Rhagymadrodd Testun golygedig Llawysgrifau English

16. Moliant i’r Seintiau

golygwyd gan Eurig Salisbury

⁠Pen 54, 150‒4

Nodiadau
Dyma’r casgliad mawr cynharaf o gerddi’r Cywyddwyr, nifer ohonynt yn llaw’r beirdd eu hunain. Mae natur y cynnwys yn awgrymu bod y llawysgrif wedi ei hysgrifennu yn y de-ddwyrain, o bosibl yng nghartref Ieuan ap Gwilym Fychan yn y Peutun ger Aberhonddu. Copïwyd y gerdd hon gan ei hawdur, Huw Cae Llwyd, fel rhan o gasgliad o’i waith. Gwnaeth bedwar cywiriad wrth iddo godi’r testun (gw. llinellau 36, 43, 50 a 52). Ysgrifennodd gwpled 59–60 ddwywaith.

150
Roes duw wared ynn gwledydd
Rai da saint yn rodyo sydd
llais brodur llv ysbrydol
llawenhawn bob llv ny hol
5pond donnyoc pan yn tynnen
saint oi rrwym y seintwar hen
Rwym sentes drỽy r dinessydd
weithion y rrwym aeth yn rrydd
Oes vn wlad na roeson lw
10gwedy hynn heb gadỽ hỽnnỽ

151
Gwedy n rroi gyd yn y rrỽyd
gloyỽ on perigl yn purwyd
Troi ac eiriol trugaredd
i mae r byw ar marw or bedd
15Saint y wlad a roesant lef
saint enlli sy hwnt vnllef
Roddes yr vchel geli
Rodd o nef yn rryddhav ni
Aeth dewi n tad prelad prudd
20attaỽ rrobert a rrybudd
Gwr o gnawd y gỽr ai gwnaeth
a roes gwbl ir esgobaeth
Ni bv vyth i wyneb vo
heb wen dec yn bendigo
25Ni bv ỽlad hyd na bai les
rac vffern roi y gyffes
Iroeddem wedy ỽeddi
yn gỽeled nef yn gỽlad ni

152
Gyrrodd gynt graddav a gaid
30gwr on ynys gornannyaid
Dwr glan vv driagl yna
dros dair doeth dros dir a da
Gyrrwn Innav gornannyaid
a gwall on plith gwell yw n plaid
35Dygwn lle mae yn gaead
dwr swyn i gr gloi dryssavn gỽlad
Delwav ar llv ny dilyn
manerav saint mae n ras hyn
Att vaner sant o vynyw
40mae pwys yn tir mapsant yw
llv dv a bella dewi
a llv gwynn oll a gawn i
Vn mapsant or kant nis kaid
hep itynnv n gaptennyaid
45Torch gynoc trycha gynnen

153
torr y sis ar bop trais hen
kynydr dec hen awdur da
kur elynyon kreulona
Gwisged ar a gred ir groc
50guras y map trugaroc
kair ystondardd krist wyndec
kair ystal wrth wrth bob kroes dec
arfav Iessu ar veyssydd
yn gorvod Sarffod yssydd
55Moes odawn y maes o dy
wisgo rrain os gwir hynny
Os gadan mae n wisgedic
wisc mair dros gymry a dric
Gwall mawr ynn golli morwyn
60y bv r vn mab er yn mwyn
Gwall mawr ynn golli morwyn
60y bv r vn map er yn mwyn
Ni roes ynn siartr ar gartref
ond duỽ ar saint oy ras ef

154
O buon wers yn bai ni
dan gvdd a dyn yn gweiddi
65Duw a sdoved i sdavell
gyda ni moes i gadw n well

ho’ kae llwyt