24. Moliant i Bedr o Rosyr
golygwyd gan Eurig Salisbury
Llawysgrifau
Ceir y gerdd hon mewn wyth o lawysgrifau. Seiliwyd y golygiad ar dystiolaeth pedair llawysgrif, sef C 2.114 (1564–6), C 4.110 (1771–95), LlGC 3048D (c.1644–50) a LlGC 21248D (c.1630). Bernir bod testunau pob un o’r llawysgrifau hyn yn deillio naill ai’n uniongyrchol neu’n anuniongyrchol o’r un gynsail ysgrifenedig (stema).
Ar hyd llwybr anuniongyrchol y daeth testun C 4.110 i law, a dilyn yr hyn a nodir gan y copïydd, David Ellis, ar dudalen 210, sef iddo godi cynnwys ail ran y llawysgrif o lyfr Hugh Hughes. Roedd Hugh Hughes, bardd a hynafiaethydd o Fôn a elwid y Bardd Coch, yn fyw rhwng 1693 ac 1776. Ac yntau’n gasglwr llawysgrifau, gall fod y gynsail ei hun yn ei feddiant, ond mae safon gyffredinol sâl y testun yn C 4.110 yn awgrymu’n gryf mai Hugh ei hun, a oedd yn gopïydd toreithiog, a gododd y gerdd i lawysgrif goll (a elwir X1 yma) o ffynhonnell hŷn.
Rhoddwyd mwy o bwyslais wrth lunio’r golygiad ar dystiolaeth y tair llawysgrif arall. Ni cheir dim gwybodaeth am eu ffynhonnell
neu ffynonellau, ac ni chredir bod yr un ohonynt yn rhagori ar y lleill, ond mae safon y tri thestun yn bur dda. Mae’r ffaith
fod cywydd marwnad anolygedig gan Ieuan Môn i’w gyd-fardd, Robin Ddu, yn rhagflaenu’r gerdd yn C 2.114 ac yn C 4.110, a bod cerdd Ieuan Môn yn LlGC 21248D hefyd, yn awgrymu bod y cerddi hynny yn y gynsail. Testun arall a geid yn y gynsail, yn ôl pob tebyg, oedd
y gerdd sy’n dilyn cywydd Lewys Daron yn C 4.110, sef cywydd mawl Syr Siôn Leiaf i Risiart Cyffin, deon Bangor, sy’n cynnwys dychan i Guto’r Glyn, Hywel Grythor a Gwerful Mechain, dan y teitl cywydd beuno (golygwyd gan Salisbury 2011: 101–18). Roedd y gerdd honno yn ffynhonnell LlGC 21248D hefyd, oherwydd ymddengys fod y copïydd, Richard Cynwal, wedi dechrau cofnodi’r un teitl ar ôl cerdd Lewys Daron, cyn iddo newid ei feddwl a chopïo cerdd arall: kowydd bevno. (Yn sgil hynny, gellir ychwanegu ffynhonnell goll rhwng C 4.110 a’r llawysgrif a elwir X2 yn stema’r golygiad o gywydd Syr Siôn, ibid. 105. Yn yr un modd, a dilyn stema’r gerdd a olygir yma, gellir ychwanegu ffynhonnell goll arall rhwng C 4.110 a LlGC
670D. Nid yw’r newidiadau hyn yn effeithio ar destun y golygiad hwnnw.)
Ni nodir LlGC 21248D, nas ceir yng nghofnod cyfrolau MCF ar y gerdd hon, ymhlith ffynonellau GLD, cerdd 28. Seiliodd G. Hartwell Jones (1912: 320–1) ei olygiad o’r gerdd hon ar destun C 4.110, gan nodi darlleniadau amrywiol o C 2.114, a seiliodd Myrddin Fardd (Jones 1905: 189–90) ei olygiad yntau ar destun LlGC 18334E. Atgynhyrchwyd testun LlGC 3048D gan Roberts (1969: 3–4; at hynny, nododd yn ei restr o ffynonellau eraill i’r gerdd hon un lawysgrif o’r enw ‘C 1, 70’, sef camgymeriad, efallai, am C 1.20, er iddo nodi honno fel ‘C 1, 20’).
Teitl
Gw. C 2.114
kowydd moliant i bedyr o rossvr, LlGC 3048D
Cow’ i Siaint Pedr o Rosur ym Môn, a ddilynir yn nheitl y golygiad. Cf. hefyd deitl moel LlGC 21248D
kowydd i bedr a theitl cynhwysfawr C 4.110
Cywydd Mawl i Bedr Sant, yn Rhosyr, neu Newbwrch yn Swydd Fôn.
Y llawysgrifau
C 1.20, 78 (Elizabeth Phillips, 1850)
C 2.114, 760‒2 (X51, 1564–6)
C 4.110, 196‒7 (David Ellis, 1771–95)
J 139, 17 (X2, c.1630)
LlGC 670D, 279 (William Jones, 19g.)
LlGC 3048D, 70‒2 (William Bodwrda, c.1644–50)
LlGC 18334E, 35 (anh., 20g.)
LlGC 21248D, 54v‒56r (Richard Cynwal, c.1630)