24. Moliant i Bedr o Rosyr
golygwyd gan Eurig Salisbury
Rhagymadrodd
Cywydd mawl yw hwn gan Lewys Daron i Bedr, nawddsant eglwys Llanbedr Niwbwrch ar gyrion gorllewinol Niwbwrch ym Môn, dafliad carreg o hen lys tywysogion Gwynedd. Enwir Niwbwrch unwaith a Rhosyr ddwywaith (llau. 38, 63, 66), ac mae’n eglur mai dau enw ar yr un lle ydynt (cf. DG.net 18.2, 7). Roedd Rhosyr yn enw ar un o dri chantref Môn yn ogystal â chanolfan weinyddol y cantref, a weddnewidiwyd a’i hailenwi’n Newborough yn sgil adleoli trigolion Llan-faes gan Edward I yn dilyn y goncwest. Ni cheir cerdd arall debyg i Bedr, un o brif seintiau’r byd Cristnogol, ond ceir cyfeiriadau mynych ato yng ngwaith y beirdd, yn bennaf fel porthor y nefoedd (cf. GMB 4.25–6; GMD 7.35; GTP Atodiad V.54; TA LXXVII.108; GLD 14.72, 21.88). Noder hefyd fod Dafydd ap Gwilym wedi ymweld â Niwbwrch ar ŵyl Bedr (29 Mehefin) yn ôl y cywydd digrif a ganodd yn sgil sarhau ei was (DG.net 74.1).
Molir Pedr gan Lewys Daron fel ceidwad drysau’r nefoedd ac fel y pab cyntaf, a ordeiniwyd, yn ôl Efengyl Mathew, gan Grist. Sefydlir hyn oll yn llinellau cyntaf y gerdd (1–8), cyn manylu ar ddau hanesyn Beiblaidd, sef hanes Pedr yn gwadu Crist (9–16) a hanes carcharu’r sant gan Herod a’i ryddhau gan angel gwarcheidiol (17–28). Troir wedyn i foli eglwys Pedr yn Rhosyr, gan roi sylw penodol i’w rhinweddau iachusol (37–54). Molir Pedr drachefn (55–61) cyn dychwelyd at Niwbwrch, gan fanylu’r tro hwn ar ragoriaethau ei thrigolion (62–72). Ymbil ar y sant i roi rhwydd hynt i’r bobl hynny drwy byrth y nefoedd yw byrdwn y llinellau olaf (73–6). Y tebyg yw mai offeiriad anhysbys yr eglwys, gŵr y cyfeirir ato yn llinell 62 fel tenant i Bedr, oedd noddwr y gerdd.
Honnodd Williams (1976: 491), ar sail golygiad Jones (1912: 320–1) o’r gerdd hon, fod ‘image’ o Bedr yn arfer sefyll yn yr eglwys yn Niwbwrch ac, ar sail hynny, honnodd Carr (1982: 295) fod ‘statue’ o’r sant yno gynt. Ni cheir dim yn y gerdd i gefnogi’r honiad, ond nid yw’n amhosibl fod delwedd o’r sant i’w gweld yn yr eglwys un tro. Ar bensaernïaeth yr eglwys, a adeiladwyd yn y ddeuddegfed ganrif, o bosibl, a’i chysegru’n wreiddiol i Anno, gw. RCAHM(Ang) 118–19; Haslam et al. 2009: 201–2. Gall fod a wnelo’r gerdd hon â gwaith adeiladu a wnaethpwyd yno c.1500.
Dyddiad
Roedd Lewys Daron yn ei flodau c.1495–c.1530 (GLD xvii–xx). Gall fod y gerdd wedi ei chanu c.1500, pan wnaethpwyd gwaith adeiladu yn yr eglwys yn Niwbwrch (gw. uchod).
Golygiadau blaenorol
Jones 1905: 189–90; Jones 1912: 320–1; GLD cerdd 28.
Mesur a chynghanedd
Cywydd, 76 llinell. Cynghanedd: croes 73% (55 ll.), traws 1% (1 ll.), sain 25% (19 ll.), llusg 1% (1 ll.). Mae’n nodedig fod
tua thri chwarter llinellau’r gerdd yn gynganeddion croes (heb yr un gynhanedd groes o gyswllt) a’r chwarter arall yn gynganeddion
sain.