Dewis nodiadau:
Cyfieithiad:

01. Buchedd Andreas Apostol

golygwyd gan Alaw Mai Edwards

Apostol a merthyr a oedd yn byw yn y ganrif gyntaf OC a ddaeth yn adnabyddus fel nawddsant yr Alban oedd Andreas. Mae’r fuchedd Gymraeg yn anghyflawn gyda’r unig gopi llawysgrif, Pen 225, yn dyddio i ddiwedd yr unfed ganrif ar bymtheg.

§1

Oherwydh yn gyntaf, gwr a elwyt Iurancolus 1 Iurancolas Enw anhysbys; gelwir ef yn Nicolaus yn y fersiwn Lladin. Gall fod yn amrywiad astrus ar yr enw Nicolas ond y tebyg yw fod ffynhonnell Pen 225 yn wallus, cf. Antirias isod (§5). a dhywot2 dywotFfurf trydydd unigol gorffennol y ferf dywedaf: dywedyd. wrth Andreas 3 AndreasEnw Groegaidd yw Andreas (er mai Iddew oedd yr apostol yn ôl y traddodiad) a hwn yw’r ffurf a ddefnyddir yn y Testament Newydd (Mathew 4:18). Ceir hefyd yr amrywiad ‘Andras’ yn llenyddiaeth Gymraeg yr Oesoedd Canol ac yn yr enw lle Llanandras; cf. ‘Andrew’ yn y ffynonellau Saesneg. Ymhellach ar hanes y sant, gw. Y Rhagymadrodd. y vod er ys dec mlynedh a thrugeint yn ymrodhi y odineb. Ac yn y rhyw amser, gwedhio Duw a oruc ar alhu ohono beidiaw a hynny ac ymgynnal o hynny alhan. Ac o achaws y vot yn y pechawt yn rhy wreidhioc yn yr eneit, yr ymchwelei yn ebrwydh a’r dhrycewylhys, heb dhyvot cof ydhaw vot yr Evengel yn y gymdeithas. Mynet a oruc y’r puteinduy a’i wrthladh4 gwrthladh Yr ystyr mwyaf ystyrlon yma yw ‘gyrru ymaith’, cf. gwrthladhier (§7) a GPC Ar Lein d.g. gwrthladd 2. a oruc y puteuneit gan dhywedyt, ‘Dos ymeith, yr henwr, canys angel Duw wyt a ni a welsam ryvedh betheu genyt.’ A gwedy hynny, atnabot bot yr angel ganthaw. Atolwc y’r apostol wedhio drostaw, ac wylaw a oruc Andreas, ac wylo o bryt echwydh5 pryt echwydhSef tierce ‘hyd at drydydd awr y dydd (tri o’r gloch)’ neu, yn syml, ‘y prynhawn’, gw. GPC Ar Lein d.g. pryd 1. hyt brytnawn. Ac wedy cyuoti, ni vwytaodh dhim bwyt, namyn dywedyt na vwytai ony wypei drugarhau o D[h]uw wrth yr henwr. Ac wedy vnprytiaw ohonaw v. diwrnawt y daeth attaw lef a dywedyt wrthaw, ‘Andreas, ti a gefeist dy wedhi dros yr henwr. Mal yr vnpryties ti drostaw, ymprytiet ynteu, val yr iachaer y eneit.’ Ac velly y gwnaeth. Ac wedy vnprytio ohonaw v. mis ar vara a dwr, yn gyflawn o weithredoedh da y gorphwysawdh yn yr Arglwydh. Ac yna y doeth lhef at Andreas, ‘Ynilheis[t]1 Ynilheis[t] Cf. Pen 225 ynilheis; mae angen ei ddiwygio yn ynilheist i roi’r ystyr gorau;. y gras a golhassei.’

§2

A hevyt, Christiann ieuanc a dhywot yn gyfrinachol wrth Andreas, ‘Vy mam, o achaws vy mot yn was ieuanc tec, a geissiawdh gennyf gytsyniaw a hi yn amherpheith. Ac am na chytsyniwn a hi, vynghyhudhaw a wnaeth wrth y medhiant a heuru dwyn trais ohonof arni. Ac atolwc ydh wyf yt wedhiaw drossof. Ef a’m divethir a mi yn wirion. Tewi a wnaf pan y’m holer, o achaws gwelh genyf vy nivetha no’m goganv yn gywilydhus o’m mam yn dhybryd.’ Ac y galwyd y mab y’r lhys; Andreas a’i cynlynawdh yn[o]. A’r vam a’i cyhudhawdh yn dhybryt am geissio ei threissio. Y gwas a dewis6 a dewisFfurf trydydd unigol gorffennol y ferf tawaf: tewi. heb dhywedyt dim. Yna y dywot Andr[eas] wrth y wreic, ‘Y greulonaf o’r gwragedh, ai o achaws drygchwant dy gorph di y mynni di ladh dy vab?’ Hitheu a dhywot wrth yr eistedhwyr, ‘Canlyn y gwr hwnnw a wnaeth vy mab er pan geissiodh vynrheissio.’ Ac yno lhitio a wnaeth yr eistedhwyr ac erchi y vwrw mewn sach byciedic,7 sach byciedicNi cheir pygiedig yn GPC ond mae’n debyg mai ansoddair o’r ferf pygio ydyw yma, gw. GPC Ar Lein d.g. pygio ‘gorchuddio neu drin (rhywbeth) â phyg’. ag wedy hynny, y vwrw yn yr afon; a charcharu Andreas ony dharphei ydhaw vedhwl8 ony dharphei ydhaw vedhwl Ffurf trydydd unigol amherffaith ddibynnol y ferf darfod yw [d]arphei gyda’r ystyr ‘gorffen, cwblhau’, gw. GPC Ar Lein d.g. darfyddaf. Felly, ystyr y cymal yw ‘hyd nes fod y barnwr wedi dod i benderfyniad’ ynglŷn â chosb Andreas. pa dhihenydh9 dihenydh Sef ‘angau drwy gyfraith neu ddedfyd llys barn’, gw. GPC Ar Lein d.g. dihenydd. a wnai ydho. Ac wedy gwedhio Duw o Andras ony grynnodh y dhaear a dirvawr daran, aruthrawdh10 aruthrawdhFfurf trydydd unigol gorffennol y ferf gyflawn aruthraf: aruthro o’r ansoddair aruthr, ‘arswydo, brawychu’, gw. GPC Ar Lein d.g. aruthraf: aruthro. pawb ony syrthiodh hywynt y’r lhawr. A melhten aruthrodh y wreic ac a’e lhosges yn lhudw man. Ac yna y gwedhiodh pawb dros y mab ac nas lhedhyt, ac atvarnv y varn a roessit arno. Ac Andreas a wedhiodh drossvnt, a phob peth a rydhaodh. Ac yna y credodh y rhaclaw a’r holh vedhiant a oedh yno.

§3

Pan oedh Andreas yn ninas Nigia,11 NigiaTref Roegaidd yn nhalaith hynafol Bithynia, gw. Lewis and Short Online s.v. Nicaea. Mae ei lleoliad yn yr un man â dinas Iznik, Twrci, heddiw. gwyr y dinas a dhywedassant vot vii gythreul odhyeithr y dinas yn lhadh pawb a elai heibiaw. A phan dhoeth Andreas yno, hwynt a dhoethant wrth ei arch yn rhith cwn. Ac ynteu a orchmynodh vdhynt vynet y’r lhe ny elhynt dhim argywedh y neb. A hwynt a dhivlannassant ymeith yngywydh pawb o’r bobloedh. A’r bobul a gredodh y Christ a chymryt bedydh. A phan dhoeth Andreas y borth eu dinas [na]chaf yno y gwelei arwein gwas truan yn varw. A gwedy gofyn i Andreas pa beth a vuassei arnaw, ac ef a dhywetpwyt ydhaw mai y ladh o vii ci yn y wely. Ac wylo a oruc Andrea[s] a dywedyt, ‘Mi a wn, Arglwydh, mei’r saith gythreul a wrthledheist o dhinas Nigia oedhynt.’ A dywedyt wrth dat y mab, ‘Beth a roi di y mi o chyfoda vi dy vab di yn vyw?’ Y dad a dhywot, ‘Nyt oes ar vy helw12 helw‘in my possession’, cf. YBH 232. dhim nas caphut, er hynny, a mi a rof y mab yt hevyd.’ Ac yna y gwedhiodh Andreas, ac ar dhiwedh y wedhi, ef a gyvodes y mab ac a ganlynodh yr apostol yn d[h]iscipl2 d[h]isciplNi threiglir y gair hwn yn Pen 225. ydhaw.

§4

Ac wedy hynny, val yr oedh deugein o wyr yn dyuot mewn lhong y wrandaw preceth Andreas ac y gymryt dysc a ffydh ganthaw, val yr oedhynt yn hwyliaw y doeth cythreul a thorri y lhong ac a’i bodhodh hwynt olh. A’r cyrph a dascwyt y’r lann gerbronn yr apostol. Ac yntau yn dhiameu a’u cyuodes hwynt yn vyw. A mynegi a wnaethant ydhaw eu holh dhamwein.

§5

Tra vu Andreas yn Ant[io]chia,13 Ant[io]chia Antioch, dinas Roegaidd sydd heddiw wedi ei lleoli yn Nhwrci. Mae olion y ddinas hynafol i’w gweld ar gyrion dinas Antakya. ef a gyflawnhaodh14 a gyflawnhaodh Sef ffurf trydydd unigol gorffennol y ferf cyflawnhau, ‘gwneud yn gyflawn, cyflawni; mynd yn gyflawn,’ gw. GPC Ar Lein d.g. cyflawnhau; cf. LlEG Mos 158 534b, yr hrain agyulownhaodd orchymyn i brenin. honno15 honno Cyfeirir yma at ddinas Antioch a chan mai gwrywaidd yw cenedl dinas mewn Cymraeg Canol, disgwylir hwnnw yma (ymhellach gw. GMW 34). Gall mai at Antioch fel tref (sy’n enw benywaidd) y cyfeirir. ac amchwelodh y bobul y’r fydh. A gwraic Antirias 16 AntiriasEnw’r cymeriad hwn yn y fersiwn Lladin yw Aegeae(LA 16). Ef oedd yn gyfrifol am ladd Andreas wedi iddo ddigio wrth y sant am droi ei wraig yn Gristnoges. Mae’n bosibl fod llaw ddiweddarach yn Pen 225 wedi ceisio cywiro’r enw personol yn ‘{[..]geas}’ ar yr ochr chwith, ond mae’r cywiriad yn anodd iawn i’w weld oherwydd rhwymiad y llawysgrif. a phencynghorwr a droes Andreas y’r fydh ac a vetydhiodh. A phan glybv Antirias hynny, mynet a wnaeth y’r dinas y gymhelh Christianocion y aberthu y’r geu dhuwieu. Ac yna y cyvarfu ac ef ac y dywot wrthaw, ‘Rheit yw y ti atnabot browtwr17 browtwrAmrywiad ar brawdwr sef ‘barnwr, ustus, ynad; un sy’n barnu, beirniad’, gw. GPC Ar Lein d.g. brawdwr. gwlat nef a’i anrhydedhu ac ymadaw a’r geu dhuwieu.’ Ac Antirias a dhywot, ‘Ai tydi yw Andreas yssydh yn precethu er a wnelit ydhaw ac a erchis tywysocion Ruvain ei dhieneitio?’ Andreas a dhyuot wrthaw, ‘Nyt atnabu tywysocion Ruvain etto weithredoedh Mab Duw.’

§6

Hevyd, escop crevydhus a anrhydedhei Sanct18 Sanct Amrywiad ar sant dan ddylanwad y Lladin sānctus, gw. GPC Ar Lein d.g. sant. Gwelir dylanwad orgraff William Salesbury ar sillafiad rhai geiriau yn Pen 225 wrth i’r ysgrifydd Ladineiddio rhai geiriau Cymraeg (ymhellach gw. Williams 1946: 43). Andreas yn vwy no neb o’r seinct ereilh. Pob peth a wnelei er anrhydedh y Dhuw ac Andreas. Cynvigenv a oruc yr hen elyn wrth yr escop, a’i holh ystrywieu y’w somi, ac ymrithiaw a wnaeth yn rhith gwreic o’r decaf ar a alhe vod. A dyuot a wnaeth yr anyspryt y lys yr escop, a dywedyt y mynnei gyffessu wrtho. Erchi a wnaeth yr escop ydhi vynet ar y penytentiari19 penytentiari Daw o’r Saesneg penitentiary, sef swyddog, cyffeswr neu offeiriad, gw. OED Online s.v. penitentiary. a roessit ydhaw gwbl vedhiant. Dywedyt a wnaeth hitheu na vynagei hi gyurinachaeu ei chywilydh y neb onid ydho efo. Yr escop a erchis ydhi dhyuot attaw. Hitheu a dhywot, ‘Argluydh, trugarhaa wrthyf, o achaws mi a vagwyd yn gu, o achaws merch y vrenhin oedhwn. Ac yma y deuthum yn abit pererines a lhyma’r achaws. Vy nhad, brenhin cywoethawc, galhus oedh, ac a vynnei vy rhoi y wr. A mi a dhywedeis vod yn wrthwyneb gennyf bob priodas, canys mi a cysecrais vyngwyryfdot y Christ yn dragwydhawl. Ac am hynny, ny alhaf gytsynio ac ef o weithredoedh cnawdol. O’r diwedh, ef a’m cymhelhodh y vvudhau, neu ef a dorrai vymhenn ac amravaelion boeneu. Mineu a dhewisseis ymalltvd[io]3 ymalltvd[io]Cf. Pen 225 y mallavdv:gair amwys sydd heb ei gynnwys yn GPC. Awgryma’r ffaith i’r ysgrifydd yn Pen 225 (llaw ddiweddarach o bosibl) danlinellu rhan o’r gair fod ei ystyr yn amwys iddo yntau. Awgrymir yn betrus fod angen ei ddiwygio i ymalltvd[io]. yn gynt nac y torrwn briodas a Duw, ac yn dhirgeledic y phoeais. Ac wrth glywed dy sancteidhrwydh di, yr achupeis dy nawdh gan obeitho caph[ael] cyfle genyt y gynnal buchedh gynhyrchol yn dangneuedhus.’ Rhyvedhu a oruc yr escop ei bonedhigeidhrwydh a’i dirvawr degwch a’r huawdlrwydh ei pharabl, ac atteb ydhei20 ydhei Ffurf amrywiol trydydd unigol benywaidd yr arddodiad rhediadol i(y mewn Cymraeg Canol, gw. GMW 60). yn araf hygar, ‘Nag ofna,’ eb yr ef, ‘canys y neb y gadeweis[t]4 gadeweis[t] Cf. Pen 225 gadeweis. ti dy genetl o’e gariat a rydh yt rat yn y byt hwnn a chyfran o’e ogoniant rhag lhaw. A mineu, ei was ef, a’m rhof vy hvn y wedhio dros d’eneit. A’r cyfle adhewisy y drigaw yndhaw, mi a’i paraf yt, a chyta mi y cini[awa] hedhiw.’ ‘Nag aros ym,’ heb hi ‘rhag tyb a gwaethygu dy glot.’ ‘Nyt ein hvnein y bydhwn’ eb yr ef, ‘onid gyda dynion, ac am hynny ny bydh gogan arnom.’

§7

A dyuot a wnaethant y’r bwrdh a chyferbyn am y bwrdh ac ef yr eistedhawd hi mewn cadeir. A mynych olygon a vwriodh yr escop arni a rhyvedhu y phryt a’e thegwch. Ac val yr oedh ef yn edrych yn ei hwyneb, yr oedh yr hen elyn o’i5 o’i Pen 225: o’u ond fe’i o’i (rhagenw trydydd unigol). hen gofion yn bradychu y galon ynteu. Canys y hatnabod hwy a wnaeth; ac amliwio y thegwch a oruc. Ac val yr oedh yr escop yn chwenychu gwneuthur anghenniatus21 anghenniatusYmddengys mai ansoddair sy’n deillio o fôn y ferf anghaniataf a geir yma, hynny yw, ‘gwaharddedig’, gw. GPC Ar Lein d.g. anghaniataol, angheniataol. weithret ac yn y cyphryt22 cyphrytSef ‘cyffro, ysgydwad’, gw. GPC Ar Lein d.g. cyffryd. Hynny yw, mae’r esgob yn dechrau cyffroi. cyntaf, nychaf ydhoedh pererin yn maedhu’r porth ac erchi egori a wnaeth.23 ac erchi egori a wnaethMae motîff y pererin yn curo deirgwaith ar ddrws y llys yn dwyn i gof Culhwch yn curo ar ddrws llys y Brenin Arthur ac yn cael ei wrthod y ddau dro cyntaf, gw. CO 4–5. A gofyn a oruc yr escop ydhi a oedh gymeredic genthi y elhwng y mewn. Hitheu a dhywot, ‘Gofynner ydhaw gwestiwn cyn y elhwng ac os ettyb yn dha, y elhynger, onyt ettyb, gwrthladhier.’ A’r anheilwng escop a edrychodh yno ar bob tu idhaw pwy a vei deilwng y’w ofyn y’r pererin. Ac wedy na cheid neb, dywedyt a oruc yr escop wrth yr vnbennes, ‘Arglwydhes,’ eb yr ef, ‘nyt oes neb ohonom ni mor amlwc a thydi, canys doeth a huawdl wyt.’ Ac yna y gofynnodh hi y’r pererin, ‘Drwy dy gennat, beth ryfedhaf a wnaeth Duw erioet o vewn troetvedh?’ ‘Wyneb dyn,’ eb y pererin, ‘canys gelhir atnabot pob dyn wrth ei wyneb, er amlet pobul y byt, nyt vn wyneb neb a’i gilydh.24 beth ryfedhaf a wnaeth Duw ... nyt vn wyneb neb a’i gilydh Ceir fersiwn o’r cwestiwn a’r ateb hwn yn y Gorchestion, sef cyfieithiad o’r testun Lladin Ioca Monachorum a gyfieithiwyd i’r Gymraeg tua’r bedwaredd ganrif ar ddeg: Pa droedfedd dekcaf a wnaeth Dyw ar y ddayar hon? Wyneb dyn kans be bai dair mil o bobl ynyr yn lle fo ellir addnabod pawb wrth i wyneb(Bayfield and Bayless 1996: 211), cf. GHDafi 109.65–6. Hevyt, yn yr wyneb y mae holh synwyr y corph.’ Yna y dywot pawb, ‘Gelhwngwch y mewn, canys efo attebodh yn dha.’ ‘Gofynner ydhaw,’ ebyr hitheu, ‘gwestiwn a vo anhaws na hwnnw, val y galhom gael mwy o gyvarwydhyt. Gofynner ydhaw, pwy vchaf, ai’r dhaear, a’r nef?’ Y pererin a dhywot, ‘Vwchaf y dhaear, canys Duw a dhewisawdh gnawt dynawl a phob dyn o’r dhaear, a Duw sydh vwch no’r nefoedh.’25 pwy vchaf, ai’r dhaear, a’r nef? ... Duw sydh vwch no’r nefoedhCeir y cwestiwn a’r ateb hwn yn y Gorchestion, sef cyfieithiad o’r testun Lladin Ioca Monachorum a gyfieithiwyd i’r Gymraeg tua’r bedwaredd ganrif ar ddeg, ond ychydig yn wahanol: Pwy ychaf, ay {dayar} ay awyr? Ycha yw r ddayar kans Dyw a ddewisoedd knawd dyn amdano y hyn a ffob dyn dayar yw (Bayfield and Bayless 1996: 211, 219). ‘Gwir a dhywot,’ ebyr pawb. Hitheu a dhywot, ‘Gofyner ydhaw y trydydh cwestiwn, iawn ydhaw vot ar vwrdh yr escop. Gofyner ydhaw pe sawl milhtir yssydh y rhwng nef ac uf[f]ern.’ Y pererin a dhywot, ‘Dyweit ti26 dyweit ti Ffurf ail unigol gorchmynnol y ferf dweud. yr neb a’i gofynnodh, gwelh y gwyr ef no myvi, canys ef a’i mesurodh pann syrthiodh gyta Lucifer 27 LuciferEnw traddodiadol ar y diafol neu Satan cyn ei gwymp. O ganlyniad, daeth yn air am Satan mewn llenyddiaeth boblogaidd a chrefyddol. o’r nef y dhyfndwr uphern. Ac nyt gwreic yw ond diawl wedy ymrithio yn rhith gwreic’. Ac ar hynny y deuth ef y mewn ac a’i gorchmynodh ef y uffern. A’r escop yna amgerydhodh ac a erchis vadheueint y Dhuw. Ac edrych a welei y pererin, ac ny welei. Ac yna y gwybu’r escop y bot hi yn dhrwc ac mei Duw a sanct a’i canhorthwyassei ac a’i nodhassei ef rhag y cythreul. A lhe dyweter buchedh Andreas, ef a vydh yn gannorthwywr y rheini dhydh brawt, Amen. Nyt yw hynn ond darn ohoni.

1 Iurancolas Enw anhysbys; gelwir ef yn Nicolaus yn y fersiwn Lladin. Gall fod yn amrywiad astrus ar yr enw Nicolas ond y tebyg yw fod ffynhonnell Pen 225 yn wallus, cf. Antirias isod (§5).

2 dywotFfurf trydydd unigol gorffennol y ferf dywedaf: dywedyd.

3 AndreasEnw Groegaidd yw Andreas (er mai Iddew oedd yr apostol yn ôl y traddodiad) a hwn yw’r ffurf a ddefnyddir yn y Testament Newydd (Mathew 4:18). Ceir hefyd yr amrywiad ‘Andras’ yn llenyddiaeth Gymraeg yr Oesoedd Canol ac yn yr enw lle Llanandras; cf. ‘Andrew’ yn y ffynonellau Saesneg. Ymhellach ar hanes y sant, gw. Y Rhagymadrodd.

4 gwrthladh Yr ystyr mwyaf ystyrlon yma yw ‘gyrru ymaith’, cf. gwrthladhier (§7) a GPC Ar Lein d.g. gwrthladd 2.

5 pryt echwydhSef tierce ‘hyd at drydydd awr y dydd (tri o’r gloch)’ neu, yn syml, ‘y prynhawn’, gw. GPC Ar Lein d.g. pryd 1.

6 a dewisFfurf trydydd unigol gorffennol y ferf tawaf: tewi.

7 sach byciedicNi cheir pygiedig yn GPC ond mae’n debyg mai ansoddair o’r ferf pygio ydyw yma, gw. GPC Ar Lein d.g. pygio ‘gorchuddio neu drin (rhywbeth) â phyg’.

8 ony dharphei ydhaw vedhwl Ffurf trydydd unigol amherffaith ddibynnol y ferf darfod yw [d]arphei gyda’r ystyr ‘gorffen, cwblhau’, gw. GPC Ar Lein d.g. darfyddaf. Felly, ystyr y cymal yw ‘hyd nes fod y barnwr wedi dod i benderfyniad’ ynglŷn â chosb Andreas.

9 dihenydh Sef ‘angau drwy gyfraith neu ddedfyd llys barn’, gw. GPC Ar Lein d.g. dihenydd.

10 aruthrawdhFfurf trydydd unigol gorffennol y ferf gyflawn aruthraf: aruthro o’r ansoddair aruthr, ‘arswydo, brawychu’, gw. GPC Ar Lein d.g. aruthraf: aruthro.

11 NigiaTref Roegaidd yn nhalaith hynafol Bithynia, gw. Lewis and Short Online s.v. Nicaea. Mae ei lleoliad yn yr un man â dinas Iznik, Twrci, heddiw.

12 helw‘in my possession’, cf. YBH 232.

13 Ant[io]chia Antioch, dinas Roegaidd sydd heddiw wedi ei lleoli yn Nhwrci. Mae olion y ddinas hynafol i’w gweld ar gyrion dinas Antakya.

14 a gyflawnhaodh Sef ffurf trydydd unigol gorffennol y ferf cyflawnhau, ‘gwneud yn gyflawn, cyflawni; mynd yn gyflawn,’ gw. GPC Ar Lein d.g. cyflawnhau; cf. LlEG Mos 158 534b, yr hrain agyulownhaodd orchymyn i brenin.

15 honno Cyfeirir yma at ddinas Antioch a chan mai gwrywaidd yw cenedl dinas mewn Cymraeg Canol, disgwylir hwnnw yma (ymhellach gw. GMW 34). Gall mai at Antioch fel tref (sy’n enw benywaidd) y cyfeirir.

16 AntiriasEnw’r cymeriad hwn yn y fersiwn Lladin yw Aegeae(LA 16). Ef oedd yn gyfrifol am ladd Andreas wedi iddo ddigio wrth y sant am droi ei wraig yn Gristnoges. Mae’n bosibl fod llaw ddiweddarach yn Pen 225 wedi ceisio cywiro’r enw personol yn ‘{[..]geas}’ ar yr ochr chwith, ond mae’r cywiriad yn anodd iawn i’w weld oherwydd rhwymiad y llawysgrif.

17 browtwrAmrywiad ar brawdwr sef ‘barnwr, ustus, ynad; un sy’n barnu, beirniad’, gw. GPC Ar Lein d.g. brawdwr.

18 Sanct Amrywiad ar sant dan ddylanwad y Lladin sānctus, gw. GPC Ar Lein d.g. sant. Gwelir dylanwad orgraff William Salesbury ar sillafiad rhai geiriau yn Pen 225 wrth i’r ysgrifydd Ladineiddio rhai geiriau Cymraeg (ymhellach gw. Williams 1946: 43).

19 penytentiari Daw o’r Saesneg penitentiary, sef swyddog, cyffeswr neu offeiriad, gw. OED Online s.v. penitentiary.

20 ydhei Ffurf amrywiol trydydd unigol benywaidd yr arddodiad rhediadol i(y mewn Cymraeg Canol, gw. GMW 60).

21 anghenniatusYmddengys mai ansoddair sy’n deillio o fôn y ferf anghaniataf a geir yma, hynny yw, ‘gwaharddedig’, gw. GPC Ar Lein d.g. anghaniataol, angheniataol.

22 cyphrytSef ‘cyffro, ysgydwad’, gw. GPC Ar Lein d.g. cyffryd. Hynny yw, mae’r esgob yn dechrau cyffroi.

23 ac erchi egori a wnaethMae motîff y pererin yn curo deirgwaith ar ddrws y llys yn dwyn i gof Culhwch yn curo ar ddrws llys y Brenin Arthur ac yn cael ei wrthod y ddau dro cyntaf, gw. CO 4–5.

24 beth ryfedhaf a wnaeth Duw ... nyt vn wyneb neb a’i gilydh Ceir fersiwn o’r cwestiwn a’r ateb hwn yn y Gorchestion, sef cyfieithiad o’r testun Lladin Ioca Monachorum a gyfieithiwyd i’r Gymraeg tua’r bedwaredd ganrif ar ddeg: Pa droedfedd dekcaf a wnaeth Dyw ar y ddayar hon? Wyneb dyn kans be bai dair mil o bobl ynyr yn lle fo ellir addnabod pawb wrth i wyneb(Bayfield and Bayless 1996: 211), cf. GHDafi 109.65–6.

25 pwy vchaf, ai’r dhaear, a’r nef? ... Duw sydh vwch no’r nefoedhCeir y cwestiwn a’r ateb hwn yn y Gorchestion, sef cyfieithiad o’r testun Lladin Ioca Monachorum a gyfieithiwyd i’r Gymraeg tua’r bedwaredd ganrif ar ddeg, ond ychydig yn wahanol: Pwy ychaf, ay {dayar} ay awyr? Ycha yw r ddayar kans Dyw a ddewisoedd knawd dyn amdano y hyn a ffob dyn dayar yw (Bayfield and Bayless 1996: 211, 219).

26 dyweit ti Ffurf ail unigol gorchmynnol y ferf dweud.

27 LuciferEnw traddodiadol ar y diafol neu Satan cyn ei gwymp. O ganlyniad, daeth yn air am Satan mewn llenyddiaeth boblogaidd a chrefyddol.

1 Ynilheis[t] Cf. Pen 225 ynilheis; mae angen ei ddiwygio yn ynilheist i roi’r ystyr gorau;.

2 d[h]isciplNi threiglir y gair hwn yn Pen 225.

3 ymalltvd[io]Cf. Pen 225 y mallavdv:gair amwys sydd heb ei gynnwys yn GPC. Awgryma’r ffaith i’r ysgrifydd yn Pen 225 (llaw ddiweddarach o bosibl) danlinellu rhan o’r gair fod ei ystyr yn amwys iddo yntau. Awgrymir yn betrus fod angen ei ddiwygio i ymalltvd[io].

4 gadeweis[t] Cf. Pen 225 gadeweis.

5 o’i Pen 225: o’u ond fe’i o’i (rhagenw trydydd unigol).