13. Moliant i Feuno
golygwyd gan Eurig Salisbury
Llawysgrifau
Ni cheir ond un copi o’r gerdd hon, a hynny yn Llst 125, llawysgrif a luniwyd c.1644–8 gan Wiliam Bodwrda a chyd-gopïydd anhysbys. Wiliam ei hun a gopïodd y gerdd hon. Yn ôl ei arfer, ni chofnododd Wiliam unrhyw wybodaeth am ei ffynhonnell. Ymddengys fod y ffynhonnell goll honno’n anghyflawn, naill ai am fod y ddalen a oedd yn cynnwys y gerdd wedi rhwygo neu am fod y ddalen neu’r dalennau nesaf ar goll. Ni cheir ond 24 llinell o’r cywydd yn y llawysgrif – testun da iawn ac eithrio rhai mân wallau (gw. y nodiadau) – sef llai na hanner y gerdd wreiddiol, o bosibl, a dilyn maint y bwlch a adawyd gan Wiliam rhwng llinell 24 a dechrau’r gerdd nesaf, lle ceir lle i ryw 34 o linellau. Ni cheir enw’r bardd.
Achos arall tebyg yn Llst 125 yw copi unigryw a dienw o gywydd mawl i Fechyll ar dudalennau 206–9 (yn llaw’r cyd-gopïydd anhysbys), lle ymddengys fod bwlch wedi ei adael ar ddiwedd y gerdd ar gyfer dwy linell goll. Ni ellir ond dyfalu a oedd testun y gerdd honno a thestun y gerdd i Feuno yn deillio o’r un llawysgrif anghyflawn. Ni ellir ychwaith ond dyfalu pwy oedd y bardd, gan nad ymddengys fod Wiliam Bodwrda a’i gynorthwyydd wedi copïo eu testunau mewn unrhyw drefn arbennig. Serch hynny, mae’r ffaith mai gwaith beirdd o’r gogledd yn bennaf a geir yn y llawysgrif (gw. y mynegai fesul bardd ar dudalennau 793–806), ynghyd â phwnc y gerdd, yn awgrymu mai gogleddwr ydoedd.
Teitl
Teitl y llawysgrif: Cyw’ i Feuno.
Y llawysgrif
Llst 125, 414‒15 (Wiliam Bodwrda, c.1644‒8)