35. Vita Sancti Clitauci (Liber Landavensis / Vespasian A. xiv)
golygwyd gan Ben Guy
Clydog yw eponym Clodock yn Swydd Henffordd, a oedd, yn ôl Llyfr Llandaf, â’r enw cynharach Merthyr Clydog. Credir i enwau lleoedd yn cynnwys yr elfen Merthyr ymddangos yn ystod canrifoedd cynharaf Cristnogaeth ym Mhrydain, o bosib yn dynodi lleoliadau claddfeydd Cristnogol cynnar. Mae’n llai sicr, serch hynny, i’r enw personol Clydog fod yn gysylltiedig â’r safle o’r cychwyn cyntaf, gan fod rhyw arwydd y ffurfiwyd enwau Merthyr X yn wreiddiol gyda’r elfen syml Merthyr yn unig (Parsons 2013: 40–54). Ansicr hefyd ai storïau am ferthyrdod y Brenin Clydog yn benodol a arweiniodd at yr enw Merthyr Clydog, neu a arweiniodd yr enw lle at y fath storïau (cymh. Parsons 2013: 28); bosib bod y ddau beth yn wir i ryw raddau. Yr hyn sy’n sicr yw, erbyn ysgrifennu Llyfr Llandaf, yr oedd stori i Ferthyr Clydog dderbyn ei enw o ganlyniad i ferthyrdod y Brenin Clydog, mab Clydwyn, a gladdwyd ar lan Afon Mynwy (er nid dyma oedd union safle ei ferthyrdod). Yn ôl y testun, lladdwyd Clydog gan un o’i ddynion o achos cenfigen dros forwyn, a oedd cyn hynny wedi datgan na allai garu unrhyw ddyn heblaw am y daionus Frenin Clydog.
Mae’r testun yn goroesi mewn dau gopi sydd bron yn unfath, yn Llyfr Llandaf a Vespasian A. xiv. Gwelir yr un patrwm goroesi yn achos Bucheddau Dyfrig a Teilo, er bod fersiynau’r ddwy lawysgrif o Fuchedd Teilo yn cynrychioli fersiynau gwahanol o’r testun, gyda’r fersiwn cynharaf yn goroesi yn Vespasian A. xiv yn ôl pob golwg. Er nad yw Buchedd Clydog wedi ei lleoli wrth ymyl Bucheddau Teilo a Dyfrig (a ymddengys yn olynol) yn Vespasian A. xiv, mae’r tair Buchedd yn ffurfio pecyn o ddeunydd a etifeddodd casglwyr Vespasian A. xiv o Landaf. Mae pennawd Buchedd Teilo Vespasian yn honni y golygwyd y testun gan Sieffre, brawd Urban, esgob Llandaf, tra bod nodweddion niferus ym Mucheddau Dyfrig a Chlydog yn cysylltu eu golygiad gyda Llandaf yn gyffredinol ac yn benodol gyda’r amgylchedd lle casglwyd Llyfr Llandaf.
Does fawr o dystiolaeth bod y testun o Fuchedd Clydog sy’n goroesi yn seiliedig ar unrhyw Basiwn iddo a ysgrifennwyd cyn casglu Llyfr Llandaf. Mae nifer o’i agweddau yn cysylltu cyfansoddiad y testun gyda chyfansoddiad testunau eraill yn Llyfr Llandaf, a phwrpas cyffredinol y testun yw i ddangos datblygiad Merthyr Clydog o gladdfa merthyr i eiddo eglwys Llandaf. Yn gyntaf, ceir merthyrdod a chladdedigaeth Clydog, a sefydlu oratori ar safle ei fedd ‘ar gyngor esgob Llandaf a’r clerigwyr’(§1). Adroddir stori’r merthyrdod mewn ffordd debyg iawn i’r stori o ferthyrdod y Brenin Tewdrig o Ferthyr Tewdrig, a geir yn un o’r siarteri wedi eu atodi i Fuchedd Euddogwy. Yn yr achos hwn hefyd ceir sôn am adeiladu oratori a rhoi’r tir i esgobion Llandaf (VSOudocei(LL), §14). Yn dilyn gwyrth yn rhybuddio am beryglon anudoniaeth (§2), o’r un fath a geir mewn mannau eraill yn Llyfr Llandaf, (e.e. VSOudocei(LL), §§19, 26), sefydla’r brodyr Llifio a Gwrfan (a enwir yn esgobion yn ymwneud â rhoddion Llanfihangel Cwm Du mewn man arall yn Llyfr Llandaf) eglwys ar safle’r bedd, unwaith eto ‘wedi ei wella gan gyngor a chefnogaeth esgob Llandaf’, a rhoddir y tir o gwmpas yr eglwys (o’r enw Penbargod) i’r brodyr gan frenin di-enw o Forgannwg (§3). Gorffenna’r adran hon gyda nodyn ar nai y brodyr, Cinuur . Rhannodd ei feibion y tir yn bum ardal ar gyfer eu hunain a’u disgynyddion. Gellid tybio y bwriadwyd y nodyn hwn yn chwedl tarddiad ar gyfer rhaniadau tiriogaethol Penbargod yng nghyfnod cyfansoddi’r stori, a'i fod yn adlewyrchu gwybodaeth ddilys o amgylchiadau cyfoes yr ardal. Ceir yr uchafbwynt yn yr adran ganlynol (§4), pan gynigia Ithel ap Morgan, brenin Glywysing, dir cyfan Merthyr Clydog i Landaf. Yn ôl Wendy Davies, mae’n bosib y deillia’r rhodd hon o siarter wreiddiol yn dyddio, yn ei barn hi, i tua 740 (Davies 1979: 114). Fodd bynnag, os yw’r rhodd yn deillio o ryw ddogfen gynnar, nid yw hyn o reidrwydd yn golygu y’i rhagflaenwyd gyda hanes merthyrdod Clydog a datblygiad ei gysegrfa ymhell cyn casglu Llyfr Llandaf.
Y ddwy adran olaf yw, o bosib, yr adrannau mwyaf rhyfedd. Cytuna’r ddwy ohonynt gyda threfn resymegol y testun, gan eu bod yn disgrifio’r rhoddion a wnaed i’r merthyr Clydog ac i Landaf, gyda’r goblygiad bod eglwys Clydog yn eiddo i Landaf, fel y sefydlwyd yn §4. Ond nid yw’r un ohonynt yn cydymffurfio â threfn sylfaenol y siarteri a welir yn helaeth mewn rhannau eraill o Lyfr Landaf (ac yn wir yn y §4 blaenorol). Disgrifia’r cyntaf (§5) rodd o dir gan Ithel mab Æthelberht, ‘dyn pwerus yn Ewias’, i Glydog ac i Landaf, ond nid enwir y tir, ac ni restrir y tystion. Mae’r ail (§6) yn destun byr iawn yn nodi rhodd o Lech Llwyd gan feibion Cynfleiddiau i Glydog ac i Landaf. Unwaith eto, ni cheir rhestr o dystion, ond ceir yma gymal byr yn nodi’r ffiniau ar gyfer Llechau Llwydion a Llennig (‘Eglwys Fach’). Mae sylwebwyr blaenorol wedi trin y ddwy adran fel dogfen unigol (Davies 1979: 114–15; Davies 2003: 122–4), mae’n debyg oherwydd nad yw’r adran gyntaf yn enwi’r tir a roddwyd. Ond nid oes unrhyw beth yn awgrymu’r fath gysylltiad, ac mae’r rhoddwyr yn wahanol yn y ddau achos. Mae’n drawiadol na wneir yr un o’r rhoddion gan aelod o deulu brenhinol Gwent a Glywysing, fel yr honnwyd gan y rhan fwyaf o siarteri Llandaf, ac nid yw brenhinoedd ynghlwm â’r rhoddion o gwbl (cymh. Davies 1978: 65). Rhaid ystyried y posibilrwydd y deillia’r ddwy adran yn y pen draw o ddogfennau cynnar wedi eu cadw ym Merthyr Clydog. Mae’r amheuaeth hon, a godir yn llwyr ar seiliau mewnol, yn derbyn cefnogaeth gan drefniant y testun yn Vespasian A. xiv. Er gwaethaf, fel y nodwyd uchod, datblygiad rhesymegol y testun yn Llyfr Llandaf, mae’r testun wedi ei drefnu yn wahanol yn Vespasian A. xiv, gyda’r ddwy rodd yn §5 a §6 yn ymddangos yn syth wedi hanes merthyrdod Clydog yn §1. Awgrymwyd bod trefniant Vespasian A. xiv yn fwy rhesymegol, gan ei fod yn casglu y gwyrthiau post-mortem ynghyd (§5 a §2, er bod §6 yn ymyrryd: Hughes 1980: 61; Davies 2003: 124). Fodd bynnag, fel yr ymddengys y testun yn y ddwy lawysgrif, mae trefniant Vespasian A. xiv yn llai rhesymegol oherwydd i’r rhoddion yn §5 a §6 gymryd bod Merthyr Clydog yn barod wedi ei roi i Landaf, rhywbeth na ddigwydd mewn gwirionedd tan §4. Mae’n bosib yr awgryma’r trefniant yn Vespasian A. xiv i §5 a §6 ddeillio o ffynhonnell wahanol, a ychwanegwyd i weddill y cyfansoddiad ar adeg ddiweddarach.