Rhagymadrodd Testun golygedig Llawysgrifau English

6. Moliant i Ieuan Fedyddiwr

golygwyd gan Dafydd Johnston

Rhagymadrodd

Mae’r cywydd hwn yn dilyn yn bur agos yr hanes a geir am Ioan Fedyddiwr yn yr Efengylau, ac yn enwedig ym mhennod gyntaf Efengyl Luc. Ond mae’n debyg mai ffynhonnell yr wybodaeth oedd y bennod ‘Genedigaeth Ioan Fedyddiwr’ yn y Legenda Aurea. Sonnir fel yr oedd ei rieni, yr offeiriad Sachareias a’i wraig Elisabeth, wedi mynd yn hen heb gael plant (1–6), nes i’r angel Gabriel ymddangos i Sachareias yn y deml a dweud wrtho y byddai Elisabeth yn esgor ar fab o’r enw Ieuan a fyddai’n troi llawer o bobl at Dduw (7–14). Am nad oedd Sachareias yn credu geiriau’r angel fe’i trawyd yn fud nes i’r plentyn gael ei eni (23–4). Roedd Elisabeth yn gares i’r Forwyn Fair, a oedd hefyd yn feichiog yr un pryd, a phan ddaeth y ddwy ynghyd llamodd y plentyn yng nghroth Elisabeth (17–20). Bu Ioan yn byw fel meudwy yn yr anialwch gan wisgo croen camel (45–50), ac ef a fedyddiodd Iesu Grist (27–8, 35–6).

Ieuan (oddi wrth Iohannes) oedd ffurf arferol yr enw mewn Cymraeg Canol, a digwydd Ifan hefyd, ond ni cheir Ioan cyn Testament Newydd William Salesbury.

Dyddiad
Ni ellir dyddio’r gerdd yn fanylach na chyfnod gweithgarwch Lewys Glyn Cothi, sef c.1447 × c.1489.

Golygiad blaenorol
GLGC cerdd 3.

Mesur a chynghanedd
Cywydd, 62 llinell. Cynghanedd: croes 32% (20 ll.), traws 45% (28 ll.), sain 11% (7 ll.), llusg 11% (7 ll.).