16. Moliant i’r Seintiau
golygwyd gan Eurig Salisbury
Rhagymadrodd
Yn sgil colli cyd-destun y gerdd grefyddol hon gan Huw Cae Llwyd, ni ellir ond dyfalu beth oedd achlysur ei chanu. Yn llinellau 19–24, enwir Rhobert, gŵr duwiol ac amlwg yn yr esgobaeth a gysylltir â Dewi ac a folir am ei allu i [f]endigo. Diau mai Rhobert Dwli (neu Robert Tully) ydoedd, esgob Tyddewi o 1460 i 1482.
Ganed Rhobert ym Mryste (DWH ii 558). Bu’n astudio diwinyddiaeth yn Rhydychen o 1451 ymlaen, gan ennill graddau baglor a doethur mewn diwinyddiaeth (Emden 1957–9: iii 1912; daw’r holl wybodaeth isod am Robert o’r ffynhonnell hon oni nodir yn wahanol). Bu’n fynach yn abaty Benedictaidd Caerloyw cyn ei benodi’n esgob Tyddewi ar 23 Gorffennaf 1460 (Jones 1910: 55), lai na blwyddyn cyn diwedd teyrnasiad cyntaf Harri VI. Yn ystod teyrnasiad Edward IV, fe’i rhwystrwyd rhag gwneud defnydd o feddiannau’r esgob yn Nhyddewi (ymgartrefodd yn Nhre-fin ac yn Ninbych-y-pysgod), a daeth ei ymlyniad â phlaid Lancaster i’r amlwg pan gefnogodd ail deyrnasiad trychinebus Harri VI yn 1470/1. Roedd yn Llundain pan ailgipiodd Edward IV y goron ym mis Ebrill 1471, ac fe’i carcharwyd yn y Tŵr. Awgrymodd Scofield (1923: ii 22) mai yn sgil cefnogi Siasbar Tudur y cafodd Rhobert ei hun mewn dŵr poeth. Chwaraeodd Siasbar ran flaenllaw yn llywodraeth fyrhoedlog Harri VI a ffodd o Ddinbych-y-pysgod i Lydaw ym Mai 1471 (fel y gwnaeth gynt i’r Alban yn 1461). Esgusodwyd Rhobert yn ffurfiol ym Medi 1472, yr olaf o griw o esgobion a gawsant bardwn gan y brenin. Erbyn 1479, roedd yn un o gomisiynwyr Edward yng Nghymru (Griffiths 2014: 35). Bu Rhobert yn gyfrifol am waith adeiladu yng Nghaerloyw a Thyddewi ac, yn ôl Williams (2002: 324), yn Ninbych-y-pysgod. Ymddengys iddo barhau â’i gyswllt â phrifysgol Rhydychen, oherwydd fe’i cofnodir fel Comisari Canghellor y brifysgol yn 1469, ac yn 1474 fe fendithiodd garreg sylfaen Coleg Madlen. Bu farw cyn 26 Chwefror 1482 (Jones 1910: 55), a chanodd Lewys Glyn Cothi awdl farwnad iddo sy’n awgrymu iddo fod yn weithgar yn Orléans (GLGC cerdd 93 a td. 568). Fe’i claddwyd yn eglwys y Santes Fair yn Ninbych-y-pysgod. Ceir manylion ei arfbais yn DWH i 119, ii 558, iv 235.
Yn anffodus, ni oroesodd cofnodion esgobol Tyddewi o gyfnod Rhobert, ac ni cheir ond dau gyfeiriad ato mewn cofnodion esgobol o gyfnodau eraill. Cofnod yw’r cyntaf o’r ffaith iddo benodi gŵr o’r enw Henry Matteston yn geidwad y parc ym mhlas yr esgob yn Llandyfái yn 1477 (Roberts 1920: iii 3–4, 119). Daw’r ail gyfeiriad o gofnod sy’n croniclo anghydfod hirdymor rhwng esgobion Tyddewi ac abadau Tal-y-llychau ynghylch penodi person Llanfihangel Pen-bryn yng Ngheredigion (ibid. 107–10). Yn ystod esgobaeth Rhobert Dwli, dywedir bod gŵr o’r enw Syr Tomas ap Siencyn wedi ei benodi’n berson yr eglwys gan yr Abad Dafydd o Dal-y-llychau, a bod ficer cyffredinol Tyddewi, Morgan Wynter, wedi cymeradwyo’r penodiad yn absenoldeb yr esgob. Yn fuan wedyn, ymwelodd Rhobert yn annisgwyl â’r eglwys am y tro cyntaf ar daith swyddogol, gyda’r bwriad o ddisodli’r person a phenodi rhywun arall yn ei le, eithr ymataliodd ar ôl i Syr Tomas erfyn arno yn Llwyndafydd.
Nid yw’r hyn sy’n hysbys am Robert yn goleuo rhyw lawer ar gynnwys y gerdd. Sonnir yn rhan gyntaf y cywydd (llau. 1–28) am dro ar fyd a ddaeth yn sgil rhyddhau’r bobl o [r]wym sentes (7), sef rhyw ddedfryd a elwir yn rhwym y seintwar hen (6). Ac ystyried y waredigaeth ysbrydol a ddaeth yn sgil codi’r ddedfryd, yn ogystal â chyfeiriadau at Ddewi yn llinellau 19–22 a 39–42, mae’n debygol mai Tyddewi oedd y seintwar honno a bod Huw’n cyfeirio at ddedfryd gan yr esgobaeth, megis achos o esgymuno. Yn anffodus, ni ddaethpwyd o hyd i achos o esgymuno yn ystod esgobaeth Rhobert.
Yn llinellau 19–20, dywed Huw Cae Llwyd fod Dewi wedi rhoi rhybudd i Robert. Ai dannod iddo oedd hyn am roi’r sentes ar waith, ynteu cyngor ynghylch sut i ddelio â’r mater? Os y cyntaf, tybed a ganwyd y gerdd yn sgil methiant ymgais Harri VI i adennill yr orsedd yn 1470/1? Gall fod Rhobert wedi diarddel y rheini yn ei esgobaeth a gefnogai blaid Iorc, cyn codi’r ddedfryd yn sgil cael ei esgusodi gan Edward IV. Os yr ail, tybed ai dathlu dechrau esgobaeth Rhobert a wneir ar derfyn cyfnod cythryblus ei ragflaenydd, John de la Bere? Yn anffodus, ni oroesoedd cofnodion esgobol o gyfnod de la Bere ychwaith (Roberts 1920: iii 3; ar yr esgob pur ddrwgenwog hwnnw, gw. Williams 1976: 307–8).
Anogaeth ryfelgar i fyw’n ddwyfol a geir yng ngweddill y gerdd. Defnyddir rhan o chwedl ‘Cyfranc Lludd a Llefelys’ i ddangos pwysigrwydd gyrru gwall o’n plith a defnyddio Dŵr swyn i gloi drysau’n gwlad (29–36). Troir eto at Ddewi, gan foli ei allu i arwain ac i yrru llu du i ffwrdd a gosod llu gwyn oll yn ei le (37–42). Parheir â’r ddelweddaeth filwrol drwy enwi dau o gapteniaid Dewi, sef Cynog a Chynidr, dau sant o Frycheiniog (43–8). Tybed ai ar ran gwŷr o Frycheiniog yn esgobaeth Tyddewi y canodd Huw’r gerdd? Darlunnir Crist wedyn fel ymladdwr dros gyfiawnder, ac anogir y bobl i wisgo Arfau Iesu ar feysydd yn ogystal â [g]wisg Mair i’w hamddiffyn rhag drwg (49–60). Daw’r gerdd i ben drwy foli ymlyniad Duw wrth ei bobl, efallai’n benodol mewn cyswllt â Thyddewi, a thrwy annog y bobl i’w foli hefyd (61–6).
Dyddiad
Rhywbryd yn ystod esgobaeth Rhobert Dwli yn Nhyddewi, 1460–82.
Golygiad blaenorol
HCLl cerdd XLIII.
Mesur a chynghanedd
Cywydd, 66 llinell. Cynghanedd: croes o gyswllt 12% (8 ll.), croes 53% (35 ll.), traws 21% (14 ll.), sain 6% (4 ll.), llusg
8% (5 ll.). Noder bod nifer y cynganeddion sain yn rhyfeddol o isel.