Rhagymadrodd Testun golygedig Llawysgrifau English

09. I Ffynnon Llanwenfrewy

Rhagymadrodd

Wiliam Llŷn yw awdur yr englyn hwn i Ffynnon Gwenfrewy yn Nhreffynnon, sir y Fflint. Pwysleisio sancteiddrwydd y gyrchfan enwog yw’r nod, gyda chyfeiriad amhenodol yn y llinell gyntaf at rinweddau iachusol ei dyfroedd.

Dyddiad

Ganed Wiliam Llŷn yn 1534/5. A chymryd y gallai weithio englyn erbyn iddo droi’n ugain oed, awgrymir bod y gerdd hon wedi ei chanu rhwng c.1555 a’i farwolaeth yn 1580.

Golygiadau blaenorol

Stephens 1983: cerdd 177; NSNW cerdd XXVII.

Mesur a chynghanedd

Englyn unodl union, 4 llinell. Cynghanedd: croes 33% (1 llinell), traws 33% (1 llinell), sain 33% (1 llinell), dim llusg. Ceir cynghanedd sain yn y llinell gyntaf yn ôl yr arfer gyffredinol (CD 276; Stephens 1983: lxix). Er bod y gair cyrch wedi ei golli, ceid cynghanedd gytseiniol rhyngddo a dechrau’r ail linell. Ceir lled-gymeriad llythrennol d- yn yr esgyll.