Dewis nodiadau:
Cyfieithiad:

23. Buchedd Martin

golygwyd gan Jenny Day

Buchedd Martin o Tours, milwr, efengylydd, abad ac esgob, a oedd yn byw yn y bedwaredd ganrif ac a ddaeth yn ddiweddarach yn un o nawddseintiau Ffrainc. Mae ei fuchedd Gymraeg yn tarddu o Vita Sancti Martini, a ysgrifennwyd gan Sulpicius Severus yn ystod bywyd Martin, ac o ddeunydd diweddarach gan Sulpicius a Gregori o Tours. Ceir y copi cynharaf yn LlGC 3026C, ac mae coloffon ar ddiwedd y fuchedd yn dweud iddi gael ei chyfieithu gan John Trevor (sef Siôn Trefor o Bentrecynfrig, ger y Waun), a’i chopïo gan Gutun Owain yn 1488.

§1

Marthin Sant1 Marthin Sant Mae Marthin yn fenthyciad cynnar o’r Lladin Martīnus, fel y dengys y newid seinegol ‘-rt-’ > ‘-rth-’. Disgwylid newid sain ‘a’ yn ‘e’ hefyd, drwy affeithiad-i, ond gallai’r a fod wedi ei chadw drwy geidwadaeth a dan ddylanwad ffynonellau Lladin ysgrifenedig. (Gw. Lewis 1943: 2, 21, 27; Jackson 1953: 570–1, 616–17.) Marthin yw enw’r sant yn rheolaidd yn y fuchedd hon, a Marthin yw e hefyd, fel arfer, yn y fuchedd fer a gedwir yn Llst 34, er ei alw’n Sant Martin ar ddechrau’r testun. Gall y sillafiad hwn (Martin) adlewyrchu dylanwad sillafiad yr enw yn y gynsail ysgrifenendig (sef pregeth Ladin, o bosibl; gw. Grosjean 1937: 346). Diau fod dylanwad y Saesneg wedi hybu ymlediad y ffurf Martin yn fwy cyffredinol yng Nghymru, ond serch hynny, ymddengys mai Marthin oedd y ffurf fwyaf cyffredin ar enw’r sant mewn testunau Cymraeg hyd at ddiwedd yr Oesoedd Canol (Day 2017: 19). Byddai’r enw lle Llanfarthin, sef y plwyf lle ysgrifennwyd y fuchedd hir, yn ôl pob tebyg, wedi helpu sicrhau statws Marthin fel enw safonol y sant yn y gogledd, a’r gogledd-ddwyrain yn arbennig (gw. y Rhagymadrodd). Yn y cyd-destun hwn mae’n ddiddorol fod y copïau cynharaf o Fuchedd Dewi yn nodi pwysigrwydd Martin fel nawddsant neu efengylydd Ffrainc (WLSD 11.11–12; BDe 18.8), ond bod y fersiynau gogleddol diweddarach yn Pen 27ii a Llst 34 yn cytuno mai Marthin yw ei enw (BDewi §23; Llst 34, 283 (ll. 27), ac ar y llawysgrifau hyn, gw. ymhellach BDewi: Llawysgrifau).
Ar Sant Martin a’i fucheddau, gweler y Rhagymadrodd, ac am gyfeiriadau eraill ato a thrafodaeth ar ei gwlt yng Nghymru’r Oesoedd Canol, gweler Day 2017.
oedd esgob a chonffesor2 conffesor Er defnyddio’r gair hwn heddiw gan fwyaf am offeiriad sy’n gwrando ar eraill yn cyffesu eu pechodau, yn gosod penyd ac yn rhoi gollyngdod, yn yr Eglwys gynnar fe’i defnyddid am un a ddioddefai o ganlyniad i gyffesu ei ffydd ei hunan (ond nid i’r fath raddau fel y gâi ei ferthyru); yn ddiweddarach fe’i defnyddid mewn ystyr ehangach i gyfeirio at ddyn a ystyrid yn arbennig o sanctaidd (gw. GPC Ar Lein d.g. conffesor; ODCC 398). i Grist ac a hanoedd o Sabaria,3 Sabaria Roedd Sabaria neu Savaria yn brif ddinas Pannonia Prima (OCD 1075, a gw. n. 4 isod); datblygodd dinas Szombathely ar yr un safle, yn Hungary heddiw. vn o ddinessydd gwlad Panonia,4 Panonia Roedd Pannonia yn dalaith Rufeinig a sefydlwyd yn OC 9 i’r de-orllewin o afon Donwy (Danube). Yn sgil meddiannu Dacia yn OC 106 fe’i rhannwyd yn ddwy dalaith, Pannonia Superior yn y gorllewin a Pannonia Inferior yn y dwyrain. Rhannwyd y ddwy eto yn ystod teyrnasiad yr Ymerawdwr Diocletian, ac enwid rhan ogleddol Pannonia Superior yn Pannonia Prima; ym mhrif ddinas y rhanbarth hwn y ganwyd Martin. Ymddengys y daeth bodolaeth Pannonia fel talaith i ben yn 405, pan ffôdd llawer o Rufeiniaid yn sgil cyrchoedd Radagaisus a’r Ostrogothiaid (OCD 1075). ac yn yr Eidal Tisin⁠5 yn yr Eidal Tisin Roedd Ticinum, sef Pavia heddiw, yn ddinas yng ngogledd yr Eidal (OCD 1480). Cymharer SSVM §2(1) intra Italiam Ticini ‘within Italy, in Pavia.’ Ymddengys fod y cyfieithydd Siôn Trefor wedi trin y ddau enw priod fel pe baent yn un enw lle. i magwyd ef. A’i rieni ef, hagen, yr yw6 yw Ar yw, ffurf ar y rhagenw meddiannol blaen trydydd person lluosog; gweler GMW 53; PKM 235; am achosion eraill yn y fuchedd hon, gweler §5 heb yw noethi e hvn; §19 rhac yw pelled i wrtho; §36 yn yw dywedud. Fodd bynnag, y ffurf ev a geir fel arfer yn y testun (e.e. §3 i roddi ev llw a’i henwav i vod yn varchogion yn lle ev tadav; §5 a vv well ev synnwyr), ac mae yw (y’w yn y testun golygedig) yn aml yn cynrychioli’r arddodiad i + y rhagenw meddiannol mewnol trydydd unigol neu luosog (e.e. §5 Dim nid oedd y’w roddi; §8 Ac ef a roddes roddion y’w varchogion). bod yn beganiaid annffyddlon yr oeddynt yn anrrydeddus o vrddas bydol, canis i dad yn gyntaf a vv varchoc vrddol vrddassol, a gwedy hynny yn gapten ar varchogion. Yntav Marthin yn i ievengtid a ymarverodd o ddwyn arvav dan Gonstans7 Constans SSVM §2(2) Constantio. Sef yr Ymerawdwr Constantius II, trydydd mab Custennin Fawr (Constantine I). Fe’i penodwyd yn Gesar pan oedd yn saith mlwydd oed, yn 324, a daeth yn Awgwstws yn y dwyrain ar ôl marwolaeth ei dad yn 337. Bu farw yn 361 ar ei ffordd i ateb her Iwlian (OCD 366, ac ar Iwlian, gw. n. 9 isod). amerod8 amerod Gweler GPC Ar Lein d.g. amherawdr, amerawdwr, lle dyfynnir enghreifftiau o ffurf debyg (amherod) o 1672 a 1762. Rhuvain, ac wedy hynny dan Sulianvs Sissar;9 Sulianvs Sissar SSVM §2(2) Iuliano Caesare. Ganwyd yr Ymerawdwr Iwlian (‘y Gwrthgiliwr’) yn 331, yn fab i hanner brawd Custennin Fawr (Constantine I), sef Julius Constantius. Fe’i rhoddwyd yng ngofal esgob Ariaidd yn dilyn marwolaeth ei dad (ar Ariaeth, gw. n. 44), ond troes at baganiaeth yn ddiweddarach. Gwnaethpwyd Iwlian yn Gesar dros Brydain a Gâl gan ei gefnder, yr Ymerawdwr Constantius II (gw. n. 7) yn 355. Bu anghydfod rhwng y ddau yn 360, pan fynnodd milwyr Iwlian roi iddo’r teitl Awgwstws, ond pan fu farw Constantius II yn 361 fe’i holynwyd gan Iwlian, a hynny’n ddi-wrthwynebiad. Bu farw Iwlian yn 363 ar ôl cael ei glwyfo mewn brwydr (OCD 778).Cyfeiria’r fuchedd at Iwlian eto wrth ddisgrifio sut y gadawodd Martin y fyddin (§8). Yn y darn hwn defnyddir sillafiad tebyg, Sulianvs Sisar, deirgwaith a cheir dau achos o’r ffurf gywasgedig Sulivsisar. nid o’i vodd, kanis o’i vabolaeth rhybucho gwasanaethv Duw yr oedd.

§2

A phann oedd ddec blwydd o oedran ef a aeth y’r eglwys o anvodd i rieni i geisio bedydd. Ac yn anrhyvedd yr awr honno ef a droes i veddwl mewn gweithredoedd Duw yn gymin a chwynychv ohono vyned y’r diffaith i benydio i gorff yn i ddevddengmlwydd. Ac ef a wnaeth ar hynny eddvned ddigon kadarn, pe i oedran nis llesteiriai. Eisioes yn i vabolaeth veddwl yr oedd a’i vryd ar vynachlogoedd ac eglwysi, yr hynn a gwplaodd yn ddwyvol gwedy hynny.

§3

A phann ddoeth gorchy[my]n1 gorchy[my]n LlGC 3026C gorch:, ac ynvn ar ddechrau’r llinell nesaf. Gallai’r n gyntaf fod yn ffrwyth achub y blaen ar yr n ar ddiwedd y gair (cf. §29 kystynogion am kristynogion), neu efallai fod problem wrth gyfrif minimau (cf. yr achosion a nodir yn n. 42 (testunol)). Ni nodir ffurf debyg yn amrywiad yn GPC Ar Lein d.g. gorchymyn1 (na gorchymyn2) a sillafiad arferol yr enw a’r berfenw, gorchymyn, a geir mewn chwe man arall yn y fuchedd (§14, §40, §43, §44 (ddwywaith), §48; cf. hefyd [g]or[c]hymyn yn §38 (LlGC 3026C orthymyn)). Yn y copi diweddarach yn BL Add 14967 (129v, col. 1 (llau. 31–2)) ceir gorchym/vn, a’r ysgrifydd wedi cywiro’n rhannol y darlleniad a welodd yn LlGC 3026C, mae’n debyg. i wrth y brenhinoedd i bawb o veibion yr hen varchog-vrddolion10 marchog-vrddolion Disgwylid marchogion vrddol(ion), ond rhoddwyd y terfyniad lluosog ar yr ansoddair yn unig fel pe bai yma un gair yn hytrach na dau, ac nid oes gofod rhyngddynt yn nhestun Gutun Owain (nac yn BL Add 14967, 129r, col. 1 (llau. 33–4)). ddyvod i roddi ev llw a’i henwav i vod yn varchogion yn lle ev tadav (a thrwy gyhudd i dad ef oedd hynny, yr hwnn oedd yn kenvigennv wrth weithredoedd da Marthin), i vab yna a ddalpwyd11 (a thrwy gyhudd i dad ef oedd hynny, yr hwnn oedd yn kenvigennv wrth weithredoedd da Marthin), i vab yna a ddalpwyd Gallai’r colon a welir cyn y gair Marthin yn LlGC 3026C awgrymu bod yr ysgrifydd Gutun Owain yn ystyried bod cymal neu frawddeg newydd yn dechrau yma, o bosibl. Fodd bynnag, ni ellir cael synnwyr o’r darn yn ei gyfanrwydd o atalnodi fel hyn, er bod y darn sy’n dechrau Marthin i fab yn rhoi ystyr dderbyniol ar ei ben ei hun os anwybyddir y geiriau sy’n ei ragflaenu (cymharer n. 40). Mae strwythur y testun yn eithaf troellog yma, gan adlewyrchu strwythur y darn cyfatebol yn y Vita (SSVM §2(5)), ac ni fyddai’n syndod pe bai hyn yn peri dryswch i’r ysgrifydd. yn bymthengmlwydd o oedran a thrwy garchar mewn heyrn ef a gymhellwyd i vod yn varchoc vrddol. A bodlon vv ef ar vn gwasanaethwr, ac i hwnnw yn y gorthwyneb i gwnai y meistr y gwasanaeth, yn gymin ac i tynnai i am i draed a sychv i esgidiav. A’r vnrhyw vwyd a lewynt.

§4

Tair blynedd agos kynn i vedyddio y bu yn ymddwyn arvav. Yr hynny, yr oedd ef yn lan o’r beiav, y rhai y byddai i genedl12 i genedl Cymharer SSVM §2(6) illud hominum genus ‘men of that sort’, yn cyfeirio at filwyr fel dosbarth. Nid yw’r ystyr mor eglur yn y testun Cymraeg, lle gallai i genedl ddynodi naill ai cyd-filwyr Martin, ei gyd-wladwyr neu ei dylwyth (gw. GPC Ar Lein d.g. cenedl). yn ymarver ohonvnt. Mawr oedd i gariad a’i ddaioni ymysc i gyd-varchogion; anwydus13 anwydus Gweler GPC Ar Lein d.g. anwydus3, lle dyfynnir hon yn unig enghraifft o’r gair gan ei darddu o’r rhagddodiad negyddol an-1 + gwydus; rhoddir y diffiniad petrus ‘?Amyneddgar’, a hynny ar sail SSVM §2(7) patientia, mae’n debyg. Fodd bynnag, am mai ystyr gwydus yn ôl GPC Ar Lein yw ‘Pechadurus, drwg, llygredig’, gallai anwydus fod wedi ei ddeall mewn ystyr debycach i ‘amhechadurus’ neu ‘ddaionus’. ac vvydd oedd yn rhagorol rhac neb, val y tybygid i vod ef yn vynach yn gynt noc yn varchoc vrddol. Ac ar y pethav hynn ef a dynodd atto gariad i gyd-varchogion hyd pann wnent i vrddassu ef yn anrhyvedd. Ac yr nad oedd ef wedy’r14 wedy’r Sef wedy + y geiryn rhagferfol yr (ffurf ar rhy); gweler GPC Ar Lein d.g. yr3. Ar ddefnydd yr o flaen berfenw, gan hepgor y rhagenw sy’n dynodi’r ‘gwrthrych’, a’r geiryn ei hun yn achosi treiglad meddal, gw. GMW 169. vedyddio ef a wnai weithredoedd da val dyn bedyddiol, nid amgen kynorthwyo lluddedigion, helpio rhevdusion, porthi newynoc a dilladv noethion heb gadw dim o’i gyfloc iddo e hvn15 e hvn Fel arfer yn y testun, cynrychiolir y rhagenwau meddiannol trydydd person gan i (unigol, ‘ei’) ac ev (lluosog, ‘eu’), ond defnyddir e i gynrychioli’r naill neu’r llall o flaen y rhagenwau hvn a hvnain, gan amlaf. Mae 12 achos o e yn y cyd-destun hwn (e hvn yn §4, §5, §10, §12, §29 (ddwywaith), §35, §36, §39, §40 a §44, ac e hvnain yn §23), a dau achos yn unig o i (sef i hvn, yn §23 a §48). Mae’n debygol fod hyn yn adlewyrchu’r acen gref sydd ar hvn(-) yn yr iaith lafar. Ceir dau achos o ehvn, yn un gair, yn y testun (§31, §37); cf. y ffurfiau ehun, ehunain a nodir yn GPC Ar Lein d.g. hun2 a hunan. eithr i vywyd dyniol. Nid gwrandawr byddar oedd ar yr evengil, heb goffav drannoeth yr hynn a glowsai, namyn koffav pob peth a wnai ef a’i kadw yn i gof.

§5

Ac val yr oedd ef ynghanol y gaiaf ar ddrykin mawr yn dyvod i ddinas Amias,16 dinas Amias Sef dinas Amiens, yng ngogledd Ffrainc (cf. SSVM §3(1) Ambianensium civitatis). Codwyd oratori ger un o byrth Amiens i goffáu caredigrwydd Martin (Farmer 1991: 14; Van Dam 1993: 215 (Libri de virtutibus sancti Martini episcopi, I.17)); gweler ymhellach n. 17. heb ddim amdano eithyr mantell17 mantell Ystyrid ‘mantell Martin’ yn grair pwysig. Daeth i feddiant y brenhinoedd Merofingaidd erbyn diwedd y seithfed ganrif a phasiodd i’r rhai Carolingaidd ar eu hôl; byddid yn tyngu llwon arni a chredid ei bod yn amddiffyn y brenhinoedd mewn brwydr (Farmer 1991: 26, 30; Van Dam 1993: 26–7 ac ibid. n75). O ‘fantell fach’ (capella) Martin y tarddodd, yn y pen draw, yr enw Cymraeg capel a’r geiriau cyfatebol mewn ieithoedd Ewropeaidd eraill (Jones 1992: 100; Farmer 1991: 26). Daeth gweithred hael Martin, yn rhoi hanner ei fantell i gardotyn, yn rhan bwysig o’i eiconograffi, gan gael ei darlunio, er enghraifft, mewn nifer o furluniau canoloesol yn Lloegr, a’r cynharaf yn Wareham, Dorset (Rouse 1991: 48, 50; Rosewell 2008: 69). Cyfeirir ati mewn cerdd gan Huw ap Dafydd hefyd, wrth ganmol Siôn Trefor o Wigynt (ŵyr i’r Siôn Trefor a gyfieithodd y fuchedd): Mur a thangadwyn, Marthin godiad, / ’Mryd ei ddull am roi dy ddillad (GHD 27.53–4). ar vchaf i arvav,18 arvav Gall yr enw lluosog arfau olygu naill ai ‘arfau (ymosodol)’ neu ‘arfwisg’ (GPC Ar Lein d.g. arf 1(a) a (b); tebyg yw amrediad ystyron y gair Lladin cyfatebol, arma, gweler LD s.v. arma A.1. ‘What is fitted to the body for its protection’ a B. ‘Implements of war, arms’). Defnyddir y gair arvav ddwywaith yn yr adran hon o’r fuchedd. Efallai fod yr achos cyntaf yn cwmpasu’r ddwy ystyr, ond ymddengys ‘arfwisg’ yn fwy addas ar gyfer yr ail, lle cyfeirir at arvav Martin yn cael eu hamddiffyn (cadw) gan ei fantell. ef a weles wr tlawd noeth19 noeth ‘Gwael ei wisg’ yn hytrach na ‘heb ddillad’, yn ôl pob tebyg (gw. GPC Ar Lein d.g. noeth). Yn yr un modd, gall y gair cyfatebol yn y testun Lladin, nudus (SSVM §3(1) nudum), olygu ‘tlawd’ yn ogystal â ‘heb ddillad’ (LD s.v. nudus; cf. DMLBS). yn govyn kardod, a phawb yn myned i heibio20 a phawb yn myned i heibio Mae i o flaen heibio yn annisgwyl; ai’r rhagenw meddiannol trydydd person unigol yw hwn (‘ei’, heddiw)? Ond ni chyfeirir at y gystrawen hon yn GPC Ar Lein d.g. heibio; yn hytrach, disgwylid heibio iddaw. Mae’n bosibl, fodd bynnag, fod yr i yn ffrwyth camgopïo ac y dylid ei anwybyddu. Ceir synnwyr derbyniol hebddo. heb roddi dim iddo. Marthin a veddyliodd, val yr oedd ef yn gyflawn o ras Duw, pan yw kadw hwnn yr oeddid iddo vo i roddi kardod iddo, gann vod pawb yn myned heibio heb roddi dim. Ac ni wyddiad yntav pa wnai. Dim nid oedd y’w roddi eithyr y vantell oedd yn cadw i arvav,21 y vantell oedd yn cadw i arvav Mae’n debygol fod arvav yn dynodi arfwisg yma (gw. n. 18). Os oedd gan Siôn Trefor arfwisg fetel mewn golwg, efallai ei fod yn meddwl am y fantell yn ei hamddiffyn rhag cael ei difrodi gan y tywydd, a’r glaw a’r eira yn arbennig; cf. ar ddrykin mawr ‘mewn tywydd gwael iawn’, ar ddechrau’r adran hon. Yn y darn cyfatebol o’r Vita cyfeirir at fantell Martin yn unig: nihil praeter chlamydem qua indutus erat habebat ‘He had nothing but the cloak with which he was clad’ (SSVM §3(2)). Mae’n debygol fod y chlamys hon yn fantell filwrol a’i bod yn rhan o ‘wisg filwrol seml’ (simplex militiae vestis) Martin, sef y wisg y cyfeirir ati ynghyd â’i arfogaeth (arma) ar ddechrau’r rhan hon o’r Vita: cum iam nihil praeter arma et simplicem militiae vestem haberet (SSVM §3(1)). Mae’r darn cyfatebol o’r fuchedd Gymraeg yn nodi yn yr un modd mai’r rhain oedd unig ddillad Martin ond, yn wahanol i’r Vita, cyfeirir yn benodol at y ffaith fod y fantell yn cael ei gwisgo dros (ar uchaf) yr arfwisg: heb ddim amdano eithyr mantell ar vchaf i arvav. Ceir yr un manylyn yn y fersiwn cryno o fuchedd Martin yn Llst 34 (321, llau. 18–20), er bod y geiriad yn wahanol: ac nid oeḍ dim am Varthin ar y arfeü namyn manteḷ. kanys y kwbyl ond hynny a roddasai yn alusenav. Ef a dynnodd i gleddyf ac a rannodd y vantell rhyngtho ef a’r tlawd, ac yntav a wisgodd i hanner hi amdano. A llawer ar a22 ar a Ar y gystrawen, gweler GMW 70; GPC Ar Lein d.g. ar2, a cf. isod §18 A phawb ar a oedd yno a’i klywynt ef; §42 a phawb ar a’i darlleo yn anffyddlon a becha. welsant hynny a’i gwatwarasant ef am ddryked llvn i drwsiad; eraill, a vv well ev synnwyr a’i kydwybod, a vv drist ganthvnt nad yntwy a wnaethoedd y gardod honno, ac wynt a digon ganthvnt o ddilladav y’w rhoddi y’r tlawd heb yw noethi e hvn.

§6

A’r nos honno ef a welai Varthin drwy i hvn yr Arglwydd Iessu Grist wedy wisgo23 wedy wisgo (Cf. BL Add 14967, 129v, col. 1 (ll. 15) gwedi wisgo.) Fel arfer nid yw (g)wedy yn achosi treiglad i ferfenw sy’n ei ddilyn; gweler TC 162–3, a cf., e.e., §9 A gwedy gado i vilyriaeth. Mae’n bosibl fod y geiryn rhagferfol y(r), ffurf ar rhy (gw. GPC Ar Lein d.g. yr3; GMW 169, a n. 14 uchod), yn dilyn wedy yn y gynsail a’i fod wedi ei hepgor drwy amryfusedd. Posibilrwydd arall yw bod wedy yn gywasgiad o wedy a’r rhagenw meddiannol trydydd person unigol gwrywaidd y neu i (cf. §18 gwedy gladdu a’r achosion eraill a nodir yn n. 67). Os yw’r awgrym olaf hwn yn gywir, mae’n rhaid tybio bod drysu wedi digwydd o ran y gystrawen, am nad oes angen rhagenw meddiannol yn y cymal fel y mae (ef a welai Varthin … yr Arglwydd Iessu Grist wedy wisgo dryll y vantell … amdano ef). Efallai fod y copïydd Gutun Owain wedi disgwyl mai wedy(’i) wisgo yn nryll y vantell fyddai’r gystrawen ac wedi dechrau ysgrifennu hyn cyn dychwelyd at ddarlleniad y gynsail, heb fynd yn ôl i gywiro’r camgymeriad. dryll y vantell a roddasai Varthin y’r tlawd amdano ef, ac ef a’i klywai yn erchi iddo edrych yn hysbys y wisc a roddasai. A heb ohir ef a glywai yr Arglwydd yn dywedud wrth aneirif o engylion a oeddynt yn sevyll gar i law ef, ‘Marthin, y gwr sydd heb vedyddio etto, a’m trwsiodd i o’r wisc honn’, kanis yr Arglwydd oedd gof gantho y geiriav a ddywedasei yn yr evengyl: ‘Pann wneloch les y’r lleiaf o’r mav vi, i mi y gwnaethoch.’24 Pann wneloch les y’r lleiaf o’r mav vi, i mi y gwnaethoch.’ Cf. Mathew 25.40 ‘ … “yn gymaint ag ichwi ei wneud i un o’r lleiaf o’r rhain, fy mrodyr, i mi y gwnaethoch.” ’ Ac i gadarnhav tystiolaeth o weithred gystal a hi, y bu wiw gan yr Arglwydd ymddanngos yn yr vnrhyw wisc a roddasai Varthin y’r tlawd. Pann weles Marthin y weledigaeth honn nid balchav a oruc mewn llywenydd dyniol namyn kyvadnabod daioni Duw yn i weithredoedd.

§7

A phann oedd ef ddwyvlwydd ar hugain25 dwyvlwydd ar hugain Gwrthgyferbynner SSVM §3(5) duodeviginti ‘deunaw’. Er bod Fontaine (1967–9: 500) o blaid derbyn deunaw yn oedran cywir Martin adeg ei fedyddio, noda fod rhywfaint o anghytuneb yn nhraddodiad llawysgrifol y fuchedd Ladin a bod y ddau oedran, deunaw a dwy ar hugain, yn cael eu crybwyll mewn gwahanol lawysgrifau (gw. yr aparatws, ibid. 258). Gall, felly, fod Siôn Trefor yn dilyn ei ffynhonnell yma. Ar y llaw arall, wrth gyfieithu’r testun i’r Gymraeg byddai’n hawdd camddehongli duodeviginti yn dwyvlwydd ar hugain drwy dybio bod y ddwy flynedd yn cael eu hychwanegu at ugain yn hytrach na’u tynnu. o oedran y bedyddiwd2 bedyddiwd LlGC 3026C bedyddiwd; BL Add 14967, 129v, col. 1 (ll. 38) bedyddwyd. Cedwir darlleniad y llawysgrif hynaf am ei bod yn bosibl fod y terfyniad -wd yma yn amrywiad (llafar?) ar -wyd (Rodway 2013: 142–4). Fodd bynnag, gall fod y copïydd wedi hepgor yr y oherwydd diffyg lle neu ddiffyg canolbwyntio wrth agosáu at ddiwedd y llinell. ef. Ac yr hynny nid adewis ef i vilyriaeth yr awr honno yr mwyn i gapten, yr hwnn yr oedd gydymddeithas vawr y rhyngo26 y rhyngo Ffurf ansafonol neu wallus ar yr arddodiad trydydd unigol gwrywaidd y-ryngthaw neu rhyngddo; ni nodir ffurf debyg yn GMW 59 nac yn GPC Ar Lein d.g. rhwng. Y ffurf rhyngtho a geir mewn mannau eraill yn y testun (§§5, 19, 20, 38). ac ef. Eithr pann ddarffai27 darffai Sef ffurf trydydd unigol amherffaith dibynnol y ferf darfod; gweler GMW 146. ysbaid i gapteniaeth, Marthin a eddewis ymado a’r byd. Ac velly i bu ef agos i ddwy vlynedd wedy i vedyddio yn dwyn henw marchoc.28 yn dwyn henw marchoc Yn y Vita ceir mynegiad eglurach o ddwyster troëdigaeth Martin. Esbonnir ei fod yn filwr mewn enw yn unig, solo licet nomine (SSVM §3(5)) ar ôl iddo gael ei fedyddio.

§8

Ac yn hynny o amser y doeth i Ffraingk genedlaethav dieithr i ryvelu, ac yna kynnvll a oruc y Sulianvs Sisar hwnw lu mawr yn ninas Vangion.29 dinas Vangion SSVM §4(1) Vangionum civitatem. Roedd y Vangiones yn llwyth yr oedd eu tiriogaeth wedi ei lleoli i’r gorllewin o ran uchaf afon Rhein; defnyddid eu henw wrth gyfeirio at eu prif ddinas hefyd, sef Worms (SSVM 165). Ac ef a roddes roddion y’w varchogion, val yr oedd ddevod, a galw pawb yno olynol oni ddoethpwyd ar Varthin. Yna y gweles yntav ar i vryd amser kymesurol i gael i ryddhav o’i vilyriaeth. Ac ef a veddyliodd nad oedd deilwng iddo gymryd rhodd onid ymladdai, ac yna y dyvod30 dyvod Defnyddir y sillafiad hwn yn rheolaidd yn y testun ar gyfer ffurf trydydd unigol gorffennol y ferf dywedud, yn ogystal ag ar gyfer y berfenw dyfod (‘dod’); cf. BDewi n. 10. wrth Sulianvs Sisar, ‘Mi a ryvelais gyd a thi; goddef ym bellach ryvelu gyd a Duw, a rhoddion kymered y neb a ymladdo.’ A Sulivsisar31 Sulivsisar Ffurf gywasgedig ar yr enw Sulianvs Sissar (gw. n. 9). a gyffroes yn vawr gan y geiriav hynn, ac a ddyvod wrth Varthin nad oblegid krevydd a dwyvolder yr oedd ef yn hynny32 yn hynny Deellir hynny yn gyfeiriad at y bwriad y mae Martin newydd ei fynegi. Nid yw’r cyfieithiad Saesneg a gynigir, ‘thus resolved’, ymhlith yr ystyron a roddir ar gyfer y cyfuniad yn hynny yn GPC Ar Lein d.g. yn1, ond cf. ibid. (iii) ‘thus engaged’. namyn rhac ofn myned y’r vatel a vyddai dranoeth. Ac yna i dyvod Marthin wrtho yn ddwys, ‘Diofnoc oblegid llyfrder wyf vi. Ac od wyt ti yn tybio vy mod i yn llwfr, evory mi a safaf rhwng y ddav lu heb arvav y’m kylch, yn enw yr Arglwydd Iessu Grist, heb darian ond arwydd y groc. A mi a af drwy yr holl elynion yn ddiargyhoedd.’33 diargyhoedd Fe’i deellir yn amrywiad ar diargywedd ‘dianaf, heb dderbyn niwed, diglwyf’ gan ddilyn BSM 4n13, sy’n ei gymharu â securus (SSVM §4(5)), a GPC Ar Lein d.g. diargywedd. Fodd bynnag, byddai’r ystyron a roddir ar gyfer diargyhoedd1 yn GPC Ar Lein, megis ‘di-fai’, ‘digerydd’ a ‘dihalog’, yn ddigon addas yn y cyd-destun ac mae’n bosibl fod rhai o’r gynulleidfa yn deall y gair mewn ystyr debyg. Ac yna y gorchmynnodd Sulianvs Sisar garcharv Marthin oni gwplai a ddywedasai. A thrannoeth yr anvones y gelynion at Sulivsisar i geisio heddwch ac i ymroddi iddo. A phwy a veddyliai na bai y gorvoledd hwnn yr mwyn y gwr bendigedic a eddowsai vyned heb arvav y mysc y llu? Ac yr gallu o Dduw gadw i wasanaethwr rhac kleddyvav a dartiav, rhag kael o eraill ev marvolaeth yr ystopies34 ystopies Yn ôl GPC Ar Lein d.g. stopiaf: stopio, &c., hon yw’r enghraifft gynharaf o’r gair benthyg hwn, o’r Saesneg Canol (to) stop(pe). Duw y rhyvel. Ac ni vynnodd Duw roddi amgen varvolaeth y dros i varchoc ef, ond gorvod ar y gelynion heb golli dim gwaed.

§9

A gwedy gado i vilyriaeth, ef aeth Marthin at Ilar Sant,35 Ilar Sant Sef Sant Hilarius (SSVM §5(1) sanctum Hilarium) neu Sant Hilary o Poitiers (c.315–67/8). Fel Martin, nid oedd wedi ei fagu’n Gristion ond troes at y ffydd; fe’i hetholwyd yn esgob Poitiers c.350 a daeth yn un o wrthwynebwyr amlycaf Ariaeth (ODCC 774, a gw. isod, §12 a n. 44). Mae’n debygol mai’r un ydyw â’r Ilar Sant y cysegrwyd eglwys iddo yn Llanilar yng Ngheredigion, ac a grybwyllir nifer o weithiau gan y beirdd (gw. GGLl 6.52n). esgob Putanesis,36 esgob Putanesis SSVM §5(1) Pictavae episcopum civitatis ‘bishop of Poitiers’. Roedd Poitiers yn brifddinas Rufeinig Poitou, sef tiriogaeth y Pictones, ac yn ddiweddarach daeth yn ganolfan yr esgobaeth a gynhwysai’r rhanbarth hwn (ODMA s.n. Poitiers and Poitou). Daeth Poitou yn enwog am ei winoedd ac fe’i crybwyllir yn y cyd-destun hwn mewn barddoniaeth Gymraeg o gyfnod Siôn Trefor, e.e. GG.net 4.37–8 Cwrw iach o frig ceirch y fro / Yw’n Powtwn, fal gwin Paitio (gw. hefyd GPC Ar Lein d.g. gwin… gwin Poetio).Gelwir Poitiers yn Putayn yn §48; felly, hwyrach y dylid darllen Putane[n]sis am Putanesis (cf. BSM 5.11), a’r terfyniad Lladin -ensis yn newid enw lle (Puta(y)n) yn ansoddair ac iddo’r ystyr ‘yn dod o Poitiers, yn perthyn i Poitiers’. Noder hefyd fod pobl y rhanbarth hwn yn cael eu galw’n Pataniaid neu’n Pictaniaid yn §§48–9 (gw. n. 153). Ymddengys y gallai rhai o’r enwau hyn (Putayn, Putanesis, Pataniaid) ddangos dylanwad yr enwau Poitiers neu Poitou (cymharer Paitio yng ngherdd Guto’r Glyn, a ddyfynnir uchod), neu, o bosibl, yr enw Ffrangeg Poitevin ‘brodor o Poitiers neu Poitou’ a fenthyciwyd i’r Saesneg erbyn 1483 (gw. OED Online s.v. Poitevin). ac yno i trigodd ennyd. A’r vn Ilar hwnnw a geisiodd i rwymo ef yno val y gallai drigo gyd ac ef yno i wasanaethv Duw. Ef a ddamvnodd arno vod yn ddiagon, a37 a Am a(c) ‘gyda grym cyferbyniol’, fel y gellid cyfieithu’n ‘but, yet, although’ yn hytrach nag ‘and’, gweler GMW 231; GPC Ar Lein d.g. a5 , ac. Cf., e.e., §9 Ef a ddamvnodd arno vod yn ddiagon, a Marthin a ymesgusodes nad oedd ef deilwng yr radd honno; §16 y keisiwyd y gan Varthin vyned yn esgob Turwyn, ac ni ddevai ef o’i vodd; §18 A phawb ar a oedd yno a’i klywynt ef yn dywedud, ac ni welynt ddim ohono. Marthin a ymesgusodes nad oedd ef deilwng yr radd honno ac ni vynnodd namyn i wnevthur yn ysgolhaic dwfr swyn.38 ysgolhaic dwfr swyn SSVM §5(2) exorcistam. Roedd ‘exorcist’ yn ail ymhlith yr urddau lleiaf, er nad oedd ‘exorcism’, sef bwrw allan ysbrydion drwg, yn gyfyngedig i unrhyw urdd benodol (ODCC 592 s.v. exorcist). Defnyddid dŵr swyn, sef dŵr a oedd wedi cael ei fendithio, yn rhan o’r ddefod. Roedd ‘exorcism’ yn rhan o’r paratoadau arferol ar gyfer bedyddio yn ogystal â chael ei ddefnyddio i roi gwaredigaeth i’r sawl y credid eu bod wedi eu meddiannu (ibid. s.v. exorcism). Yn achos Martin roedd y swyddogaeth hon yn arbennig o addas, a’i fuchedd yn nodi bod nifer fawr o bobl wedi eu bedyddio ganddo ef neu o’i achos ef (gw. §14, §25 ac yn enwedig §29) ac yn cynnwys nifer o ddisgrifiadau ohono’n bwrw allan gythreuliaid (§§25–7; cf. hefyd §43). Gweler hefyd y cyfeiriadau yn §§11, 36–9, 45 ac §50 at ei allu i ganfod cythreuliaid a’r Diafol ac i’w gwrthsefyll; a gweler ymhellach Stancliffe 1983: 154, 345; Brown 1981: 106–13. A’r ordr honno nis gwrthodes, rhac gwybod i vod yn i distyrv achos i bod yn is no’r llall.

§10

Ac ychydic o amser wedy hynny, ef a erchid iddo drwy i hvn vyned i ymwel39 ymwel Fe’i nodir yn amrywiad ar y berfenw ymweled, ymweld yn GPC Ar Lein. Un o’r ffurfiau mwy arferol, ymweled, a geir yn ddiweddarach yn y fuchedd (§40). a’i wlad ac a’i dad a’i vam, y rhai a oeddynt beganiaid anffyddlon. Ac velly, drwy ganiad Ilar Sant, yr hwnn oedd dan wylo yn ervyn iddo vrysio drychefn adref yno, Marthin40 Marthin Mae’r M fawr, addurnedig yn rhoi’r argraff fod y gair hwn, sy’n dechrau tudalen newydd, yn dechrau adran newydd bwysig o’r fuchedd hefyd, er ei fod yng nghanol brawddeg. Fodd bynnag, pe bai rhywun yn dechrau darllen yma heb edrych ar y tudalen blaenorol ceid synnwyr derbyniol (cf. n. 11), ac ni fyddai’n amhriodol dechrau adran newydd gyda Martin yn cychwyn ar ei deithiau. a gymerth i siwrnei drwy dristwch a thrymder, ac ef a dystiolaethodd wrth i vrodyr y kaffai ef lawer o vlinder a gwrthnebedd yn y bererindod honno, yr hynn a vv brovedig gwedy hynny. Yn gyntaf, rhwng yr Alpes⁠41 yr Alpes Sef yr Alpau, cadwyn o fynyddoedd i’r gogledd o benrhyn yr Eidal. Defnyddiodd Siôn Trefor yr un enw ag sydd yn y testun Lladin (SSVM §5(4) Alpes; cf. yr achosion yn ‘Delw y Byd’, DB 24.1, 28.7) yn hytrach na’r enw brodorol Mynydd Mynnau (arno, gw. Williams 1956–8). ac yno ef aeth ar gyfeiliorn. A lladron a’i daliasant ef ac vn onaddvnt a geisiodd i daro ef ar i benn a bwyall; arvev y lleidr arall a erbyniodd y dyrnod. A hwynt a rwymasant i ddwylo darch i gefn42 darch i gefn Ffurf ar trachefn gyda’r ddwy elfen ar wahân a’r rhagenw blaen trydydd unigol gwrywaidd rhyngddynt; gweler GMW 210 a’r amrywiadau trachgefn, trach cefn … drach cefn yn GPC Ar Lein d.g. trachefn. Er na nodir yn GPC Ar Lein (na GMW 210) unrhyw ffurf yn dechrau â tarch- neu darch-, mae’n well ystyried darch i gefn yn amrywiad yn hytrach nag yn wall. Ceir achosion eraill o drawsosod llafariad ac r, e.e. dyrchafaf / drychafaf, dyrchafiad / drychafiad (GPC Ar Lein, d.g.), ac mae nifer o achosion o darchefn mewn testunau eraill o’r bymthegfed ganrif ymlaen; gweler, e.e., Pen 33, 75 (llau. 12–13) o iaỽnder nẏt ẏmhoelant darchefẏn (c.1400–c.1450, dyfynnir o RhyddGym 1300–1425), Pen 163 ii, 55 (ll. 16) A duw a ddichin i drychaf hwynt darchefn (1543, dyfynnir o Willis a Mittendorf 2004); Smyth 1611: 65 yn r’un moḍ y mae ef ḍarchefn. Gwrthgyferbynner drach i gefn yn y copi diweddarach o’r fuchedd yn BL Add 14967 (130r, col. 2 (ll. 7)). ac a’i rhoddant y’w gadw att vn onaddvnt. A phann aeth hwnnw ac ef ymhell oddyno, govyn a oruc pwy oedd. ‘Marthin,’ heb ef, ‘wyf, a Christion wyf vi.’ ‘A oes arnad ti ofn?’ heb y lleidr. Marthin a ddyvod yn hyf wrtho na buasai yrioed sikrach na diogelach, kanis ef a wyddiad vod trvgaredd Duw yn vawr, ac yn enwedic mewn provedigaethav a blinder. ‘Eithr mwy,’ heb ef, ‘yw vy ofn i dy vod ti ynghyvyrgoll am dy vod yn lladratta, ac yn anheilwng i gael trvgaredd Grist.’ A phregethv a wnaeth Marthin iddo o eiriav yr evengyl, a’r lleidr yna a droes y’r ffydd ac a gredodd i Grist. Ac ef a dduc Marthin y’w ffordd e hvn yn rhydd, gan adolwc iddo weddio drosto. Ac ef a vv y lleidr wr da santaidd o hynny allan.

§11

Ac yn yr vn hynt honno, pann aeth Marthin heb law Melan,43 Melan Sef dinas Milano yng ngogledd yr Eidal (SSVM §6(1) Mediolanum); noda Burton (SSVM 181) mai hon oedd prif ddinas yr ymerodraeth orllewinol, i bob pwrpas, yn y bedwaredd ganrif. Cyfeirir at Martin yn sefydlu mynachlog yno yn §12 (gw. hefyd §48, §51). y kyvarvv y Kythrel ac ef ar vodd dyn bydol. A govyn iddo pa le yr ai a oruc y Kythrel. Marthin a ddyvod pan yw y’r lle i mynnai Dduw i alw. Y Kythrel a ddyvod, ‘Pa le bynnac yr elych, diawl a vo gorthwyneb ytt!’ Marth[in]3 Marth[in] LlGC 3026C Marth. Dyma’r unig achos o dalfyrru enw Martin yn y testun. Gwrthgyferbynner BL Add 14967, 130r, col. 2 (ll. 36) Marthin. a’i hatebodd4 hatebodd LlGC 3026C 40, col. 2 (llau. 7–8) hateb, ac odd ar ddechrau’r llinell nesaf, heb y marc (:) sydd fel arfer yn dangos bod gair wedi ei rannu. Mae sawl achos arall o hepgor yr arwydd hwn ar yr un tudalen yn y llawysgrif, sef di/nas (col. 2, llau. 24–5), vy/nachlog (ibid. llau. 30–1) a ty/wysoc (llau. 31–2), a cheir achosion niferus mewn mannau eraill yn y testun; ni thynnir sylw at y rheini. o lef broffwydol, ‘Yr Arglwydd,’ heb [ef]5 heb [ef] LlGC 3026C heb. Ychwanegwyd ef am fod heb ‘dywedodd’ yn cael ei ddilyn gan enw neu ragenw fel arfer (cf. BSM 6.24). Cf. BL Add 14967, 130r, col. 2 (ll. 37) heb ef. ‘y sydd help ym, ac nid ofnaf a wnel dyn.’ Ac ar hynny y gelyn a giliodd yn ddisyvyd o’i olwc ef. A phann ddoeth y’w wlad att i rieni i vam a droes ef y’r ffydd, a llawer o rai eraill; i dad ef a drigodd yn i ddrygioni.

§12

Gwedy hynny, pann gyvodes Lolardiaeth Ariana44 Lolardiaeth Ariana Mae’r geiriau a ddewisodd Siôn Trefor yma yn ddiddorol; gwrthgyferbynner SSVM §6(4) haeresis Arriana ‘yr heresi Ariaidd’. Roedd arddelwyr yr athrawiaeth hon, a enwid ar ôl ei awdur, Arius (m. 336), yn credu nad oedd Crist yn hollol ddwyfol a thragwyddol ei natur, ond yn hytrach ei fod wedi ei greu’n arbennig gan Dduw (ODCC 100–1, 105; gw. hefyd SSVM 178–9). Roedd Lolardiaeth (Saesneg ‘Lollardy’ neu ‘Lollardism’) yn fudiad hollol wahanol, a ‘Lollard’ yn enw a roddid ar ddilynwyr John Wycliffe (c.1330–84) neu ar y sawl a arddelai syniadau cyffelyb am bwysigrwydd ffydd bersonol o’i chyferbynnu ag awdurdod yr Eglwys; yn ddiweddarach, fodd bynnag, defnyddid y term ‘Lollard’ yn fwy llac am unrhyw un a heriodd athrawiaeth neu awdurdod yr Eglwys (ODCC 999). Nid oes enghraifft arall o’r gair Lolardiaeth yn y Gymraeg cyn y ddeunawfed ganrif yn ôl GPC Ar Lein, ond, fel a adlewyrchir yn y diffiniadau yno, mae’r cyd-destun ym muchedd Martin yn dangos ei fod yn cael ei ddefnyddio yn yr ystyr eang ‘heresi’ neu ‘geugred’; cf. y ddau gyfeiriad at Lolardiaid yn yr un adran, isod, lle ceir haereticorum ac Arianorum yn y testun Lladin (SSVM §6(4)), a noder bod Lolardiaid yn cyfeirio at baganiaid, hyd yn oed, yn §20 (cymharer SSVM §13(1)) gentilium turba ‘the pagan crew’). Cymharer hefyd y defnydd dirmygus o’r termau Lolart a Lolardiaid gan ddau fardd o’r bymthegfed ganrif, Dafydd Llwyd o Fathafarn a Hywel Swrdwal: GDLl 16.17–18 N’aded, â’i ddewred â’i ddart, / Lili yng ngardd un Lolart; GHS 7.21–2 Lolardiaid, traeturiaid hen / Ŷnt erioed, ânt i’r wden! drwy’r byd, ac yn enwedic o vewn Ilarikwm,45 Ilarikwm SSVM §6(4) Illyricum, sef yr enw Rhufeinig ar diriogaeth yr Ilyriaid Indo-Ewropeaidd, y tu hwnt i’r Adriatig. Daeth yn rhan o’r ymerodraeth yn y flwyddyn 11 CC neu’n gynharach, ac fe’i rhannwyd wedyn yn ddwy dalaith, sef Pannonia (lle ganwyd Martin, gw. §1 a n. 4) a Dalmatia (OCD 726). Marthin yno e hvn a ddadlevodd yn erbyn anffyddlonder yr effeiriaid. Ac am hynny ef a gavas lawer o vlinder ac amarch, ac o’r diwedd ef a gvrwyd ar gyhoedd y[n] noeth6 y[n] noeth LlGC 3026C y noeth; BL Add 14967, 130v, col. 1 (ll. 15) yn oeth. Yn §23 isod mae y noeth y llawysgrif yn sicr yn cynrychioli yn noeth (gw. n. 23 (testunol)) ac mae’n debygol mai dyma’r ystyr a fwriedid yma hefyd (gw. n. 46 (esboniadol)). Posibilrwydd arall yw darllen ynoeth, ffurf ar yr adferf yno; gweler GPC Ar Lein d.g. yno1, ynoeth. Un peth sydd o blaid y dehongliad hwn yw’r ffaith fod ei effaith ar ystyr y darn, o gymharu â’r hyn a geir yn y fuchedd Ladin (SSVM §6(4) nam et publice virgis caesus est et ad extremum de civitate exire compulsus ‘for he was both publicly flogged, and at last compelled to leave the city’), yn llawer llai sylweddol nag effaith y dehongliad cyntaf a awgrymwyd. Fodd bynnag, mae’n anodd gweld pam y ceid y ffurf ynoeth yn yr achos arbennig hwn, yn hytrach na’r ffurf fwy arferol ar yr adferf, yno, a geir yn rheolaidd mewn mannau eraill yn y testun.Awgrymir trydydd posibilrwydd gan y darlleniad yn oeth a geir yn y copi diweddarach o’r fuchedd yn BL Add 14967. Gellid dehongli hwn yn yn adferfol + oeth ‘rhyfedd, rhyfeddol’ (gw. GPC Ar Lein d.g. oeth1; cymharer hefyd yr ystyron ‘violent, excessif, dur, hargneux’ a roddir ar gyfer oeth yn Holder 1891–1913 s.v. Octŏ-s; cf. Williams 1929–31b: 237; TYP 148). Er nad ymddengys fod oeth wedi ei ddefnyddio’n adferfol yn aml, ceir achos posibl arall mewn cerdd o’r ddeuddegfed ganrif, ‘Breuddwyd Gwalchmai’, sef oeth y’m uthrwyd (GMB 12.10; gw. aralleiriad y golygydd, ‘yn rhyfeddol y’m brawychwyd’ (yn disgrifio ymateb y bardd i farwolaeth ei noddwr Madog ap Maredudd, brenin Powys), ac, ymhellach, ibid.n. a GPC Ar Lein d.g. uthraf: uthro). Temtasiwn pellach yw ystyried a oes cysylltiad rhwng y darlleniad yn oeth yn BL Add 14967 ac ad extremum y fuchedd Ladin (gw. y darn a ddyfynnwyd uchod). Fodd bynnag, mae hyn yn broblemus am ei bod yn ymddangos mai o’r ymadrodd hwnnw y tarddodd y geiriau o’r diwedd ar ddechrau’r cymal Cymraeg. Felly, os yn oeth oedd y darlleniad gwreiddiol byddai’n rhaid tybio bod ad extremum wedi ei gyfieithu ddwywaith mewn dwy ystyr wahanol (gw. DMLBS s.v. extremus … ad extremum 2b ‘finally’, 4b ‘utterly, to the limit’). Dylid cofio hefyd ei bod yn debygol nad yw testun BL Add 14967 ond yn gopi o destun LlGC 3026C, ac, os felly, mae’n rhaid fod ei ddarlleniad (yn oeth) wedi tarddu o ddarlleniad y llawysgrif honno (y noeth) drwy naill ai camgopïo neu ailddehongli. (Cymharer adran §23 isod, lle ceir y noeth eto yn LlGC 3026C ond ynoeth yn BL Add 14967; gw. n. 23 (testunol).) a gwielyn ac ef a yrwyd o’r dinas drwy amarch.46 ac o’r diwedd ef a gvrwyd ar gyhoedd y[n] noeth a gwielyn ac ef a yrwyd o’r dinas drwy amarch Ar y darlleniad diwygiedig y[n] noeth ac am ddarlleniadau a deongliadau posibl eraill, gweler n. 6 (testunol). Bernir mai y[n] noeth yw’r darlleniad sy’n debycaf o adlewyrchu bwriad y cyfieithydd Siôn Trefor, er nad oes gair nac ymadrodd ac iddo ystyr debyg yn yr adran gyfatebol o’r fuchedd Ladin: nam et publice virgis caesus est et ad extremum de civitate exire compulsus ‘for he was both publicly flogged, and at last compelled to leave the city’ (SSVM §6(4)). Efallai yr ychwanegodd Siôn Trefor y manylyn hwn er mwyn pwysleisio maint y boen a’r dirmyg a ddioddefodd Martin dros ei ffydd. Ac ef aeth y’r Eidal kanis ef a glowsai vod eglwysi Ffraingk⁠47 Ffraingk Cymharer SSVM §6(4) intra Gallias, sy’n cyfeirio yn ôl pob tebyg at bedair talaith Gallia transalpina neu Gallia citerior (‘Further Gaul’) (SSVM 181). Cyfetyb yn fras i Ffrainc heddiw. Dewisodd Siôn Trefor ddiweddaru ei gynsail yma drwy gyfeirio at Ffrainc yn hytrach na Gâl; diau fod yr enw cyntaf yn fwy cyfarwydd i’w gynulleidfa, er ei fod yn anacronistig yng nghyd-destun hanesyddol y fuchedd. mewn blinder mawr a gyrv Ilar Sant allan o’r tir o gedernid y Lolardiaid,48 y Lolardiaid Gweler n. 44 (ar Lolardiaeth Ariana). ac yMelan yr ordeiniodd ef vynachloc iddo.49 yr ordeiniodd ef vynachloc iddo Gall mai ‘meudwyfa’ yn hytrach na ‘mynachlog’ oedd yr ystyr a fwriedid ar gyfer y gair monasterium yn y Vita (SSVM 155, 182); fodd bynnag, mae’n debygol mai’r ail ystyr oedd ym meddwl Siôn Trefor wrth iddo alw’r lle yn vynachloc. Arsexensivs, tywysoc y Lolardiaid,50 Arsexensivs, tywysoc y Lolardiaid SSVM §6(4) Auxentius, auctor et princeps Arianorum ‘Auxentius, the founder and chief of the Arian faction’; ni noda Halm (1866: 116) na Fontaine (1967–9: 266) unrhyw ddarlleniad amrywiol sy’n debyg i sillafiad y testun Cymraeg. Penodwyd Auxentius yn esgob Milan yn 355 ac fe’i hystyrir yn brif gefnogwr Ariaeth yn y gorllewin (SSVM 182; ODCC 137; ar Ariaeth, gw. n. 44). Ar ôl ei farwolaeth yn 374 etholwyd un o wrthwynebwyr Ariaeth, sef Ambrose, i’r esgobaeth; crybwyllir ef yn adran §51 isod. a wnaeth gwrthnebedd mawr i Varthin Sant ac a’i gyrodd ef allan o’r dinas.

§13

Yna yr aeth Marthin, ac vn effeiriad santaidd gyd ac ef, i Ynys Galinaria⁠7 Galinaria Gall mai galmaria sydd yma am nad oes strôc i’w gweld uwchben y minim cyntaf ar ôl yr l, ond fe’i trawsysgrifiwyd yn galinaria ar sail darlleniad y testun Lladin, SSVM §6(5) Gallinaria (cf. BSM 7.10). Darlleniad gwallus, ga/lvaria, a geir yn BL Add 14967, 130v, col. 1 (llau. 29–30)..51 Ynys Galinaria Sef Isola Gallinara, ynys fechan yng Ngwlff Genoa, ger dinas Albenga yng ngogledd yr Eidal (Roberts 1894: 7n2). Ar arwyddocâd arhosiad Martin yno yng nghyd-destun mynachaeth gynnar, gweler SSVM 182–3. Ac yno y bvant hwy ennyd yn byw ar wraidd llysievoedd, ac yno y kymerth ef yn vwyd iddo heleboriwm gwenwynic. A phann glybu gedernyd y gwenwyn yn argyweddv iddo ac yntav yn nesav tva’i angav, ef a yrodd a’i weddi bob klwyf a dolur oddi wrtho. Ac ni bu hir gwedy hynny yni glybu Varthin gael o Ilar Sant ganiad i ddyvod adref. Ac yntav Marthin a roes i vryd [ar] gyvarvod8 a roes i vryd [ar] gyvarvod LlGC 3026C a roes i vryd gyvarvod; BL Add 14967, 130v, col. 2 (llau. 2–3) a rroes i vryd Gyvarvod. Mae angen ar er mwyn y gystrawen; efallai yr hepgorwyd ef drwy ddiffyg canolbwyntio wrth orffen un llinell a dechrau’r nesaf. Cf. n. 18 (testunol), n. 26 (testunol), a chymharer n. 9 (testunol), am achosion lle’r ymddengys fod gair bach (neu lythyren) wedi ei ailadrodd yn ddiangen mewn amgylchiadau tebyg. ac Ilar yn Rhuvain.

§14

A phann ddoeth ef yno, Ilar a aethoedd ymddaith o’r dref, a Marthin a’i dilynodd ef hyd adref. Ac Ilar a’i kroesawodd ef yn garedic, a Marthin yna a ordeiniodd mynachloc iddo yn emyl hynny.52 Marthin yna a ordeiniodd mynachloc iddo yn emyl hynny Nid yw lleoliad y fynachlog neu’r feudwyfa hon yn amlwg yn y fuchedd Gymraeg. Fodd bynnag, am fod Ilar yn esgob Poitiers (gw. §9) gellir cymryd mai i’r ddinas honno yr aeth y ddau ddyn wrth i Martin ei ddilyn hyd adref (gw. y frawddeg flaenorol). Cyfeirir at Poitiers yn uniongyrchol yn yr adran gyfatebol yn Vita S. Martini (SSVM §7(1) Pictavos). Nododd Gregori o Tours mai yn Locaciacum, sef Ligugé heddiw, ryw bum milltir i’r de o Poitiers, yr oedd y sefydliad hwn (SSVM 185–6). Ac yn yr amser hwnnw y doeth dyn heb vedyddio at Varthin i geisio dysc. Ac ni bu hir oni glyvychodd hwnnw o drwm haint, a Marthin oddi gartref.9 oddi gartref LlGC 3026C o ddigart: ar ddiwedd llinell, a tref ar ddechrau’r nesaf; BL Add 14967, 130v, col. 2 (ll. 13) o ddigartre. Ymddengys fod llythyren ddiangen wedi ei hychwanegu drwy ddiffyg canolbwyntio wrth i’r copïydd orffen un llinell a dechrau’r nesaf. Am wallau tebyg, gweler n. 10 (testunol), n. 13 (testunol), n. 19 (testunol), n. 46 (testunol), n. 56 (testunol), a chymharer y llithriadau tebyg gyda geiriau bach, ai, yn ac ac, yn §35 ac §54 (gw. n. 45 (testunol), n. 47 (testunol), n. 65 (testunol)). Ceir ychydig achosion o hepgor llythyren neu air bach mewn amgylchiadau tebyg (gw. n. 8 (testunol)). Ac ar benn y trydydd dydd y doeth adref, a’r dyn gwedi varw53 gwedi varw Awgryma’r treiglad meddal ar ôl gwedy ei fod yn gywasgiad o gwedy a’r rhagenw trydydd unigol gwrywaidd i; cf. BDewi §22 wedi i varw. Am achosion o gywasgu tebyg o flaen berfenwau, gweler n. 67 (ar gwedy gladdu). yn ddisyvyd heb vedydd. A phann weles Marthin y korff marw a’i vrodyr yn kwynvan vwch i benn, Marthin a wylodd.54 Marthin a wylodd Cf. Ioan 11.35 ‘Torrodd Iesu i wylo’, yn y bennod sy’n adrodd hanes atgyfodi Lazarus. Roedd yr Iesu hefyd newydd weld ceraint y dyn marw yn wylo drosto ac wedi bod i ffwrdd pan fu farw. A than riddvann nesav att y korff a oruc gan gymryd yr Ysbryd Glan yn i veddwl, ac erchi i bawb vyned allan o’r ystavell lle’r oedd y korff marw. A gweddio Duw a oruc Marthin. Ac ymhenn agos y’r ddwy awr ef a welid y korff yn sylvv i holl aelodav ac yn egori i lygaid. Ac yna Marthin o hyd i lef a ddiolches i Duw. A phann glybu y rhai oedd allan hynny hwynt a vrysiasant i mewn, ac a welsant yn vyw yr hwnn a welsynt yn varw. Ac yn yr awr honno y bedyddiwyd ef. A byw vv dalym mawr o vlynyddoedd wedy hynny. A hwnnw vv y gwyrthiav kyntaf55 a hwnnw vv y gwyrthiav kyntaf Mae gwyrthiau yn enw lluosog fel arfer, ond fe’i trinnir yn air unigol yma o ran y gystrawen. O ran yr ystyr, mae’n werth cymharu SSVM §7(5), lle esbonia Sulpicius mai’r dyn marw a atgyfodwyd oedd y cyntaf a ddaeth ato yn dyst i alluoedd neu rinweddau Martin (Martini virtutum). Gall gwyrth olygu ‘gallu rhyfeddol, rhinwedd’ yn ogystal â ‘tro neu ddigwyddiad rhyfeddol’ (gw. GPC Ar Lein); felly, mae cyfieithu virtutum yn gwyrthiau, a’r ddau air yn lluosog, yn ddigon addas. Ac eto, ni ddisgwylid hwnnw gyda gair lluosog. Hefyd, eir ymlaen i ddweud bod Martin wedi ‘gwneud’ y gwyrthiau, sy’n awgrymu mai ‘digwyddiadau rhyfeddol’ (yn hytrach na ‘galluoedd rhyfeddol’) yw’r ystyr, ond ni thycia hyn ychwaith oherwydd un digwyddiad a ddisgrifir, sef atgyfodi’r dyn marw.Penderfynwyd peidio â thrin yr ymadrodd hwn yn wall, fodd bynnag, oherwydd mae achosion eraill yn y testun hwn a bucheddau eraill lle’r ymddengys fod gw(y)rthiau yn cael ei drin yn air unigol; gweler §55 A thebic vv gann bawb pan yw rhyw wyrthiav engyliawl oedd hwnnw (Krusch and Levison 1885b: 142.27 (I. 6) Credo, aliqua fuisset virtus angelica; Van Dam 1993: 209 ‘I think that this had been [a manifestation of] the power of some angel’); BGwenfrewy (Pen 27ii), 98 (ll. 16) y gwyrthiav disyvyd hww (cf. Llst 34, 227 (ll. 28) y gụyrthiaü hụnnụ, 234 (llau. 20–1) A phaụb a ḍel yno a gaphant y gụrthie yr hụnn a archant, 248 (llau. 6–7) Ar gụrthiaü hụnnụ); BDewi §4 kynta gwyrthiav, §5 ail gwyrthiav, §6 gwyrthie arall (gw. BDewi n. 21), a BNicolas §6 gwrthiau arall.
Ymddengys, felly, fod gwy(r)thiau weithiau’n dwyn ystyr sy’n cynnwys elfennau o’i ddwy ystyr arferol, fel pe bai’n cwmpasu’r rhinweddau neu’r galluoedd (lluosog) sy’n achosi digwyddiad rhyfeddol yn ogystal â’r digwyddiad (unigol) ei hun. Dewiswyd y cyfieithiad ‘manifestation of miraculous powers’ ar gyfer achosion o’r fath er mwyn ceisio cyfleu hyn (a chyda golwg ar gyfieithiad Van Dam o virtus angelica, a ddyfynnwyd uchod).
a wnaeth Marthin yno. A’r vn dyn hwnnw a ddyvod i ddwyn ef gar bronn y Browdwr,56 Browdwr Sef brawdwr ‘barnwr’, yn dynodi Duw fel yr un sy’n barnu’r meirw ar adeg eu marwolaeth yn ogystal ag ar ddiwedd y byd. Ceir y sillafiad safonol ym mrawddeg ddilynol y fuchedd. Gall y sillafiad ag o ddangos dylanwad yr iaith lafar; cf. owdurdod yn §§16, 35, 37, a hefyd yr enghreifftiau gan William Salesburya ddyfynnir yn GPC Ar Lein d.g. brawdwr. a rhoi arno varn orthrwm, a’i yrrv i leoedd tywyll. Ac yno dyvod o ddav angel at y Brawdwr a dywedud pan yw y dyn hwnn y mae Marthin yn gweddio drosto.57 pan yw y dyn hwnn y mae Marthin yn gweddio drosto Fe’i deellir yn araith anuniongyrchol yn yr amser presennol dramatig, am na ddefnyddir pan yw i gyflwyno araith uniongyrchol fel arfer. Ar pan yw (Saesneg, ‘that it is’), gweler GMW 80 a cf. HMSS ii 28.14 yr hwnn a dywawt wrthunt pan yw dyn oed Grist ac nat Duw, a ddyfynnir yno. Ac ar hynn10 hynn LlGC 3026C hy:, ac n ar y llinell nesaf. Awgryma’r marc estyn ar yr n gyntaf y dylid ychwanegu n arall ond, yn amlwg, nid oes angen tair; cf. n. 9 (testunol). Cymharer hefyd BL Add 14967, 130v, col. 2 (ll. 41) hynn. gorchymyn Duw at yr vn engylion i roddi yr enaid yn y korff a’i ddwyn att Varthin. Ac ar hynny yr amlhaodd i henw ef, Marthin, yn vwy ac yn santeiddiach ac yn anrhydeddusach noc y bu o’r blaen.

§15

Ni bu hir gwedy hynny, val yr oedd Varthin yn myned ar draws maes gwr bonheddic,58 gwr bonheddic Nodir yn Vita S. Martini (SSVM §8(1)) mai Lupicinus oedd enw’r dyn hwn. ef glywai gri11 gri Gwrthgyferbynner BL Add 14967, 131r, col. 1 (ll. 8) griddvan. Mae’r ddau ddarlleniad yn dderbyniol ac yn bur debyg i’w gilydd o ran ystyr, ond os griddfan oedd y gair a fwriedid yn y cyfieithiad gwreiddiol disgwylid treiglad meddal am ei fod yn wrthrych y ferf [c]lywai. Ymddengys, felly, y gall darlleniad BL Add 14967 fod yn ffrwyth dryswch ar ran yr ysgrifydd, efallai dan ddylanwad terfyniad y gair [c]wynvan sy’n dilyn., a chwynvan vawr gan bo[b]loedd.12 bo[b]loedd LlGC 3026C boloedd; diwygir er mwyn yr ystyr; cf. SSVM §8(1) turbae, a BL Add 14967, 131r, col. 1 (ll. 9) bobloedd. A govyn a oruc Marthin pa ryw nad oedd honno. Yna i dywetpwyd iddo pan yw vn o’r gwasanaethwyr a ymgrogasai. Ac ar hynny, Marthin a aeth y’r ystavell lle yr oedd y korff yn gorwedd, a gyrrv pawb o’r ystavell, a gweddio vwch benn y korff. A heb ohir ef a estynnodd y korff marwol i law at Varthin ac a gyvodes yn vyw ac a gerddodd gyd a Marthin.

§16

Ac yn ol hynny echydic y keisiwyd y gan Varthin vyned yn esgob Turwyn,59 Turwyn SSVM §9(1) Turonicae, sef dinas Tours a saif ar afon Loire yn Ffrainc. Etholwyd Sant Martin yn esgob Tours c.371 (ODCC 1050; Stancliffe 1983: 2). Yn ôl Gregori o Tours, ar ôl ei farwolaeth hawliwyd ei gorff gan wŷr Poitiers a gwŷr Tours fel ei gilydd, a gwŷr Tours yn ei ennill i’w dinas eu hunain drwy ewyllys Duw; gweler §§48–9. ac ni ddevai ef o’i vodd i vod yn esgob. Ac ar hynny i doeth gwr o’r dinas – Ruricius60 Ruricius Gwrthgyferbynner SSVM §9(1) Rusticius. Ond ceir o leiaf bum ffurf wahanol ar enw’r dyn hwn mewn gwahanol gopïau o’r fuchedd Ladin: nodir rusticius, rustitius, rusticus a ruritius, ynghyd â ruricius, ffurf y fuchedd Gymraeg, yn yr aparatws yn Halm 1866: 118 a Fontaine 1967–9: 270. oedd i henw – ac adolwc iddo ddyvod i iachav i wraic ef, a oedd yn wann glaf. A phann ddoeth Marthin allan yr oedd aneirif o wyr y dinas yn i aros ef, ac wynt a’i dugant ef o’i anvodd y’r dinas. Ac anveidrol oedd vaint y lluoedd pobl oedd yno, o’r dinas hwnnw a dinesydd eraill, yn dyvod i gyvarvod ac ef, a phawb a’i ewyllys ac a’i air ar wnethur Marthin yn esgob, a dywedud bod yn hapus yr eglwys a’i kaffai ef yn esgob arnai. Eisioes rhai o’r esgobion a ddoethesynt yno a ddywedasant nad oedd ef abl i vod yn esgob herwydd nad oedd wr korffoc semlantus trwsiadus na gwalltwr da.61 nad oedd wr korffoc semlantus trwsiadus na gwalltwr da SSVM §9(3) hominem vultu despicabilem, veste sordidum, crine deformem ‘a man contemptible of face, shabby of dress, and disfigured of hair’. Gellid dehongli crine deformem y fuchedd Ladin yn gyfeiriad cynnar at donsur mynachaidd (Donaldson 1980: 72; SSVM 194–5). Fodd bynnag, nid oes dim byd i awgrymu bod Siôn Trefor wedi deall yr ymadrodd Lladin yn yr ystyr hon. Nid oes achos cynharach o gwalltwr yn ôl GPC Ar Lein, nac achos arall o semlantus (ond cymharer ibid. d.g. semlant ‘wyneb’, ‘ymddangosiad’, &c.). Y bobl hagen a wattwarassant ynvydrwydd yr esgyb, ac wynt a wnaethant Varthin yn esgob. Ac yr hynny yr vn gwr vv ef am vod yn ddivalch ac yn gydostwng o galonn a thrwsiad. Ac velly, yn gyflawn o owdurdod a gras, y bu ef yn kyflenwi teilyngdod esgob val nad oedd yn gado dim o’i rinweddav da dros gof.

§17

A gwedy hynny, gann nad oedd ef yn gallu dioddef kyrchva y bobl atto, ef a wnaeth iddo vynachloc ar ddwy villdir o ddinas13 o ddinas LlGC 3026C o ddi:, a nias ar y llinell nesaf. Ymddengys fod yr ysgrifydd wedi bwriadu dechrau’r llinell gydag inas, gan anghofio ei fod eisoes wedi ysgrifennu’r i (cf. n. 9 (testunol)), ond iddo roi’r strôc uwchben y minim anghywir. Cf. BL Add 14967, 131r, col. 2 (llau. 16–17) odd/inas. Turwyn,62 ef a wnaeth iddo vynachloc ar ddwy villdir o ddinas Turwyn Sef Marmoutier, a ddaeth yn un o ganolfannau pwysicaf cwlt Martin yn yr Oesoedd Canol (gw. Farmer 1991). yn lle diarffordd kyfrinachol y rhwng kraic vchel ac avon Leyr, heb ffordd i vyned iddi ond vn llwybr kyvingk, ac a beris gwnevthur ystavell iddo o brennav gwniedic a elwid kell Varthin. A llawer o’r brodyr, ar yr vn modd, a wnaethant ystevyll vddvnt yn yr vn brynn.63 A llawer o’r brodyr, ar yr vn modd, a wnaethant ystevyll vddvnt yn yr vn brynn. Ceir disgrifiad hwy ac eglurach yn Vita S. Martini: SSVM §10(5) multique ex fratribus in eundem modum; plerique saxo superiecti montis cavato receptacula sibi fecerant ‘and many of the brothers had much the same; most had made retreats for themselves in the hollow formed by the overhanging mountain-side.’ Ar cavato yn yr ystyr ‘cau’ (‘hollow’) yn hytrach na ‘wedi ei geuo’ (‘hollowed out’), gweler SSVM 201. Mae’n bosibl, fodd bynnag, i Siôn Trefor ddeall y gair yn yr ail ystyr. Pedwar vgain haiach oedd o ddysgyblon i Varthin yn dysgv ac yn kymryd exsampl wrtho. Nid oedd neb yn berchennoc da yno; nam pob peth yn gyffredin oedd rhyngthvnt. Nid oedd rydd vddvnt brynv na gwerthv dim, val y byddai rydd i lawer mynach, kanis yn [yr] amser [hwnnw] kr[eff]t14 yn [yr] amser [hwnnw] kr[eff]t LlGC 3026C yn amser krist (cf. BL Add 14967, 131r, col. 2 (ll. 32) yn amser krist). Nid yw’r darlleniad yn gwneud synnwyr fel y saif; felly, diwygiwyd gan ddilyn BSM 10.2 (gw. hefyd ibid. n1); cf. SSVM §10(6) ars ibi exceptis scriptoribus nulla habebatur ‘No trade was practised there save that of the copyist’. nid oedd ond ysgrivenyddion yn ev plith,64 kanis yn [yr] amser [hwnnw] kr[eff]t … yn ev plith Diwygiwyd y testun er mwyn cael ystyr; gweler n. 14 (testunol). a hynny a drefnid y’r rhai ievangaf, a[’r] rhai hynaf15 a[’r] rhai hynaf LlGC 3026C A Rai hynaf; BL Add 14967, 131r, col. 2 (ll. 34) a rai hyna; ond mae angen y fannod fel arfer pan ddefnyddir y radd eithaf i gymharu fel hyn; gweler GMW 44, a cf. y’r rhai ievangaf yn yr un frawddeg. Efallai yr hepgorwyd yr ’r am ei bod yn cael ei dilyn gan sain debyg; cf. §17 o[’r] rhai hynny, §46 gyda[’r] rhai (LlGC 3026C o Rai hyy, gyda Rai) a’r achosion tebyg a nodir yn n. 21 (testunol). i weddio. Annvynych yr ai neb onaddvnt o’i gell allan, ond pann ymgnvllynt i dy y gweddiav. Yr vn bwyd a gymerynt oll, pann ddelai yr amser vddvnt,65 pann ddelai yr amser vddvnt Hynny yw, byddent yn bwyta pan ddeuai’r adeg ymprydio i ben; cf. SSVM §10(7) post horam ieiunii ‘When the hour of fasting was past’. ac nid adwaeni[a]d16 adwaeni[a]d LlGC 3026C adwaenid; BL Add 14967, 131r, col. 2 (ll. 39) adweinid. Deellir hwn yn wall am adwaeniad (neu adwaenad) am fod angen ffurf trydydd unigol amherffaith yma. Ar y terfyniad -(i)ad, gweler GMW 122 a chymharer y ffurf gwyddiad a geir sawl gwaith yn y fuchedd hon, e.e. §§10, 19. neb yno win, onid y neb a gymhellai glevyd trwm. A rhyvedd oedd allu dwyn y sawl wyrda vrddasol oedd yno i vod mor ostyngedic ac mor dda i krevydd ac oeddynt, kanis hwy a vagesid mewn amgen vodd. A ni a welsom lawer o[’r] rhai hynny17 o[’r] rhai hynny LlGC 3026C o Rai hyy (cf. BL Add 14967, 131v, col. 1 (ll. 6) or hai hyny). Cynrychiolia R y sain ‘rh’ fel arfer yn y testun hwn (gw. y Nodyn ar drawsysgrifiad), ond disgwylid treiglad meddal pe bai rhai yn dilyn yr arddodiad o yn syth. At hynny, disgwylid y fannod yn yr ymadrodd hwn (cf., e.e., §18 y merthyri hynny, §20 y gwyrthiav hynny, §29 y sawl bobl hynny, a gw. GMW 83). Efallai yr hepgorwyd yr ’r am ei bod yn cael ei dilyn gan sain debyg; cymharer a[’r] rhai hynaf yn yr un adran, uchod, a gweler n. 15 (testunol). yn esgyb, kanis pa eglwys bynnac a vai heb effeiriad, o vynachloc Varthin y mynnynt i gael.

§18

Bellach ni a soniwn am rinweddav Marthin gwedy i vyned yn esgob. Yr oedd, garllaw y vynachloc yno, le yr oedd bobl yn addoli, gan gredu kladdu yn [y] lle hwnnw18 yn [y] lle hwnnw LlGC 3026C yn ar ddiwedd llinell a lle hwnnw ar ddechrau’r nesaf. Ychwanegwyd y fannod er mwyn yr ystyr, gan ddilyn BSM 10.16. Efallai fod yr ysgrifydd wedi ei hepgor drwy ddiffyg canolbwyntio wrth ddechrau llinell newydd (cf. n. 8 (testunol)). Cf. hefyd BL Add 14967, 131v, col. 1 (llau. 14–15) yny ll/e hwnnw. verthyri. Ac allor a ordeiniasai yr esgob vchaf66 yr esgob vchaf Yn Vita S. Martini cyfeirir at superioribus episcopis (SSVM §11(2)), sef esgobion (lluosog) sydd naill ai’n ‘uwch’ neu’n ‘flaenorol’ (LD s.v. sŭpĕrussŭpĕrĭor, ĭus). Yng nghyd-destun y fuchedd ymddengys mai ‘esgobion blaenorol’ a olygir (cf. cyfieithiad SSVM 107 ‘earlier bishops’) a bod Siôn Trefor wedi camddehongli ei ffynhonnell, o bosibl. yno. A Marthin a ddoeth yno ac a ovynnodd y rhai pennaf o’r effeiriaid a’r ysgolheigionn oedd yno henwav y merthyri hynny a’r amser y dyoddevesent. Ac am na chas atteb o’r byd wrth i vodd, ef aeth ymddaith ac ni ddoeth yno ennyd ar ol hynny. Eisioes blin vv gantho na chae wybod sierteinrhwydd am y lle vchod, a pheryglv bod y dynion mewn kam ffydd. Ac yna y doeth Marthin ac ychydic o gydymddeithion y’r lle hwnnw, ac a sevis ar y bedd ac a weddiodd ar Dduw ar ddanngos iddo pwy oedd gwedy gladdu67 gwedy gladdu Dengys y treiglad meddal ar ôl gwedy fod hwn yn gywasgiad o gwedy a’r rhagenw trydydd unigol meddiannol gwrywaidd i; am achosion tebyg, gweler §44 gwedy ossod, §49 gwedi golli, a chymharer §30 gwedy i thynnv, lle dangosir y rhagenw (benywaidd). (Cymharer hefyd n. 53, ar gwedi varw.) yno. A’r awr honno, ef a weles ar y tv assw iddo yn agos atto gysgod budr brwnt.68 cysgod budr brwnt SSVM §11(4) umbram sordidam trucem ‘a shade … foul and menacing’. Mae cysgod yn ddewis addas iawn ar gyfer trosi umbram am y gall y ddau air olygu naill ai ‘shadow’, ‘shade’ neu ‘ghost’ (GPC Ar Lein d.g. cysgod; LD s.v. umbra). A Marthin a ovynnodd iddo i henw a’i dal gann Dduw. Yntav a ddyvod pan yw lleidr oedd, a’i ladd am i ddrygioni, ac nad oedd iddo ef rann gyda merthyri. A phawb ar a oedd yno a’i klywynt ef yn dywedud, ac ni welynt ddim ohono. Ac yna y dyvod Marthin i bawb beth a welsai, ac a beris symvdo yr allor o’r lle hwnnw a rhyddhav y bobl am i gwann ffydd.

§19

Gwedy hynny, a Marthin yn myned i siwrnai, ef a welai ymhell i wrtho, yn dyvod tvac atto, gorff pegan yn myned y’w gladdv. Ac ni wyddiad ef beth oeddynt69 ni wyddiad ef beth oeddynt Mae’n rhaid fod hyn yn cyfeirio at y bobl sy’n dod â’r corff i gael ei gladdu, er nad ydynt wedi eu crybwyll yn uniongyrchol o’r blaen yn y testun Cymraeg. Cymharer y disgrifiad o’r turbam ‘torf’ yn nesáu yn Vita S. Martini (SSVM §12(1)). rhac yw pelled i wrtho, eithr ef a dybiodd pann weles y llieiniav o’r elor70 y llieiniav o’r elor (Cf. BL Add 14967, 131v, col. 2 (llau. 11–12).) Mae defnydd yr arddodiad o yn hytrach nag ar yn annisgwyl yn y cyd-destun hwn ac mae’n bosibl fod geiriau wedi eu hepgor drwy amryfusedd wrth gopïo. Cymharer y disgrifiad hwy a geir yn y Vita: SSVM §12(2) agente vento lintea corpori superiecta volitarent ‘there were linen cloths draped over the corpse and fluttering in the wind’. mae karliaid yn gwnevthur erddvniant y’r gav ddwywav oeddynt, kanis arver y Ffrangkod yn yr amser hwnnw oedd ddwyn delwav kythrevliaid a llennllieiniav yn i kylch i amgylchynv y meisydd. A Marthin yna a roes groes71 Marthin yna a roes groes Ar yr arfer hwn, gweler ODCC 1510, lle nodir bod yr arwydd yn cael ei wneud ar y talcen yn wreiddiol. Cymharer y llinell Duw a ro croes i’m talcen (Risiart ap Risiart Alen; Lloyd-Jenkins 1931: 20.2) a ddyfynnir yn GPC Ar Lein d.g. croes 2(c) (‘Arwydd y groes a wneid â’r llaw dde’). a’i law rhyngtho ac wynt, ac a orchmynnodd vddvnt roddi y llwyth y’r llawr ac na sylvynt o’r lle hwnnw. Ac yna sevyll a wnaethant. Yn gyntaf, megys kerric y savasant yn llonydd, gwedy hynny o bob modd keisio kerdded ac nis gellynt, namynn19 namynn LlGC 3026C namȳ:, ac n ar y llinell nesaf. Er mwyn cynrychioli darlleniad y llawysgrif, ychwanegwyd n arall ar ôl yr ȳ yn y testun golygedig am fod marc estyn drosti. Dylid nodi, fodd bynnag, mai namyn yw’r sillafiad mewn mannau eraill yn y testun (§§4, 7, 8, 9, 35, 44); cf. achosion eraill lle mae hollti gair ar draws llinellau wedi arwain at ychwanegu llythyrennau diangen (gw. n. 9 (testunol)). Cf. hefyd BL Add 14967, 131v, col. 2 (ll. 24) namyn. troi megys rhod yn yr vn lle hyd pann orvv vddvnt roddi y korff y’r llawr. A synnv arnvnt yn vawr a orvgant,72 synnv arnvnt yn vawr a orvgant Am y gystrawen, a’r arddodiad ar yn rheoli goddrych rhesymegol y ferf, gweler BDe 48 a BDewi n. 98 a cf. isod §20 synnodd ar y peganiaid weled y gwyrthiav hynny, §38 Synnv a wnaeth ar y mynach a galw y llaill atto, a §51 A synnv a wnaeth ar bawb y chwedyl hwnn. gan ryveddu a meddyliaw ynddvnt yn ddistaw pa beth a ddaroedd vddvnt. A phann wybu y benndigedic Varthinn mae myned a chorff y’w gladdv yr oeddynt, ef a roddes ganiad vddvnt i gerdded a’r korff y’w gladdu.

§20

Hevyd, val yr oedd yr anrrydeddus Varthin ddiwyrnod yn amkanv bwrw hen demyl y’r llawr, a bwrw prenn pinivs oedd yn emyl y demyl y’r llawr, yna ef a ddoeth esgyb73 esgyb Gall y gair cyfatebol yn y testun Lladin, antistes (SSVM §13(1)), olygu naill ai ‘uwch-offeiriad’ neu ‘esgob’ (LD s.v. antistĕs, ĭtis ‘a high-priest’, ‘a bishop’), ond y cyntaf sydd fwyaf addas yma. Cyfieithwyd esgyb yn ‘high priests’ yn hytrach na ‘bishops’ yn y testun Saesneg a gyflwynir yma, felly, er na cheir yr ymadrodd hwn ymhlith y cyfystyron yn GPC Ar Lein d.g. esgob (‘bishop, prelate; overseer (in the Early Church)’). Am achosion eraill o gyfieithu gair Lladin unigol â gair Cymraeg lluosog, gweler §21 tai (am domum), §38 rhinweddav (am uirtutem), §43 eglwysi (am ecclesiae); a cymharer esgob am episcopis yn §18 ac effeiriad am presbyteris yn §45 (geiriau Cymraeg unigol yn cyfieithu geiriau Lladin lluosog). y’r lle hwnnw, a llawer o Lolardiaid74 Lolardiaid Cyfieithwyd y gair yn ‘heretics’ yn y testun Saesneg er cysondeb ond paganiaid oedd y bobl hyn mewn gwirionedd ac nid yn ddilynwyr Ariaeth fel y Lolardiaid a grybwyllir yn §12 (gw. n. 44). Cymharer SSVM §13(1) gentilium turba ‘the pagan crew’ a’r gair peganiaid a geir yn y fuchedd Gymraeg bedair gwaith wrth adrodd gweddill yr hanes. gyd ac wynt, i lestair bwrw y prenn. Ac yna i dyvod Marthin wrthvnt, ‘Nid oes dim ffydd na chrevydd, yr kredv y’r prenn hwnn. Kalhynwch chwi Dduw, yr hwnn yr wyf vi yn i wasanaethu! Y prenn hwnn, rhaid yw i vwrw y’r llawr, kanis ef a gysegrwyd y’r Kythrel.’ Ac yna y dyvod vn o’r peganiaid a oedd hyvach no’r llaill wrth Varthin, ‘A oes gennyt ti hydeb yn dy dduw, yr hwnn yr wyt yn i wasanaethu, ac yn amddiriaid75 amddiriaid Ffurf ar ymddiried, cf. ymddiriaid ac amddiried a nodir yn ddangosair ychwanegol ac yn amrywiad yn GPC Ar Lein d.g. ymddiriedaf. (Gwrthgyferbynner defnydd ymddiriaid, fel enw, isod yn yr un adran.) iddo val y gellych sevyll dan y prenn lle mae i bwys i syrthio? A ni a vwriwn y prenn y’r llawr, a phann vo yn syrthio, saf dano. Ac o bydd dy arglwydd gyd a thi, ti a ddiengy.’ Ac ar hynny i kytvnodd Marthin. A phawb o’r peganiaid a vv dda ganthvnt yr amod, a bwrw y prenn a orugant dan obeithio y lleddid Marthin, gelyn i ffydd hwynt. Ac yna y kymynasant y prenn, a’r lle oedd ddibettrvs ganthvnt ac ysbys y syrthiai y prenn, hwynt a rwymasant Varthin yno. A phann welsant y prenn wrth ddiwedd i gymynv yn pwyso tvac att Varthin, llawen vvant. A’r mynaich a oeddyn76 oeddyn Ceir achos arall, yn yr un adran, o’r sillafiad hwn sy’n dangos dylanwad yr iaith lafar, o bosibl (cymharer na wyddyn yn §55 a’r arddodiaid rhediadol drostvn yn §32, §44 (gw. n. 105), ac wrthvn yn §36). Sillafiad mwy safonol, oeddynt, a geir fel arfer yn y testun (deg achos, yn §§1, 6, 10, 17, 19 (deirgwaith), 20, 42 a 45). yn edrych ar hynn a gollasant i gobaith, ac yr oeddynt yn disgwyl marvolaeth Varthin drwy vawr dristwch a goval. Eisioes Marthin, yn ddiofnoc, oedd yn gobeithio Duw ac a’i ymddiriaid ynddo. A phann weles ef y prenn yn syrthio yn vniawn atto, y rhoddes arwydd y groc rhyngtho ac ef. Ac yna y doeth, megys, kawad o gorwynt, ac y troes y prenn yn i orthwyneb val y bu agos iddaw a lladd llawer o’r peganiaid, y rhai oeddyn yn sevyll yn lle sikr ar ev bryd. Ac yna synnodd ar y peganiaid weled y gwyrthiav hynny. A’r mynaich a wylasant o lywenydd ac a volasant henw Duw, kanys hysbys vv ddyvod iechyd y’r wlad honno y dydd hwnnw, kanis ni bu haiach a welsant y gwyrthiav hynn ar na chredasant i Grist a gadaw kam gred a’i hanffyddlonder. Ac yn wir, o vlaen Marthin ni bu neb yn y gwledydd hynny yn amlhav henw Duw nac yn i voli, ond drwy y gras a roddasai Dduw iddo ef, mewn rhinweddav ac examplav santaidd, i tyvodd ffydd a daioni hyd nad oedd le ar y buasai demlav y’r gav dduwiev ar na bai yno y naill ai eglwys ai mynachloc yn enw Iesu vab Mair Vorwyn.

§21

Ac val yr oedd Varthin yn llosgi hen demyl arall y’r gav dduwiav oedd mewn ystryd o’r dinas,77 mewn ystryd o’r dinas Nid enwir y lle yn y testun Lladin (SSVM §14(1) in vico quodam ‘in one village’). Yn ôl LD, s.v., gall vicus olygu naill ai ‘a row of houses in town or country, a quarter of a city, a street’ neu ‘A village, hamlet, a country-seat’. Felly, ymddengys cyfieithiad Siôn Trefor yn ddigon rhesymol. Fodd bynnag, mae ei ddefnydd o’r un gair, ystryd, i gyfieithu vicus yn yr adran nesaf yn llai addas, a’r gair Lladin yn cyfeirio at Levroux, tref sylweddol (gw. n. 79). ettywynion tanllyd78 ettywynion tanllyd Yr unig gyfystyron Saesneg a geir yn GPC Ar Lein d.g. etewyn yw ‘firebrand’ a ‘torch’, ond nodir ‘ember’ yn drydydd cyfystyr d.g. tewyn, ffurf affetig ar yr un gair, ac ymddengys yr ystyr hon yn fwyaf addas yn y cyd-destun; cf. y ‘pelenni o fflamau’, flammarum globi, yn Vita S. Martini (SSVM §14(1)). a deflis am benn y tai nessaf y’r demyl. A phann weles Marthin hynny, rhedec a oruc a dringo i nenn y ty a sevyll rhwng y tai a’r tan. A thrwy rinwedd y sant y troes y fflam yn i gor[t]hwyneb,20 gor[t]hwyneb LlGC 3026C gorchwyneb, ond ni nodir gair tebyg yn GPC Ar Lein, a cf. defnydd [g]orthwyneb, ffurf ar gwrthwyneb, mewn cyd-destun tebyg yn yr adran flaenorol. Gall ffurf t a c fod yn gyffelyb iawn mewn llawysgrifau canoloesol; felly, mae’n debygol fod hwn yn wall copïo (cf. [g]orthymyn am [g]orchymyn yn §38, a gw. hefyd n. 164 (esboniadol)). Cf. hefyd BL Add 14967, 132r, col. 2 (llau. 29–30) gw/rthwyneb. ac yr ymrysones y ddwy elment a’i gilydd, nid amgen y gwynt a’r tan, a’r tai a ddiengis rhac llosgi.

§22

Yr oedd mewn ystryd a elwid Leprwsswm⁠79 mewn ystryd a elwid Leprwsswm SSVM §14(3) In vico autem, cui Leprosum nomen est. Gellir uniaethu Leprosum â thref Levroux, ger Châteauroux, yng nghanolbarth Ffrainc (gw. BSM 13n2; Fontaine 1967–9: 778–9; SSVM 219). Roedd yn rhan o esgobaeth Bourges; felly, gwelir Martin yma yn efengylu y tu allan i’w esgobaeth ei hunan (gw. Stancliffe 1983: 329, 335, a cf. n. 84 isod). Ar gyfieithu in vico yn mewn ystryd, gweler n. 77. hen demyl gywaethoc, a Marthin a ddoeth yno i gesio llosgi honno. Ac y kyvodes y meiri a’r peganiaid yn erbyn Marthin a llestair iddo wnevthur i amkan, ac yntav aeth i le yn emyl hynny. Ac yno y bu ef dri diav yn ymprydio ac yn gweddio mewn gwisc rawn,80 gwisc rawn Gweler GPC Ar Lein d.g. rhawn ‘Blew hir a garw ar anifail, yn enw. ar geffyl’. Cyfeirir at wisg o’r math hwn o eiddo Martin yn §30, gan nodi bod darnau a dynnwyd ohoni yn medru cyflawni gwyrthiau, a nodir yn §45 fod gwisc rawn amdano pan fu farw. Y gair Lladin cyfatebol a ddefnyddiodd Sulpicius yw cilicium ‘crys rhawn, lliain sach’ (SSVM §14(4), §18(5); Fontaine 1967–9: 340 (Epistulae III.15)). Dewisid dillad anghyfforddus o’r fath yn fwriadol gan asgetigion a phenydwyr a cheir cyfeiriadau at seintiau eraill yn eu gwisgo; gweler, er enghraifft, gwpled gan Ddafydd ap Llywelyn ap Madog am Ddyfnog Sant: Gwisgo’r crys er gwasgu’r croen, / Rhawn dewbais, nid rhan diboen (MWPSS 7.65–6; cf. DewiLGC1 llau. 23–4; TydechoDLl llau. 25–6).Wrth ddisgrifio bywyd dilynwyr Martin ym Marmoutier noda Sulpicius fod y rhan fwyaf ohonynt yn gwisgo dillad o rawn camelod (camelorum saetis) yn benodol (SSVM §10(8)). Hepgorwyd y cyfeiriad hwn o’r adran gyfatebol o’r fuchedd Gymraeg (§17), efallai am iddo gael ei ystyried yn rhy astrus neu annhebygol. Dylid nodi, fodd bynnag, fod Sulpicius ei hun wedi anfon dillad o rawn camelod yn anrheg at ei gyfaill, Paulinus o Nola, ac y rhoddid bri mawr ar wisgoedd o’r math hwn oherwydd eu cysylltiad â Ioan Fedyddiwr (Fontaine 1967–9: 681–2; Stancliffe 1983: 33). yn gorwedd yn y lludw ac yn adolwc i Dduw, kan [n]a allai21 kan [n]a allai LlGC 3026C kana allai (cf. BL Add 14967, 132v, col. 1 (ll. 9) kana allai). Mae peidio ag ysgrifennu n ddwywaith yn adlewyrchu ynganiad yr iaith lafar; cf. §40 kan [n]a chlywais (LlGC 3026C kanachlywais); hefyd §23 y[n] noeth (ac yn §12 yn ôl pob tebyg); §42 yr wy[f] vi; ac efallai §17 a[’r] rhai hynaf, o[’r] rhai hynny; §29 y[n] myned; §46 gyda[’r] rhai (LlGC 3026C y noeth, yr wy vi, A Rai hynaf, o Rai hyy, y myned, gyda Rai). Cymharer hefyd BDewi §15 y[n] noythlvmvn (Pen 27ii, 40 (ll. 16) ynoyth lvmvn). ef ddistrywio kadernyd y demyl, anvon ohono ef rinweddav nevol a’i bwriai y’r llawr ac a’i diffeithiai. Ac ar hynny, ef a ddoeth att Varthin ddav angel yn darianoc o vilyriaeth nevol,81 yn darianoc o vilyriaeth nevol Cymharer SSVM §14(5) hastati atque scutati instar militiae caelestis ‘armed with spear and shield like the heavenly host’. Yn y cyfieithiad Saesneg dehonglir [t]arianoc yn ffigurol (‘wedi eu hamddiffyn’) ond gellid ei ddehongli’n llythrennol (‘wedi eu harfogi â tharianau’). Mae amrediad ystyron eang i’r geiriau militiae a milyriaeth; gweler LD s.v. mīlĭtĭa, ae ‘military service, warfare, war’, ‘Military spirit, courage, bravery’, ‘the soldiery, military’ a GPC Ar Lein d.g. milwriaeth ‘Brwydr, rhyfel, rhyfelgarwch, hefyd yn ffig.; camp filwrol, medr wrth ymladd, cymeriad neu ymddygiad milwrol, dewrder, glewder; milwyr, byddin, llu (arfog)’. Felly, byddai’n bosibl dehongli [m]ilyriaeth nevol yn gyfeiriad at lu’r nef, fel yn y Vita. ac wynt a ddywedasant wrth Varthin mae Duw a’i hanvonasai hwy i yrrv y peganiaid ar ffo ac y’w nerthv yntav o losgi82 y’w nerthv yntav o losgi Ar y gystrawen, gweler GPC Ar Lein d.g. o1 16(b) ‘I, wrth (ar ôl b[er]f neu fe[rfenw] sy’n dynodi cynorthwyo, &c.)’. y demyl a’i distrywio, ac erchi i Varthin vyned i gwplav y gwaith a ddychrevassai yn ddwyvol. Ac yno’r aeth Marthin ac yngwydd y peganiaid y llosges y demyl ar gav ddelwav oll a’r allorav, heb allel i lestair. A phann welsant hynny, dyall a orugant mae kedernyd rhinweddol oedd yn peri vddvnt na ellynt ymryson a Marthin. A phawb haiach a gredasant y’r Arglwydd Iessu Grist dan grio yn eglur a chyfadnabod bod yn orav addoli Duw a Marthin ac ysgevluso y gav dduwiav, y rhai ni ellir help vddvnt i hvn.83 y rhai ni ellir help vddvnt i hvn Troswyd ystyr y cymal cyfan yn hytrach na’r geiriau unigol.

§23

Hevyd, yngwlad Ediwrwm⁠84 yngwlad Ediwrwm SSVM §15(1) in pago Aeduorum. Gellid dehongli pagus yn ‘rhanbarth’ neu’n ‘pentref, tref’ (DMLBS, s.v.; Fontaine 1967–9: 285 ‘dans un canton du pays éduen’; SSVM 113 ‘in a village of the Aedui’). Roedd yr Aedui yn llwyth grymus yr oedd eu tiriogaeth yn cynnwys rhan helaeth o ganolbarth Gâl (SSVM 221; gw. hefyd LD s.v. Aedŭi (Haed-), ōrum ‘a tribe in Gallia Celtica friendly to the Romans’). Rhannwyd civitas Aeduorum rhwng esgobaethau Autun, Châlon a Mâcon; gwelir, felly, fod gweithgareddau efengylaidd Martin yn estyn y tu hwnt i ffiniau ei esgobaeth ei hun (sef esgobaeth Tours) (gw. Stancliffe 1983: 329–30 ac ibid. n7; Babut 1912: 220n1; a cf. n. 79 uchod). Mae’r ffurf Ediwrwm a ddefnyddiodd Siôn Trefor yn Gymreigiad o’r enw Lladin genidol lluosog Aeduorum; felly, dehonglir yngwlad Ediwrwm yn ‘yng ngwlad y Aedui’ yn y cyfieithiad Saesneg. Fodd bynnag, mae’n bosibl fod y ffurf wedi ei deall yn enw lle syml. yr oedd Varthin yn distrywio temyl y gev dduwiev. Ef a gyvodes yn i erbynn22 erbynn LlGC 3026C erbȳ: ar ddiwedd llinell ac n ar ddechrau’r nesaf. Er mwyn cynrychioli darlleniad y llawysgrif, yn y testun golygedig ychwanegwyd n arall ar ôl yr ȳ, am fod marc estyn drosti. Yr un sillafiad a geir mewn un achos arall yn y testun (§36 erbynn) ond dylid nodi y ceir erbyn bedair gwaith (§§12, 22, 33, 48) a bod nifer o achosion eraill lle ychwanegodd yr ysgrifydd lythyren ddiangen wrth hollti gair ar draws dwy linell (gw. n. 9 (testunol)). Cf. hefyd BL Add 14967, 132v, col. 2 (ll. 3) erbyn. aneirif o beganiaid, ac vn onaddvnt oedd ddewrach no’r llaill a’i kyrhaeddodd ef a chleddyf noeth ar vedr i ladd. A Marthin pann weles hynny a vyriodd i vantell i wrtho ac a estynnodd i benn y[n] noeth23 y[n] noeth LlGC 3026C y noeth; BL Add 14967, 132v, col. 2 (ll. 9) ynoeth. Yn wahanol i’r achos arall o y noeth yn nhestun LlGC 3026C (§12, a gw. n. 6 (testunol)) mae’r dehongliad yn syml yma. Mae’r ystyr ‘yn noeth’ yn eglur o’r cyd-destun, a Martin yn cynnig ei wddf noeth neu ddiamddiffyn i’r cleddyf sy’n ei fygwth (cf. SSVM §15(1) reiecto pallio nudam cervicem percussuro praebuit ‘at which Martin threw off his cloak and offered his bare neck to him who would smite him’). Mae peidio ag ysgrifennu’r n ddwywaith yn adlewyrchu ynganiad yr iaith lafar; cf. BDewi §15 y[n] noythlvmvn (Pen 27ii, 40 (ll. 16) ynoyth lvmvn) a n. 21 (testunol) uchod. tvac atto. A’r pegan a ddyrchavodd i vraich yn vchel ar vedr i daro. A chyd a hynny ef a syrthiodd y’r llawr dan draed Marthin, a thrwy oer vraw a dychryn mawr rhac ofn Duw ef a ervynniodd vaddevaint a thrvgaredd y’r sant. Nid oedd anhebic i hynny i damwyniodd amser arall: val yr oedd Varthin yn bwrw temyl gevdduw y’r llawr, vn o’r peganiaid a geisiodd i vrathu a chyllell, a’r llafn a ddivlannodd o law y dyn enwir val na weled byth. Mynych, eisioes, pann vai y peganiaid yn llestair iddo ddistrywio ev temlav, y danngossai ef a’i bregeth olevni vddvnt val yr esmwythai ev kalonnav, hyd pann vwriynt a’i dwylaw e hvnain ev temlav y’r llawr.

§24

Gras oedd ynddo ef y kynn gadarned ac yr iachaei y dynion kleivion val i delynt atto. Merch a elwid Treueris24 Treueris Mae’r bedwaredd lythyren yn aneglur; ymddengys fod y copïydd Gutun Owain wedi bod mewn amheuaeth amdani neu ei fod wedi ysgrifennu drosti’n ddiweddarach. Gellid darllen naill ai’n Treueris neu’n Treneris, a cheir yr un amwysedd yn BL Add 14967, 132v, col. 2 (ll. 31). Fodd bynnag, mabwysiadwyd y darlleniad cyntaf ar sail y ffurf Treveris a geir yn y fuchedd Ladin (SSVM §16(2)).85 merch a elwid Treueris Camddehonglwyd enw lle yn enw personol. Nid enwir y ferch yn y Vita; yno, cyfeiria Treveris at ei lleoliad yn ninas Trier, ger ffin orllewinol yr Almaen heddiw (SSVM §16(2) Treveris puella quaedam ‘There was at Trier a girl’). Yn y cyfnod Rhufeinig gelwid y ddinas yn Augusta Treverorum ac yr oedd yn un o ddinasoedd pwysicaf yr ymerodraeth orllewinol (Fontaine 1967–9: 815; OCD 206; SSVM 223–4). oedd gwedy syrthio ynghlevyd parlys val nad oedd hi yn meddv ar aelod na chymal o’r heiddi25 o’r heiddi LlGC 3026C o Reiddi, a roddai o rheiddi os yw R yn cynrychioli ‘rh’ fel sy’n arferol yn y testun hwn; cf. BL Add 14967, 132v, col. 2 (ll. 34) or heiddi. I gael synnwyr mae angen dilyn darlleniad y copi diweddarach o ran rhaniad y geiriau a deall yr ail air yn eiddi (y ffurf fenywaidd ar eiddo). Nid yw’n amlwg pam yr ychwanegwyd yr h ar ddechrau’r gair. Efallai fod yr ysgrifydd wedi drysu rhwng dwy gystrawen, sef o’r eiddi ac o’i heiddo; gweler GPC Ar Lein d.g. eiddo1, 2(a) a (b), ac am ychwanegiad h ar ôl y rhagenw meddiannol trydydd unigol benywaidd i, cf. i hanadl, i hangav, isod yn yr un adran o’r fuchedd. Posibilrwydd arall yw bod heiddi/heiddo yn ffurf amrywiol ar eiddi/eiddo: mae achosion eraill o h yn tyfu o flaen llafariad dechreuol acennog (e.e. henw, ffurf ar enw a ddefnyddir yn y testun hwn), a hyn weithiau’n digwydd ar ôl r yn arbennig, e.e. ar hugain, yr holl (OIG 63). Ond ni chyfeiria GPC Ar Lein at heiddo yn ffurf amrywiol ar eiddo, ac nid oes achos tebyg arall yn y fuchedd. (Un achos arall, yn unig, a geir o unrhyw ffurf ar eiddo, ac mae hwn ar ôl llafariad (§30 beth a vai eiddo Varthin).) i ymwasanaethv, a chynn wanned oedd ac na wyddiad neb vod enaid ynddi, ond wrth i hanadl. Trist oedd i chenedl a’i chyfneseiviaint vwch i phenn yn aros i hangav. A phann ddy[w]etpwyd26 ddy[w]etpwyd LlGC 3026C ddy ar ddiwedd llinell ac etpwyd ar ddechrau’r nesaf. Achos arall o wall wrth hollti gair ar draws dwy linell, cf. n. 8 (testunol). Cf. hefyd BL Add 14967, 132v, col. 2 (ll. 39) ddywetpwyd. y’r genedl ddyvod Marthin y’r dinas, rhedec a oruc tad y vorwyn a dyvod y’r eglwys lle yr oedd Varthin ymysc llawer o esgyb a phobl eraill. A dyvod atto a oruc y tad dan vdo a llefain ac ymavael a’i draed, a dywedud wrtho, ‘Vy merch sydd yn myned i varw o orthrwm haint. Adolwc ytt ddyvod y’w benndigo, ac o gwnai86 gwnai Fel arfer byddid yn deall hon yn ffurf trydydd unigol amherffaith (GMW 130) ac fe’i defnyddir fel hyn mewn mannau eraill yn y fuchedd gan gynnwys un achos yn yr un adran: yn disgwyl beth a wnai wasanaethwr Duw (cf. §§3, 4, 5, 37, 40 a 41). Yma, fodd bynnag, dengys y cyd-destun fod gwnai yn ffurf ail unigol presennol mynegol. Ceir achosion o sillafiad tebyg yn y farddoniaeth, e.e., DG.net 166.51–2 ‘Pa ryw orllwyn mewn llwyni / Yn y dail yna wnai di?’; GLM LXXXVI.46 Nis gwna duc onis gwnai di. Cymharer hefyd y terfyniad tebyg ar ffurf ail unigol presennol mynegol y ferf cael ym Muchedd Martin, §45, ni chai di … ddim bai ynof vi. hynny, yr wyf yn gobeithio y kaiff i bywyd a’i hiechyd.’ Synnv a wnaeth Marthin gan y geiriav hynn a’i nekav, gan ddywedud nad oedd ef mor deilwng ac y dangosai Dduw arwydd morr rhinweddol a hwnnw yrddo ef. Eisioes, vdo a griddvain a orvc y tad vwyvwy, ac ervyn iddo ddyvod. Ac o’r diwedd, drwy i gymell o’r esgyb, ef a aeth hyd y ty lle’r oedd y vorwyn. Ac yr oedd gynvlleidva vawr o bobl gar bronn y drws yn disgwyl beth a wnai wasanaethwr Duw. Ac yn gyntaf dim, syrthio ar i liniav a orvc Marthin i weddio Duw, ac edrych ar y vorwyn ac erchi dwyn olew atto. A’i bendigo a oruc a bwrw yr olew yn i genav, ac yn gydnaid ar hynny hi a gavas i pharabl. A phob ychydic, drwy i de[i]mlad27 de[i]mlad LlGC 3026C demlad. Ymddengys hwn yn llithriad wrth gopïo, o bosibl dan ddylanwad y gair temyl neu temlav a geid yn aml yn yr adrannau blaenorol. Cf. BL Add 14967, 133r, col. 1 (ll. 30) deimlad. ef ar bob kymal ac aelod iddi, y dychrevodd vowiogi hyd pann gyvodes yn holl iach yngwydd yr holl bobl.

§25

Gwasanaethwr oedd yn yr vn amser i wr a elwid Tretadius87 Tretadius Defnyddir y sillafiad hwn ar ei enw unwaith yn unig yn y fuchedd; fe’i gelwir yn Titradius (ddwywaith) neu’n Tetradius mewn mannau eraill yn yr adran hon. Yn Vita S. Martini ei enw yw Tetradius neu Taetradius (SSVM §17; Halm 1866: 126; Fontaine 1967–9: 288, 290). Prokonsul gwedy myned kythrel ynddo ac yn i ddisynhwyro oll a’i vlino. A’i veistr a’i ervynniodd88 a’i ervynniodd Deellir yr ’i yn rhagenw mewnol proleptig, yn achub y blaen ar y gwrthrych a fynegir ar ddiwedd y frawddeg ([d]yvod i roi i law arno; ar y gystrawen, gw. GMW 56–7). Er disgwyl h ar ddechrau’r ferf ar ôl y rhagenw hwn (cf. §11 a’i hatebodd (a’r gwrthrych yn wrywaidd, fel yma)), digwydd hyn yn llai cyson ar ôl y rhagenw gwrywaidd nag ar ôl y rhai benywaidd neu luosog (TC 153–5). i Varthin ddyvod i roi i law arno. Yntav a erchis dwyn y klaf atto, a[c] ni ellid28 a[c] ni ellid LlGC 3026C A ni ellid, ond ac yw’r ffurf ar y cysylltair a geir o flaen y geiryn negyddol ni(d) ym mhob achos arall yn y testun (cf. Williams 1980: 151–2). Gwrthgyferbynner BL Add 14967, 133r, col. 2 (ll. 30) oni ellid; ond y cysylltair ac, gyda grym cyferbyniol, sydd ei angen yn y cyd-destun (cf. sed ‘ond’ yn SSVM §17(1); ac ar a(c) gyda grym cyferbyniol, gw. GPC Ar Lein d.g. a5 , ac 1(a), a cf. yr enghreifftiau a nodir yn n. 37 (esboniadol)). Ymddengys yn debygol, felly, fod oni BL Add 14967 yn ymgais aflwyddiannus i wella’r darlleniad gwallus A ni yn LlGC 3026C. i ddwyn mewn modd o’r byd89 mewn modd o’r byd Ni chynhwysir yr ymadrodd hwn ymhlith y cyfuniadau yn GPC Ar Lein d.g. modd, ond cymharer ibid. (mewn, yn) modd yn y byd ‘by some means, by any means, (in) any way, at all (often in a negative construction).’ o’r ystavell lle yr oedd, kanis yr ysbryd drwc oedd yn peri iddo vrathv pawb a’i kreffinio.90 kreffinio Enghreifftiau geiriadurol yn unig a ddyfynnir yn GPC Ar Lein d.g. craffinio, creffinio (‘Ysgraffinio, crafu, torri’r croen, peri gwaedu’), a’r gynharaf yn dyddio o 1632 (Dictionarium Duplex, John Davies). Ac yna y syrthiodd Titradius29 Titradius LlGC 3026C titradiu’ (cf. BL Add 14967, 133r, col. 2 (ll. 9)). Defnyddir yr un marc estyn i gynrychioli us mewn mannau eraill yn y testun (gw. n. 25 (trawsysgrifiad)), ond nid oes angen dwy u yma. Cf. y gwahanol ffurfiau Tretadius, Titradius, Tetradius, uchod ac isod yn yr un adran, sy’n cyfeirio at yr un dyn; ei enw yw Tetradius neu Taetradius yn Vita S. Martini (SSVM §17; Halm 1866: 126; Fontaine 1967–9: 288, 290). ar i lin gar bronn Marthin ac ervyn iddo ddyvod y’r ty lle’r oed[d]30 lle’r oed[d] LlGC 3026C lle roed; BL Add 14967, 133r, col. 2 (ll. 11) lle yr oedd. Gwelir gwallau tebyg yn §31 (yr oed[d] verch) a §57 (pan oed[d] oed Krist). y klaf kythrevliedic yn ymddieflygv.91 ymddieflygv Nid ymddengys fod unrhyw achos arall o’r gair hwn. Ni chynhwysir nac ymddieflygu na dieflygu yn GPC Ar Lein, ond cymharer ibid. d.g. dieflig ‘Diawledig, cythreulig … a chythraul ynddo’. Yn yr eirfa ar gyfer y darn o Fuchedd Martin a gyhoeddwyd yn Parry-Williams 1954, cynigir yr ystyr ‘ymryddhau, ymlanhau o afael cythraul’, ond mae elfennau a chyd-destun y gair yn awgrymu’r gwrthwyneb: efallai ‘ymddwyn yn ddieflig’, ‘ei wneud ei hun yn ddieflig’ neu ‘ymgyfuno â’r diafol’. Cymharer hefyd ystyr y ferf ymgythreulio a geir ddwywaith yn Perl mewn Adfyd (1595), cyfieithiad gan Huw Lewys o draethawd Saesneg a gyfieithiwyd o’r Almaeneg gan Myles Coverdale; yn yr achos cyntaf mae gwallgofi, ac ymgythreulio a wnant yn cyfieithu ‘rave and rage and give themselves over to the devil’, ac yn yr ail, mae hwy a ymgythreuliant, ac a wallgofiant yn cyfieithu ‘they rage and rave’ (Gruffydd 1929: 135, 237; Pearson 1884: 150, 191). Marthin yna a nekaodd ac a ddyvod na allai vyned i dy began anffyddlon, kanis Titradius yna oedd heb vedyddio. Ac ar hynny ef a eddewis gredv i Grist a bod yn Gristion os y kythrel a yrai i wrth i wasanaethwr. Ac yna y rhoddes Marthin i law ar y dyn a gyrrv yr ysbryd drwc ohono allan. A phann weles Tetradius hynny, ef a gredodd y’r Arglwydd Iessu Grist ac a vedyddiwyd, ac ef a garodd Varthin tra vv vyw.

§26

Yn yr vn amser o vewn y dinas hwnnw, ac ef yn myned i dy gwr o’r dinas, ef a welai gythrel yn y nevadd ac ef a’i gyrrodd ymddaith. Ac yntav aeth mewn dyn oedd yn trigo yn y plas,92 yn y plas Nid oes sicrwydd am ystyr plas yma; yn y cyd-destun gallai olygu naill ai ‘plasty’ neu ‘lle neilltuol’ (GPC Ar Lein d.g. plas (a), (b)). Nid yw’r naill na’r llall yn cyfateb yn union i’r testun Lladin, in interiore parte aedium (SSVM §17(5); Roberts 1894: 12 ‘in the inner part of the house’). gwasanaethwr i wr y ty. A’r dyn hwnnw a esgyrnygodd ddannedd ac a geisiodd ladd pawb a gyvarvv ac ef. Kyffro mawr yna a gyvodes yn y ty, a phawb yn ffo rhacddo. Marthin a ddoeth i gyvarvod ac ef ac a erchis iddo sevyll. Yntav a esgyrnygodd ddannedd arno ac egores i safn i geisio i vrathv, a Marthin a hyrddodd i vyssedd yn i safn ac erchi iddo i knoi os gallai. Ac yntav ni allai yna wasgv i ddannedd i gyd, mwy no phe bai haiarn tanllyd yn i enav. A phann oedd Varthin yn kyme[ll]31 kyme[ll] LlGC 3026C kymer, ond mae angen berfenw yma (ar ôl yn traethiadol). Gellid dilyn darlleniad BL Add 14967 (133v, col. 1 (ll. 8) kymrud) a diwygio’n kymryd (dyma sillafiad arferol y berfenw yn LlGC 3026C; gw., e.e., §8, §17) ond, yn hytrach, dilynwyd awgrym a geir yn BSM 16n1 a diwygio’n kymell am fod hyn yn rhoi ystyr fwy addas; cf. SSVM §17(7) et cum fugere de obsesso corpore poenis et cruciatibus cogeretur ‘Then, being compelled under pain of torment to flee the body he had possessed’. Gellid esbonio darlleniad BL Add 14967, kymrud, yn ymgais i gywiro’r darlleniad gwallus, kymer, a geir yn LlGC 3026C. Efallai yr ystyriai’r copïydd fod kymer yn dalfyriad o kymeryd; ar y gwahanol ffurfiau, gweler GPC Ar Lein d.g. cymeraf: cymryd, cymrud, cymeryd.Nodir, ibid., fod y ffurf cymeryd mewn Cymraeg Diweddar yn adffurfiad o’r bôn cymer-, ac mae’r enghreifftiau cynharaf a ddyfynnir yn dyddio o ganol yr unfed ganrif ar bymtheg, sef yr adeg pan ysgrifennwyd BL Add 14967. Fodd bynnag, daethpwyd o hyd i ychydig o achosion cynharach gan gynnwys un mewn cerdd gan Huw Cae Llwyd (cyd-oeswr i Siôn Trefor) lle cadarnheir y ffurf gan y mydr a’r gynghanedd: Llawer y sy’n cymeryd; / Ai drwg un a’i dyry i gyd? (HCLl XIV.45). Erys ansicrwydd, felly, ynghylch pa ferf a fwriedid ym muchedd Martin. 93 kyme[ll] Mae’n amhosibl fod yn sicr pa ferfenw a fwriedid yma. Mae naill ai kymell neu kym(e)ryd yn rhoi ystyr dderbyniol, ond dewiswyd y cyntaf am ei fod yn agosach at ystyr y ferf gyfatebol yn y fuchedd Ladin (gw. n. 31 (testunol)). y kythrel o’r dyn, ni chavas vyned y’w enav eithr y’r penn arall, gan dywallt holl vrynt[i]32 vrynt[i] LlGC 3026C vrynt. Gwall am vrynti neu vryntni, mae’n debyg; gweler GPC Ar Lein d.g. brynti a cf. BL Add 14967, 133v, col. 1 (llau. 10–11) vrynti. y korff gyd ac ef.

§27

A phann ddoeth y chwedl yn eglur y’r dinas, rhai a gymerth ofn mawr, nid amgen noc am ddywedud bod llawer o amravaelion genedloedd yn dyvod am ev penn i anrheithio y dinas. Marthin yna a erchis dwyn atto ddyn yr aethoedd anysbryd yntho, ac ef a orchmynnodd i hwnnw ddywedud oedd wir y chwedyl hwnnw. Ac yntav a ddyvod pan yw vn ar bymthec o gythrevliaid94 vn ar bymthec o gythrevliaid Gwrthgyferbynner SSVM §18(2) decem daemonas ‘ten demons’. Fodd bynnag, ceir y rhif un ar bymtheg (sedecim neu sexdecim) ymhlith y darlleniadau amrywiol a nodir gan Halm (1866: 127) a Fontaine (1967–9: 292). a wnaethesynt y chwedl hwnn ac a’i haeyesynt ymysc y bobl i geissio gyrrv Marthin ar ffo oddyno rhac ofn hynny, a dywedud nad oedd yr vn o’r kenedlaethav yn meddwl am ddyvod yno. Ac velly pann ddyvod yr ysbryd hynny, Marthin yn yr eglwys a ryddhaodd yr holl dinas95 yr holl dinas Disgwylir treiglad meddal ar ôl holl (cf., e.e., §8 yr holl elynion, §24 yr holl bobl, §26 holl vrynt[i] y korff ), ond weithiau mae dd- yn caledu’n d- yn dilyn -ll (TC 93). o’i blinder a’i hofn.96 o’i blinder a’i hofn Awgryma’r diffyg treiglo ar ôl y rhagenw cyntaf, a’r h a ychwanegwyd ar ôl yr ail, fod y ddau ragenw naill ai’n fenywaidd (unigol) neu’n lluosog. Am fod dinas yn air gwrywaidd mewn mannau eraill yn y testun (nid yw byth yn treiglo ar ôl y fannod (gw. §§12, 16, 21, 24, 26), a cf. yn arbennig §16 o’r dinas hwnnw, §26 y dinas hwnnw), deellir y rhagenwau yn rhai lluosog sy’n cynrychioli’r ddinas fel casgliad o bobl yn hytrach na fel endid daearyddol neu weinyddol.

§28

Ac val yr oedd Varthin ddiwyrnod a phobl vawr97 pobl vawr Gellid ei ddeall naill ai’n ‘pobl bwysig’ neu’n ‘torf fawr’ (gw. GPC Ar Lein d.g. pobl ‘Bodau dynol … llwyth, torf’); mae magnis … turbis y testun Lladin (SSVM §18(3)) o blaid yr olaf. gyd [ac] ef33 gyd [ac] ef LlGC 3026C gyd ef. Diwygir er mwyn yr ystyr gan ddilyn BSM 17.1. Cf. hefyd BL Add 14967 (133v, col. 1 (ll. 32) gyd ac ef ). yn myned i Baris, y kyvarvv ac ef glaf gwahanol hakraf ac anverthaf o’r byd. Ac yr bod y bobl yn i ffieiddio wrth edrych arno, Marthin a roddes gvssan iddo ac a’i bendigodd. A’r awr honno ef aeth yn holliach. A thrannoeth ef a ddoeth y’r eglwys i ddanngos i gnawd yn lan ac i dalu moliant i Dduw a Marthin am iechyd.

§29

Val yr oedd Varthin y[n] myned34 y[n] myned LlGC 3026C y myned. Gall mai dylanwad yr iaith lafar a barodd i’r n gael ei hepgor o flaen m (cytsain drwynol arall); cf. y[n] noeth yn §23 (LlGC 3026C y noeth) a’r achosion tebyg a nodir yn n. 21 (testunol). Cymharer hefyd BL Add 14967, 133v, col. 2 (ll. 5) yn myned. i ddinas Siartris⁠98 dinas Siartris Tardda’r hanes a geir yn yr adran hon o un o destunau ymddiddan Sulpicius (Halm 1866: 185 (Dialogi I (II), §4)); dychwelir at Vita S. Martini wedyn. Cyfeiria’r testun Lladin yma at Carnotum oppidum ‘tref y Carnutes’. Prif dref y llwyth hwn oedd Autricum, sef Chartres erbyn yr Oesoedd Canol (Roberts 1894: 40n2). Mae’n drawiadol fod yr enw lle wedi ei ddiweddaru mor llwyddiannus yn yr achos hwn (cymharer n. 5, n. 29, n. 84, n. 85); un esboniad posibl yw bod Siôn Trefor wedi ymgorffori glos esboniadol a welodd yn ei gynsail. drwy dref oedd ar y ffordd, ef a ddoeth aneirif o bobl anffyddlon i gyvarvod ac ef, kanis yn y dref honno nid oedd neb a edwaeniad99 edwaeniad Ffurf trydydd unigol amherffaith y ferf adnabod; cf. y ffurf atwaenat a nodir yn GMW 148, ac am y terfyniad (i)at gweler ibid. 122. yr Arglwydd Iessu Grist. Eisioes, rhac maint oedd y son am y santaidd Varthin, y doethoedd kymaint o bobl i geisio i weled val yr oedd yr holl veysydd yn llawn. Marthin yna a gyffroes ynddo e hvn ac a ddyallodd, drwy yr Ysbryd Glan, vod gwaith yno y’w wnevthvr, ac a bregethodd eiriav Duw y’r bobl dan vynych vcheneidio yn drwm achos bod y sawl bobl hynny heb adnabod amddiffynnwr ev heneidiav. Ac val yr oedd aneirif o’r peganiaid hynn yn k[y]lchynv35 k[y]lchynv LlGC 3026C klchynv; BL Add 14967, 133v, col. 2 (ll. 23) kylchynv. y sant bendigedic hwnn, nychaf wraic a mab a vuassai varw ychydic kynn no hynny, ac yn estyn i breichiav a’r mab marw tvac att Varthin ac yn dywedud wrtho, ‘Ni a wyddom dy vod yn garedic gan Dduw. Gwna dithav vy vn mab i yn vyw.’ Marthin yna, a’i ddwy law e hvn, a gymerth y korff marw atto a digwyddo a oruc ar i liniav i weddio Duw, a pawb36 a pawb Efallai y dylid diwygio’n a p[h]awb am mai dyma’r unig achos yn y testun o beidio â threiglo p > ph ar ôl y cysylltair a. Cf. BL Add 14967, 133v, col. 2 (ll. 34) a ffawb. o’r peganiaid yn disgwyl beth a ddamwyniai o hynny. A phann ddarvv i Varthin i weddi, kyvodi i vyny a oruc ac estyn y mab a vvassai varw yn vyw lawen att i vam. Ac ar hynny y sawl gynvlleidva honno a gredasant i Grist gan grio ar Dduw holl gywaethoc. Ac yn gaturva y syrthiasant gar bronn Marthin i ervyn bedydd a’i gwnevthur yn Gristynogion, a Marthin a gyflanwodd i damv[n]ed37 damv[n]ed LlGC 3026C damvied; BL Add 14967, 134r, col. 1 (ll. 9) damvned. a[c] yn y38 a[c] yn y LlGC 3026C A yny; BL Add 14967, 134r, col. 1 (ll. 9) ac yny. maes hwnnw ef a’i gwnaeth hwynt oll yn Gristynogion. Ac ar hynny i dyvod vn o’r rhai a droesid y’r ffydd wrth Varthin nad oedd anrhesymol gwnevthur k[ri]stynogion39 k[ri]stynogion LlGC 3026C kystynogion; cymharer dau achos o gristynogion yn y brawddegau blaenorol. Ymddengys yn wall copïo o ganlyniad i achub y blaen ar yr y ar ôl krist-; cf. y ddwy n yn gorchynvn (am gorchymyn) yn §3. Darlleniad BL Add 14967 yma yw gristynogio/gion (134r, col. 1 (llau. 14–15)). yn y maes lle buesid yn kysegrv merthyri o’r blaen.

§30

Myny[ch]40 Myny[ch] LlGC 3026C Myny, a rhywbeth a all fod yn ch wedi ei ychwanegu mewn inc gwahanol, a chan law ddiweddarach yn ôl pob tebyg. Cf. BL Add 14967, 134r, col. 1 (ll. 16) Mynych. i kaid gwyrthiav i wrth beth a vai eiddo Varthin. Hem o’i ddillad ef gwedy i thynnv i wrth i wisc rawn ef, o rhwymid am vyssedd nev ddwylo dynion kleivion, wynt a gent100 cent Os ffurf trydydd lluosog amherffaith y ferf cael yw hon, disgwylid keffynt neu kehynt (GMW 149). Efallai fod darlleniad y llawysgrif yn ffurf gywasgedig (lafar?) ar un o’r rhain; cymharer BMartin §49 pann geffynt liw dydd. ev hiechyd.

§31

A hevyd yr oed[d]41 yr oed[d] LlGC 3026C yr oed; BL Add 14967, 134r, col. 1 (llau. 22–3) yroe/dd. Gwelir gwallau tebyg yn §25 (lle’r oed[d] y klaf) a §57 (pan oed[d] oed Krist). verch i wr kadarn a elwid Arkorivs,101 Arkorivs Fe’i gelwir yn Abirius yn y frawddeg nesaf ond un. Ei enw yw Arborius yn Vita S. Martini (SSVM §19(1) Arborius … vir praefectorius ‘Arborius, a man of praefectorial rank’, ibid. (2) apud Arborium). Roedd Magnus Arborius, aelod o deulu uchelwrol Galaidd-Rufeinig o Acwitania, yn Rhaglaw Dinas Rhufain yn 380 (Fontaine 1967–9: 873–4; SSVM 233). a honno oedd glaf wann o’r kryd kwartan.102 kryd kwartan Gweler GPC Ar Lein d.g. cryd … cryd cwartan quartain ague’; hon yw’r enghraifft gynharaf a ddyfynnir, ond nodir enw arall ar yr un clefyd, sef cryd y pedwaredydd, y ceir enghreifftiau ohono o’r drydedd ganrif ar ddeg ymlaen. Gweler ymhellach OED Online s.v. quartan B. 1.a ‘Recurring (by inclusive reckoning) every fourth day … spec. designating a form of malaria in which fever recurs in this way’. A’i thad a gymerth llythr i gan Varthin atto pann oedd vwyaf i gwres a’i lloscva, a’r awr honno hi aeth yn iach. Ac ar hynny Abirius a aeth a’i verch gyd ac ef att i vrenin yn dystiolaeth ar y gwyrthiav a wnaethoedd Varthin yn i apsenn, ac ef a’i hoffrynnodd42 hoffrynnodd Fe’i derbynnir yn betrus yn ffurf amrywiol ar y ferf offrymu. Ni nodir amrywiad tebyg yn GPC Ar Lein, ond cf. Pen 11, 84v (llau. 10–11) (c.1380, ‘Ystoriau Saint Greal’) y neb a|oed yn|y offrynnaỽ* ef ar betheu tec (dyfynnir o RhyddGym 1300–1425). Posibilrwydd arall yw bod y copïydd wedi ysgrifennu un minim yn ormod drwy amryfusedd; cf. chynnell am chymell (§35), mymych am mynych (§36), a hefyd gorchynvn am gorchymyn (§3) a Mimav am minnav (§42). Y sillafiad disgwyliedig, hoffry/modd, a geir yn BL Add 14967, 134r, col. 1 (llau. 32–3). hi y’w chysegrv yn lleian i gadw i gwerydd-dod. Ac ni vynnodd neb y’w gwisgo yn y krevydd nac y’w chysegru eithr Marthin a’i law ehvn.

§32

Pawlinvs,103 Pawlinvs Roedd Paulinus o Nola (353/5–431) yn fab i deulu bonheddig o Acwitania a bu’n llywodraethwr Campania cyn cael tröedigaeth ysbrydol; ymwrthododd ef a’i wraig â’u cyfoeth bydol ac ordeiniwyd ef yn 394, gan gael ei ethol yn esgob Nola yn ddiweddarach (ODCC 1252; SSVM 233–4). Ymddengys fod yr hanes am y driniaeth ar ei lygaid a adroddir yn yr adran hon yn dyddio o’r cyfnod cyn iddo gael ei fedyddio (Fontaine 1967–9: 883). Crybwyllir Paulinus eto yn §40, a Martin yn cynghori Sulpicius i [g]ymryd siampl wrtho. gwr oedd yn ymarver o gyfarwyddion,104 yn ymarver o gyfarwyddion ‘Dewiniaeth’ neu ‘swynau’ yw’r ystyron mwyaf tebygol ar gyfer cyfarwyddion yma; gweler GPC Ar Lein d.g. cyfarwydd (fel enw (lluosog), ystyr 3). Nid oes dim sy’n cyfateb i hyn yn y testun Lladin, SSVM §19(3) Paulinus, magni vir postmodum futurus exempli ‘Paulinus, a man destined thereafter to be a great example for others.’ Ymddengys fod Siôn Trefor wedi camddarllen neu gamddeall y gair magni (magnus ‘mawr’) gan ystyried ei fod yn rhyw ffurf ar magus ‘dewin’. Gallai hyn fod wedi digwydd yn hawdd drwy ddarllen u am n. Ar y darlleniad hwn a gwallau cyfieithu eraill yn y testun, gweler ymhellach y Rhagymadrodd. a gwedy hynny y bu siampl dda i eraill: ef a ddoeth dolur o’i lygaid oni aeth rhuchen drostvn.105 drostvn Fe’i deellir yn ffurf lafar ar trostynt, drostynt; ceir yr un ffurf yn §44, a chymharer wrthvn yn §36 ac oeddyn yn §20. Marthin a gyhyrddodd ac ef a phinn bychan106 pinn bychan Ni ellir bod yn sicr pa fath o offeryn a olygir yma. Yn GPC Ar Lein dyfynnir yr ymadrodd hwn dan pìn2, ‘cwilsyn’ neu ‘stilws’, ond ceir erthygl arall ar gyfer pìn1, a all olygu ‘pin’ (yn yr ystyr ‘darn bychan main o ddur, &c.’) neu gyfeirio at amryw offer pigfain eraill. Y gair cyfatebol yn Vita S. Martini yw penicillo (penicillum/penicillus) neu’r sillafiad amrywiol pinicillo, neu peniculo (peniculus), gair sy’n perthyn yn agos i’r llall (SSVM §19(3); Halm 1866: 128), ac mae’n debygol mai’r hyn a olygir yw naill ai rhyw fath o offeryn offthalmig ar gyfer dodi meddyginiaeth ar friw, megis brwsh bach neu sbwnj, neu’r feddyginiaeth ei hun o bosibl (gw. LD s.v. pēnĭcillum, pēnĭcillus a pēnĭcŭlus; Roberts 1894: 13; SSVM 117; Fontaine 1967–9: 295, 886; Stancliffe 1983: 366).Yn y Vita nid oes ansoddair yn goleddfu penicillo/pinicillo/peniculo; ymddengys, felly, fod Siôn Trefor wedi adnabod terfyniad bachigol y gair Lladin a’i drosi’n bychan. Ond beth oedd ystyr yr elfen gyntaf, yn ei farn ef? Gallai fod wedi ei throsi yn pìn gan ystyried bod iddi un o’r ystyron a nodwyd uchod ar gyfer y ddau air Cymraeg; neu, fel arall, efallai’r cwbl a wnaeth oedd cadw neu Gymreigio’r elfen Ladin am na wyddai sut i’w throsi. Fel y nodwyd uchod, ceir pinicillo ymhlith darlleniadau amrywiol y Vita; fodd bynnag, gellid pin(n) o pen- hefyd; cf. tarddiad posibl pìn2‘cwilsyn, stylus’ o’r Hen Ffrangeg penne (efallai drwy Saesneg Canol) neu o’r Lladin penna (gw. GPC Ar Lein d.g. pìn2, lle nodir ymhellach y gallai e wedi troi’n i dan ddylanwad pìn1).
Mae’n amheus, felly, faint o gysylltiad sydd mewn gwirionedd rhwng y pinn hwn a’r naill neu’r llall o’r ddau pìn a drafodir yn GPC Ar Lein. Ar y llaw arall, y tebyg yw y byddai ymwybyddiaeth o’r geiriau hyn wedi effeithio ar sut y deellid y pinn bychan gan gynulleidfa’r fuchedd, a dyma pam y trosir y gair yn ‘?pen/pin’ yn y cyfieithiad Saesneg.
ac a’i gwnaeth yn iach ac yn ddi-ddolur.

§33

Amser arall, val yr oedd Varthin yn diesgyn y’w barlwr y syrthiodd drwy yr ysgol oni vriwodd yn ysic, val yr oedd lawer o weliav ar i gorff. Ac val yr oedd yn vawr i ddolur ac yn debic i varw, ef a welai y nos honno angel yn dyvod ato ac yn elio i holl weliav. Ac erbyn trannoeth yr oedd ef yn holl iach val pe buasai heb vriwo.

§34

A chann vod yn rhyhir i ni ysgrivennv kwbl o vuchedd a gwyrthie Marthin, ni a ysgrivennwn beth o’r pethav pennaf o wyrthiav Marthin mewn byrder, rhac blino darlleodron gan bethav rhyhir.107 A chann vod yn rhyhir … gan bethav rhyhir. Defnyddiwyd inc coch ar gyfer y frawddeg hir hon, fel pe bai i dynnu sylw at lais yr awdur; cf. ar ddiwedd §37 a hefyd y coloffon, ond gwrthgyferbynner y darnau yn llais yr awdur yn §§17, 18, 39, 40, 42, 45, 56, a ysgrifennwyd yn yr inc brown arferol.

§35

Pann ddoeth llawer o esgyb o ymravaelion wledydd att Vaxenianus108 Maxenianus Gwrthgyferbynner Maxemanus ar ddiwedd yr adran hon. Maximus yw enw’r ymerawdwr yn Vita S. Martini (SSVM §20), sef Magnus Maximus, Sbaenwr a fu’n ymerawdwr yn y gorllewin rhwng 383 a 388. Daeth yn arweinydd ar y lluoeodd Rhufeinig ym Mhrydain ac fe’i cyhoeddwyd yn ymerawdwr gan ei filwyr yno. Aeth i Gâl a disodlodd yr Ymerawdwr Gratian, a laddwyd wedyn (yn 383). Cydnabuwyd Maximus gan Theodosius I, a lywodraethai yn y dwyrain; ond ar ôl i Maximus fynd â’i luoedd i’r Eidal, gan yrru Valentinian II ar ffo, symudodd Theodosius I yn ei erbyn. Trechwyd Maximus mewn dwy frwydr ger Siscia a Pola, a’i ddienyddio yn Aquileia yn 388 (OCD 626, 888, 1458, ac ar Valentinian II, gw. hefyd n. 114 isod).Cyfeirir at hanes Maximus gan Gildas ac yn Historia Brittonum, ac roedd nifer o linachau brenhinol Cymru yn honni eu bod yn disgyn ohono (TYP 442). Ceir dau fersiwn gwahanol o’i hanes yn Historia Regum Brittaniae Sieffre o Fynwy ac yn y chwedl Gymraeg ‘Breuddwyd Macsen Wledig’ (Matthews 1983; TYP 442–3; WCD 434–5; Roberts 2005), a chyfeirir at ‘Macsen’ mewn barddoniaeth o’r ddeuddegfed ganrif ymlaen (Parry Owen 1997: 33; Parry Owen 2008: 62; GCBM i 16.88n; ac am gyfeiriadau barddol gan gydoeswyr i Siôn Trefor, gw. GG.net 53.22; GLGC 83.57, 97.73–6, 208.17). Fodd bynnag, nid oes dim yn y fuchedd sy’n awgrymu bod Siôn Trefor yn cysylltu Maxenianus/Maxemanus â Macsen Wledig. Gall mai ffrwyth camgopïo yw’r anghysondeb yn sillafiad ei enw yn y fuchedd, ond mae’n bosibl hefyd fod a wnelo’r gwahanol ffurfiau â dryswch mwy cyffredinol rhwng yr enwau Maximus, Maximianus a Maxentius (TYP 443; Matthews 1983: 439–43). amerodr Rhuvain, yr hwnn oedd wr gwyllt i natur a balch o’i vuddygoliaeth ar i giwdawdwyr, a phawb yn dywedud gweniaith wrtho drwy anwadalwch afrywioc heb goffav vrddas effeiriadaeth; ac yr oedd mewn Marthin vrddas ac owdurdod ebostylaidd, kanis yr dyvod ohono ef i ervyn negesav gan yr amerodr, kynt y gorchmynnai ef noc yr ervynniai; a phann wahoddes yr amerawdr ef y’w wledd, ef a ddyvod na chyd-vwydtai ef a’r amerodr a laddasai y llall ac a yrasai43 ac a yrasai LlGC 3026C ac a yrasai ac a yrasai; BL Add 14967, 134v, col. 1 (ll. 5) Ac a yrrasai. Mae nifer o wallau eraill yn yr adran hon yn LlGC 3026C a all fod yn ffrwyth diffyg canolbwyntio ar ran yr ysgrifydd; gweler y nodiadau isod. yr amerodr arall ar ffo o’r tir.109 a laddasai y llall ac a yrasai yr amerodr arall ar ffo o’r tir Sef yr Ymerawdwr Gratian, a laddwyd yn 383, a’i frawd Valentinian II (BSM 19n3, a gw. n. 108 uchod a n. 114 isod). Cyfeirir at yr olaf wrth ei enw (Valentinian Amerodr) ar ddiwedd yr adran hon. Ac yntav a ddyvod na chymerth110 cymerth Berf trydydd unigol gorffennol, er bod angen ei chyfieithu â’r gorberffaith yn y Saesneg; newidiwyd amser y berfau yn y frawddeg ddilynol (oedd, [l]las) yn yr un modd. ef yr ymerodraeth o’i vodd, namyn drwy i chy[m]ell44 i chy[m]ell LlGC 3026C i chynnell; BL Add 14967, 134v, col. 1 (llau. 8–9) ich/ymell. Diwygir darlleniad LlGC 3026C er mwyn yr ystyr, gan ddeall y ffurf yn wall copïo (un minim yn ormod), cf. mymych yn lle mynych yn §36. o’r marchogion i amddiffin y dyrnas val yr oedd ewyllys Duw. Ac yn arwydd ar hynny, od oedd vawr y vatel, ni las ynddi ond echydic o’r blaenoriaid. Ac o’r diwedd Marthin a ddoeth y’r wledd y naill ai wrthvyn111 y naill ai wrthvyn Dengys y treiglad i’r berfenw fod yr arddodiad i yn ddeelledig yma. Mae’n debygol iddo gael ei gywasgu â’r ai. yr amerodr ai45 ai Yn LlGC 3026C mae ai ar ddiwedd y llinell ac fe’i hailadroddir yn ddiangen ar ddechrau’r nesaf. Ni cheir yr un gwall yn y testun yn BL Add 14967 (134v, col. 1, ll. 16). Am wallau tebyg, gweler n. 9 (testunol). gorvod ohono ef a rhesswm. Llawen vv yr amerodr o hynny, a llawer o arglwyddi a oedd yn y wledd, nid amgen Iarll Evodius a iarll a elwid Preffectus,112 Iarll Evodius a iarll a elwid Preffectus Gwrthgyferbynner SSVM §20(4) praefectus idemque consul Evodius. Roedd Evodius yn praefectus (‘prefect’) ac yn consul, ond yn y testun Cymraeg camddehonglwyd praefectus yn enw priod gŵr arall. yr hwnn46 yr hwnn LlGC 3026C yrhwn, ar ddiwedd llinell; BL Add 14967, 134v, col. 1 (llau. 21–2) yr h/wn. Am wall tebyg gyda hynn, gweler §14 (n. 10 (testunol)). nid oedd neb gyfiownach noc ef, a dav iarll eraill gedyrn allvol: brawd yr amerodr a’i ewythr, vrawd i dad. Ac yn i kanol hwynt yr oedd effeiriad Marthin yn eistedd, ac yntav e hvn oedd yn47 yn Yn LlGC 3026C mae yn ar ddiwedd y llinell ac fe’i hailadroddir yn ddiangen ar ddechrau’r nesaf; cymharer gwall tebyg gydag ai yn yr un adran, uchod, a gweler n. 9 (testunol) am lithriadau eraill o’r math hwn. Ni cheir yr un gwall yn y testun yn BL Add 14967 (134v, col. 1, ll. 28). eistedd gann ystlys yr amerodr. Ac ef a roddes y kwpan a’r ddiod yn llaw Varthin i ddechrev atto.113 Ac ef a roddes y kwpan a’r ddiod yn llaw Varthin i ddechrev atto Cymerir atto gyda’r ymadrodd ef a roddes. A Marthin, pann ddarvv iddo yved, a estynnodd y kwpan att i effeiriad gann dybio nad oedd neb a ddylei yved o’i vlaen ef, kanis nad oedd gymesur gan Varthin roddi rhagor y’r brenin nac y’r vn o’i geraint rhac i effeiriad ef. Ac yr bod hynny yn ddiystyrwch ar y brenin a’i arglwyddi, ef a ryngodd bodd vddvnt y weithred honno. A honnaid vv y chwedl hwnnw: gwnevthur o Varthin yngwledd y brenin beth nis gwnaethoedd neb yngwleddav esgyb go issel. Marthin a ddyvod wrth yr amerodr, os ef a elai y’r Eidal, lle’r oedd i vryd ar vyned, y kae y vattel gyntaf ac yn yr ail y kollid ef. Ac velly bu: yn y vattel gyntaf y ffoes Valentinian Amerodr114 Valentinian Amerodr Sef Valentinian II, mab Valentinian I. Fe’i dyrchafwyd gan filwyr Aquincum, Pannonia Inferior (gw. n. 4), ar ôl marwolaeth ei dad, ond nis cydnabuwyd yn ymerawdwr y gorllewin nes i’w frawd Gratian gael ei drechu gan Magnus Maximus yn 383. Gyrrwyd Valentinian II o’r Eidal gan Maximus yn 387, ond daeth yn ôl i rym y flwyddyn ddilynol gyda chymorth Theodosius I gan deyrnasu hyd ei farwolaeth yn 392 (OCD 1531, ac ar Magnus Maximus gw. n. 108 uchod). a’i wyr, ac ar benn y vlwyddyn yn yr ail vattel y daliwyd Maxemanvs, ac y llas o vewn y dinas.115 y dinas Er nad enwir y lle yn y testun Cymraeg, y ddinas a olygir yw Aquileia (SSVM §20(9) intra Aquileiae muros ‘within the walls of Aquileia’), ger pen gogleddol yr Adriatig (OCD 129). Dienyddiwyd Magnus Maximus yno yn 388 (OCD 888, a gw. n. 108 uchod).

§36

Ysbys yw y byddai Varthin yn gweled yr engylion ac yn amddiddan ac wynt yn vynych, a hevyd ni allai y Kythrel ymgvddi[o]48 ymgvddi[o] LlGC 3026C ymgvddi. Ar hyn o bryd (2020) ceir croesgyfeiriad (ym- + cuddio) yn unig ar gyfer ymguddio yn GPC Ar Lein; yn yr erthygl ar gyfer cuddio ni nodir unrhyw ffurf ar y berfenw sydd heb o ar y diwedd. Cf. BL Add 14967, 134v, col. 2 (llau. 14–15) ymgud/Io. rhagddo kanis pa vodd bynnac y bai, ai yn i rith e hvn ai yn amravael rith, ef a’i gwelai Varthin ef. A phann wybu y Kythrel na allai dwyllo Marthin o’i ddichell, my[n]ych49 my[n]ych LlGC 3026C mymych. Fe’i deellir yn wall copïo (un minim yn ormod); cf. chynnell am chymell yn §35. Cf. hefyd BL Add 14967, 134v, col. 2 (ll. 19) mynych. yr amharchai ef a drygvoes. A diwyrnod ef a ddoeth y Kythrel y’r ystavell att Varthin, a thrwst mawr ffromart gantho, ac a chorn krevlyd yn i law, ac yn llawen vocsachus o’r weithred ddybryd a wnaethoedd. Ac ef a ddyvod yna wrth Varthin val hynn: ‘Mae,’ heb ef, ‘dy rinweddav di a’th allu? Myvi a leddais vn o’th dylwyth di.’ Ac yna Marthin a elwis i vrodyr atto ac a ymovynnodd ac wynt am bob vn o’i dylwyth ef, a pheri chwilio pob siamb[r]50 siamb[r] LlGC 3026C siamb; BL Add 14967, 134v, col. 2 (ll. 31) siamr. a orvc. Ac nid oedd yr vn o’r mynaich yn eisiav, nac o’r gwasanaethwyr eraill, eithr vn aethoedd y’r koed a menn ac ychen i gnvtta. Marthin yna a erchis myned yn i erbynn, ac wynt a’i kowsant ef yn emyl y vynachloc yn myned i varw. Ac ef a ddyvod wrthvn pan yw vn o’r ychen a’i lladdassai a’i gorn, ac ef yn gwasgv y ddol arno yn dynnach noc oedd. A’r awr honno y bu varw y gwas ievangk. A rhyvedd oedd pa achos y rhoddassai Dduw y meddiant hwnn y’r Kythrel, a Marthin yn gwybod o’r blaen lawer o’r kyfryw bethe ac yn yw dywedud y’w vrodyr: val y keisiodd y Kythrel drwy vil o voddav i dwyllo ef, y santaidd Varthin.

§37

Ac ymddangos a wnai iddo mewn amravaelion rithiav, weithiav yn rhith Iupiter, weithiav yn rhith Vinvs ac weithiav eraill yn rhith Menerva, ac yntav, Marthin, yn ddi-arswyd a amddiffynnai ef ehvn ac arwydd y groc ac a’i weddi. Mynych i klywid llvoedd o gythrevliaid yn dywedud drycvoes wrth Varthin ac yn i amherchi ac yr hynny ni chyffroai ef ddim. Rhai o’i vrodyr a dystioleythynt glowed ohonvnt y Kythrel yn ymliw a Marthin ac yn i geryddu am gymryd ohono y’r vynachloc, dan benyd, rai o’r brodyr a gollesynt ev bedydd achos ev pechodav; a chlywed hevyd y Kythrel yn mynegi pechod pawb, eithr Marthin yn ddwys ac yn gadarn a attebodd iddo val hynn: pan yw drwy droi i vywyd da y glanheir hen bechodav, a thrwy drvgaredd Dduw y glanheir pawb a beittio a’i bechodav. Ac yna, gyd a hynny, Marthin a griodd o hyd i benn116 Marthin a griodd o hyd i benn Am yr ystyr, cymharer GPC Ar Lein d.g. gweiddi o hyd pen (ei ben, &c.) ‘to cry out aloud’. ac a ddyvod wrth y Kythrel, ‘Pe tydi, beth brwnt, a beidivt ac eiriol ar ddynion wnevthur pechodav a chymryd ohonot adiveirwch am dy ddrwc, mi a lyvaswn, drwy y gobaith sydd ynof yn yr Arglwydd Iessu Grist, addo i ti drvgaredd.’ O Duw dec,117 O Duw dec Ar dreiglo ansoddair ar ôl enw priod, gweler TC 114. mor santaidd oedd y taeriad hwnnw o drugaredd yr Arglwydd, a’r lle ni allai ef roddi owdurdod drosto, ef a ddanngosai i ewyllis! Ac yr yn bod ni yn son llawer am weithredoedd y Kythrel, etto mae rhann vawr o’r ymddivan hwnn yn koffav rhinweddav a gwyrthiev Marthin, ac yn bethav teilwng y’w rhoddi mewn kof yn siampl i eraill rhac llaw i ochel drwc.118 Ac yr yn bod ni yn son … i ochel drwc. Defnyddir inc coch ar gyfer y frawddeg hon, fel yn achos §34 uchod (gw. n. 107).

§38

Gwr ievangk vrddasol a elwid Klarus119 Klarus Gwrthgyferbynner y sillafiad Klarius/Klarivs isod. Clarus a geir yn y Vita (SSVM §23(1, 4, 8)). Roedd y dyn ifanc, bonheddig hwn yn uchel ei fri gan Sulpicius a chan ei gyfaill Paulinus o Nola, ac mae’n debygol mai gan Clarus ei hun y clywodd Sulpicius yr hanes sy’n dilyn (Van Dam 1993: 14–15; Fontaine 1967–9: 989). Mewn un o’i lythyrau dywed Sulpicius fod Clarus wedi marw ychydig cyn Martin ac iddo ei weld mewn gweledigaeth yn dilyn ei feistr i’r nefoedd (Fontaine 1967–9: 324–7 (Epistulae II.2–6)). oedd wr bydol gynt, a gwedy hynny ef a wnaethbwyd yn effeiriad ac a edewis bob peth bydol ac a ddoeth att Varthin. A heb ohir, ef a dywynnodd i orvchelder ffyddlonnder rhinweddol, hyd pann wnaeth ef drigiant iddo yn agos at Varthin. A llawer o vynaich a ddoethant atto i drigo, ac ymysc y rhain y doeth mynach ievangk a elwid Antilius.120 Antilius LlGC 3026C antilius, ond ei enw yw Anatolius yn Vita S. Martini (SSVM §23(2); ni noda Halm (1866: 132) na Fontaine (1967–9: 302) unrhyw ddarlleniad amrywiol sy’n debyg i sillafiad y testun Cymraeg). A hwnnw di-valch ac vvydd a hynaws ar vryd pawb oedd. A gwedy i vod ennyd yn trigo gyd ac wynt, ef a ddyvod vod engylion yn arver o ymddivan ac ef. Ac nid oedd neb yn i gredv. Ac yna ef a ddyvod vod kennadav yn kerdded rhyngtho ef a Duw, ac ef a vynnai i gymryd yn vn o’r proffwydi. Eisioes ni ellid peri i Glarivs gredv dim iddo. Yntav a bregethodd i Glarivs o sori Duw wrtho, a chael ohono ddrwc ar i gorff am na chredai i sant, ac ef a ddyvod wrtho, ‘Wely, y nos honn yr envyn Duw i mi wisc wenn o’r nef, ac a honn amdanaf mi a vyddaf yn ywch121 ywch Ffurf ar y rhagenw meddiannol blaen ail lluosog; cymharer y ffurfiau ych, awch a nodir yn GPC Ar Lein d.g. eich (ceir y ffurf ych yn §48 a §55, isod). Yn y frawddeg ddilynol, fodd bynnag, ffurf ar yr arddodiad rhediadol i (‘ichwi’) yw ywch (gw. GPC Ar Lein d.g. i2), a gwrthgyferbynner hefyd ddefnydd ywch (y’wch yn y testun golygedig) i gynrychioli’r arddodiad i + y rhagenw mewnol ’(w)ch yn §48 a §55. plith. A hynny a vydd arwydd ywch mae rhinweddav122 rhinweddav Er cyfieithu ‘powers’, yn syml, cymharer yr ystyr ‘(yn y ll[uosog]) Grymoedd (nefol), yn enw. y seithfed o raddau’r angylion’ yn GPC Ar Lein d.g. rhinwedd (f). Mae’n debygol mai ystyr gyffelyb a fwriedid ar gyfer y gair (unigol) Lladin virtutem yn y Vita (SSVM §23(5); a gw. Stancliffe 1983: 154, 235). Am achosion eraill o gyfieithu gair Lladin unigol â gair Cymraeg lluosog yn y fuchedd hon, gweler n. 73. Duw wyf.’ A hir vv gan bawb am weled hynn. Ac ynghylch hanner nos, wynt a glowynt drwst mawr yn y vynachloc, ac yn ystavell y gwr ievangk hwnn y gwelid golevni mawr a thrwst a mvrmyr val rhai yn son. A phann ddarvv hynny, ef a ddoeth allan o’r ystavell ac a elwis atto vn o’r mynaich a dangos y wisc iddo. Synnv a wnaeth ar y mynach a galw y llaill atto, a chyd ac wynt y doeth Klarius. A galw am olevad a wnaethant ac edrych yn graff ar y wisc. Meddal oedd, a chynn wenned a’r eiry, eithr o ba rywogaeth llin nev wlan oedd, nis gwyddynt. Ac yna yr erchis Klarivs i bawb weddio ar ddanngos o Dduw vddvnt yn eglur beth oedd hi. Ac velly i trevliasant y darn arall o’r nos dan ganv seilym ac emynnav. A phann ddoeth lliw y dydd, Klarius a ymavaelodd yn llaw y mynach a’i lusgo tvac at Varthin, kanis ef a wyddiad na ellid drwy grefft kythrel dwyllo Marthin. Ac yna llevain a oruc y mynach a dywedud or[c]hymyn51 or[c]hymyn LlGC 3026C orthymyn. Gwall copïo, mae’n debyg; cf. gorchwyneb am gorthwyneb yn §21 (gw. n. 20 (testunol)), ac am achosion o ffurf arferol y gair yn y testun gweler n. 1 (testunol). Cf. hefyd BL Add 14967, 135v, col. 1 (ll. 30) orchymyn. iddo nad ymddangosai i Varthin. Yr hynny, ni pheidiasant a’i lusgo hettis o’r ffordd123 hettis o’r ffordd Yn llythrennol, ‘ychydig bach o’r ffordd’; gweler GPC Ar Lein d.g. hetys. at Varthin, oni ddiflannodd y wisc val na weled vyth. A hynny oedd o wyrthiav a santeiddrwydd Marthin Sant.

§39

Ac val yr oedd Varthin ddiwyrnod yn i ystavell yn gweddio Duw, y Kythrel a ddoeth atto y mewn gwisc vrenhinawl, a choron aur a main gwerthvawr am i benn ac ysgidiav evraid am i draed. A synnv a oruc Marthin. Ac yr i weled ar y golwc kyntaf, ni ddyvod yr vn wrth i gilydd ennyd vawr, eithr o’r diwedd y dyvod y Kythrel, ‘Ednebydd di vi, Marthin, kanis Krist wyf yn dyvod y’r ddaiar, ac yn mynnv ymddanngos i ti yn gyntaf.’ Tewi a wnaeth Marthin heb ateb iddo. Yna y dyvod y Kythrel, ‘Paham na chredy di ym, a thi yn gweled mae Krist wyf vi?’ Ac yna dyvod Marthin, ‘Nid mewn trwsiad euraid a choron ddisglair y dyvod Krist y devai y’r ddaiar. Ac ni chredaf vi oni welaf Grist yn yr vn trwsiad ac y bu yn dioddef ar y groc, ac ol y gweliav a gavas yn i draed a’i ddwylaw.’ Ac ar hynny i divlannod y Kythrel ymddaith megys mwc, a’r ystavell yn llawn drewiant a edewis yn i ol val nad amhevid mae kythrel oedd ac nad y gorvchaf Dduw. A hynn a wnn i vod yn wir herwydd i dyvod Marthin a’i enav e hvn.

§40

Ac am hynny nac amheved neb, kanis pann glowais i, a phann glybu eraill i ffydd ef a’i vywyd a’i wyrthiav,124 gwyrthiav Mae cyd-destun y gair yn caniatáu ei ddeall naill ai’n ‘galluoedd rhinweddol’ neu’n ‘digwyddiadau rhyfeddol’ (gw. GPC Ar Lein d.g. gwyrth). Fe’i cyfieithir yn ‘miraculous powers’ er mwyn cyfleu rhywfaint o’r ddwy ystyr bosibl; cymharer y gair unigol virtute yn y Vita a ddehonglir yn yr ystyr ‘power’ yng nghyfieithiad Burton (SSVM §25(1)). Cymharer hefyd n. 55 uchod, ar achosion lle’r ymddengys fod gw(y)rthiau yn cael ei drin yn air unigol o ran y gystrawen. ni a ddoethom i ymweled ac ef. A’m ewyllis i oedd ysgrivennv i vvchedd a’i vywyd yn y modd y klywn i bod yn wir o’i benn ef e hvn, ac eraill oedd yn bresennol yn i gweled ac yn gwybod i rinweddav ef. Ac ni chredai neb mor vvydd ac mor ddaionvs y derbynniodd ac i kroesawodd ni, drwy lywenydd mawr, a diolch i Dduw i vod ef yn gymaint ac mor gymeradwy gan Dduw ac i devai ddynion i bererindotta atto ef. A’n gwahodd a wnaeth y’w santaidd wledd, a rhoddi a’i law ynn ddwfr i ymolchi. A’r nos honno ef a olches yn traed.125 A’r nos honno ef a olches yn traed. Cymharer hanes yr Iesu yn golchi traed ei ddisgyblion yn Ioan 13.5. Mwyaf ymddiddan a wnai wrthym: kynghori i bawb ymado a’r pechod, a beichiav y byd, a chalyn yn rhydd yr Arglwydd Iessu Grist, a chymryd siampl wrth y gwr vrddasol, Pawlinvs,126 Pawlinvs Nodir yn y Vita (SSVM §25(4)) mai hwn yw’r Paulinus a grybwyllwyd o’r blaen, sef Paulinus o Nola (gw. §32 a n. 103). yr hwnn a ymwrthodes a’r byd ac a’i holl olud wrth orchymyn yr evengil, yr mwyn Duw. Ffynadwy a pharod oedd i atteb i orchestion yr evengyl a’r ysgrvthur lan. A chan vy mod i yn gwybod bod rhai yn anghredadvn yn y rhann honno, a hevaid y rhai y dywedais vy hvn wrthvnt, am hynny yr wyf vi yn galw Iessu yn d[y]st,52 d[y]st LlGC 3026C drist; BL Add 14967, 136r, col. 1 (ll. 28) drist. Diwygir er mwyn yr ystyr gan ddilyn BSM 25n1; cf. SSVM §25(7) Iesum testor. kan [n]a chlywais53 kan [n]a chlywais LlGC 3026C kanachlywais; BL Add 14967, 136r, col. 1 (ll. 28) kanachlowais. Mae peidio ag ysgrifennu n ddwywaith yn adlewyrchu ynganiad yr iaith lafar; cf. §22 kan [n]a allai (LlGC 3026C kana allai) a’r achosion eraill a nodir yn n. 21 (testunol). o enav neb gymaint o wybodav a synnwyr, nac mor ddaionvs ac mor bur a rhinweddev Marthin.127 nac mor ddaionvs ac mor bur a rhinweddev Marthin Mae’n debyg fod chwithigrwydd y darn hwn yn ffrwyth camgyfieithu. Cymharer y darn cyfatebol a’i gyd-destun ehangach yn y Vita: SSVM §25(7–8) ex nullius umquam ore tantum scientiae, tantum ingenii, tantum tam boni et tam puri sermonis audisse. quamquam in Martini virtutibus quantula est ista laudatio! ‘I have never heard from anyone’s mouth so much knowledge, such evidence of good abilities, such goodness, such purity of language. Although, compared with Martin’s miraculous powers, what slight praise is that!’ Ymddengys fod Siôn Trefor wedi deall quantula est ista laudatio yn ddechrau brawddeg newydd (Eisioes, pa vaint bynnac yw hynn o ganmol…) a’i fod hefyd, o bosibl, wedi camgyfieithu quamquam (‘er’, Saesneg ‘although’) fel pe bai’n quam (‘â’, Saesneg ‘as’; felly, … a rhinweddev Marthin). Eisioes, pa vaint bynnac yw hynn o ganmol, nid kymaint ac y dyleai Varthin. Eithr bod yn rhyvedd kael o wr nid oedd dra ysgolhaic y gwybodav hynn, ond nad oedd eisiav gras Duw arno bob amser.

§41

Bellach mae y llyfr hwnn yn nesav tva’i ddiwedd, nid oblegyd nad oes digon o ddaioni y’w ddywedud am Varthin, eithr ped ysgrivenid i wyrthiav ef oll, gormod llyfr vyddai. A’i weithredoedd da a’i veddyliav tva nef, ni ddoe neb i benn ac wynt, nid amgen i wastad drigiant mewn buchedd dda, i ardymherus128 ardymherus Cyfieithir yn ‘very self-restrained’ ar sail GPC Ar Lein d.g. ar- (rhagddodiad gyda grym cadarnhaol) a d.g. tymherus (b) ‘moderate, self-restrained’, yn hytrach na dilyn yn union yr ystyron a roddir ibid. d.g. ardymherus (a) ‘temperate (of climate, &c.), mild’ neu (b) ‘moderate, temperate; ?well-balanced (of person)’. ymoglud rhac pechodav, a’i allu i vnprydio ac i weddio Duw nos a dydd. Nid oedd iddo vn amser gwac wrth weddio Duw, val y gallai na bod yn segur na gwnevthur negessav bydol, nac ennyd i gymryd bwyd nac i gysgv, ond val y kymhellai i nattur arno. Ac yn wir, ef a ddywedir pe gallai yr ysgolhaic a’r ystoriawr mawr a elwid Hemerus129 Hemerus Sef Homer (SSVM §26(3) Homerus), y bardd Groegaidd y priodolir yr Iliad a’r Odyssey iddo (OCD 695–700). Mae’n debygol fod y disgrifiad ohono fel yr ysgolhaic a’r ystoriawr mawr wedi ei ychwanegu gan Siôn Trefor er budd ei gynulleidfa. ddyvod o vffern,130 dyvod o vffern Mae’n debygol y cyfeirir yma at uffern fel trigfan gyffredinol eneidiau paganiaid, yn hytrach na mynegi unrhyw feirniadaeth ar Homer yn bersonol. Yn Vita S. Martini cyfeirir ato’n dod ab inferis (SSVM §26(3), a gw. LD s.v. infĕrus, uminfĕri, ōrum ‘the inhabitants of the infernal regions, the dead’). ni vedrai draethv pob peth, kanis mwy yw i vuchedd ef noc y gellir i dyall mewn geiriav. Nid ai awr dros i benn ef ni bai yn darllain nev yn gweddio, a pha weithred bynnac a wnelai, ni thynnai i veddwl o weddio Duw. Ac val y mae arver gof yn i waith, yr esmwytho i lavur, kuro yr einion, velly y gwnai Varthin. Pann dybygid i vod yn gwnevthur peth arall, gweddio y byddai ef. O Dduw, mor vendigedic oedd y gwr hwnn! Nid oedd dwyll na malais yntho ef, ni varnodd ar neb, ni wnaeth ddrwc am ddrwc i neb. A’r lle’r oedd ef yn esgob, ac ysgolheigion go isel yn gwnevthur kam ac ef, yr hynny yr oedd ef mor ddioddevus ac na chosbai neb na gyrv neb o’i le nac i wrth i gariad, hyd pann oedd berthynol iddo vyned.

§42

Ni weles neb ef yn llidioc nac yn drist nac yn chwerthin, kanis yr vn gwr vyddai ef bob amser, a semlant nevol gantho vegys allan o natur dynion. Ni byddai yn i enav ond Krist a heddwch, nac yn i galhonn ond trvgaredd. A mynych y gweddiai dros bechod y rhai a vyddai a’i tavodav gwenwynic yn i oganv ac yn i gablv yn i apsenn – ac yn wir, ni adnabvom131 ni adnabvom Nid y geiryn negyddol ni(d) yw ni yma ond yn hytrach y rhagenw cyntaf lluosog ni. Fe’i defnyddid weithiau’n eiryn rhagferfol (GPC Ar Lein (a) d.g. ni1, cf. GMW 172), ond mae’n fwy tebygol mai’r gystrawen fwy cyffredin gyda’r geiryn a a fwriedid (cf., e.e., §40 ni a ddoethom). Mae’n bosibl fod yr a wedi ei hepgor am fod sain tebyg (a-) yn ei ddilyn. rai ohonvnt, yr nad oedd ond ychydic, ac, yshywaeth, esgyb oeddynt – o genvigen wrtho am i wyrthiav.132 gwyrthiav SSVM §27(3) virtutis ‘power’. Ar ddehongliad y gair Cymraeg, gweler n. 124. Eisioes nid rhaid henwi neb, yr kael ohonom vynych gyvarthiadav ganthvnt, kanis digon yw o darlleir yn i gwydd, wynt a gywylyddiant. Ac os llidio a wnant, addef yw hynny mae amdanvnt hwy i byddir yn son, yr yn bod ni yn meddwl am eraill. Ac o byddai neb yn kasav Marthin, diryvedd oedd gassav eraill.133 Ac o byddai neb yn kasav Marthin, diryvedd oedd gassav eraill. Hynny yw, pe bai rhywun yn casáu dyn mor ddaionus â Martin, ni fyddai’n rhyfedd iddo gasáu pobl eraill megis yr awdur (Sulpicius) ei hunan. Eithr yr wy[f] vi54 yr wy[f] vi LlGC 3026C yr wy vi, BL Add 14967, 136v, col. 1 (llau. 20–1) yrwy/vi. Mae darlleniadau’r llawysgrifau yn adlewyrchu ynganiad yr iaith lafar; cf. yr achosion a nodir yn n. 21 (testunol). Mewn mannau eraill yn y testun, fodd bynnag, ceir wyf (§§24, 39, 42) neu wyf vi (§§8, 10, 20, 39, 40, 44). yn gobeithio bod yn dda gan bob dyn santaidd y gwaith hwnn. A phawb ar a’i darlleo yn anffyddlon a becha. A mi[nn]av,55 mi[nn]av LlGC 3026C Mimav; BL Add 14967, 136v, col. 1 (ll. 24) minav. Gwall arall o ganlyniad i gamgyfrif minimau; cf. yr achosion a nodir yn n. 42 (testunol). drwy vy nghymell o’m ffydd a chariad ar Grist, a ysgrivennais y gwaith hwnn ac a ysbyssais bob peth val y bu yn wir. Ac yr wyf yn gobeithio bod tal ym yn barod gan Dduw ac i bawb a’i kretto ac a’i darlleo.134 a’i kretto ac a’i darlleo Cyfetyb y darn hwn i ddiwedd Vita S. Martini. Newidiwyd trefn y ddwy ferf yn y testun golygedig yn BSM 26.22 (ai darlleo ac ai kretto), efallai ar sail y testun Lladin, er bod yr ystyr ychydig yn wahanol yno (SSVM §27(7) non quicumque legerit, sed quicumque crediderit ‘not for any who read this work, but for any who believe’), neu efallai oherwydd ystyried bod cyfeirio at gredu cynnwys y fuchedd cyn ei ddarllen yn afresymegol. Fodd bynnag, efallai y rhoddodd Siôn Trefor kretto yn gyntaf er mwyn awgrymu yn ei ffordd ei hun mai credu oedd y peth pwysicaf, a hyn o bosibl yn adlewyrchu hefyd ei ymwybyddiaeth y byddai rhai yn clywed ei fersiwn ef o’r fuchedd yn cael ei ddarllen yn uchel yn hytrach na’i ddarllen drostynt hwy eu hunain.

§43

Marthin a wyddiad o’r blaen y dydd y byddai varw, ac a ddyvod wrth i vrodyr vod i gorff yn darvod ac yn gwanhav.135 Marthin … gwanhav. O’r frawddeg hon hyd at ddiwedd §46 mae’r testun Cymraeg yn tarddu o drydydd llythyr Sulpicius am Martin (Fontaine 1967–9: 336–45 (§§6–20)). Ac yna y damwyniodd iddo wnevthur visutoriaeth mewn lle o’i esgobaeth a elwid Kondatensys,136 Kondatensys Fontaine 1967–9: 336 (Epistulae III.6) Condacensem, sef Candes neu, erbyn heddiw, Candes-Saint-Martin; fe’i lleolir yng nghanolbarth Ffrainc, lle mae afon Vienne yn llifo i afon Loire. Yn ôl Gregori o Tours roedd Candes yn un o chwe phentref y sefydlodd Martin eglwysi ynddynt, a hynny, mae’n ymddangos, ar ôl iddo ddinistrio cysegrfannau paganaidd (Krusch and Levison 1885a: 32.1 (Historia Francorum X.31); Fontaine 1967–9: 1288n1; Stancliffe 1983: 332). Cyfeirir eto at Martin yn clafychu yn Candes yn §47 ([t]ref Condantansius, [t]ref Gondensus). kanis ysgolheigion yr eglwys honn oedd yn ymryson bawb a’i gilydd, ac yntav, yr bod yn hysbys gantho i ddiwedd, oedd yn chwynychu tangnevedd rhyngthvnt. Ac ni vewydiodd vyned yno, gan dybio bod yn dda diwedd i vuchedd ef o gydawai heddwch yn yr eglwysi. Ac val yr oedd yn myned yno, a’i santaidd gwmpain gyd ac ef o’i ddysgyblon, ef a welai mewn avon adar a elwid blorsiaid nev gwtiaid137 blorsiaid nev gwtiaid Un gair a ddefnyddir yma yn y testun Lladin, sef mergos (Fontaine 1967–9: 338 (Epistulae III.7)); gweler LD s.v. mergus, i ‘A diver, a kind of water-fowl’. Fel y nodir yn BSM 27n3, ceir diffiniad eang iawn ar gyfer y gair hwn yn Dictionarium Duplex John Davies, 1632: ‘Mergus, i, Enw cyffredin i lawer o for-adar. Mulfran, morfran, huccan, gwylan.’ Os oedd amrediad ystyron posibl y gair yn gyffelyb yn amser Siôn Trefor, nid oes rhyfedd iddo deimlo ansicrwydd a defnyddio mwy nag un gair Cymraeg i’w gyfieithu.Tardda cwtiad o’r Saesneg ‘coot’ yn ôl GPC Ar Lein d.g. cwtiad1, sy’n rhoi’r ystyron ‘cwtiar’ a ‘rhostog’ (Saesneg ‘coot’ and plover’). Fodd bynnag, o’r ddau aderyn hyn, y cyntaf yn unig sy’n nofio a phlymio mewn dŵr, ac nid yw’r naill na’r llall yn nodweddiadol am ei hoffter o fwyta pysgod, yn groes i’r disgrifiad a geir yn y testunau Lladin a Chymraeg. Mae’n werth ystyried, felly, ystyr arall a nodir yn OED Online s.v. coot, n.1 ‘1. A name originally given vaguely or generically to various swimming and diving birds. In many cases it seems to have been applied to the Guillemot (Uria troile) [Cymraeg ‘gwylog’], the Zee-koet or Sea-coot of the Dutch.’
O ran blorsiaid, ni cheir enghraifft arall o’r gair yn GPC Ar Lein. Cynigir yno yr ystyr ‘?mulfrain’ (Saesneg ‘?cormorants’), gan ddilyn awgrym petrus BSM 27n3 sy’n nodi bod yr adar hyn yn gysylltiedig yn gryf â glythineb (cf. OED Online s.v. cormorant). Maent yn nofio ac yn plymio hefyd, ac yn wahanol i’r gwylog maent yn arfer pysgota ar afonydd a llynnoedd yn ogystal ag ar yr arfordir.
Erys ansicrwydd mawr, ond os mulfrain (‘cormorants’) oedd blorsiaid, gallai’r gair cwtiaid fod wedi ei ychwanegu naill fel cyfystyr neu mewn ystyr fwy generig (efallai ‘adar dŵr’, ‘adar plymio’ neu ‘adar môr’).
yn ymlid pysgod ac yn gwnevthur dvnvstr vawr arnvnt. Ac yna dyvod Marthin wrth i ddysgyblon,56 ddysgyblon LlGC 3026C ddysgys: ar ddiwedd llinell a gyblon ar ddechrau’r nesaf; BL Add 14967, 136v, col. 2 (llau. 12–13) dd/Isgyblion. Am wallau tebyg gweler n. 9 (testunol). ‘Ar y modd hwnn y bydd y kythrevliaid yn daly ac yn llyngkv eneidiav rhai diwybod angall, ac ni ellir i llenwi yr a lyngkon.’ A thrwy eiriav da rhinweddol ef a orchmynnodd i’r adar ado yr avon a myned y’r diffeithwch sych. Ac velly i gorchmynnai ef yr adar val i gorchmynnai gythrevliaid ar ffo, a phoes yr adar yn vn kadw wrth i orchymyn. Y bu ryvedd57 Y bu ryvedd LlGC 3026C y bu ryvedd; BL Add 14967, 136v, col. 2 (ll. 23) y bu Ryvedd. Diwygir yn a bu ryvedd yn BSM 27.13. Fodd bynnag, er nad oes achos arall yn y testun o ddechrau brawddeg gyda’r geiryn rhagferfol y, cedwir darlleniad y llawysgrif yn y golygiad hwn. Cymharer yr achosion mewn testunau eraill a nodir yn GMW 171; GPC Ar Lein d.g. y2 1(b); Willis 1998: 122–3. gan bawb adnabod o’r adar gwylldion rinweddav Marthin.

§44

A gwedy trigo o Varthin ennyd yn y dref a ddywetpwyd vchod a gwnevthur heddwch a thangnevedd rhwng yr ysgolheigion, ef a veddyliodd vyned y’w vynachloc. Ac ar hynny ef a glyvychodd yn ddisyvyd. A phann weles ef hynny, galw i ddysgyblon a wnaeth atto a mynegi vddvnt vod i ddiwedd ef yn agos. Yna y klowid girad gwynvan a llevain gan ddywedud, ‘Yn Tad, paham y gedewy di ni yn amddivaid, ac i bwy i gorchmynny di nyni? Bleiddiav dywal a gyrchant am benn dy ddevaid ti, a phwy a’i gwahardd rhac i brathu, gwedy kolli yr hevsor? A ni a wyddom dy vod ti yn damvno myned at Grist kanis kadwedic vydd i ti dy dal a’th ddiolch, ac yr i hoedio ni byddant llai. Trvgarha yn gynt wrthym ni, y rhai yr wyt yn i gado.’ Ac yna y kyffroes Marthin o drvgaredd wrth i hwylovain, ac o drveni a gwarder ef a wylodd. A than droi i wyneb att yr Arglwydd, ef a atebodd yr wylovusion bobl ar y modd hwnn: ‘Vy Arglwydd, os rhaid y’th bobl di wrthyf vi, ni wrthodaf vy llavur. Bid dy ewyllis di, Arglwydd.’ Ac velly yr oedd ef gwedy ossod138 gwedy ossod Awgryma’r treiglad meddal ar ôl gwedy ei fod yn gywasgiad o gwedy a’r rhagenw trydydd unigol gwrywaidd i; cf. yr achosion a nodir yn n. 67. rhwng gobaith a chariad hyd na wyddiad haiach beth oedd orav, kanis ni vynai ymado a’r rhai hynn na bod a vai hwy i wrth Grist. Ac velly ni osodes ef ac nid edewis dim yn i ewyllys e hvn namyn gorchymyn y kwbl ymeddiant ac ymarn yr Arglwydd Iessu Grist. ‘Kyd boed digon i mi hynn o ymryson a’r byd, ac etto o gorchmynny di ym sevyll yn yr vn goval a’r vn llavur dros y tav di ni wrthodaf, yr vy henaint, gyflowni yn ddwyvol dy orchymyn di a rhyvelu dan dy arwyddion139 rhyvelu dan dy arwyddion Ceir adlais yma o yrfa filwrol gynharach Martin; cymharer yn arbennig ei eiriau wrth Iwlian Cesar, §8 ‘Mi a ryvelais gyd a thi; goddef ym bellach ryvelu gyd a Duw …’ tra gorchmynych. Ac yr bod yn ddamvnedic gan hen gael diolch ac esmwythdra yn ol i lavur, eisioes yr oedd yr ewyllis yn gorvod ar y blynyddoedd a heb vedrv kynhwyso henaint. Ac os tydi yr awr honn a eiriach yr oedran, vy Arglwydd, bid wrth dy ewyllys di a chadw y rhai yr wyf vi yn govalu drostvn.’

§45

O Duw dec, mor rhagorol oedd y gwr hwnn! Ni allai lavur na marvolaeth orvod arno, ac ni throe yn barotach at vn rhann mwy no’i gilydd. Ni ofnai varw ac ni wrthodai vyw. Ac yr trymed i glevyd, nid oedd ef yn peidio a gweddio Duw ddydd a nos yn effro, ac yn kymell i aelodav blinion i wasanaethv yr Ysbryd Glan. A gado a wnaeth wely vrddasol a gorwedd mewn gwisc rawn yn y llvdw. A phann ervyniodd i ddysgyblon iddo adv esmwytho i wely, mewn lle vrddasol, ‘Vy meibion,’ heb ef, ‘ni wedda i Gristion varw ond yn y llvdw,140 ni wedda i Gristion varw ond yn y llvdw Yn yr Oesoedd Canol, ymddengys fod mynaich Marmoutier, pan oeddynt ar farw, yn arfer gorwedd ar ludw a gedwid o ddydd Mercher y Lludw ac a daenwyd dros lun arbennig ar lawr capel y clafdy (Farmer 1991: 142). ac yr wyf vinnav yn pechu o gadaf amgen.’141 yr wyf vinnav yn pechu o gadaf amgen Cymharer Fontaine 1967–9: 340, 342 (Epistulae III.15) « …ego si aliud uobis exemplum relinquo, peccaui.» (Roberts 1894: 23 ‘ “… I have sinned if I leave you a different example.” ’). A hepgorwyd rhyw air fel siampl drwy amryfusedd? I ddwylaw a’i olwc a estynnodd tva nef oni ryddhae i ysbryd wrth i weddi, a phann ddoeth effeiriad i ervyn iddo adel i droi ar y naill ystlys, yntav a erchis vddvnt adel iddo ef edrych ar y nef yn gynt noc ar y ddaiar a gollwng i ysbryd i vyned ar hynt at i arglwydd. Ac ar hynny ef a welai y Kythrel yn sevyll yn agos atto. ‘Beth,’ heb y Marthin, ‘y sevy di yna, anivail krevlon? Ni chai di, beth brwnt, ddim bai ynof vi, kanis mynwes Abram142 mynwes Abram Fontaine 1967–9: 342 (Epistulae III.16) Abrahae … sinus. Ar y patriarch Abram neu Abraham, a ‘mynwes Abraham’ yn enw ar y nefoedd neu ar orffwysfan eneidiau cyfiawn, gweler ODCC 6; LD s.v. sĭnus, ūs II. 2.e.; DMLBS s.v. (2) sinus 4. d; OED Online s.v. Abraham … Abraham’s bosom. Tarddodd yr ymadrodd o hanes y cardotyn Lazarus yn Luc 16.22, y ceir cyfieithiad Cymraeg cynnar (1551) ohono yn nhestun William Salesbury, Kynniver Llith a Ban (Fisher 1931: liib Ac e ddamwyniodd i Lazar varw a chael e ddwyn can aggelon i vonwes Abraham; hwn yw’r achos cynharaf a ddyfynnir yn GPC Ar Lein d.g. mynwes … mynwes, &c., Abraham). a’m derbyn i.’ A chyd a’r gair hwnnw yr aeth i ysbryd y’r nef. A rhai a oeddynt yn bresennol yno a dystiolaethassant wrthym ni weled ohonvnt lywenydd y gwr bendigedic hwnn, a bod i wyneb yn tywynnv yn eglurach no’r golevni heb ysmot amliw ar i gnawd mwy no dyn bychan seithmylwydd. Yr i vod yn gwisgo rhawn ac yn gorwedd mewn llvdw yr oedd i gnawd ef yn burach no’r gwydr ac yn wynnach no’r lluwch.143 gweled ohonvnt lywenydd y gwr bendigedic hwnn … yn wynnach no’r lluwch Mae darlleniad y testun Cymraeg yma yn sylweddol wahanol i’r hyn a geir yn llythyr Lladin Sulpicius fel y’i cyhoeddwyd yn nhestunau golygedig Halm (1866: 149–50) a Fontaine (1967–9: 342) (Epistulae III.17; cf. Roberts 1894: 23), ond mae’n bur debyg i ddarlleniadau amrywiol a nodir gan Halm (1866: 149–50).

§46

Ni chredai neb vaint o bobl o’r dinesydd a’r gwledydd o bob tv a ddoethant y’r gwasanaeth, ac wrth gladdv y korff, O Dduw, vaint y gwynvan oedd yno!144 wrth gladdv y korff, O Dduw, vaint y gwynvan oedd yno! Yn ôl Gregori o Tours, claddwyd Martin ar 11 Tachwedd 397 (Stancliffe 1983: 116–17). Ac yn enwedic wylovain mynaich a ddoethesynt yno, vwy no dwy vil, y rhai drwy i siampl ef a ffrwythlonasant yngwasanaeth Duw; a hevaid llawer o weryddon krevyddol a oedd yn ymgadw rhac wylo, gan dybio mae gweddusach oedd wnevthur llywenydd dros y gwr a dderbyniasai yr Arglwydd yn i arffed. Ac velly y ffydd a vynne waravvn wylo a chariad a vynnai wylo. Eithr gweddus yw wylo gyda[’r] rhai58 gyda[’r] rhai LlGC 3026C gyda Rai; BL Add 14967, 137v, col. 2 (llau. 18–19) gyda rra/i. Cymharer yr ymadrodd gyd a’r rhai llawen sy’n dilyn, a’r achosion eraill lle’r ymddengys fod ’r y fannod wedi ei hepgor dan ddylanwad yr iaith lafar (§17 a[’r] rhai hynaf, o[’r] rhai hynny (LlGC 3026C A Rai hynaf, o Rai hyy)). Cymharer hefyd yr achosion tebyg a nodir yn n. 21 (testunol). trist galarvs a llawenhav gyd a’r rhai llawen, kanis teilwng oedd wylo am Varthin a theilwng yw llawenhav amdano, kan oedd gariadus gan Dduw a dynion.

§47

Pann oedd Arkadius145 Arkadius Roedd Arcadius yn fab hynaf Theodosius I ac fe’i dyrchafwyd yn Awgwstws gan ei dad yn 383. Pan fu farw Theodosius, yn 395, fe’i holynwyd gan Arcadius yn y dwyrain a chan ei fab ieuengaf, Honorius, yn y gorllewin; bu farw Arcadius yn 408 (OCD 135, 1458). ac Omorius146 Omorius Diwygir yr enw yn Onorius yn BSM 30.5 (cf. Krusch and Levison 1885a: 32.1 (I.48) Honori; ni nodir unrhyw ddarlleniad amrywiol, ibid., sy’n debyg i sillafiad y testun Cymraeg). Roedd Honorius yn frawd iau i Arcadius (gw. n. 145), a’r ddau’n feibion i Theodosius I. Dyrchafwyd Honorius yn Awgwstws gan ei dad yn 393 a theyrnasai yn y gorllewin o 395 ymlaen. Ond ar ôl bod dan ddylanwad ei raglyw, Stilicho, gadawodd i’w rym gael ei drosglwyddo i eraill, gan gynnwys Constantine III. Bu farw Honorius yn 423 (OCD 704, 1401). yn amerodron yn Rhuvain, ac Artikus147 Artikus Diwygir yr enw yn Attikus yn BSM 30.6 (cf. Krusch and Levison 1885a: 32.5 (I.48) Attico; ni nodir unrhyw ddarlleniad amrywiol, ibid., sy’n debyg i sillafiad y testun Cymraeg). Roedd Nonius Atticus Maximus a Flavius Caesarius (gw. n. 148) yn gonsuliaid yn 397, sef y flwyddyn pan fu farw Martin (Van Dam 1993: 206n22). a Sisar148 Sisar Diwygir yr enw yn Sisar[ius] yn BSM 30.6 (cf. Krusch and Levison 1885a: 32.5 (I.48) Caesarioque ‘a Caesarius’). Cyfeirir at Flavius Caesarius, dyn a oedd (fel Nonius Atticus Maximus; gw. n. 147) yn gonsul yn 397, sef y flwyddyn pan fu farw Martin (Van Dam 1993: 206n22). yn gonsuliaid, santaidd esgob Turwyn,149 esgob Turwyn Gweler §16 a n. 59. yr hwnn oedd lawn o rinweddav santaidd ac yn rhoi i gleivion ddaioni a gwaredav i lawer, a aeth att hanner nos duw Sul ynhref Condantansius⁠150 tref Condantansius Gweler n. 136. yr vnved vlwyddyn a phedwar vgain o’i oed, a’r chweched ar hvgain wedy i wnevthur yn esgob.151 yr vnved vlwyddyn a phedwar vgain o’i oed, a’r chweched ar hvgain wedy i wnevthur yn esgob Gwnaethpwyd Martin yn esgob c.371 a bu farw yn 397; mae ei brif ŵyl yn coffáu dyddiad ei angladd, sef 11 Tachwedd yn y flwyddyn honno. A llawer a glybu yr amser hwnnw engylion nef yn kanv pann glyvychodd Marthin ynhref Gondensus.

§48

Gwyr Putayn⁠152 Putayn Sef Poitiers; gweler n. 36 (ar esgob Putanesis) a chymharer y cyfeiriadau isod at Pataniaid a Pictaniaid (gw. n. 153). a gwyr Turwyn a ddoethant wrth i varvolaeth. A phan vv varw, mawr vv yr ymryson rhwng y bobl hynn am i gorff ef. Y Pataniaid153 Pataniaid Sef gwŷr Poitiers; gweler n. 36 a cf. gwyr Putayn ar ddechrau’r adran. Diwygir y gair yn Puteniaid yn BSM 30.15–16, efallai ar sail cymhariaeth â Putayn. Posibilrwydd arall yw bod Pataniaid yn wall am Pictaniaid, gair a ddefnyddir am y bobl hyn deirgwaith yn yr adran nesaf; cymharer hefyd destun Historia Francorum lle ceir Pectavi neu Pictavi yn air cyfatebol mewn gwahanol fersiynau llawysgrif (Krusch and Levison 1885a: 32–3 (I.48), a gw. yr aparatws, ibid.). Ni cheir yr un o’r ffurfiau Cymraeg uchod (Pataniaid, *Puteniaid, Pictaniaid) yn yr ystyr ‘gwŷr Poitiers’ yn GPC Ar Lein, ac er nodi puteniaid yn ffurf luosog ar yr enw cyffredin putain (gan ddyfynnu enghraifft o gyfieithiad William Salesbury o’r Testament Newydd, 1567) mae’n amlwg nad yr ystyr hon a fwriedid gan Siôn Trefor. a ddywedasant, ‘Mynach i ni vv Varthin ac abad, ac yr ydym yn disyvv kael i gorff kanis digon i chwi gael ymddiddan ac ef tra vv yn y byd a chael i ddiwedd a’i vywyd y’wch kadarnhav o’i vendith, a thros benn hynny ych llawenhav o’i rinweddav.154 rhinweddav Am yr ystyr ‘miracles’ (yn hytrach na ‘virtues’), cf. y frawddeg nesaf ond un (y rhinweddav a wnaeth ef gyd a ni) a gweler GPC Ar Lein d.g. rhinwedd (e) ‘Gweithred ardderchog neu ryfeddol, gwyrth’. Gedwch i ninnav bellach gael y korff dienaid.’ Ac yn erbyn hynny y dywedasant hwyntav, gwyr Turwyn, ‘Od ydywch yn dywedud mae digon i ni y rhinweddav a wnaeth ef gyd a ni, gwybyddwch mae mwy vv i weithredoedd gyd a chwychwi no chyd a nyni, kanis ef a gyvodes dav o’i varw i vyw gyd a chwi, ac vn gyd a ninnav. Ac val i dyvod i hvn yn vynych, mwy vv i wyrthiav ef kynn i vyned yn esgob no gwedy. Ac am hynny, rhaid yw kyflenwi yn varw yr hynn nis kyflenwis yn vyw. I wrthywchwi y dukpwyd ef, a Duw a’i rhoes ynni.155 ynni Sef ffurf cyntaf lluosog yr arddodiad rhediadol i, nid yr enw ynni ‘egni, grym’ (cf. nobis ‘i ni’ yn Krusch and Levison 1885a: 33.1 (I.48)). Darlleniad y llawysgrif yw yn ni. Ac yn wir, os hen ddevod a gynhelir drwy orchymyn Duw, ef a gaiff i vedd yn y dinas lle yr ordeiniodd ef yn esgob.156 lle yr ordeiniodd ef yn esgob Diwygiwyd y ferf yn ordeiniwyd yn BSM 30.31, gan gyfeirio at y darlleniad Lladin cyfatebol ordenatus est (Krusch and Levison 1885a: 33 (I.48)). Fodd bynnag, ac ystyried y rôl weithredol a briodolir i Dduw yn y rhan flaenorol o’r araith, mae’n bosibl mai ef yw goddrych y ferf ordeiniodd, a’r rhagenw ef, yn cynrychioli Martin, yn wrthrych iddi. Ac os perchenogi157 perchenogi Yn GPC Ar Lein d.g. perchnogi dyfynnir y darn hwn o fuchedd Martin yn enghraifft gynharaf o’r gair o dan yr ystyr ‘meddu (ar)’, ‘meddiannu’, ac yn y blaen, a gefnogir gan gryn nifer o achosion eraill o tua chanol yr unfed ganrif ar bymtheg ymlaen. Fodd bynnag, nodir yno ail ystyr, ‘arddel, hawlio, honni’, sy’n ymddangos yn fwy addas yng nghyd-destun y darn er mai dim ond dwy enghraifft a ddyfynnir, a’r ddwy yn dyddio o’r ail ganrif ar bymtheg. Cymharer hefyd Krusch and Levison 1885a: 33.3–4 (I.48) vindecare (gw. LD s.v. vindĭco ‘to lay legal claim to’, ‘to lay claim to as one’s own’). y korff yr ydych chwi wrth vraint y vynachloc, gwybyddwch chwi mae ymysc gwyr Melan⁠158 Melan Gweler n. 43. y bu iddo vynachloc gyntaf.’ Ac val hynn y buant yn dadlav ac yn ymryson oni vv nos.

§49

Ac yna y gossoded y korff yn y kanol rhwng y ddwy blaid i aros y dydd. A’r Pictaniaid a roddasant i bryd, pann geffynt liw dydd, vyned a’r korff drwy i kedernyd i ar y llaill. Eithr yr Hollgywaethoc Dduw ni vynnai vod dinas Turwyn heb patrwn. Ef a ddamwyniodd syrthio kysgv ynghylch hanner nos ar y Pictaniaid, hyd nad oedd vn onaddvnt yn effro. A phann weles y blaid arall hwynt velly, ysgyflaid y korff benndigedic drwy ffenestr allan at i kydymddeithion a wnaethant. A hwyntav a’i dvgant y’r llong. Ac ar hyd y dwr159 y dwr Ni nodir yn y fuchedd Gymraeg pa ddŵr a olygir, ond yn Historia Francorum esbonnir bod corff y sant yn cael ei gario ar hyd afon Vienne ac wedyn ar hyd afon Loire i ddinas Tours (Krusch and Levison 1885a: 33.11–13 (I.48); Thorpe 1974: 98). Crybwyllir afon Loire wrth ei henw yn gynharach yn y fuchedd Gymraeg, fodd bynnag, wrth ddisgrifio lleoliad abaty Marmoutier y rhwng kraic vchel ac avon Leyr (§17). yr aethant dan ganv, a thrwy lywenydd mawr yr aethant tua dinas Turwyn. A chan y kanv hwnn y deffroes y Pictaniaid. A phann welsant y trysor y buesynt yn i gadw gwedi golli,160 gwedi golli Awgryma’r treiglad meddal ar ôl gwedi fod hwn yn gywasgiad o gwedi a’r rhagenw trydydd unigol gwrywaidd i; cf. yr achosion eraill a nodir yn n. 67. hwynt a aethant adref drwy gywilydd mawr. A hynn oedd ddevddeng mylynedd a phedwar kant gwedy dioddef o’n arglwydd ni, Iessu Grist.161 A hynn oedd ddevddeng mylynedd a phedwar kant gwedy dioddef o’n arglwydd ni, Iessu Grist. Hynny yw, 412 o flynyddoedd ar ôl i’r Iesu ddioddef ar y groes. Nodir yr un rhif yn Historia Francorum (Krusch and Levison 1885a: 34.3 (I.48)) ond mae’r ddau destun yn hanesyddol anghywir, oherwydd gwyddys y bu farw Martin yn 397.

§50

Sevirus,162 Sevirus Sef yr Esgob Severinus o Köln; cf. Krusch and Levison 1885b: 140.6 (I.4) Beatus … Severinus, a gweler Van Dam 1993: 207n23. Tardd yr adran hon a’r rhai sy’n dilyn, ac eithrio’r coloffon (§57), o lyfr Gregori o Tours, Libri de virtutibus sancti Martini episcopi, I.4–6 (Krusch and Levison 1885b: 140–2; Van Dam 1993: 206–9). sant ac esgob dinas Kwlen,163 dinas Kwlen Sef dinas Köln yn yr Almaen (Krusch and Levison 1885b: 140.6 (I.4) Colonensis civitatis). Sefydlwyd esgobaeth Köln naill ai yn ystod teyrnasiad yr Ymerawdwr Custennin Fawr (m. 337) neu cyn hynny (ODCC 380). gwr glan i vywyd a chanmoledic oedd ar bob peth. Yr vn Sul y bu varw Marthin, val yr oedd ef a’i ysgolheigion gyd ac ef yn amgylchynv lleoedd bendigedic, val yr oedd arver gantho, ef a glywai lef vwch i benn a’r kanvev tekaf a digrivaf o’r byd. A govyn a wnaeth y’w arthiagon164 arthiagon Ceir yr un sillafiad isod, yn yr un adran. Mae’n eglur fod y gair yn cyfeirio at archddiacon (cf. archidiacono ac archidiaconus yn Krusch and Levison 1885b: 140.9, 21 (I.4)) ac yn wir rhoddir y ddwy ffurf, archiagon ac arthiagon, yn amrywiadau yn GPC Ar Lein d.g. archddiacon, er nodi y gall yr ail fod yn wallus (un enghraifft yn unig a roddir yno, a honno o ‘Brenhinoedd y Saeson’). Byddai’n hawdd camgopïo c yn t, ac ymddengys fod achosion eraill o gymysgu rhwng y ddwy lythyren yn y fuchedd, cf. gorchwyneb yn lle gorthwyneb yn §21, a [g]orthymyn yn lle [g]orchymyn yn §38. Diwygiwyd y ddau achos hynny yn y testun golygedig (gw. n. 20 (testunol), n. 51 (testunol)) ond cedwid arthiagon am mai hon yw’r unig ffurf a ddefnyddir yn y testun ac am fod achos mewn testun arall (er ei bod yn bosibl fod y tri achos yn wallus). a glywai ef y gyfryw. Ac yntav a ddyvod nas klywai. ‘Gwrando,’ heb y sant, ‘a vo gwell.’ Ac yntav a estynnodd i wddyf ac a sevis ar vlaenav i draed a rhoi i bwys ar i ffonn, ac ni chlywai ddim. Ac yna y syrthiodd yr esgob ac yntav ar ev gliniav, ac adolwc i Dduw ganhiadv o’i drvgaredd iddo glowed hynn. A phann gyvodes i vyny i govynnodd yr esgob iddo beth a glwai.165 clwai Ffurf gywasgedig ar clywai (trydydd unigol amherffaith y ferf clywed), a all ddangos dylanwad yr iaith lafar; cymharer BDewi (Pen 27ii) §25 a ffa beth bynac a welsoch nev a glwsoch genyf i. Ac yntav a ddyvod pan yw lleverydd kanvav nevol a glywai, ‘Eithr beth yw hynny, nis gwnn.’ ‘Mi a’i dywedaf ytt,’ heb yr esgob. ‘Marthin Esgob, a’m harglwydd i, aeth o’r byd hwnn, ac engylion dan ganv sydd yn i ddwyn i nef. Ac val y klywid y kanv hwnn, y Kythrel a’i engylion enwir a broves i lestair, ac am na weles dim o’i rann ef yntho, ef a ffoes yn gywylyddus. O Iessu, beth a vydd ini bechaduriaid trvain, pann vai y gelyn enwir yn keisio drygv effeiriad mor santaidd a hwnn?’ Ac ar hynny ir anvones yr arthiagon gennad ar vrys hyd yninas Turwyn i geisio ysbysrwydd am Varthin. A phob peth yn wir a gad166 cad Un o ffurfiau gorffennol amhersonol y ferf cael (GMW 149). val i dywedasai Sevirus Sant.

§51

Yn yr amser hwnnw yr oedd Sant Ambros167 Sant Ambros Etholwyd Ambrose yn esgob Milan yn 374 ar ôl marwolaeth Auxentius (arno, gw. §12 a n. 50); yn wahanol i’w ragflaenydd, roedd yn gwrthwynebu Ariaeth (SSVM 182). Noda Van Dam 1993: 207n24 ei bod yn rhaid ystyried y darn sy’n dilyn yn hanes apocryffaidd oherwydd bu farw Ambrose ym mis Ebrill 397, saith mis cyn marwolaeth Martin. yn esgob yMelan, ac arver oedd gantho pann vai yn dywedud i wasanaeth dduw Sul, na lyvasai neb ddarllain oni amneidie ef arno. A’r vn Sul hwnnw, gwedy darllain y wers broffwydol,168 y wers broffwydol Cf. Krusch and Levison 1885b: 141.4–5 (I.5) prophetica lectione, ac OED Online s.v. propheticprophetic lesson ‘(after post-classical Latin lectio prophetica a reading of the Old Testament prophets (4th cent.), the Old Testament lesson at Mass (9th cent. or earlier)) a reading from one of the books of the Old Testament, esp. when given as the first lesson at the Eucharist or Mass.’ [a’]r hwnn59 [a’]r hwnn LlGC 3026C yor, a’r o wedi ei hysgrifennu (mae’n ymddangos) dros y wreiddiol (cf. BL Add 14967, 138r, col. 2 (ll. 31) yr hwnn), ond mae angen darllen ar (‘a’r’) er mwyn cael synnwyr (cf. BSM 32.17 ar hwnn). Efallai fod yr y wedi ei newid yn o oherwydd ystyried bod yr o yn dynodi ‘goddrych’ y berfenw darllain sy’n ei rhagflaenu (gw. GPC Ar Lein d.g. o1, 4(a), a cf. gwedy dioddef o’n Arglwydd ni, ar ddiwedd §49), ond o ddarllen ymlaen gellir gweld na thycia hyn. oedd yn goddef darllain gwers Bawl Ebostol169 Pawl Ebostol Sef Sant Pawl, un o apostolion Crist; daeth â’r efengyl i Ewrop a’i adnabod fel ‘Apostol y Cenhedloedd’ (gw. ymhellach BPawl). yn sevyll gar bronn yr allor, ef a ddamwyniodd y’r santaidd esgob Ambros gysgv ar yr allor gysegredic. Ac ni lyvasodd neb i ddeffroi hyd ymhenn dwy awr nev dair. Ac yna deffroi a oruc. Ac yna y dywetpwyd wrtho, ‘Perwch ddarllain y wers. Mae yr awr170 awr Efallai y dylid deall y gair yn yr ystyr ‘Amser penodol i weddio’ (gw. GPC Ar Lein d.g. awr1 (c)). yn darvod a’r bobyl yn blino yn aros.’ ‘Na ddigiwch ddim,’ heb yr Ambros, ‘kanys ef a dalai i mi lawer y kysgv hwnn, gan vod yn wiw gan Dduw ddanngos i mi rhyw60 rhyw LlGC 3026C Ryw; cf. BL Add 14967, 138v, col. 1 (ll. 7) Ryw. Newidiwyd R yn rh yn y golygiad, er cysondeb (gw. y Nodyn ar drawsysgrifiad), er disgwyl treiglad meddal yma; cf. ef a dalai i mi lawer, yn yr un frawddeg. wyrthiav a welais. A gwybyddwch chwi vyned Marthin vy mrawd i att Dduw a’m bod innav yn dywedud gwasanaeth vwch benn i gorff. A mi a wnevthv[m]61 A mi a wnevthv[m] LlGC 3026C A mi awnevth:/vn; BL Add 14967, 138v, col. 1 (ll. 11) ami awnevthvm. Ymddengys darlleniad LlGC 3026C yn wall arall o ganlyniad i gamgyfrif minimau; cf. chynnell am chymell yn §35, mymych am mynych yn §36, a Mimav am minnav yn §42. benn o gwbl ar y gwasanaeth val yr oedd arver, ond y kapitelwm,171 kapitelwm Cymreigiad o’r Lladin capitellum (cf. Krusch and Levison 1885b: 141.13 (I.5)), sef gweddi cyfryngol (‘intercessory prayer’) seiliedig ar adnodau o’r Ysgrythur (Taft 1993: 104–5; Woolfenden 2010: 52). Ni cheir y gair yn GPC Ar Lein, ond cf. ibid. d.g. cabidwl, capidwl 2 ‘pennod (mewn llyfr), llith (yng ngwasanaeth yr Eglwys)’, a hwn yn air benthyg o’r Lladin capitulum sy’n perthyn yn agos i capitellum (gw. LD s.v. căpĭtellum, i, a căpĭtŭlum, i). pann ddeffroasoch vi.’ A synnv a wnaeth ar bawb y chwedyl hwnn ac anrhyveddu,172 a synnv a wnaeth ar bawb y chwedyl hwnn ac anrhyveddu Ar y gystrawen, gweler n. 72. dan ev kynnal yn ev kof y dydd a’r amser, ac ymovyn yn bryssur hyd pann gowsant wirionedd am bob peth.

§52

O Dduw, mor vendigedic oedd Varthin Sant, yr hwnn yr oedd aneirif o engylion yn kanv ac yn llawenhav ar i vynediad o’r byd, a holl luoedd nevol gedernyd yn kyvarvod ac ef! Y Kythrel a’i valchder a ddiffeithiwyd, yr Eglwys a gadarnhawyd, effeiriaid a lawenhawyd am y weledigaeth honn am Varthin, yr hwnn a ddyrchavodd Mihangel173 Mihangel Sef Sant Mihangel yr Archangel, a ystyrid yn gynorthwywr i fyddinoedd Cristnogol, yn amddiffynnwr i Gristnogion unigol ac yn un a hebryngai eneidiau’r meirw at Dduw (ODCC 1089). a’r engylion i vyny, ac a erbynniodd Mair174 Mair Y Fendigaid Forwyn Fair, mam yr Iesu. Derbyniwyd ei henaid a’i chorff i’r nefoedd pan ddaeth ei bywyd ar y ddaear i ben, yn ôl athrawiaeth y ceir y dystiolaeth gynharaf amdani yn y bedwaredd ganrif, ac a osodwyd allan gan Gregori o Tours yn y chweched ganrif (ODCC 118–19, 1053–4). a chor o weryddon gyd a hi; a pharadwys yn llawen yn i atal ymysc saint.

§53

Pedair blynedd a thrugain gwedy myned y santeiddiaf Varthin y’r nevoedd, yr oedd wr santaidd rhinweddol a elwid Perpettuwus175 Perpettuwus Cf. Krusch and Levison 1885b: 141.25 (I.6) Perpetuus; mae’n debygol mai gwall copïo yw’r ffurf [P]etetuwus yn §54 isod. Roedd Perpetuus yn esgob Tours rhwng c.461 a c.490 a bu’n weithgar yn hybu cwlt Martin (gw. y Rhagymadrodd). yn esgob yNhurwyn, lle buasai Varthin yn esgob o’r blaen. A’r gwr da hwnnw a roes i vryd a’i eddvned ar amylhav yr eglwys vwch benn korff Marthin o vaint a thegwch, ac yn vrddasach noc yr oedd, ac ordeinio lle anrrydeddus i osod i gorff benndigedic. A hynny a orffennodd ef yn dec ac yn berffaith. Ac yna ef amkanodd gysegrv y demyl176 y demyl Dyma’r unig achos yn y fuchedd hon lle cyfeiria’r gair temyl at eglwys Gristnogol yn hytrach na theml baganaidd (gthg. §§20–3, a gw. GPC Ar Lein d.g. teml). Diau fod a wnelo hyn â defnydd y gair Lladin cyfatebol, templum, yn y gynsail, er cyfieithu’r un gair (templi) yn eglwys yn y frawddeg flaenorol (gw. Krusch and Levison 1885b: 142.2, 5 (I.6)). Efallai fod Siôn Trefor yn ystyried bod angen cyfieithu’n eglwys yn yr achos cyntaf hwn er mwyn gwneud yr ystyr yn eglur, ond iddo ddewis temyl ar gyfer yr ail achos er mwyn amrywiaeth neu er mwyn cadw mor agos â phosibl at y testun Lladin gwreiddiol. hono a symvdo y korff62 korff LlGC 3026C kororff; BL Add 14967, 138v, col. 2 (ll. 8) korff. bendigedic yr lle yr ordeiniesid iddo.

§54

A’r dydd a osoded i hynny, nid amgen no’r dydd kynntaf o vis Gorffennaf, galw atto a oruc Betetuwus Sant177 Petetuwus Sant Mae’n debygol fod y ffurf hon yn wall am Perpet(t)uwus; gweler n. 175. holl esgyb ac abadav y gwledydd gyd ac aneirif o ysgolheigion ar yr achos hwnn. A gwilio a gweddio Duw a Marthin a wnaeth pawb y nos o’r blaen. A thrannoeth y borev dadkladdu y bedd a wnaethant, hyd pann ddoethant att yr arch lle’r oedd y trysor bendigedic. Ac yna yr holl gynvlleidva a roddasant i dwylaw a’i holl nerthoedd i geisio kyvodi yr arch i vyny o’r ddaiar, ac ni thygiodd vddvnt. A’r nos honno gwilio a wnaethant a gweddio. A thrannoeth provi symvdo yr arch, ac nis gellynt. Synn vv ganthvnt hynny ac ofni a wnaethant yn vawr, hyd na wyddynt beth a ddy[l]ent63 ddy[l]ent LlGC 3026C ddyent; BL Add 14967, 138v, col. 2 (ll. 28) ddylent. i w[n]evthur.64 w[n]evthur LlGC 3026C wevthur; BL Add 14967, 138v, col. 2 (ll. 28) wnevrthur. Ac ar hynny i dyvod vn o’r ysgolheigion wrthvnt, ‘Pani wyddoch chwi mae trennydd yw kyvenw y dydd y gwnaethbwyd Marthin yn esgob? Ac ef a ddamwyniai mae y dydd hwnnw y mynnai ef gyvodi i esgyrn.’ Ac ar hynny yr holl bobl a vwriasant y dyddie hynny drossodd drwy wilio ac65 ac Yn LlGC 3026C mae ac ar ddiwedd y llinell ac fe’i hailadroddir yn ddiangen ar ddechrau’r nesaf (cf. n. 9 (testunol)). Ni cheir yr un gwall yn y testun yn BL Add 14967 (138v, col. 2, ll. 36). ymprydio a gweddio Duw ddydd a nos.

§55

A’r pedwerydd dydd,178 y pedwerydd dydd Sef 4 Gorffennaf. hwynt a ddoethant vwch benn y bedd ac a geisiasant dynnv y korff allan, ac ni ellynt sylvv dim arno. Tristav a wnaethant yn vawr, gan ddirvawr ofn yn i kalonnav, hyd na wyddyn pa wnent. Eisioes, ac wynt yn amkanv bwrw y pridd ar y bedd drychefn, nychaf hynafgwr anrrydeddus i vodd a’i sut, a chynn wynned i benn a’r eiry, ac yn dywedud wrthvnt, ‘Pa hyd y teriwch chwi ac yr ofnwch? Oni welwch yr Arglwydd Varthin yn sevyll ac yn barod y’wch helpio, os chwi a rydd ych dwylaw ar yr arch?’ Ar hynny ef a vwriodd i vantell i amdano ac a roes i law ar yr arch gyd a’r effeiriaid eraill, a’r kwyr yn olav a’r kroesav yn barod, dan ganv antem179 antem Sef ‘anthem’ neu ‘antiphon’ (Krusch and Levison 1885b: 142.22 (I.6) antiphonam), math o gân litwrgïaidd; gweler GPC Ar Lein d.g. anthem, antem, a cf. OED Online s.v. anthem, n., ac antiphon, n. ac emynnav vchel.180 emynnav vchel Krusch and Levison 1885b: 142.23 (I.6) psallentium in excelso. Ar eiriol y gwr hen, hwynt a gyvodasant yr arch yn ysgafn i vyny ac a’i dugant y’r lle a ordeiniesid iddi. Ac wedy darvod yr efferennav a myned ohonvnt i vwytta, hwynt a geisiasant y gwr hen ymhob lle, ac nis kowsant, na neb a’i gwelsai yn myned o’r eglwys allan. A thebic vv gann bawb pan yw rhyw wyrthiav engyliawl oedd hwnnw.181 A thebic vv gann bawb pan yw rhyw wyrthiav engyliawl oedd hwnnw Krusch and Levison 1885b: 142.27 (I. 6) Credo, aliqua fuisset virtus angelica; Van Dam 1993: 209 ‘I think that this had been [a manifestation of] the power of some angel’. Ar ystyr gwyrthiau ac am achosion eraill lle’r ymddengys iddo gael ei drin fel pe bai’n air unigol, gweler n. 55 uchod.

§56

A llawer o wyrthiav a rhinweddav a wnaethbwyd y dydd hwnnw ac wedy, y rhai o ysgevlustra nid ysgrivennwyd. Eisioes yr hynn a welsom ni yn yn amser a ysgrivennwyd, a ni a glowsom ac a welsom yn sikr ev bod yn wir ac yn ddiamav. Amen.

§57

John Trevor182 John Trevor Sef Siôn Trefor o Bentrecynfrig ym mhlwyf Llanfarthin, ger y Waun, yn ôl pob tebyg; gweler y Rhagymadrodd. a droes y vuchedd honn o’r Llading yn Gymraec a Gvttvn Owain183 Gvttvn Owain Sef Gutun Owain neu Gruffudd ap Huw ab Owain (fl. c.1451–98), bardd, ysgolhaig ac uchelwr o blwyf Dudlust yn arglwyddiaeth Croesoswallt; roedd yn berchen ar dir yn Ifton, ym mhlwyf Llanfarthin, ac ymddengys mai yn Llanfarthin y’i claddwyd (Williams 1997; ODNB s.n. Gutun Owain; ByCy Arlein d.e. Gutun Owain’ a gw. hefyd RWM ii, 359–60, yn dyfynnu o lawysgrif LlGC 872D (Wrecsam 1; 1590–2): Pa le y claddwyd y prydyddion hyn … Guttyn owain yn llan farthin. a’i hysgrivennodd pan oed[d]66 oed[d] LlGC 3026C oed; BL Add 14967, 139r, col. 2 (ll. 30) oedd. Gwelir gwallau tebyg yn §25 (lle’r oed[d] y klaf) a §31 (yr oed[d] verch). oed Krist Mil cccc lxxxviii o vlynyddoedd yn amser Harri Seithved,184 Harri Seithved Sef Harri VII, brenin Lloegr, a aned yn Harri Tudur yng nghastell Penfro yn 1457 ac a goronwyd yn frenin ar ôl trechu Richard III ym mrwydr Bosworth, 1485 (ODNB s.n. Henry VII). nid amgen y drydedd vlwyddyn o goronedigaeth yr vn Hari.

1 Marthin Sant Mae Marthin yn fenthyciad cynnar o’r Lladin Martīnus, fel y dengys y newid seinegol ‘-rt-’ > ‘-rth-’. Disgwylid newid sain ‘a’ yn ‘e’ hefyd, drwy affeithiad-i, ond gallai’r a fod wedi ei chadw drwy geidwadaeth a dan ddylanwad ffynonellau Lladin ysgrifenedig. (Gw. Lewis 1943: 2, 21, 27; Jackson 1953: 570–1, 616–17.) Marthin yw enw’r sant yn rheolaidd yn y fuchedd hon, a Marthin yw e hefyd, fel arfer, yn y fuchedd fer a gedwir yn Llst 34, er ei alw’n Sant Martin ar ddechrau’r testun. Gall y sillafiad hwn (Martin) adlewyrchu dylanwad sillafiad yr enw yn y gynsail ysgrifenendig (sef pregeth Ladin, o bosibl; gw. Grosjean 1937: 346). Diau fod dylanwad y Saesneg wedi hybu ymlediad y ffurf Martin yn fwy cyffredinol yng Nghymru, ond serch hynny, ymddengys mai Marthin oedd y ffurf fwyaf cyffredin ar enw’r sant mewn testunau Cymraeg hyd at ddiwedd yr Oesoedd Canol (Day 2017: 19). Byddai’r enw lle Llanfarthin, sef y plwyf lle ysgrifennwyd y fuchedd hir, yn ôl pob tebyg, wedi helpu sicrhau statws Marthin fel enw safonol y sant yn y gogledd, a’r gogledd-ddwyrain yn arbennig (gw. y Rhagymadrodd). Yn y cyd-destun hwn mae’n ddiddorol fod y copïau cynharaf o Fuchedd Dewi yn nodi pwysigrwydd Martin fel nawddsant neu efengylydd Ffrainc (WLSD 11.11–12; BDe 18.8), ond bod y fersiynau gogleddol diweddarach yn Pen 27ii a Llst 34 yn cytuno mai Marthin yw ei enw (BDewi §23; Llst 34, 283 (ll. 27), ac ar y llawysgrifau hyn, gw. ymhellach BDewi: Llawysgrifau).
Ar Sant Martin a’i fucheddau, gweler y Rhagymadrodd, ac am gyfeiriadau eraill ato a thrafodaeth ar ei gwlt yng Nghymru’r Oesoedd Canol, gweler Day 2017.

2 conffesor Er defnyddio’r gair hwn heddiw gan fwyaf am offeiriad sy’n gwrando ar eraill yn cyffesu eu pechodau, yn gosod penyd ac yn rhoi gollyngdod, yn yr Eglwys gynnar fe’i defnyddid am un a ddioddefai o ganlyniad i gyffesu ei ffydd ei hunan (ond nid i’r fath raddau fel y gâi ei ferthyru); yn ddiweddarach fe’i defnyddid mewn ystyr ehangach i gyfeirio at ddyn a ystyrid yn arbennig o sanctaidd (gw. GPC Ar Lein d.g. conffesor; ODCC 398).

3 Sabaria Roedd Sabaria neu Savaria yn brif ddinas Pannonia Prima (OCD 1075, a gw. n. 4 isod); datblygodd dinas Szombathely ar yr un safle, yn Hungary heddiw.

4 Panonia Roedd Pannonia yn dalaith Rufeinig a sefydlwyd yn OC 9 i’r de-orllewin o afon Donwy (Danube). Yn sgil meddiannu Dacia yn OC 106 fe’i rhannwyd yn ddwy dalaith, Pannonia Superior yn y gorllewin a Pannonia Inferior yn y dwyrain. Rhannwyd y ddwy eto yn ystod teyrnasiad yr Ymerawdwr Diocletian, ac enwid rhan ogleddol Pannonia Superior yn Pannonia Prima; ym mhrif ddinas y rhanbarth hwn y ganwyd Martin. Ymddengys y daeth bodolaeth Pannonia fel talaith i ben yn 405, pan ffôdd llawer o Rufeiniaid yn sgil cyrchoedd Radagaisus a’r Ostrogothiaid (OCD 1075).

5 yn yr Eidal Tisin Roedd Ticinum, sef Pavia heddiw, yn ddinas yng ngogledd yr Eidal (OCD 1480). Cymharer SSVM §2(1) intra Italiam Ticini ‘within Italy, in Pavia.’ Ymddengys fod y cyfieithydd Siôn Trefor wedi trin y ddau enw priod fel pe baent yn un enw lle.

6 yw Ar yw, ffurf ar y rhagenw meddiannol blaen trydydd person lluosog; gweler GMW 53; PKM 235; am achosion eraill yn y fuchedd hon, gweler §5 heb yw noethi e hvn; §19 rhac yw pelled i wrtho; §36 yn yw dywedud. Fodd bynnag, y ffurf ev a geir fel arfer yn y testun (e.e. §3 i roddi ev llw a’i henwav i vod yn varchogion yn lle ev tadav; §5 a vv well ev synnwyr), ac mae yw (y’w yn y testun golygedig) yn aml yn cynrychioli’r arddodiad i + y rhagenw meddiannol mewnol trydydd unigol neu luosog (e.e. §5 Dim nid oedd y’w roddi; §8 Ac ef a roddes roddion y’w varchogion).

7 Constans SSVM §2(2) Constantio. Sef yr Ymerawdwr Constantius II, trydydd mab Custennin Fawr (Constantine I). Fe’i penodwyd yn Gesar pan oedd yn saith mlwydd oed, yn 324, a daeth yn Awgwstws yn y dwyrain ar ôl marwolaeth ei dad yn 337. Bu farw yn 361 ar ei ffordd i ateb her Iwlian (OCD 366, ac ar Iwlian, gw. n. 9 isod).

8 amerod Gweler GPC Ar Lein d.g. amherawdr, amerawdwr, lle dyfynnir enghreifftiau o ffurf debyg (amherod) o 1672 a 1762.

9 Sulianvs Sissar SSVM §2(2) Iuliano Caesare. Ganwyd yr Ymerawdwr Iwlian (‘y Gwrthgiliwr’) yn 331, yn fab i hanner brawd Custennin Fawr (Constantine I), sef Julius Constantius. Fe’i rhoddwyd yng ngofal esgob Ariaidd yn dilyn marwolaeth ei dad (ar Ariaeth, gw. n. 44), ond troes at baganiaeth yn ddiweddarach. Gwnaethpwyd Iwlian yn Gesar dros Brydain a Gâl gan ei gefnder, yr Ymerawdwr Constantius II (gw. n. 7) yn 355. Bu anghydfod rhwng y ddau yn 360, pan fynnodd milwyr Iwlian roi iddo’r teitl Awgwstws, ond pan fu farw Constantius II yn 361 fe’i holynwyd gan Iwlian, a hynny’n ddi-wrthwynebiad. Bu farw Iwlian yn 363 ar ôl cael ei glwyfo mewn brwydr (OCD 778).Cyfeiria’r fuchedd at Iwlian eto wrth ddisgrifio sut y gadawodd Martin y fyddin (§8). Yn y darn hwn defnyddir sillafiad tebyg, Sulianvs Sisar, deirgwaith a cheir dau achos o’r ffurf gywasgedig Sulivsisar.

10 marchog-vrddolion Disgwylid marchogion vrddol(ion), ond rhoddwyd y terfyniad lluosog ar yr ansoddair yn unig fel pe bai yma un gair yn hytrach na dau, ac nid oes gofod rhyngddynt yn nhestun Gutun Owain (nac yn BL Add 14967, 129r, col. 1 (llau. 33–4)).

11 (a thrwy gyhudd i dad ef oedd hynny, yr hwnn oedd yn kenvigennv wrth weithredoedd da Marthin), i vab yna a ddalpwyd Gallai’r colon a welir cyn y gair Marthin yn LlGC 3026C awgrymu bod yr ysgrifydd Gutun Owain yn ystyried bod cymal neu frawddeg newydd yn dechrau yma, o bosibl. Fodd bynnag, ni ellir cael synnwyr o’r darn yn ei gyfanrwydd o atalnodi fel hyn, er bod y darn sy’n dechrau Marthin i fab yn rhoi ystyr dderbyniol ar ei ben ei hun os anwybyddir y geiriau sy’n ei ragflaenu (cymharer n. 40). Mae strwythur y testun yn eithaf troellog yma, gan adlewyrchu strwythur y darn cyfatebol yn y Vita (SSVM §2(5)), ac ni fyddai’n syndod pe bai hyn yn peri dryswch i’r ysgrifydd.

12 i genedl Cymharer SSVM §2(6) illud hominum genus ‘men of that sort’, yn cyfeirio at filwyr fel dosbarth. Nid yw’r ystyr mor eglur yn y testun Cymraeg, lle gallai i genedl ddynodi naill ai cyd-filwyr Martin, ei gyd-wladwyr neu ei dylwyth (gw. GPC Ar Lein d.g. cenedl).

13 anwydus Gweler GPC Ar Lein d.g. anwydus3, lle dyfynnir hon yn unig enghraifft o’r gair gan ei darddu o’r rhagddodiad negyddol an-1 + gwydus; rhoddir y diffiniad petrus ‘?Amyneddgar’, a hynny ar sail SSVM §2(7) patientia, mae’n debyg. Fodd bynnag, am mai ystyr gwydus yn ôl GPC Ar Lein yw ‘Pechadurus, drwg, llygredig’, gallai anwydus fod wedi ei ddeall mewn ystyr debycach i ‘amhechadurus’ neu ‘ddaionus’.

14 wedy’r Sef wedy + y geiryn rhagferfol yr (ffurf ar rhy); gweler GPC Ar Lein d.g. yr3. Ar ddefnydd yr o flaen berfenw, gan hepgor y rhagenw sy’n dynodi’r ‘gwrthrych’, a’r geiryn ei hun yn achosi treiglad meddal, gw. GMW 169.

15 e hvn Fel arfer yn y testun, cynrychiolir y rhagenwau meddiannol trydydd person gan i (unigol, ‘ei’) ac ev (lluosog, ‘eu’), ond defnyddir e i gynrychioli’r naill neu’r llall o flaen y rhagenwau hvn a hvnain, gan amlaf. Mae 12 achos o e yn y cyd-destun hwn (e hvn yn §4, §5, §10, §12, §29 (ddwywaith), §35, §36, §39, §40 a §44, ac e hvnain yn §23), a dau achos yn unig o i (sef i hvn, yn §23 a §48). Mae’n debygol fod hyn yn adlewyrchu’r acen gref sydd ar hvn(-) yn yr iaith lafar. Ceir dau achos o ehvn, yn un gair, yn y testun (§31, §37); cf. y ffurfiau ehun, ehunain a nodir yn GPC Ar Lein d.g. hun2 a hunan.

16 dinas Amias Sef dinas Amiens, yng ngogledd Ffrainc (cf. SSVM §3(1) Ambianensium civitatis). Codwyd oratori ger un o byrth Amiens i goffáu caredigrwydd Martin (Farmer 1991: 14; Van Dam 1993: 215 (Libri de virtutibus sancti Martini episcopi, I.17)); gweler ymhellach n. 17.

17 mantell Ystyrid ‘mantell Martin’ yn grair pwysig. Daeth i feddiant y brenhinoedd Merofingaidd erbyn diwedd y seithfed ganrif a phasiodd i’r rhai Carolingaidd ar eu hôl; byddid yn tyngu llwon arni a chredid ei bod yn amddiffyn y brenhinoedd mewn brwydr (Farmer 1991: 26, 30; Van Dam 1993: 26–7 ac ibid. n75). O ‘fantell fach’ (capella) Martin y tarddodd, yn y pen draw, yr enw Cymraeg capel a’r geiriau cyfatebol mewn ieithoedd Ewropeaidd eraill (Jones 1992: 100; Farmer 1991: 26). Daeth gweithred hael Martin, yn rhoi hanner ei fantell i gardotyn, yn rhan bwysig o’i eiconograffi, gan gael ei darlunio, er enghraifft, mewn nifer o furluniau canoloesol yn Lloegr, a’r cynharaf yn Wareham, Dorset (Rouse 1991: 48, 50; Rosewell 2008: 69). Cyfeirir ati mewn cerdd gan Huw ap Dafydd hefyd, wrth ganmol Siôn Trefor o Wigynt (ŵyr i’r Siôn Trefor a gyfieithodd y fuchedd): Mur a thangadwyn, Marthin godiad, / ’Mryd ei ddull am roi dy ddillad (GHD 27.53–4).

18 arvav Gall yr enw lluosog arfau olygu naill ai ‘arfau (ymosodol)’ neu ‘arfwisg’ (GPC Ar Lein d.g. arf 1(a) a (b); tebyg yw amrediad ystyron y gair Lladin cyfatebol, arma, gweler LD s.v. arma A.1. ‘What is fitted to the body for its protection’ a B. ‘Implements of war, arms’). Defnyddir y gair arvav ddwywaith yn yr adran hon o’r fuchedd. Efallai fod yr achos cyntaf yn cwmpasu’r ddwy ystyr, ond ymddengys ‘arfwisg’ yn fwy addas ar gyfer yr ail, lle cyfeirir at arvav Martin yn cael eu hamddiffyn (cadw) gan ei fantell.

19 noeth ‘Gwael ei wisg’ yn hytrach na ‘heb ddillad’, yn ôl pob tebyg (gw. GPC Ar Lein d.g. noeth). Yn yr un modd, gall y gair cyfatebol yn y testun Lladin, nudus (SSVM §3(1) nudum), olygu ‘tlawd’ yn ogystal â ‘heb ddillad’ (LD s.v. nudus; cf. DMLBS).

20 a phawb yn myned i heibio Mae i o flaen heibio yn annisgwyl; ai’r rhagenw meddiannol trydydd person unigol yw hwn (‘ei’, heddiw)? Ond ni chyfeirir at y gystrawen hon yn GPC Ar Lein d.g. heibio; yn hytrach, disgwylid heibio iddaw. Mae’n bosibl, fodd bynnag, fod yr i yn ffrwyth camgopïo ac y dylid ei anwybyddu. Ceir synnwyr derbyniol hebddo.

21 y vantell oedd yn cadw i arvav Mae’n debygol fod arvav yn dynodi arfwisg yma (gw. n. 18). Os oedd gan Siôn Trefor arfwisg fetel mewn golwg, efallai ei fod yn meddwl am y fantell yn ei hamddiffyn rhag cael ei difrodi gan y tywydd, a’r glaw a’r eira yn arbennig; cf. ar ddrykin mawr ‘mewn tywydd gwael iawn’, ar ddechrau’r adran hon. Yn y darn cyfatebol o’r Vita cyfeirir at fantell Martin yn unig: nihil praeter chlamydem qua indutus erat habebat ‘He had nothing but the cloak with which he was clad’ (SSVM §3(2)). Mae’n debygol fod y chlamys hon yn fantell filwrol a’i bod yn rhan o ‘wisg filwrol seml’ (simplex militiae vestis) Martin, sef y wisg y cyfeirir ati ynghyd â’i arfogaeth (arma) ar ddechrau’r rhan hon o’r Vita: cum iam nihil praeter arma et simplicem militiae vestem haberet (SSVM §3(1)). Mae’r darn cyfatebol o’r fuchedd Gymraeg yn nodi yn yr un modd mai’r rhain oedd unig ddillad Martin ond, yn wahanol i’r Vita, cyfeirir yn benodol at y ffaith fod y fantell yn cael ei gwisgo dros (ar uchaf) yr arfwisg: heb ddim amdano eithyr mantell ar vchaf i arvav. Ceir yr un manylyn yn y fersiwn cryno o fuchedd Martin yn Llst 34 (321, llau. 18–20), er bod y geiriad yn wahanol: ac nid oeḍ dim am Varthin ar y arfeü namyn manteḷ.

22 ar a Ar y gystrawen, gweler GMW 70; GPC Ar Lein d.g. ar2, a cf. isod §18 A phawb ar a oedd yno a’i klywynt ef; §42 a phawb ar a’i darlleo yn anffyddlon a becha.

23 wedy wisgo (Cf. BL Add 14967, 129v, col. 1 (ll. 15) gwedi wisgo.) Fel arfer nid yw (g)wedy yn achosi treiglad i ferfenw sy’n ei ddilyn; gweler TC 162–3, a cf., e.e., §9 A gwedy gado i vilyriaeth. Mae’n bosibl fod y geiryn rhagferfol y(r), ffurf ar rhy (gw. GPC Ar Lein d.g. yr3; GMW 169, a n. 14 uchod), yn dilyn wedy yn y gynsail a’i fod wedi ei hepgor drwy amryfusedd. Posibilrwydd arall yw bod wedy yn gywasgiad o wedy a’r rhagenw meddiannol trydydd person unigol gwrywaidd y neu i (cf. §18 gwedy gladdu a’r achosion eraill a nodir yn n. 67). Os yw’r awgrym olaf hwn yn gywir, mae’n rhaid tybio bod drysu wedi digwydd o ran y gystrawen, am nad oes angen rhagenw meddiannol yn y cymal fel y mae (ef a welai Varthin … yr Arglwydd Iessu Grist wedy wisgo dryll y vantell … amdano ef). Efallai fod y copïydd Gutun Owain wedi disgwyl mai wedy(’i) wisgo yn nryll y vantell fyddai’r gystrawen ac wedi dechrau ysgrifennu hyn cyn dychwelyd at ddarlleniad y gynsail, heb fynd yn ôl i gywiro’r camgymeriad.

24 Pann wneloch les y’r lleiaf o’r mav vi, i mi y gwnaethoch.’ Cf. Mathew 25.40 ‘ … “yn gymaint ag ichwi ei wneud i un o’r lleiaf o’r rhain, fy mrodyr, i mi y gwnaethoch.” ’

25 dwyvlwydd ar hugain Gwrthgyferbynner SSVM §3(5) duodeviginti ‘deunaw’. Er bod Fontaine (1967–9: 500) o blaid derbyn deunaw yn oedran cywir Martin adeg ei fedyddio, noda fod rhywfaint o anghytuneb yn nhraddodiad llawysgrifol y fuchedd Ladin a bod y ddau oedran, deunaw a dwy ar hugain, yn cael eu crybwyll mewn gwahanol lawysgrifau (gw. yr aparatws, ibid. 258). Gall, felly, fod Siôn Trefor yn dilyn ei ffynhonnell yma. Ar y llaw arall, wrth gyfieithu’r testun i’r Gymraeg byddai’n hawdd camddehongli duodeviginti yn dwyvlwydd ar hugain drwy dybio bod y ddwy flynedd yn cael eu hychwanegu at ugain yn hytrach na’u tynnu.

26 y rhyngo Ffurf ansafonol neu wallus ar yr arddodiad trydydd unigol gwrywaidd y-ryngthaw neu rhyngddo; ni nodir ffurf debyg yn GMW 59 nac yn GPC Ar Lein d.g. rhwng. Y ffurf rhyngtho a geir mewn mannau eraill yn y testun (§§5, 19, 20, 38).

27 darffai Sef ffurf trydydd unigol amherffaith dibynnol y ferf darfod; gweler GMW 146.

28 yn dwyn henw marchoc Yn y Vita ceir mynegiad eglurach o ddwyster troëdigaeth Martin. Esbonnir ei fod yn filwr mewn enw yn unig, solo licet nomine (SSVM §3(5)) ar ôl iddo gael ei fedyddio.

29 dinas Vangion SSVM §4(1) Vangionum civitatem. Roedd y Vangiones yn llwyth yr oedd eu tiriogaeth wedi ei lleoli i’r gorllewin o ran uchaf afon Rhein; defnyddid eu henw wrth gyfeirio at eu prif ddinas hefyd, sef Worms (SSVM 165).

30 dyvod Defnyddir y sillafiad hwn yn rheolaidd yn y testun ar gyfer ffurf trydydd unigol gorffennol y ferf dywedud, yn ogystal ag ar gyfer y berfenw dyfod (‘dod’); cf. BDewi n. 10.

31 Sulivsisar Ffurf gywasgedig ar yr enw Sulianvs Sissar (gw. n. 9).

32 yn hynny Deellir hynny yn gyfeiriad at y bwriad y mae Martin newydd ei fynegi. Nid yw’r cyfieithiad Saesneg a gynigir, ‘thus resolved’, ymhlith yr ystyron a roddir ar gyfer y cyfuniad yn hynny yn GPC Ar Lein d.g. yn1, ond cf. ibid. (iii) ‘thus engaged’.

33 diargyhoedd Fe’i deellir yn amrywiad ar diargywedd ‘dianaf, heb dderbyn niwed, diglwyf’ gan ddilyn BSM 4n13, sy’n ei gymharu â securus (SSVM §4(5)), a GPC Ar Lein d.g. diargywedd. Fodd bynnag, byddai’r ystyron a roddir ar gyfer diargyhoedd1 yn GPC Ar Lein, megis ‘di-fai’, ‘digerydd’ a ‘dihalog’, yn ddigon addas yn y cyd-destun ac mae’n bosibl fod rhai o’r gynulleidfa yn deall y gair mewn ystyr debyg.

34 ystopies Yn ôl GPC Ar Lein d.g. stopiaf: stopio, &c., hon yw’r enghraifft gynharaf o’r gair benthyg hwn, o’r Saesneg Canol (to) stop(pe).

35 Ilar Sant Sef Sant Hilarius (SSVM §5(1) sanctum Hilarium) neu Sant Hilary o Poitiers (c.315–67/8). Fel Martin, nid oedd wedi ei fagu’n Gristion ond troes at y ffydd; fe’i hetholwyd yn esgob Poitiers c.350 a daeth yn un o wrthwynebwyr amlycaf Ariaeth (ODCC 774, a gw. isod, §12 a n. 44). Mae’n debygol mai’r un ydyw â’r Ilar Sant y cysegrwyd eglwys iddo yn Llanilar yng Ngheredigion, ac a grybwyllir nifer o weithiau gan y beirdd (gw. GGLl 6.52n).

36 esgob Putanesis SSVM §5(1) Pictavae episcopum civitatis ‘bishop of Poitiers’. Roedd Poitiers yn brifddinas Rufeinig Poitou, sef tiriogaeth y Pictones, ac yn ddiweddarach daeth yn ganolfan yr esgobaeth a gynhwysai’r rhanbarth hwn (ODMA s.n. Poitiers and Poitou). Daeth Poitou yn enwog am ei winoedd ac fe’i crybwyllir yn y cyd-destun hwn mewn barddoniaeth Gymraeg o gyfnod Siôn Trefor, e.e. GG.net 4.37–8 Cwrw iach o frig ceirch y fro / Yw’n Powtwn, fal gwin Paitio (gw. hefyd GPC Ar Lein d.g. gwin… gwin Poetio).Gelwir Poitiers yn Putayn yn §48; felly, hwyrach y dylid darllen Putane[n]sis am Putanesis (cf. BSM 5.11), a’r terfyniad Lladin -ensis yn newid enw lle (Puta(y)n) yn ansoddair ac iddo’r ystyr ‘yn dod o Poitiers, yn perthyn i Poitiers’. Noder hefyd fod pobl y rhanbarth hwn yn cael eu galw’n Pataniaid neu’n Pictaniaid yn §§48–9 (gw. n. 153). Ymddengys y gallai rhai o’r enwau hyn (Putayn, Putanesis, Pataniaid) ddangos dylanwad yr enwau Poitiers neu Poitou (cymharer Paitio yng ngherdd Guto’r Glyn, a ddyfynnir uchod), neu, o bosibl, yr enw Ffrangeg Poitevin ‘brodor o Poitiers neu Poitou’ a fenthyciwyd i’r Saesneg erbyn 1483 (gw. OED Online s.v. Poitevin).

37 a Am a(c) ‘gyda grym cyferbyniol’, fel y gellid cyfieithu’n ‘but, yet, although’ yn hytrach nag ‘and’, gweler GMW 231; GPC Ar Lein d.g. a5 , ac. Cf., e.e., §9 Ef a ddamvnodd arno vod yn ddiagon, a Marthin a ymesgusodes nad oedd ef deilwng yr radd honno; §16 y keisiwyd y gan Varthin vyned yn esgob Turwyn, ac ni ddevai ef o’i vodd; §18 A phawb ar a oedd yno a’i klywynt ef yn dywedud, ac ni welynt ddim ohono.

38 ysgolhaic dwfr swyn SSVM §5(2) exorcistam. Roedd ‘exorcist’ yn ail ymhlith yr urddau lleiaf, er nad oedd ‘exorcism’, sef bwrw allan ysbrydion drwg, yn gyfyngedig i unrhyw urdd benodol (ODCC 592 s.v. exorcist). Defnyddid dŵr swyn, sef dŵr a oedd wedi cael ei fendithio, yn rhan o’r ddefod. Roedd ‘exorcism’ yn rhan o’r paratoadau arferol ar gyfer bedyddio yn ogystal â chael ei ddefnyddio i roi gwaredigaeth i’r sawl y credid eu bod wedi eu meddiannu (ibid. s.v. exorcism). Yn achos Martin roedd y swyddogaeth hon yn arbennig o addas, a’i fuchedd yn nodi bod nifer fawr o bobl wedi eu bedyddio ganddo ef neu o’i achos ef (gw. §14, §25 ac yn enwedig §29) ac yn cynnwys nifer o ddisgrifiadau ohono’n bwrw allan gythreuliaid (§§25–7; cf. hefyd §43). Gweler hefyd y cyfeiriadau yn §§11, 36–9, 45 ac §50 at ei allu i ganfod cythreuliaid a’r Diafol ac i’w gwrthsefyll; a gweler ymhellach Stancliffe 1983: 154, 345; Brown 1981: 106–13.

39 ymwel Fe’i nodir yn amrywiad ar y berfenw ymweled, ymweld yn GPC Ar Lein. Un o’r ffurfiau mwy arferol, ymweled, a geir yn ddiweddarach yn y fuchedd (§40).

40 Marthin Mae’r M fawr, addurnedig yn rhoi’r argraff fod y gair hwn, sy’n dechrau tudalen newydd, yn dechrau adran newydd bwysig o’r fuchedd hefyd, er ei fod yng nghanol brawddeg. Fodd bynnag, pe bai rhywun yn dechrau darllen yma heb edrych ar y tudalen blaenorol ceid synnwyr derbyniol (cf. n. 11), ac ni fyddai’n amhriodol dechrau adran newydd gyda Martin yn cychwyn ar ei deithiau.

41 yr Alpes Sef yr Alpau, cadwyn o fynyddoedd i’r gogledd o benrhyn yr Eidal. Defnyddiodd Siôn Trefor yr un enw ag sydd yn y testun Lladin (SSVM §5(4) Alpes; cf. yr achosion yn ‘Delw y Byd’, DB 24.1, 28.7) yn hytrach na’r enw brodorol Mynydd Mynnau (arno, gw. Williams 1956–8).

42 darch i gefn Ffurf ar trachefn gyda’r ddwy elfen ar wahân a’r rhagenw blaen trydydd unigol gwrywaidd rhyngddynt; gweler GMW 210 a’r amrywiadau trachgefn, trach cefn … drach cefn yn GPC Ar Lein d.g. trachefn. Er na nodir yn GPC Ar Lein (na GMW 210) unrhyw ffurf yn dechrau â tarch- neu darch-, mae’n well ystyried darch i gefn yn amrywiad yn hytrach nag yn wall. Ceir achosion eraill o drawsosod llafariad ac r, e.e. dyrchafaf / drychafaf, dyrchafiad / drychafiad (GPC Ar Lein, d.g.), ac mae nifer o achosion o darchefn mewn testunau eraill o’r bymthegfed ganrif ymlaen; gweler, e.e., Pen 33, 75 (llau. 12–13) o iaỽnder nẏt ẏmhoelant darchefẏn (c.1400–c.1450, dyfynnir o RhyddGym 1300–1425), Pen 163 ii, 55 (ll. 16) A duw a ddichin i drychaf hwynt darchefn (1543, dyfynnir o Willis a Mittendorf 2004); Smyth 1611: 65 yn r’un moḍ y mae ef ḍarchefn. Gwrthgyferbynner drach i gefn yn y copi diweddarach o’r fuchedd yn BL Add 14967 (130r, col. 2 (ll. 7)).

43 Melan Sef dinas Milano yng ngogledd yr Eidal (SSVM §6(1) Mediolanum); noda Burton (SSVM 181) mai hon oedd prif ddinas yr ymerodraeth orllewinol, i bob pwrpas, yn y bedwaredd ganrif. Cyfeirir at Martin yn sefydlu mynachlog yno yn §12 (gw. hefyd §48, §51).

44 Lolardiaeth Ariana Mae’r geiriau a ddewisodd Siôn Trefor yma yn ddiddorol; gwrthgyferbynner SSVM §6(4) haeresis Arriana ‘yr heresi Ariaidd’. Roedd arddelwyr yr athrawiaeth hon, a enwid ar ôl ei awdur, Arius (m. 336), yn credu nad oedd Crist yn hollol ddwyfol a thragwyddol ei natur, ond yn hytrach ei fod wedi ei greu’n arbennig gan Dduw (ODCC 100–1, 105; gw. hefyd SSVM 178–9). Roedd Lolardiaeth (Saesneg ‘Lollardy’ neu ‘Lollardism’) yn fudiad hollol wahanol, a ‘Lollard’ yn enw a roddid ar ddilynwyr John Wycliffe (c.1330–84) neu ar y sawl a arddelai syniadau cyffelyb am bwysigrwydd ffydd bersonol o’i chyferbynnu ag awdurdod yr Eglwys; yn ddiweddarach, fodd bynnag, defnyddid y term ‘Lollard’ yn fwy llac am unrhyw un a heriodd athrawiaeth neu awdurdod yr Eglwys (ODCC 999). Nid oes enghraifft arall o’r gair Lolardiaeth yn y Gymraeg cyn y ddeunawfed ganrif yn ôl GPC Ar Lein, ond, fel a adlewyrchir yn y diffiniadau yno, mae’r cyd-destun ym muchedd Martin yn dangos ei fod yn cael ei ddefnyddio yn yr ystyr eang ‘heresi’ neu ‘geugred’; cf. y ddau gyfeiriad at Lolardiaid yn yr un adran, isod, lle ceir haereticorum ac Arianorum yn y testun Lladin (SSVM §6(4)), a noder bod Lolardiaid yn cyfeirio at baganiaid, hyd yn oed, yn §20 (cymharer SSVM §13(1)) gentilium turba ‘the pagan crew’). Cymharer hefyd y defnydd dirmygus o’r termau Lolart a Lolardiaid gan ddau fardd o’r bymthegfed ganrif, Dafydd Llwyd o Fathafarn a Hywel Swrdwal: GDLl 16.17–18 N’aded, â’i ddewred â’i ddart, / Lili yng ngardd un Lolart; GHS 7.21–2 Lolardiaid, traeturiaid hen / Ŷnt erioed, ânt i’r wden!

45 Ilarikwm SSVM §6(4) Illyricum, sef yr enw Rhufeinig ar diriogaeth yr Ilyriaid Indo-Ewropeaidd, y tu hwnt i’r Adriatig. Daeth yn rhan o’r ymerodraeth yn y flwyddyn 11 CC neu’n gynharach, ac fe’i rhannwyd wedyn yn ddwy dalaith, sef Pannonia (lle ganwyd Martin, gw. §1 a n. 4) a Dalmatia (OCD 726).

46 ac o’r diwedd ef a gvrwyd ar gyhoedd y[n] noeth a gwielyn ac ef a yrwyd o’r dinas drwy amarch Ar y darlleniad diwygiedig y[n] noeth ac am ddarlleniadau a deongliadau posibl eraill, gweler n. 6 (testunol). Bernir mai y[n] noeth yw’r darlleniad sy’n debycaf o adlewyrchu bwriad y cyfieithydd Siôn Trefor, er nad oes gair nac ymadrodd ac iddo ystyr debyg yn yr adran gyfatebol o’r fuchedd Ladin: nam et publice virgis caesus est et ad extremum de civitate exire compulsus ‘for he was both publicly flogged, and at last compelled to leave the city’ (SSVM §6(4)). Efallai yr ychwanegodd Siôn Trefor y manylyn hwn er mwyn pwysleisio maint y boen a’r dirmyg a ddioddefodd Martin dros ei ffydd.

47 Ffraingk Cymharer SSVM §6(4) intra Gallias, sy’n cyfeirio yn ôl pob tebyg at bedair talaith Gallia transalpina neu Gallia citerior (‘Further Gaul’) (SSVM 181). Cyfetyb yn fras i Ffrainc heddiw. Dewisodd Siôn Trefor ddiweddaru ei gynsail yma drwy gyfeirio at Ffrainc yn hytrach na Gâl; diau fod yr enw cyntaf yn fwy cyfarwydd i’w gynulleidfa, er ei fod yn anacronistig yng nghyd-destun hanesyddol y fuchedd.

48 y Lolardiaid Gweler n. 44 (ar Lolardiaeth Ariana).

49 yr ordeiniodd ef vynachloc iddo Gall mai ‘meudwyfa’ yn hytrach na ‘mynachlog’ oedd yr ystyr a fwriedid ar gyfer y gair monasterium yn y Vita (SSVM 155, 182); fodd bynnag, mae’n debygol mai’r ail ystyr oedd ym meddwl Siôn Trefor wrth iddo alw’r lle yn vynachloc.

50 Arsexensivs, tywysoc y Lolardiaid SSVM §6(4) Auxentius, auctor et princeps Arianorum ‘Auxentius, the founder and chief of the Arian faction’; ni noda Halm (1866: 116) na Fontaine (1967–9: 266) unrhyw ddarlleniad amrywiol sy’n debyg i sillafiad y testun Cymraeg. Penodwyd Auxentius yn esgob Milan yn 355 ac fe’i hystyrir yn brif gefnogwr Ariaeth yn y gorllewin (SSVM 182; ODCC 137; ar Ariaeth, gw. n. 44). Ar ôl ei farwolaeth yn 374 etholwyd un o wrthwynebwyr Ariaeth, sef Ambrose, i’r esgobaeth; crybwyllir ef yn adran §51 isod.

51 Ynys Galinaria Sef Isola Gallinara, ynys fechan yng Ngwlff Genoa, ger dinas Albenga yng ngogledd yr Eidal (Roberts 1894: 7n2). Ar arwyddocâd arhosiad Martin yno yng nghyd-destun mynachaeth gynnar, gweler SSVM 182–3.

52 Marthin yna a ordeiniodd mynachloc iddo yn emyl hynny Nid yw lleoliad y fynachlog neu’r feudwyfa hon yn amlwg yn y fuchedd Gymraeg. Fodd bynnag, am fod Ilar yn esgob Poitiers (gw. §9) gellir cymryd mai i’r ddinas honno yr aeth y ddau ddyn wrth i Martin ei ddilyn hyd adref (gw. y frawddeg flaenorol). Cyfeirir at Poitiers yn uniongyrchol yn yr adran gyfatebol yn Vita S. Martini (SSVM §7(1) Pictavos). Nododd Gregori o Tours mai yn Locaciacum, sef Ligugé heddiw, ryw bum milltir i’r de o Poitiers, yr oedd y sefydliad hwn (SSVM 185–6).

53 gwedi varw Awgryma’r treiglad meddal ar ôl gwedy ei fod yn gywasgiad o gwedy a’r rhagenw trydydd unigol gwrywaidd i; cf. BDewi §22 wedi i varw. Am achosion o gywasgu tebyg o flaen berfenwau, gweler n. 67 (ar gwedy gladdu).

54 Marthin a wylodd Cf. Ioan 11.35 ‘Torrodd Iesu i wylo’, yn y bennod sy’n adrodd hanes atgyfodi Lazarus. Roedd yr Iesu hefyd newydd weld ceraint y dyn marw yn wylo drosto ac wedi bod i ffwrdd pan fu farw.

55 a hwnnw vv y gwyrthiav kyntaf Mae gwyrthiau yn enw lluosog fel arfer, ond fe’i trinnir yn air unigol yma o ran y gystrawen. O ran yr ystyr, mae’n werth cymharu SSVM §7(5), lle esbonia Sulpicius mai’r dyn marw a atgyfodwyd oedd y cyntaf a ddaeth ato yn dyst i alluoedd neu rinweddau Martin (Martini virtutum). Gall gwyrth olygu ‘gallu rhyfeddol, rhinwedd’ yn ogystal â ‘tro neu ddigwyddiad rhyfeddol’ (gw. GPC Ar Lein); felly, mae cyfieithu virtutum yn gwyrthiau, a’r ddau air yn lluosog, yn ddigon addas. Ac eto, ni ddisgwylid hwnnw gyda gair lluosog. Hefyd, eir ymlaen i ddweud bod Martin wedi ‘gwneud’ y gwyrthiau, sy’n awgrymu mai ‘digwyddiadau rhyfeddol’ (yn hytrach na ‘galluoedd rhyfeddol’) yw’r ystyr, ond ni thycia hyn ychwaith oherwydd un digwyddiad a ddisgrifir, sef atgyfodi’r dyn marw.Penderfynwyd peidio â thrin yr ymadrodd hwn yn wall, fodd bynnag, oherwydd mae achosion eraill yn y testun hwn a bucheddau eraill lle’r ymddengys fod gw(y)rthiau yn cael ei drin yn air unigol; gweler §55 A thebic vv gann bawb pan yw rhyw wyrthiav engyliawl oedd hwnnw (Krusch and Levison 1885b: 142.27 (I. 6) Credo, aliqua fuisset virtus angelica; Van Dam 1993: 209 ‘I think that this had been [a manifestation of] the power of some angel’); BGwenfrewy (Pen 27ii), 98 (ll. 16) y gwyrthiav disyvyd hww (cf. Llst 34, 227 (ll. 28) y gụyrthiaü hụnnụ, 234 (llau. 20–1) A phaụb a ḍel yno a gaphant y gụrthie yr hụnn a archant, 248 (llau. 6–7) Ar gụrthiaü hụnnụ); BDewi §4 kynta gwyrthiav, §5 ail gwyrthiav, §6 gwyrthie arall (gw. BDewi n. 21), a BNicolas §6 gwrthiau arall.
Ymddengys, felly, fod gwy(r)thiau weithiau’n dwyn ystyr sy’n cynnwys elfennau o’i ddwy ystyr arferol, fel pe bai’n cwmpasu’r rhinweddau neu’r galluoedd (lluosog) sy’n achosi digwyddiad rhyfeddol yn ogystal â’r digwyddiad (unigol) ei hun. Dewiswyd y cyfieithiad ‘manifestation of miraculous powers’ ar gyfer achosion o’r fath er mwyn ceisio cyfleu hyn (a chyda golwg ar gyfieithiad Van Dam o virtus angelica, a ddyfynnwyd uchod).

56 Browdwr Sef brawdwr ‘barnwr’, yn dynodi Duw fel yr un sy’n barnu’r meirw ar adeg eu marwolaeth yn ogystal ag ar ddiwedd y byd. Ceir y sillafiad safonol ym mrawddeg ddilynol y fuchedd. Gall y sillafiad ag o ddangos dylanwad yr iaith lafar; cf. owdurdod yn §§16, 35, 37, a hefyd yr enghreifftiau gan William Salesburya ddyfynnir yn GPC Ar Lein d.g. brawdwr.

57 pan yw y dyn hwnn y mae Marthin yn gweddio drosto Fe’i deellir yn araith anuniongyrchol yn yr amser presennol dramatig, am na ddefnyddir pan yw i gyflwyno araith uniongyrchol fel arfer. Ar pan yw (Saesneg, ‘that it is’), gweler GMW 80 a cf. HMSS ii 28.14 yr hwnn a dywawt wrthunt pan yw dyn oed Grist ac nat Duw, a ddyfynnir yno.

58 gwr bonheddic Nodir yn Vita S. Martini (SSVM §8(1)) mai Lupicinus oedd enw’r dyn hwn.

59 Turwyn SSVM §9(1) Turonicae, sef dinas Tours a saif ar afon Loire yn Ffrainc. Etholwyd Sant Martin yn esgob Tours c.371 (ODCC 1050; Stancliffe 1983: 2). Yn ôl Gregori o Tours, ar ôl ei farwolaeth hawliwyd ei gorff gan wŷr Poitiers a gwŷr Tours fel ei gilydd, a gwŷr Tours yn ei ennill i’w dinas eu hunain drwy ewyllys Duw; gweler §§48–9.

60 Ruricius Gwrthgyferbynner SSVM §9(1) Rusticius. Ond ceir o leiaf bum ffurf wahanol ar enw’r dyn hwn mewn gwahanol gopïau o’r fuchedd Ladin: nodir rusticius, rustitius, rusticus a ruritius, ynghyd â ruricius, ffurf y fuchedd Gymraeg, yn yr aparatws yn Halm 1866: 118 a Fontaine 1967–9: 270.

61 nad oedd wr korffoc semlantus trwsiadus na gwalltwr da SSVM §9(3) hominem vultu despicabilem, veste sordidum, crine deformem ‘a man contemptible of face, shabby of dress, and disfigured of hair’. Gellid dehongli crine deformem y fuchedd Ladin yn gyfeiriad cynnar at donsur mynachaidd (Donaldson 1980: 72; SSVM 194–5). Fodd bynnag, nid oes dim byd i awgrymu bod Siôn Trefor wedi deall yr ymadrodd Lladin yn yr ystyr hon. Nid oes achos cynharach o gwalltwr yn ôl GPC Ar Lein, nac achos arall o semlantus (ond cymharer ibid. d.g. semlant ‘wyneb’, ‘ymddangosiad’, &c.).

62 ef a wnaeth iddo vynachloc ar ddwy villdir o ddinas Turwyn Sef Marmoutier, a ddaeth yn un o ganolfannau pwysicaf cwlt Martin yn yr Oesoedd Canol (gw. Farmer 1991).

63 A llawer o’r brodyr, ar yr vn modd, a wnaethant ystevyll vddvnt yn yr vn brynn. Ceir disgrifiad hwy ac eglurach yn Vita S. Martini: SSVM §10(5) multique ex fratribus in eundem modum; plerique saxo superiecti montis cavato receptacula sibi fecerant ‘and many of the brothers had much the same; most had made retreats for themselves in the hollow formed by the overhanging mountain-side.’ Ar cavato yn yr ystyr ‘cau’ (‘hollow’) yn hytrach na ‘wedi ei geuo’ (‘hollowed out’), gweler SSVM 201. Mae’n bosibl, fodd bynnag, i Siôn Trefor ddeall y gair yn yr ail ystyr.

64 kanis yn [yr] amser [hwnnw] kr[eff]t … yn ev plith Diwygiwyd y testun er mwyn cael ystyr; gweler n. 14 (testunol).

65 pann ddelai yr amser vddvnt Hynny yw, byddent yn bwyta pan ddeuai’r adeg ymprydio i ben; cf. SSVM §10(7) post horam ieiunii ‘When the hour of fasting was past’.

66 yr esgob vchaf Yn Vita S. Martini cyfeirir at superioribus episcopis (SSVM §11(2)), sef esgobion (lluosog) sydd naill ai’n ‘uwch’ neu’n ‘flaenorol’ (LD s.v. sŭpĕrussŭpĕrĭor, ĭus). Yng nghyd-destun y fuchedd ymddengys mai ‘esgobion blaenorol’ a olygir (cf. cyfieithiad SSVM 107 ‘earlier bishops’) a bod Siôn Trefor wedi camddehongli ei ffynhonnell, o bosibl.

67 gwedy gladdu Dengys y treiglad meddal ar ôl gwedy fod hwn yn gywasgiad o gwedy a’r rhagenw trydydd unigol meddiannol gwrywaidd i; am achosion tebyg, gweler §44 gwedy ossod, §49 gwedi golli, a chymharer §30 gwedy i thynnv, lle dangosir y rhagenw (benywaidd). (Cymharer hefyd n. 53, ar gwedi varw.)

68 cysgod budr brwnt SSVM §11(4) umbram sordidam trucem ‘a shade … foul and menacing’. Mae cysgod yn ddewis addas iawn ar gyfer trosi umbram am y gall y ddau air olygu naill ai ‘shadow’, ‘shade’ neu ‘ghost’ (GPC Ar Lein d.g. cysgod; LD s.v. umbra).

69 ni wyddiad ef beth oeddynt Mae’n rhaid fod hyn yn cyfeirio at y bobl sy’n dod â’r corff i gael ei gladdu, er nad ydynt wedi eu crybwyll yn uniongyrchol o’r blaen yn y testun Cymraeg. Cymharer y disgrifiad o’r turbam ‘torf’ yn nesáu yn Vita S. Martini (SSVM §12(1)).

70 y llieiniav o’r elor (Cf. BL Add 14967, 131v, col. 2 (llau. 11–12).) Mae defnydd yr arddodiad o yn hytrach nag ar yn annisgwyl yn y cyd-destun hwn ac mae’n bosibl fod geiriau wedi eu hepgor drwy amryfusedd wrth gopïo. Cymharer y disgrifiad hwy a geir yn y Vita: SSVM §12(2) agente vento lintea corpori superiecta volitarent ‘there were linen cloths draped over the corpse and fluttering in the wind’.

71 Marthin yna a roes groes Ar yr arfer hwn, gweler ODCC 1510, lle nodir bod yr arwydd yn cael ei wneud ar y talcen yn wreiddiol. Cymharer y llinell Duw a ro croes i’m talcen (Risiart ap Risiart Alen; Lloyd-Jenkins 1931: 20.2) a ddyfynnir yn GPC Ar Lein d.g. croes 2(c) (‘Arwydd y groes a wneid â’r llaw dde’).

72 synnv arnvnt yn vawr a orvgant Am y gystrawen, a’r arddodiad ar yn rheoli goddrych rhesymegol y ferf, gweler BDe 48 a BDewi n. 98 a cf. isod §20 synnodd ar y peganiaid weled y gwyrthiav hynny, §38 Synnv a wnaeth ar y mynach a galw y llaill atto, a §51 A synnv a wnaeth ar bawb y chwedyl hwnn.

73 esgyb Gall y gair cyfatebol yn y testun Lladin, antistes (SSVM §13(1)), olygu naill ai ‘uwch-offeiriad’ neu ‘esgob’ (LD s.v. antistĕs, ĭtis ‘a high-priest’, ‘a bishop’), ond y cyntaf sydd fwyaf addas yma. Cyfieithwyd esgyb yn ‘high priests’ yn hytrach na ‘bishops’ yn y testun Saesneg a gyflwynir yma, felly, er na cheir yr ymadrodd hwn ymhlith y cyfystyron yn GPC Ar Lein d.g. esgob (‘bishop, prelate; overseer (in the Early Church)’). Am achosion eraill o gyfieithu gair Lladin unigol â gair Cymraeg lluosog, gweler §21 tai (am domum), §38 rhinweddav (am uirtutem), §43 eglwysi (am ecclesiae); a cymharer esgob am episcopis yn §18 ac effeiriad am presbyteris yn §45 (geiriau Cymraeg unigol yn cyfieithu geiriau Lladin lluosog).

74 Lolardiaid Cyfieithwyd y gair yn ‘heretics’ yn y testun Saesneg er cysondeb ond paganiaid oedd y bobl hyn mewn gwirionedd ac nid yn ddilynwyr Ariaeth fel y Lolardiaid a grybwyllir yn §12 (gw. n. 44). Cymharer SSVM §13(1) gentilium turba ‘the pagan crew’ a’r gair peganiaid a geir yn y fuchedd Gymraeg bedair gwaith wrth adrodd gweddill yr hanes.

75 amddiriaid Ffurf ar ymddiried, cf. ymddiriaid ac amddiried a nodir yn ddangosair ychwanegol ac yn amrywiad yn GPC Ar Lein d.g. ymddiriedaf. (Gwrthgyferbynner defnydd ymddiriaid, fel enw, isod yn yr un adran.)

76 oeddyn Ceir achos arall, yn yr un adran, o’r sillafiad hwn sy’n dangos dylanwad yr iaith lafar, o bosibl (cymharer na wyddyn yn §55 a’r arddodiaid rhediadol drostvn yn §32, §44 (gw. n. 105), ac wrthvn yn §36). Sillafiad mwy safonol, oeddynt, a geir fel arfer yn y testun (deg achos, yn §§1, 6, 10, 17, 19 (deirgwaith), 20, 42 a 45).

77 mewn ystryd o’r dinas Nid enwir y lle yn y testun Lladin (SSVM §14(1) in vico quodam ‘in one village’). Yn ôl LD, s.v., gall vicus olygu naill ai ‘a row of houses in town or country, a quarter of a city, a street’ neu ‘A village, hamlet, a country-seat’. Felly, ymddengys cyfieithiad Siôn Trefor yn ddigon rhesymol. Fodd bynnag, mae ei ddefnydd o’r un gair, ystryd, i gyfieithu vicus yn yr adran nesaf yn llai addas, a’r gair Lladin yn cyfeirio at Levroux, tref sylweddol (gw. n. 79).

78 ettywynion tanllyd Yr unig gyfystyron Saesneg a geir yn GPC Ar Lein d.g. etewyn yw ‘firebrand’ a ‘torch’, ond nodir ‘ember’ yn drydydd cyfystyr d.g. tewyn, ffurf affetig ar yr un gair, ac ymddengys yr ystyr hon yn fwyaf addas yn y cyd-destun; cf. y ‘pelenni o fflamau’, flammarum globi, yn Vita S. Martini (SSVM §14(1)).

79 mewn ystryd a elwid Leprwsswm SSVM §14(3) In vico autem, cui Leprosum nomen est. Gellir uniaethu Leprosum â thref Levroux, ger Châteauroux, yng nghanolbarth Ffrainc (gw. BSM 13n2; Fontaine 1967–9: 778–9; SSVM 219). Roedd yn rhan o esgobaeth Bourges; felly, gwelir Martin yma yn efengylu y tu allan i’w esgobaeth ei hunan (gw. Stancliffe 1983: 329, 335, a cf. n. 84 isod). Ar gyfieithu in vico yn mewn ystryd, gweler n. 77.

80 gwisc rawn Gweler GPC Ar Lein d.g. rhawn ‘Blew hir a garw ar anifail, yn enw. ar geffyl’. Cyfeirir at wisg o’r math hwn o eiddo Martin yn §30, gan nodi bod darnau a dynnwyd ohoni yn medru cyflawni gwyrthiau, a nodir yn §45 fod gwisc rawn amdano pan fu farw. Y gair Lladin cyfatebol a ddefnyddiodd Sulpicius yw cilicium ‘crys rhawn, lliain sach’ (SSVM §14(4), §18(5); Fontaine 1967–9: 340 (Epistulae III.15)). Dewisid dillad anghyfforddus o’r fath yn fwriadol gan asgetigion a phenydwyr a cheir cyfeiriadau at seintiau eraill yn eu gwisgo; gweler, er enghraifft, gwpled gan Ddafydd ap Llywelyn ap Madog am Ddyfnog Sant: Gwisgo’r crys er gwasgu’r croen, / Rhawn dewbais, nid rhan diboen (MWPSS 7.65–6; cf. DewiLGC1 llau. 23–4; TydechoDLl llau. 25–6).Wrth ddisgrifio bywyd dilynwyr Martin ym Marmoutier noda Sulpicius fod y rhan fwyaf ohonynt yn gwisgo dillad o rawn camelod (camelorum saetis) yn benodol (SSVM §10(8)). Hepgorwyd y cyfeiriad hwn o’r adran gyfatebol o’r fuchedd Gymraeg (§17), efallai am iddo gael ei ystyried yn rhy astrus neu annhebygol. Dylid nodi, fodd bynnag, fod Sulpicius ei hun wedi anfon dillad o rawn camelod yn anrheg at ei gyfaill, Paulinus o Nola, ac y rhoddid bri mawr ar wisgoedd o’r math hwn oherwydd eu cysylltiad â Ioan Fedyddiwr (Fontaine 1967–9: 681–2; Stancliffe 1983: 33).

81 yn darianoc o vilyriaeth nevol Cymharer SSVM §14(5) hastati atque scutati instar militiae caelestis ‘armed with spear and shield like the heavenly host’. Yn y cyfieithiad Saesneg dehonglir [t]arianoc yn ffigurol (‘wedi eu hamddiffyn’) ond gellid ei ddehongli’n llythrennol (‘wedi eu harfogi â tharianau’). Mae amrediad ystyron eang i’r geiriau militiae a milyriaeth; gweler LD s.v. mīlĭtĭa, ae ‘military service, warfare, war’, ‘Military spirit, courage, bravery’, ‘the soldiery, military’ a GPC Ar Lein d.g. milwriaeth ‘Brwydr, rhyfel, rhyfelgarwch, hefyd yn ffig.; camp filwrol, medr wrth ymladd, cymeriad neu ymddygiad milwrol, dewrder, glewder; milwyr, byddin, llu (arfog)’. Felly, byddai’n bosibl dehongli [m]ilyriaeth nevol yn gyfeiriad at lu’r nef, fel yn y Vita.

82 y’w nerthv yntav o losgi Ar y gystrawen, gweler GPC Ar Lein d.g. o1 16(b) ‘I, wrth (ar ôl b[er]f neu fe[rfenw] sy’n dynodi cynorthwyo, &c.)’.

83 y rhai ni ellir help vddvnt i hvn Troswyd ystyr y cymal cyfan yn hytrach na’r geiriau unigol.

84 yngwlad Ediwrwm SSVM §15(1) in pago Aeduorum. Gellid dehongli pagus yn ‘rhanbarth’ neu’n ‘pentref, tref’ (DMLBS, s.v.; Fontaine 1967–9: 285 ‘dans un canton du pays éduen’; SSVM 113 ‘in a village of the Aedui’). Roedd yr Aedui yn llwyth grymus yr oedd eu tiriogaeth yn cynnwys rhan helaeth o ganolbarth Gâl (SSVM 221; gw. hefyd LD s.v. Aedŭi (Haed-), ōrum ‘a tribe in Gallia Celtica friendly to the Romans’). Rhannwyd civitas Aeduorum rhwng esgobaethau Autun, Châlon a Mâcon; gwelir, felly, fod gweithgareddau efengylaidd Martin yn estyn y tu hwnt i ffiniau ei esgobaeth ei hun (sef esgobaeth Tours) (gw. Stancliffe 1983: 329–30 ac ibid. n7; Babut 1912: 220n1; a cf. n. 79 uchod). Mae’r ffurf Ediwrwm a ddefnyddiodd Siôn Trefor yn Gymreigiad o’r enw Lladin genidol lluosog Aeduorum; felly, dehonglir yngwlad Ediwrwm yn ‘yng ngwlad y Aedui’ yn y cyfieithiad Saesneg. Fodd bynnag, mae’n bosibl fod y ffurf wedi ei deall yn enw lle syml.

85 merch a elwid Treueris Camddehonglwyd enw lle yn enw personol. Nid enwir y ferch yn y Vita; yno, cyfeiria Treveris at ei lleoliad yn ninas Trier, ger ffin orllewinol yr Almaen heddiw (SSVM §16(2) Treveris puella quaedam ‘There was at Trier a girl’). Yn y cyfnod Rhufeinig gelwid y ddinas yn Augusta Treverorum ac yr oedd yn un o ddinasoedd pwysicaf yr ymerodraeth orllewinol (Fontaine 1967–9: 815; OCD 206; SSVM 223–4).

86 gwnai Fel arfer byddid yn deall hon yn ffurf trydydd unigol amherffaith (GMW 130) ac fe’i defnyddir fel hyn mewn mannau eraill yn y fuchedd gan gynnwys un achos yn yr un adran: yn disgwyl beth a wnai wasanaethwr Duw (cf. §§3, 4, 5, 37, 40 a 41). Yma, fodd bynnag, dengys y cyd-destun fod gwnai yn ffurf ail unigol presennol mynegol. Ceir achosion o sillafiad tebyg yn y farddoniaeth, e.e., DG.net 166.51–2 ‘Pa ryw orllwyn mewn llwyni / Yn y dail yna wnai di?’; GLM LXXXVI.46 Nis gwna duc onis gwnai di. Cymharer hefyd y terfyniad tebyg ar ffurf ail unigol presennol mynegol y ferf cael ym Muchedd Martin, §45, ni chai di … ddim bai ynof vi.

87 Tretadius Defnyddir y sillafiad hwn ar ei enw unwaith yn unig yn y fuchedd; fe’i gelwir yn Titradius (ddwywaith) neu’n Tetradius mewn mannau eraill yn yr adran hon. Yn Vita S. Martini ei enw yw Tetradius neu Taetradius (SSVM §17; Halm 1866: 126; Fontaine 1967–9: 288, 290).

88 a’i ervynniodd Deellir yr ’i yn rhagenw mewnol proleptig, yn achub y blaen ar y gwrthrych a fynegir ar ddiwedd y frawddeg ([d]yvod i roi i law arno; ar y gystrawen, gw. GMW 56–7). Er disgwyl h ar ddechrau’r ferf ar ôl y rhagenw hwn (cf. §11 a’i hatebodd (a’r gwrthrych yn wrywaidd, fel yma)), digwydd hyn yn llai cyson ar ôl y rhagenw gwrywaidd nag ar ôl y rhai benywaidd neu luosog (TC 153–5).

89 mewn modd o’r byd Ni chynhwysir yr ymadrodd hwn ymhlith y cyfuniadau yn GPC Ar Lein d.g. modd, ond cymharer ibid. (mewn, yn) modd yn y byd ‘by some means, by any means, (in) any way, at all (often in a negative construction).’

90 kreffinio Enghreifftiau geiriadurol yn unig a ddyfynnir yn GPC Ar Lein d.g. craffinio, creffinio (‘Ysgraffinio, crafu, torri’r croen, peri gwaedu’), a’r gynharaf yn dyddio o 1632 (Dictionarium Duplex, John Davies).

91 ymddieflygv Nid ymddengys fod unrhyw achos arall o’r gair hwn. Ni chynhwysir nac ymddieflygu na dieflygu yn GPC Ar Lein, ond cymharer ibid. d.g. dieflig ‘Diawledig, cythreulig … a chythraul ynddo’. Yn yr eirfa ar gyfer y darn o Fuchedd Martin a gyhoeddwyd yn Parry-Williams 1954, cynigir yr ystyr ‘ymryddhau, ymlanhau o afael cythraul’, ond mae elfennau a chyd-destun y gair yn awgrymu’r gwrthwyneb: efallai ‘ymddwyn yn ddieflig’, ‘ei wneud ei hun yn ddieflig’ neu ‘ymgyfuno â’r diafol’. Cymharer hefyd ystyr y ferf ymgythreulio a geir ddwywaith yn Perl mewn Adfyd (1595), cyfieithiad gan Huw Lewys o draethawd Saesneg a gyfieithiwyd o’r Almaeneg gan Myles Coverdale; yn yr achos cyntaf mae gwallgofi, ac ymgythreulio a wnant yn cyfieithu ‘rave and rage and give themselves over to the devil’, ac yn yr ail, mae hwy a ymgythreuliant, ac a wallgofiant yn cyfieithu ‘they rage and rave’ (Gruffydd 1929: 135, 237; Pearson 1884: 150, 191).

92 yn y plas Nid oes sicrwydd am ystyr plas yma; yn y cyd-destun gallai olygu naill ai ‘plasty’ neu ‘lle neilltuol’ (GPC Ar Lein d.g. plas (a), (b)). Nid yw’r naill na’r llall yn cyfateb yn union i’r testun Lladin, in interiore parte aedium (SSVM §17(5); Roberts 1894: 12 ‘in the inner part of the house’).

93 kyme[ll] Mae’n amhosibl fod yn sicr pa ferfenw a fwriedid yma. Mae naill ai kymell neu kym(e)ryd yn rhoi ystyr dderbyniol, ond dewiswyd y cyntaf am ei fod yn agosach at ystyr y ferf gyfatebol yn y fuchedd Ladin (gw. n. 31 (testunol)).

94 vn ar bymthec o gythrevliaid Gwrthgyferbynner SSVM §18(2) decem daemonas ‘ten demons’. Fodd bynnag, ceir y rhif un ar bymtheg (sedecim neu sexdecim) ymhlith y darlleniadau amrywiol a nodir gan Halm (1866: 127) a Fontaine (1967–9: 292).

95 yr holl dinas Disgwylir treiglad meddal ar ôl holl (cf., e.e., §8 yr holl elynion, §24 yr holl bobl, §26 holl vrynt[i] y korff ), ond weithiau mae dd- yn caledu’n d- yn dilyn -ll (TC 93).

96 o’i blinder a’i hofn Awgryma’r diffyg treiglo ar ôl y rhagenw cyntaf, a’r h a ychwanegwyd ar ôl yr ail, fod y ddau ragenw naill ai’n fenywaidd (unigol) neu’n lluosog. Am fod dinas yn air gwrywaidd mewn mannau eraill yn y testun (nid yw byth yn treiglo ar ôl y fannod (gw. §§12, 16, 21, 24, 26), a cf. yn arbennig §16 o’r dinas hwnnw, §26 y dinas hwnnw), deellir y rhagenwau yn rhai lluosog sy’n cynrychioli’r ddinas fel casgliad o bobl yn hytrach na fel endid daearyddol neu weinyddol.

97 pobl vawr Gellid ei ddeall naill ai’n ‘pobl bwysig’ neu’n ‘torf fawr’ (gw. GPC Ar Lein d.g. pobl ‘Bodau dynol … llwyth, torf’); mae magnis … turbis y testun Lladin (SSVM §18(3)) o blaid yr olaf.

98 dinas Siartris Tardda’r hanes a geir yn yr adran hon o un o destunau ymddiddan Sulpicius (Halm 1866: 185 (Dialogi I (II), §4)); dychwelir at Vita S. Martini wedyn. Cyfeiria’r testun Lladin yma at Carnotum oppidum ‘tref y Carnutes’. Prif dref y llwyth hwn oedd Autricum, sef Chartres erbyn yr Oesoedd Canol (Roberts 1894: 40n2). Mae’n drawiadol fod yr enw lle wedi ei ddiweddaru mor llwyddiannus yn yr achos hwn (cymharer n. 5, n. 29, n. 84, n. 85); un esboniad posibl yw bod Siôn Trefor wedi ymgorffori glos esboniadol a welodd yn ei gynsail.

99 edwaeniad Ffurf trydydd unigol amherffaith y ferf adnabod; cf. y ffurf atwaenat a nodir yn GMW 148, ac am y terfyniad (i)at gweler ibid. 122.

100 cent Os ffurf trydydd lluosog amherffaith y ferf cael yw hon, disgwylid keffynt neu kehynt (GMW 149). Efallai fod darlleniad y llawysgrif yn ffurf gywasgedig (lafar?) ar un o’r rhain; cymharer BMartin §49 pann geffynt liw dydd.

101 Arkorivs Fe’i gelwir yn Abirius yn y frawddeg nesaf ond un. Ei enw yw Arborius yn Vita S. Martini (SSVM §19(1) Arborius … vir praefectorius ‘Arborius, a man of praefectorial rank’, ibid. (2) apud Arborium). Roedd Magnus Arborius, aelod o deulu uchelwrol Galaidd-Rufeinig o Acwitania, yn Rhaglaw Dinas Rhufain yn 380 (Fontaine 1967–9: 873–4; SSVM 233).

102 kryd kwartan Gweler GPC Ar Lein d.g. cryd … cryd cwartan quartain ague’; hon yw’r enghraifft gynharaf a ddyfynnir, ond nodir enw arall ar yr un clefyd, sef cryd y pedwaredydd, y ceir enghreifftiau ohono o’r drydedd ganrif ar ddeg ymlaen. Gweler ymhellach OED Online s.v. quartan B. 1.a ‘Recurring (by inclusive reckoning) every fourth day … spec. designating a form of malaria in which fever recurs in this way’.

103 Pawlinvs Roedd Paulinus o Nola (353/5–431) yn fab i deulu bonheddig o Acwitania a bu’n llywodraethwr Campania cyn cael tröedigaeth ysbrydol; ymwrthododd ef a’i wraig â’u cyfoeth bydol ac ordeiniwyd ef yn 394, gan gael ei ethol yn esgob Nola yn ddiweddarach (ODCC 1252; SSVM 233–4). Ymddengys fod yr hanes am y driniaeth ar ei lygaid a adroddir yn yr adran hon yn dyddio o’r cyfnod cyn iddo gael ei fedyddio (Fontaine 1967–9: 883). Crybwyllir Paulinus eto yn §40, a Martin yn cynghori Sulpicius i [g]ymryd siampl wrtho.

104 yn ymarver o gyfarwyddion ‘Dewiniaeth’ neu ‘swynau’ yw’r ystyron mwyaf tebygol ar gyfer cyfarwyddion yma; gweler GPC Ar Lein d.g. cyfarwydd (fel enw (lluosog), ystyr 3). Nid oes dim sy’n cyfateb i hyn yn y testun Lladin, SSVM §19(3) Paulinus, magni vir postmodum futurus exempli ‘Paulinus, a man destined thereafter to be a great example for others.’ Ymddengys fod Siôn Trefor wedi camddarllen neu gamddeall y gair magni (magnus ‘mawr’) gan ystyried ei fod yn rhyw ffurf ar magus ‘dewin’. Gallai hyn fod wedi digwydd yn hawdd drwy ddarllen u am n. Ar y darlleniad hwn a gwallau cyfieithu eraill yn y testun, gweler ymhellach y Rhagymadrodd.

105 drostvn Fe’i deellir yn ffurf lafar ar trostynt, drostynt; ceir yr un ffurf yn §44, a chymharer wrthvn yn §36 ac oeddyn yn §20.

106 pinn bychan Ni ellir bod yn sicr pa fath o offeryn a olygir yma. Yn GPC Ar Lein dyfynnir yr ymadrodd hwn dan pìn2, ‘cwilsyn’ neu ‘stilws’, ond ceir erthygl arall ar gyfer pìn1, a all olygu ‘pin’ (yn yr ystyr ‘darn bychan main o ddur, &c.’) neu gyfeirio at amryw offer pigfain eraill. Y gair cyfatebol yn Vita S. Martini yw penicillo (penicillum/penicillus) neu’r sillafiad amrywiol pinicillo, neu peniculo (peniculus), gair sy’n perthyn yn agos i’r llall (SSVM §19(3); Halm 1866: 128), ac mae’n debygol mai’r hyn a olygir yw naill ai rhyw fath o offeryn offthalmig ar gyfer dodi meddyginiaeth ar friw, megis brwsh bach neu sbwnj, neu’r feddyginiaeth ei hun o bosibl (gw. LD s.v. pēnĭcillum, pēnĭcillus a pēnĭcŭlus; Roberts 1894: 13; SSVM 117; Fontaine 1967–9: 295, 886; Stancliffe 1983: 366).Yn y Vita nid oes ansoddair yn goleddfu penicillo/pinicillo/peniculo; ymddengys, felly, fod Siôn Trefor wedi adnabod terfyniad bachigol y gair Lladin a’i drosi’n bychan. Ond beth oedd ystyr yr elfen gyntaf, yn ei farn ef? Gallai fod wedi ei throsi yn pìn gan ystyried bod iddi un o’r ystyron a nodwyd uchod ar gyfer y ddau air Cymraeg; neu, fel arall, efallai’r cwbl a wnaeth oedd cadw neu Gymreigio’r elfen Ladin am na wyddai sut i’w throsi. Fel y nodwyd uchod, ceir pinicillo ymhlith darlleniadau amrywiol y Vita; fodd bynnag, gellid pin(n) o pen- hefyd; cf. tarddiad posibl pìn2‘cwilsyn, stylus’ o’r Hen Ffrangeg penne (efallai drwy Saesneg Canol) neu o’r Lladin penna (gw. GPC Ar Lein d.g. pìn2, lle nodir ymhellach y gallai e wedi troi’n i dan ddylanwad pìn1).
Mae’n amheus, felly, faint o gysylltiad sydd mewn gwirionedd rhwng y pinn hwn a’r naill neu’r llall o’r ddau pìn a drafodir yn GPC Ar Lein. Ar y llaw arall, y tebyg yw y byddai ymwybyddiaeth o’r geiriau hyn wedi effeithio ar sut y deellid y pinn bychan gan gynulleidfa’r fuchedd, a dyma pam y trosir y gair yn ‘?pen/pin’ yn y cyfieithiad Saesneg.

107 A chann vod yn rhyhir … gan bethav rhyhir. Defnyddiwyd inc coch ar gyfer y frawddeg hir hon, fel pe bai i dynnu sylw at lais yr awdur; cf. ar ddiwedd §37 a hefyd y coloffon, ond gwrthgyferbynner y darnau yn llais yr awdur yn §§17, 18, 39, 40, 42, 45, 56, a ysgrifennwyd yn yr inc brown arferol.

108 Maxenianus Gwrthgyferbynner Maxemanus ar ddiwedd yr adran hon. Maximus yw enw’r ymerawdwr yn Vita S. Martini (SSVM §20), sef Magnus Maximus, Sbaenwr a fu’n ymerawdwr yn y gorllewin rhwng 383 a 388. Daeth yn arweinydd ar y lluoeodd Rhufeinig ym Mhrydain ac fe’i cyhoeddwyd yn ymerawdwr gan ei filwyr yno. Aeth i Gâl a disodlodd yr Ymerawdwr Gratian, a laddwyd wedyn (yn 383). Cydnabuwyd Maximus gan Theodosius I, a lywodraethai yn y dwyrain; ond ar ôl i Maximus fynd â’i luoedd i’r Eidal, gan yrru Valentinian II ar ffo, symudodd Theodosius I yn ei erbyn. Trechwyd Maximus mewn dwy frwydr ger Siscia a Pola, a’i ddienyddio yn Aquileia yn 388 (OCD 626, 888, 1458, ac ar Valentinian II, gw. hefyd n. 114 isod).Cyfeirir at hanes Maximus gan Gildas ac yn Historia Brittonum, ac roedd nifer o linachau brenhinol Cymru yn honni eu bod yn disgyn ohono (TYP 442). Ceir dau fersiwn gwahanol o’i hanes yn Historia Regum Brittaniae Sieffre o Fynwy ac yn y chwedl Gymraeg ‘Breuddwyd Macsen Wledig’ (Matthews 1983; TYP 442–3; WCD 434–5; Roberts 2005), a chyfeirir at ‘Macsen’ mewn barddoniaeth o’r ddeuddegfed ganrif ymlaen (Parry Owen 1997: 33; Parry Owen 2008: 62; GCBM i 16.88n; ac am gyfeiriadau barddol gan gydoeswyr i Siôn Trefor, gw. GG.net 53.22; GLGC 83.57, 97.73–6, 208.17). Fodd bynnag, nid oes dim yn y fuchedd sy’n awgrymu bod Siôn Trefor yn cysylltu Maxenianus/Maxemanus â Macsen Wledig. Gall mai ffrwyth camgopïo yw’r anghysondeb yn sillafiad ei enw yn y fuchedd, ond mae’n bosibl hefyd fod a wnelo’r gwahanol ffurfiau â dryswch mwy cyffredinol rhwng yr enwau Maximus, Maximianus a Maxentius (TYP 443; Matthews 1983: 439–43).

109 a laddasai y llall ac a yrasai yr amerodr arall ar ffo o’r tir Sef yr Ymerawdwr Gratian, a laddwyd yn 383, a’i frawd Valentinian II (BSM 19n3, a gw. n. 108 uchod a n. 114 isod). Cyfeirir at yr olaf wrth ei enw (Valentinian Amerodr) ar ddiwedd yr adran hon.

110 cymerth Berf trydydd unigol gorffennol, er bod angen ei chyfieithu â’r gorberffaith yn y Saesneg; newidiwyd amser y berfau yn y frawddeg ddilynol (oedd, [l]las) yn yr un modd.

111 y naill ai wrthvyn Dengys y treiglad i’r berfenw fod yr arddodiad i yn ddeelledig yma. Mae’n debygol iddo gael ei gywasgu â’r ai.

112 Iarll Evodius a iarll a elwid Preffectus Gwrthgyferbynner SSVM §20(4) praefectus idemque consul Evodius. Roedd Evodius yn praefectus (‘prefect’) ac yn consul, ond yn y testun Cymraeg camddehonglwyd praefectus yn enw priod gŵr arall.

113 Ac ef a roddes y kwpan a’r ddiod yn llaw Varthin i ddechrev atto Cymerir atto gyda’r ymadrodd ef a roddes.

114 Valentinian Amerodr Sef Valentinian II, mab Valentinian I. Fe’i dyrchafwyd gan filwyr Aquincum, Pannonia Inferior (gw. n. 4), ar ôl marwolaeth ei dad, ond nis cydnabuwyd yn ymerawdwr y gorllewin nes i’w frawd Gratian gael ei drechu gan Magnus Maximus yn 383. Gyrrwyd Valentinian II o’r Eidal gan Maximus yn 387, ond daeth yn ôl i rym y flwyddyn ddilynol gyda chymorth Theodosius I gan deyrnasu hyd ei farwolaeth yn 392 (OCD 1531, ac ar Magnus Maximus gw. n. 108 uchod).

115 y dinas Er nad enwir y lle yn y testun Cymraeg, y ddinas a olygir yw Aquileia (SSVM §20(9) intra Aquileiae muros ‘within the walls of Aquileia’), ger pen gogleddol yr Adriatig (OCD 129). Dienyddiwyd Magnus Maximus yno yn 388 (OCD 888, a gw. n. 108 uchod).

116 Marthin a griodd o hyd i benn Am yr ystyr, cymharer GPC Ar Lein d.g. gweiddi o hyd pen (ei ben, &c.) ‘to cry out aloud’.

117 O Duw dec Ar dreiglo ansoddair ar ôl enw priod, gweler TC 114.

118 Ac yr yn bod ni yn son … i ochel drwc. Defnyddir inc coch ar gyfer y frawddeg hon, fel yn achos §34 uchod (gw. n. 107).

119 Klarus Gwrthgyferbynner y sillafiad Klarius/Klarivs isod. Clarus a geir yn y Vita (SSVM §23(1, 4, 8)). Roedd y dyn ifanc, bonheddig hwn yn uchel ei fri gan Sulpicius a chan ei gyfaill Paulinus o Nola, ac mae’n debygol mai gan Clarus ei hun y clywodd Sulpicius yr hanes sy’n dilyn (Van Dam 1993: 14–15; Fontaine 1967–9: 989). Mewn un o’i lythyrau dywed Sulpicius fod Clarus wedi marw ychydig cyn Martin ac iddo ei weld mewn gweledigaeth yn dilyn ei feistr i’r nefoedd (Fontaine 1967–9: 324–7 (Epistulae II.2–6)).

120 Antilius LlGC 3026C antilius, ond ei enw yw Anatolius yn Vita S. Martini (SSVM §23(2); ni noda Halm (1866: 132) na Fontaine (1967–9: 302) unrhyw ddarlleniad amrywiol sy’n debyg i sillafiad y testun Cymraeg).

121 ywch Ffurf ar y rhagenw meddiannol blaen ail lluosog; cymharer y ffurfiau ych, awch a nodir yn GPC Ar Lein d.g. eich (ceir y ffurf ych yn §48 a §55, isod). Yn y frawddeg ddilynol, fodd bynnag, ffurf ar yr arddodiad rhediadol i (‘ichwi’) yw ywch (gw. GPC Ar Lein d.g. i2), a gwrthgyferbynner hefyd ddefnydd ywch (y’wch yn y testun golygedig) i gynrychioli’r arddodiad i + y rhagenw mewnol ’(w)ch yn §48 a §55.

122 rhinweddav Er cyfieithu ‘powers’, yn syml, cymharer yr ystyr ‘(yn y ll[uosog]) Grymoedd (nefol), yn enw. y seithfed o raddau’r angylion’ yn GPC Ar Lein d.g. rhinwedd (f). Mae’n debygol mai ystyr gyffelyb a fwriedid ar gyfer y gair (unigol) Lladin virtutem yn y Vita (SSVM §23(5); a gw. Stancliffe 1983: 154, 235). Am achosion eraill o gyfieithu gair Lladin unigol â gair Cymraeg lluosog yn y fuchedd hon, gweler n. 73.

123 hettis o’r ffordd Yn llythrennol, ‘ychydig bach o’r ffordd’; gweler GPC Ar Lein d.g. hetys.

124 gwyrthiav Mae cyd-destun y gair yn caniatáu ei ddeall naill ai’n ‘galluoedd rhinweddol’ neu’n ‘digwyddiadau rhyfeddol’ (gw. GPC Ar Lein d.g. gwyrth). Fe’i cyfieithir yn ‘miraculous powers’ er mwyn cyfleu rhywfaint o’r ddwy ystyr bosibl; cymharer y gair unigol virtute yn y Vita a ddehonglir yn yr ystyr ‘power’ yng nghyfieithiad Burton (SSVM §25(1)). Cymharer hefyd n. 55 uchod, ar achosion lle’r ymddengys fod gw(y)rthiau yn cael ei drin yn air unigol o ran y gystrawen.

125 A’r nos honno ef a olches yn traed. Cymharer hanes yr Iesu yn golchi traed ei ddisgyblion yn Ioan 13.5.

126 Pawlinvs Nodir yn y Vita (SSVM §25(4)) mai hwn yw’r Paulinus a grybwyllwyd o’r blaen, sef Paulinus o Nola (gw. §32 a n. 103).

127 nac mor ddaionvs ac mor bur a rhinweddev Marthin Mae’n debyg fod chwithigrwydd y darn hwn yn ffrwyth camgyfieithu. Cymharer y darn cyfatebol a’i gyd-destun ehangach yn y Vita: SSVM §25(7–8) ex nullius umquam ore tantum scientiae, tantum ingenii, tantum tam boni et tam puri sermonis audisse. quamquam in Martini virtutibus quantula est ista laudatio! ‘I have never heard from anyone’s mouth so much knowledge, such evidence of good abilities, such goodness, such purity of language. Although, compared with Martin’s miraculous powers, what slight praise is that!’ Ymddengys fod Siôn Trefor wedi deall quantula est ista laudatio yn ddechrau brawddeg newydd (Eisioes, pa vaint bynnac yw hynn o ganmol…) a’i fod hefyd, o bosibl, wedi camgyfieithu quamquam (‘er’, Saesneg ‘although’) fel pe bai’n quam (‘â’, Saesneg ‘as’; felly, … a rhinweddev Marthin).

128 ardymherus Cyfieithir yn ‘very self-restrained’ ar sail GPC Ar Lein d.g. ar- (rhagddodiad gyda grym cadarnhaol) a d.g. tymherus (b) ‘moderate, self-restrained’, yn hytrach na dilyn yn union yr ystyron a roddir ibid. d.g. ardymherus (a) ‘temperate (of climate, &c.), mild’ neu (b) ‘moderate, temperate; ?well-balanced (of person)’.

129 Hemerus Sef Homer (SSVM §26(3) Homerus), y bardd Groegaidd y priodolir yr Iliad a’r Odyssey iddo (OCD 695–700). Mae’n debygol fod y disgrifiad ohono fel yr ysgolhaic a’r ystoriawr mawr wedi ei ychwanegu gan Siôn Trefor er budd ei gynulleidfa.

130 dyvod o vffern Mae’n debygol y cyfeirir yma at uffern fel trigfan gyffredinol eneidiau paganiaid, yn hytrach na mynegi unrhyw feirniadaeth ar Homer yn bersonol. Yn Vita S. Martini cyfeirir ato’n dod ab inferis (SSVM §26(3), a gw. LD s.v. infĕrus, uminfĕri, ōrum ‘the inhabitants of the infernal regions, the dead’).

131 ni adnabvom Nid y geiryn negyddol ni(d) yw ni yma ond yn hytrach y rhagenw cyntaf lluosog ni. Fe’i defnyddid weithiau’n eiryn rhagferfol (GPC Ar Lein (a) d.g. ni1, cf. GMW 172), ond mae’n fwy tebygol mai’r gystrawen fwy cyffredin gyda’r geiryn a a fwriedid (cf., e.e., §40 ni a ddoethom). Mae’n bosibl fod yr a wedi ei hepgor am fod sain tebyg (a-) yn ei ddilyn.

132 gwyrthiav SSVM §27(3) virtutis ‘power’. Ar ddehongliad y gair Cymraeg, gweler n. 124.

133 Ac o byddai neb yn kasav Marthin, diryvedd oedd gassav eraill. Hynny yw, pe bai rhywun yn casáu dyn mor ddaionus â Martin, ni fyddai’n rhyfedd iddo gasáu pobl eraill megis yr awdur (Sulpicius) ei hunan.

134 a’i kretto ac a’i darlleo Cyfetyb y darn hwn i ddiwedd Vita S. Martini. Newidiwyd trefn y ddwy ferf yn y testun golygedig yn BSM 26.22 (ai darlleo ac ai kretto), efallai ar sail y testun Lladin, er bod yr ystyr ychydig yn wahanol yno (SSVM §27(7) non quicumque legerit, sed quicumque crediderit ‘not for any who read this work, but for any who believe’), neu efallai oherwydd ystyried bod cyfeirio at gredu cynnwys y fuchedd cyn ei ddarllen yn afresymegol. Fodd bynnag, efallai y rhoddodd Siôn Trefor kretto yn gyntaf er mwyn awgrymu yn ei ffordd ei hun mai credu oedd y peth pwysicaf, a hyn o bosibl yn adlewyrchu hefyd ei ymwybyddiaeth y byddai rhai yn clywed ei fersiwn ef o’r fuchedd yn cael ei ddarllen yn uchel yn hytrach na’i ddarllen drostynt hwy eu hunain.

135 Marthin … gwanhav. O’r frawddeg hon hyd at ddiwedd §46 mae’r testun Cymraeg yn tarddu o drydydd llythyr Sulpicius am Martin (Fontaine 1967–9: 336–45 (§§6–20)).

136 Kondatensys Fontaine 1967–9: 336 (Epistulae III.6) Condacensem, sef Candes neu, erbyn heddiw, Candes-Saint-Martin; fe’i lleolir yng nghanolbarth Ffrainc, lle mae afon Vienne yn llifo i afon Loire. Yn ôl Gregori o Tours roedd Candes yn un o chwe phentref y sefydlodd Martin eglwysi ynddynt, a hynny, mae’n ymddangos, ar ôl iddo ddinistrio cysegrfannau paganaidd (Krusch and Levison 1885a: 32.1 (Historia Francorum X.31); Fontaine 1967–9: 1288n1; Stancliffe 1983: 332). Cyfeirir eto at Martin yn clafychu yn Candes yn §47 ([t]ref Condantansius, [t]ref Gondensus).

137 blorsiaid nev gwtiaid Un gair a ddefnyddir yma yn y testun Lladin, sef mergos (Fontaine 1967–9: 338 (Epistulae III.7)); gweler LD s.v. mergus, i ‘A diver, a kind of water-fowl’. Fel y nodir yn BSM 27n3, ceir diffiniad eang iawn ar gyfer y gair hwn yn Dictionarium Duplex John Davies, 1632: ‘Mergus, i, Enw cyffredin i lawer o for-adar. Mulfran, morfran, huccan, gwylan.’ Os oedd amrediad ystyron posibl y gair yn gyffelyb yn amser Siôn Trefor, nid oes rhyfedd iddo deimlo ansicrwydd a defnyddio mwy nag un gair Cymraeg i’w gyfieithu.Tardda cwtiad o’r Saesneg ‘coot’ yn ôl GPC Ar Lein d.g. cwtiad1, sy’n rhoi’r ystyron ‘cwtiar’ a ‘rhostog’ (Saesneg ‘coot’ and plover’). Fodd bynnag, o’r ddau aderyn hyn, y cyntaf yn unig sy’n nofio a phlymio mewn dŵr, ac nid yw’r naill na’r llall yn nodweddiadol am ei hoffter o fwyta pysgod, yn groes i’r disgrifiad a geir yn y testunau Lladin a Chymraeg. Mae’n werth ystyried, felly, ystyr arall a nodir yn OED Online s.v. coot, n.1 ‘1. A name originally given vaguely or generically to various swimming and diving birds. In many cases it seems to have been applied to the Guillemot (Uria troile) [Cymraeg ‘gwylog’], the Zee-koet or Sea-coot of the Dutch.’
O ran blorsiaid, ni cheir enghraifft arall o’r gair yn GPC Ar Lein. Cynigir yno yr ystyr ‘?mulfrain’ (Saesneg ‘?cormorants’), gan ddilyn awgrym petrus BSM 27n3 sy’n nodi bod yr adar hyn yn gysylltiedig yn gryf â glythineb (cf. OED Online s.v. cormorant). Maent yn nofio ac yn plymio hefyd, ac yn wahanol i’r gwylog maent yn arfer pysgota ar afonydd a llynnoedd yn ogystal ag ar yr arfordir.
Erys ansicrwydd mawr, ond os mulfrain (‘cormorants’) oedd blorsiaid, gallai’r gair cwtiaid fod wedi ei ychwanegu naill fel cyfystyr neu mewn ystyr fwy generig (efallai ‘adar dŵr’, ‘adar plymio’ neu ‘adar môr’).

138 gwedy ossod Awgryma’r treiglad meddal ar ôl gwedy ei fod yn gywasgiad o gwedy a’r rhagenw trydydd unigol gwrywaidd i; cf. yr achosion a nodir yn n. 67.

139 rhyvelu dan dy arwyddion Ceir adlais yma o yrfa filwrol gynharach Martin; cymharer yn arbennig ei eiriau wrth Iwlian Cesar, §8 ‘Mi a ryvelais gyd a thi; goddef ym bellach ryvelu gyd a Duw …’

140 ni wedda i Gristion varw ond yn y llvdw Yn yr Oesoedd Canol, ymddengys fod mynaich Marmoutier, pan oeddynt ar farw, yn arfer gorwedd ar ludw a gedwid o ddydd Mercher y Lludw ac a daenwyd dros lun arbennig ar lawr capel y clafdy (Farmer 1991: 142).

141 yr wyf vinnav yn pechu o gadaf amgen Cymharer Fontaine 1967–9: 340, 342 (Epistulae III.15) « …ego si aliud uobis exemplum relinquo, peccaui.» (Roberts 1894: 23 ‘ “… I have sinned if I leave you a different example.” ’). A hepgorwyd rhyw air fel siampl drwy amryfusedd?

142 mynwes Abram Fontaine 1967–9: 342 (Epistulae III.16) Abrahae … sinus. Ar y patriarch Abram neu Abraham, a ‘mynwes Abraham’ yn enw ar y nefoedd neu ar orffwysfan eneidiau cyfiawn, gweler ODCC 6; LD s.v. sĭnus, ūs II. 2.e.; DMLBS s.v. (2) sinus 4. d; OED Online s.v. Abraham … Abraham’s bosom. Tarddodd yr ymadrodd o hanes y cardotyn Lazarus yn Luc 16.22, y ceir cyfieithiad Cymraeg cynnar (1551) ohono yn nhestun William Salesbury, Kynniver Llith a Ban (Fisher 1931: liib Ac e ddamwyniodd i Lazar varw a chael e ddwyn can aggelon i vonwes Abraham; hwn yw’r achos cynharaf a ddyfynnir yn GPC Ar Lein d.g. mynwes … mynwes, &c., Abraham).

143 gweled ohonvnt lywenydd y gwr bendigedic hwnn … yn wynnach no’r lluwch Mae darlleniad y testun Cymraeg yma yn sylweddol wahanol i’r hyn a geir yn llythyr Lladin Sulpicius fel y’i cyhoeddwyd yn nhestunau golygedig Halm (1866: 149–50) a Fontaine (1967–9: 342) (Epistulae III.17; cf. Roberts 1894: 23), ond mae’n bur debyg i ddarlleniadau amrywiol a nodir gan Halm (1866: 149–50).

144 wrth gladdv y korff, O Dduw, vaint y gwynvan oedd yno! Yn ôl Gregori o Tours, claddwyd Martin ar 11 Tachwedd 397 (Stancliffe 1983: 116–17).

145 Arkadius Roedd Arcadius yn fab hynaf Theodosius I ac fe’i dyrchafwyd yn Awgwstws gan ei dad yn 383. Pan fu farw Theodosius, yn 395, fe’i holynwyd gan Arcadius yn y dwyrain a chan ei fab ieuengaf, Honorius, yn y gorllewin; bu farw Arcadius yn 408 (OCD 135, 1458).

146 Omorius Diwygir yr enw yn Onorius yn BSM 30.5 (cf. Krusch and Levison 1885a: 32.1 (I.48) Honori; ni nodir unrhyw ddarlleniad amrywiol, ibid., sy’n debyg i sillafiad y testun Cymraeg). Roedd Honorius yn frawd iau i Arcadius (gw. n. 145), a’r ddau’n feibion i Theodosius I. Dyrchafwyd Honorius yn Awgwstws gan ei dad yn 393 a theyrnasai yn y gorllewin o 395 ymlaen. Ond ar ôl bod dan ddylanwad ei raglyw, Stilicho, gadawodd i’w rym gael ei drosglwyddo i eraill, gan gynnwys Constantine III. Bu farw Honorius yn 423 (OCD 704, 1401).

147 Artikus Diwygir yr enw yn Attikus yn BSM 30.6 (cf. Krusch and Levison 1885a: 32.5 (I.48) Attico; ni nodir unrhyw ddarlleniad amrywiol, ibid., sy’n debyg i sillafiad y testun Cymraeg). Roedd Nonius Atticus Maximus a Flavius Caesarius (gw. n. 148) yn gonsuliaid yn 397, sef y flwyddyn pan fu farw Martin (Van Dam 1993: 206n22).

148 Sisar Diwygir yr enw yn Sisar[ius] yn BSM 30.6 (cf. Krusch and Levison 1885a: 32.5 (I.48) Caesarioque ‘a Caesarius’). Cyfeirir at Flavius Caesarius, dyn a oedd (fel Nonius Atticus Maximus; gw. n. 147) yn gonsul yn 397, sef y flwyddyn pan fu farw Martin (Van Dam 1993: 206n22).

149 esgob Turwyn Gweler §16 a n. 59.

150 tref Condantansius Gweler n. 136.

151 yr vnved vlwyddyn a phedwar vgain o’i oed, a’r chweched ar hvgain wedy i wnevthur yn esgob Gwnaethpwyd Martin yn esgob c.371 a bu farw yn 397; mae ei brif ŵyl yn coffáu dyddiad ei angladd, sef 11 Tachwedd yn y flwyddyn honno.

152 Putayn Sef Poitiers; gweler n. 36 (ar esgob Putanesis) a chymharer y cyfeiriadau isod at Pataniaid a Pictaniaid (gw. n. 153).

153 Pataniaid Sef gwŷr Poitiers; gweler n. 36 a cf. gwyr Putayn ar ddechrau’r adran. Diwygir y gair yn Puteniaid yn BSM 30.15–16, efallai ar sail cymhariaeth â Putayn. Posibilrwydd arall yw bod Pataniaid yn wall am Pictaniaid, gair a ddefnyddir am y bobl hyn deirgwaith yn yr adran nesaf; cymharer hefyd destun Historia Francorum lle ceir Pectavi neu Pictavi yn air cyfatebol mewn gwahanol fersiynau llawysgrif (Krusch and Levison 1885a: 32–3 (I.48), a gw. yr aparatws, ibid.). Ni cheir yr un o’r ffurfiau Cymraeg uchod (Pataniaid, *Puteniaid, Pictaniaid) yn yr ystyr ‘gwŷr Poitiers’ yn GPC Ar Lein, ac er nodi puteniaid yn ffurf luosog ar yr enw cyffredin putain (gan ddyfynnu enghraifft o gyfieithiad William Salesbury o’r Testament Newydd, 1567) mae’n amlwg nad yr ystyr hon a fwriedid gan Siôn Trefor.

154 rhinweddav Am yr ystyr ‘miracles’ (yn hytrach na ‘virtues’), cf. y frawddeg nesaf ond un (y rhinweddav a wnaeth ef gyd a ni) a gweler GPC Ar Lein d.g. rhinwedd (e) ‘Gweithred ardderchog neu ryfeddol, gwyrth’.

155 ynni Sef ffurf cyntaf lluosog yr arddodiad rhediadol i, nid yr enw ynni ‘egni, grym’ (cf. nobis ‘i ni’ yn Krusch and Levison 1885a: 33.1 (I.48)). Darlleniad y llawysgrif yw yn ni.

156 lle yr ordeiniodd ef yn esgob Diwygiwyd y ferf yn ordeiniwyd yn BSM 30.31, gan gyfeirio at y darlleniad Lladin cyfatebol ordenatus est (Krusch and Levison 1885a: 33 (I.48)). Fodd bynnag, ac ystyried y rôl weithredol a briodolir i Dduw yn y rhan flaenorol o’r araith, mae’n bosibl mai ef yw goddrych y ferf ordeiniodd, a’r rhagenw ef, yn cynrychioli Martin, yn wrthrych iddi.

157 perchenogi Yn GPC Ar Lein d.g. perchnogi dyfynnir y darn hwn o fuchedd Martin yn enghraifft gynharaf o’r gair o dan yr ystyr ‘meddu (ar)’, ‘meddiannu’, ac yn y blaen, a gefnogir gan gryn nifer o achosion eraill o tua chanol yr unfed ganrif ar bymtheg ymlaen. Fodd bynnag, nodir yno ail ystyr, ‘arddel, hawlio, honni’, sy’n ymddangos yn fwy addas yng nghyd-destun y darn er mai dim ond dwy enghraifft a ddyfynnir, a’r ddwy yn dyddio o’r ail ganrif ar bymtheg. Cymharer hefyd Krusch and Levison 1885a: 33.3–4 (I.48) vindecare (gw. LD s.v. vindĭco ‘to lay legal claim to’, ‘to lay claim to as one’s own’).

158 Melan Gweler n. 43.

159 y dwr Ni nodir yn y fuchedd Gymraeg pa ddŵr a olygir, ond yn Historia Francorum esbonnir bod corff y sant yn cael ei gario ar hyd afon Vienne ac wedyn ar hyd afon Loire i ddinas Tours (Krusch and Levison 1885a: 33.11–13 (I.48); Thorpe 1974: 98). Crybwyllir afon Loire wrth ei henw yn gynharach yn y fuchedd Gymraeg, fodd bynnag, wrth ddisgrifio lleoliad abaty Marmoutier y rhwng kraic vchel ac avon Leyr (§17).

160 gwedi golli Awgryma’r treiglad meddal ar ôl gwedi fod hwn yn gywasgiad o gwedi a’r rhagenw trydydd unigol gwrywaidd i; cf. yr achosion eraill a nodir yn n. 67.

161 A hynn oedd ddevddeng mylynedd a phedwar kant gwedy dioddef o’n arglwydd ni, Iessu Grist. Hynny yw, 412 o flynyddoedd ar ôl i’r Iesu ddioddef ar y groes. Nodir yr un rhif yn Historia Francorum (Krusch and Levison 1885a: 34.3 (I.48)) ond mae’r ddau destun yn hanesyddol anghywir, oherwydd gwyddys y bu farw Martin yn 397.

162 Sevirus Sef yr Esgob Severinus o Köln; cf. Krusch and Levison 1885b: 140.6 (I.4) Beatus … Severinus, a gweler Van Dam 1993: 207n23. Tardd yr adran hon a’r rhai sy’n dilyn, ac eithrio’r coloffon (§57), o lyfr Gregori o Tours, Libri de virtutibus sancti Martini episcopi, I.4–6 (Krusch and Levison 1885b: 140–2; Van Dam 1993: 206–9).

163 dinas Kwlen Sef dinas Köln yn yr Almaen (Krusch and Levison 1885b: 140.6 (I.4) Colonensis civitatis). Sefydlwyd esgobaeth Köln naill ai yn ystod teyrnasiad yr Ymerawdwr Custennin Fawr (m. 337) neu cyn hynny (ODCC 380).

164 arthiagon Ceir yr un sillafiad isod, yn yr un adran. Mae’n eglur fod y gair yn cyfeirio at archddiacon (cf. archidiacono ac archidiaconus yn Krusch and Levison 1885b: 140.9, 21 (I.4)) ac yn wir rhoddir y ddwy ffurf, archiagon ac arthiagon, yn amrywiadau yn GPC Ar Lein d.g. archddiacon, er nodi y gall yr ail fod yn wallus (un enghraifft yn unig a roddir yno, a honno o ‘Brenhinoedd y Saeson’). Byddai’n hawdd camgopïo c yn t, ac ymddengys fod achosion eraill o gymysgu rhwng y ddwy lythyren yn y fuchedd, cf. gorchwyneb yn lle gorthwyneb yn §21, a [g]orthymyn yn lle [g]orchymyn yn §38. Diwygiwyd y ddau achos hynny yn y testun golygedig (gw. n. 20 (testunol), n. 51 (testunol)) ond cedwid arthiagon am mai hon yw’r unig ffurf a ddefnyddir yn y testun ac am fod achos mewn testun arall (er ei bod yn bosibl fod y tri achos yn wallus).

165 clwai Ffurf gywasgedig ar clywai (trydydd unigol amherffaith y ferf clywed), a all ddangos dylanwad yr iaith lafar; cymharer BDewi (Pen 27ii) §25 a ffa beth bynac a welsoch nev a glwsoch genyf i.

166 cad Un o ffurfiau gorffennol amhersonol y ferf cael (GMW 149).

167 Sant Ambros Etholwyd Ambrose yn esgob Milan yn 374 ar ôl marwolaeth Auxentius (arno, gw. §12 a n. 50); yn wahanol i’w ragflaenydd, roedd yn gwrthwynebu Ariaeth (SSVM 182). Noda Van Dam 1993: 207n24 ei bod yn rhaid ystyried y darn sy’n dilyn yn hanes apocryffaidd oherwydd bu farw Ambrose ym mis Ebrill 397, saith mis cyn marwolaeth Martin.

168 y wers broffwydol Cf. Krusch and Levison 1885b: 141.4–5 (I.5) prophetica lectione, ac OED Online s.v. propheticprophetic lesson ‘(after post-classical Latin lectio prophetica a reading of the Old Testament prophets (4th cent.), the Old Testament lesson at Mass (9th cent. or earlier)) a reading from one of the books of the Old Testament, esp. when given as the first lesson at the Eucharist or Mass.’

169 Pawl Ebostol Sef Sant Pawl, un o apostolion Crist; daeth â’r efengyl i Ewrop a’i adnabod fel ‘Apostol y Cenhedloedd’ (gw. ymhellach BPawl).

170 awr Efallai y dylid deall y gair yn yr ystyr ‘Amser penodol i weddio’ (gw. GPC Ar Lein d.g. awr1 (c)).

171 kapitelwm Cymreigiad o’r Lladin capitellum (cf. Krusch and Levison 1885b: 141.13 (I.5)), sef gweddi cyfryngol (‘intercessory prayer’) seiliedig ar adnodau o’r Ysgrythur (Taft 1993: 104–5; Woolfenden 2010: 52). Ni cheir y gair yn GPC Ar Lein, ond cf. ibid. d.g. cabidwl, capidwl 2 ‘pennod (mewn llyfr), llith (yng ngwasanaeth yr Eglwys)’, a hwn yn air benthyg o’r Lladin capitulum sy’n perthyn yn agos i capitellum (gw. LD s.v. căpĭtellum, i, a căpĭtŭlum, i).

172 a synnv a wnaeth ar bawb y chwedyl hwnn ac anrhyveddu Ar y gystrawen, gweler n. 72.

173 Mihangel Sef Sant Mihangel yr Archangel, a ystyrid yn gynorthwywr i fyddinoedd Cristnogol, yn amddiffynnwr i Gristnogion unigol ac yn un a hebryngai eneidiau’r meirw at Dduw (ODCC 1089).

174 Mair Y Fendigaid Forwyn Fair, mam yr Iesu. Derbyniwyd ei henaid a’i chorff i’r nefoedd pan ddaeth ei bywyd ar y ddaear i ben, yn ôl athrawiaeth y ceir y dystiolaeth gynharaf amdani yn y bedwaredd ganrif, ac a osodwyd allan gan Gregori o Tours yn y chweched ganrif (ODCC 118–19, 1053–4).

175 Perpettuwus Cf. Krusch and Levison 1885b: 141.25 (I.6) Perpetuus; mae’n debygol mai gwall copïo yw’r ffurf [P]etetuwus yn §54 isod. Roedd Perpetuus yn esgob Tours rhwng c.461 a c.490 a bu’n weithgar yn hybu cwlt Martin (gw. y Rhagymadrodd).

176 y demyl Dyma’r unig achos yn y fuchedd hon lle cyfeiria’r gair temyl at eglwys Gristnogol yn hytrach na theml baganaidd (gthg. §§20–3, a gw. GPC Ar Lein d.g. teml). Diau fod a wnelo hyn â defnydd y gair Lladin cyfatebol, templum, yn y gynsail, er cyfieithu’r un gair (templi) yn eglwys yn y frawddeg flaenorol (gw. Krusch and Levison 1885b: 142.2, 5 (I.6)). Efallai fod Siôn Trefor yn ystyried bod angen cyfieithu’n eglwys yn yr achos cyntaf hwn er mwyn gwneud yr ystyr yn eglur, ond iddo ddewis temyl ar gyfer yr ail achos er mwyn amrywiaeth neu er mwyn cadw mor agos â phosibl at y testun Lladin gwreiddiol.

177 Petetuwus Sant Mae’n debygol fod y ffurf hon yn wall am Perpet(t)uwus; gweler n. 175.

178 y pedwerydd dydd Sef 4 Gorffennaf.

179 antem Sef ‘anthem’ neu ‘antiphon’ (Krusch and Levison 1885b: 142.22 (I.6) antiphonam), math o gân litwrgïaidd; gweler GPC Ar Lein d.g. anthem, antem, a cf. OED Online s.v. anthem, n., ac antiphon, n.

180 emynnav vchel Krusch and Levison 1885b: 142.23 (I.6) psallentium in excelso.

181 A thebic vv gann bawb pan yw rhyw wyrthiav engyliawl oedd hwnnw Krusch and Levison 1885b: 142.27 (I. 6) Credo, aliqua fuisset virtus angelica; Van Dam 1993: 209 ‘I think that this had been [a manifestation of] the power of some angel’. Ar ystyr gwyrthiau ac am achosion eraill lle’r ymddengys iddo gael ei drin fel pe bai’n air unigol, gweler n. 55 uchod.

182 John Trevor Sef Siôn Trefor o Bentrecynfrig ym mhlwyf Llanfarthin, ger y Waun, yn ôl pob tebyg; gweler y Rhagymadrodd.

183 Gvttvn Owain Sef Gutun Owain neu Gruffudd ap Huw ab Owain (fl. c.1451–98), bardd, ysgolhaig ac uchelwr o blwyf Dudlust yn arglwyddiaeth Croesoswallt; roedd yn berchen ar dir yn Ifton, ym mhlwyf Llanfarthin, ac ymddengys mai yn Llanfarthin y’i claddwyd (Williams 1997; ODNB s.n. Gutun Owain; ByCy Arlein d.e. Gutun Owain’ a gw. hefyd RWM ii, 359–60, yn dyfynnu o lawysgrif LlGC 872D (Wrecsam 1; 1590–2): Pa le y claddwyd y prydyddion hyn … Guttyn owain yn llan farthin.

184 Harri Seithved Sef Harri VII, brenin Lloegr, a aned yn Harri Tudur yng nghastell Penfro yn 1457 ac a goronwyd yn frenin ar ôl trechu Richard III ym mrwydr Bosworth, 1485 (ODNB s.n. Henry VII).

1 gorchy[my]n LlGC 3026C gorch:, ac ynvn ar ddechrau’r llinell nesaf. Gallai’r n gyntaf fod yn ffrwyth achub y blaen ar yr n ar ddiwedd y gair (cf. §29 kystynogion am kristynogion), neu efallai fod problem wrth gyfrif minimau (cf. yr achosion a nodir yn n. 42 (testunol)). Ni nodir ffurf debyg yn amrywiad yn GPC Ar Lein d.g. gorchymyn1 (na gorchymyn2) a sillafiad arferol yr enw a’r berfenw, gorchymyn, a geir mewn chwe man arall yn y fuchedd (§14, §40, §43, §44 (ddwywaith), §48; cf. hefyd [g]or[c]hymyn yn §38 (LlGC 3026C orthymyn)). Yn y copi diweddarach yn BL Add 14967 (129v, col. 1 (llau. 31–2)) ceir gorchym/vn, a’r ysgrifydd wedi cywiro’n rhannol y darlleniad a welodd yn LlGC 3026C, mae’n debyg.

2 bedyddiwd LlGC 3026C bedyddiwd; BL Add 14967, 129v, col. 1 (ll. 38) bedyddwyd. Cedwir darlleniad y llawysgrif hynaf am ei bod yn bosibl fod y terfyniad -wd yma yn amrywiad (llafar?) ar -wyd (Rodway 2013: 142–4). Fodd bynnag, gall fod y copïydd wedi hepgor yr y oherwydd diffyg lle neu ddiffyg canolbwyntio wrth agosáu at ddiwedd y llinell.

3 Marth[in] LlGC 3026C Marth. Dyma’r unig achos o dalfyrru enw Martin yn y testun. Gwrthgyferbynner BL Add 14967, 130r, col. 2 (ll. 36) Marthin.

4 hatebodd LlGC 3026C 40, col. 2 (llau. 7–8) hateb, ac odd ar ddechrau’r llinell nesaf, heb y marc (:) sydd fel arfer yn dangos bod gair wedi ei rannu. Mae sawl achos arall o hepgor yr arwydd hwn ar yr un tudalen yn y llawysgrif, sef di/nas (col. 2, llau. 24–5), vy/nachlog (ibid. llau. 30–1) a ty/wysoc (llau. 31–2), a cheir achosion niferus mewn mannau eraill yn y testun; ni thynnir sylw at y rheini.

5 heb [ef] LlGC 3026C heb. Ychwanegwyd ef am fod heb ‘dywedodd’ yn cael ei ddilyn gan enw neu ragenw fel arfer (cf. BSM 6.24). Cf. BL Add 14967, 130r, col. 2 (ll. 37) heb ef.

6 y[n] noeth LlGC 3026C y noeth; BL Add 14967, 130v, col. 1 (ll. 15) yn oeth. Yn §23 isod mae y noeth y llawysgrif yn sicr yn cynrychioli yn noeth (gw. n. 23 (testunol)) ac mae’n debygol mai dyma’r ystyr a fwriedid yma hefyd (gw. n. 46 (esboniadol)). Posibilrwydd arall yw darllen ynoeth, ffurf ar yr adferf yno; gweler GPC Ar Lein d.g. yno1, ynoeth. Un peth sydd o blaid y dehongliad hwn yw’r ffaith fod ei effaith ar ystyr y darn, o gymharu â’r hyn a geir yn y fuchedd Ladin (SSVM §6(4) nam et publice virgis caesus est et ad extremum de civitate exire compulsus ‘for he was both publicly flogged, and at last compelled to leave the city’), yn llawer llai sylweddol nag effaith y dehongliad cyntaf a awgrymwyd. Fodd bynnag, mae’n anodd gweld pam y ceid y ffurf ynoeth yn yr achos arbennig hwn, yn hytrach na’r ffurf fwy arferol ar yr adferf, yno, a geir yn rheolaidd mewn mannau eraill yn y testun.Awgrymir trydydd posibilrwydd gan y darlleniad yn oeth a geir yn y copi diweddarach o’r fuchedd yn BL Add 14967. Gellid dehongli hwn yn yn adferfol + oeth ‘rhyfedd, rhyfeddol’ (gw. GPC Ar Lein d.g. oeth1; cymharer hefyd yr ystyron ‘violent, excessif, dur, hargneux’ a roddir ar gyfer oeth yn Holder 1891–1913 s.v. Octŏ-s; cf. Williams 1929–31b: 237; TYP 148). Er nad ymddengys fod oeth wedi ei ddefnyddio’n adferfol yn aml, ceir achos posibl arall mewn cerdd o’r ddeuddegfed ganrif, ‘Breuddwyd Gwalchmai’, sef oeth y’m uthrwyd (GMB 12.10; gw. aralleiriad y golygydd, ‘yn rhyfeddol y’m brawychwyd’ (yn disgrifio ymateb y bardd i farwolaeth ei noddwr Madog ap Maredudd, brenin Powys), ac, ymhellach, ibid.n. a GPC Ar Lein d.g. uthraf: uthro). Temtasiwn pellach yw ystyried a oes cysylltiad rhwng y darlleniad yn oeth yn BL Add 14967 ac ad extremum y fuchedd Ladin (gw. y darn a ddyfynnwyd uchod). Fodd bynnag, mae hyn yn broblemus am ei bod yn ymddangos mai o’r ymadrodd hwnnw y tarddodd y geiriau o’r diwedd ar ddechrau’r cymal Cymraeg. Felly, os yn oeth oedd y darlleniad gwreiddiol byddai’n rhaid tybio bod ad extremum wedi ei gyfieithu ddwywaith mewn dwy ystyr wahanol (gw. DMLBS s.v. extremus … ad extremum 2b ‘finally’, 4b ‘utterly, to the limit’). Dylid cofio hefyd ei bod yn debygol nad yw testun BL Add 14967 ond yn gopi o destun LlGC 3026C, ac, os felly, mae’n rhaid fod ei ddarlleniad (yn oeth) wedi tarddu o ddarlleniad y llawysgrif honno (y noeth) drwy naill ai camgopïo neu ailddehongli. (Cymharer adran §23 isod, lle ceir y noeth eto yn LlGC 3026C ond ynoeth yn BL Add 14967; gw. n. 23 (testunol).)

7 Galinaria Gall mai galmaria sydd yma am nad oes strôc i’w gweld uwchben y minim cyntaf ar ôl yr l, ond fe’i trawsysgrifiwyd yn galinaria ar sail darlleniad y testun Lladin, SSVM §6(5) Gallinaria (cf. BSM 7.10). Darlleniad gwallus, ga/lvaria, a geir yn BL Add 14967, 130v, col. 1 (llau. 29–30).

8 a roes i vryd [ar] gyvarvod LlGC 3026C a roes i vryd gyvarvod; BL Add 14967, 130v, col. 2 (llau. 2–3) a rroes i vryd Gyvarvod. Mae angen ar er mwyn y gystrawen; efallai yr hepgorwyd ef drwy ddiffyg canolbwyntio wrth orffen un llinell a dechrau’r nesaf. Cf. n. 18 (testunol), n. 26 (testunol), a chymharer n. 9 (testunol), am achosion lle’r ymddengys fod gair bach (neu lythyren) wedi ei ailadrodd yn ddiangen mewn amgylchiadau tebyg.

9 oddi gartref LlGC 3026C o ddigart: ar ddiwedd llinell, a tref ar ddechrau’r nesaf; BL Add 14967, 130v, col. 2 (ll. 13) o ddigartre. Ymddengys fod llythyren ddiangen wedi ei hychwanegu drwy ddiffyg canolbwyntio wrth i’r copïydd orffen un llinell a dechrau’r nesaf. Am wallau tebyg, gweler n. 10 (testunol), n. 13 (testunol), n. 19 (testunol), n. 46 (testunol), n. 56 (testunol), a chymharer y llithriadau tebyg gyda geiriau bach, ai, yn ac ac, yn §35 ac §54 (gw. n. 45 (testunol), n. 47 (testunol), n. 65 (testunol)). Ceir ychydig achosion o hepgor llythyren neu air bach mewn amgylchiadau tebyg (gw. n. 8 (testunol)).

10 hynn LlGC 3026C hy:, ac n ar y llinell nesaf. Awgryma’r marc estyn ar yr n gyntaf y dylid ychwanegu n arall ond, yn amlwg, nid oes angen tair; cf. n. 9 (testunol). Cymharer hefyd BL Add 14967, 130v, col. 2 (ll. 41) hynn.

11 gri Gwrthgyferbynner BL Add 14967, 131r, col. 1 (ll. 8) griddvan. Mae’r ddau ddarlleniad yn dderbyniol ac yn bur debyg i’w gilydd o ran ystyr, ond os griddfan oedd y gair a fwriedid yn y cyfieithiad gwreiddiol disgwylid treiglad meddal am ei fod yn wrthrych y ferf [c]lywai. Ymddengys, felly, y gall darlleniad BL Add 14967 fod yn ffrwyth dryswch ar ran yr ysgrifydd, efallai dan ddylanwad terfyniad y gair [c]wynvan sy’n dilyn.

12 bo[b]loedd LlGC 3026C boloedd; diwygir er mwyn yr ystyr; cf. SSVM §8(1) turbae, a BL Add 14967, 131r, col. 1 (ll. 9) bobloedd.

13 o ddinas LlGC 3026C o ddi:, a nias ar y llinell nesaf. Ymddengys fod yr ysgrifydd wedi bwriadu dechrau’r llinell gydag inas, gan anghofio ei fod eisoes wedi ysgrifennu’r i (cf. n. 9 (testunol)), ond iddo roi’r strôc uwchben y minim anghywir. Cf. BL Add 14967, 131r, col. 2 (llau. 16–17) odd/inas.

14 yn [yr] amser [hwnnw] kr[eff]t LlGC 3026C yn amser krist (cf. BL Add 14967, 131r, col. 2 (ll. 32) yn amser krist). Nid yw’r darlleniad yn gwneud synnwyr fel y saif; felly, diwygiwyd gan ddilyn BSM 10.2 (gw. hefyd ibid. n1); cf. SSVM §10(6) ars ibi exceptis scriptoribus nulla habebatur ‘No trade was practised there save that of the copyist’.

15 a[’r] rhai hynaf LlGC 3026C A Rai hynaf; BL Add 14967, 131r, col. 2 (ll. 34) a rai hyna; ond mae angen y fannod fel arfer pan ddefnyddir y radd eithaf i gymharu fel hyn; gweler GMW 44, a cf. y’r rhai ievangaf yn yr un frawddeg. Efallai yr hepgorwyd yr ’r am ei bod yn cael ei dilyn gan sain debyg; cf. §17 o[’r] rhai hynny, §46 gyda[’r] rhai (LlGC 3026C o Rai hyy, gyda Rai) a’r achosion tebyg a nodir yn n. 21 (testunol).

16 adwaeni[a]d LlGC 3026C adwaenid; BL Add 14967, 131r, col. 2 (ll. 39) adweinid. Deellir hwn yn wall am adwaeniad (neu adwaenad) am fod angen ffurf trydydd unigol amherffaith yma. Ar y terfyniad -(i)ad, gweler GMW 122 a chymharer y ffurf gwyddiad a geir sawl gwaith yn y fuchedd hon, e.e. §§10, 19.

17 o[’r] rhai hynny LlGC 3026C o Rai hyy (cf. BL Add 14967, 131v, col. 1 (ll. 6) or hai hyny). Cynrychiolia R y sain ‘rh’ fel arfer yn y testun hwn (gw. y Nodyn ar drawsysgrifiad), ond disgwylid treiglad meddal pe bai rhai yn dilyn yr arddodiad o yn syth. At hynny, disgwylid y fannod yn yr ymadrodd hwn (cf., e.e., §18 y merthyri hynny, §20 y gwyrthiav hynny, §29 y sawl bobl hynny, a gw. GMW 83). Efallai yr hepgorwyd yr ’r am ei bod yn cael ei dilyn gan sain debyg; cymharer a[’r] rhai hynaf yn yr un adran, uchod, a gweler n. 15 (testunol).

18 yn [y] lle hwnnw LlGC 3026C yn ar ddiwedd llinell a lle hwnnw ar ddechrau’r nesaf. Ychwanegwyd y fannod er mwyn yr ystyr, gan ddilyn BSM 10.16. Efallai fod yr ysgrifydd wedi ei hepgor drwy ddiffyg canolbwyntio wrth ddechrau llinell newydd (cf. n. 8 (testunol)). Cf. hefyd BL Add 14967, 131v, col. 1 (llau. 14–15) yny ll/e hwnnw.

19 namynn LlGC 3026C namȳ:, ac n ar y llinell nesaf. Er mwyn cynrychioli darlleniad y llawysgrif, ychwanegwyd n arall ar ôl yr ȳ yn y testun golygedig am fod marc estyn drosti. Dylid nodi, fodd bynnag, mai namyn yw’r sillafiad mewn mannau eraill yn y testun (§§4, 7, 8, 9, 35, 44); cf. achosion eraill lle mae hollti gair ar draws llinellau wedi arwain at ychwanegu llythyrennau diangen (gw. n. 9 (testunol)). Cf. hefyd BL Add 14967, 131v, col. 2 (ll. 24) namyn.

20 gor[t]hwyneb LlGC 3026C gorchwyneb, ond ni nodir gair tebyg yn GPC Ar Lein, a cf. defnydd [g]orthwyneb, ffurf ar gwrthwyneb, mewn cyd-destun tebyg yn yr adran flaenorol. Gall ffurf t a c fod yn gyffelyb iawn mewn llawysgrifau canoloesol; felly, mae’n debygol fod hwn yn wall copïo (cf. [g]orthymyn am [g]orchymyn yn §38, a gw. hefyd n. 164 (esboniadol)). Cf. hefyd BL Add 14967, 132r, col. 2 (llau. 29–30) gw/rthwyneb.

21 kan [n]a allai LlGC 3026C kana allai (cf. BL Add 14967, 132v, col. 1 (ll. 9) kana allai). Mae peidio ag ysgrifennu n ddwywaith yn adlewyrchu ynganiad yr iaith lafar; cf. §40 kan [n]a chlywais (LlGC 3026C kanachlywais); hefyd §23 y[n] noeth (ac yn §12 yn ôl pob tebyg); §42 yr wy[f] vi; ac efallai §17 a[’r] rhai hynaf, o[’r] rhai hynny; §29 y[n] myned; §46 gyda[’r] rhai (LlGC 3026C y noeth, yr wy vi, A Rai hynaf, o Rai hyy, y myned, gyda Rai). Cymharer hefyd BDewi §15 y[n] noythlvmvn (Pen 27ii, 40 (ll. 16) ynoyth lvmvn).

22 erbynn LlGC 3026C erbȳ: ar ddiwedd llinell ac n ar ddechrau’r nesaf. Er mwyn cynrychioli darlleniad y llawysgrif, yn y testun golygedig ychwanegwyd n arall ar ôl yr ȳ, am fod marc estyn drosti. Yr un sillafiad a geir mewn un achos arall yn y testun (§36 erbynn) ond dylid nodi y ceir erbyn bedair gwaith (§§12, 22, 33, 48) a bod nifer o achosion eraill lle ychwanegodd yr ysgrifydd lythyren ddiangen wrth hollti gair ar draws dwy linell (gw. n. 9 (testunol)). Cf. hefyd BL Add 14967, 132v, col. 2 (ll. 3) erbyn.

23 y[n] noeth LlGC 3026C y noeth; BL Add 14967, 132v, col. 2 (ll. 9) ynoeth. Yn wahanol i’r achos arall o y noeth yn nhestun LlGC 3026C (§12, a gw. n. 6 (testunol)) mae’r dehongliad yn syml yma. Mae’r ystyr ‘yn noeth’ yn eglur o’r cyd-destun, a Martin yn cynnig ei wddf noeth neu ddiamddiffyn i’r cleddyf sy’n ei fygwth (cf. SSVM §15(1) reiecto pallio nudam cervicem percussuro praebuit ‘at which Martin threw off his cloak and offered his bare neck to him who would smite him’). Mae peidio ag ysgrifennu’r n ddwywaith yn adlewyrchu ynganiad yr iaith lafar; cf. BDewi §15 y[n] noythlvmvn (Pen 27ii, 40 (ll. 16) ynoyth lvmvn) a n. 21 (testunol) uchod.

24 Treueris Mae’r bedwaredd lythyren yn aneglur; ymddengys fod y copïydd Gutun Owain wedi bod mewn amheuaeth amdani neu ei fod wedi ysgrifennu drosti’n ddiweddarach. Gellid darllen naill ai’n Treueris neu’n Treneris, a cheir yr un amwysedd yn BL Add 14967, 132v, col. 2 (ll. 31). Fodd bynnag, mabwysiadwyd y darlleniad cyntaf ar sail y ffurf Treveris a geir yn y fuchedd Ladin (SSVM §16(2)).

25 o’r heiddi LlGC 3026C o Reiddi, a roddai o rheiddi os yw R yn cynrychioli ‘rh’ fel sy’n arferol yn y testun hwn; cf. BL Add 14967, 132v, col. 2 (ll. 34) or heiddi. I gael synnwyr mae angen dilyn darlleniad y copi diweddarach o ran rhaniad y geiriau a deall yr ail air yn eiddi (y ffurf fenywaidd ar eiddo). Nid yw’n amlwg pam yr ychwanegwyd yr h ar ddechrau’r gair. Efallai fod yr ysgrifydd wedi drysu rhwng dwy gystrawen, sef o’r eiddi ac o’i heiddo; gweler GPC Ar Lein d.g. eiddo1, 2(a) a (b), ac am ychwanegiad h ar ôl y rhagenw meddiannol trydydd unigol benywaidd i, cf. i hanadl, i hangav, isod yn yr un adran o’r fuchedd. Posibilrwydd arall yw bod heiddi/heiddo yn ffurf amrywiol ar eiddi/eiddo: mae achosion eraill o h yn tyfu o flaen llafariad dechreuol acennog (e.e. henw, ffurf ar enw a ddefnyddir yn y testun hwn), a hyn weithiau’n digwydd ar ôl r yn arbennig, e.e. ar hugain, yr holl (OIG 63). Ond ni chyfeiria GPC Ar Lein at heiddo yn ffurf amrywiol ar eiddo, ac nid oes achos tebyg arall yn y fuchedd. (Un achos arall, yn unig, a geir o unrhyw ffurf ar eiddo, ac mae hwn ar ôl llafariad (§30 beth a vai eiddo Varthin).)

26 ddy[w]etpwyd LlGC 3026C ddy ar ddiwedd llinell ac etpwyd ar ddechrau’r nesaf. Achos arall o wall wrth hollti gair ar draws dwy linell, cf. n. 8 (testunol). Cf. hefyd BL Add 14967, 132v, col. 2 (ll. 39) ddywetpwyd.

27 de[i]mlad LlGC 3026C demlad. Ymddengys hwn yn llithriad wrth gopïo, o bosibl dan ddylanwad y gair temyl neu temlav a geid yn aml yn yr adrannau blaenorol. Cf. BL Add 14967, 133r, col. 1 (ll. 30) deimlad.

28 a[c] ni ellid LlGC 3026C A ni ellid, ond ac yw’r ffurf ar y cysylltair a geir o flaen y geiryn negyddol ni(d) ym mhob achos arall yn y testun (cf. Williams 1980: 151–2). Gwrthgyferbynner BL Add 14967, 133r, col. 2 (ll. 30) oni ellid; ond y cysylltair ac, gyda grym cyferbyniol, sydd ei angen yn y cyd-destun (cf. sed ‘ond’ yn SSVM §17(1); ac ar a(c) gyda grym cyferbyniol, gw. GPC Ar Lein d.g. a5 , ac 1(a), a cf. yr enghreifftiau a nodir yn n. 37 (esboniadol)). Ymddengys yn debygol, felly, fod oni BL Add 14967 yn ymgais aflwyddiannus i wella’r darlleniad gwallus A ni yn LlGC 3026C.

29 Titradius LlGC 3026C titradiu’ (cf. BL Add 14967, 133r, col. 2 (ll. 9)). Defnyddir yr un marc estyn i gynrychioli us mewn mannau eraill yn y testun (gw. n. 25 (trawsysgrifiad)), ond nid oes angen dwy u yma. Cf. y gwahanol ffurfiau Tretadius, Titradius, Tetradius, uchod ac isod yn yr un adran, sy’n cyfeirio at yr un dyn; ei enw yw Tetradius neu Taetradius yn Vita S. Martini (SSVM §17; Halm 1866: 126; Fontaine 1967–9: 288, 290).

30 lle’r oed[d] LlGC 3026C lle roed; BL Add 14967, 133r, col. 2 (ll. 11) lle yr oedd. Gwelir gwallau tebyg yn §31 (yr oed[d] verch) a §57 (pan oed[d] oed Krist).

31 kyme[ll] LlGC 3026C kymer, ond mae angen berfenw yma (ar ôl yn traethiadol). Gellid dilyn darlleniad BL Add 14967 (133v, col. 1 (ll. 8) kymrud) a diwygio’n kymryd (dyma sillafiad arferol y berfenw yn LlGC 3026C; gw., e.e., §8, §17) ond, yn hytrach, dilynwyd awgrym a geir yn BSM 16n1 a diwygio’n kymell am fod hyn yn rhoi ystyr fwy addas; cf. SSVM §17(7) et cum fugere de obsesso corpore poenis et cruciatibus cogeretur ‘Then, being compelled under pain of torment to flee the body he had possessed’. Gellid esbonio darlleniad BL Add 14967, kymrud, yn ymgais i gywiro’r darlleniad gwallus, kymer, a geir yn LlGC 3026C. Efallai yr ystyriai’r copïydd fod kymer yn dalfyriad o kymeryd; ar y gwahanol ffurfiau, gweler GPC Ar Lein d.g. cymeraf: cymryd, cymrud, cymeryd.Nodir, ibid., fod y ffurf cymeryd mewn Cymraeg Diweddar yn adffurfiad o’r bôn cymer-, ac mae’r enghreifftiau cynharaf a ddyfynnir yn dyddio o ganol yr unfed ganrif ar bymtheg, sef yr adeg pan ysgrifennwyd BL Add 14967. Fodd bynnag, daethpwyd o hyd i ychydig o achosion cynharach gan gynnwys un mewn cerdd gan Huw Cae Llwyd (cyd-oeswr i Siôn Trefor) lle cadarnheir y ffurf gan y mydr a’r gynghanedd: Llawer y sy’n cymeryd; / Ai drwg un a’i dyry i gyd? (HCLl XIV.45). Erys ansicrwydd, felly, ynghylch pa ferf a fwriedid ym muchedd Martin.

32 vrynt[i] LlGC 3026C vrynt. Gwall am vrynti neu vryntni, mae’n debyg; gweler GPC Ar Lein d.g. brynti a cf. BL Add 14967, 133v, col. 1 (llau. 10–11) vrynti.

33 gyd [ac] ef LlGC 3026C gyd ef. Diwygir er mwyn yr ystyr gan ddilyn BSM 17.1. Cf. hefyd BL Add 14967 (133v, col. 1 (ll. 32) gyd ac ef ).

34 y[n] myned LlGC 3026C y myned. Gall mai dylanwad yr iaith lafar a barodd i’r n gael ei hepgor o flaen m (cytsain drwynol arall); cf. y[n] noeth yn §23 (LlGC 3026C y noeth) a’r achosion tebyg a nodir yn n. 21 (testunol). Cymharer hefyd BL Add 14967, 133v, col. 2 (ll. 5) yn myned.

35 k[y]lchynv LlGC 3026C klchynv; BL Add 14967, 133v, col. 2 (ll. 23) kylchynv.

36 a pawb Efallai y dylid diwygio’n a p[h]awb am mai dyma’r unig achos yn y testun o beidio â threiglo p > ph ar ôl y cysylltair a. Cf. BL Add 14967, 133v, col. 2 (ll. 34) a ffawb.

37 damv[n]ed LlGC 3026C damvied; BL Add 14967, 134r, col. 1 (ll. 9) damvned.

38 a[c] yn y LlGC 3026C A yny; BL Add 14967, 134r, col. 1 (ll. 9) ac yny.

39 k[ri]stynogion LlGC 3026C kystynogion; cymharer dau achos o gristynogion yn y brawddegau blaenorol. Ymddengys yn wall copïo o ganlyniad i achub y blaen ar yr y ar ôl krist-; cf. y ddwy n yn gorchynvn (am gorchymyn) yn §3. Darlleniad BL Add 14967 yma yw gristynogio/gion (134r, col. 1 (llau. 14–15)).

40 Myny[ch] LlGC 3026C Myny, a rhywbeth a all fod yn ch wedi ei ychwanegu mewn inc gwahanol, a chan law ddiweddarach yn ôl pob tebyg. Cf. BL Add 14967, 134r, col. 1 (ll. 16) Mynych.

41 yr oed[d] LlGC 3026C yr oed; BL Add 14967, 134r, col. 1 (llau. 22–3) yroe/dd. Gwelir gwallau tebyg yn §25 (lle’r oed[d] y klaf) a §57 (pan oed[d] oed Krist).

42 hoffrynnodd Fe’i derbynnir yn betrus yn ffurf amrywiol ar y ferf offrymu. Ni nodir amrywiad tebyg yn GPC Ar Lein, ond cf. Pen 11, 84v (llau. 10–11) (c.1380, ‘Ystoriau Saint Greal’) y neb a|oed yn|y offrynnaỽ* ef ar betheu tec (dyfynnir o RhyddGym 1300–1425). Posibilrwydd arall yw bod y copïydd wedi ysgrifennu un minim yn ormod drwy amryfusedd; cf. chynnell am chymell (§35), mymych am mynych (§36), a hefyd gorchynvn am gorchymyn (§3) a Mimav am minnav (§42). Y sillafiad disgwyliedig, hoffry/modd, a geir yn BL Add 14967, 134r, col. 1 (llau. 32–3).

43 ac a yrasai LlGC 3026C ac a yrasai ac a yrasai; BL Add 14967, 134v, col. 1 (ll. 5) Ac a yrrasai. Mae nifer o wallau eraill yn yr adran hon yn LlGC 3026C a all fod yn ffrwyth diffyg canolbwyntio ar ran yr ysgrifydd; gweler y nodiadau isod.

44 i chy[m]ell LlGC 3026C i chynnell; BL Add 14967, 134v, col. 1 (llau. 8–9) ich/ymell. Diwygir darlleniad LlGC 3026C er mwyn yr ystyr, gan ddeall y ffurf yn wall copïo (un minim yn ormod), cf. mymych yn lle mynych yn §36.

45 ai Yn LlGC 3026C mae ai ar ddiwedd y llinell ac fe’i hailadroddir yn ddiangen ar ddechrau’r nesaf. Ni cheir yr un gwall yn y testun yn BL Add 14967 (134v, col. 1, ll. 16). Am wallau tebyg, gweler n. 9 (testunol).

46 yr hwnn LlGC 3026C yrhwn, ar ddiwedd llinell; BL Add 14967, 134v, col. 1 (llau. 21–2) yr h/wn. Am wall tebyg gyda hynn, gweler §14 (n. 10 (testunol)).

47 yn Yn LlGC 3026C mae yn ar ddiwedd y llinell ac fe’i hailadroddir yn ddiangen ar ddechrau’r nesaf; cymharer gwall tebyg gydag ai yn yr un adran, uchod, a gweler n. 9 (testunol) am lithriadau eraill o’r math hwn. Ni cheir yr un gwall yn y testun yn BL Add 14967 (134v, col. 1, ll. 28).

48 ymgvddi[o] LlGC 3026C ymgvddi. Ar hyn o bryd (2020) ceir croesgyfeiriad (ym- + cuddio) yn unig ar gyfer ymguddio yn GPC Ar Lein; yn yr erthygl ar gyfer cuddio ni nodir unrhyw ffurf ar y berfenw sydd heb o ar y diwedd. Cf. BL Add 14967, 134v, col. 2 (llau. 14–15) ymgud/Io.

49 my[n]ych LlGC 3026C mymych. Fe’i deellir yn wall copïo (un minim yn ormod); cf. chynnell am chymell yn §35. Cf. hefyd BL Add 14967, 134v, col. 2 (ll. 19) mynych.

50 siamb[r] LlGC 3026C siamb; BL Add 14967, 134v, col. 2 (ll. 31) siamr.

51 or[c]hymyn LlGC 3026C orthymyn. Gwall copïo, mae’n debyg; cf. gorchwyneb am gorthwyneb yn §21 (gw. n. 20 (testunol)), ac am achosion o ffurf arferol y gair yn y testun gweler n. 1 (testunol). Cf. hefyd BL Add 14967, 135v, col. 1 (ll. 30) orchymyn.

52 d[y]st LlGC 3026C drist; BL Add 14967, 136r, col. 1 (ll. 28) drist. Diwygir er mwyn yr ystyr gan ddilyn BSM 25n1; cf. SSVM §25(7) Iesum testor.

53 kan [n]a chlywais LlGC 3026C kanachlywais; BL Add 14967, 136r, col. 1 (ll. 28) kanachlowais. Mae peidio ag ysgrifennu n ddwywaith yn adlewyrchu ynganiad yr iaith lafar; cf. §22 kan [n]a allai (LlGC 3026C kana allai) a’r achosion eraill a nodir yn n. 21 (testunol).

54 yr wy[f] vi LlGC 3026C yr wy vi, BL Add 14967, 136v, col. 1 (llau. 20–1) yrwy/vi. Mae darlleniadau’r llawysgrifau yn adlewyrchu ynganiad yr iaith lafar; cf. yr achosion a nodir yn n. 21 (testunol). Mewn mannau eraill yn y testun, fodd bynnag, ceir wyf (§§24, 39, 42) neu wyf vi (§§8, 10, 20, 39, 40, 44).

55 mi[nn]av LlGC 3026C Mimav; BL Add 14967, 136v, col. 1 (ll. 24) minav. Gwall arall o ganlyniad i gamgyfrif minimau; cf. yr achosion a nodir yn n. 42 (testunol).

56 ddysgyblon LlGC 3026C ddysgys: ar ddiwedd llinell a gyblon ar ddechrau’r nesaf; BL Add 14967, 136v, col. 2 (llau. 12–13) dd/Isgyblion. Am wallau tebyg gweler n. 9 (testunol).

57 Y bu ryvedd LlGC 3026C y bu ryvedd; BL Add 14967, 136v, col. 2 (ll. 23) y bu Ryvedd. Diwygir yn a bu ryvedd yn BSM 27.13. Fodd bynnag, er nad oes achos arall yn y testun o ddechrau brawddeg gyda’r geiryn rhagferfol y, cedwir darlleniad y llawysgrif yn y golygiad hwn. Cymharer yr achosion mewn testunau eraill a nodir yn GMW 171; GPC Ar Lein d.g. y2 1(b); Willis 1998: 122–3.

58 gyda[’r] rhai LlGC 3026C gyda Rai; BL Add 14967, 137v, col. 2 (llau. 18–19) gyda rra/i. Cymharer yr ymadrodd gyd a’r rhai llawen sy’n dilyn, a’r achosion eraill lle’r ymddengys fod ’r y fannod wedi ei hepgor dan ddylanwad yr iaith lafar (§17 a[’r] rhai hynaf, o[’r] rhai hynny (LlGC 3026C A Rai hynaf, o Rai hyy)). Cymharer hefyd yr achosion tebyg a nodir yn n. 21 (testunol).

59 [a’]r hwnn LlGC 3026C yor, a’r o wedi ei hysgrifennu (mae’n ymddangos) dros y wreiddiol (cf. BL Add 14967, 138r, col. 2 (ll. 31) yr hwnn), ond mae angen darllen ar (‘a’r’) er mwyn cael synnwyr (cf. BSM 32.17 ar hwnn). Efallai fod yr y wedi ei newid yn o oherwydd ystyried bod yr o yn dynodi ‘goddrych’ y berfenw darllain sy’n ei rhagflaenu (gw. GPC Ar Lein d.g. o1, 4(a), a cf. gwedy dioddef o’n Arglwydd ni, ar ddiwedd §49), ond o ddarllen ymlaen gellir gweld na thycia hyn.

60 rhyw LlGC 3026C Ryw; cf. BL Add 14967, 138v, col. 1 (ll. 7) Ryw. Newidiwyd R yn rh yn y golygiad, er cysondeb (gw. y Nodyn ar drawsysgrifiad), er disgwyl treiglad meddal yma; cf. ef a dalai i mi lawer, yn yr un frawddeg.

61 A mi a wnevthv[m] LlGC 3026C A mi awnevth:/vn; BL Add 14967, 138v, col. 1 (ll. 11) ami awnevthvm. Ymddengys darlleniad LlGC 3026C yn wall arall o ganlyniad i gamgyfrif minimau; cf. chynnell am chymell yn §35, mymych am mynych yn §36, a Mimav am minnav yn §42.

62 korff LlGC 3026C kororff; BL Add 14967, 138v, col. 2 (ll. 8) korff.

63 ddy[l]ent LlGC 3026C ddyent; BL Add 14967, 138v, col. 2 (ll. 28) ddylent.

64 w[n]evthur LlGC 3026C wevthur; BL Add 14967, 138v, col. 2 (ll. 28) wnevrthur.

65 ac Yn LlGC 3026C mae ac ar ddiwedd y llinell ac fe’i hailadroddir yn ddiangen ar ddechrau’r nesaf (cf. n. 9 (testunol)). Ni cheir yr un gwall yn y testun yn BL Add 14967 (138v, col. 2, ll. 36).

66 oed[d] LlGC 3026C oed; BL Add 14967, 139r, col. 2 (ll. 30) oedd. Gwelir gwallau tebyg yn §25 (lle’r oed[d] y klaf) a §31 (yr oed[d] verch).