09. I Ffynnon Llanwenfrewy
Llawysgrifau
Ni ddiogelwyd ond un copi o’r gerdd hon, a geir yn LlGC 552B. A dilyn RepWM, y gerdd hon yw’r cyntaf o dri englyn i Ffynnon Gwenfrewy gan feirdd gwahanol a gofnodwyd gan un llaw ar ff. 122r (y lleill yw cerddi 29 a 33). Mae’n bosibl mai’r copïydd oedd y bardd a luniodd y trydydd englyn, sef Huw Madog. Roedd yn fyw yn ystod hanner cyntaf yr ail ganrif ar bymtheg.
Rhestr o lawysgrifau
LlGC 552B, ff. 122r (?Huw Madog, s.xvii1)