6. Moliant i Ieuan Fedyddiwr
golygwyd gan Dafydd Johnston
Moliant i Ieuan Fedyddiwr gan Lewys Glyn Cothi. Dyddiad c.1447 × c.1489.
Am eni Sacarïas
1 Ceir llinell bur wahanol yn Gwyn 3: Iawn swccr oedd i
Sacarias.
Y ganed i Gred y gras.
Elsbeth fal yn eneth lân 2 Roedd peth ansicrwydd ynghylch y llinell hon: Sant elsbeth ail eneth lan yn llawysgrifau
Llywelyn Siôn, Saint elsbeth fel eneth lan yn Gwyn 3, ac Elizabeth loywbleth lan yn Pen 312.
Oedd ei wraig o 3 Ceir drwy yn lle o yn Gwyn
3, Pen 312 a llawysgrifau Llywelyn Siôn. ddarogan.
5Hwy yn fyw yn hen fuant 4
Gwyn 3, Pen 312 a llawysgrifau Llywelyn Siôn
Hwy’n fywiol hen a fuant.
Heb goel plaid a heb gael plant. 5
Gwyn 3, Pen 312 a llawysgrifau Llywelyn Siôn
Heb goel heb plaid heb gael plant.
Yntau ŵr o’i naturiaeth
Mal yr oen i’r deml yr aeth,
A Gabriel hyd ei wely 6
Gwyn 3
Daeth Gabriel at ei wely.
10Ato a aeth i’r un tŷ; 7
Gwyn 3
Cennad y tad hyd y ty.
Addef o Abriel
8 Ni threiglir Gabriel yn Pen 77 a BL 14871, a cheir Addefodd Gabriel yn Gwyn 3. iddo
Y byddai fab iddo fo,
Ac ef uwchlaw’r holl grefydd,
A’i enw efô 9 Ceir fo mewn nifer o lawysgrifau oherwydd trin enw yn ddeusill.
Ieuan fydd.
15
Ieuan aeth pan fu yn ŵr
Wedy Adda’n fedyddiwr.
E’ ddyfod â’r tafod da
I Fair wen o fru Anna,1 Yn ôl Efengyl Luc, 1.41–5, llamodd y plentyn yng nghroth Elisabeth pan glywodd gyfarchiad
y Forwyn Fair, ond y fam a lefarodd, ‘Bendigedig wyt ti ymhlith gwragedd . . .’.
‘Gwyliwch lle mae i’n golwg 10 Amrywia’r rhagenw yn y llawysgrifau, Gwyn 3
yn eich, Llywelyn Siôn
ywch, Pen 312
ei.
20Oen Duw o boenau a’n dwg.’
O naw arwydd, mae’n orau,
Enwi ydd ŷm un neu ddau.
Ei dad oedd, da Duw iddo,
Yn fud nes ei eni fo.
25Cyntaf llaw arnaw a aeth
Llaw Fair, llai fu ei hiraeth.2 Dywedir yn y Legenda Aurea mai’r Forwyn Fair a fu’n gweini ar
Elisabeth pan aned Ioan.
Cyntaf ffydd ar fedydd fu
Ac a roes i’r gwir 11
i’r gwir
Pen 312 yn unig; ceir y gwir ym mhob llawysgrif arall. Dichon i John Jones, Gellilyfdy gywiro
darlleniad ei gynsail ar sail yr hanes yn y Testament Newydd.
Iesu,3 Gweler Mathew 3.13-16 am hanes Ioan yn bedyddio’r Iesu.
A’r sant fal o’r saint filoedd
30Nesa’ un i Iesu oedd.
Ieuan fyth, a’i oen efô,
Fedyddiwr, hawddfyd iddo
Ei boen 12 Ceir I’r boen yn Gwyn 3 a llawysgrifau
Llywelyn Siôn. wedy syrthio’r byd
Ac o’r poen i gwr penyd.
35
Ieuan fawr, 13
fawr
Pen 77 a BL 14871; Gwyn 3
fwyn, Pen 312
y fo. Mae’r cwpled yn eisiau yn llawysgrifau Llywelyn Siôn. darogan fu,4 Cyfeirir yn Mathew 3.3 at broffwydoliaeth Eseias.
A groeses 14
a groeses
BL 14871; Pen 77
ar y groes, Pen 312
y fo ar groes, Gwyn 3
yw’r groes a’r gwir. Dichon i John Davies gywiro darlleniad ei gynsail. y gwir Iesu.
Drwy’r byd mae 15
Gwyn 3, Pen 312 a Stowe 959
Mae drwy’r byd. o bedwar ban
Dai i rai ar dir Ieuan,
A phob 16
Gwyn 3 a Stowe 959
Mae pob ty, Pen 312
Mae ymob ty. tŷ’n ysbyty i’r byd
40A’u rhifo’n seintwar hefyd.5
Ioan Fedyddiwr oedd nawddsant Urdd Marchogion Ysbyty Sant Ioan o Jerwsalem, sef urdd a gynhaliai ysbytai i deithwyr anghenus a chleifion,
gan gynnwys tai yn
Ysbyty Ifan yn Sir Ddinbych a Slebets yn Sir Benfro.
Tair gwlad yn un pentwr 17
un pentwr
Gwyn 3
alawnt wr, Pen 312
tywynau. glân
A Gröeg a gâr Ieuan: 18
Gwyn 3
goreu-fodd a gâr Ifan.
Holl nef, lle mae llwyn afall,
Holl Gred, holl Anghred yw’r llall.
45Y croen oddi am 19
Y croen oddi am
BL 14871; Gwyn 3
Ei wisg oedd am. y camel
A wisgai ef, nid oes gêl. 20
nid oes gêl
BL 14871; mae darlleniadau’r llawysgrifau eraill, megis Gwyn 3
ni cheisiodd gêl, yn anfoddhaol o ran cynghanedd.
Bwyd y macwy meudwyaidd,
Berwr hallt, bara o’r haidd.
Ei ddiod, gannaid 21
gannaid
BL 14871; ceir gan ei mewn llawysgrifau eraill. Mae hwn yn ddarlleniad anos, a chymerir ei fod yn sangiad yn disgrifio
Ioan Fedyddiwr. ddewin,
50Y dŵr gwyn, 22
gwyn
Gwyn 3 a Stowe 959
a gai, llawysgrifau Llywelyn Siôn
gwyllt. nid seidr a gwin.6
nid seidr a gwin
Mae’n debyg fod hyn yn tarddu o’r Legenda Aurea. Dywed yr angel Gabriel, yng ngeiriau cyfieithiad
Caxton, ‘He shall not drink wine ne cider’.
Ieuan fab Elisabeth
A wybu pwnc o bob peth.
Proffwyd nesnes i’r Iesu
A dau fwy na phroffwyd fu.
55Ni aned ynn yn unair
I ŵr a gwraig y rhyw 23
y rhyw
Gwyn 3
cyfryw. grair.
Ni chad na chynt na chwedy
Dyn un fraint dan y nef fry. 24 Mae’r cwpled hwn yn eisiau yn Gwyn 3 a llawysgrifau
Llywelyn Siôn.
Fy nghorff y rhag ofn25
y rhag ofn
Gwyn 3 a Pen 312
rhag gwynfyd. fy nghas
60I law 26
I law
llawysgrifau Llywelyn Siôn; Gwyn 3, Pen 77 a Pen 312
dan law, BL 14871
ai i law dduw ac lias. Dduw ac Elïas;
F’enaid teg rhag ofn y tân
A ro Duw i ward Ieuan.
Yn sgil genedigaeth Sachareias
y ganwyd gras i’r byd Cristnogol.
Elisabeth megis merch bur
oedd ei wraig trwy broffwydoliaeth.
5Bu iddynt fyw i fod yn hen
heb obaith am deulu a heb gael plant.
Yntau’r gŵr fel oen o ran ei natur
a aeth i’r deml,
a daeth Gabriel ato wrth ei wely
10o fewn yr un tŷ;
dywedodd Gabriel wrtho
y byddai mab yn cael ei eni iddo
ac y byddai hwnnw’n arweinydd ar holl grefydd,
ac mai Ieuan fyddai ei enw.
15Pan ddaeth Ieuan i oedran gŵr
aeth yn fedyddiwr ar ôl Adda.
Dywedodd ef â’i dafod da
wrth Fair sanctaidd o groth Anna,
‘Gwyliwch lle mae yn ein golwg
20oen Duw a fydd yn ein dwyn o boenau.’
O naw arwydd fe wnawn enwi
un neu ddau, dyna sydd orau.
Roedd ei dad, bendith Duw arno,
yn fud nes iddo ef gael ei eni.
25Y llaw gyntaf a ddodwyd arno
oedd llaw Mair, llai fu ei hiraeth.
Y ffydd gyntaf trwy fedydd
oedd yr un a roddodd i’r gwir Iesu,
ac ef oedd y sant agosaf at Iesu
30o’r holl filoedd o seintiau.
Ieuan Fedyddiwr fydd yn dragwyddol,
a’r sawl sy’n ymostwng iddo,
esmwyth fydd ei boen ar ôl gadael y byd,
ac o’r boen i ben draw penyd.
35Ieuan fawr, fel y proffwydwyd,
a fendithiodd y gwir Iesu.
Mae tai ar draws y byd
ar gyfer rhai pobl ar dir Ieuan,
ac mae pob tŷ’n hosbis i’r byd
40ac ystyrir pob un yn noddfa hefyd.
Mae tair gwlad a gwlad Groeg
yn unedig yn eu cariad at Ieuan:
y nef i gyd, lle mae’r llwyn coed afalau,
y byd Cristnogol yn gyfan, a’r diriogaeth baganaidd yw’r llall.
45Y croen oddi am y camel
oedd ei ddillad, nid yw’n guddiedig.
Bwyd y dyn ifanc meudwyaidd
oedd berwr chwerw a bara haidd.
Ei ddiod, y dewin disglair,
50oedd dŵr glân, nid seidr na gwin.
Roedd Ieuan fab Elisabeth
yn gwybod am bob un pwnc.
Y proffwyd nesaf at yr Iesu,
roedd ddwywaith yn fwy nag unrhyw broffwyd arall.
55Ni anwyd y fath drysor i ni
erioed o ŵr a gwraig.
Ni fu dyn mor anrhydeddus
na chynt na chwedyn o dan y nef uwchben.
Boed i’m corff rhag ofn fy ngelyn
60fynd i law Duw ac Elias;
boed i Dduw rhag ofn y tân
roi fy enaid teg dan ofal Ieuan.
1 Yn ôl Efengyl Luc, 1.41–5, llamodd y plentyn yng nghroth Elisabeth pan glywodd gyfarchiad y Forwyn Fair, ond y fam a lefarodd, ‘Bendigedig wyt ti ymhlith gwragedd . . .’.
2 Dywedir yn y Legenda Aurea mai’r Forwyn Fair a fu’n gweini ar Elisabeth pan aned Ioan.
3 Gweler Mathew 3.13-16 am hanes Ioan yn bedyddio’r Iesu.
4 Cyfeirir yn Mathew 3.3 at broffwydoliaeth Eseias.
5 Ioan Fedyddiwr oedd nawddsant Urdd Marchogion Ysbyty Sant Ioan o Jerwsalem, sef urdd a gynhaliai ysbytai i deithwyr anghenus a chleifion, gan gynnwys tai yn Ysbyty Ifan yn Sir Ddinbych a Slebets yn Sir Benfro.
6 nid seidr a gwin Mae’n debyg fod hyn yn tarddu o’r Legenda Aurea. Dywed yr angel Gabriel, yng ngeiriau cyfieithiad Caxton, ‘He shall not drink wine ne cider’.
1 Ceir llinell bur wahanol yn Gwyn 3: Iawn swccr oedd i Sacarias.
2 Roedd peth ansicrwydd ynghylch y llinell hon: Sant elsbeth ail eneth lan yn llawysgrifau Llywelyn Siôn, Saint elsbeth fel eneth lan yn Gwyn 3, ac Elizabeth loywbleth lan yn Pen 312.
3 Ceir drwy yn lle o yn Gwyn 3, Pen 312 a llawysgrifau Llywelyn Siôn.
4 Gwyn 3, Pen 312 a llawysgrifau Llywelyn Siôn Hwy’n fywiol hen a fuant.
5 Gwyn 3, Pen 312 a llawysgrifau Llywelyn Siôn Heb goel heb plaid heb gael plant.
6 Gwyn 3 Daeth Gabriel at ei wely.
7 Gwyn 3 Cennad y tad hyd y ty.
8 Ni threiglir Gabriel yn Pen 77 a BL 14871, a cheir Addefodd Gabriel yn Gwyn 3.
9 Ceir fo mewn nifer o lawysgrifau oherwydd trin enw yn ddeusill.
10 Amrywia’r rhagenw yn y llawysgrifau, Gwyn 3 yn eich, Llywelyn Siôn ywch, Pen 312 ei.
11 i’r gwir Pen 312 yn unig; ceir y gwir ym mhob llawysgrif arall. Dichon i John Jones, Gellilyfdy gywiro darlleniad ei gynsail ar sail yr hanes yn y Testament Newydd.
12 Ceir I’r boen yn Gwyn 3 a llawysgrifau Llywelyn Siôn.
13 fawr Pen 77 a BL 14871; Gwyn 3 fwyn, Pen 312 y fo. Mae’r cwpled yn eisiau yn llawysgrifau Llywelyn Siôn.
14 a groeses BL 14871; Pen 77 ar y groes, Pen 312 y fo ar groes, Gwyn 3 yw’r groes a’r gwir. Dichon i John Davies gywiro darlleniad ei gynsail.
15 Gwyn 3, Pen 312 a Stowe 959 Mae drwy’r byd.
16 Gwyn 3 a Stowe 959 Mae pob ty, Pen 312 Mae ymob ty.
17 un pentwr Gwyn 3 alawnt wr, Pen 312 tywynau.
18 Gwyn 3 goreu-fodd a gâr Ifan.
19 Y croen oddi am BL 14871; Gwyn 3 Ei wisg oedd am.
20 nid oes gêl BL 14871; mae darlleniadau’r llawysgrifau eraill, megis Gwyn 3 ni cheisiodd gêl, yn anfoddhaol o ran cynghanedd.
21 gannaid BL 14871; ceir gan ei mewn llawysgrifau eraill. Mae hwn yn ddarlleniad anos, a chymerir ei fod yn sangiad yn disgrifio Ioan Fedyddiwr.
22 gwyn Gwyn 3 a Stowe 959 a gai, llawysgrifau Llywelyn Siôn gwyllt.
23 y rhyw Gwyn 3 cyfryw.
24 Mae’r cwpled hwn yn eisiau yn Gwyn 3 a llawysgrifau Llywelyn Siôn.
25 y rhag ofn Gwyn 3 a Pen 312 rhag gwynfyd.
26 I law llawysgrifau Llywelyn Siôn; Gwyn 3, Pen 77 a Pen 312 dan law, BL 14871 ai i law dduw ac lias.