15. Buchedd Lawrens y Deacon
golygwyd gan Alaw Mai Edwards
Buchedd y sant o Rufain, Lawrens y Diacon. Ceir y copi cynharaf o’r fuchedd mewn llawysgrif o ddiwedd yr unfed ganrif ar bymtheg.
§1
Pab oedd yn Rhufein a elwid Sixtws1 Sixtws . . . y Pab Sixtus II oedd pab Rhufain o 257 i 258. Bu farw 6 Awst 258, yn ystod erledigaethau’r Cristnogion gan yr Ymerawdwr Valerian. Yn ôl traddodiad, merthyrwyd ef ynghyd â chwe diacon arall wedi iddynt wrthod addoli’r duwiau Rhufeinig (ODCC 1518). ac ef a aeth y’r Yspaen ac ef a gafas yno ddau o wyr ieuaink, vn a elwid Lawrens2 Lawrens Gw. y Rhagymadrodd. a’r llall a elwid Vincent3 Vincent Cefnder i Lawrens a ddaeth gydag ef i Rufain yn ddiacon, ond a ddychwelodd i Sbaen yn ôl traddodiad (LA 449). Mae’n bosibl ei uniaethu â Sant Vincent o Saragossa a wasanaethodd fel diacon i Valerius o Saragossa, esgob y ddinas. Cafodd ei ferthyru gan yr Ymerawdwr Diocletian (284–305). Ei ddydd gŵyl yn y gorllewin yw 22 Ionawr a 11 Tachwedd yn y dwyrain. ac a oeddynt geraint iddo ef. Ac ef a ddoeth ac hwynt y Rufain gyd ac ef. A Lawrens a drigodd yn Rhufain ac ef a fu yn ddeacyn y’r pab. Ac ef aeth Vincent y’r Yspaen eilwaith ac yno y merthyrwyd Vincent.
§2
A’r amser hwnnw, yr oedd Philip4 Philip Sef Phillip I neu Philippus Arabs. Ef oedd ymerawdwr Rhufain o 244 i 249. Fe’i cofir fel un a gefnogai’r ffydd Gristnogol, ond ni ellir profi iddo ef ei hun gael ei fedyddio fel yr awgrymir yma (ODCC 1284). ynn amherodyr yn Rhufain, a mab oedd iddaw yntau a elwid Philip. A’r rhain a gymersynt phydd Grist a bedydd, a hwynt a oeddynt yn mentimio5 maentimio Amrywiad ar maentumio ac fe’i deellir i olygu ‘gwarchod’ neu ‘diogelu’ yma, gw. GPC d.g. maentumiaf. Cristonogion. Ac y’r amherodyr hwnnw yr oedd marchoc a elwid Deciws.6 Deciws Trajan Decius oedd ymerawdwr Rhufain o 249 i 251. Yn 248 anfonodd Philyp Ddeciws i roi terfyn ar wrthryfel Pacatianus a’i filwyr ym Moesia a Pannonia yn nhaleithiau’r afon Donwy. Ar ôl cwymp y gwrthryfel, manteisiodd Deciws ar y cyfle i ddod yn ymerawdwr ei hun. Yn fuan wedi iddo ennill y teitl hwnnw dechreuodd erlid pob Cristion a drigai yn yr ymerodraeth. Roedd Lawrens ymhlith y Cristnogion o bwys a wrthododd blygu i’r drefn newydd dan Ddeciws (ymhellach gw. Potter_2014: 236 a ODCC 463). A rhyfel a oedd rhwng yr amherodyr a Phraink, ac efe a yrrodd Philip Ddeciws, a’i holl bower ef, y daro wrth frenhin Phraink. A Deciws a orfu ar y Phrancod7 Phrancod Yn yr Oesoedd Canol, defnyddid Phrancod i gyfeirio at lwyth o bobl a oedd yn perthyn i’r genedl Ermanaidd neu gynghrair o genhedloedd a orchfygodd Gâl yn y 6g., gw. OED s.v. Franks. ac a’i kymhellodd hwynt ynn dyngedic y amherodyr Rhufain. Ac ef a ymhoelawdd tua Rhufain. A phan glybu yr amherodyr fod Deciws yn dyfod adref gwedy gorchfygu gwyr Phraink, dyfod a oruc yr amherodyr ar gyferbyn Deciws y dref a elwid Verona,8 Verona Yn ôl y cofnod hanesyddol, lladdwyd Phylip yn 249 gan Ddeciws a’i filwyr yn Verona, dinas ar lannau’r afon Adige yn Veneto, gogledd yr Eidal (Potter_2014: 236). yddy fawrhau ef a diolch iddo y gywirdeb. A phan welas Deciws hynny, balchio ynddo y hun a meddylio pa ddelw y gallai ef vod ynn amherodyr. A’r nos honno, dyfod a wnaeth y marchoc melldigedic hwnnw y ystafell Philip amherodyr Rhufein a’i ladd ef yn y wely. A thrannoeth, trwy phalsedd addaweidion a rhoddion mawr, ef a droes holl wyr yr amherodyr yn wyr iddo ef. Ac yno ef a vryssiodd tua Rhufain.
§3
A phann glybu Philip Ieuank9 Philip Ieuank Phillip II neu Marcus Julius Philippus Severus (238–249) oedd mab ac etifedd Phillip I a’i wraig Marcia Otacilia Severa. hynny, ofni y brad a’r phalsedd a oruc ef, a rhoi cwbwl o dressor10 tressor Amrywiad ar trysor, gw. GPC d.g. trysor. Pwysleisir yn y fuchedd mai’r ddynoliaeth yw’r gwir drysor ac nid aur neu gyfoeth materol. Defnyddir y gair trysor yn amwys trwy’r testun. y dad ef a’i dressor yntau y hun y’r pab y’w cadw ac y Lawrens. Ac erchi vddynt os y ladd ef a ddamweiniae, roddi y tressor hwnnw y’r eglwys ac y’r tylodion lle y gwelynt hwy fod yn elwisen. Eissioes, pho a oruc Philip Ieuank rhac Deciws, a phan welas y seneddwyr hynny, myned at Deciws a orugant hwy a gwneuthur Deciws yn amherodyr.
§4
Ac yna ymwrthod a oruc ef a’i gred ac ymlid y Cristonogion ymhob mann, a’i lladd heb ddim trugaredd, a’i dala a’i merthyry. Ac o’r diwedd, merthyry Philip Ieuank. Ac ymofyn o Ddeciws am dressor yr hen amherodyr. A dala y pab a oruc o achos y fod yn Gristion ac yn cadw yr enwedic dressor, a gorchmynnu myned ac ef y’r carchar gwaethaf nes iddo wneuthur aberth yddy gau dduwiau hwynt a mynegi y dywededic dressor. A phan welas Lawrens fyned a’r pab tua’r carchar, myned a oruc Lawrens ar y ol gan ddywedud, ‘Fynhad, paham yr wyd ti ynn gadel dy fab ar dy ol di?’ Ac yna y dywad11 dywad Ffurf 3 un.grff. y ferf dywedaf: dywedyd. y pab wrth Lawrens mae myned megis gwr gwan y ryfelu yr oedd ef, ‘ac yno y deui ditheu kynn penn y pumed dydd y heddiw a rhyfelu yn gadarnach,’ heb ef, ‘no myfi. Ac ef a gayph dy gorph di vyddygoliaeth o verthyroliaeth mwy noc a gaf i.’ Ac ef a elwis Lawrens atto gan fynegi yn ddistaw iddaw iddo wneuthur dosbarth ar12 [g]wneuthur dosbarth ar Sef ‘dosbarthu’, gw. GPC d.g. gwnaf. yr enwedic dryssor. Ac yna ef a ymaelwyd a Lawrens ac ef a aethbwyd ac ef at y pab y’r carchar.
§5
Ac yna deisif a oruc Lawrens gennad y fyned y geysio y tressor ac y’w ddangos vddynt hwy y tressor digonawl ac a bery byth yn dragywydd. Ac yna y gillyngwyd Lawrens gan dybiaid y dygai ef y tressor y gyd attyn hwy er caphel y vywyd ohono ef. Sef a wnaeth yntau, myned y dy Gristonoges a oedd yn y dref yno a llawer o Gristonogion a thylodion ynghyd genthi. A hi a roddai vddynt gymaint ac a’i gwassanaethai o’r tressor hwnnw ac iachau y cleifion o bob clefyd ar a13 ar a Mewn Cymraeg Canol, gallai ar weithredu fel rhagenw dangosol yn rhagflaenu’r cymal perthynol, gw. GMW 70. oedd arnynt yn enw Iessu Grist. A chasglu a oedd o dylodion yn y dref honno a rhannu y tressor rhyddynt,14 rhyddynt Un o ffurfiau 3 lluosog yr arddodiad rhwng, gw. GPC d.g. rhyddynt, cf. HDafi 32.51. Ymddengys i’r llaw ddiweddarach farnu nad oedd yn air dilys. ond a ossodassai mewn gwresgin15 gwresgin Ceir gwresgyn fel amrywiad ar goresgyn sef ‘y weithred o feddiannu’ yn GPC d.g. goresgyn. Gw. yn arbennig y cyfuniad gosod mewn goresgyn sef yn S. ‘to place in possession, bestow or grant possession’. y’r eglwys mywn kuddfae. A dyfod o Lawrens, a’r holl dylodion yn y ol, gar bronn Deciws a dangos iddaw yr enwedic dylodion a dywedud wrthaw, ‘Gwelwch, fal dyma dryssor Iessu Grist mwyaf ac anwylaf gantho ef.’
§6
Ac yno y rhodded ef mywn cadwraeth Hippolitws.16 Hippolitws Sant ac un o ddiwinyddion enwocaf yr Eglwys Gristnogol yn Rhufain yn ystod y 3g. OC. Cafodd ei droi’n Gristion gan Sant Lawrens pan oedd Lawrens yn cael ei ddal yn garcharor ganddo yn ôl traddodiadau sy’n deillio o’r 7g. a’r 8g. Ei ddydd gŵyl yw 30 Ionawr yn y gorllewin a 13 Awst yn y dwyrain (ODCC 778). Ac ydd aeth Hippolitws ac ef adref gyd ac ef lle yr oedd llawer o Iddewon yngharchar. Ac yna ydd erchis Hippolitws y Lawrens ddangos iddaw ef y tressor. Ac yna y dywad Lawrens os ef a gredai y’r Iessu Grist, y dangossai ef y tressor yddaw ef a barhai byth. Ac y dywad ynteu y gwnai ac y credodd ef a holl dylwyth y dy. A Lawrens a’i bedyddiodd hwynt yn Gristonogion. Ac yna y dywad Hippolitws y gwelai ef yr awr honno eneidiau y gwirioniaid yn llawen yn y nef.
§7
Ac yno y danfones Valerian17 Valerian Prif ynad Deciws, fe ymddengys, a ddaeth ei hun yn ymerawdwr Rhufain yn 253 hyd at 259 OC. Fel ei ragflaenydd, gorchmynnodd i bob Cristion addoli’r duwiau Rhufeinig (ODCC 1422). y chwaer at Hippolitws gan erchi iddo ddyfod a Lawrens atto ef. Ac y dywad Lawrens wrth Hippolitus, ‘Awn ni yn dau ynghyd, canys y mae gwlad nef yn barawd y ni.’ Ac yna yr aethant yll dau at Valerian. Ac yr archodd Valerian vddunt hwy addoli ac ophrwm y’r gau dduw. Ac y dywad Lawrens yna, ‘Pa vn deilyngaf y addoli? Ai yr neb a wnaeth pob peth, ai yr neb a wnaethbwyd?’ Ac yno digio a oruc Valerian a Deciws a gorchymmynn y faeddu ef yn noeth ac yscyrsiau clymoc18 yscyrsiau clymoc Yn y cyfieithiad Saesneg Modern ceir ‘whipped with scorpions’ (GL3 452) sef offeryn arteithio hynafol ar ffurf chwip clymog, gw. OED s.v. scorpion. Ond math o waywffon neu bastwn yw ysgyrs yn ôl GPC d.g. ysgwr ‘gwaywffon, paladr, ffon, pastwn; cangen (braff), cainc, brigyn’. a dwyn gar y fronn ef bob rhyw ddechymyc a barai ef y wneuthyr y boeni y Cristonogion. Ac y dywad wrth Lawrens, ‘Os tydi a addola yn duwiau ni, ti a gai ras a’th gadw rhac y poenau hyn y gyd.’ Ac yna y dywad Lawrens wrth yr amherodyr, ‘Tydi, gi creulon, y bwyd19 darpar Ffurf 3 un. pres. myn. y ferf darparu. yna a ddewisais i er ys lawer dydd y gaphel.’ Ac y dywad Deciws, ‘Os hwnnw yw yr bwyd a chwenychaist di, ple mae y kefeillon a vynny di y fwytta yr vn bwyd yna gyda thi?’ Yna y dywad Lawrens wrth yr amherodyr, ‘Nid wyd ti abyl, nac o’r vuchedd nac o’r bwyd hwnnw fal y darpar y ti gael y gwahawdd1 gwahawdd Cywiriodd y llaw ddiweddarach hwn i gwawd ‘cân o fawl’ neu ‘dychan’ yn Llst 34, t. 336, ll. 21. Fodd bynnag, rhydd gwahawdd, amrywiad ar gwahodd, ystyr ddigon synhwyrol. hwy vn waith.’ Ac yna digio a oruc Deciws a gorchmynnu y guraw a phynn cloppaon20 phynn cloppaon Bnth. o’r S.C. ‘clubbe’ yw clopa, gw. GPC d.g. clopa, sef ffon ac iddi un pen mwy trwchus. ac a hayrn brwd21 hayrn brwd Lluosog yw hayrn, ac ymddengys mai math o haearn poeth yw ‘haearn brwd’, gw. yr amrywiadau yn GPC d.g. haearn. wrth y ystlyssau ef. Ac yna y dywad Lawrens, ‘O! Iessu Grist, Duw ar yr holl dduwiau, trugarhaa wrthyf i dy wassanaethwr di, ac ni wedais di erioed ac nis gwadaf byth.’ Ac yna y parodd Deciws y guro ef ailwaith. Ac yna y dywad Lawrens, ‘Arglwydd Iessu Grist, kymer fy yspryd attad ti’. Ac yna y clybu Ddecius lafar ywch y benn ef yn dywedud, ‘Lawrens, rhaid y ti ddioddef llawer o boenau etto kyn delych di oddyna.’ Ac yna y dywad Deciws, ‘Chwi, wyr Rhufain, pany chlywch yr ysbrydion drwc yn ymddiddan ac efo yn yr wybyr ac yn y gynghori ef?’ Ac yna y gorchmynnodd Deciws y guro ef yn dda drachefen. Ac felly y gwnaethant hwy.
§8
Ac yna chwerthin a oruc Lawrens a diolch y Dduw hynny, a dywedud dros22 dywedud dros Hynny yw, dweud gweddi dros y rhai sy’n sefyll yn ei ymyl. yr rhai a oeddynt yn sefyll o bob tu iddo ef. Ac ydd oedd marchoc yno yn sefyll a elwid Romanws23 Romanws Roedd y marchog hwn hefyd yn sant; ei ddydd gŵyl yw 9 Awst (diwrnod cyn Gŵyl Sant Lawrens, gw. Ziolkowski_1994: 54). a gredodd y’r Iessu ac a ddywad wrth Lawrens, ‘Mi a welaf angel yn sefyll gar dy vronn di a lliain yn sychu dy archollau a’th waed. A mi a erfynniaf y ti na ad fi ar dy ol yma ac o barthed Iessu caphel fy medyddio.’ Ac yna, trwy orchymynn Deciws, y torred y benn ef. Ac y dywad Deciws wrth Lawrens, ‘Y nos heno a dreulaf i y ti yn boeni.’24 yn boeni Ni ddisgwylir treiglo’r berfenw poeni yma ac mae trefn y frawddeg ychydig yn rhyfedd. Tybir bod gair ar goll a chynigir darllen yn [dy] boeni. Ac y rhodded Lawrens ynghadwraeth Valerian. Ac y cafas Romanus, kyn torri y benn, ysten bridd yn llawn dwr ac a d[d]oeth2 a ddoeth Ni cheir dot o dan y d yma yn y testun yn Llst 34: a doeth. Rhaid ei ddiwygio i a ddoeth yn y golygiad. a hi ac a’i rhoes yn llaw Lawrens. Ac a’i bwriodd Lawrens ar benn y marchoc y dwr hwnnw ac a’i bedyddiodd ef velly.
§9
A phan nosses, ef a ddoethbwyd a Lawrens gar bronn Deciws ac ef a ddywad wrth Laurens, ‘Llyma y nos y cai di amryfaelon boenau oni throi di o’r phydd yr wyd ti ynddi.’ Ac yna y dywad Lawrens, ‘Vy nos i y sydd olau ac eglur yn y nef ac y titheu yn dywyllwch.’ Ac yna y gorchmynnodd Deciws ddwyn atto ef y gwely hayarn ac y ducpwyd yr alch25 alch Sef ‘gradell, gridyll’ gw. GPC d.g. alch. Mae Lewys Morgannwg yn cysylltu Lawrens ag arf tebyg, gw. GLMorg XCIII.17–20 Gŵr, wedi’i ladd ar y gridl wyf, / dan adain o dân ydwyf: / Sain Lorans sy’n ei lurig / a fu ar alch yn ei frig. vawr ac y rhwymwyd Laurens ynhoeth26 ynhoeth ‘Yn noeth’. Mae hoeth yn amrywiad ar noeth, gw. GPC d.g. hoeth a daw o gamrannu’r cyfuniad yn noeth yn yn (h)oeth, cf. YBH 69. arni. Ac y kynneuwyd tan dani ac y gwasgwyd corph Lawrens wrthi a phyrch heyrn. Ac yna y dywad Lawrens wrth Valerian, ‘Dy dan glo di y sydd lawenydd y mi ac y titheu yn boen dragywyddawl.’ Ac yna y dywad Lawrens, oddi ar yr alch lle ydd oedd yn rhostio, wrth yr amherodyr, ‘O! druan, y mae yr ystlys yma yn ddigon, bwytta ef, a thro y’r ystlys arall y bobi.’27 yn ddigon ... y bobi Dyma’r geiriau enwocaf a lefarodd Lawrens wrth iddo gael ei bobi ar y gradell. Mae’r stori hon hefyd yn egluro ei gysylltiad â chogyddion. Ac yna y gadewid ynn farw gorph Laurens ac yr aeth Deciws a Valerian y’w llys y hunain. Ac y doeth Hippolitws ac y cyrchodd ef gorph Lawrens yn lledrad ac y kyweiriodd3 kyweiriodd Ni cheir dot o dan yr u yma yn Llst 34 ond mae’n amlwg mai cyweiriodd a olygir. Un o’r ystyron a rydd GPC d.g. cyweirio yw ‘trin corff marw, diweddu, diwarthu’.28 kyweiriodd Un o’r ystyron a rydd GPC d.g. cyweirio yw ‘trin corff marw, diweddu, diwarthu’. ef a llyssieu ac iredieu. Ac y claddwyd ef yn y lle y gwnaeth ef lawer o wrthiau.
§10
Ac y mae yn Rhufain yn yscrifennedic fod yn Rhufain vstus a elwid Ystyphan29 Ystyphan Enw’r barnwr hwn yn y GL yw Stephen (GL 453), gw. hefyd y Rhagymadrodd. yr hwnn a gymerai wabron30 wabron Nodir gwabron fel lluosog gwabr a gwabar sy’n amrywiad ar gwobr, gw. GPC d.g. gwobr sef ‘llwgrwobrwyaeth’ yma. er rhoddi kamfarnau. Ac ef a wnaeth hynny yn vynych. Ac ef a dduc dri o dai oddi wrth eglwys Sant Lawrens31 eglwys Sant Lawrens Sef y Basilica Papale di San Lorenzo fuori le Mura yn Rhufain, fe ymddengys. Yn ystod teyrnasiad Custennin Fawr, adeiladwyd capel ar safle cysegrfa Lawrens a oedd mewn catacwm ar y Via Tiburtina. Yn ddiweddarach, cysylltwyd y safle ag eglwys a adeiladwyd gan Pelagius II (570–90), sef eglwys San Lorenzo fuori le Mura (ODCC 964). a gardd oddi wrth eglwys St Agnes.32 eglwys St Agnes Santes sydd wedi ei mawrygu’n wyryf yn Rhufain ers y 4g. lle adeiladwyd basilica yn c.350 ar y Via Nomentana ar safle ei chysegrfa. Nodir ei dydd gŵyl fel 21 Ionawr a 28 Ionawr (ODCC 29). Ac o’r diwedd, marw a fu yr vstus. Yna, myned a wnaethbwyd a’i enaid gar bronn Duw y gymryd y farn. Ac fal yr oedd ef yn myned, ef a welai St Lawrens a’i law yn ymafael a’i vraich ac yn y gwasgu hyd pan glywei ef hi yn llosgi, fel pei bai ar y tan, ac a welai St Agnes yn troi y hwyneb oddi wrtho4 oddi wrtho Ni cheir dot o dan yr u yma yn Llst 34: urtho. ef, ac vn o’r gwyr y rhoessai ef gam farn yn y erbyn yn rhoddi barn arno ynteu gan ddatcan iddo ef werthu gwirionedd, y varnu yntau at Siwddas Vradwr33 Siwddas Vradwr Un o’r deuddeg apostol oedd Judas Iscariot yn ôl y Testament Newydd. Daeth yn adnabyddus am fradychu’r Iesu a chymherir y weithred honno yma â gweithred y barnwr yn derbyn llwgrwobrwyon. a werthassei yn Harglwydd ni. Ac yna ef a welai Vair yn myned ac yn amhwedd34 amhwedd Ffurf ar ymhŵedd yn ôl pob tebyg, gw. GPC d.g. ymhweddaf ‘ymbil, erfyn, crefu, deisyfu, dymuno, perswadio’. Ar a yn troi’n y o flaen cytsain drwynol mewn safle rhagobennol, gw. GMW 2. a St Lawrens ac a St Agnes faddau iddo ef o’i rhann hwy. A hynny fu wir faddeu iddo. A Mair35 Mair Sef y Forwyn Fair; hi yw’r olaf a enwir gan ei bod yn uwch ei statws na’r seintiau eraill. yn erchi y’r enaid fyned i’r corph eilwaith ac felly y gwnaeth. Ac y cyfodes y corph i vynydd ac a aeth at bawb ac y gwnaethoedd yn y herbyn. Ac a roddes i da vddynt ailwaith hyd y gallodd, ac ef a archodd vaddeuaint y eraill ac ef a’i cafas. Ac yr oedd y vraich a wasgassei St Lawrens yn kynn ddued a’r glo tra fu ef vyw. Ac ymhenn deg niwarnawd ar hugain y bu farw ef ac yr aeth y enaid i’r nefoedd. Finis.
1 Sixtws . . . y Pab Sixtus II oedd pab Rhufain o 257 i 258. Bu farw 6 Awst 258, yn ystod erledigaethau’r Cristnogion gan yr Ymerawdwr Valerian. Yn ôl traddodiad, merthyrwyd ef ynghyd â chwe diacon arall wedi iddynt wrthod addoli’r duwiau Rhufeinig (ODCC 1518).
2 Lawrens Gw. y Rhagymadrodd.
3 Vincent Cefnder i Lawrens a ddaeth gydag ef i Rufain yn ddiacon, ond a ddychwelodd i Sbaen yn ôl traddodiad (LA 449). Mae’n bosibl ei uniaethu â Sant Vincent o Saragossa a wasanaethodd fel diacon i Valerius o Saragossa, esgob y ddinas. Cafodd ei ferthyru gan yr Ymerawdwr Diocletian (284–305). Ei ddydd gŵyl yn y gorllewin yw 22 Ionawr a 11 Tachwedd yn y dwyrain.
4 Philip Sef Phillip I neu Philippus Arabs. Ef oedd ymerawdwr Rhufain o 244 i 249. Fe’i cofir fel un a gefnogai’r ffydd Gristnogol, ond ni ellir profi iddo ef ei hun gael ei fedyddio fel yr awgrymir yma (ODCC 1284).
5 maentimio Amrywiad ar maentumio ac fe’i deellir i olygu ‘gwarchod’ neu ‘diogelu’ yma, gw. GPC d.g. maentumiaf.
6 Deciws Trajan Decius oedd ymerawdwr Rhufain o 249 i 251. Yn 248 anfonodd Philyp Ddeciws i roi terfyn ar wrthryfel Pacatianus a’i filwyr ym Moesia a Pannonia yn nhaleithiau’r afon Donwy. Ar ôl cwymp y gwrthryfel, manteisiodd Deciws ar y cyfle i ddod yn ymerawdwr ei hun. Yn fuan wedi iddo ennill y teitl hwnnw dechreuodd erlid pob Cristion a drigai yn yr ymerodraeth. Roedd Lawrens ymhlith y Cristnogion o bwys a wrthododd blygu i’r drefn newydd dan Ddeciws (ymhellach gw. Potter_2014: 236 a ODCC 463).
7 Phrancod Yn yr Oesoedd Canol, defnyddid Phrancod i gyfeirio at lwyth o bobl a oedd yn perthyn i’r genedl Ermanaidd neu gynghrair o genhedloedd a orchfygodd Gâl yn y 6g., gw. OED s.v. Franks.
8 Verona Yn ôl y cofnod hanesyddol, lladdwyd Phylip yn 249 gan Ddeciws a’i filwyr yn Verona, dinas ar lannau’r afon Adige yn Veneto, gogledd yr Eidal (Potter_2014: 236).
9 Philip Ieuank Phillip II neu Marcus Julius Philippus Severus (238–249) oedd mab ac etifedd Phillip I a’i wraig Marcia Otacilia Severa.
10 tressor Amrywiad ar trysor, gw. GPC d.g. trysor. Pwysleisir yn y fuchedd mai’r ddynoliaeth yw’r gwir drysor ac nid aur neu gyfoeth materol. Defnyddir y gair trysor yn amwys trwy’r testun.
11 dywad Ffurf 3 un.grff. y ferf dywedaf: dywedyd.
12 [g]wneuthur dosbarth ar Sef ‘dosbarthu’, gw. GPC d.g. gwnaf.
13 ar a Mewn Cymraeg Canol, gallai ar weithredu fel rhagenw dangosol yn rhagflaenu’r cymal perthynol, gw. GMW 70.
14 rhyddynt Un o ffurfiau 3 lluosog yr arddodiad rhwng, gw. GPC d.g. rhyddynt, cf. HDafi 32.51. Ymddengys i’r llaw ddiweddarach farnu nad oedd yn air dilys.
15 gwresgin Ceir gwresgyn fel amrywiad ar goresgyn sef ‘y weithred o feddiannu’ yn GPC d.g. goresgyn. Gw. yn arbennig y cyfuniad gosod mewn goresgyn sef yn S. ‘to place in possession, bestow or grant possession’.
16 Hippolitws Sant ac un o ddiwinyddion enwocaf yr Eglwys Gristnogol yn Rhufain yn ystod y 3g. OC. Cafodd ei droi’n Gristion gan Sant Lawrens pan oedd Lawrens yn cael ei ddal yn garcharor ganddo yn ôl traddodiadau sy’n deillio o’r 7g. a’r 8g. Ei ddydd gŵyl yw 30 Ionawr yn y gorllewin a 13 Awst yn y dwyrain (ODCC 778).
17 Valerian Prif ynad Deciws, fe ymddengys, a ddaeth ei hun yn ymerawdwr Rhufain yn 253 hyd at 259 OC. Fel ei ragflaenydd, gorchmynnodd i bob Cristion addoli’r duwiau Rhufeinig (ODCC 1422).
18 yscyrsiau clymoc Yn y cyfieithiad Saesneg Modern ceir ‘whipped with scorpions’ (GL3 452) sef offeryn arteithio hynafol ar ffurf chwip clymog, gw. OED s.v. scorpion. Ond math o waywffon neu bastwn yw ysgyrs yn ôl GPC d.g. ysgwr ‘gwaywffon, paladr, ffon, pastwn; cangen (braff), cainc, brigyn’.
19 darpar Ffurf 3 un. pres. myn. y ferf darparu.
20 phynn cloppaon Bnth. o’r S.C. ‘clubbe’ yw clopa, gw. GPC d.g. clopa, sef ffon ac iddi un pen mwy trwchus.
21 hayrn brwd Lluosog yw hayrn, ac ymddengys mai math o haearn poeth yw ‘haearn brwd’, gw. yr amrywiadau yn GPC d.g. haearn.
22 dywedud dros Hynny yw, dweud gweddi dros y rhai sy’n sefyll yn ei ymyl.
23 Romanws Roedd y marchog hwn hefyd yn sant; ei ddydd gŵyl yw 9 Awst (diwrnod cyn Gŵyl Sant Lawrens, gw. Ziolkowski_1994: 54).
24 yn boeni Ni ddisgwylir treiglo’r berfenw poeni yma ac mae trefn y frawddeg ychydig yn rhyfedd. Tybir bod gair ar goll a chynigir darllen yn [dy] boeni.
25 alch Sef ‘gradell, gridyll’ gw. GPC d.g. alch. Mae Lewys Morgannwg yn cysylltu Lawrens ag arf tebyg, gw. GLMorg XCIII.17–20 Gŵr, wedi’i ladd ar y gridl wyf, / dan adain o dân ydwyf: / Sain Lorans sy’n ei lurig / a fu ar alch yn ei frig.
26 ynhoeth ‘Yn noeth’. Mae hoeth yn amrywiad ar noeth, gw. GPC d.g. hoeth a daw o gamrannu’r cyfuniad yn noeth yn yn (h)oeth, cf. YBH 69.
27 yn ddigon ... y bobi Dyma’r geiriau enwocaf a lefarodd Lawrens wrth iddo gael ei bobi ar y gradell. Mae’r stori hon hefyd yn egluro ei gysylltiad â chogyddion.
28 kyweiriodd Un o’r ystyron a rydd GPC d.g. cyweirio yw ‘trin corff marw, diweddu, diwarthu’.
29 Ystyphan Enw’r barnwr hwn yn y GL yw Stephen (GL 453), gw. hefyd y Rhagymadrodd.
30 wabron Nodir gwabron fel lluosog gwabr a gwabar sy’n amrywiad ar gwobr, gw. GPC d.g. gwobr sef ‘llwgrwobrwyaeth’ yma.
31 eglwys Sant Lawrens Sef y Basilica Papale di San Lorenzo fuori le Mura yn Rhufain, fe ymddengys. Yn ystod teyrnasiad Custennin Fawr, adeiladwyd capel ar safle cysegrfa Lawrens a oedd mewn catacwm ar y Via Tiburtina. Yn ddiweddarach, cysylltwyd y safle ag eglwys a adeiladwyd gan Pelagius II (570–90), sef eglwys San Lorenzo fuori le Mura (ODCC 964).
32 eglwys St Agnes Santes sydd wedi ei mawrygu’n wyryf yn Rhufain ers y 4g. lle adeiladwyd basilica yn c.350 ar y Via Nomentana ar safle ei chysegrfa. Nodir ei dydd gŵyl fel 21 Ionawr a 28 Ionawr (ODCC 29).
33 Siwddas Vradwr Un o’r deuddeg apostol oedd Judas Iscariot yn ôl y Testament Newydd. Daeth yn adnabyddus am fradychu’r Iesu a chymherir y weithred honno yma â gweithred y barnwr yn derbyn llwgrwobrwyon.
34 amhwedd Ffurf ar ymhŵedd yn ôl pob tebyg, gw. GPC d.g. ymhweddaf ‘ymbil, erfyn, crefu, deisyfu, dymuno, perswadio’. Ar a yn troi’n y o flaen cytsain drwynol mewn safle rhagobennol, gw. GMW 2.
35 Mair Sef y Forwyn Fair; hi yw’r olaf a enwir gan ei bod yn uwch ei statws na’r seintiau eraill.
1 gwahawdd Cywiriodd y llaw ddiweddarach hwn i gwawd ‘cân o fawl’ neu ‘dychan’ yn Llst 34, t. 336, ll. 21. Fodd bynnag, rhydd gwahawdd, amrywiad ar gwahodd, ystyr ddigon synhwyrol.
2 a ddoeth Ni cheir dot o dan y d yma yn y testun yn Llst 34: a doeth. Rhaid ei ddiwygio i a ddoeth yn y golygiad.
3 kyweiriodd Ni cheir dot o dan yr u yma yn Llst 34 ond mae’n amlwg mai cyweiriodd a olygir. Un o’r ystyron a rydd GPC d.g. cyweirio yw ‘trin corff marw, diweddu, diwarthu’.
4 oddi wrtho Ni cheir dot o dan yr u yma yn Llst 34: urtho.