Rhagymadrodd Testun golygedig Llawysgrifau English

24. Moliant i Bedr o Rosyr

golygwyd gan Eurig Salisbury

⁠LlGC 21248D, ff. 54v–56r

Nodiadau
Casgliad o gerddi a ysgrifennwyd gan nifer o lawiau ar gyfer Robert Wynn o’r Berth-ddu ger Llanrwst. Copïwyd y testun hwn gan y bardd Richard Cynwal (a fu farw yn 1634). Ceir adrannau o gerddi gan feirdd unigol, fel Iorwerth Fynglwyd a Guto’r Glyn, ond nid felly yn achos awdur y gerdd hon, Lewys Daron. Ymddengys fod y gerdd hon wedi ei chofnodi ar ddiwedd casgliad o gerddi gan Guto’r Glyn.

54v
kowydd i bedr
Am yr vn sant mawr yw/n/ son
a mwg avr am i goron
a ganwy fi o gwna fawl
hynn a i bedr hên wybodawl
5pab a edwyn pawb ydwyd
parth ar nef porthor ynn wyd
gorav vn gair oi eni
gwr o stad tann grist wyti
y rhodwyr oedd ar rhai drwg
10iso /n/ dal iesv /n/ dolwg
kyfa lin yn kyflowni
wllys dvw a ellaist di

55r
er gwadv /r/ iesv rasol
mynd a wnavd myn dvw /n/ i ol
15ofn nad at fwriad yt fv
ne ith hoedl a wnaeth i wadv
i garchar davar i doeth
herodr hen ir avt tranoeth
pedwar oi gyfar a gaid
20yn dy wely /n/ dy wiliaid
er kav drysav /r/ diraswyr
ni bv ry gall neb or gwyr
dvw a yrrodd i dorri
galon y twr glan i ti
25ith gyrchv da fv dy fod
i doe angel dvw yngod
o bv /r/ eglvr beryglav
aeth arwydd hwnn ith ryddhav
e fv /r/ iesv farw isod
30e godai i fyw gwedi i fod
a rhoi /n/ ol i farwolaeth
drws nef yn dy ras a wnaeth
ag ir vn mann gwr an medd
y troi goriad trigaredd
35pennaeth yn llyfodraeth llv
porthor trysor twr iesv
a geisio pob neges pvr
aed ar frys i dref Rosvr
mewn dy gôr myn di gweiriaw
40sy rvfain dros sir fon draw

55v
pob iach vn pawb ach enwai
pob afiach yn iach a wnai
dyn gwyl vfvdd dann glefyd
fai /n/ y boen fwya /n/ y byd
45gwr iach fydd gyrrwch foddion
gweryd fry avr gar dy fronn
o dalaith gor dylwyth gwan
maend wellwell y mynd allan
pab a rydd pawb ar weddi
50paradwys yw deglwys di
ath gor ag avr ath gwyr gwych
ath gareglav ath groewglych
pob enaid y pab vnion
ir tv de eroti i dôn
55gwr mwya a wnaeth grymio /n/ wych
or devddeg er dvw oeddych
grasol oedd y gwir iesv
gwarant dy feddiant ti fv
porthor im ior yma wyd
60pab a thad pob iaith ydwyd
ffynnaist ystynnaist ystad
ffynniant ir tenant tanad
tref rosvr tyrfa wresawg
teiroes dvw rhoed trosti rhawg
65ni chavt wr na chaterwen
na bair iach hwnt nvwbwrch wenn

56r
llei kaid bwrdeisiaid dwysir
llyna waed da /n/ llenwi tir
morynion gwchion a gwŷr
70mowredd gwragedd gorevgwyr
penaethiaid a deiliaid oedd
pedr yn i helpio ydoedd
egoriadav a gredwn
a roes yn tad ir sant hwnn
75dyro ir llv draw ar lled
y nef wenn ini i fyned

Lewis daron