Rhagymadrodd Testun golygedig Llawysgrifau English

4. Mawl i Ddewi Sant

golygwyd gan Dafydd Johnston

BL 14967, 202–3


202
Damvnno da imennaid
heneiddio rwy hynn oedd raid
myned ir lle kroged krist
Kyd boed y ddevdroed ddidrist
5mewnn trygyff ymaen trigaw
Ni myn y traed mynned traw
Kystal am oval ym yw
Vyned teirgwaith i vynyw
A mynned kymyred kain
10yr hafoedd hyd yn rrvvain
Gwyddwn lle mynwn y mod
ysdeddfol ywr eisteddvod
ymaenol ddewi y mynyw
mangre gain myn y groc yw
15ynglyn rrossyn maer iesin
A rol i wydd a gwydd gwin
Ac vnic mvssic a moes
A gwrle gwyr agarloes
A chytkerdd hoyw loyw lewyrch
20rrwng organ ychlan a chlych
Ar trvblwm trwm tramawr
yn bwrrw sens i berri sawr
Nef nevoedd gyoedd gain
ysta dref ystad rvvain
25paradwys gymry lwys lefyn
por dewisdref paradwysdrefyn
pedvs vu gan sain padric
Am sori duw amser dic
Am erchi hynn amarch oedd
30Iddo or lle a wnaeddoedd

203
Vynned ymaith o vyniw
Kyn geni dewi da yw
Sant oedd ef on nef i ni
Kynwynol kynn ei enni
35Sant glan oedd pan i ganed
Am hollir maen graen i gred
Sant i dad di ymwad oedd
pennadur saint pan ydoedd
Santes gydles lygadlonn
40Vn ddi nam oedd nonn
Verch ynyr vawr i chenedl
Lleian wiw vwch ydiwr chwedl
Vn bwyd aeth yn i benn
Barra oer a beryren
45Aeth ym henn nonn wen wiw
Er pann gad pennaic ydiw
Holl saint y byd gyd gerynt
A ddoeth ir senedd goeth gynt
I wrandaw yn yr vndydd
50I bregeth a ffeth oi ffydd
lle disgodd llu dewisgoeth
y bu yn pregethu yn goeth
chwemil saith ugeinmil saint
Ac vn vil wi or genvaint
55Roed iddo vod glod glendyd
yn benn ar holl saint y byd
Kodes nid ydoedd iessyn
Dan draed dewi vry vryn
Ef yn dec a vendigawdd
60Kantref o nef oedd i nawdd
Ar ennaint twymyn arenic
Ni ddervydd trac owydd tric
duw arithiawdd dygyn gawdd dic
ddev vlaidd anian ddievylic
65devwr hen o dir hvd
Gwydre astrvs ac odrvd
Am neuthur drvd antvr gynt
rvw bechod arybvchynt
ai mam pa ham y bai hi
70yn vleiddiast oervel iddi
A dewi geth ai duc wynt
Oi hir ben yni evr bwynt
Diwallodd duw i allawr
I vagl a wnnaeth miragl mawr
75yr adar gwylld or redec
a yrai ir tai vy Ior tec
Keirw osclgyrn chwyrn chwai
Gweission vthur ai gwysnaethai
duw mawrth galan mawrth y medd
80I varw yr aeth ef i orwedd
Bu ar i vedd diwedd da
Gkain gler yn kanv gloria
yngylion nef ynglan nant
Ar ol bod i arwyliant
85I bwll uthern ni vernir
Ennaid tyn yn anatir
A gladder di over yw
ymynwent dewi y mynyw
Ni saing kythravl brychavlyd
90Ar i dir byth er da or byd
hyder a wnaeth kanhiadv
gras da y grawys du
ir brytaniaid brut wyneb
y gwynad ynanad neb
95pe bai mewnn llyfr or pabir
bevnydd mal hafddydd hir
Noter a ffeblic vn natur
A ffin a du a ffenn dur
yny sgrivenv bu bvdd
100I vvchedd ef ddi achudd
odid vyth yr daed a vai
yr enyd yr ysgrivennai
dridiav a blwyddyn drwydoll
A wnnaeth o yniaith oll

105Iollo goch ai kant