01. Buchedd Andreas Apostol
golygwyd gan Alaw Mai Edwards
Rhagymadrodd
Apostol a merthyr a oedd yn byw yn y ganrif gyntaf OC oedd Andreas. Ef yw brawd Seimon Pedr a bu’n ddisgybl i Ioan Fedyddiwr cyn dod yn apostol i Grist. Yn y rhestr o’r apostolion yn yr efengylau, ef yw’r pedwerydd, gw. Ioan 12.20–2. Ceir traddodiad hynafol sy’n ei gysylltu â Groeg ac yn honni iddo bregethu’r Efengyl yn Patras. Croeshoeliwyd ef yn Patras ar groes siap X ar 30 Tachwedd, rhywbryd yn ystod ail hanner y ganrif gyntaf.
Un o’r ffynonellau cynharaf sy’n cofnodi ei hanes yw Acta Andreae, testun sy’n perthyn i’r ail neu’r drydedd ganrif ac a ddaeth yn rhan o apocryffa’r Testament Newydd. Nodir yno sut y teithiodd Andreas i wahanol rannau o’r byd i ledaenu’r Gair, sut y perfformiodd wyrthiau o bob math a sut y profodd farwolaeth merthyr. Ymddengys i awduron Lladin a Saesneg ddefnyddio’r testun hwn fel un o’u ffynonellau i ysgrifennu hanes y sant (megis y Legenda aurea, y Festiala’r Scottish Legendary, gw. Salih 2006: 58), ond tynnwyd hefyd ar draddodiadau eraill – rhai a oedd wedi tyfu’n gyflym o amgylch ei gwlt. Un o’r traddodiadau hyn oedd yr hanes am ei greiriau yn cael eu cludo i’r Alban yn ystod yr wythfed ganrif. Yn ôl y traddodiad, cafodd gŵr o’r enw Sant Rule neu Regulus weledigaeth fod rhaid iddo gludo esgyrn Andreas o Batras i’r Alban. Teithiodd i’r Alban ar hyd y môr a chyrraedd arfordir gorllewinol y wlad. Yno, yn St Andrews, adeiladwyd eglwys a’i chysegru i’r sant. Erbyn yr unfed ganrif ar ddeg, roedd yr hanes hwn am greiriau tybiedig Andreas wedi lledu’n gyflym iawn a daeth y dref fechan hon (a elwid yn wreiddiol yn Kinrymont) yn ganolfan esgobol enfawr ac yn gyrchfan bwysig i bererinion (Taylor 2009: 408). O ganlyniad, dewiswyd Andreas fel nawddsant yr Alban (ymhellach gw. Lamont 1997: 2 a Gruffydd 2006: 12).
Er bod Groeg a’r gwledydd dwyreiniol yn bwysig yn hanes y sant, tyfodd ei gwlt hefyd yn y gorllewin o gyfnod cynnar iawn a chysegrwyd yr eglwys gyntaf iddo yn Lloegr yn 637. Yng Nghymru enwyd y pentrefi Sant Andras ym Morgannwg a Llanandras (Presteigne yn Saesneg) yn sir Faesyfed (Richards 1998: 131). Mewn celf, darlunnir Andreas gyda’r groes Ladin, ‘Croes Sant Andrew’, ac mae’r groes wen a glas hon hefyd yn cynrychioli’r Alban ar faner y Deyrnas Unedig. Mae’r cysylltiad hwn yn tarddu o’r ddegfed ganrif gan ddod yn gyffredin iawn erbyn y bedwaredd ganrif ar ddeg. Cyfeirir ato ym marddoniaeth y cyfnod fel un o’r apostolion (gw. GDID 10.1; DG.net 4.26; GSH 6.10; GG.net 19.8) ac weithiau at ei ferthyrdod a’i groesholiad ar y groes unigryw honno (gw. GC 7.92; Bl BGCC 31.16a–c; Bl BGCC331).
Fel yr eglurir ar ddiwedd y fuchedd yn Pen 225, nid yw’r fuchedd wedi ei chofnodi’n gyflawn a daw hyn yn amlwg wrth gymharu’r fuchedd Gymraeg â’i hanes mewn ieithoedd eraill. Yn y Legenda aurea, er enghraifft, ceir rhagymadrodd sy’n egluro perthynas Andreas â Christ a’r apostolion eraill cyn rhestru’r chwe gwyrth a berfformiwyd ganddo (LA 12–33, GL 13–21). Yna, ceir adran hir ar sut y merthyrwyd ef ar groes siap X cyn traethu am wyrthiau pellach sy’n ymwneud â’i feddrod. Yna, cawn hanes esgob y ceisir ei hudo gan y diafol yn rhith merch hardd, cyn diweddu â hanes tir a oedd yn perthyn i eglwys a gysegrwyd ar enw’r sant. Sylwer, felly, nad oes sôn am sut y daeth Andreas i’r Alban yn ei fuchedd Ladin.
Ymddengys fod cynnwys y fuchedd Gymraeg yn perthyn yn nes i’r fersiwn Saesneg Canol gan John Mirk yn ei Festial (Erbe 1905: 6–11) yn hytrach na’r fersiwn Lladin. Ond ceir sail i gredu bod cynsail y fersiwn Cymraeg hefyd yn anghyflawn a hyd yn oed yn wallus gan fod rhai enwau personol wedi eu camsillafu. Mae’r rhan ddechreuol ar goll ac agorir â’r gwyrthiau. Ond rhai ohonynt yn unig a gynhwysir, sef yr un rhai â’r rhai a gynhwyswyd yn y Festial. Yn gyntaf, cawn hanes Andreas yn helpu hen ŵr o’r enw Iurancolus; yn ail, hanes Andreas yn helpu gŵr ifanc a gyhuddir ar gam o dreisio ei fam; yn drydydd, Andreas yn gorchfygu saith cythraul yn rhith cŵn; yn bedwerydd Andreas yn atgyfodi bachgen ifanc a laddwyd gan gythreuliaid; ac yn bumed sut wnaeth Andreas atgyfodi bywydau deugain o Gristnogion a oedd wedi boddi. Wedi hynny, mewn ychydig frawddegau yn unig, ceir dechrau’r hanes am ferthyroliaeth y sant (§5). Nodir i Andreas fynd i Antioch gan droi nifer helaeth o baganiaid yn Gristnogion yno, gan gynnwys gwraig i ŵr o’r enw Antirias a oedd yn ben-gynghorwr. Wedi deialog byr rhwng Antirias ac Andreas, daw’r hanes i ben heb esbonio dim am sut y bu farw’r sant.
Yr hanes nesaf sydd fwyaf cyflawn yn y fuchedd, sef ymweliad merch ifanc ag esgob yn ei lys. Ond y diafol wedi ymrithio yn rhith gwraig hardd yw’r ymwelydd, a’r bwriad yw twyllo’r esgob gan geisio ei hudo i gysgu gyda’r ferch. Cyn i bethau fynd yn rhy bell, terfir ar y ddau gan rywun yn taro ar y drws. Clywn mai pererin sydd yno a chawn wybod – maes o law – mai Andreas yn rhith pererin ydyw. Mae’r ferch yn dweud wrth yr esgob i beidio ag agor y drws hyd nes fod y pererin yn cynnig atebion digonol i gwestiynau heriol am Gristnogaeth. Nid yw’n llwyddo yn ei ddau ateb cyntaf yn nhyb y ferch, ac yn ei ateb i’r trydydd cwestiwn, mae’r pererin yn datgelu mai’r diafol yw hi. Er bod y stori hon yn ymddangos yn y Legenda aurea a’r Festial, erys ei tharddiad yn anhysbys. Ceir hanesion tebyg mewn bucheddau eraill, megis y fersiwn Lladin o ‘Buchedd Bartholomew yr Apostol’ a cheir adleisiau tebyg mewn testunau canoloesol eraill, megis yn y rhamantau a thestunau seciwlar. Neges stori fel hon yw pwysigrwydd ymgadw rhag anlladrwydd gyda’r esgob yn cynrychioli’r bywyd diwair ar y naill law – a’r bywyd hwnnw’n agored i demtasiynau – a’r diafol (yn rhith gwraig hardd) yn cynrychioli chwant cnawdol ar y llaw arall. Nid hon yw’r unig stori am rywioldeb yn y fuchedd. Mae’r thema i’w gweld yn y storïau blaenorol, yn gyntaf yn hanes Iurancolus yn ymweld â phuteiniaid, ac yn ail, hanes y fam yn ceisio temtio ei mab ei hun i gysgu gyda hi. Ceir yr un thema yn y stori am Antirias sydd wedi ei chwtogi yn y fuchedd Gymraeg. Prif sail gwylltineb Antirias tuag at Andreas yw fod y sant wedi perswadio ei wraig i ddilyn bywyd ysbrydol ac yn sgil hynny, ei bod hi’n gwrthod cysgu gyda’i gŵr, Antirias.