Rhagymadrodd Testun golygedig Llawysgrifau English

23. Moliant i Dydecho

golygwyd gan Eurig Salisbury

Rhagymadrodd

Y cywydd mawl gwerthfawr hwn i Dydecho gan Ddafydd Llwyd o Fathafarn yw’r unig destun hysbys ac ynddo wybodaeth fanwl am fuchedd y sant. Ni cheir buchedd ryddiaith i Dydecho, a phrin yw’r cyfeiriadau ato mewn cerddi eraill (nodir rhai ohonynt isod, cf. GLGC 7.32, GDID X.42, GLM LXXXI.56). Saif y gerdd hon ar wahân i drwch y cerddi sydd ar glawr wrth enw Dafydd Llwyd, a hynny ar ddau gyfrif, sef ei bod yn gwbl rydd o gyfeiriadau brudiol ac, yn ail, ei bod wedi ei chanu i sant unigol ar fesur y cywydd (cf. DewiDLl, sef ei awdl i Ddewi, yr unig gerdd arall a ganodd i sant unigol, a’r unig awdl a oroesodd wrth ei enw).

Moliant cyffredinol i Dydecho a geir yn rhan agoriadol y gerdd (llau. 1–18), lle pwysleisir ei gyswllt â Mawddwy, cwmwd ym Meirionnydd, ac ysblander ei linach fel ŵyr i Emyr Llydaw a pherthynas i Arthur. Ym muchedd Ladin Padarn (VSB2 254), enwir Titechon (ynghyd â Phadarn, Cadfan a sant arall a elwir Ketinlau) fel un o bedwar pennaeth ar luoedd o seintiau a ymfudodd o Lydaw i Gymru, ond ni cheir sôn am hynny yn y gerdd hon ac eithrio’n anuniongyrchol, o bosibl, yn y cyfeiriad hwnnw at Emyr Llydaw. Yr awgrym yn llinellau 7–10 yw bod Tydecho, ynghyd â Dogwel a Thegfan, yn un o’r gwyrda y dywedir iddynt dreulio amser yn Llandudoch ym Mhenfro (gw. ll. 8n), cyn iddynt ymadael â’r lle hwnnw i sefydlu eglwysi mewn mannau eraill. Ar sail y tebygrwydd amlwg rhwng enw’r sant a’r llan, yn ôl pob tebyg, y cysylltwyd Tydecho â Llandudoch, ac mae’n bosibl fod y traddodiad hwnnw wedi cymryd lle’r traddodiad am Dydecho’n dod i Gymru o Lydaw, ond gall hefyd mai yn Llandudoch y credid iddo lanio’n gyntaf cyn mynd yn ei flaen i Fawddwy. Yr hyn sy’n eglur yw bod Tydecho wedi ymgartrefu’n derfynol ym Mawddwy, gan sefydlu eglwys yno ac ymroi i drin y tir ac i fyw’r bywyd crefyddol (19–26; cf. GMBr 15.31–6).

Mae rhan nesaf y gerdd (27–58) yn ymdrin â’r helynt a fu rhwng Tydecho a Maelgwn Gwynedd, archelyn y seintiau. Rhoes Maelgwn rodd o feirch i’r sant gyda’r cyfarwyddyd dirmygus y dylid eu bwydo â gweddïau. Rhyddhaodd Tydecho hwy i’r mynydd, lle troesant o fod yn feirch gwynion i fod yn feirch cydnerth ac euraidd eu lliw, er gwaethaf y tywydd garw. Dygodd Maelgwn ychen y sant mewn ymateb i hynny, yn y gobaith o’i rwystro rhag aredig, ond buan y gwelwyd ceirw a blaidd yn trin y tir yn eu lle (cf. GMBr 15.37–40; GLl 23.31). Daeth Maelgwn wedyn gyda’i gŵn i eistedd ar garreg uwchben y dyffryn, yn ôl pob tebyg er mwyn cynllwynio ei ystryw nesaf, ond sylwodd yn fuan na fedrai godi o’r fan. Ymddengys fod Tydecho wedi rhyddhau’r brenin ac, o’r diwedd, fe wnaeth Maelgwn yn iawn am ei gamweddau, yn gyntaf drwy ddychwelyd ychen y sant ac yna drwy gydnabod hawl Tydecho i’r tir lle sefydlwyd ei eglwys. Pennwyd hyd a lled yr ardal honno drwy fesur pa mor bell y gallai Meilyr, gwas y sant, deithio o’r eglwys mewn un niwrnod drwy’r tiroedd coediog o amgylch.

Mae rhan nesaf y gerdd yn ymwneud â’r gyfraith ar dir Tydecho (59–66), ac yn benodol â’r modd y cynhelid y gyfraith yn gadarn yno mewn cymhariaeth, fe faentumir, ag ardaloedd eraill aflywodraethus. Ni ellid dwyn gwartheg (neu dda byw) na dynion oddi yno, a gellid meddiannu unrhyw wartheg a grwydrai yno o fan arall. Ni chaniateid ychwaith losgi eiddo, llofruddio na sarhau heb wneud yn iawn am y drwg hwnnw. Sonnir wedyn am allu gwyrthiol Tydecho i iacháu pobl fethedig, y deillion a’r byddar, ond dywedir iddo hefyd gyflawni gwyrth wrthgyferbyniol, sef peri i haid o ysbeilwyr golli eu golwg drwy gyfrwng golau llachar yn ystod y nos (67–74). Er na chysylltir y ddeubeth yn ddiamwys, yr awgrym yw bod Tydecho wedi cyflawni’r wyrth honno pan herwgipiwyd ei chwaer, Tegfedd, ac mai gwŷr Cynon a oedd ar fai, gan mai ef wedyn a ddigolledodd y sant drwy roi iddo dir yng Ngarthbeibio a dychwelyd ei chwaer i’w ofal heb iddi gael ei threisio (75–80). Dychwelir wedyn at faterion yn ymwneud â’r gyfraith ar dir Tydecho, ond y tro hwn mewn mwy o fanylder (81–90). Enwir pedwar math o daliad nas hawlid ar dir y sant, sef ebedyw, [c]am, gorddwy a gobr merch, a chyfeirir at yr eithriad hwnnw i’r gyfraith seciwlar fel anrheg a awdurdodwyd gan neb llai na’r pab a Hywel Dda (ymhellach, gw. llau. 81–90n). Ymglywir â rhywfaint o ddelfrydiaeth y canu brud, priod gyfrwng Dafydd Llwyd, mewn cyfeiriad dyrchafol at y rhydid mawr, gwaredol a ddaeth, fe ddywedir, yn sgil y breiniau hynny.

Y wyrth olaf a ddisgrifir yn y gerdd yw Tydecho’n dirymu byddin fawr a fu’n ceisio meddiannu ei dir. Molir rhinweddau haelioni yn y llinellau olaf, gan annog pob un a fo mewn helynt i geisio cymorth y sant (91–100). O linell 59 ymlaen, felly, fe gyfunir hanesion am wyrthiau Tydecho â chyfeiriadau at arwahanrwydd cyfreithiol ei eglwys, a gellid dyfalu mai’n rhannol er mwyn ategu statws a grym eglwys neu eglwysi’r sant yn y bymthegfed ganrif y comisiynwyd y gerdd yn y lle cyntaf.

Am un arall o wyrthiau enwog Tydecho nas sonnir amdani yn y gerdd hon, sef peri i ran uchaf afon Dyfi islaw Aran Fawddwy droi’n llaeth a’i galw o hynny ymlaen yn Llaethnant, gw. GDLl 81.9–10; GMBr 15.41–2; Henken 1991: 211.

Cyfeiriodd Thomas Pennant at y gerdd hon yn ei Tours in Wales (Pennant 1883, ii, 220–2). Cofnodwyd llawer o wybodaeth leol am y sant ym Mawddwy gan ‘Lasynys’ (O.W. Jones) mewn gwaith a ddaeth yn fuddugol mewn cystadleuaeth yn Eisteddfod Dinas Mawddwy ar 2 Awst 1855 ac a gyhoeddwyd yn Y Brython yn 1863. Cyfeirir at rannau perthnasol o’r gwaith (Jones 1863) yn nodiadau esboniadol y golygiad hwn (gw. yn arbennig y nodyn ar l. 8 Llandudoch). (Ar ‘Lasynys’, a fu am gyfnod yn cadw ysgol yn Llanfachreth, nid nepell o Fawddwy, o 1855 ymlaen, gw. ByC Arlein.) Cyfeirir at ‘Lasynys’ mewn erthygl debyg gan ‘Gadvan’ (J.C. Davies) yn Y Genhinen yn 1888, a’r tebyg yw bod yr wybodaeth a geir yno am draddodiadau’n ymwneud â Thydecho wedi ei chodi o’r erthygl yn Y Brython (Davies 1888). Diddorol nodi barn Lewis Morris ar werth hanesyddol y gerdd yn The Bardic Museum (Jones 1802: 46): ‘Thus far goes the historical part of this poem, which, though mixt with superstition and folly, yet contains some valuable hints, if judiciously handled.’ Am draddodiadau llafar diweddar sy’n ategu rhannau o’r gerdd, gw. TWS 212–16.

Dyddiad

Ni ellir ond nodi dyddiadau pur faith Dafydd Llwyd, sef c.1400–c.1490. Gellid efallai roi’r gerdd yn ail hanner y bymthegfed ganrif ar sail y ganran uchel sydd ynddi o gynganeddion croes, gw. yr adran isod ar fesur a chynghanedd.

Golygiadau blaenorol

GDLl cerdd 52. Bwriwyd golwg hefyd ar dri chopi cyhoeddedig o’r gerdd: yn The Bardic Museum, lle ceir nodiadau ar y gerdd gan ‘the late Antiquary, Lewis Morris, Esq. in 1761’ (Jones 1802: 45–6); yn The Cambrian Register dan olygyddiaeth William Owen Pughe (1799: 375–8); ac yn Y Brython mewn erthygl gan ‘Lasynys’ (Jones 1863). Ceir cyfieithiadau Saesneg pur greadigol o’r gerdd hon (o destunau Jones a Pughe) ac o gerdd Mathau Brwmffild i Fawddwy (GMBr cerdd 15) gan Griffith Edwards (1895: 39–42).

Mesur a chynghanedd

Cywydd 102 llinell.

Cynghanedd: croes o gyswllt 1% (1 ll.), croes 43% (43 ll.), traws 25% (25 ll.), sain 27% (27 ll.), llusg 6% (6 ll.). Ystyrir llinell 32 yn gynghanedd groes, ond gellid hefyd ei hystyried yn gynghanedd sain. Noder bod y gynghanedd sain yn llinell 53 yn gynghanedd sain gadwynog.