14. Moliant i seintiau Morgannwg
golygwyd gan Eurig Salisbury
Llawysgrifau
Ceir y gerdd hon mewn dwy lawysgrif yn unig. Codwyd testun LlGC 989B o Llst 164, llawysgrif bwysig a ysgrifennwyd rhwng 1586 ac 1613 sy’n cynnwys casgliadau o gerddi gan nifer o feirdd y de-ddwyrain. Ceir ynddi yn llaw Richard Turberville gasgliad o waith Rhisiart ap Rhys, ynghyd â’i fab, Lewys Morgannwg, ei dad, Rhys Brydydd, a’i ewythr, Gwilym Tew. Fel y dywed Daniel Huws (2004: 19), mae’n debyg fod cerddi Rhisiart a Lewys yn deillio o destunau awtograff, fel yn achos y cerddi o waith Dafydd Benwyn a gopïwyd gan Turberville yn C 2.277 (c.1606) a J 90 (dechrau’r 17g.). Diddorol cymharu safon y testun presennol ag ymwadiad o fath a ysgrifennodd Turberville ynghylch safon ei destun yn J 90: ag o gwelwch gam ysgryfenad yndo na diffygion amgen / tybygwch er y vod ef [Dafydd Benwyn] yn brydydd na doedd ef ysgryfynedydd nag ysgwlhaig or goraü / na minaü yn gallü yn hollol wella yr ysgryfenyddiaeth gan vod y papre or gerdd y koppiais i hwnn oddywrthyn yn dywyll ag yn llapre (gw. RWM ii, 56). Tebyg fod anawsterau copïo wedi arwain at rai cymlethdodau yn y testun presennol hefyd (gw. nodiadau llau. 1, 17, 30, 53, 59), ond mae’n ddigon derbyniol ar y cyfan. Fel yn achos cerddi Lewys Morgannwg yn y llawysgrif, ni chopïwyd cerddi Rhisiart mewn trefn arbennig (gw. GLMorg 14–15).
Teitl
Diau mai lloffa’r wybodaeth o’r gerdd a wnaeth Richard Turberville wrth nodi teitl y gerdd yn y llawysgrif, i Sant Cirig ag i Saintau eraill i ddaisyf iechyd i glaf. Ychydig o sylw, mewn gwirionedd, a roir i Gurig, a rhoir sylw i gyswllt y seintiau â Morgannwg yn nheitl y golygiad.
Y llawysgrifau
LlGC 989B, 20 (Llywarch Reynolds, 19g.)
Llst 164, 156‒7 (Richard Turberville, 1586‒1613)