19. Moliant i Ddewi
golygwyd gan Eurig Salisbury
Rhagymadrodd
Cywydd mawl i Ddewi yw’r gerdd hon gan Risiart ap Rhys, yn ogystal â chais i Syr Rhys ap Tomas i ddial marwolaeth gŵr o’r enw Gwilym, a fu farw ym mrwydr Blackheath (neu Bont Deptford) ar 17 Mehefin 1497. Yn unol ag arfer Rhisiart, digon tameidiog ac aneglur yw arddull y gerdd mewn mannau. Molir Dewi am 24 o linellau, gan restru nifer o wyrthiau a gyflawnodd, cyn troi’n sydyn i sôn am Wilym. Ond parheir i gyfarch Dewi hyd ddiwedd y gerdd, gan adrodd wrtho hanes dyddiau olaf Gwilym (llau. 27–46) cyn erfyn arno i ofalu am enaid Gwilym a sicrhau y bydd Syr Rhys ap Tomas yn dial ei farwolaeth (47–60). Ynghyd â Barwn Daubeney ac ieirll Oxford, Essex a Suffolk, chwaraeodd Syr Rhys ran amlwg ym muddugoliaeth y goron ym mrwydr Blackheath (Griffiths 2014: 48), a diau bod Gwilym yn filwr yn ei gatrawd ef. Cododd gwrthryfelwyr o Gernyw yn erbyn Harri VII ym Mai 1497 yn sgil y dreth uchel a godwyd er mwyn ariannu ymgyrch yn erbyn Perkin Warbeck yn yr Alban. Gorymdeithiodd rhyw bymtheg mil ohonynt drwy dde Lloegr a chyrraedd Llundain ym Mehefin, gan grynhoi ar waun Blackheath ar gyrion dwyreiniol y ddinas. Erbyn bore’r frwydr, roedd rhyw bum mil o filwyr wedi cefnu ar yr achos. Trechwyd y gweddill yn llwyr gan fyddin o ryw 25,000 o filwyr proffesiynol, a dienyddiwyd eu harweinwyr yn fuan wedyn (Rowse 1969: 124–8).
Mae’r ychydig wybodaeth a geir am dras Gwilym yn y gerdd yn awgrymu’n gryf ei fod yn perthyn i’r un teulu â Syr Rhys ap Tomas ac yn byw yn yr un ardal ag ef (46 Gronwy lwyth, 47 Dinefwr waed, 54 [t]olwyth y frân; gw. y nodiadau). O chwilio’r achresi, daethpwyd o hyd i Wilym a oedd yn gyfyrder i dad Syr Rhys, eithr yn gyfoeswr i Syr Rhys, ac a fu farw’n ddi-blant (gw. WG1 ‘Einion ap Llywarch’ 4, 7, 8; WG2 ‘Einion ap Llywarch’ 7A3, 8D). Roedd cartref y Gwilym ap Tomas hwn yn Nhre-gib, ym mhlwyf Llandeilo Fawr ar lannau deheuol afon Tywi ger Llandeilo, ac roedd, fel Syr Rhys, yn ddisgynnydd uniongyrchol i Ronwy ab Einion. Roedd ewythr Gwilym, Rhys ap Gwilym, yn weithgar yng ngweinyddiaeth Dinefwr a’r cyffiniau yn hanner cyntaf y 15g. (Griffiths 1972: 250–1). Fodd bynnag, ceir cywydd mawl a chywydd marwnad i Wilym gan Hywel Dafi (GHDafi cerddi 77, 78). Yn anffodus, nid yw’r cerddi’n cynnwys fawr ddim gwybodaeth ddefnyddiol am Wilym, ac ni cheir tystiolaeth fod Hywel Dafi’n dal i ganu ar ôl c.1485 (ibid. 56–8). Gan fod y gerdd hon wedi ei chanu’n fuan wedi 1497, mae’n bosibl mai rhyw Wilym arall anhysbys o dylwyth Syr Rhys a fu’n brwydro yn ei fyddin yn Blackheath.
Ychydig iawn o filwyr y goron a fu farw yn y frwydr. Yn ôl un ffynhonnell, bu farw wyth o bicellwyr wrth ymosod ar Deptford Strand, lle roedd y gwrthryfelwyr wedi gosod gynnau a saethwyr er mwyn eu rhwystro rhag croesi afon Ravensbourne (Rowse 1969: 126), ond diau bod rhagor o filwyr wedi marw yn ystod y brwydro ffyrnig ar waun Blackheath. Yn ogystal â Syr Rhys ap Tomas, enillodd nifer o Gymry eraill fri yn sgil y brwydro yn Blackheath. Urddwyd Tomas Salbri o Leweni yn farchog wedi’r frwydr (DNB Online s.n. Salusbury family), a bu ei frawd, Rhobert Salbri o Lanrwst (os ef yw’r gŵr a folwyd gan Dudur Aled, gw. TA cerdd IV), yn ymladd gydag ef. Gall hefyd mai yno yr urddwyd Wiliam Herbert o Golbrwg, a fu yntau’n ymladd, o bosibl, ar yr un ochr â’i frawd, Syr Rhisiart Herbert o Drefaldwyn (GLMorg 34.74n). Un arall oedd Owain ap Meurig o Fodeon ym Môn (GLM cerdd VIII). Canodd Guto’r Glyn fawl i’w tadau oll (GG.net cerddi 22, 63, 71).
Dyddiad
Yn fuan wedi brwydr Blackheath ar 17 Mehefin 1497.
Golygiad blaenorol
GRhB cerdd 9.
Mesur a chynghanedd
Cywydd, 60 ll. Cynghanedd: croes o gyswllt 5% (3 ll.), croes 62% (37 ll.), traws 18% (11 ll.), sain 3% (2 l.), llusg 12% (7
ll.). Noder bod nifer y cynganeddion sain yn rhyfeddol o isel.