Rhagymadrodd Testun golygedig Llawysgrifau English

15. Buchedd Lawrens y Deacon

golygwyd gan Alaw Mai Edwards

Rhagymadrodd

Diacon a merthyr a fu farw c.258 oedd Sant Lawrens. Ganed ef yn Sbaen ac aeth i Rufain at y Pab Sixtus II i wasanaethu fel diacon i’r Eglwys. Yn ystod pabyddiaeth Sixtus, roedd Lawrens yn un o saith diacon a ferthyrwyd yn erledigaethau’r Ymerawdwyr Deciws yn erbyn y ffydd Gristnogol yn y 250au. Y traddodiad mwyaf poblogaidd amdano, a ddeilliodd o’i gwlt eang, yw’r modd y cafodd ei rostio ar radell gan yr ymerawdwr fel cosb am beidio â moli’r duwiau Rhufeinig ac am guddio trysor yr Eglwys oddi wrth yr ymerawdwr a’i ddosbarthu i’r tlawd a’r anghenus. O ganlyniad, daeth y radell yn arwyddlun i’r sant a daeth Lawrens hefyd yn nawddsant i’r tlodion a chogyddion. Dethlir ei ŵyl ar 10 Awst ac adeiladwyd Basilica Papale di San Lorenzo fuori le Mura yn Rhufain yn y man lle’i claddwyd (Ziolkowski_1994: 54–5).

Rhai o’r testunau hynaf sy’n olrhain hanes Lawrens yw’r testun Lladin Passio s. Laurentii (BL Cotton Vespasian D. xix), y Passio Polychronii a gyfieithiwyd i Hen Saesneg yn y ddegfed ganrif (gw. Ziolkowski_1994: 62) a buchedd hirfaith iddo yn y Legenda aurea (LA 488–501; am gyfieithiad Saesneg Modern, gw. GL 449–60). Credir i’w gwlt ddod yn boblogaidd yn Lloegr pan anfonodd y Pab Vitalian greiriau’r sant at y Brenin Oswin o Northumbria yn y seithfed ganrif (Ziolkowski_1994: 61). Cyfeirir at ‘Lawrens Ferthyr’ yn y rhan fwyaf o’r calendrau Cymreig a gelwir arno mewn testun cyfraith gan ysgrifydd anhysbys a chanddo gysylltiad arbennig â dyffryn Teifi yn y bymthegfed ganrif. Digwydd ei enw ochr yn ochr ag enwau seintiau brodorol megis Dewi a Gwenog yn Llsgr. BL Add. 22, 356 ac awgryma Christine James ‘bod Lawrens yn gymaint rhan o ymwybyddiaeth grefyddol dyffryn Teifi yn y bymthgefed ganrif ag oedd y seintiau a ysgyrir yn rhai lleol’ (James_1997: 61–2). Ceir nifer o gyfeiriadau cryno at ei farwolaeth erchyll yng ngwaith Beirdd yr Uchelwyr sy’n ei gysylltu â gradell, â phadell ffrio neu ag offeryn tebyg (gw. HCLl 000, DN 0000, GLGC 65.39, GLMorg XCIII.17–20). Ceir nifer o eglwysi wedi eu cysegru iddo yn Lloegr a thair yng Nghymru, sef eglwysi Sant Lawrens yn Gumfreston, Yerbeston a St Laurence yn esgobaeth Tyddewi. Awgrymwyd mai merthyrdod Lawrens a ddarlunnir ar olion murlun canoloesol yn ei eglwys yn Gumfreston, ond yn ôl pob tebyg portread o Iesu Grist yw hwn a’r offer wrth ei draed yn atgoffa’r plwyflion bod angen parchu’r Sul a gwrthod gweithio (gw. NPRN 300432). Fe’i darlunnir gyda’r radell mewn ffenestr liw ganoloesol Llanasa, Sir y Fflint (https://stainedglass.llgc.org.ok/image/6402).

Mae rhan gyntaf y fuchedd Gymraeg yn grynodeb neu’n addasiad o ran gyntaf y Legenda aurea, sy’n adrodd sut y daeth Lawrens i Rhufain a sut y cafodd ei erlyn a’i arteithio gan y Rhufeiniaid (GL 449–460;LA 488–501). Aeth i Rufain i fod yn ddiacon i’r Pab Sixtus pan oedd yr Ymerawdwr Philyp yn teyrnasu, ymerawdwr Rhufeinig a oedd yn gefnogol i’r ffydd Gristnogol. Ond newidiodd pethau’n fuan pan lofruddiwyd Philyp gan un o’i farchogion, Deciws, a ddaeth yn ymerawdwr maes o law ac a ddechreuodd erlyn pawb nad oedd yn credu yn y duwiau Rhufeinig. Pan glywodd mab y cyn-ymerawdwr, Philyp Ieuanc, y newydd am farwolaeth ei dad, rhoddodd y cwbl o drysor ei dad yn nwylo Sixtus a Lawrens i’w ddiogelu. Carcharwyd y pab a Lawrens gan Ddeciws ond rhyddhawyd Lawrens yn fuan yn y gobaith y byddai’n datgelu lleoliad y trysor. Ond roedd Lawrens eisoes wedi dosbarthu’r trysor i’r tlawd a’r anghenus a chasglodd ef holl drigolion tlawd ac anghenus y dref ynghyd a’u dwyn gerbron Deciws gan ddweud mai hwy oedd trysor mwyaf Iesu Grist. Gwylltiodd Deciws a charcharodd Lawrens gan ei roi yng ngofal gŵr o’r enw Hippolitws, ond llwyddodd y sant i’w droi yntau’n Gristion. Yna, ceir deialog rhwng Deciws a Lawrens a’r ddau yn herio ei gilydd ynglŷn â phwysigrwydd gwerth a phŵer y gau dduwiau ar y naill law a gwerth ysbrydol a sancteiddrwydd yr Arglwydd Dduw a Christ ar y llall. Parhaodd yr ornest eiriol wrth i Deciws a Valerian arteithio corff Lawrens, a dioddefodd y sant farwolaeth merthyr wedi iddynt ei rwymo ar radell fawr a’i rostio. Ar ôl y farwolaeth boenus hon, cludwyd ei gorff i fan diogel gan Hippolitws.

Dilyna’r fuchedd Gymraeg y fuchedd Ladin yn weddol agos hyd yn hyn. Yr hyn a geir nesaf yn y fersiwn Lladin yw cyfres o hanesion am wyrthiau neu ryfeddodau a ddigwyddodd yn eglwys San Lorenzo yn Rhufain i’r rhai hynny a ddangosodd amharch tuag at yr eglwys (LA 492–501). Un hanes yn unig a gofnodir ar ddiwedd y fuchedd Gymraeg, sef hanes yr Ustus Ystyphan. Dyma hanes a oedd eisoes wedi ymddangos yn y Gymraeg, sef yn y copi cynharaf ar glawr o ‘Wyrthiau y Wynfydedig Fair’ yn Pen 14, llawysgrif a ddyddir i ail hanner y drydedd ganrif ar ddeg (Mittendorf_1996: 205–36 ac Angell_1938). Mae’n amlwg nad copi o’r fersiwn a geir yn y ‘Gwyrthiau’ yw’r hanes a geir yn y fuchedd, ond yn hytrach fersiwn wedi ei addasu. Cawn wybod bod yr Ustus Ystyphan wedi bod yn llwgrwobrwyo pobl am arian ac wedi dwyn tri thŷ oddi ar eglwysi Sant Lawrens a’r Santes Agnes. Cafodd yr ustus brofiad ysbrydol pan oedd ar ei wely angau gan ddod wyneb yn wyneb â Sant Lawrens a’r Santes Agnes a’r ddau’n flin wrtho am ei dwyll. Erfyniodd yr ustus am faddeuant a gyda’u cymorth hwy a chymorth y Forwyn Fair llwyddodd i gael ail gyfle i fyw ei fywyd fel gŵr gonest.