15. Buchedd Lawrens y Deacon
golygwyd gan Alaw Mai Edwards
Llawysgrifau
Ceir y copi cynharaf o’r fuchedd hon yn llawysgrif Llst 34 wedi ei chofnodi ar ddiwedd yr unfed ganrif ar bymtheg (c.1580 x 1600) gan Roger Morris o Goedytalwrn (gw. RepWM). Yn y casgliad mawr hwnnw o fucheddau’r seintiau mae’r testun yn dilyn Buchedd Nicolas ac yn rhagflaenu Buchedd Silfester. Ceir copïau diweddarach o’r testun yn Pen 217 ac yn Llst 104; mae’r ddau’n gopïau annibynnol o’r testun yn Llst 34.
Rhestr o lawysgrifau
Llst 34, 332–9 (Roger Morris, c.1580 × 1600)
Llst 104, ** (X27: Moses Williams, c.1710 × 1715)
Pen 217, ** (John Jones, c.1607 × 1611)