35. Vita Sancti Clitauci (Liber Landavensis / Vespasian A. xiv)
golygwyd gan Ben Guy
Clydog yw nawddsant Clodock yn swydd Henffordd. Dethlir ei ŵyl ar 3 Tachwedd. Yn ôl ei fuchedd, brenin duwiol ydoedd, a ferthyrwyd gan un o’i gymdeithion o achos merch brydferth a wrthodai garu neb ond Clydog. Mae’r testun isod wedi ei olygu o Liber Landavensis (L), gydag amrywiadau o Vespasian A. xiv (V).
[Liber Landavensis →] [Vespasian A. xiv →]
§1
Rex Clitauc filius Clitguin cum esset in regno suo tenens pacem et rigorem iustitię, factus est martir uirtute et meritis et corona celestis glorię cum palma carnalis castimonię. Quedam uirgo nata cuiusdam potentis adamauit illum, dicens requirentibus se nulli nuptura nisi uiro preclaro Clitauco. Audito puellę responso et omnibus abnegante, ut solito, quidam de sodalibus regis, clauso sibi utero uirginis, inflatus maligno spiritu et spiritu ardoris muliebris, et accipiens fundamentum a fece temeritatis et luxurię liuore, quadam die in uenatu occidit regem Clitauc innocentem uelut pium agnum, iuxta flumen Mingui expectantem uenatorum conuentum et tamen uerba sacri eloquii cum summa deuotione premeditantem. Defuncto eo, familiares uiri et compatriotę et nobilissimę1 nobilissimę L; nobilissimi V. parentelę2 parentelę parentę L; parente V. populares iunctis bobus feretris ceperunt corpus de loco auferre, et uadum Myngui transire. Et in alia parte fluminis, ceperunt iuga boum dirumpi et boues stare, adeo quod nunquam de loco illo pre nimia corporis grauedine poterant corpus mouere, quamuis sepe ligatis torquibus et funibus tamen ruptis innumerabilibus. Acsi igneus obsistabat globus, ita nunquam boues mouebant gressus, quamuis multiplex aderat stimulus. Et uidentibus omnibus et admirantibus, remansit corpus in loco sibi preparato diuinitus. Et populus statim propter uitam preclaram quam in sancto uiro3 uiro V; uro L (corrected by a later scribe). preuiderat,4 uro preuiderat L; uiderat uiro V. et sanctitatem, et finem ductum ad5 ad L; – V. coronam martirii, et post finem mirabilem leuitatem corporis, in secundo grauitatem nimiam et immobilem, laudes retulit Deo. Et uisa columpna ignis in sequenti nocte de tumulo post sepulturam, placabilem Deo, et statim, consilio episcopi Landauię et cleri, fundatum est ibi oraculum et benedictum aspergine aquę in honore martiris Clitauci. Et ab illa die cepit locus pro beato martire uenerari.
§2
Quadam die, uenerunt duo uiri de Lannerch Glas inter se irati, et dixerunt, ‘Concordemur et tendamus ad Matle ęcclesiam sancti
Dubricii, et simul iuremus super altare illius, ut, oblito inuidię liuore immo iuncto federe, semper amodo simus firmiter amici in
fraterna pace.’ Qui cum in uia6
uia
L; una V. essent tendentes ad propositum iter, dixit unus ad alterum, ‘Pergamus ad locum istvm martiris, uidelicet Clitauc, et ad sepulcrum illius, adbreuiato itinere nostro et remanente proposito. Et super illius tumulum concordemur, et confirmaturi
firmandam pacem amodo inter nos perpetuam.’ Et confirmato federe, unus, in reditu, rupta pace et uiolata fide, occidit alterum
fraude, immo semetipsum, ut dicitur:
... quicunque alium molitur ledere primum
ipsum se iaculo percutiet proprio.
Et statim facto homicidio, et, ut sic dicam, simul cum periurio, semetipsum propria lancea perforauit in utero, plaga ducente
eum ad interitum; socium,7
socium
L; socii V. dico, perductum ad perenne gaudium.
§3
Post interuallum temporis, uenerunt duo fratres, Lybiau et Guruann, et sororius illorum Cinuur, de regione Pennichenn,8 Pennichenn L; Pennichern V. relinquentes patriam propter inimicitiam, et ex alia parte eligentes et ducentes heremitalem uitam9 uitam L; – V. et solitariam, ad locum ubi positum est corpus beati martyris Clitauci super ripam Myngui in Euias. Et ibi uitam suam duxerunt, et ecclesiam melioratam consilio episcopi Landauię et adiutorio fundauerunt. Et dato sibi toto territorio ex utraque parte Myngui a rege Morcannuc, Pennbargaut,10 Pennbargaut L; Pennargaut V. in sempiterna consecratione, et sine ullo censu ulli homini terreno, et cum omni communione data habitantibus et habitaturis11 habitantibus et habitaturis L; habitationis V. territorium ęcclesię in campo12 campo L; campis V. et in siluis, in aqua et in pascuis, finem suum duxerunt. Et duo fratres castam duxerunt uitam. Sororius, uero, quinque procreauit filios; unde semper territorivm remansit quinpartitum fratribus et semper posteris et superstitibus.
§4
Merthir Clitauc.13
Merthir Clitauc.
L; – V.
Ivdhail filius Morcant, rex Gleuissicg, uerbo filiorum eius Fernuail et Mouric et hereditariorum consensu Iudhail et Freudur, immolauit Deo et sanctis14
sanctis
L; sanctis suis V.
Dubricio, Teliauo15
Teliauo
L; – V. et Oudoceo16
Oudoceo
L; Oudoucco V. et Clitauco martiri17
martiri
L; marciry V. et Berthguino episcopo et omnibus episcopis Landauię totum territorium Merthir Clitauc, sicut melius fuit data martiri18
martiri
L; marcyri V.
Clitauco et tribus heremitis Libiau,19
Libiau
L; Libriau V.
Guruan, Cinuur, primis habitatoribus et cultoribus illius loci20
illius loci
L; loci illius V. post martirium Clitauci martiris, et cum sua tota libertate et omni communione data incolis et habitaturis in campo et in siluis, in aqua et in pascuis,
et sine ullo censu magno uel modico ulli homini terreno nisi ecclesię Landauię et pastoribus in perpetuo, et quasi insulam
positam in salo, liberam ab omni seruitio et sine herede nisi ad uoluntatem et ad utilitatem episcopi Landauię et canonicorum
eiusdem ecclesię, et cum dato refugio ad uoluntatem profugi sine termino: quandiu permanere uoluerit, tutus remaneat sub eius
asilo, ac si esset in Landauię patrocinio. De clericis testes sunt Berthguinus episcopus, Dagan abbas Caruani uallis, Elgoid abbas Ilduti,21
Ilduti
L; Iltut V.
Saturn abbas Docunni,22
Docunni
L; Doguini V.
Iouan, Guorcuiidh,23
Guorcuiidh
L; Gorguith V.
Heliguid,24
Heliguid
L; Eliguid V.
Ili. De laicis: Iudhail rex, filii eius Fernuail et Mouric, Iudhail et Freudur hereditarii, Elfin, Mabsu, Conuc, Gaudbiu, Gundon, Eudom,25
Eudom
L; Eudoin V.
Guaidnerth. Quicunque custodierit, custodiat illum Deus. Qui autem ab ecclesia Landauię separauerit, anathema sit. Amen. Finis illius
est: Lapis in i Guoun Breith. I cecin in i hit di Rui i Curum, di’r main icecin26
in i hit di Rui i Curum, di’r main icecin
L; – V (homeoteleuton).
ir alt. Ar hit27
Ar hit
L; Arith V.
cecin28
cecin
L; cecit V.
di uinid bet i mein ar ciueir Nant Trineint. Di guairet ar i hit bet in Elchon. Ar i hit di guairet29
guairet
L; guaireth V.
bet Ynys Alarun in i guartha, di’r Main30
Main
L; Mein V.
Tillauc, di’r cruc, di’r cruc arall,31
arall
L; arail V.
di Mynui.32
Mynui
L; Miniu V.
Mynugui33
Mynugui
L; Minigui V.
truio di aper Nant Cum Cinreith. Nant in i hit bet Minid Ferdun di ar ir alt. Minid Ferdun ni hit di’r Luch Ferdun. I minid
in i hit bet blain Hilin. Hilin34
Hilin. Hilin
L; Hilin V.
in i hit bet Mingui. Mingui ni hit di guairet bet35
bet
L; bot V.
aper Finhaun36
Finhaun
L; Finhaim V.
Bist, bet i blain. O’i blain i’r cecin. In iaun i uinid di circhu i’r Guoun Breith ar cecin i minid, bet i main ubi incepit.
§5
Ivdhail filius Edeluirth,37 Edeluirth L; Ethelwirth V. quidam potens uir in Eugias, ueniens comite sibi uxore dominica die ad audiendum seruitium diuinum ad sanctum Clitauc, monitus est Diabolica suggestione et stimulo luxurię cum muliere sue in prato uno super ripam Mingui concumbere.38 concumbere concubere LV. Later hands have corrected the reading in both manuscripts. Et ita quod, in eodem concubitu, uolens, perpetrato peccato, separari, nullo modo potuit segregari, immo iunctus uxori remansit inseparabilis. Et clamauit uoce magna, et dixit sodalibus suis, ‘Ite ad sepulchgan rum martiris Clitauci et ponite ex mea parte super sanctum altare Clitauci pratum istud mea ui iniuste sibi ablatum, et mittentes manus uestras39 manus uestras L; uestras manus V. in uadimonium ueluti data dote, et simul iunctas superpositis quattuor euangeliis antepositis, et ita liberum40 liberum liberam LV. clamando et quietum41 quietum quietam LV. ab omni laicali42 laicali L; laici V. seruitio amodo nisi tantum oratione cotidiana, et missa a me salute clericis ecclesię ut Deum pro me orent intentiue, ut intercessione martiris et eorum oratione ab hac intolerabili peccato simul et horribili ligamine deliberer festine.’ Et statim, facta elemosina simul et reddita cum promissa emendatione uitę suę inantea in ieiunio et oratione et elemosina, seggregatus est ab infesta coniunctione coram omni populo, laudes Deo et gratias referens de tam grata deliberatione. Et quod prius fecerat per legatos suos, hoc idem sanus fecit per semetipsum, missis manibus propriis super altare martiris et confirmando antepositis43 antepositis L; appositis V. sacris euangeliis, et uerbo regum Morcanhuc et consilio principum, sine aliqua calumpnia, liberum sanctis Dubricio, Teliauo et Oudoceo et martiri Clitauco et omnibus episcopis Landauię in perpetuo.
§6
Filii Cinbleidiou44 Cinbleidiou L; Cinlleidiou V. immolauerunt Lech Luit45 Luit L; Liut V. martiri Clitauco et ecclesię Landauię. Finis Lechou46 Lechou L; Lethou V. Lition: Mingui ex una parte et infra duos riuulos. Finis Lennic: infra Myngui et Mingui bet ou cimer. Lech Eneuris ex alia parte uersus aquilonalem plagam.
§1
Tra roedd y Brenin Clydog mab Clydwyn1 Clitauc filius Clitguin (Clydog mab Clydwyn) YmddengysClydwyn a’i fab Clydog yn y fersiynau gwahanol o’r draethnodyn achyddol sy’n gysylltiedig â Brychan Brycheiniog fel mab a ŵyr Brychan yn eu tro (Bartrum 1966: 15 (§11.3), 18 (§14.3), 42 (§2.3), 81 (2b)). Mae’r cynharaf o’r traethnodynnau, De situ Brecheniauc , a gadwyd, fel Buchedd Clydog ei hun, yn Vespasian A. xiv, yn eu disgrifio fel a ganlyn: Clytguin filius Brachan, qui inuasit totam terram Sudgwalliae. Clydouc sanctus et Dedyu sanctus, filii illius Clytguein (Clydwyn mab Brychan, a ymosododd ar holl dir De Cymru. Y sanctaidd Clydog a’r sanctaidd Dedyu , meibion y Clydwyn hwnnw’). Ymddengys Dedyu mewn dau o’r fersiynau eraill fel Dettu ac fe’i adnabyddwyd yn nawddsant Llandetty ar Afon Wysg (WCD 189). Mae fersiwn arall o draethnodyn Brychan, o’r enw Llyma Frychan Brycheiniog a’i Blant, yn galw Clydwyn yn Glewyn a Clydog yn Kyledawc , yn mynnu fod yr olaf yn sant yGhaer Gledawc yn Lloegr (Guy 2016: ii, 435 (§§B2.2–3)). yn ei deyrnas yn cynnal heddwch a llymder cyfiawnder,2 Rex Clitauc filius Clitguin cum esset in regno suo tenens pacem et rigorem iustitię (Tra roedd y Brenin Clydog mab Clydwyn yn ei deyrnas yn cynnal heddwch a llymder cyfiawnder) Mae hyn yn adleisio agoriad siarter wedi ei atodi i Fuchedd Euddogwy, a geir mewn rhan arall o Lyfr Llandaf:Rex Teudiric cum esset in regno suo tenens pacem cum populo et iustitiam(Tra roedd y Brenin Tewdrig yn ei deyrnas yn cynnal heddwch a chyfiawnder gyda’i bobl) (VSOudocei(LL), §14; cymh. Davies 2003: 137). gwnaed ef yn ferthyr trwy rinweddau a haeddiannau a gyda choron gogoniant nefol ynghyd â phalm diweirdeb corfforol.3 corona celestis glorię cum palma carnalis castimonię (gyda choron gogoniant nefol ynghyd â phalm diweirdeb corfforol) Yma, cymherir bod corona yn y cyflwr abladol, ond noder bod yr ymadrodd hyn yn frawddeg gyfan yn gorffen gyda’r ferf decorates (est) yn fersiwn John Tynemouth o Fuchedd Clydog, ac mae’n rhaid bod y frawddeg yn cymryd corona fel y goddrych (yn y cyflwr enwol): VSClitauci(JT), §1. Syrthiodd rhyw forwyn, wedi ei geni o ddyn pwerus, mewn cariad gydag ef, gan ddweud wrth y rhai a oedd yn gofyn iddi na fuasai’n priodi neb ond y dyn eithriadol Clydog. Wedi clywed ateb y ferch ac wedi iddi wrthod pawb yn ôl ei harfer, un diwrnod, yn ystod helfa, fe wnaeth un o gymdeithion y brenin (yr oedd croth y wyryf wedi ei chau iddo), wedi ei chwyddo gan enaid drwg a gydag enaid nwyd benywaidd, a gan gymryd fel ei sail amhurdeb beiddgarwch a malais hoedendod, ladd y diniwed frenin Clydog, fel petai yn oen addfwyn, tra roedd yn aros ger Afon Mynwy i gwrdd â’r helwyr a serch hynny yn myfyrio ar eiriau’r Ysgrythur lân gyda’r ymroddiad uchaf. Wedi iddo farw, dechreuodd cymdeithion a chydwladwyr y dyn a phobl o’r carennydd mwyaf bonheddig gymryd y corff i ffwrdd o’r lle ar elorau wedi eu hieuo i ychen, a chroesi rhyd y Mynwy. Ac yn rhan arall o’r afon, dechreuodd ieuau’r ychen dorri a’r ychen sefyll yn stond4 Et in alia parte fluminis, ceperunt iuga boum dirumpi (Ac yn rhan arall o’r afon, dechreuodd ieuau’r ychen dorri) Mae rôl yr ychen yn y stori hon yn dwyn i gof rôl y ceirw yn y stori am farwolaeth y Brenin Tewdrig yn VSOudocei(LL), §14. Yno, mae Tewdrig, sydd ar farw, yn cael ei gludo ar elor gan ddau garw ieuog, ond unwaith maent yn cyrraedd y lle a benodwyd ar gyfer ei gladdu, mae’r elor yn torri: Et postquam ad locum illum uenerunt, ibi fons emanauit lucidissimus, et feretrum suum totum dirupit (Ac wedi iddynt ddod i’r lle hwnnw, arllwysodd y ffynhonnau mwyaf clir, a thorrodd ei elor gyfan)., i’r fath raddau na allent symud y corff o’r lle hwnnw o gwbl oherwydd pwysau eithafol y corff, ni waeth pa mor aml y clymwyd y strapiau at ei gilydd a thorrwyd rhaffau di-rif. Ac fel petai pêl danllyd yn eu rhwystro, yn y modd hwn ni symudai’r ychen gam, er cymaint y gosodwyd y wialen arnynt. A gyda phawb yn syllu ac yn rhyfeddu, arhosodd y corff yn y man a baratowyd yn ddwyfol ar ei gyfer. Ac yn syth rhoddodd y bobl glod i Dduw oherwydd y bywyd eithriadol a welasent yn y dyn sanctaidd, ac oherwydd ei sancteiddrwydd, a’i ddiwedd a arweiniodd at goron ferthyrdod, ac ysgafnder gwyrthiol ei gorff wedi ei ddiwedd, ac yn ddiweddarach ei drymder eithriadol a’i ansymudoldeb. A'r noson ganlynol gwelwyd colofn o dân5 columpa ignis (colofn o dân) O Exodus 13.21–2; cymh. VSSamsonis(LL), §38. yn dod o’i fedd wedi ei gladdedigaeth, yn ddymunol i Dduw, ac yn syth, ar gyngor esgob Llandaf a’r clerigwyr, sefydlwyd oratori yno a’i fendithio gydag ysgeintiad o ddŵr er anrhydedd i’r merthyr Clydog. Ac o’r dydd hwnnw dechreuwyd anrhydeddu’r lle oherwydd y bendigedig ferthyr.
§2
Un diwrnod, digiodd dau ddyn o Lannerch Las6 Lannerch Glas (Llannerch Las) Mae’r lle hwn yn anhysbys. wrth ei gilydd, a dywedasant, ‘Gadewch i ni ddod i delerau a mynd i eglwys y sanctaidd Dyfrig ym Madley, a thyngu llw ynghyd ar ei allor, fel y gallwn, wedi anghofio malais cenfigen ac yn hytrach dod i gytundeb, fod o hyn allan yn ffrindiau cadarn mewn heddwch brawdol am byth. Tra roeddent ar y ffordd i’r man arfaethedig, dywedodd un wrth y llall, ‘Gadewch i ni fynd i le y Merthyr, hynny yw Clydog, ac i’w fedd, i fyrhau ein taith ond cynnal yr un cynllun. A gadewch i ni ddod i delerau dros ei fedd, i gadarnhau yr heddwch a fydd wedi ei sicrhau yn fythol rhyngom ni o hyn allan.’ Ac wedi cadarnhau’r cytundeb, fe wnaeth un ohonynt, ar y daith yn ôl, wedi torri’r heddwch a bradychu’r ymddiriedaeth, ladd y llall trwy dwyll, neu yn hytrach, lladdodd ei hun, fel y dywedir: ‘... pwy bynnag a gynllunia niweidio rhywun arall yn gyntaf | fe’i tery ef ei hun gyda’i waywffon ei hun’.7 ... quicunque alium molitur ledere primum | ipsum se iaculo percutiet proprio (... pwy bynnag a gynllunia niweidio rhywun arall yn gyntaf | fe’i tery ef ei hun gyda’i waywffon ei hun) O Epigrammata ex sententiis sancti Augustini gan Prosper o Aquitaine, Epigram I (Migne 1861: col. 499, ll. 6–7; Davies 2003: 123). Fel y noda John Reuben Davies, dylai’r llinell fod yn fydryddol, fel yr adnabyddir pan geir ei dyfynnu mewn man arall yn Llyfr Llandaf (LL 244: ut est metrice dictum,‘fel y dywedir yn fydryddol’). Serch hynny, i ffurfio chweban priodol dylai ddechrau yn gywir gyda Nam quicunque (Davies 2003: 123, n. 100). Noda Davies hefyd: ‘Prosper’s Epigramswere a standard Latin school text, familiar to Anglo-Latin writers’. Ac yn syth wedi digwydd y llofruddiaeth, ac, fel y dywedwyf, yr anudoniaeth hefyd, trywanodd ei hun gyda’i waywffon yn ei stumog, yr anaf yn arwain at ei farwolaeth: roedd ei gydymaith, dywedaf, eisoes wedi ei arwain i lawenydd dragwyddol.
§3
Ar ôl ychydig, ymadawodd dau frawd, Llifio a Gwrfan,8 Lybiau et Guruann (Llifio a Gwrfan) Noda Wendy Davies i’r dynion rannu eu henwau â’r ddau esgob ynghlwm â rhoddion Llanfihangel Cwm Du i Landaf (Davies 1979: 114; Gwrfan yn LL 167–8 a Llifio yn LL 237–9). a Cinnur, mab eu chwaer, ardal Penychen, yn gadael eu gwlad o ganlyniad i elyniaeth, ac yn dewis rhywle arall i fyw bywyd meudwyol ac unig, yn y lle gosodwyd corff y bendigedig ferthyr Clydog ar lan Afon Mynwy yn Ewias. Ac yno treuliasant eu bywydau, a sefydlasant eglwys wedi ei gwella gan gyngor a chefnogaeth esgob Llandaf. Ac wedi derbyn holl dir Penbargod9 Pennbargaut (Penbargod) Oherwydd safle’r enw hwn yn y frawddeg, mae sylwebwyr blaenorol wedi cymryd mai dyma oedd enw rex Morgannuc a roddodd y tir i’r brodyr (LL 415; Davies 1978: 75, 89, 176; 1979: 114; WCD 536; yn oblygedig yn Coe 2002, lle ni chyfeirir at yr enw). Mae hyn yn anhebygol iawn. Ni wyddir am unrhyw frenin o Forgannwg o’r enw ‘Penbargod’, ac yn wir ni cheir unrhyw ardystiad arall o ‘Penbargod’ fel enw personol. Mae’n gwneud mwy o synnwyr fel enw lle, yn ôl pob tebyg wedi ei ffurfio o pen + bargod (ymyl, ffin, cyrion), felly efallai ‘pen ardal y ffin’ (yn addas iawn ar gyfer tir o gwmpas Afon Mynwy gan fod rhannau o’r afon dal yn nodi’r ffin rhwng Lloegr a Chymru). Ymhellach, ymddengys yr enw yn yr union safle y disgwylir darganfod enw tir rhoddedig yn ôl trefn arferol y siarteri yn Llyfr Llandaf: yn dilyn y verba dispositiva a’r wybodaeth ynglŷn â’r rhoddwyr a’r derbynwyr, ond yn syth cyn y rhestr o hawliau (cymh. Davies 1979: 8–9). ar ddwy ochr Afon Mynwy gan frenin Morgannwg mewn cysegriad tragwyddol (a heb yr angen i roi unrhyw dâl i unrhyw ddyn bydol, a defnydd comin llwyr wedi ei roi i’r rhai yn trigo ar dir yr eglwys, nawr ac yn y dyfodol, mewn caeau a choedwigoedd, mewn dŵr a phorfa) treuliasant eu bywydau tan y diwedd. A bu fyw y ddau frawd yn ddiwair. Mab eu chwaer, yn ogystal, a genhedlodd bum mab: oherwydd hynny mae’r tir wedi parhau yn bum rhan o hyd ar gyfer y brodyr a’u disgynyddion ac olynwyr am byth.10 Noda Charles Edwards (2013: 305–6) mai bwriad y stori hwn oedd egluro rhaniad y tir a atodwyd i’r eglwys yn bum rhan, yn ogystal ag anallu dynion Ewias (lleoliad Merthyr Clydog) i hawlio tir yr eglwys oherwydd i etifeddion yr eglwys ddod o Benychen yn hytrach nag Ewias.
§4
Merthyr Clydog.11
Merthir Clitauc (Merthyr Clydog)
Y pentref modern Clodock yn Swydd Henffordd.
Fe wnaeth Ithel mab Morgan, brenin Glywysing, gyda gair ei feibion Ffernfael a Meurig a chaniatâd y tenantiaid etifeddol12
hereditariorum (tenantiaid etifeddol)
Ar gyfer y term hereditarius, gweler Davies 1978: 45. Yn anhebyg i’r heres, preswyliwr etifeddol y tir, ymddengys ‘that the hereditarius had some responsibility for production within an estate, a responsibility passed on to his heirs, but that he was not necessarily
an occupier working the land himself’. Ithel a Ffreuddwr,13
Freudur (Ffreuddwr)
Cymharer
Freudubur
yn VSTeliaui(LL), §22. Ymddengys mai ffrau + dwr yw’r enw, felly ‘dŵr yn llifo’ (cymh. GPC Online d.g. ffrau). gynnig i Dduw ac i’r Seintiau Dyfrig, Teilo ac Euddogwy ac i’r Merthyr Clydog ac i’r Esgob Berthwyn ac i holl esgobion Llandaf,
holl dir Merthyr Clydog, fel y rhoesid yn fwy briodol i’r Merthyr Clydog a’r tri meudwy Llifio, Gwrfan a Cinnur, trigolion a meithrinwyr cyntaf y lle hwnnw wedi merthyrdod y Merthyr Clydog. A’i ryddid cyfan a defnydd comin llwyr wedi
eu rhoi i’r trigolion ac i’r rhai a fyddai'n trigo yno yn y dyfodol mewn caeau a choedwigoedd, mewn dŵr a phorfaoedd, a heb
yr angen i roi unrhyw dâl, mawr neu fychan, i unrhyw ddyn bydol os nad ar gyfer eglwys Llandaf a’i hesgobion am byth, ac fel
ynys wedi ei lleoli yn y môr, yn rhydd o bob gwasanaeth a heb etifedd heblaw yn ôl dymuniad a defnydd esgob Llandaf a chanonau’r
un eglwys, a lloches wedi ei rhoi heb derfyn yn ôl dymuniad ffoadur: cyhyd ag y dymuno aros, y gall aros yn ddianaf yn ei
noddfa, fel petai dan nawdd Llandaf. O glerigwyr, y tystion yw Esgob Berthwyn, Daian abad Llancarfan, Elwaedd abad Llanilltud,
Sadwrn abad Llandochau, Ieuan, Guorcuiidh, Eliwydd, Ili.14 Nododd Kathleen Hughes i ddau o’r enwau yn y rhestr o dystion clerigol, Esgob Berthwyn a Sadwrn, abad Llandochau, ymddangos gyda’i gilydd fel tystion siarter a atodwyd i Fuchedd Cadog
Vespasian A. xiv: Hughes 1980: 62; cymh. VSCadoci(Vesp), §67. Ailadroddir y siarter hwn ar ffurf hirach a mwy cymhleth mewn rhan arall o Lyfr Llandaf: LL 180–3; Davies 1979: 110. Cymharir y siarter a atodwyd i Fuchedd Cadog â’i gyfatebwr yn Llyfr Llandaf yn Charles-Edwards 2013: 258–9. O leygwyr: y Brenin Ithel, ei feibion Ffernfael a Meurig, y llywodraethwyr etifeddol Ithel a Ffreudwr, Elffin, Mabsu, Cynwg, Gaudbiu, Gwynddon, Euddof, Gwaeddnerth. Pwy bynnag a’i amddiffynno, boed i Dduw ei amddiffyn ef. Ond y sawl a’i gwahano o eglwys
Llandaf, boed iddo fod yn esgymun. Amen. Ei ffin yw: y graig yn Y Gwaun Braith [Y Gors Frych].15
i Guoun Breith (Y Gwaun Braith [Y Gors Frych])
Mae Coe yn hyderus mai crib Bryn Hatterrall yw’r lleoliad cyffredinol (Coe 2002: 332–3).
Ar hyd y crib i Riw y Cwrw,16
Riu i Curum (Rhiw y Cwrw [Slope of the Beer])
Identified as a slope on the ridge of Hatterrall Hill. Running eastwards down the ridge is a path called Rhiw Arw, at the
bottom of which is a ruined cottage called Rhiw Cwrw (Rollason 1974: 58; Coe 2002: 745–6).
i’r graig ar grib y bryn. Ar hyd crib i fyny mor bell â’r cerrig gyferbyn Nant Trineint.17
Nant Trineint
Wedi ei leoli, mae’n debyg, yng nghyffiniau’r tri enw treflan‘Turnant’ (LL 374; Rollason 1974: 58–62; Coe 2002: 650–1). Awgryma Coe mai’r carnedd uwchben Great Turnant (S0298287) yw’r mein (‘cerrig’) a grybwyllir yma. Mae’n bosib i’r enw Nant Trineint ddeillio o’r nant gyda thri phrif lednant yn cwrdd yn agos
at ei gilydd a geir yn yr un cyfeirnod grid.
I lawr ar ei hyd mor bell ag i mewn i’r Olchon. Ar ei hyd i lawr mor bell ag Ynys Alarun18
Ynys Alarun (Ynys Alarun)
Yn y cyd-destun hwn mae’n bosib y golyga ynys ‘dôl ar lan afon’ (cymh. GPC Online d.g. ynys, b). Mae ystyr Alarun yn anhysbys (Coe 2002: 898). ar ei ben uchaf, i’r Maen Tyllog, i’r bryncyn, i’r bryncyn arall, i’r Mynwy. Trwy’r Mynwy i aber Nant Cwm Cynrhaith [Nant Cwm Cyfraith Cynnar].19
Nant Cum Cinreith (Nant Cwm Cynrhaith [Nant Cwm Cyfraith Cynnar])
Yn Llyfr Llandaf (LL-85ra-86va, f. 86ra, ll. 29) a Vespasian A. xiv (Vesp-84v-86r, f. 86r, ll. 10) ill dau, ceir y glos .i. Nant Cum, ‘hynny yw Nant Cwm’. Mae’n rhaid i’r glos ddeillio o gynddelw gyffredin.
Ar hyd y nant mor bell â Mynydd Fferddun20
Minid Ferdun (Mynydd Fferddun)
Am drafodaeth o’r ffurf Ferdun, gweler Coe 2002: 618–19. Nododd Evans mae’n rhaid mai’r bryn a elwir Money Farthing Hill gan siaradwyr Saesneg yw hyn (LL 375, n. 15). Mae’r ffurf Saesneg yn cytuno gyda ffurf Llyfr Llandaf, yn awgrymu y gollyngwyd /ð/ Minid a bod F
Ferdun ar gyfer /f/, d ar gyfer /ð/ a u ar gyfer /ʉ/. Mae’n debygol deillia ffurf fodern yr Arolwg Ordnans,
Mynydd Merddin
, o gamddealltwriaeth o ffurf
Minid Ferdun
Llyfr Llandaf, gyda’r f (wedi ei ddehongli fel /v/ yn hytrach na /f/) wedi ei ‘dat-dreiglo’ i m.
ar y llethr. Ar hyd Mynydd
Fferddun
i’r Llwch
Fferddun.21
di’r
Luch Ferdun (i’r Llwch Fferddun)
Golyga Llwch ‘llyn, pwll’. Ar gyfer Ferdun, gweler y nodyn blaenorol.
Ar hyd y mynydd mor bell â tharddle yr Hilin. Ar hyd yr Hilin mor bell â’r Mynyw. Ar hyd y Mynyw i lawr mor bell ag aber
Ffynnon Bist,22
Finhaun Bist (Ffynnon Bist)
Mae’n bosib mai ffurf feddaledig pyst (lluosog post)yw Bist, ond byddai’n anarferol i Lyfr Llandaf sillafu’r treiglad. Gweler Coe 2002: 275–6.
mor bell â’i darddle. O’i darddle i’r crib. Yn syth i fyny i ddod at Y Gwaun Braith ar grib y mynydd, mor bell â’r garreg lle y dechreuodd.
§5
Perswadiwyd Ithel mab Æthelberht, dyn pwerus yn Ewias, a oedd yn dod gyda’i wraig i Sant Clydog i glywed yr oedfa ar ddydd Sul, gan awgrym y diafol a phrocio anniweirdeb i orwedd gyda’i23 concumbere (i orwedd gyda) Camsillafir y gair hwn concubere yn Llyfr Llandaf a Vespasian A. xiv ill dau. Mae dwylo diweddarach wedi ychwanegu marciau cyfangiad trwynol uwchben u yn y ddwy lawysgrif. Yn ôl pob tebyg cafwyd y ffurf concubere yn y gynddelw gyffredin. Mae’n debyg y cynhyrchwyd y ffurf hon trwy edrych heibio’r marc cyfangiad trwynol uwchben concumbere. Mae’n bosib y gwnaeth y dybiaeth bod angen ffurf trydydd person lluosog -ere ar y testun annog yr esgeulustod. wraig mewn dôl ar lan Afon Mynwy.24 Daw §5 a §6 yn syth wedi §1 yn Vespasian A. xiv. Tybia Kathleen Hughes a John Reuben Davies bod y trefniant hwn yn fwy naturiol na threfniant Llyfr Llandaf, oherwydd ymddengys y gwyrthiau post-mortem fel grŵp a lleolir y siarter swyddogol yn rhoi tir Methyr Clydog i Landaf ar y diwedd (Hughes 1980: 61; Davies 2003: 124). Fodd bynnag, mae trefniant Vespasian A. xiv yn llai cyson na threfniant Llyfr Llandaf o ran cronoleg y digwyddiadau, gan fod §5 a §6, yn wahanol i adrannau 1–3, yn cofnodi rhoddion i Glydog ac i eglwys Llandaf ynghyd, yn rhagdybio rhoi Merthyr Clydog i Landaf, a ddigwyddir yn §4. Yn hytrach, mae’n bosib bod Vespasian A. xiv yn taflu goleuni ar y broses o lunio’r Fuchedd; mae’n bosib i rai adrannau ddeillio o ailysgrifennu testunau eraill o amrywiol ffynonellau, o bosib wedi eu casglu ynghyd mewn ffurf wahanol yn y copïau o’r Fuchedd sy’n goroesi (cymh. Davies 2003: 124). A’r canlyniad oedd, yn ystod y weithred rywiol, pan ddymunai wahanu, wedi cyflawni’r pechod, ni allai wahanu oddi wrthi mewn unrhyw ffordd, ond yn hytrach arhosodd yn unedig â’i wraig yn anwahanadwy. Ac ebychodd mewn llais uchel, a dywedodd wrth ei gymdeithion, ‘Ewch i fedd y Merthyr Clydog ac uwchben allor sanctaidd Clydog cyflwynwch iddo ar fy rhan y ddôl hon a feddiannais yn anghyfiawn trwy rym, gan osod eich dwylo mewn addewid fel pan roddir anrheg, yn gysylltiedig gyda dwylo eraill uwchben y pedair efengyl (wedi eu gosod o flaen llaw), ac felly ei ddatgan yn rhydd ac yn eithriedig o bob gwasanaeth lleyg o hyn allan, heblaw am ddyddiol weddi yn unig, a gyda chyfarchiad wedi ei anfon gennyf i i glerigwyr yr eglwys iddynt weddïo yn daer i Dduw ar fy rhan, er mwyn fy ngwaredu yn brydlon, trwy eiriolaeth y merthyr a thrwy eu gweddïau, o’r pechod annioddefol hwn yn ogystal â’r rhwymyn ofnadwy.’ Ac ar unwaith, wedi gwneud elusennau a’u rhoi ynghyd ag addewid i adfer ei fywyd o hynny allan trwy ymprydio a gweddïo ac elusennau, gwahanwyd o’r uniad sarhaus o flaen yr holl bobl, gan roi moliannau a diolch i Dduw o achos y fath rhyddhad dymunol. A’r hyn a wnaethai yn flaenorol trwy ei negeswyr, yr un peth a wnaeth nawr, yn iach, ar gyfer ei hun, gan ei gadarnhau, â’i ddwylo ei hun wedi eu gosod ar allor y merthyr a’r efengylau sanctaidd wedi eu gosod o flaen llaw, a gyda geiriau brenhinoedd Morgannwg a chyngor y prif ddynion, heb unrhyw wrthwynebiad, i fod yn rhydd ar gyfer y seintiau Dyfrig, Teilo ac Euddogwy a’r Merthyr Clydog a holl esgobion Llandaf am byth.
§6
Cynigodd meibion Cynfleiddiau Llech Llwyd i’r merthyr Clydog ac i eglwys Llandaf. Ffin Llechau Llwydion:25 Lechou Lition (Llechau Llwydion) Yn rhyfedd, rhoddir yr enw hwn yn y ffurf unigol yn y cymal blaenorol, ond yn y ffurf luosog ar ddechrau’r cymal yn disgrifio’r ffin. y Mynwy ar un ochr ac o fewn y ddwy nant. Fin Llennig [Eglwys Fach]: o fewn y Mynwy a’r Mynwy mor bell â’u cydlifiad. Llech Eneuris ar yr ochr arall tuag at yr ardal ogleddol.
1 Clitauc filius Clitguin (Clydog mab Clydwyn) YmddengysClydwyn a’i fab Clydog yn y fersiynau gwahanol o’r draethnodyn achyddol sy’n gysylltiedig â Brychan Brycheiniog fel mab a ŵyr Brychan yn eu tro (Bartrum 1966: 15 (§11.3), 18 (§14.3), 42 (§2.3), 81 (2b)). Mae’r cynharaf o’r traethnodynnau, De situ Brecheniauc , a gadwyd, fel Buchedd Clydog ei hun, yn Vespasian A. xiv, yn eu disgrifio fel a ganlyn: Clytguin filius Brachan, qui inuasit totam terram Sudgwalliae. Clydouc sanctus et Dedyu sanctus, filii illius Clytguein (Clydwyn mab Brychan, a ymosododd ar holl dir De Cymru. Y sanctaidd Clydog a’r sanctaidd Dedyu , meibion y Clydwyn hwnnw’). Ymddengys Dedyu mewn dau o’r fersiynau eraill fel Dettu ac fe’i adnabyddwyd yn nawddsant Llandetty ar Afon Wysg (WCD 189). Mae fersiwn arall o draethnodyn Brychan, o’r enw Llyma Frychan Brycheiniog a’i Blant, yn galw Clydwyn yn Glewyn a Clydog yn Kyledawc , yn mynnu fod yr olaf yn sant yGhaer Gledawc yn Lloegr (Guy 2016: ii, 435 (§§B2.2–3)).
2 Rex Clitauc filius Clitguin cum esset in regno suo tenens pacem et rigorem iustitię (Tra roedd y Brenin Clydog mab Clydwyn yn ei deyrnas yn cynnal heddwch a llymder cyfiawnder) Mae hyn yn adleisio agoriad siarter wedi ei atodi i Fuchedd Euddogwy, a geir mewn rhan arall o Lyfr Llandaf:Rex Teudiric cum esset in regno suo tenens pacem cum populo et iustitiam(Tra roedd y Brenin Tewdrig yn ei deyrnas yn cynnal heddwch a chyfiawnder gyda’i bobl) (VSOudocei(LL), §14; cymh. Davies 2003: 137).
3 corona celestis glorię cum palma carnalis castimonię (gyda choron gogoniant nefol ynghyd â phalm diweirdeb corfforol) Yma, cymherir bod corona yn y cyflwr abladol, ond noder bod yr ymadrodd hyn yn frawddeg gyfan yn gorffen gyda’r ferf decorates (est) yn fersiwn John Tynemouth o Fuchedd Clydog, ac mae’n rhaid bod y frawddeg yn cymryd corona fel y goddrych (yn y cyflwr enwol): VSClitauci(JT), §1.
4 Et in alia parte fluminis, ceperunt iuga boum dirumpi (Ac yn rhan arall o’r afon, dechreuodd ieuau’r ychen dorri) Mae rôl yr ychen yn y stori hon yn dwyn i gof rôl y ceirw yn y stori am farwolaeth y Brenin Tewdrig yn VSOudocei(LL), §14. Yno, mae Tewdrig, sydd ar farw, yn cael ei gludo ar elor gan ddau garw ieuog, ond unwaith maent yn cyrraedd y lle a benodwyd ar gyfer ei gladdu, mae’r elor yn torri: Et postquam ad locum illum uenerunt, ibi fons emanauit lucidissimus, et feretrum suum totum dirupit (Ac wedi iddynt ddod i’r lle hwnnw, arllwysodd y ffynhonnau mwyaf clir, a thorrodd ei elor gyfan).
5 columpa ignis (colofn o dân) O Exodus 13.21–2; cymh. VSSamsonis(LL), §38.
6 Lannerch Glas (Llannerch Las) Mae’r lle hwn yn anhysbys.
7 ... quicunque alium molitur ledere primum | ipsum se iaculo percutiet proprio (... pwy bynnag a gynllunia niweidio rhywun arall yn gyntaf | fe’i tery ef ei hun gyda’i waywffon ei hun) O Epigrammata ex sententiis sancti Augustini gan Prosper o Aquitaine, Epigram I (Migne 1861: col. 499, ll. 6–7; Davies 2003: 123). Fel y noda John Reuben Davies, dylai’r llinell fod yn fydryddol, fel yr adnabyddir pan geir ei dyfynnu mewn man arall yn Llyfr Llandaf (LL 244: ut est metrice dictum,‘fel y dywedir yn fydryddol’). Serch hynny, i ffurfio chweban priodol dylai ddechrau yn gywir gyda Nam quicunque (Davies 2003: 123, n. 100). Noda Davies hefyd: ‘Prosper’s Epigramswere a standard Latin school text, familiar to Anglo-Latin writers’.
8 Lybiau et Guruann (Llifio a Gwrfan) Noda Wendy Davies i’r dynion rannu eu henwau â’r ddau esgob ynghlwm â rhoddion Llanfihangel Cwm Du i Landaf (Davies 1979: 114; Gwrfan yn LL 167–8 a Llifio yn LL 237–9).
9 Pennbargaut (Penbargod) Oherwydd safle’r enw hwn yn y frawddeg, mae sylwebwyr blaenorol wedi cymryd mai dyma oedd enw rex Morgannuc a roddodd y tir i’r brodyr (LL 415; Davies 1978: 75, 89, 176; 1979: 114; WCD 536; yn oblygedig yn Coe 2002, lle ni chyfeirir at yr enw). Mae hyn yn anhebygol iawn. Ni wyddir am unrhyw frenin o Forgannwg o’r enw ‘Penbargod’, ac yn wir ni cheir unrhyw ardystiad arall o ‘Penbargod’ fel enw personol. Mae’n gwneud mwy o synnwyr fel enw lle, yn ôl pob tebyg wedi ei ffurfio o pen + bargod (ymyl, ffin, cyrion), felly efallai ‘pen ardal y ffin’ (yn addas iawn ar gyfer tir o gwmpas Afon Mynwy gan fod rhannau o’r afon dal yn nodi’r ffin rhwng Lloegr a Chymru). Ymhellach, ymddengys yr enw yn yr union safle y disgwylir darganfod enw tir rhoddedig yn ôl trefn arferol y siarteri yn Llyfr Llandaf: yn dilyn y verba dispositiva a’r wybodaeth ynglŷn â’r rhoddwyr a’r derbynwyr, ond yn syth cyn y rhestr o hawliau (cymh. Davies 1979: 8–9).
10 Noda Charles Edwards (2013: 305–6) mai bwriad y stori hwn oedd egluro rhaniad y tir a atodwyd i’r eglwys yn bum rhan, yn ogystal ag anallu dynion Ewias (lleoliad Merthyr Clydog) i hawlio tir yr eglwys oherwydd i etifeddion yr eglwys ddod o Benychen yn hytrach nag Ewias.
11 Merthir Clitauc (Merthyr Clydog) Y pentref modern Clodock yn Swydd Henffordd.
12 hereditariorum (tenantiaid etifeddol) Ar gyfer y term hereditarius, gweler Davies 1978: 45. Yn anhebyg i’r heres, preswyliwr etifeddol y tir, ymddengys ‘that the hereditarius had some responsibility for production within an estate, a responsibility passed on to his heirs, but that he was not necessarily an occupier working the land himself’.
13 Freudur (Ffreuddwr) Cymharer Freudubur yn VSTeliaui(LL), §22. Ymddengys mai ffrau + dwr yw’r enw, felly ‘dŵr yn llifo’ (cymh. GPC Online d.g. ffrau).
14 Nododd Kathleen Hughes i ddau o’r enwau yn y rhestr o dystion clerigol, Esgob Berthwyn a Sadwrn, abad Llandochau, ymddangos gyda’i gilydd fel tystion siarter a atodwyd i Fuchedd Cadog Vespasian A. xiv: Hughes 1980: 62; cymh. VSCadoci(Vesp), §67. Ailadroddir y siarter hwn ar ffurf hirach a mwy cymhleth mewn rhan arall o Lyfr Llandaf: LL 180–3; Davies 1979: 110. Cymharir y siarter a atodwyd i Fuchedd Cadog â’i gyfatebwr yn Llyfr Llandaf yn Charles-Edwards 2013: 258–9.
15 i Guoun Breith (Y Gwaun Braith [Y Gors Frych]) Mae Coe yn hyderus mai crib Bryn Hatterrall yw’r lleoliad cyffredinol (Coe 2002: 332–3).
16 Riu i Curum (Rhiw y Cwrw [Slope of the Beer]) Identified as a slope on the ridge of Hatterrall Hill. Running eastwards down the ridge is a path called Rhiw Arw, at the bottom of which is a ruined cottage called Rhiw Cwrw (Rollason 1974: 58; Coe 2002: 745–6).
17 Nant Trineint Wedi ei leoli, mae’n debyg, yng nghyffiniau’r tri enw treflan‘Turnant’ (LL 374; Rollason 1974: 58–62; Coe 2002: 650–1). Awgryma Coe mai’r carnedd uwchben Great Turnant (S0298287) yw’r mein (‘cerrig’) a grybwyllir yma. Mae’n bosib i’r enw Nant Trineint ddeillio o’r nant gyda thri phrif lednant yn cwrdd yn agos at ei gilydd a geir yn yr un cyfeirnod grid.
18 Ynys Alarun (Ynys Alarun) Yn y cyd-destun hwn mae’n bosib y golyga ynys ‘dôl ar lan afon’ (cymh. GPC Online d.g. ynys, b). Mae ystyr Alarun yn anhysbys (Coe 2002: 898).
19 Nant Cum Cinreith (Nant Cwm Cynrhaith [Nant Cwm Cyfraith Cynnar]) Yn Llyfr Llandaf (LL-85ra-86va, f. 86ra, ll. 29) a Vespasian A. xiv (Vesp-84v-86r, f. 86r, ll. 10) ill dau, ceir y glos .i. Nant Cum, ‘hynny yw Nant Cwm’. Mae’n rhaid i’r glos ddeillio o gynddelw gyffredin.
20 Minid Ferdun (Mynydd Fferddun) Am drafodaeth o’r ffurf Ferdun, gweler Coe 2002: 618–19. Nododd Evans mae’n rhaid mai’r bryn a elwir Money Farthing Hill gan siaradwyr Saesneg yw hyn (LL 375, n. 15). Mae’r ffurf Saesneg yn cytuno gyda ffurf Llyfr Llandaf, yn awgrymu y gollyngwyd /ð/ Minid a bod F Ferdun ar gyfer /f/, d ar gyfer /ð/ a u ar gyfer /ʉ/. Mae’n debygol deillia ffurf fodern yr Arolwg Ordnans, Mynydd Merddin , o gamddealltwriaeth o ffurf Minid Ferdun Llyfr Llandaf, gyda’r f (wedi ei ddehongli fel /v/ yn hytrach na /f/) wedi ei ‘dat-dreiglo’ i m.
21 di’r Luch Ferdun (i’r Llwch Fferddun) Golyga Llwch ‘llyn, pwll’. Ar gyfer Ferdun, gweler y nodyn blaenorol.
22 Finhaun Bist (Ffynnon Bist) Mae’n bosib mai ffurf feddaledig pyst (lluosog post)yw Bist, ond byddai’n anarferol i Lyfr Llandaf sillafu’r treiglad. Gweler Coe 2002: 275–6.
23 concumbere (i orwedd gyda) Camsillafir y gair hwn concubere yn Llyfr Llandaf a Vespasian A. xiv ill dau. Mae dwylo diweddarach wedi ychwanegu marciau cyfangiad trwynol uwchben u yn y ddwy lawysgrif. Yn ôl pob tebyg cafwyd y ffurf concubere yn y gynddelw gyffredin. Mae’n debyg y cynhyrchwyd y ffurf hon trwy edrych heibio’r marc cyfangiad trwynol uwchben concumbere. Mae’n bosib y gwnaeth y dybiaeth bod angen ffurf trydydd person lluosog -ere ar y testun annog yr esgeulustod.
24 Daw §5 a §6 yn syth wedi §1 yn Vespasian A. xiv. Tybia Kathleen Hughes a John Reuben Davies bod y trefniant hwn yn fwy naturiol na threfniant Llyfr Llandaf, oherwydd ymddengys y gwyrthiau post-mortem fel grŵp a lleolir y siarter swyddogol yn rhoi tir Methyr Clydog i Landaf ar y diwedd (Hughes 1980: 61; Davies 2003: 124). Fodd bynnag, mae trefniant Vespasian A. xiv yn llai cyson na threfniant Llyfr Llandaf o ran cronoleg y digwyddiadau, gan fod §5 a §6, yn wahanol i adrannau 1–3, yn cofnodi rhoddion i Glydog ac i eglwys Llandaf ynghyd, yn rhagdybio rhoi Merthyr Clydog i Landaf, a ddigwyddir yn §4. Yn hytrach, mae’n bosib bod Vespasian A. xiv yn taflu goleuni ar y broses o lunio’r Fuchedd; mae’n bosib i rai adrannau ddeillio o ailysgrifennu testunau eraill o amrywiol ffynonellau, o bosib wedi eu casglu ynghyd mewn ffurf wahanol yn y copïau o’r Fuchedd sy’n goroesi (cymh. Davies 2003: 124).
25 Lechou Lition (Llechau Llwydion) Yn rhyfedd, rhoddir yr enw hwn yn y ffurf unigol yn y cymal blaenorol, ond yn y ffurf luosog ar ddechrau’r cymal yn disgrifio’r ffin.
1 nobilissimę L; nobilissimi V.
2 parentelę parentę L; parente V.
3 uiro V; uro L (corrected by a later scribe).
4 uro preuiderat L; uiderat uiro V.
5 ad L; – V.
6 uia L; una V.
7 socium L; socii V.
8 Pennichenn L; Pennichern V.
9 uitam L; – V.
10 Pennbargaut L; Pennargaut V.
11 habitantibus et habitaturis L; habitationis V.
12 campo L; campis V.
13 Merthir Clitauc. L; – V.
14 sanctis L; sanctis suis V.
15 Teliauo L; – V.
16 Oudoceo L; Oudoucco V.
17 martiri L; marciry V.
18 martiri L; marcyri V.
19 Libiau L; Libriau V.
20 illius loci L; loci illius V.
21 Ilduti L; Iltut V.
22 Docunni L; Doguini V.
23 Guorcuiidh L; Gorguith V.
24 Heliguid L; Eliguid V.
25 Eudom L; Eudoin V.
26 in i hit di Rui i Curum, di’r main icecin L; – V (homeoteleuton).
27 Ar hit L; Arith V.
28 cecin L; cecit V.
29 guairet L; guaireth V.
30 Main L; Mein V.
31 arall L; arail V.
32 Mynui L; Miniu V.
33 Mynugui L; Minigui V.
34 Hilin. Hilin L; Hilin V.
35 bet L; bot V.
36 Finhaun L; Finhaim V.
37 Edeluirth L; Ethelwirth V.
38 concumbere concubere LV. Later hands have corrected the reading in both manuscripts.
39 manus uestras L; uestras manus V.
40 liberum liberam LV.
41 quietum quietam LV.
42 laicali L; laici V.
43 antepositis L; appositis V.
44 Cinbleidiou L; Cinlleidiou V.
45 Luit L; Liut V.
46 Lechou L; Lethou V.