Rhagymadrodd Testun golygedig Llawysgrifau English

23. Buchedd Martin

golygwyd gan Jenny Day

Rhagymadrodd

Roedd Sant Martin yn abad ac yn esgob a oedd yn byw yn y bedwaredd ganrif, ac a ddaeth yn ddiweddarach yn un o nawddseintiau Ffrainc. Ganed ef yn Sabaria yn Pannonia (Szombathely yn Hungary, erbyn heddiw), naill ai c.315 (efallai 316–17) neu c.336–7 (gw. ODCC 1050; Stancliffe 1983: 119–33; SSVM 14–19). Roedd ei rieni’n baganiaid a’i dad yn filwr ac yn dribiwn yn y fyddin Rufeinig. Er iddo ddymuno gwasanaethu Duw fel meudwy, gorfodwyd Martin i ddod yn filwr. Y digwyddiadad enwocaf yn ei hanes yw’r achlysur pan rwygodd ei fantell yn ei hanner â’i gleddyf a rhoi hanner ohoni i ddyn tlawd ger dinas Amiens.

Gadawodd Martin y fyddin yn amser Iwlian Cesar, efallai yn 356 neu 357. Treuliodd amser gyda Sant Hilary yn Poitiers, ac fe’i hetholwyd yn esgob Tours c.371. Roedd yn genhadwr egnïol, yn lledaenu Cristnogaeth yng Ngâl, ac roedd yn adnabyddus fel iachäwr ac fel bwriwr cythreuliaid. Sefydlodd fynachlogydd neu feudwyfaoedd ym Milan ac yn Ligugé, ger Poitiers, ac ar ôl dod yn esgob sefydlodd fynachlog Marmoutier, ger Tours. Roedd ei ddull asgetig o fyw yn ysbrydoli llawer, gan gynnwys Sulpicius Severus (c.360–?c.420/430), y gŵr a ysgrifennodd ei fuchedd Ladin (Vita Sancti Martini) ynghyd â llythyrau a thestunau ymddiddan sy’n ei drafod. (Gw. ODCC 1567–8; SSVM 1–9, 23.)

Bu farw Martin ym mis Tachwedd 397, ac yn ôl Gregori o Tours bu ymryson rhwng gwŷr Poitiers a gwŷr Tours am ei gorff (cf. BMartin §§48–9). Yn Tours y claddwyd ef, a daeth ei fedd yn gyrchfan bwysig i bererinion. Dethlir prif ŵyl Martin ar 11 Tachwedd, dyddiad ei angladd, ond mae iddo ŵyl arall ar 4 Gorffennaf, sef y dyddiad pan gysegrwyd ef yn esgob (gw. Stancliffe 1983: 117–18; Van Dam 1993: 18–19). Mae’r ail ŵyl yn coffáu, hefyd, achlysur symud ei weddillion i gysegr newydd yn yr eglwys a godwyd yn amser Perpetuus (esgob Tours, c.460–c.490) (gw. BMartin §§53–5).

Adeiladwyd eglwys dros feddrod Martin gan Brice, ei olynydd fel esgob Tours, ond daeth hẁb newydd i’w gwlt pan gododd Perpetuus eglwys newydd, fawreddog. Mae’n debygol, hefyd, mai ar gais Perpetuus y cyfansoddodd Paulinus o Périgueux fersiwn mydryddol o fuchedd Martin, a oedd yn seiliedig ar waith Sulpicius Severus ac ar lyfr am wyrthiau Martin gan Perpetuus ei hun. Ryw ganrif yn ddiweddarach, bu Gregori o Tours (c.539–94) yn weithgar iawn yn hybu cwlt Martin; ysgrifennodd am y sant a’i wyrthiau, a chyfansoddodd ei gyfaill Venantius Fortunatus fersiwn mydryddol newydd o weithiau Sulpicius amdano. Er bod rhai ysgolheigion wedi cwestiynu darlun Gregori o Martin fel ffigur pwysig yn hanes Gâl yn y cyfnod ar ôl ei farwolaeth, ac fel un a chanddo gysylltiadau cryf â’r brenhinoedd Merofingaidd cynnar, cytunir bod y llinach Ferofingaidd ddiweddarach wedi cefnogi ei gwlt a’i eglwysi, a gwyddys bod crair pwysig, sef ‘mantell Martin’, yn eu meddiant erbyn diwedd y seithfed ganrif. (Am hanes cynnar cwlt Martin, gw. Farmer 1991: pennod 1; Van Dam 1993: 13–28; McKinley 2006.)

Daeth sant arall, Dionysius neu Denis o Baris, yn brif nawddsant y brenhinoedd Carolingaidd a’r brenhinoedd Capetaidd ar eu hôl, ond roedd Martin yn parhau i fod yn bwysig. Byddai’r brenhinoedd Carolingaidd nid yn unig yn tyngu llwon ar ei fantell, fel y gwnaethai’r rhai Merofingaidd, ond hefyd yn ei chario mewn brwydr; ac, yn ôl pregeth gan yr Esgob Radbod o Utrecht, drwy rym Martin yr achubwyd Tours rhag y Llychlynwyr yn 903. Erbyn diwedd yr unfed ganrif ar ddeg roedd cwlt Martin wedi dod dan reolaeth canoniaid Saint-Martin, sef yr eglwys yn Tours lle gorffwysai ei gorff, a mynaich Marmoutier, yr abaty a sefydlodd ger y ddinas, a’r ddau le yn ganolfannau pwysig i bererinion. (Gw. Farmer 1991.)

Lluniwyd nifer o destunau newydd am Martin at wahanol ddibenion yn y canolfannau hyn (Farmer 1991), a bu’n destun pregethau gan ddau arweinydd mynachaidd pwysig, Odo o Cluny (c.879–942) a Bernard o Clairvaux (1090–1153) (Reames 1981: 141–6). At hynny, roedd gweithiau Sulpicius Severus am Martin yn parhau i gylchredeg, gan gael eu trosglwyddo yn aml ar y cyd â deunydd gan Gregori o Tours a deunyddiau eraill am y sant, a cheid hanes Martin hefyd yn rhan o gasgliadau o fucheddau seintiau megis y ‘Cotton-Corpus legendary’ (Babut 1912: 300; Zettel 1982; Love 1996: xvii; SSVM 81–3). Yn y Legenda Aurea, casgliad poblogaidd iawn o fucheddau a luniwyd gan Jacobus de Voragine yn y drydedd ganrif ar ddeg, ceir fersiwn o fuchedd Martin sy’n canolbwyntio ar ei wyrthiau gan fwyaf, ac ysgrifennodd yr un awdur bedair pregeth amdano (LA 678–87; Reames 1981).

Yn ystod y bedwaredd ganrif ar ddeg a’r bymthegfed ganrif ailenillodd Martin rywfaint o’i status fel nawddsant i frenhinoedd Ffrainc, a chafodd y brenin Capetaidd olaf, Charles IV, ganiatâd y Pab i symud ei ben i greirfa euraidd newydd yn 1323. Credid bod Martin wedi helpu i achub Tours rhag y Tywysog Du yn 1356, ac ar ôl 1444 daeth y brenin a’i osgordd i drigo yno. (Gw. Farmer 1991: 299–301). Ond yn 1562 daeth yr Huguenotiaid i Tours a dinistrio beddrod Martin gan losgi ei greiriau; llwyddwyd i achub rhai darnau, ac ailsefydlu’r gysegr, ond fe’i dinistriwyd eto yn ystod y Chwyldro Ffrengig (Pernoud 2006: 173; Nelson 2015). Ailddarganfuwyd bedd Martin yn 1880 ac adeiladwyd eglwys newydd ar y safle, a gysegrwyd ar 4 Gorffennaf, 1925 (Pernoud 2006: 173–4). Mae’n parhau i fod yn gyrchfan i bererinion, a Martin ei hun yn parhau i fod yn ffigur adnabyddus a phwysig yn Ffrainc, Ewrop a thu hwnt (ibid. 174–5; Donaldson 1980: 152–4).

Cwlt cynnar Martin ym Mhrydain ac Iwerddon
Nid yw’n sicr pa wlad oedd ym meddwl Venantius Fortunatus wrth iddo honni bod Britannus ymhlith yr amrywiol bobloedd a garai Martin (Leo 1881: 239 Quem Hispanus, Maurus, Persa, Britannus amat; Grosjean 1937: 300), am y gallai’r gair olygu ‘Llydawiad’ yn ogystal â ‘Brython’ (DMLBS, d.g.). Ceir yr un math o amwyster yn achos hanes Gregori o Tours am Brito o’r enw Winnoc a ddaeth i Tours a’i fryd ar fynd i Gaersalem (Historia Francorum, V.21 (Krusch and Levison 1885a: 218; Thorpe 1974: 287–8)). Awgryma Ian Wood (2007: 71), fodd bynnag, y gallai’r disgrifiad ohono’n dod de Britanniis gyfeirio at hen daleithiau Rhufeinig Prydain.

Mae tystiolaeth arall fod Martin yn hysbys ym Mhrydain yn gynnar iawn. Gwyddys bod ei gyfaill Victricius, esgob Rouen, wedi dod yma am gyfnod byr (395–6) i dorri dadl o fewn yr Eglwys Brydeinig, ac mae’n bosibl iddo hybu mynachaeth ac efengyliaeth Fartinaidd yn ystod ei ymweliad (Knight 1981: 55; Birley 1979: 156). Cyfeiriodd Beda at ddwy eglwys gynnar a gysegrwyd i Martin, y naill yng Nghaer-gaint ac yn dyddio o’r cyfnod Rhufeinig, a’r llall, sef y Candida Casa yn Whithorn (Dumfries and Galloway), yn fan claddu Ninian Sant (Colgrave and Mynors 1969: i.25–6, iii.4). Mae’n bosibl fod y cysegriad cyntaf yn dyddio mewn gwirionedd i’r amser pan briododd Bertha, tywysoges Ferofingaidd, â’r Brenin Æthelberht I o Gaint (m. 616) (McKinley 2006: 196–7); mae mwy o ansicrwydd ynghylch yr ail, ond gall ddyddio o’r chweched ganrif neu’r seithfed ganrif, o bosibl (Wood 2007: 72, 79). Diau fod cysylltiadau cyfandirol yn parhau i atgyfnerthu cwlt Martin ym Mhrydain yn y cyfnod cynnar hwn (gw. Wilson 1968: 134–5; Knight 1981; Dark 1994: 55–8; Wood 2007: 71–2; cf. Donaldson 1980: 133–42).

Roedd Martin yn sant poblogaidd yn yr Eglwys Eingl-Sacsonaidd, a lluniwyd fersiynau byrion o’i fuchedd yn yr iaith frodorol a fwriedid ar gyfer lleygwyr yn ogystal â mynaich, ac a allai fod wedi eu defnyddio mewn gwasanaeth eglwysig ar ŵyl y sant neu ar gyfer darllen defosiynol preifat (Kelly 2003: xxiii–xxvii, xxxi–xlvi). Ceir deunydd amdano yn y tri chasgliad cynharaf o homilïau neu bregethau Hen Saesneg sydd wedi goroesi (a’r tri’n dyddio o ddiwedd y ddegfed ganrif), sef y Vercelli Book, y Blickling Homilies, a Catholic Homilies Ælfric, abad Eynsham; ac ysgrifennodd Ælfric fersiwn arall, hwy o’i fuchedd yn rhan o’i Lives of Saints (Kelly 2003; Scragg 1992; Gerould 1925; Zettel 1982). Lluniwyd fersiwn arall o fuchedd Martin, mewn Lladin, gan Alcuin o Efrog (m. 804), ysgolhaig a dreuliodd gyfnodau yn llys Siarlymaen ac yn Tours (Phelan 2014: 8–10).

Roedd cwlt Martin yn gryf yn Iwerddon, ac roedd ganddo enw mawr fel un o sefydlwyr mynachaeth (Hughes 1966: 76; Sharpe 1982: 5–6). Roedd traddodiad fod Sant Padrig yn fab i berthynas fenywaidd i Martin, efallai ei chwaer neu ei nith, a’i fod wedi derbyn tonsur mynach ganddo yn Tours (Stokes 1887 i, 25, a ii, 432–3, 560–1; Gwynn 1913: cclix). Cyfeiriodd Adomnán (m. 704) ym muchedd Columba at Martin yn cael ei gynnwys mewn gweddi arferol, gan cael ei enwi’n gyntaf wrth goffáu esgobion neu seintiau, o bosibl (Anderson and Anderson 1961: III.12 (tt. 198–9), a gw. ibid. 119n223; Sharpe 1995: 366), a nododd Jonas o Bobbio fod sant Gwyddelig arall, Columbanus (m. 615) wedi gweddïo ger bedd Martin (Vita Columbani, Liber I, §22 (Krusch 1902: 95); ac ar Columbanus, gw. ymhellach Kenney 1929: 186–9, 203–5: ODCC 383). At hynny, cyfansoddwyd dau emyn Hiberno-Ladin sy’n ymwneud â Martin, ac sy’n dyddio o’r seithfed ganrif yn ôl pob tebyg (Wilson 1968: 137; Lapidge 1990).

Copïwyd Vita S. Martini Sulpicius, ynghyd â dau o’i lythyron am Martin, i Lyfr Armagh tua 807 (www.confessio.ie/manuscripts/dublin#1; Fontaine 1967–9: 219), ac mae’n rhaid fod deunydd tebyg wedi cyrraedd Iwerddon gryn dipyn yn gynharach, oherwydd cydnabyddir bod y Vita ymhlith y testunau a ddylanwadodd ar y bucheddwyr Gwyddelig cynnar, gan gynnwys Adomnán (gw., e.e., Bray 2003: 136; Sharpe 1991: 11; ac ar berthynas testun Llyfr Armagh â’r ‘teuluoedd’ eraill o lawysgrifau Martinaidd, gw. Babut 1913: cclxvii–cclxxv; Chase 1932; Fontaine 1967–9: 219; SSVM 82). (Ymhellach ar gwlt Martin yn Iwerddon, gw. Wilson 1968; Lapidge 1990; Herbert 2002; a’r cyfeiriadau yn Sharpe 1982: 6n13.)

Cwlt Martin yng Nghymru
Mae’n debygol fod cwlt a dylanwad Martin ar eu cryfaf, ar y dechrau, yn yr ardaloedd lle bu dylanwad y Rhufeiniaid yn gryf, sef y de-ddwyrain a’r gororau (cf. Dark 1994: 64; Hughes 1966: 29). Gallai’r cwlt fod wedi cael ei atgyfnerthu gan gysylltiadau â’r cyfandir, Lloegr Eingl-Sacsonaidd ac Iwerddon (ar yr olaf, gw. Chadwick 1958: 110–11); gan ddylanwad yr Eingl-Normaniaid, yn arbennig wrth iddynt ymsefydlu yn ne Cymru o ddiwedd yr unfed ganrif ar ddeg ymlaen (gw. HW 392–403); a chan gysylltiadau diweddarach â Lloegr a’r cyfandir. Gallai hanes hir cysylltiadau o’r fath esbonio dosbarthiad y cysegriadau i Martin a’r enwau lleoedd sy’n cynnwys ei enw, a leolir gan fwyaf yn y de-orllewin, y de-ddwyrain a’r gororau (gw. (see Parsons 2019: 27, 33 (map); hefyd Wilson 1968: 136).

Y cyfeiriadau Cymreig cynharaf at Martin yw’r rhai yn Historia Brittonum, y credir iddo gael ei ysgrifennu’n wreiddiol yn 829/30; nodir yno fod Martin a’i wyrthiau a’i alluoedd yn adnabyddus yng nghyfnod yr Ymerawdwr Maximus a bod Martin wedi siarad â’r ymerawdwr (Morris 1980: §§26, 29; Dumville 1985: §§14, 18; cf. SSVM §20; BMartin §35). Mae’r rhan fwyaf o’r testunau rhyddiaith Cymraeg sy’n ei grybwyll yn gyfieithiadau (gw. BD xii.13 (‘Brut Dingestow’); Williams 1926: §III (‘Chwedlau Odo’); YCM 175.22 (Atodiad i ‘Cronicl Turpin’)), ond, wrth gyfieithu buchedd Dewi, ychwanegwyd cyfeiriad newydd at Martin, ymhlith nifer o seintiau rhyngwladol eraill. Yma fe’i darlunnir yn nawddsant neu efengylydd Ffrainc, a’i statws yn y wlad honno yn cyfateb i statws Dewi yng Nghymru (BDe 18.8; cf. BDewi §23).

Cyfieithwyd buchedd Martin i’r Gymraeg yn y bymthegfed ganrif gan Siôn Trefor o Bentrecynfrig. Y copi cynharaf sy’n goroesi yw’r un a ysgrifennodd Gutun Owain yn LlGC 3026C, gyda choloffon sy’n nodi 1488 fel dyddiad y copïo. Y testun hwn a olygwyd ar gyfer y prosiect (BMartin). Ceir hefyd fersiwn cryno iawn o fuchedd Martin, a gofnodwyd yn y casgliad pwysig o fucheddau seintiau yn Llst 34 (1580x1600; gw. y trawsysgrifiad). Trafodir y ddwy fuchedd hyn ymhellach isod.

Roedd Martin yn adnabyddus i’r beirdd hefyd. Ceir un o’r cyfeiriadau cynharaf ato mewn cerdd gan Einion ap Gwalchmai a ganwyd yn ôl pob tebyg yn negawdau cyntaf y drydedd ganrif ar ddeg (GMB 27.95); gall cyfeiriad arall, gan fardd dienw yn ‘Englynion y Clywaid’, fod naill ai’n gynharach neu’n ddiweddarach na hwn (BlBGCC 31.17a–c; ac ar y dyddiad, gw. ibid. 316; Williams a Parrry-Williams 1926: 6–7). Gan Gruffudd Gryg y ceir yr unig gyfeiriad barddol arall at Martin o’r cyfnod cyn c.1400 (GGGr 10.34), ond fe’i crybwyllwyd gan nifer o feirdd diweddarach gan gynnwys Guto’r Glyn, Rhys Nanmor, Huw Cae Llwyd a Thudur Aled (GG.net 92.51–2; Headley 1938: 51.63; SeintiauHCLl1 llau. 31–2; TA LXXI.99–102). Ymddengys fod y beirdd yn ystyried Martin yn sant pwerus y gellid troi ato am iachâd ac amddiffyn yn ogystal ag eiriolaeth dros eneidiau (gw. ymhellach Day 2017).

Mae’n amlwg fod y beirdd yn gwybod rhywfaint am hanes Martin. Ceir cyfeiriadau ato fel mynach ac fel marchog gan Gutun Owain a Rhys Nanmor (GO VIII.13–14; Headley 1938: 51.63), ac mewn cerddi gan Huw ap Dafydd a Lewys Môn canmolir haelioni noddwyr drwy eu cymharu ag ef (GHD 27.53–4; GLM XLIX.57–8). Mae’n drawiadol mai Siôn Trefor o Wigynt, ŵyr y Siôn Trefor a gyfieithodd fuchedd Martin i’r Gymraeg (gw. isod), oedd gwrthrych cerdd Huw ap Dafydd, a bod y bardd yn cyfeirio’n benodol at roi dillad, cyfeiriad sy’n adlewyrchu un o’r digwyddiadau enwocaf ym muchedd Martin (gw. uchod a BMartin §5). (Ceir trafodaeth bellach ar y cyfeiriadau at Martin mewn barddoniaeth a rhyddiaith Gymraeg yn Day 2017.)

Siôn Trefor a Buchedd Martin
Y fersiwn Cymraeg cynharaf o fuchedd Martin sy’n goroesi yw’r un a geir yn y llawysgrif enwog LlGC 3026C (Mostyn 88). Noda coloffon ar ddiwedd y testun mai John Trevor a droes y vuchedd honn o’r Llading yn Gymraec a Gvttvn Owain a’i hysgrivennodd pan oed[d] oed Krist Mil cccc lxxxviii o vlynyddoedd yn amser Harri Seithved, nid amgen y drydedd vlwyddyn o goronedigaeth yr vn Hari. Bu cryn drafodaeth am bwy oedd y John Trevor hwn, ond erbyn hyn gellir ei uniaethu gyda chryn sicrwydd â Siôn Trefor o Bentrecynfrig, mab Edward ap Dafydd o Fryncunallt, ger y Waun (Owen 2003: 351, ac am y dadleuon cynharach, gw. y cyfeiriadau ibid. 376n22; gw. ymhellach nodyn noddwr Ann Parry Owen yn GG.net d.e. Edward ap Dafydd o Fryncunallt).

Daeth Siôn Trefor yn benteulu Bryncunallt ar ôl i’w frawd hŷn, Robert, farw yn 1452, ond erbyn wythdegau’r ganrif honno ymddengys mai ei brif gartref oedd Pentrecynfrig, o fewn plwyf Llanfarthin a thua 2km i’r de o’r Waun (gw. nodyn Ann Parry Owen yn GG.net). Yn ôl marwnad iddo gan Gutun Owain, bu farw Siôn Trefor ar ddydd Gwener, 6 Rhagfyr 1493 (GO XXXVI.22, 25–30). Yn y gerdd hon (ll. 6) canmola Gutun ei ddysg, gan ei alw’n athro mawr, ac mewn marwnad a ganodd Guto’r Glyn i Edward ap Dafydd, tad Siôn, dywedir mai Siôn a etifeddodd ei ddiddordebau ysgolheigaidd: I Siôn y rhoed y synnwyr / A’r chwedlau o’r llyfrau’n llwyr (GG.net 104.43–4). Awgryma Ann Parry Owen (ibid.n.) y gallai’r llinellau hyn gyfeirio’n benodol at ddawn Siôn Trefor fel cyfieithydd, sef ei allu ‘i ddeall synnwyr llyfrau, ac felly i’w trosi i’w iaith ei hun’.

Mae enw plwyf a phentref Llanfarthin yn adlewyrchu cysegriad yr eglwys yno i Sant Martin (ar hanes y plwyf, gw. Eyton 1860: 361–4; Hurdsman 2003: 17–18). Mae’n debygol, felly, fod Siôn Trefor yn ystyried Martin yn nawddsant iddo. Gall fod hyn yn wir yn achos y copïydd Gutun Owain hefyd, am ei fod ef yn ddyn lleol a oedd yn berchen tir yn Ifton, yn yr un plwyf, ac a gladdwyd yn Llanfarthin yn ôl pob tebyg (Williams 1997: 240; ac am ei fan claddu, gw. y cofnod yn llawysgrif Wrecsam 1 neu LlGC 872D (1590–2) a ddyfynnir yn RWM ii, 360). At hynny, ymddengys fod LlGC 3026C wedi ei chreu ar gyfer gŵr lleol arall, sef Siôn Edward o Wernosbynt, y Waun, yntau’n perthyn i Siôn Trefor ac yn ysgolhaig ei hunan (RepWM d.e. Edward(s), John, I; Owen 2003: 351–2). Mae’n debygol, fodd bynnag, na luniwyd Buchedd Martin ei hun ar gyfer cynulleidfa uchelwrol, ysgolheigaidd yn unig. Mae rhywfaint o esbonio a symleiddio yn y testun, sy’n awgrymu y gallai fod wedi ei fwriadu ar gyfer cynulleidfa ehangach; efallai y byddid yn ei ddarllen fesul darn yn eglwys y plwyf, adeg gŵyl(iau) y sant (gw. yr adran nesaf, a cf. Williams 1941–4: 150; BDe xxxiii).

Ymddengys fod Treforiaid plwyf Llanfarthin wedi parhau i ystyried Martin yn nawddsant iddynt yn y degawdau ar ôl i’r fuchedd gael ei hysgrifennu, a barnu o’r cyfeiriadau ato mewn cerddi a ganwyd i Siôn Trefor o Wigynt, ŵyr Siôn Trefor o Bentrecynfrig. Cyfeiriodd Morys ap Hywel ap Tudur at wyrth (‘gallu gwyrthiol’) a nawdd y sant yn amgylchynu’r noddwr a’i wraig (Williams 1929–31a: 43), a chanmolodd Huw ap Dafydd letygarwch Siôn ar adeg Gŵyl Martin: Ym mlaen y ford aml iawn fydd / Ŵyl Marthin im, win a medd (GHD 27.51–2). Ceir wedyn linellau sy’n dwyn i gof gardod Martin ger dinas Amiens, Mur a thangadwyn, Marthin godiad, / ’Mryd ei ddull am roi dy ddillad (ibid. llau. 53–4; cymharer BMartin §5; SSVM §3). Mae’n bosibl fod y bardd wedi ei ysbrydoli gan y disgrifiad o’r weithred hon ym muchedd Gymraeg Martin, gwaith taid ei noddwr, ond ni ellir bod yn sicr ynglŷn â hyn am fod y stori mor gyffredin mewn gwahanol destunau ac mewn darluniadau gweledol (gw. ymhellach Day 2017: 14–15).

Testun y fuchedd gyntaf
Mae fersiwn Siôn Trefor o fuchedd Martin (BMartin) yn gyfieithiad da, hawdd ei ddarllen, ac, hyd y gellir barnu, ymddengys iddo gael ei gopïo yn bur ffyddlon gan Gutun Owain i LlGC 3026C (ar y copïau diweddarach, gw. Llawysgrifau). Er bod nifer o lithriadau, yn arbennig wrth symud o un llinell i’r llinell nesaf yn y llawysgrif (gw. n. 8 (testunol), n. 9 (testunol)), nid oes ond un man lle na ellir cael synnwyr o’r testun heb ddiwygio’n sylweddol (gw. n. 14 (testunol)). Mewn dau achos, hefyd, ymddengys fod Gutun wedi drysu ynghylch strwythur brawddegau (gw. n. 11, n. 40), ac mae’n debygol mai ef sydd ar fai am rywfaint o’r dryswch gydag enwau priod a welir yn y testun (gw. yn arbennig n. 24 (testunol) (ar Treueris), n. 29 (testunol) (Titradius), n. 36 (esgob Putanesis), n. 101 (Arkorivs), n. 108 (Maxenianus), n. 153 (Pataniaid), n. 175 (Perpettuwus)). Fel yn achos rhai testunau eraill o’r cyfnod hwn, megis yr ‘aralleiriad’ o Fuchedd Dewi yn Pen 27ii (gw. BDewi: Rhagymadrodd), ymddengys o bryd i’w gilydd fod geiriau yn cael eu sillafu yn ôl eu sain yn hytrach na dilyn confensiynau safonol: er enghraifft, [p]ethe yn §36 (gthg. y terfyniad safonol -av (-au) ar yr un gair yn §§4, 34, 37); dyddie yn §54; kythrel (am cythraul) yn §§11, 20, 25–6, 36–9, 45, 50, 52; ymgnvllynt, ffurf ar y ferf ymgynnull, yn §17; a’r terfyniad trydydd lluosog gorffennol -on a geir yn y ferf [l]lyngkon yn araith Martin yn §43 (gthg., e.e., §38 trevliasant; §48 dywedasant). Gweler ymhellach n. 21 (testunol) (ar kan [n]a allai ac achosion tebyg), n. 56 (Browdwr), n. 76 (oeddyn), n. 105 (drostvn), n. 165 (clwai). Cymharer hefyd yr achosion o gywasgu gwedy a rhagenw trydydd unigol meddiannol (gw. n. 67), a dwy ffurf ar y ferf cael a all adlewyrchu dylanwad yr iaith lafar, sef cent, ffurf trydydd lluosog amherffaith yn ôl pob tebyg (§30 wynt a gent ev hiechyd; n. 100) a cas, ffurf trydydd unigol gorffennol (§18 na chas atteb; cymharer kavas, a nodir yn GMW 149 ac a geir yn y fuchedd yn §§12, 24, 26, 39).

Tardda fersiwn Siôn Trefor o’r fuchedd o Vita S. Martini Sulpicius Severus gan fwyaf, gan ymgorffori hefyd ddarnau eraill gan Sulpicius a chan Gregori o Tours (gw. BSM v, ac isod). Mae’n debygol nad Siôn Trefor a fu’n gyfrifol am ddewis a dethol y gwahanol ddarnau, am fod y testunau hyn, a deunydd arall am Martin, yn cael eu trosglwyddo gyda’i gilydd yn aml (Jones 1936: 109; a gw. Babut 1912: 300; Love 1996: xiii; SSVM 82). Wrth gymharu Buchedd Martin â’i chynseiliau Lladin yn yr ymdriniaeth hon, y prif olygiadau a ddefnyddir yw’r rhai canlynol: ar gyfer Vita S. Martini, cyfrol ddiweddar Philip Burton (SSVM) (cyfeirir hefyd weithiau at olygiadau Jacques Fontaine (1967–9) a Carolus Halm (1866)); ar gyfer llythyrau Sulpicius (Epistulae), golygiad Jacques Fontaine (1967–9); ac ar gyfer ei destunau ymddiddan (Dialogi), golygiad Carolus Halm (1866). Wrth roi cyfieithiadau o ddarnau Lladin, dyfynnir fel arfer o gyfieithiad Saesneg Burton o’r Vita (op. cit.) a chyfieithiad Alexander Roberts (1894) o’r Epistulae a’r Dialogi. Ymgynghorwyd hefyd â chyfieithiad Roberts o’r Vita (ibid.) ac â chyfieithiad Ffrangeg Fontaine (op. cit.) o’r Vita a’r Epistulae. Ar gyfer y darnau ar ddiwedd y fuchedd sy’n tarddu o weithiau Gregori o Tours, dyfynnir o olygiadau Krusch and Levison (1885a) a (1885b) o Historia Francorum a Libri de virtutibus sancti Martini episcopi, a chyfieithiadau Lewis Thorpe (1974) a Raymond Van Dam (1993: 199–303).

Sylwyd ar ychydig ddarlleniadau Cymraeg sy’n sylweddol wahanol i’r darnau Lladin cyfatebol yn nhestunau golygedig y cyfrolau a grybwyllwyd uchod ond yn debyg i ddarlleniadau amrywiol a nodir gan Fontaine (1967–9) neu Halm (1866); gweler n. 25, n. 60, n. 94, n. 143. Byddai’n ddiddorol ystyried ymhellach y darnau Lladin hyn a darlleniadau amrywiol eraill mewn perthynas â’r fuchedd Gymraeg, a diau y byddai hyn yn taflu goleuni pellach ar natur y gynsail a ddefnyddiodd Siôn Trefor. (Ar y llawysgrifau Lladin, gweler Halm 1866: viii–xi, 107; Chase 1932: 61–4; Fontaine 1967–9: 215–22; SSVM 81–3.)

Mae rhan gyntaf y fuchedd yn tarddu gan fwyaf o Vita S. Martini (SSVM §§2–42; BMartin §§1–28, 30–42) ac yn adrodd hanes Martin o’i blentyndod hyd yr adeg pan ymwelodd Sulpicius ag ef yn 393 neu 394 (Stancliffe 1983: 71). Ceir disgrifiad helaeth o rinweddau Martin a’i wyrthiau. Yng nghanol y deunydd o’r Vita ychwanegwyd hanes gwyrth arall sy’n tarddu o un o destunau ymddiddan Sulpicius (Halm 1866: 185 (Dialogi I (II), §4); BMartin §29). Roedd Martin yn dal yn fyw yn 396 pan orffennwyd y Vita ond ceir mewn un o lythyrau Sulpicius hanes ei farwolaeth (yn 397), a hwn yw ffynhonnell y rhan nesaf o’r fuchedd Gymraeg (Fontaine 1967–9: 336–45 (Epistulae III.6–20); BMartin §§43–6). Wedyn ceir storïau Gregori o Tours am wŷr Poitiers a gwŷr Tours yn ymryson dros gorff marw’r sant (Historia Francorum, I.48 (Krusch and Levison 1885a: 32–3; Thorpe 1974: 97–9); BMartin §§47–9) ac am wyrthiau sy’n ymwneud â’i farwolaeth, ei angladd a throsglwyddiad ei gorff (Libri de virtutibus sancti Martini episcopi, I.4–6 (Krusch and Levison 1885b: 140–2; Van Dam 1993: 206–9); BMartin §§50–6).

Ni cheir yn y fuchedd Gymraeg y ‘Llythyr at Desiderius’ sy’n cyflwyno Vita S. Martini, na phennod ragarweiniol gyntaf y Vita ei hun, ond yn eu lle ceir cyflwyniad esboniadol byr iawn, sef Marthin Sant oedd esgob a chonffesor i Grist. Ni cheir darn tebyg mewn cyd-destun tebyg yn y Vita, ond mae’n bosibl fod y cymal hwn yn tarddu o un o’r amrywiol fersiynau o deitl y testun hwnnw. Vita Sancti Martini Episcopi ‘Buchedd Sant Martin, Esgob’ yw’r teitl a ddefnyddiodd Fontaine (1967–9: 250) ar gyfer ei destun golygedig, ond nododd nifer o amrywiadau gan gynnwys rhai sy’n galw’r sant yn esgob ac yn gyffeswr (confessoris) fel y gwna geiriau cyntaf y fuchedd Gymraeg.

Dilynir testun y Vita wedyn wrth ddisgrifio cefndir a phlentyndod Martin (§1), ei dröedigaeth gynnar a’i awydd i ddod yn feudwy (§2), a’r orfodaeth a roddwyd arno i fynd yn varchoc vrddol pan oedd yn bymtheg (§3). Disgrifir ei fywyd da, gostyngedig (§4), a’r achlysur pan roddodd hanner ei fantell i ddyn tlawd ger Amiens (§5), a Christ yn ymddangos iddo wedyn yn ei gwsg, yn gwisgo’r dilledyn hwnnw (§6). Nodir iddo gael ei fedyddio yn ddwyvlwydd ar hugain (gthg. SSVM §3(5) duodeviginti ‘deunaw’, a gw. n. 25), ac iddo barhau i ddwyn enw marchog am bron i ddwy flynedd ar ôl hyn (§7). Ceir hanes Martin yn ennill ei ryddhad o’r fyddin (§8), ar adeg pan oedd Iwlian Cesar wedi casglu llu mawr yn ninas Worms i ymladd yn erbyn [c]enedlaethav dieithr (SSVM §4(1) barbaris), a sonnir am y cyfnod a dreuliodd gyda Sant Hilary, esgob Poitiers (§9), ac am ei daith adref at ei rieni gan gyfarfod â lladron a’r Diafol ar y ffordd (§§10–11). Disgrifir ei wrthwynebiad i Ariaeth (gw. n. 44), ei daith i’r Eidal, y vynachloc (neu’r feudwyfa, gw. n. 49) a sefydlodd ym Milan a’i arhosiad ar Ynys Galinaria (§§12–13), cyn iddo fynd yn ôl at Sant Hilary, sefydlu mynachloc arall ger Poitiers ac atgyfodi dau ddyn marw (§§14–15).

Ceir hanes ethol Martin yn esgob Tours gan y bobl, yn erbyn ewyllys rhai esgobion, a sefydlu Marmoutier, a ddaeth yn brif fynachlog iddo (§§16–17). Adroddir nifer o hanesion am wyrthiau, rhai’n ymwneud â gwaith cenhadol Martin a’r gwrthwynebiad tuag ato (§§18–23), eraill yn wyrthiau iacháu (§§24–5, 28–34), ac eraill yn dangos ei allu i weld cythreuliaid a’i bŵer trostynt (§§26–7, 36–9). Disgrifir y cyfarfod rhyngddo a’r Ymerawdwr Magnus Maximus (§35), ac ymweliad Sulpicius â’r sant, gan ymhelaethu ar ei rinweddau (§§40–2). Yn olaf ceir darnau sy’n tarddu o destunau gan Gregori o Tours ac sy’n disgrifio hanes marwolaeth Martin (§§43–5), ei angladd (§46), yr ymryson dros ei gorff (§§47–9), a gwyrthiau sy’n gysylltiedig â’i farwolaeth (§50), â’i angladd (§§51–2) ac â’r adeg pan symudwyd ei gorff (§§53–6).

Cyflwynir darlun eithaf llawn, felly, o fywyd a rhinweddau’r sant. Ymddengys fod Siôn Trefor wedi gwneud ei orau i gyfleu naws ei gynsail, a’r prif newidiadau bwriadol wedi eu gwneud er mwyn crynhoi, neu i greu testun haws i’w ddeall a llai anghyfarwydd i’r gynulleidfa gyfoes. (Dylid nodi, fodd bynnag, ei bod yn bosibl fod rhai o’r ‘newidiadau’ a welir yn y fuchedd Gymraeg, o’i chymharu â’r testunau Lladin sydd ar gael, yn bodoli yn barod yn y gynsail Ladin a ddefnyddiodd Siôn Trefor.)

Ceir nifer o ddarnau sydd wedi eu crynhoi ychydig; er enghraifft, mae’r disgrifiadau o’r sant yn atgyfodi’r ddau ddyn marw, cyn iddo ddod yn esgob Tours, dipyn yn fyrrach yn y fuchedd Gymraeg nag yn y Vita (SSVM §§7–8; BMartin §§14–15) ac, yn yr un modd, ceir llai o fanylder yn y disgrifiad o’r sant yn gwrthbrofi traddodiad ofergoelus am fan claddu merthyriaid tybiedig (SSVM §11; BMartin §18). Hepgorwyd yn gyfan gwbl rai darnau yr ymddengys iddynt gael eu hystyried yn anniddorol neu’n amherthnasol i’r gynulleidfa gyfoes, gan gynnwys y ‘Llythyr at Desiderius’, y bennod ragarweiniol (gw. uchod), a’r disgrifiad o wrthwynebiad esgob o’r enw Defensor i etholiad Martin yn esgob Tours (SSVM §9(4–7); gthg. BMartin §16). Hepgorwyd hefyd, yn ddigon rhesymol, gŵyn Sulpicius am broffwydi ffug ei gyfnod ef a’i ragfynegiad am ddyfodiad buan yr Anghrist (SSVM §24(1–3)). At hynny, mae’n bosibl fod cyfeiriad at ddillad o rawn camelod wedi ei hepgor o’r disgrifiad o abaty Marmoutier am iddo gael ei ystyried yn rhy ddieithr neu’n rhy annhebygol (gw. n. 80).

Hepgorir rhai enwau priod o’r fuchedd Gymraeg gan gadw’r storïau cysylltiedig: fel gwr bonheddic yn unig y cyfeirir at y dyn a enwir yn Lupicinus yn nisgrifiad Sulpicius o un o wyrthiau iacháu Martin; nodir bod Magnus Maximus wedi ei ladd yn y dinas yn hytrach na chrybwyll dinas Aquileia wrth ei enw; ac wrth adrodd hanes trigolion Tours yn hawlio corff y sant ar ôl iddo farw, fe’i disgrifir yn cael ei gario ar hyd y dwr yn hytrach nag enwi afon Vienne ac afon Loire fel y gwna Gregori o Tours (BMartin §§15, 35, 49; SSVM §8(1), 20(9); Krusch and Levison 1885a: 33 (I.48), llau. 11–12). Ar y llaw arall, mae’r cyfeiriad yn Dialogi Sulpicius at Carnotum oppidum wedi ei ddiweddaru’n llwyddiannus yn dinas Siartris (Chartres) (gw. n. 98), ac mae’n debygol y bwriedid y cyfeiriadau anacronistig at Ffraingk a Ffrangkod (yn hytrach na ‘Gâl’ a ‘Galiaid’), yn yr un modd, i wneud y testun yn fwy dealladwy a pherthnasol i’r gynulleidfa (BMartin §§8, 19; SSVM §4(1) intra Gallias, §12(2) Gallorum). Mae’n ddiddorol hefyd fod y fuchedd Gymraeg yn cynnwys ymadrodd byr sy’n esbonio pwy oedd Homer, pan grybwyllir y bardd hwnnw, a bod y manylyn hwn yn absennol o’r adran gyfatebol yn Vita Sulpicius (BMartin §41; SSVM §26(3)).

Nodwedd arall ar destun Siôn Trefor yw tuedd i hepgor llais yr awdur gwreiddiol. Yn ogystal â’r ‘Llythyr at Desiderius’ a’r bennod ragarweiniol hepgorir nifer o sylwadau a darnau rhethregol eraill Sulpicius, a defnyddir berf trydydd person yn hytrach na berf person cyntaf ar ddechrau’r hanes am wyrth a gyflawnodd Martin ar y ffordd i Chartres (BMartin §29 Val yr oedd Varthin y[n] myned i ddinas Siartris; Halm 1866: 185 (Dialogi I (II), §4) fuerat causa nescio qua Carnotum oppidum petebamus (Roberts 1894: 40 ‘For some reason, I know not what, we were on our way to the town of the Carnutes’)). Ac eto, er nad enwir Sulpicius yn unman yn y testun Cymraeg, ni chafodd ei gau allan o’r stori yn gyfan gwbl. Adroddir hanes ei ymweliad â Martin yn y person cyntaf (SSVM §25; BMartin §40), efallai am fod Siôn Trefor yn ystyried fod rhan yr awdur yn y naratif yn rhy bwysig yma i gael ei hanwybyddu. Cedwir hefyd nifer o’r sylwadau rhethregol sydd fel pe baent yn arwain y darllenydd drwy’r fuchedd (BMartin §§18, 34, 37, a’r ddau olaf mewn inc coch yn y llawysgrif), a rhai sy’n ymwneud â digwyddiadau’r stori neu â rhinweddau’r sant ac yn mynnu bod yr hyn a ddywedir yn wir (§§17, 39, 40, 42, 45; a cf. §56, yn trosi llais Gregori o Tours).

Er bod Siôn Trefor yn amlwg yn gyfieithydd dawnus a chydwybodol, mae rhai camgyfieithiadau yn ei destun, a nifer ohonynt yn ymwneud ag enwau priod. Ceir yn yr Eidal Tisin yn gyfieithiad am yr ymadrodd Lladin intra Italiam Ticini ‘yn yr Eidal, yn Pavia’, fel pe bai yr Eidal Tisin yn enw un lle neu ranbarth (SSVM §2(1); BMartin §1), a newidiwyd Treveris, enw dinas (Trier), yn enw merch (SSVM §16(2); BMartin §24). Crëwyd gwestai newydd yng ngwledd yr Ymerawdwr Maximus drwy gamddehongli praefectus, enw swydd, yn enw personol, Preffectus (SSVM §20(4); BMartin §35), ac mae rhai enwau eraill wedi eu llurgunio; er enghraifft, ceir Arkorivs neu Abirius am Arborius (§31), ac o’r pedwar achos lle crybwyllir y proconswl Tetradius, y tro olaf, yn unig, y ceir ei enw’n iawn (Tretadius, Titradius (ddwywaith), Tetradius; §25). Fodd bynnag, fel y nodwyd uchod, gall mai Gutun Owain yn hytrach na Siôn Trefor a fu’n gyfrifol am hyn, am fod enwau priod anghyfarwydd yn fwy tueddol na geiriau cyffredin i gael eu llurgunio wrth gael eu copïo (cf. BDewi: Rhagymadrodd).

Gall mai crynhoi diofal sydd ar fai am y disgrifiad dryslyd o Martin yn adeiladu ei gell o brennav gwniedic a’i fynachod yn adeiladau ystafelloedd iddynt eu hunain yn yr vn brynn (gw. n. 63), ac ymddengys fod camddealltwriaeth o’r ffynhonnell Ladin wedi arwain at gystrawen Gymraeg ddiffygiol mewn darn sy’n disgrifio rhinweddau Martin (gw. n. 127). Math penodol o wall cyfieithu a welir sawl gwaith yw trosi enw lluosog yn enw unigol, neu’r ffordd arall (gw. n. 73). Weithiau nid oes effaith sylweddol ar yr hanes a adroddir, ond pan ddaeth Siôn Trefor at hanes Martin yn gwrthbrofi’r gam-gred am ‘ferthyri’ ffug a gladdwyd ger ei fynachlog (SSVM §11; BMartin §18), gall mai camgyfieithu episcopis (lluosog) yn esgob (unigol) a barodd iddo ddehongli’r ansoddair sy’n ei oleddfu, superioribus, yn ‘uchaf’ yn hytrach nag yn ‘flaenorol’ (mae’r ddwy ystyr yn bosibl ar gyfer y gair Lladin, ond nid oes amheuaeth nad yr olaf a fwriedid). O ganlyniad i’r camgyfieithu hwn, a’r crynhoi a welir hefyd yn y darn, creir yr argraff fod yr ‘esgob uchaf’ hwn wedi ei dwyllo gan y gam-gred yr un modd â’r boblogaeth leol a bod Martin, esgob newydd ei gysegru, yn herio ei awdurdod drwy ddangos nad yw’r gred hon yn wir. Mae hyn yn bur wahanol i’r hyn roedd Sulpicius wedi bwriadu; ac eto, nid yw fersiwn Siôn Trefor o’r hanes yn anghydnaws â’r stori ehangach, nac â chymeriad Martin. Gellid cymharu dewrder y sant wrth ymdrin â’r ymerodron, a’r disgrifiad o’i etholiad yn esgob Tours drwy ewyllys y bobl ac er gwaethaf gwrthwynebiad rhai esgobion eraill (SSVM §§4, 9, 20; BMartin §§8, 16, 36).

Mewn achos arall, gwneir cam difrifol ag un o gyd-oeswyr Martin, a chyfaill i Sulpicius, drwy ddisgrifio Paulinus o Nola fel gwr oedd yn ymarver o gyfarwyddion (BMartin §32). Yn y cyd-destun, ystyr debycaf cyfarwyddion yw ‘hud a lledrith’, ond nid oes dim byd sy’n cyfateb i hyn yn y Lladin, ac ymddengys fod y darlun hwn o Paulinus yn tarddu o ddryswch rhwng magnus ‘mawr’ a magus ‘dewin’, efallai o ganlyniad i wall neu aneglurder yn y gynsail (gw. n. 104). Fel yn achos yr hanes am y ‘merthyri’, nid yw’r camgymeriad yn amlwg oni ddarllenir y Gymraeg ochr yn ochr â’r testun Lladin, am y gallai’r darllenydd dybio bod Paulinus wedi rhoi’r gorau i’w hud a lledrith dan ddylanwad Martin ar ôl cael ei iacháu ganddo a dod yn siampl dda i eraill (BMartin §32). Fodd bynnag, mae’r darlun o ddiddordebau cynnar Paulinus a geir yn y fuchedd yn hollol groes i’r hyn a wyddys am Paulinus o Nola.

Ni chafwyd cyfle i gymharu darlleniadau Lladin a Chymraeg yn fanwl yn yr astudiaeth hon. Felly, ni chofnodir pob achos lle ceir ystyr wahanol yn y fuchedd Gymraeg o’i chymharu â’r testunau Lladin cyfatebol. Mae’n eglur, serch hynny, fod Siôn Trefor wedi parchu portread Sulpicius o Martin fel gŵr dewr, asgetig, sanctaidd a gostyngedig, fel cenhadwr, abad ac esgob, fel un y cyflawnodd Duw wyrthiau niferus drwyddo, fel un a fedrai weld drwy ystrywiau cythreuliaid, ac fel patrwm o sut i fyw a marw yn Gristion. Yn hynny o beth roedd Siôn Trefor yn wahanol i rai ysgrifwyr cynharach a roddai bwyslais arbennig ar agweddau penodol ar fywyd neu natur Martin, megis ei awdurdod fel esgob, fel yn achos Gregori o Tours ac Ælfric o Eynsham, neu ei wyrthiau, fel yn achos Jacobus de Voragine (gw. Reames 1981; Olsen 2004).

Y fuchedd fer
Mae’r fersiwn o fuchedd Martin y ceir y copi cynharaf ohono yn Llst 34 (1580x1600) yn gryno iawn, a’i gynnwys fel a ganlyn: brawddeg o ragymadroddi (gwahanol i eiddo Siôn Trefor); hanes iacháu dyn gwahanglwyfus pan oedd y sant yn fab ieuanc (gthg. BMartin §28 a SSVM §18, lle adroddir hanes gwyrth debyg yr ymddengys iddi gael ei chyflawni yn llawer diweddarach ym mywyd y sant); hanes ei orfodi i fynd yn filwr yn ddeuddeng mlwydd oed (gthg. BMartin §3 [p]ymthengmlwydd, sy’n cyfateb i annorum quindecim y fuchedd Ladin (SSVM §2(5)); hanes rhoi hanner ei fantell i’r dyn tlawd a’i weledigaeth wedyn, a geiriau Crist yn cael eu rhoi yn y Lladin gwreiddiol (cf. SSVM §3(3); ni cheir y dyfyniad Lladin hwn yn BMartin §6); cyfeiriad byr ato’n gadael y fyddin ac yn mynd yn fynach yn Poitou; ei ethol yn esgob Tours; a’i farwolaeth.

Ysgrifennwyd llawysgrif Llst 34 gan Roger Morris o Goed-y-talwrn, Llanfair Dyffryn Clwyd, ac mae’n ddiddorol nodi iddo gopïo fersiwn Siôn Trefor o’r fuchedd i lawysgrif CM 530 tua’r un pryd (gw. Llawysgrifau). Nid ymddengys fod y naill yn addasiad o’r llall, serch hynny. Nodwyd rhai gwahaniaethau sylfaenol rhyngddynt uchod, ac, er bod un gyfatebiaeth ddiddorol yn y disgrifiad penodol o fantell y sant yn cael ei gwisgo dros ei arfau, gall nad yw hyn yn arwyddocaol (gw. n. 21). Awgryma Grosjean (1937: 346) fod y fuchedd Gymraeg fer yn tarddu o bregeth Ladin, ac os felly, gellid ei hystyried yn dystiolaeth annibynnol am bwysigrwydd cwlt Martin yn y gogledd-ddwyrain (cf. y farddoniaeth a drafodir uchod ac yn Day 2017). Mae’n werth nodi bod y chwe llawysgrif gynharaf sy’n cynnwys y naill fersiwn neu’r llall o’r fuchedd yn dod o’r ardal hon (gw. Llawysgrifau).