Dewis nodiadau:
Cyfieithiad:

08. Moliant Simon a Jwd

golygwyd gan Dafydd Johnston

Moliant i Simon a Jwd gan Lewys Glyn Cothi. Dyddiad c.1447 × c.1489.

I Grist ar y ddaear gron
Y bu stâl ebostolion;
Deuddeg i unDuw oeddynt
Yn droednoeth esgeirnoeth gynt,1 esgeirnoeth gynt Ni cheir yn Llst 7 ond esg, a daw gweddill y darlleniad hwn o BL Add 14871.
5A dau oeddyn’ o’r deuddeg
O byst wal,1 o byst wal Cymerir bod y trosiad hwn yn cyfeirio at Simon a Jwd, ond gallai gyfeirio at y deuddeg apostol. dau ’bostol deg;2 deg Dyma ymgais John Davies yn BL Add 14871 i lenwi’r bwlch yn Llst 7.
Sud gwŷr i Grist a’i geraint,2 a’i geraint Yn ôl traddodiad roedd Simon a Jwd yn feibion i chwaer y Forwyn Fair ac felly’n gefndryd i Grist.
Simon, Siud,3 Siud Ymgais yw’r ffurf hon i gyfleu ynganiad yr enw Saesneg Jude, mae’n debyg. Cf. y ffurf Sud, a gweler ymhellach EEW 173 a 227. hwsmyn y saint.3 y saint Dyma ymgais John Davies yn BL Add 14871 i lenwi’r bwlch yn Llst 7.
Ni edyn’ wŷr ein Duw ni
10Newid ffydd na’i diffoddi.

Arffacsadd,4 Arffacsadd Dewin o Bersia a elwir yn Arphaxadyn y fuchedd Gymraeg ac Arphaxat yn y Legenda Aurea. ni bu raddol,
Ioryw 5 Ioryw Enw hwn yn y fuchedd Gymraeg yw Jaran, a Zaroes yn y Legenda Aurea. ei was ar ei ôl;
Rhag Mathau 6 Mathau Dywedir am y ddau ddewin yn y fuchedd Gymraeg: yr rhai a gilyssynt kynn hynny rhac Matheus Ebostol . sy orau sant,
O’u closydd y ciliasant,4 y ciliasant Dyma ymgais John Davies yn BL Add 14871 i lenwi’r bwlch yn Llst 7.
15A phregethu y buant
Geiriau o dwyll, ar gred ânt.5 ânt Dyma ymgais John Davies yn BL Add 14871 i lenwi’r bwlch yn Llst 7.
Hwy ddoethon, Simon a Siud,
Yw calcia6 Yw calcia Mae gweddill y llinell yn eisiau yn y ddwy lsgr. Gellid dehongli yw fel i’w, ond heb weddill y frawddeg mae’n amhosibl penderfynu. Ni wyddys chwaith a ydyw calcia yn air llawn, ond mae’n debyg ei fod yn gysylltiedig â’r ferf calcio ‘cyfrif’, cf. GLGC 174.31-2, calcio bûm wrth y cloc bach / dy oriau a’th bedeirach. . . .
Gwnaethant, ddeusant urddasawl,
20Wyrthiau pur fal gwyrthiau Pawl.7 gwyrthiau Pawl Dyma ymgais John Davies yn BL Add 14871 i lenwi’r bwlch yn Llst 7, ac efallai fod lle i amau’r ailadrodd ar y gair gwyrthiau.
Ymlid delwau Persidys 7 Persidys Persia. Cf. Persidia yn DB 89.
A’u bwrw oll gan faint eu brys.
E’ fu ŵr a fu arab,
Bu i8 bu i hwn . . . bu i honno Hepgorwyd yr arddodiad i yn Llst 7 am ei fod yn diflannu yng nghesail y llafariad flaenorol yn y ddau achos. hwn ferch, bu i honno fab;
25Tad y mab nid adnabu,
Anap ei fam, neb pwy fu.
Y saint a ddangoses wir
A throi gau’n waith rhy gywir;
Peri i fab, hy ar ei fam,
30Newydd eni yn ddinam,
Ddywedyd rhwng y ddeudir
Ar ei fam air a fu wir.
Gwadasant dros Effrosius 8 Effrosius Nid enwir y gŵr a gamgyhuddir yn y Legenda Aurea, ond rhoddir yr enw Ephrosiws yn y fuchedd Gymraeg.
Gelwydd rhag ei ladd â rhus.9 rhus Dyma ymgais John Davies yn BL Add 14871 i lenwi’r bwlch yn Llst 7.
35Dechrau wnaethant ill deuoedd
Geiriau Duw yn y gred oedd.
Bwrw o’u braint heb air a brys
Bobl weinion Babilonys.
Simon aeth drosom i nef,
40 Siud addwyn, dros dioddef.
Hwy a fernir i farnu
Ar y tair lleng a’r tri llu.9 y tair lleng a’r tri llu Credid y byddai pobl yn cael eu rhannu’n dri llu ar Ddydd y Farn, rhai i fynd i’r nef, rhai i uffern, a rhai i’r purdan.
Gostegyn’, briwyn’ gerbron
Geudduwiau ac Iddewon.
45Ban weles heb niwl a sias10 Llau 45–8 Cf. adran 4 o’r fuchedd: Ac oddyna yr aethant hwy yll dau i’r dinas a elwid Samany ac yno yr oedd temyl yn llawn o’r gau dduwiau. A phan doeth Simon a Jwd i’r temyl honno, ef a roddes y kythreuliaid a oedd yn y gau dduwiau hynny garm o lefain yny oedd yn ysgyryd gan a oedd yno o ddyn warando arnynt.
Eu dau wyneb y dinas,
Delwau o gorff diawl i gyd
A roes garm arw10 A roes garm arw Mae gweddill y llinell yn eisiau yn y ddwy lsgr. . . .

Simon a Siud sy mewn swydd
50Ar yr eglwys i’r Arglwydd;11 arglwydd Ni cheir ond ar yn Llst 7, ond er bod y bai ‘crych a llyfn’ yn y llinell prin bod lle i gwestiynu darlleniad BL Add 14871.
Hwy a farnan’ yn12 yn unawr Ceir fy unawr yn y ddwy lsgr. Diwygiwyd er mwyn y synnwyr, ond mae’r llinell yn dal i fod yn ddigynghanedd a gall fod yn llwgr. unawr
Y dydd cadarn a’r Farn fawr.13 fawr Dyma ymgais John Davies yn BL Add 14871 i lenwi’r bwlch yn Llst 7, ac ni wnâi unrhyw air arall y tro.
Barnu ’ngŵydd Iesu wna’r ddau,
Barnu gerbron y14 Barnu gerbron y Ymgais John Davies i gwblhau’r llinell yn BL Add 14871 oedd breiniau. Nid yw’r ffaith fod y darlleniad hwnnw’n rhoi’r bai ‘crych a llyfn’ yn rheswm digonol i’w wrthod (gw. GLGC xxxiv), ond gan nad yw’r synnwyr yn gwbl foddhaol chwaith, a bod mwy nag un posibilrwydd o ran y math o gynghanedd, penderfynwyd gadael y bwlch heb ei lenwi. . . .
55Barnu i15 i Nid yw hyn yn Llst 7, ond mae angen treiglo’r gair nesaf er mwyn y gynghanedd, felly rhaid bod arddodiad wedi’i geseilio yn dilyn y llafariad flaenorol. Cynnig John Davies yn BL Add 14871 oedd o, a derbyniwyd hwnnw yn GLGC, ond o ddarllen i ceir gwell dilyniant gyda’r ddau sant yn oddrych y berfenw bob tro. Efallai fod y syniad o’r seintiau’n rhoi gorchymyn i Dduw yn ddiwinyddol annerbyniol i John Davies. Dduw a brynodd iaith
Dwyn f’enaid i nef unwaith.16 unwaith Dyma ymgais John Davies yn BL Add 14871 i lenwi’r bwlch yn Llst 7.

Bu gan Grist ar y ddaear gron
fintai o apostolion;
Deuddeg i un Duw oeddent
gynt yn noeth eu traed a’u coesau,
5ac roedd dau o’r deuddeg
fel pileri, dau apostol teg;
megis dynion i Grist a cheraint iddo,
Simon, Jwd, llafurwyr y saint.
Nid oedd dynion ein Duw ni yn caniatáu
10newid ffydd na’i dileu.

Arffacsadd, ni fu’n urddasol,
Ioryw ei was ar ei ôl;
ciliasant o’u llysoedd
rhag Mathew sydd orau sant,
15a buant yn pregethu
geiriau o dwyll, sy’n cael eu coelio.
Y doethion, Simon a Jwd,
. . .
Gwnaethant, y ddau sant urddasol,
20wyrthiau pur fel gwyrthiau Paul.
Erlid delwau Persia
a’u bwrw i lawr i gyd gan faint eu rhuthr.
Bu gŵr a oedd yn fwyn,
roedd ganddo ferch, ac roedd gan honno fab;
25Ni wyddai neb pwy oedd tad y mab,
anffawd ei fam.
Y seintiau a ddangosodd y gwirionedd
a throi ffalsedd yn waith hollol gywir;
peri i fachgen, hy ar ei fam,
30newydd eni yn ddi-fai,
ddweud rhwng y ddeudir
am ei fam air a fu wir.
Gwadasant dros Effrosius
Gelwydd rhag ei ladd â dychryn.
35Hwy ill dau a ddechreuodd
y ffydd yng ngeiriau Duw.
Bwriasant bobl wan Babilon
o’u braint heb ddim trafferth.
Aeth Simon drosom ni i nef,
40a Jwd teilwng, trwy ferthyrdod.
Hwy a benodir i farnu
Ar y tair lleng a’r tri llu.
Bu iddynt dawelu a chwalu yn gyhoeddus
dduwiau ffals ac Iddewon.
45Pan welodd wynebau y ddau
y ddinas heb niwl na chynnen,
rhoddodd delwau o gorff diawl i gyd
floedd arw . . .

Mae Simon a Jwd yn dal awdurdod
50ar yr eglwys ar ran yr Arglwydd;
Hwy fydd yn barnu mewn un awr
y dydd cadarn a’r Farn fawr.
Barnu gerbron Iesu a wna’r ddau,
barnu gerbron . . .
55Barnu i Dduw a waredodd genedl
ddwyn f’enaid i nef yr un pryd.

1 o byst wal Cymerir bod y trosiad hwn yn cyfeirio at Simon a Jwd, ond gallai gyfeirio at y deuddeg apostol.

2 a’i geraint Yn ôl traddodiad roedd Simon a Jwd yn feibion i chwaer y Forwyn Fair ac felly’n gefndryd i Grist.

3 Siud Ymgais yw’r ffurf hon i gyfleu ynganiad yr enw Saesneg Jude, mae’n debyg. Cf. y ffurf Sud, a gweler ymhellach EEW 173 a 227.

4 Arffacsadd Dewin o Bersia a elwir yn Arphaxadyn y fuchedd Gymraeg ac Arphaxat yn y Legenda Aurea.

5 Ioryw Enw hwn yn y fuchedd Gymraeg yw Jaran, a Zaroes yn y Legenda Aurea.

6 Mathau Dywedir am y ddau ddewin yn y fuchedd Gymraeg: yr rhai a gilyssynt kynn hynny rhac Matheus Ebostol .

7 Persidys Persia. Cf. Persidia yn DB 89.

8 Effrosius Nid enwir y gŵr a gamgyhuddir yn y Legenda Aurea, ond rhoddir yr enw Ephrosiws yn y fuchedd Gymraeg.

9 y tair lleng a’r tri llu Credid y byddai pobl yn cael eu rhannu’n dri llu ar Ddydd y Farn, rhai i fynd i’r nef, rhai i uffern, a rhai i’r purdan.

10 Llau 45–8 Cf. adran 4 o’r fuchedd: Ac oddyna yr aethant hwy yll dau i’r dinas a elwid Samany ac yno yr oedd temyl yn llawn o’r gau dduwiau. A phan doeth Simon a Jwd i’r temyl honno, ef a roddes y kythreuliaid a oedd yn y gau dduwiau hynny garm o lefain yny oedd yn ysgyryd gan a oedd yno o ddyn warando arnynt.

1 esgeirnoeth gynt Ni cheir yn Llst 7 ond esg, a daw gweddill y darlleniad hwn o BL Add 14871.

2 deg Dyma ymgais John Davies yn BL Add 14871 i lenwi’r bwlch yn Llst 7.

3 y saint Dyma ymgais John Davies yn BL Add 14871 i lenwi’r bwlch yn Llst 7.

4 y ciliasant Dyma ymgais John Davies yn BL Add 14871 i lenwi’r bwlch yn Llst 7.

5 ânt Dyma ymgais John Davies yn BL Add 14871 i lenwi’r bwlch yn Llst 7.

6 Yw calcia Mae gweddill y llinell yn eisiau yn y ddwy lsgr. Gellid dehongli yw fel i’w, ond heb weddill y frawddeg mae’n amhosibl penderfynu. Ni wyddys chwaith a ydyw calcia yn air llawn, ond mae’n debyg ei fod yn gysylltiedig â’r ferf calcio ‘cyfrif’, cf. GLGC 174.31-2, calcio bûm wrth y cloc bach / dy oriau a’th bedeirach.

7 gwyrthiau Pawl Dyma ymgais John Davies yn BL Add 14871 i lenwi’r bwlch yn Llst 7, ac efallai fod lle i amau’r ailadrodd ar y gair gwyrthiau.

8 bu i hwn . . . bu i honno Hepgorwyd yr arddodiad i yn Llst 7 am ei fod yn diflannu yng nghesail y llafariad flaenorol yn y ddau achos.

9 rhus Dyma ymgais John Davies yn BL Add 14871 i lenwi’r bwlch yn Llst 7.

10 A roes garm arw Mae gweddill y llinell yn eisiau yn y ddwy lsgr.

11 arglwydd Ni cheir ond ar yn Llst 7, ond er bod y bai ‘crych a llyfn’ yn y llinell prin bod lle i gwestiynu darlleniad BL Add 14871.

12 yn unawr Ceir fy unawr yn y ddwy lsgr. Diwygiwyd er mwyn y synnwyr, ond mae’r llinell yn dal i fod yn ddigynghanedd a gall fod yn llwgr.

13 fawr Dyma ymgais John Davies yn BL Add 14871 i lenwi’r bwlch yn Llst 7, ac ni wnâi unrhyw air arall y tro.

14 Barnu gerbron y Ymgais John Davies i gwblhau’r llinell yn BL Add 14871 oedd breiniau. Nid yw’r ffaith fod y darlleniad hwnnw’n rhoi’r bai ‘crych a llyfn’ yn rheswm digonol i’w wrthod (gw. GLGC xxxiv), ond gan nad yw’r synnwyr yn gwbl foddhaol chwaith, a bod mwy nag un posibilrwydd o ran y math o gynghanedd, penderfynwyd gadael y bwlch heb ei lenwi.

15 i Nid yw hyn yn Llst 7, ond mae angen treiglo’r gair nesaf er mwyn y gynghanedd, felly rhaid bod arddodiad wedi’i geseilio yn dilyn y llafariad flaenorol. Cynnig John Davies yn BL Add 14871 oedd o, a derbyniwyd hwnnw yn GLGC, ond o ddarllen i ceir gwell dilyniant gyda’r ddau sant yn oddrych y berfenw bob tro. Efallai fod y syniad o’r seintiau’n rhoi gorchymyn i Dduw yn ddiwinyddol annerbyniol i John Davies.

16 unwaith Dyma ymgais John Davies yn BL Add 14871 i lenwi’r bwlch yn Llst 7.