4. Mawl i Ddewi Sant
golygwyd gan Dafydd Johnston
Rhagymadrodd
Ar ddechrau’r gerdd hon mae’r bardd yn mynegi ei ddymuniad i fynd ar bererindod i Jerwsalem er lles ei enaid, ond yn cyfaddef hefyd fod y daith yn ormod iddo oherwydd ei henaint. Yr ateb i’w gyfyng-gyngor yw’r gred fod tri phererindod i Dyddewi yn gyfwerth ag un i Jerwsalem. Molir Tyddewi fel paradwys Gymru, gyda phwyslais ar y gerddoriaeth yn yr eglwys gadeiriol, ac yna adroddir hanes bywyd Dewi Sant er mwyn profi grym ysbrydol ei gysegrfan. Mae’r rhan fwyaf o gynnwys y rhan hon o’r gerdd yn cyfateb i’r bucheddau Lladin a Chymraeg, sef y rhybudd i Badrig ymadael â Mynyw ddeng mlynedd ar hugain cyn geni Dewi, y gwyrthiau adeg geni Dewi, ei rieni, ei asgetigiaeth, hanes y senedd yn Llanddewibrefi a’r bryn yn codi dan draed Dewi pan oedd yn pregethu yno, bendithio’r ffynnon yng Nghaerfaddon, a’i farwolaeth ar Galan Mawrth. Sonnir hefyd am hanesion nas ceir yn y bucheddau ond y cyfeirir atynt gan feirdd eraill (gw. DewiGB, DewiIRh, DewiLGC1 a DewiLGC2), sef caniatáu i’r Cymry fwyta’r gwyn(i)ad yn ystod y Grawys, a gwyrthiau’n ymwneud â rheoli adar a cheirw. Ac mae un hanesyn nas ceir yn unman arall, am ryddhau dau bechadur a drowyd yn fleiddiaid. Mae’n amlwg, felly, fod y bardd yn tynnu ar draddodiadau llafar am Ddewi, yn ogystal â ffynonellau ysgrifenedig. Mae diweddglo’r gerdd yn dopos rhethregol sy’n cyfleu annichonoldeb adrodd holl wyrthiau’r sant.
Priodolir y gerdd i Iolo Goch ym mhob llawysgrif, gan gynnwys un o’r bymthegfed ganrif. Serch hynny, fe’i gosododd Henry Lewis mewn adran o gerddi o awduraeth ansicr, gan ddadlau mai genre nodweddiadol o’r bymthegfed ganrif oedd y cywyddau i’r seintiau, a bod y rhan fwyaf ohonynt gan feirdd yr oedd eu hardal yn agos i fangre’r seintiau (IGE1 lxvi–vii). Ond fel y dadleuwyd yn GIG 341–2, awgryma’r syniad o daith i Dyddewi nad bardd lleol oedd yr awdur. Nodweddion arddull cywyddau’r bedwaredd ganrif ar ddeg sydd ar y gerdd, sef brawddegau estynedig (e.e. llau. 1–6, 27–32, 47–52, 73–82, 101–10), sangiadau (e.e. llau. 9, 19, 50, 53), geiriau cyfansawdd (e.e. llau. 4, 26, 43, 59, 82) a chyfran uchel o gynghanedd sain, ac felly ni welir rheswm digonol dros amau priodoliad y llawysgrifau.
Dyddiad
Degawdau olaf gyrfa Iolo Goch, c.1380 × 1400.
Golygiad blaenorol
GIG cerdd XXIX; IGP cerdd 29.
Mesur a chynghanedd
Cywydd, 110 llinell. Cynghanedd: croes 26% (29 ll.), traws 29% (32 ll.), sain 41% (45 ll.), llusg 4% (4 ll.).