Rhagymadrodd Testun golygedig Llawysgrifau English

01. Buchedd Andreas Apostol

golygwyd gan Alaw Mai Edwards

Llawysgrifau

Ceir yr unig gopi o’r fuchedd hon yn llawysgrif Pen 225 a ddyddir i c.1594 x 1610 ac a gofnodwyd gan Thomas Wiliems (gw. RepWM). Mae’r testun yn anghyflawn. Gellir gweld dylanwad y dyneiddiwr Wiliam Salesbury ar yr orgraff gan fod rhai geiriau benthyg o’r Lladin wedi eu Lladineiddio (megis bobula sanct); ymhellach gw. Williams 1946: 32–45.

Rhestr o lawysgrifau

Pen 225, 145–9 (Thomas Wiliems, c.1594 × 1610)