08. Moliant Simon a Jwd
golygwyd gan Dafydd Johnston
Llawysgrifau
Diogelwyd y cywydd hwn mewn casgliad o gerddi Lewys Glyn Cothi yn Llst 7, llawysgrif o chwarter cyntaf yr unfed ganrif ar bymtheg. Tybir bod y rhan hon o Llst 7 yn gopi o lawysgrif yn llaw’r bardd ei hun (gw. GLGC xxx-xxxi). Un nodwedd sy’n awgrymu hynny’n gryf yw’r ffaith fod rhai o linellau’r testun (4, 6, 8, 14, 16, 18, 20, 34, 48, 50, 52, 54, 56) yn anorffenedig, fel y maent yn aml yn llawysgrifau Lewys Glyn Cothi ei hun. Copïwyd cerddi Lewys o Llst 7 gan John Davies, Mallwyd yn BL Add 14871 yn 1617, ac ymddengys i John Davies ddyfalu ar sail cynghanedd ac odl wrth lenwi’r bylchau yn y rhan fwyaf o’r llinellau anorffenedig. Gellir derbyn y rhan fwyaf o’i ddyfaliadau yn weddol hyderus, ond gw. ll. 54n (testunol). Mae BL Add 14963 yn gopi o BL Add 14871 gan Owain Myfyr.
Teitl
Ni roddir teitl i’r gerdd yn Llst 7. Y teitl yn BL Add 14871 yw I Simon a Siud.
Rhestr o lawysgrifau
Llst 7, 61 (anh., 1505 × c.1530)
BL Add 14871, 280v (John Davies, 1617)
BL Add 14963, 246v (Owen Jones ‘Owain Myfyr’, 1768 × 99)