38. Vita Sancti Teliaui (Liber Landavensis)
golygwyd gan Ben Guy
Ni wyddir unrhywbeth am y gwir Sant Eliud, ond mae ffurf o’i enw (Teilo) yn digwydd yn aml mewn enwau lleoedd ar draws de Cymru (o’r fath ‘Llandeilo’ yn enwedig), yn awgrymu yr oedd unwaith yn ganolbwynt cwlt pwysig. Ceir tystiolaeth ardderchog o gwlt Teilo yn yr wythfed a’r nawfed ganrif yn y siarteri Hen Gymraeg sy’n goroesi yn Efengylau Caerlwytgoed. Er lleolwyd y llyfr efengylau Insiwlar cynnar hwn yng Nghanolbarth Gorllewinol Lloegr ers y degfed ganrif (Charles-Edwards and McKee 2008), ymddengys yr oedd yn eiddo eglwys Llandeilo Fawr, nawr yn Sir Gaerfyrddin, yn y nawfed ganrif. Yn ystod y cyfnod hynny, ychwanegwyd sawl nodyn yn ymylon y llyfr efengylau, a thri ohonynt (1, 3, 4) yn cofnodi rhoddion i Dduw ac i Deilo (hynny yw, i Landeilo Fawr) (Jenkins and Owen 1983–4). Tystiwyd nodyn arall (2, ‘surrexit memorandum’ fel y’i gelwir) gan ‘Teilo’, nid fel person byw, ond fel sant, â’i ‘bresenoldeb’ parhaol yn yr eglwys lle cadarnhawyd y cytundeb wedi ei sicrhau gan y gymuned grefyddol yn ei anrhydeddu yno.
Ymddengys i statws Llandeilo Fawr leihau yn sylweddol erbyn y deuddegfed ganrif, a meiddiannwyd cwlt Teilo gan ganolfan esgobaethol de-ddwyrain Cymru a oedd, erbyn 1119, wedi ei leoli yn Llandaf. Dadleuwyd bod posibilrwydd mai yn ystod esgobaeth yr Esgob Joseff rhwng 1022 a 1045 y daeth Llandaf yn sedd yr esgobaeth, ac efallai yng nghyfnod yr Esgob Joseff hefyd y rhoddwyd yr hawliau ac eiddo a berthynai i gwlt Teilo i Landaf (Davies 1978: 21–2, 155, 160; Davies 2002: 368–9; 2003: 16–18). Mae pwysigrwydd cwlt Teilo i hunaniaeth Llandaf yn y deuddegfed ganrif yn amlwg yn Llyfr Llandaf, lle rhoddir safle blaenllaw i Fuchedd Teilo ac i ddogfennau eraill yn ymwneud â’r sant.
Mae’r testun Buchedd Teilo a olygir yma yn cynnwys y Fuchedd ei hun (§§1–18), rhestr o frenhinoedd yn gyfoes â Theilo (§19), dogfen yn cofnodi breintiau eglwys Teilo (h.y. Llandaf) yn Lladin ac yn Gymraeg (§§20–1), a saith siarter yn ôl y son yn cofnodi rhoddion o dir i Deilo ac i Landaf (§§22–4, §§26–9), ynghyd â rhestr o bedwar ar hugain o eiddo pellach Teilo a roddwyd i Landaf (§25). Mae’r detholiad hwn o destunnau yn unigryw i Lyfr Llandaf, ac fe’i gasglwyd ynghyd yn sicr yn Llandaf yn ystod cynnull cynnwys y llawysgrif at ei gilydd yn yr 1120au a’r 1130au cynnar.
Buchedd Teilo, a ymddengys ar ddechrau casgliad Llyfr Llandaf o destunnau Teilo, yw’r unig rhan o’r casgliad a geir mewn rhyw ffurf tu allan i’r llawysgrif. Mae Buchedd Teilo yn un o dair o Fucheddau yn Llyfr Llandaf a’u hymgorfforwyd yng nghasgliad mawr Vespasian A. xiv o Fucheddau seintiau. Bucheddau Dyfrig a Chlydog yw’r ddwy arall, sy’n ymddangos, ynghyd â’i siarteri, mewn bron union gopïau yn Vespasian A. xiv. Nid yw’r berthynas rhwng y ddwy fersiwn o Fuchedd Teilo, fodd bynnag, mor syml. Mae fersiwn Vespasian yn fyrrach na fersiwn Llyfr Llandaf, ac nid yw’n cynnwys y breintiau a’r siarteri yn nodi hawliau Llandaf. Nid yw fersiwn Llyfr Llandaf yn hirrach oherwydd adroddir yr un storïau yn fwy amleiriog, ond yn hytrach ceir ymadroddion ac hyd yn oed adrannau cyfan nad ydynt yn Vespasian A. xiv. Mae’n ymddangos, felly, naill ai bod fersiwn Vespasian yn dalfyriad o fersiwn Llyfr Llandaf neu bod fersiwn Llyfr Llandaf yn ehangiad o fersiwn Vespasian. Mae pob arwydd yn awgrymu’r ail bosibilrwydd (LWS 164–6; Hughes 1980: 61–2; Davies 2003: 118). Ar y cyfan, mae’r adrannau ychwanegol a geir yn fersiwn Llyfr Llandaf yn arddangos elfennau o ddulliau cyfansoddol a strategaethau ar gyfer ymddyrchafu Llandaf sy’n nodweddiadol o Lyfr Llandaf yn gyffredinol (ystyrir hyn ymhellach islaw) ond sydd bron yn llwyr absennol o’r testun a rannir rhwng y ddwy fersiwn (yn cynnwys mwy neu lai holl destun fersiwn Vespasian, gweler y rhagymadrodd i VSTeliaui(Vesp)). Petai’r testun wedi ei ysgrifennu yn wreiddiol gyda sylw ar bwrpas wleidyddol Llyfr Llandaf, ac wedyn wedi ei fyrhau i ffurf mwy niwtral a homiletig Vespasian A. xiv, yna byddai disgwyl gweld y cyd-destun gwleidyddol wedi ei gyfuno yn fwy drylwyr yn fersiwn Llyfr Llandaf, ac felly aralleirio’r testun yn fwy gynhwysfawr gan dalfyrrwr Vespasian er mwyn ei ddileu. Ni cheir y fath aralleirio sylweddol, sy’n awgrymu mai fersiwn Vespasian sydd fwyaf tebyg i’r cynddelw cyffredin, ac mai copi estynedig a rhyngosodedig o’r cynddelw cyffredin hwn yw fersiwn Llyfr Llandaf, wedi ei baratoi yn arbennig ar gyfer ei gynnwys yn Llyfr Llandaf.
Mae’r adrannau ychwanegol a geir yn fersiwn Llyfr Llandaf o Fuchedd Teilo yn amrywio o frawddegau unigol i storïau llawn. Bwriad y rhan fwyaf o ychwanegiadau oedd pwysleisio rhagoriaeth Llandaf dros sefydliadau eglwysig cyfagos. Felly, yn yr adroddiad o ddyrchafu Teilo, Dewi a Phadarn yn esgobion yn Nghaersalem, ychwanega Llyfr Llandaf yr honiad mai Teilo oedd olynydd yr Apostol Pedr a Dewi olynydd yr Apostol Iago, yn tanlinellu rhagoriaeth Teilo dros Ddewi (§8). Eto, ychwanegwyd brawddegau i’r hanes o ddadl rhwng clerigwyr Penalun, Llandeilo Fawr a Llandaf ynglyn â phwy oedd â’r hawl i gorff Teilo er mwyn datgan rhagoriaeth Llandaf dros y ddwy eglwys arall ac i nodi, er lluosogi corff Teilo yn dri, mai Llandaf yn unig a feddiannai ei wir gorff (§18). Ychwangewyd deunydd pellach i gywiro amharodrwydd fersiwn Vespasian i enwi unrhyw eglwysi penodol yn gysylltiedig â Theilo. Yn y pennawd cyfeirir at Deilo fel ‘archesgob eglwys Llandaf’ yn hytrach nag ‘esgob’ yn unig, fel a geir ym mhennawd fersiwn Vespasian. Wedi i Deilo, Dewi a Phadarn ddychwelyd o Gaersalem, nid yw fersiwn Vespasian yn honni i Deilo gymryd unrhyw swydd arbennig, tra bod fersiwn Llyfr Llandaf yn nodi ‘derbyniodd y sanctaidd Deilo gofal bugeiliol eglwys Llandaf, a’i gysegrwyd iddi, ynghyd â’r holl esgobaeth yn gyfagos iddi a oedd wedi bod yn eiddo i’w rhagflaenwr Dyfrig’ (§9).
Y stori am arhosiad Teilo ym Llydaw tra roedd yr Haint Melyn ym Mhrydain yw’r ychwanegiad mwyaf sylweddol i fersiwn Llyfr Llandaf (§§10–14). Ysbrydolwyd yr hanes hwn yn y pen draw gan Fuchedd Lydaweg Turiau o Dol, sant a ddymunai casglwyr Llyfr Llandaf ei gyfateb i Deilo (LWS 182–6; Davies 2003: 117–19). Mae’r hanes yn cynnwys dyrchafiad syfrdanol Teilo i esgobaeth Dol, er bod Samson, esgob Dol, dal yn fyw a bod Teilo ei hun dal yn archesgob Llandaf. Yn yr un modd, mae’n debyg ysbrydolwyd y stori am Deilo yn trechu draig (§12) tra yn Llydaw gan Fuchedd Gyntaf Samson, buchedd cafodd fersiwn ohono ei gynnwys yn Llyfr Llandaf (cymh. VSSamsonis(LL), §52). Mae dibyniaeth ar Fucheddau seintiau Llydaweg yn elfen nodweddiadol o waith hagiograffeg casglwyr Llyfr Llandaf, ac felly mae’n nodedig mai ond yn y rhannau o Fuchedd Teilo sydd yn unigryw i Lyfr Llandaf a geir y defnydd o ffynonellau Llydaweg, a ddim yn y rhannau o’r testun a geir hefyd ym Muchedd Vespasian.
Ceir yr ychwanegiadau sywleddol eraill i Fuchedd Llyfr Llandaf yn dilyn dychweliad Teilo o Lydaw. Ceir rhestr o ‘ddisgyblion’ honedig Teilo, wedi ei thynnu yn bennaf o rannau amrywiol o Lyfr Llandaf (§16). Honnir bod un o’r disgyblion hyn, Ishmael, wedi ei gysegru gan Deilo yn esgob Tyddewi ar ôl marwolaeth Dewi, er mwyn dangos i Landaf unwaith feddu ar awdurdod archesgobol dros Dyddewi. Yn dilyn hyn ceir detholiad o storïau gwyrthiau byr amrywiol (§17) yn ymwneud ag eglwysi Teilo a hawliwyd fel eiddo Llandaf yn y rhestr o eiddo Teilo wedi ei hatodi i’r Fuchedd (§25).
Mae’n debygol cyfansoddwyd y mwyafrif o’r dogfennau a atodwyd i fersiwn Llyfr Llandaf o Fuchedd Teilo yn arbennig ar gyfer eu cynnwys yn Llyfr Llandaf. Er hynny, mae’n bosib bod rhan o’r breintiau a honnwyd eu rhoi i Deilo a Llandaf yn eithriad. Atodwyd dau ddatganiad o freintiau i’r Fuchedd: y cyntaf yn Lladin, a elwir Priuilegium sancti Teliaui (§20), a’r ail yn Gymraeg, a elwir Braint Teilo (§21). Ceir tystiolaeth nad oedd y rhain yn rhan o’r syniad gwreiddiol o gasgliad o ddogfennau Teilo yn Llyfr Llandaf yn y modd fe’u hysgrifennwyd ar dudalen ar wahân a’u hychwanegu i’r llawysgrif wedi gosod testunnau ar y tudalennau oddi amgylch (Huws 2000: 132). Golyga hyn fod y siarteri (§§22–9) wedi eu gwahanu o’r rhestr o frenhinoedd (§19) a ddylai eu rhagflaenu (Davies 2003: 68). Fodd bynang, mae yna gysylltiad amlwg rhwng breintiau Teilo a’r datganiadau fformiwläig eraill o freintiau Llandaf yn Llyfr Llandaf, yn enwedig y rhai hynny sy’n gysylltiedig â Bucheddau Dyfrig ac Euddogwy (VSDubricii(LL/Vesp), §1; VSOudocei(LL), §4). Dadleuodd Wendy Davies (1974–6) mai’r Braint Teilo Cymraeg oedd y fraint gwreiddiol, a bod y tair braint Lladin (Priuilegium sancti Teliaui a breintiau Dyfrig ac Euddogwy) yn deillio ohoni yn y pen draw. Yn fwy diweddar dadleuodd Paul Russell (2016) mai cyfiethiad yw Braint Teilo o fraint Lladin tebyg i, ond ddim o reidrwydd yn unfath â’r, tair braint Lladin sy’n goroesi. Fyddai’r ail sefyllfa yn gyffelyb i’r defnydd a wneir o Fuchedd Teilo gan Fuchedd Euddogwy Llyfr Llandaf, oherwydd mewn rhai agweddau mae’r rhannau o Fuchedd Teilo a geir ym Muchedd Euddogwy yn debycach i’r Fuchedd Teilo cynharach sy’n goroesi yn Vespasian A. xiv nag i’r Fuchedd Teilo yn Llyfr Llandaf ei hun. Awgrym arall a gynnigwyd gan Wendy Davies oedd y dylid gwahanu Braint Teilo yn ddwy rhan, y cyntaf wedi ei hysgrifennu wrth gasglu Llyfr Llandaf yn yr 1120au a’r 1130au cynnar, ond yr ail wedi ei chyfansoddi ychydig yn gynharach, efallai yn hwyr yn y degfed ganrif neu yn yr unfed ganrif ar ddeg. Awgrymodd John Reuben Davies (2003: 17–18, 70) goruchafiaeth Rhydderch ab Iestyn (1023-33) fel cyd-destun cynnar posib ar gyfer cyfansoddi Braint Teilo , er fynegodd amheuon hefyd ynglyn â‘r rhagdybiaeth o darddiad ar wahân ar gyfer y ddwy ‘rhan’ o’r testun. Os yw ail rhan Braint Teilo yn cynnwys cyfansoddiad cynharach, ymddengys nad yw’r Lladin gwreiddiol tebygol fe’i gyfieithiwyd ohoni wedi ei chadw yn llwyr, oherwydd cwtogwyd y rhan hon yn y Lladin Priuilegium sancti Teliaui (yn rhannol oherwydd fe’i chynlluniwyd i edrych fel braint pabaidd) ac nid yw’n ymddangos o gwbwl ym mreintiau Dyfrig ac Euddogwy.
Lluniwyd y rhan fwyaf o’r siarteri wedi eu hatodi i Fuchedd Teilo gan Landaf er mwyn hawlio eiddo a gysylltwyd yn flaenorol gyda chwlt Teilo. Mae’r ddwy siarter gyntaf (§§22–3), sydd â rhestrau o dystion credadwy, yn eithriadau, ond mae’n debygol yr oedd y fersiynau gwreiddiol o’r siarteri hyn yn cofnodi rhoddion o eiddo i eglwys Dyfrig yn Ergyng yn hytrach nag i Deilo ac i Landaf (Guy 2018: 22–3, 33–4). Mae’r siarteri eraill wedi eu hatodi i Fuchedd Teilo yn cynnwys adroddiadau cymhleth ac nid oes ganddynt rhestrau o dystion credadwy; mae’n debygol fe’u cyfansoddwyd gan gasglwyr Llyfr Llandaf. Eu prif bwrpas oedd i sefydlu hawl Llandaf i eiddo wedi ei leoli o fewn esgobaeth Tyddewi. Dyna pam honna pedair ohonynt (§§26–9) gysylltiad gyda brenhinoedd Dyfed. Er gwaethaf eu annilysrwydd tebygol, mae’r siarteri yn cynnwys adroddiadau diddorol yn ymwneud â Theilo, gan gynnwys y Brenin Iddon yn trechu byddin Sacsonaidd (§24), rhialtwch meddw llys y Brenin Aergol (§27), merthyrdod Tyfai o Benalun, brawd honedig Euddogwy (§28; cymh. VSOudocei(LL), §1), a tharddiad cychwyr Llanddowror (§29). Gorffenna pob stori gyda rhodd o eiddo i Deilo ac i Landaf (gweler y map yn Hughes 1981: 16).
Yn olaf, mae’n nodedig bod rhestr o bedwar ar hugain eiddo a roddwyd, yn ôl y sôn, i Deilo yn amser y brenhinoedd a restrwyd yn §19 (§25) wedi ei gwasgu ymhysg y siarteri hyn. Lleolir yr holl eiddo i’r gorllewin o’r Tywi, ac mae’r rhan fwyaf yn cynnwys enw Teilo (Davies 2002: 366; 2003: 88). Dadleua Coe (2002: 71) mai rhestr o eiddo Penalun oedd hyn yn wreiddiol, tra awgryma Doble (LWS 194) ysgrifennwyd y rhestr yn Llandeilo Fawr. Ailadroddir y rhan fwyaf o’r eiddo mewn rhestr debyg, ond hirach, o eiddo wedi ei gadarnhau, yn ôl pob golwg, i Esgob Joseff o Landaf gan Rhydderch ab Iestyn tua. 1025, yn ddiweddarach yn Llyfr Llandaf (LL 254–5). Gallai’r cadarnhad o freintiau ac eiddo sy’n cynnwys y rhestr hirach hon ddeillio o ddogfen ddilys (Davies 1979: 126; Davies 2003: 17), ac mae’n bosib cofnodai’r ddogfen hon y weithred a gyflwynodd cwlt Teilo i Landaf am y tro cyntaf.