Rhagymadrodd Testun golygedig Llawysgrifau English

2. Canu Tysilio

golygwyd gan Ann Parry Owen

Rhagymadrodd

Cyhoeddwyd golygiad o’r awdl hon gan Ann Parry Owen yng Nghyfres Beirdd y Tywysogion (GCBM i, cerdd 3) a thrafodwyd ei chefndir ymhellach yn Parry Owen 1992: 15–50, ac yna’n ddiweddarach gan Nerys Ann Jones a Morfydd E. Owen mewn erthygl yn gosod y tair cerdd gan Feirdd y Tywysogion i’r saint yn eu cyd-destun gwleidyddol a hanesyddol yn y ddeuddegfed ganrif: Jones and Owen 2003: 45–76. Dadleuwyd yno mai cerdd a ganwyd yng Ngwynedd oedd hon, nid ym Mhowys fel yr awgrymwyd gan Parry Owen, ac fe’i lleolwyd ganddynt ‘not in the court of the prince of Powys sometime during the reign of Madog, … but in Gwynedd, probably in the last decade of the reign of Owain Gwynedd who died in 1170’ (ibid. 59–60). Roedd Powys wedi wynebu cyfnod o argyfwng ar ôl marwolaeth y Tywysog Madog ap Maredudd yn 1160 a llofruddiaeth ei fab a’i etifedd, Llywelyn, ychydig fisoedd yn ddiweddarach. Rhannwyd y dalaith rhwng y disgynyddion, a thra bod ymrafael mewnol rhyngddynt am oruchafiaeth, fe’i gwanhawyd yn ddirfawr. Mawr oedd y bygythiad i’r Bowys ranedig hon gan y Saeson dros y ffin a chan Wynedd yn y gorllewin a oedd yn prysur gynyddu mewn grym, a dehonglwyd Canu Tysilio fel ple i Owain Gwynedd, prif noddwr Cynddelw erbyn ail hanner y 1160au, i warchod buddiannau ei eglwys ym Meifod. Crynhoir y ddadl yn Stephenson 2016: 66–7:

The necessity for the extension of Venedotian control over Powys appears to

provide the most convincing context for the composition of Canu Tysilio,

which may be interpreted as a prospectus for, or a justification for, the

intervention of Owain Gwynedd, the Prydain ddragon of the poem. Tysilio’s

church at Meifod was presented as part of a continuum of places associated

with the saint, and several key locations of that continuum were presented as

lying in the realm of Owain Gwynedd – particularly in Anglesey and

Eifionydd. Effectively the poem places Meifod under Venedotian protection

and control.

Dibynna’r ddadl, i raddau helaeth, ar dderbyn mai o bersbectif Gwynedd y canwyd yr awdl. Dadleuwyd yn Jones and Owen 2003: 59–60 fod y disgrifiad o leoliad Meifod Ger y mae Gwyddfarch uch Gwynedd (ll. 46) yn lleoli’r eglwys ‘y tu draw i Wynedd’ o bersbectif y bardd a’i gynulleidfa yn llys Owain Gwynedd. Ond tybed ai lleoli Meifod o berspectif Tysilio, a oedd wedi encilio i Wynedd am gyfnod i ddianc rhag ei dad ac, yn ddiweddarach, rhag ei chwaer yng nghyfraith gas, a wna Cynddelw mewn gwirionedd? Dyma’r union bwnc a drafodwyd gan y bardd yn gynharach yn y caniad cyntaf hwn, lle disgrifiwyd [c]archar alltudedd y sant (ll. 21). Fel y dysgwn mewn deunydd bucheddol a gadwyd yn Llydaw (gw. n70(e)), ar ôl dianc i ardal y Fenai, bu’n rhaid i Dysilio ddychwelyd i Feifod ar ôl saith mlynedd gan fod ei hen athro, Gwyddfarch, yn bygwth mynd ar bererindod i Rufain gan adael Meifod yn ddibennaeth am gyfnod. Addawodd Tysilio wrth Wyddfarch petai’n aros ym Meifod y câi weld Rhufain oddi yno; ac arweiniodd ei hen athro i fryncyn gerllaw’r eglwys lle cafodd weledigaeth o’r ddinas honno gyda’i hadeiladau mawreddog. Onid yng nghyd-destun yr hanes hwn y dylid deall llinell 46 (hynny yw, o bersbectif Tysilio a oedd ym Môn ac yn gorfod teithio y tu draw i Wynedd er mwyn dychwelyd i Feifod), yn hytrach nag yng nghyd-destun y ddeuddegfed ganrif? Yn yr un modd gellid dehongli’r llinell Periglawr peryglus Wyndyd (ll. 173) yn ddisgrifiad o Dysilio tra bu yn ei alltudiaeth yng Ngwynedd; gelwir ef yn Post Powys, pergyng cedernyd yn llinell 193 a chyfeirio at y cyfnod a dreuliodd yn ardal Pen Mynydd (o bosibl ym Môn, ond nid yw hynny’n hollol sicr, gw. n83(e)). Dichon mai pwysleisio awdurdod y sant dros y ddwy deyrnas a wneir yn y cyfeiriadau hyn, gan hyrwyddo ei gwlt yn ei gyfanrwydd. Deellir y llinell Gorpu nef yn Eifionydd dudded (ll. 20) yn Jones and Owen 2003: 59 yn gyfeiriad at leoliad marwolaeth y sant. Ond gan mai topos yn y farddoniaeth yw cyfeirio at fywyd mewn eglwys fel ‘nefoedd’ (gw. n8(e)), mae’n ddigon posibl mai cyfeirio at eglwys y treuliodd Tysilio amser ynddi a wna Cynddelw (cf. ar llan Llydaw, n64(e)). Os cywir mai yn Eifionydd y bu farw – ni chafwyd unrhyw dystiolaeth i ategu hynny – yna mae’n debygol iawn fod ei gorff wedi ei ddychwelyd i Feifod, y brif eglwys a gysylltir â’i gwlt, i’w gladdu.

Gwelir, felly, fod tystiolaeth y gerdd yn amwys ac nad oes dadl gref dros wrthod mai gwaith a gomisiynodd Madog ap Maredudd, tywysog Powys, gan ei bencerdd, Cynddelw Brydydd Mawr, yw’r awdl fawreddog hon, a hynny er mwyn dyrchafu bri a statws eglwys Meifod fel prif eglwys Powys, yn ogystal â Thysilio fel ei phrif sant. Mae’r wybodaeth fanwl a ddangosir ynddi o hanes llinach frenhinol Powys, a’r modd y cyflwynir Tysilio ei hun fel aelod blaenllaw o’r llinach hon drwy gyfeirio at ei ran allweddol yn ennill buddugoliaeth i Bowys yn erbyn Northumbria ym mrwydr hanesyddol Maes Gogwy c.642 (gw. n48(e)), yn awgrymu’n gryf mai llys brenhinol Powys, nid Gwynedd, yw cyd-destun deallusol y gerdd. Ac fel y nododd Rachel Bromwich (TYP4 xcvii), mae’r wybodaeth am hanes gorffennol Powys, yn arbennig yn y caniad am Waith Cogwy, yn dyst i’r ‘especially lively interest in the older heroic traditions at the court of Madog ap Maredudd in the mid-twelfth century’ (gw. y nodiadau ar ganiad IV isod).

O osod y gerdd ym mlynyddoedd olaf teyrnasiad Madog ap Maredudd, c.1156–60, byddai hyn yn cyd-daro â’r gwaith ailadeiladu uchelgeisiol yr ymgymerodd Madog ag ef ym Meifod, pan aeth ati i geisio dyrchafu statws yr hen eglwys glas hon drwy gyflwyno agweddau pensaernïol cyfoes a rhyngwladol ynddi. Yn Stephenson 2016: 54–5 cysylltwyd y gwaith adeiladu hwn â’r cysegriad i Fair yn 1156:

The dedication itself was significant for it indicated that Madog was aligning

his new church with the international cult of the Virgin and thus announcing

his presence as a ruler whose influence was more than local. He was the

patron of a church whose new dedication was the same as that of the

Cistercian abbeys …

Awgrymwyd ymhellach gan Malcolm Thurlby fod cyfeiriad Cynddelw at weledigaeth Gwyddfarch o Rufain gan yn ymgais arall i ddyrchafu eglwys Tysilio, drwy honni bod perthynas uniongyrchol rhwng yr hen eglwys glas ym Meifod a Rhufain: ‘This must surely be read as a strong statement in favour of the clas church, in that Meifod was associated with Rome without any Norman intermediary to impose or supervise Gregorian reform’ (gw. Thurlby 2006: 248–9 a ddyfynnir yn Stephenson 2016: 54–5).

Ymddengys mai yn y cyfnod hwn, hefyd, y cododd Madog ap Maredudd ei gastell ym Mathrafal, ychydig i’r de o Feifod: ‘Within the heartland of Powys, Madog was responsible in 1156 for the construction of a castle near a cymer, or confluence of two rivers, in Caereinion, and this can be identified with some confidence as the significant fortification at Mathrafal’ (ibid. 51).

Mae’r elfennau hyn oll yn awgrymu mai uchelgais Madog ap Maredudd ym mlynyddoedd olaf ei yrfa oedd creu canolbwynt grym iddo’i hun yn nyffryn Meifod, i’w drosglwyddo ymhen amser i’w fab ac etifedd, Llywelyn.

Diddorol hefyd yw’r sylw a roddir gan Gynddelw i fynwent Meifod, gwyddfa (‘man claddu’) brenhinedd (ll. 48). Yn Stephenson 2016: 54, disgrifir lleoliad yr eglwys o fewn ‘an exceptionally large curvilinear churchyard suggestive of great antiquity’ a digon credadwy, felly, yw’r traddodiad iddi fod yn fan claddu pwysig ar gyfer brenhinoedd Powys yn y gorffennol. Yno y claddwyd Madog ap Maredudd ei hun yn 1160 – BT (RB) 140: Ac yMeivot, yn y lle yd oed y wydua, yn eglwys Tissilyaw sant y cladwyt yn enrydedus. Eto i gyd, ar wahân i’w maint, a disgrifiad Cynddelw ohoni, ni chafwyd tystiolaeth gadarn fod y fynwent wedi ei defnyddio fel man claddu tywysogion Powys cyn dyddiau Madog, er bod Stephenson 2016: 223 yn awgrymu ei bod hi’n debygol mai yno y claddwyd tad Madog, Maredudd ap Bleddyn ap Cynfyn. Rhywbryd rhwng 1132 a 1151 cyflwynodd Madog rodd i eglwys Trefeglwys, Arwystli (Pryce 1993: 15–54, yn arbennig 51), ond nid yw hynny’n gwanhau’r ddadl o blaid gweld Madog yn noddwr Meifod, oherwydd byddai tywysogion yn aml yn cyflwyno rhoddion i fwy nag un sefydliad. (Yn achos y siartr i Drefeglwys, mae’n debygol fod Madog am bwysleisio ei awdurdod fel penarglwydd Arwystli, teyrnas a orweddai y tu allan i gadarnleoedd Powys ei hun; a thrwy ei alw ei hun yn rex Powissensium ‘brenin trigolion Powys’ dichon ei fod am gynnwys trigolion Arwystli yn rhan o bobl Powys.) Tybed ai agwedd ar uchelgais Madog i greu canolfan grym ym Meifod-Mathrafal oedd datblygu mynwent Meifod yn fan claddu ar gyfer tywysogion Powys? Ac a welir Cynddelw yn yr awdl hon yn cyflawni elfen yn y comisiwn a dderbyniodd gan ei dywysog drwy hyrwyddo’r syniad hwnnw?

Yn y nawfed caniad, molir arweinwyr cyfoes eglwys Meifod, gan gyfeirio’n benodol at yr abad, sy’n ŵr lleol (ll. 225 Ei hynaf henyw o’i thirion); at y prior hael (sygynnab, ll. 227), sy’n mwynhau moliant y beirdd; ac at Archddiacon Caradog, sydd â gofal dros drigolion Powys (llau. 229–32), yntau’n hanfod o linach fonheddig leol (gw. n95(e)). Mae’n amlwg mai Meifod oedd canolfan archddiaconiaeth Powys (Stephenson 2016: 55), a oedd yn ei thro yn rhan o esgobaeth Llanelwy a sefydlwyd yn 1141. Mae’n debygol iawn mai Meifod, felly, yw’r Llan Bowys y cyfeirir ati gan Gynddelw yn ll. 153. Awgrymir yn Stephenson 2016: 56 fod Madog ap Maredudd wedi mynd ati, ym mlynyddoedd olaf ei deyrnasiad, i atgyfnerthu’r archddiaconiaeth hon gan sicrhau ‘that should the episcopal seat [h.y. Llanelwy] – liable to influence from both the earldom of Chester and the expanding realm of Gwynedd – fall into hostile hands, Powys would still be under the effective control of an ecclesiastical officer based at Meifod’.

Cesglir, felly, mai blynyddoedd olaf teyrnasiad Tywysog Madog ap Maredudd (sef 1156–60) yw cyd-destun mwyaf tebygol yr awdl fawreddog hon gan Gynddelw, pan oedd y tywysog yn amlwg yn ceisio datblygu canolfan ei rym ym Meifod a Mathrafal. Dichon mai ef a gomisiynodd y gerdd gan ei bencerdd, Cynddelw, i hyrwyddo rhan bwysig Meifod, ei heglwys a’i mynwent, yn y weledigaeth hon.

Fel y nodwyd eisoes, nid yw buchedd Tysilio wedi goroesi yng Nghymru; er hynny mae’r wybodaeth amdano a geir gan Gynddelw yn yr awdl hon yn awgrymu bod ei hanes yn hysbys yn llys brenhinol Powys yng nghanol y ddeuddegfed ganrif. Mae’r modd y mae’r bardd yn cyfeirio’n fyr, heb fawr o esboniad, at hanesion am y sant – megis yr hanes am wyrth yr anifeiliaid yn rhewi yn eu hunfan mewn cae (llau. 190–2) – yn awgrym cryf fod ei gynulleidfa yn gyfarwydd â’r hanesion hynny. Tybed a luniwyd buchedd ysgrifenedig i Dysilio yn y cyfnod hwn, dan nawdd Madog ap Maredudd? Ac a gludwyd fersiwn o’r fuchedd (?Ladin) honno i Lydaw a’i defnyddio er mwyn llunio hanes y seintiau Suliac a Sulin / Suliau? (Gw. SoC am drafodaeth fanwl am y deunydd Llydewig, a cf. Sims-Williams 2018: 50, ‘The Welsh Vita of Tysilio, which the Bretons adapted to fit St Sulian, is lost, but Cynddelw’s poem in praise of Tysilio and Meifod leaves no doubt that such a Vita existed by c.1160.’) Gallwn fod yn weddol hyderus mai copi ysgrifenedig o’r fuchedd honno a aeth i Lydaw, fel yr awgryma orgraff Hen Gymraeg rhai o’r enwau priod yn fersiwn Le Grand o ‘La Vie de Saint Suliau ou Syliau’ sy’n dyddio o’r ail ganrif ar bymtheg, ond a seiliwyd ar ddeunydd llawer cynharach (gw. Le Grand 1837: 481–5, lle ceir ffurfiau megis Brocmail, Meibot, Guymarch / Guymarcus, Mené). Os ysbrydolwyd yr hanes am y weledigaeth Gwyddfarch o Rufain ym Meifod gan yr elfennau newydd a Romanésg a gyflwynwyd i adeiladwaith eglwys Meifod ar ddiwedd y 1150au, yna mae’n debygol fod y fuchedd yn ogystal ag awdl Cynddelw yn perthyn i flynyddoedd olaf teyrnasiad Madog. Byddai’r ffaith fod y ddwy yn gynnyrch yr un llys cyfoes yn esbonio’r gydberthynas agos rhyngddynt. Fel y gwelir yn y nodiadau ar y testun, mae llawer o’r wybodaeth a geir yn y deunydd bucheddol Llydewig yn taflu goleuni ar sawl llinell yn yr awdl hon.

Dyddiad
Blynyddoedd olaf teyrnasiad Madog ap Maredudd, tywysog Powys, c.1156–60.

Golygiadau blaenorol
HG Cref cerdd XVI; CTC 5–8, 258–60; GCBM i, cerdd 3.

Crynodeb o’r gerdd
Caniad I (1–52)
Agorir drwy gyfarch Duw a fydd yn dwyn y bardd i’r nefoedd (1–8). Ail rodd Duw i’w fardd fydd awen i ganu moliant i Dysilio (9–14). Sonnir am wyrth genedigaeth y sant (15–16) ac enwir ei rieni brenhinol, Garddun a Brochfael (17, 19). Sonnir am ei daith i alltudiaeth er mwyn dianc rhag gwarth ac ymwrthod â merched (21–8), a chyfeirir yn benodol at wraig gas a’i herlidiodd (29–32). Addewir dial ar bobl ddrwg (33–6), a dywedir y bydd Tysilio a’i ddilynwyr wastad yn sefyll yn gadarn yn erbyn drygioni ac yn cynnal llys haelionus (37–40). Clöir y caniad gyda disgrifiad o Feifod, ei mynwent frenhinol, a’r gwŷr dewr sy’n ei hamddiffyn (45–52).

Caniad II (53–82)
Molir eglwys Meifod, ei lleoliad, ei hoffeiriaid a’i gwasanaethau (53–64), gan wrthgyferbynnu ei diogelwch ag uffern a lethir gan blâu, tân a phoen (65–70). Ceir addewid personol gan y bardd i gymodi â Duw cyn diwedd oes, fel y gall dderbyn maddeuant Duw ar Ddydd y Farn (71–8). Daw’r caniad i ben gan fynegi bwriad i ganu cerdd newydd i’w arglwydd (rhebydd, ll. 81 – ai Duw neu Dysilio?), geiriau a gâi eu hadleisio ychydig flynyddoedd yn ddiweddarach gan Wynfardd Brycheiniog ar ddechrau ei awdl yntau i Ddewi Sant.

Caniad III (83–110)
Disgrifia Cynddelw y parch a ddangosir tuag ato wrth iddo gyflwyno ei gerdd i Dysilio ym Meifod (83–6), cyn moli harddwch yr eglwys, yn enwedig yng ngolau canhwyllau ar adeg gŵyl (84–92). Dywedir y bydd dial didostur ar unrhyw un a feiddiai ymosod arni (93–6). Yna sonnir yn fwy penodol am y sefyllfa beryglus yr ydym i gyd ynddi yn ein pechod (97–100), a chlöir y caniad gyda chyfres o linellau yn hyderu y bydd Duw yn gwobrwyo’r rhai yr amlygir gwerthoedd Crist yn eu bywydau (101–10).

Caniad IV (111–34)
Ar ôl cyflwyno Tysilio fel yr un a fydd yn ein croesawu ar Ddydd y Farn, neilltuir gweddill y caniad i ddisgrifio rhan y sant fel arweinydd milwrol a arweiniodd fyddin Powys i fuddugoliaeth yn erbyn Northumbria ym mrwydr Gwaith Cogwy.

Caniad V (135–54)
Sonnir am enciliad neu alltudiaeth Tysilio i Fôn (135–8) yna ceir pedair llinell, nodweddiadol iawn o lais Cynddelw, lle mae’n cadarnhau ei swyddogaeth fel bardd brenhinol yn canu i Dysilio sydd yntau o dras brenhinol, yn ŵyr i Gyngen (139–42). Mae’r ddau gwpled nesaf (143–6) yn amwys – ai sôn a wnânt am enciliad terfynol Tysilio i eglwys Meifod (heb ei henwi) lle cafodd groeso’r saint cyn ei farwolaeth? Daw’r caniad i ben gyda rhestr o’r eglwysi a sefydlodd, ond nid yw’n hawdd eu hadnabod (147–54).

Caniad VI (155–70)
Molir pennaeth yr eglwys, sy’n cynnal y beirdd ac y mae ei foliant yn wych (155–8); a molir harddwch Meifod sydd wedi ei hamgylchynu gan ei mynwent (159–60). Disgrifir gweledigaeth o Rufain a gafwyd (gan Wyddfarch, ond nis henwir) a molir y ddinas bell honno, gan ei huniaethu yn y dychymyg â Meifod (161–70).

Caniad VII (171–96)
Molir pennaeth Meifod sy’n croesawu ymwelwyr (?pererinion) gyda’u rhoddion (171–2). Cyfeirir at y ffaith fod gofal Tysilio yn ymestyn dros drigolion Gwynedd a’i fod yn haeddu mawl y beirdd a fydd yn parhau (173–6). Uniaetha Cynddelw â’r gynulleidfa y mae’r sant wedi eu harwain at Dduw, a chyfeiria’n arbennig at y bendithion a dderbynia drwy’r sant a’i eglwys (177–84). Disgrifir dwy wyrth a gyflawnodd Tysilio (185–92) a diweddir drwy ei ddisgrifio fel cynheiliad Powys, un a dreuliodd beth o’i febyd ym Mhen Mynydd (193–6).

Caniad VIII (197–210)
Ar ôl cadarnhau ei ymlyniad i Dysilio, y Penydwr pennaf ei grefydd (197), ceir cyfres o gwpledi’n adleisio’r Credo, a’r bardd yn cadarnhau ei ffydd yn Nuw a’i dyrchafodd o fod yn fardd syml, purawr, i fod yn brydydd (201–10).

Caniad IX (211–42)
Agorir y caniad olaf gyda Chynddelw yn cadarnhau ei statws fel bardd o’r radd uchaf (211–12) sy’n elwa o haelioni ei noddwr (Madog ap Maredudd) wrth iddo rannu ei geffylau gorau ag ef (213–18). Molir croeso a haelioni Meifod ar gyfer milwyr a thrigolion Powys (219–22), a manylir ar benaethiaid yr eglwys, ei habad (hynaf), ei phrior (sygynnab) a’i harchddiagon, Caradog (223–32). Daw’r awdl i ben drwy uniaethu Meifod â’r nefoedd (233–42).

Mesur a chynghanedd
Ymranna’r awdl faith hon yn naw caniad sy’n cynnwys prifodlau gwahanol. Canwyd y cyfan ar un mesur yn unig, y gyhydedd fer, sef ‘cwpledau o linellau 8 sillaf yn unodl oll … a thri churiad yn y llinell’, CD 334. Mae’r llinellau yn rheolaidd iawn o ran eu curiadau a’u hyd, a chymharol brin yw’r llinellau afreolaidd.

Ceir trawiad cynganeddol ym mhob llinell: un ai cytseinedd, yn enwedig ar ganol llinell (cynghanedd braidd gyffwrdd); odl fewnol, weithiau’n llunio cynghanedd lusg; neu gyfuniad o gytseinedd ac odl (yn llunio cynghanedd sain, gan amlaf yn bengoll). Tynnir sylw yn y nodiadau at linellau lle mae ystyriaethau cynganeddol yn effeithio ar ddarlleniad neu ystyr.

Caniad I (1–52): 52 llinell ar y brifodl -edd. Ceir cyrch-gymeriad rhwng diwedd y caniad hwn a dechrau’r nesaf (medd! / Nis medd).

Caniad II (53–82): 30 llinell ar y brifodl -aint. Ceir cyrch-gymeriad rhwng diwedd y caniad hwn a dechrau’r nesaf (bylgaint. / Pylgeinau).

Caniad III (83–110): 28 llinell ar y brifodl -ir. Ceir cyrch-gymeriad geiriol rhwng diwedd y caniad a dechrau’r nesaf (enwir. / Enwir).

Caniad IV (111–34): 24 llinell ar y brifodl -yn. Cysylltir diwedd y caniad â dechrau’r nesaf drwy ffurf ar yr arddodiad can (gennyn! / Can).

Caniad V (135–54): 20 llinell ar y brifodl -en. Cysylltir diwedd y caniad â dechrau’r nesaf drwy gyrch-gymeriad geiriol (berchen. / Perchen).

Caniad VI (155–70): 16 llinell ar y brifodl -awd. Ai cyswllt synhwyrol a geir rhwng diwedd y caniad hwn a dechrau’r nesaf (bererindawd. / Peniadur cerygl), neu ai cytseinedd treigledig?

Caniad VII (171–96): 26 llinell ar y brifodl -yd. Cysylltir diwedd y caniad â dechrau’r nesaf drwy gyrch-gymeriad geiriol (penyd! / Penydwr).

Caniad VIII (197–210): 14 llinell ar y brifodl -ydd. Cysylltir diwedd y caniad â dechrau’r nesaf drwy gyrch-gymeriad geiriol (yn brydydd. / Prydydd).

Caniad IX (211–42): 32 llinell ar y brifodl -on. Nid yw diwedd yr awdl yn cyrchu’n amlwg i ddechrau’r gerdd, ac eithrio’r ffaith mai am Dduw y sonnir yn y ddau le.

Nodyn ar yr aralleiriad
Mae’r aralleiriad a gynigir yn weddol lythrennol, ond weithiau rhoddir blaenoriaeth i aralleirio ystyr brawddeg, yn hytrach nag aralleirio geiriau unigol gan ddilyn union drefn y geiriau neu’r ymadroddion yn y testun. Cynigir aralleiriad mwy llythrennol yn GLlF.