35. Vita Sancti Clitauci (Liber Landavensis / Vespasian A. xiv)
golygwyd gan Ben Guy
Mae’r testun Vita Sancti Clitauci a olygir yma yn cynnwys dioddefaint y sant, gwyrth wedi ei farwolaeth, adroddiad o ddau feudwy a drigai ger bedd Clydog, rhoi Merthyr Clydog i Landaf, gwyrth arall yn ymwneud â rhodd, a chofnod byr arall o rodd i Glydog a Llandaf (cymh. Davies 2003: 122). Mae’r testun hwn yn goroesi ar ffurf dau gopi sydd bron yn unfath, un yn Llyfr Llandaf a’r llall yn Vespasian A. xiv. O’r ddau, mae copi Llyfr Llandaf yn well ym mron pob ffordd ac fe’i ddefnyddir fel testun sylfaenol y golygiad hwn. Fodd bynnag, trwy gymharu â Bucheddau Dyfrig a Teilo (hefyd wedi eu cynnwys yn Llyfr Llandaf a Vespasian A. xiv) ymddengys na chopïwyd fersiwn Vespasian A. xiv o Fuchedd Clydog o fersiwn Llyfr Llandaf, ond yn hytrach fe’u copïwyd ill dau o gynddelw gyffredin. Os felly, mae’n ddiddorol bod y ddau gopi yn cynnwys yr un glòs yn §4 (.i. Nant Cum, ‘hynny yw Nant Cwm’), s'yn awgrymu bod y glòs hefyd yn bresennol yn y gynddelw gyffredin. Y prif wahaniaeth rhwng y ddau gopi o Fuchedd Clydog yw eu trefniant cymharol o’r adrannau: yn Llyfr Llandaf ymddengys y chwe adran yn yr un drefn ag a geir yn y golygiad hwn, tra gosodwyd §5 a §6 rhwng §1 a §2 yn Vespasian A. xiv. Mae ysgolheigion wedi awgrymu bod trefniant Vespasian A. xiv yn fwy naturiol oherwydd bod y gwyrthiau post-mortem yn ymddangos fel grŵp a bod y siarter ffurfiol yn cofnodi’r rhodd o dir Merthyr Clydog (§4) wedi ei leoli ar ddiwedd y testun (Hughes 1980: 61; Davies 2003: 124). Wedi dweud hynny, mae trefniant Vespasian A, xiv yn llai cyson na threfniant Llyfr Llandaf o ran cronoleg y digwyddiadau, gan fod §5 a §6, yn wahanaol i adrannau 1–3, yn cofnodi rhoddion i Glydog ac i eglwys Llandaf gyda’i gilydd, yn rhagdybio rhoi Merthyr Clydog i Landaf, sydd yn digwydd yn §4. Efallai bod Vespasian A. xiv, yn hytrach, yn taflu goleuni ar y broses o lunio’r Fuchedd; mae’n bosib i rai adrannau ddeillio o ailysgrifennu testunau eraill o un neu fwy o ffynonellau amrywiol, wedi eu casglu ynghyd mewn ffyrdd gwahanol yn y copïau o’r Fuchedd sy’n goroesi (cymh. Davies 2003: 124).
Copïwyd y testun yn Llyfr Llandaf ar blyg 11 gan ysgrifennydd A y llawysgrif (MWM 129, 135, 154). Mae plyg 11 yn rhan o gyfres barhaol a ffurfiwyd gan blygion 7 i 14, i gyd wedi eu copïo yn ddi-dor gan ysgrifennydd A. Maent yn cynnwys Bucheddau Dyfrig, Teilo, Euddogwy a Chlydog, a’r brif gyfres o siarteri, o Ddyfrig i Herewald. Copïwyd y testun yn Vespasian A. xiv ar blyg 12 gan ysgrifennydd H y llawysgrif, ac fe’i cywirwyd gan ysgrifennydd cyfoes gyda golwg ar y gynddelw.
Rhestr o lawysgrifau
Llyfr Llandaf, 85ra–86va (c.1132–4)
Vespasian A. xiv, 84v–86r (s.xii3/3)