crefyddwr cryf o Fawddwy,
gwarchodwr eu holl wlad hwy,
5Tydecho hardd, tad uwchlaw
unrhyw un o filwyr niferus y nefoedd.
Dyna lle bu’r gwŷr rhinweddol gynt,
Llandudoch, lle nid ydynt [mwyach],
Dogwel, galwant yn agored,
10iaith eglur i lawer, a Thegfan Sant.
Abad hael yn brwydro
â’i ffon fawr, bu’n ddewr;
perthynas drwy waed, gŵr ffyddlon ydoedd,
i’r pennaeth Arthur pan ydoedd.
15Ni hoffai pan deithiai draw
y môr, ŵyr sanctaidd Emyr Llydaw,
felly fe ymfudodd i Fawddwy
o hynny ymlaen oddi wrth ryferthwy’r môr.
Cododd ef eglwys yma,
20tad ydoedd, tŷ da oedd ei feddiant,
crefyddwr cryf ei wedd
yn addoli, bu’n amaethwr,
un a’i wely, was hoff,
ar graig lwyd ar gwr y glyn.
25Un pur ei dras, defosiynol ydoedd,
cyffeswr ydoedd mewn pais rawn.

Anfonodd Maelgwn feirch (nid am ei fod yn ei garu),
bu’n eglur iawn [ei fwriad],
at yr offeiriad i gael eu porthi
30ar weddi’r gŵr yn ei fro;
gan hynny fe’u rhyddhaodd
a’u hanfon fry i gwr y fron.
Chwaraewyd cast â hwy i gyd – newid lliw
meirch gwynion rhyfelwr annheilwng.
35Os bu gwynt oer a barrug,
yn rhai tew a chryf o’r grug,
pan gasglwyd meirch cydnerth ynghyd i’r allt
roedd [arnynt] grysau o wallt euraid.
Dygodd Maelgwn wedi digio
40ychen y gŵr dysgedig gerllaw,
bu ffyrnigrwydd dig, a’r diwrnod wedyn
roedd ceirw’n aredig;
roedd wedi hynny flaidd llwyd lled ddof
yn llyfnu’r tir âr heb anhawster.
45Daeth Maelgwn a’i gŵn gwynion
i’r graig acw ar garreg honno;
eisteddodd, bu artaith briodol,
uwchben y llethr ar y llechfaen lwyd;
pan godai nid âi ei ben-ôl
50oddi ar y garreg, ŵr garw.
Yn wir, gwnaeth Maelgwn (dig ydoedd)
iawn iddo am yr hyn a oedd wedi ei wneud:
caniatawyd rhoi ychen i Dydecho
yn sgil tramgwydd trofaus;
55rhoddodd am gant o oesoedd – nid rhodres celwyddog
yw amddiffyniad Duw’r Tad – nodded i’w dir;
taith Meilyr ei was drwy lawer o goedwigoedd
o’i randir mewn un niwrnod.

Nid yw’n gyfreithlon o gwbl, nid yw’n hawdd yma,
60ddwyn o’i dir ddynion na gwartheg;
os daw dyn â gwartheg i’w dir,
gwneir y meddiannu â rheffyn.
Tiroedd helaeth, [lle] nad yw’n gyfreithlon ymladd
na cheisio llosgi na lladd,
65na sarhau unrhyw un o’r sir hon
oni wneir iawn i ŵr dieuog.

Parodd i ddynion methedig fry
gerdded pob tir wedyn,
ac i’r rhai dall a byddar o hynny ymlaen
70weld a chlywed yn berffaith;
gwychach oedd y rhodd ddi-gêl
i Dydecho, dad aruchel,
heb gasineb ar y nosau golau
ddinistrio golwg y gwylliaid creulon.
75Pan gipiwyd Tegfedd, meddent,
drwy drais gynt, y weithred fwyaf anllad,
yn briodol, rhoddodd Cynon a’i wŷr
iddo Arthbeibio ysblennydd,
a’i chwaer deg, creulon fu ei chipio,
80adref yn forwyn o’r helynt mawr.

Nid yw’n amod cyfreithiol fod ebediw
ar dir y gŵr, anrheg ydyw,
ac nid yw fforffed na dirwy na thaliad merch
yn hawl, nid oes diben ergydio mwyach.
85Barwniaid, pab Rhufain a roddodd
fywyd gwych i’r rhain;
Hywel ap Cadell a’i cadarnhaodd,
helaeth iawn fu’r rhodd:
hawliau i ni ar bob achlysur o hynny ymlaen,
90a rhyddid rhyfeddol, achubol.

Pan fu ar ei dir fyddinoedd
– roedd yn agos iawn at bum cant –
trech fu gwyrthiau Tydecho:
i’r sawl a’i tarfodd, nid oedd ffoi yn tycio.
95Daliwyd, gyrrwyd ymaith heb ladd
dyrfa niferus heb rym ymladd,
yn yr un modd, meddent, ag y daliodd
y brodyr bregethwyr y diafol gynt.

Bydded gormes ar gynhaliaeth wan,
100bydd y rhai a fo’n rhagorach yn cael gwynfyd;
boed i bawb fynd o’r wlad lle bo
at Dydecho i gwyno!

1 Iaith groyw swrn, a Thegwan Sant Mae’n sicr mai’r gyfatebiaeth gynganeddol annisgwyl hon a geid yn narlleniad X2, ac felly hefyd, yn ôl pob tebyg, yn X1, eithr ei bod wedi ei diwygio er mwyn cywiro’r gynghanedd yn CM 21 a LlGC 6499B Iaith groyw swrn a Thegwar Sant, cf. Pen 225 Thegwanr. Bernir mai rhith yw Tegwar, a grewyd (ar sail yr enw priod pur anghyffredin, Tegwared, efallai) er mwyn bodloni gofynion y gynghanedd. Ni cheir unrhyw dystiolaeth am sant o’r enw hwnnw. Mae’n bosibl fod y gyfatebiaeth gynganeddol yn y llinell hon yn wallus o’r dechrau, oni chanateid dwy gytsain berfeddgoll mewn cynghanedd gytsain, y naill yn hanner cyntaf y llinell a’r llall yn yr ail (sylwer bod y ddwy gytsain a anwybyddir – r ac n – yn rhai a anwybyddid yn bur aml, fel eithriadau unigol, mewn llinellau rheolaidd). Ymhellach, gw. llau. 7–10n (esboniadol).

2 batelu Dilynir mwyafrif y llawysgrifau, gthg. BL 14866 a J 140 bitelu. Er mor amlwg oedd haelioni fel un o rinweddau’r saint (gw. GPC Ar Lein d.g. bitelaf ‘cyflenwi (llong, mintai, &c.) ag ymborth, &c., bwydo’), bernir bod batelu (gw. ibid. d.g. batelaf ‘brwydro’) yn cyd-fynd yn well ag ail linell y cwpled.

3 difwgl Ymddengys fod y darlleniad difwgl wedi peri i rai copïwyr dybio mai chwe sillaf yn unig a geid yn y llinell hon, ac y dylid ei diwygio er mwyn adfer y sillaf: CM 21 ai fagal fawr di fygwl fu, Pen 86 di fwgl a fv, Pen 225 divwgwl. Diau mai gair trisill ydoedd gan Ddafydd Llwyd, ond nid oes wybod pa ffurf drisill a ddefnyddiodd ef, gw. GPC Ar Lein d.g. difygwl.

4 ban Dilynir X1, cf. y ffurf amrywiol ben yn X2, gw. GPC Ar Lein d.g. pan1. Bernir bod y darlleniad hwnnw wedi ei ddylanwadu gan ben- yn benadur. O ran y llinell nesaf, sylwer mai pan a geir yno ym mhob llawysgrif ac eithrio Llst 118.

5 Y môr, llwyd ŵyr Emyr Llydaw Dilynir CM 21, a barnu mai dyma a geid yn X1. Mae’n sicr mai ymgais i gwtogi’r llinell a geir yn LlGC 6499B, lle hepgorwyd ŵyr, ac felly hefyd, yn ôl pob tebyg, o ran hepgor y fannod yn X3. Gellid dadlau mai darlleniad X3 sydd fwyaf synhwyrol, gan y gallai’r diffyg treiglad i môr – a ganiateid ar ddechrau llinell o gywydd (TC 196) – fod wedi peri dryswch i rai copïwyr. Fodd bynnag, ni cheir digon o dystiolaeth o’i blaid, a’r tebyg yw mai llinell wythsill oedd hon o’r dechrau. Posibilrwydd arall yw bod y fannod wedi ei chollnodi’n wreiddiol, ond i rywun ei hadfer wrth gopïo’r testun mewn ffynhonnell gynnar, a hynny rhag peri dryswch drwy roi r ar ddiwedd y brifodl yn y llinell flaenorol (neu r ddigyswllt ar ddechrau’r llinell hon), hynny yw: Ni charai ban dreiglai draw’r / Môr, llwyd ŵyr Emyr Llydaw. Pur ddryslyd yw darlleniad X2 myrllydaw. Ai ymgais arall ydyw i gael gwared ar sillaf, ynteu a gollwyd e- oherwydd traul?

6 Yna mudawdd Dilynir yn betrus ddarlleniad X2, gthg. CM 21, LlGC 6499B yno y tynnawdd. Mae darlleniad J 140 yno y mynawdd ac, o bosibl, y cywiriad aneglur a geir yn Pen 225 yno yxtynawdh, yn awgrymu bod dryswch yn narlleniad X3. Tybed a gamgopïwyd neu a gamgofiwyd y darlleniad gwreiddiol yn X1, lle ceid mynawdd, a bod y darlleniad hwnnw, yn sgil ansicrwydd ynghylch yr ystyr, wedi ei ddiwygio i tynnawdd?

7 Tad oedd, ei berchen tŷ da Nid yw orgraff y llawysgrifau o gymorth i benderfynu ai’r rhagenw ei ynteu’r arddodiad i a geir cyn berchen. Os yr ail, gall mai’r hyn a ddywedir yw bod y sant yn ‘dad i berchentywr da’, sef offeiriad yr eglwys yn amser Dafydd Llwyd a noddwr y gerdd, cf. enghraifft arall o gyfeirio at noddwr heb ei enwi yn PedrLD ll. 62n [y] tenant (esboniadol). Mae’r defnydd o’r ffurf orffennol oedd, fodd bynnag, yn chwithig yn y cyd-destun hwnnw. Gwell cymryd mai’r rhagenw ei yw’r darlleniad cywir, ac mai [p]erchen yn yr ystyr ‘perchnogaeth, meddiant’ a geir yma, er na cheir enghraifft o’r gair yn yr ystyr honno cyn yr 16g./17g. yn GPC Ar Lein d.g. perchen (b).

8 wedd yn Dilynir X2, gthg. X1 Cryf ei weddi’n crefyddu (collwyd y llinell hon yn Pen 86 yn sgil rhwygo’r ddalen). Diau bod copïwyr wedi dehongli mewn dwy ffordd wahanol ddarlleniad tebyg i weddyn mewn rhyw gynsail goll. Ni ellir yn hawdd wahaniaethu rhwng y ddau ddarlleniad o ran ystyr, ond bernir bod darlleniad X2 ryw fymryn yn fwy apelgar ar ddau gyfrif. Ni cheir amwysedd yn y darlleniad hwnnw o safbwynt cynganeddol, yn wahanol i ddarlleniad X1, lle gellid dadlau bod weddi a crefyddu yn proestio, onid yn ymylu ar roi’r bai ‘gormod odlau’. Eto i gyd, mae’n bosibl nad oedd beirdd y bymthegfed ganrif yn ystyried proest i’r odl yn fai fel y gwneir heddiw, cf. GG.net 97.1 Pererin piau’r awron. Y brif ddadl o blaid darlleniad X2 yw’r cyfeiriad at Dydecho fel llafurwr yn llinell gyntaf y cwpled hwn, sy’n rhoi ystyr ddeublyg i’r gair [g]wedd yn y llinell hon, gw. GPC Ar Lein d.g. gwedd1 ‘ymddangosiad’, gwedd2 ‘iau’. At hynny, gall fod dylanwad llinell 29 I’w porthi â gweddi’r gwr ar y defnydd o weddi yn X1.

9 amlwg iawn fu Dilynir X2, gthg. X1 a milgwn fu. Mae’r ffaith mai at feirch (34) a [ch]wrseriaid (38) yn unig y cyfeirir yn y llinellau sy’n dilyn yn awgrymu nad oedd milgwn ymhlith yr haid a yrrodd Maelgwn at Dydecho. Hawdd gweld sut y gellid bod wedi camgopïo neu gamgofio’r darlleniad gwreiddiol, yn enwedig gan fod milgwn yn odli â Maelgwn.

10 hwy Dilynir mwyafrif y llawysgrifau, gthg. X4 hwyl, sef ymgais aflwyddiannus, o bosibl, i gywiro’r bai cynganeddol yn y llinell hon, sef camosodiad ll.

11 Maelgwn Mae darlleniadau’r llawysgrifau’n unfrydol o blaid y ffurf Maelgwyn. Fel yn achos llinell 28, lle ceir y ffurf Maelgwn ym mhob llawysgrif ac eithrio X4, nid yw’r gynghanedd o gymorth wrth bennu’r ffurf. Fodd bynnag, dengys yr odl fewnol yn y gynghanedd sain yn llinellau 45 a 51 mai’r ffurf gywir yn yr achosion hynny yw Maelgwn. Cysonir, er hwylustod.

12 y llech Dilynir X1. O ran X2, ceir yr un darlleniad yn BL 14866, ond gthg. Llst 118 i lech a Pen 86 elech. Mae darllenaid Pen 86 yn apelgar (gw. GPC Ar Lein d.g. elech ‘llech’), ond mae darlleniad Llst 118 yn awgrymu mai darlleniad tebyg i yllech neu ylech (efallai yn sgil ansicrwydd ynghylch treiglo enw benywaidd yn dechrau ag ll- ar ôl y fannod) a geid yn X2.

13 I ar y Gthg. y darlleniad cyfystyr ond cynganeddol wallus yn X1 Oddi ar garreg.

14 Dodi ychen i Dydecho Dilynir X2. Ymddengys fod copïwyr y testunau sy’n deillio o X1 wedi ystyried hon yn llinell wythsill (heb sylweddoli y gellir cywasgu dodi ychen yn drisill) ac wedi ceisio ei chwtogi. Hepgorwyd i yn X3, a cheir ailwampio mwy sylweddol yn CM 21 a LlGC 6499B Ei ychen i Dydecho, lle dehonglwyd danfoned yn y llinell flaenorol fel ffurf trydydd unigol orchmynnol yn hytrach na ffurf amhersonol orffennol, gw. GMW 126.

15 Siwrnai’i was Noder mai siwrne a geir ym mwyafrif y llawysgrifau. Gall mai ffurf dafodieithol ydyw (cf. ll. 93n wrthie (testunol)), neu ffurf amrywiol nas nodir yn GPC Ar Lein, ond y tebyg yw mai siwrnei a geid yn wreiddiol, a bod -i wedi ei cholli drwy gymathiad â’r rhagenw dilynol. Ceid gwall copïo, yn ôl pob tebyg, yn X4, lle collwyd was.

16 Nid rhydd ddim Dilynir X2, gthg. X1 nid rhydd ym (camrannu).

17 O daw dyn â da i’w dir Dilynir darlleniad X2, gthg. X1 Od â dyn â da o’i dir. Mae’r ddau ddarlleniad yn synhwyrol o safbwynt cyfreithiol, ond mae’n debygol fod darlleniad X1, sy’n ymwneud â dwyn gwartheg o dir Tydecho, dan ddylanwad y cwpled blaenorol o ran pwnc a geiriad (o’i dir). Ceir y darlleniad anos, mewn gwirionedd, yn X2, sy’n ymwneud â hawliau eglwys Tydecho mewn achos o dresmasu, gw. llau. 61–2n (esboniadol).

18 Y nosau golau heb gilwg Awgryma darlleniadau Llst 118 a Pen 86 mai’r llinell wythsill hon a geid yn X2, a bod David Johns wedi cwtogi’r llinell yn BL 14866 drwy hepgor heb. Bernir mai ymgais debyg a geid yn X1, lle hepgorwyd y fannod.

19 Cynon Dilynir mwyafrif y llawysgrifau, gthg. J 140 einion, LlGC 6499B cynan.

20 Iddo Arthbeibio bybyr Dilynir X2, gthg. X1 Iddo Arthbeibio’n bybyr.

21 ebedyw Noder mai ybedyw a geid yn X2 ac, o bosibl, yn X1, cf. y ffurf amrywiol obedyw yn BL 14866 a LlGC 6499B, ynghyd ag X3 abedyw, gw. GPC Ar Lein d.g. ebediw.

22 Na gobr merch, nid gwiw bwrw mwy Dilynir X2. Collwyd gwiw yn X1, a’r tebyg yw bod copïydd diweddarach wedi diwygio’r darlleniad yno er mwyn ceisio cywiro’r gynghanedd. Copïwyd y darlleniad gwreiddiol yn X3 (efallai cyn i’r llinell gael ei diwygio), a chopïwyd y darlleniad diwygiedig yn CM 21 a LlGC 6499B Neu wobr merch, nid bwrw mwy.

23 A rhydid mawr, gwaredol Roedd y llinell hon yn X4 naill ai’n amhosibl i’w darllen neu wedi ei cholli yn sgil traul ar waelod neu frig y ddalen. Gadawyd bwlch ar ei chyfer yn nhestunau BL 14866 a Llst 118.

24 Pan fu ar ei dir luoedd Dilynir X1. Mae’r ffaith fod y darlleniad cynganeddol wallus, Pan ddoeth ar ei dir luoedd, yn Llst 118 ac yn Pen 86 yn awgrymu’n gryf mai’r darlleniad hwnnw a geid yn X2. Y tebyg yw bod David Johns wedi adfer y darlleniad cywir yn BL 14866 (lle ceir fu i gwblhau’r gynghanedd lusg) ar sail ei wybodaeth ef am y gynghanedd, yn hytrach nag ar ôl gweld testun arall o’r gerdd.

25 Amcan tyn Dilynir X2. Ymddengys y ceid gwall camrannu yn nhestun X1 Amcant hyn – a hynny yn sgil codi’r testun oddi ar dafod leferydd, yn ôl pob tebyg – a bod dryswch ynghylch amcant wedi arwain at hepgor -t- yn X3, gan ddifetha’r gynghanedd.

26 wrthie Derbynnir y ffurf dafodieithol a geir yn CM 21, J 140 a Pen 86, cf. Pen 225 wrthia, LlGC 6499B ac X4 wrthiau.

27 delis Derbynnir y ffurf hynafol a geid yn X2, cf. X1 daliodd.

1 Mawddwy Cwmwd ym Meirionnydd lle ceir eglwysi wedi eu cysegru i Dydecho yn Llanymawddwy ac ym Mallwyd, gw. WATU 154. Sylwer ar y modd y cyfeiria’r rhagenw lluosog at holl drigolion Mawddwy yn ail linell y cwpled: eu hollwlad hwy.

2 Llandudoch Llandudoch ym Mhenfro, fe ymddengys, gw. ll. 9n Dogwel; gthg. Llandudech mewn testun a olygwyd gan ‘Lasynys’ (Jones 1863: 454), lle noda mai’r enw hwnnw oedd ‘enw cysefin Llan ym Mawddwy: gelwir hi eto gan yr hen bobl ar yr enw hwn. Onid yr un ydyw â Llandudoch?’ Mae’n debygol fod ‘Glasynys’ wedi codi testun y gerdd o blith ‘lluaws mawr’ o gywyddau Dafydd Llwyd a geid mewn llawysgrif a oedd ‘gan Mr. Ifan Jones, Ty’n y braich, ger llaw Dinas Mawddwy’ (ibid. 453). Nid ymddengys fod y llawysgrif honno’n hysbys, ac ni ellir dweud pa mor agos y dilynodd ‘Glasynys’ ei darlleniadau. Ni cheir y ffurf Llandudech yn yr un o’r llawysgrifau a ddefnyddiwyd i sefydlu testun y golygiad hwn, ac ni ddaethpwyd o hyd i dystiolaeth ategol o blaid y ffurf honno.

3 Dogwel Nawddsant nifer o eglwysi ym Mhenfro, yn cynnwys Llandudoch, gw. Dogwel; ll. 8n Llandudoch.

4 Tegwan Sant Nawddsant Llandegfan ym Môn, gw. Tegfan. Roedd capel a gysegrwyd i Dydecho yn gysylltiedig ag eglwys Llandegfan yn ystod yr Oesoedd Canol, gw. LBS iv, 285; Coflein d.g. Capel Tydecho.

5 Llau. 13–14 Câr o waed … / Arthur Yn ôl ‘Historia Regum Britanniae’ Sieffre o Fynwy, roedd Arthur yn frawd yng nghyfraith i Budicus, a elwir Emyr Llydaw (taid Tydecho, gw. ll. 16n) yn y fersiwn Cymraeg, gw. BD 146, 268; GMon 193–4. Am gyfieithiad arall posibl ar gyfer y cwpled hwn, gw. TWS 210 ‘Kinsman of true blood he was to Arthur, ruler, a noble was he.’

6 Llau. 15–16. Bernir mai Tydecho, sef ŵyr Emyr Llydaw drwy ei dad, Annun Ddu (TYP3 348; WCD 249–50), yw goddrych y ferf [c]arai, a bod llwyd yn ddisgrifiad o’r sant yn hytrach nag o liw’r môr, gw. GPC Ar Lein d.g. llwyd (a), (d); cf. ll. 1 gŵr llwyd ‘gŵr sanctaidd’. Fodd bynnag, nid yw’n amhosibl mai’r môr llwyd yw goddrych y ferf, gyda’r ystyr fod y môr wedi bod yn angharedig wrth y sant, cf. honiad Lewis Morris fod Tydecho wedi mynd i deithio ‘having suffered by an inundation of the sea’ (Jones 1802: 45). Tybed ai oherwydd i’r môr oresgyn ei eglwys ar lan afon Teifi yn Llandudoch yr aeth Tydecho ac eraill oddi yno? Cf. hanes y môr yn bygwth tir ac eglwys Illtud, ynghyd ag enghreifftiau niferus o sant yn adleoli ei eglwys, IlltudLM llau. 47–54n (esboniadol); Henken 1991: 107–9.

7 Teml a wnaeth yntau yma Sef eglwys Tydecho yn Llanymawddwy, gw. WATU 143. Mae’n eglur fod Dafydd Llwyd rywle ym Mawddwy pan ddatganodd ei gerdd, cf. ll. 59 nid rhwydd yma.

8 cryf ei wedd Fel y sonnir yn y nodyn testunol ar y llinell hon, gellir dehongli gwedd mewn dwy ffordd, gw. GPC Ar Lein d.g. gwedd1 ‘ymddangosiad’, gwedd2 ‘iau’. Bernir bod yr ail ystyr fyw fymryn yn amlycach yng nghyd-destun y cwpled hwn.

9 Llau. 23–4. Un a’i wely … / Ar gwr y glyn ar graig las Yn ôl Jones (1863: 454), roedd y garreg lle âi Tydecho i gysgu neu fyfyrio tua ‘dwy filltir a hanner i fyny tu hwnt i Lan ym Mawddwy … lle o’r enw Rhiw’r March … ar ben y golwg rhwng y Pennant a Llaethnant.’ Dywed ymhellach nad yw ‘gwely Sant Tydecho eto heb ei falurio gan ddwylaw creaduriaid cethin … Yn y graig y mae amryw groesau wedi eu cerfio gan ddwylaw ryw bererinion hunanymwadol … ac fel cofarwydd o’u gofwyad, dodasant y nôd Cristionogol yn “y graig las” yn dyst i’r oesoedd a ddelai eu bod hwy yn dilyn y Grog fel cyfeirlun nodedig o’r dyoddefaint a waredodd y byd o afaelion crafangawg anobaith.’ Gall mai’r un garreg ydoedd â’r garreg lle eisteddodd Maelgwn a chael ei hun yn sownd, yn ôl yr hanes yn llinellau 45–50, gw. TWS 214.

10 Maelgwn Maelgwn Gwynedd, brenin Gwynedd yn y 6g., gw. TYP3 428–32; ODNB d.g. Maelgwn Gwynedd. Bu farw tua 547/9. Fe’i darlunir yn aml yn y bucheddau fel gwrthbwynt anwar i ddwyfoldeb y seintiau, yn ôl pob tebyg yn sgil y darlun anffafriol ohono a luniodd Gildas yn ei ‘De Excidio Britanniae’ c.479–84/c.515–30.

11 Yn dewion gryfion o’r grug At y meirch yn y cwpled nesaf y cyfeirir yma. Roeddynt yn rhai praff a chryf er gwaethaf y tywydd gaeafol ar y mynydd a ddisgrifir yn y llinell flaenorol.

12 Yr ydoedd geirw’n aredig Yn ôl Jones (1863: 455), ‘Yn Nôl y Ceirw y bu hyn, yr hon sydd eto yn rhan o Eglwysdir Person Llan ym Mawddwy: saif ar lan yr afon Dyfi.’

13 Llau. 45–6. Doeth Maelgwn … / I’r graig hwnt ar garreg hon Yn ôl Jones (1863: 455), ‘y mae ol ei eisteddiad anghysurus i’w weled hyd heddyw’, ond ni nodir ym mhle’n union y mae.

14 Meilir Deil Jones (1863: 455) mai ‘Mab arall i Gwyddnaw ab Emyr Llydaw, a charenydd i’r sant’ oedd y Meilyr hwn ond, a dilyn y testun, ni raid cymryd mewn gwirionedd ei fod yn ddim mwy na gwas y sant. Ynghylch mesur maint y tir mewn siwrnai undydd, cf. yr hyn a nodir yn y cyfreithiau am hawl y sawl a gawsai loches ar dir eglwysig i adael i’w dda byw grwydro o’r tir hwnnw cyhyd ag y medrent ddychwelyd yn ôl o fewn un dydd, Jenkins 1986: 82; Pryce 1993: 193, 199–200.

15 da Mae’n sicr mai ‘gwartheg’ neu ‘dda byw’ a olygir, yn hytrach na ‘chyfoeth’, gw. GPC Ar Lein d.g. da fel enw (a); cf. GGLl 17.49 A’i dda ar fynyddoedd ŷnt ‘A’i wartheg ydynt ar fynyddoedd’.

16 Llau. 61–2. O daw dyn â da i’w dir, / Â chebyst yr achubir Cf. yr hyn a nodir yn y cyfreithiau ynghylch hawl y sawl a dyfai ŷd i feddiannu unrhyw anifail a dresmasai ar dir ei gnydau, gw. Jenkins 1986: 202–9.

17 Tegfedd Chwaer Tydecho, yn ôl y gerdd hon, a ystyrid yn santes (LBS iv, 216–17).

18 Cynon Yn ôl LBS iv, 217 (cf. WCD 603), ‘local chieftain’ anhysbys ydoedd, ond nid yw’n amhosibl fod Cynon yn ffurf ar Cynan, ac mai’r gŵr a olygir yw Cynan Garwyn, brenin Powys yn ail hanner y 6g., gw. ODNB; cf. disgrifiad Lewis Morris ohono fel ‘Prince of Powys’ yn Jones 1802: 46. Mae’r darlun o Gynon yn y gerdd hon yn sicr yn cydweddu â chyfeiriadau at Gynan Garwyn ym muchedd Ladin Cadog, lle’i darbwyllir gan y sant rhag anrheithio Morgannwg, ac ym muchedd Gymraeg Beuno, lle rhodda dir i’r sant yng Ngwyddelwern, gw. VSB2 114–17; Sims-Williams 2018, 53–4, 145.

19 Garthbeibio bybyr Plwyf yng nghwmwd Caereinion ym Mhowys lle ceir eglwys wedi ei chysegru i Dydecho, gw. WATU 73; cf. cywydd gan Lewys Môn i gymodi â gwŷr Caereinion, lle dywed iddo dderbyn pardwn gan Dydecho, GLM LXXXI.55–8. Ar dreiglo ansoddair yn feddal ar ôl enw lle, gw. TC 119–20.

20 ebedyw Gw. GPC Ar Lein d.g. ebediw ‘Taliad i arglwydd y tir neu i’r brenin ar farwolaeth deiliad’; OED Online d.g. heriot 2 (a) ‘A feudal service, originally consisting of weapons, horses, and other military equipments, restored to a lord on the death of his tenant; afterwards a render of the best live beast or dead chattel of a deceased tenant due by legal custom to the lord of whom he held’. Ymhellach, gw. llau. 81–90n.

21 cam na gorddwy Ac ystyried bod ebedyw (gw. ll. 81n) a gobr merch (ll. 84n) yn ddau daliad cyfreithiol, ymddengys y dylid ystyried [c]am a gorddwy yn yr un modd. Ar gyfer gorddwy, dilynir yr ail ystyr a nodir yn GPC Ar Lein (b) ‘Camlwrw, dirwy’, ond ni cheir ystyr debyg i [c]am ac eithrio fel ‘trosedd, bai, pechod, camwedd, anghyfiawnder …’, gw. ibid. d.g. cam2. Cynigir, felly, mai ffurf gryno ydyw ar camlwrw, gw. ibid. d.g. 1 ‘Dirwy neu fforffed, gan amlaf o dair buwch neu naw ugain ceiniog, a delid i’r brenin neu i’w swyddogion yn gosb am y troseddau lleiaf’; Jenkins 1986: 279, 322. Ymhellach, gw. llau. 81–90n.

22 gobr merch Gw. y cyfuniad yn GPC Ar Lein d.g. gobr; cf. ibid. d.g. amobr ‘Taliad i arglwydd gwraig ar gyfrif perthynas rywiol (yn y cyfreithiad Cymreig), hefyd weithiau am drais’. Diddorol nodi y gallai’r arfer bur broffidiol o dalu arian i arglwydd seciwlar pan fyddai merch a oedd yn ddeiliad iddo’n colli ei gwyryfdod (yn bennaf ar achlysur ei phriodas) arwain at lai o ferched yn byw’r bywyd diwair a hyrwyddid gan yr eglwys, gw. Cartwright 1999: 169–70. Ymhellach, gw. llau. 81–90n.

23 Llau. 87–8. Hywel … / ap Cadell Brenin a reolai Gymru gyfan ar ddiwedd ei oes (bu farw c.949/50), ond fe’i adnabyddir yn bennaf fel brenin Deheubarth ac, wrth yr enw Hywel Dda, fel un a fu’n gyfrifol am roi trefn newydd ar gyfraith y wlad, gw. ODNB d.g. Hywel Dda.

24 Llau. 81–90. Mae’r llinellau hyn, ynghyd ag adran flaenorol o’r gerdd sy’n ymwneud â chosbi troseddwyr yn effeithlon ar dir Tydecho (llau. 59–66), yn pwysleisio arwahanrwydd eglwys neu eglwysi’r sant yng ngolwg y gyfraith. Fe ymddengys mai’r hyn a ddethlir yma yw’r ffaith fod gan eglwys Tydecho rym dros daliadau a oedd yn orfodol o dan y gyfraith seciwlar, a’u bod, gan hynny, wedi eu diddymu ar dir Tydecho. Mewn rhai fersiynau o’r gyfraith a gysylltir â Gwynedd, cyfeirir at hawliau’r sawl a elwir yn ‘frenin’ mewn perthynas â thaliadau cyfreithiol ar dir eglwysig, gw. LlI 54 Ny dele un tyr bot en dyurenhyn: o byd abbattyr ef, o bydant lleygyon, dyrue a chamluru ac amober ac ebedyv a lledrat a lluyd ef a’e dele. O byd escoptyr ew a dyly llvyd a lledrat; Jenkins 1986: 101 ‘It is not right for any land to be kingless. If it is abbey land, if there are any laymen he [the King] is entitled to dirwy and camlwrw and amobr and ebediw and theft and hosting. If it is bishop’s land he is entitled to hosting and theft’ (am drafodaeth, gw. Pryce 1993: 211–15). Ac ystyried y tebygrwydd sydd rhwng y cyfeiriadau uchod at [dd]yrue a chamluru ac amober ac ebedyv a’r pedwar taliad a enwir yn y gerdd – ebediw, [c]am, gorddwy a gobr merch (gw. llau. 81n, 83n ac 84n) – y tebyg yw fod Dafydd Llwyd yn gyfarwydd â rhyw ffurf ar y gyfarwyddyd gyfreithiol a roddai’r gair olaf i’r eglwyswyr o ran y taliadau y gellid eu casglu ar dir Tydecho. Darn ategol o dystiolaeth yn y cyswllt hwn yw cyfeiriad mewn dau fersiwn Lladin o’r gyfraith at ymestyn hawl esgob Tyddewi i gynrychiolaeth gyfreithiol i benaethiaid cymunedau tri sant a gysylltir â’r gogledd, sef Beuno, Trillo a Thydecho, gw. ibid. 136. Er nad oes a wnelo’r gerdd hon â’r fraint honno’n benodol (ni wyddys, at hynny, a oedd mewn grym yn y bymthegfed ganrif), mae’n arwydd sicr o annibyniaeth eglwys Tydecho mewn materion cyfreithiol. Disgrifir y ffaith fod taliadau wedi eu heithrio ar dir y sant fel anrheg yn llinell 82 (cf. ll. 88 rhybell fu’r rhodd), sef braint a roes i [f]arwniaid Cymru fywyd gwych ac a awdurdodwyd gan y pab a Hywel Dda (arno, gw. llau. 87–8n). Mewn rhai fersiynau o’r rhagymadrodd i gyfraith Hywel a welir mewn llawysgrifau a gystylltir yn bennaf â’r gogledd (cofnodwyd y testunau cynharaf c.1400), honnir i Hywel a gosgordd o bwysigion eglwysig deithio i Rufain i dderbyn sêl bendith y Pab ar y gyfraith, gw. Owen 2000: 226–9, 246–9; cf. James 1994: 75–81. Ni ellir dilysu’r hanes hwnnw, ond gwyddys i Hywel ymweld â Rhufain (ar bererindod, yn ôl pob tebyg) yn y flwyddyn 929.

25 heb ladd Mae ail linell y cwpled hwn yn awgrymu mai’r ergyd yn y llinell gyntaf yw bod Tydecho wedi llwyddo i drechu’r fyddin cyn i’w milwyr fedru lladd neu daro neb, ond gall hefyd mai llwyddo i’w trechu’n heddychlon a wnaeth.