Rhagymadrodd Testun golygedig Llawysgrifau English

33. Vita S. Asaph

golygwyd gan David Callander

Rhagymadrodd

Asa Sant yw nawddsant cadeirlan Llanelwy (Saesneg, St Asaph), ac ymddengys fod ganddo’r statws pwysig hwn ers y ddeuddegfed ganrif. Serch hynny, cymharol brin yw’r deunydd Cymreig amdano sydd wedi goroesi. Heblaw’r Fuchedd a olygir yma, nad oes gan Asa ei hun ond rôl fach iawn ynddi, rhoddir y sylw mwyaf i Asa ym Muchedd Cyndeyrn neu Kentigern gan Jocelin o Furness (1175x1199). Yma, un o ddisgyblion Cyndeyrn yw Asa ac fe’i darlunnir yn cyflawni gwyrth yn ystod ei blentyndod (§25) ac yn ddiweddarach yn olynu Cyndeyrn fel esgob yr hyn a ddeuai’n esgobaeth St Asaph neu Lanelwy (§31). Ceir priod lithoedd ar gyfer gŵyl Asa (1 Mai) yn Brefiari Aberdeen, a argraffwyd yn 1510 yng Nghaeredin (Macquarrie 2012: 114–7). Mae hwn yn cynnwys colect a thair llith. Seilir y llithoedd ar Fuchedd Cyndeyrn gan Jocelin ac mae bron yn sicr eu bod wedi eu llunio yn yr Alban, o ganlyniad i gysylltiad Asa â Chyndeyrn, nawddsant cadeirlan Glasgow (Harris 1956: 11, 14–15). Tardda’r colect o’r un ar gyfer Sant Richard o Chichester yn null Sarum (Harris 1956: 11). Yn “siartr sefydlu” Llanelwy, sy’n goroesi yn LlGC SA/MB/22 (o’r bymthegfed ganrif), prin fod Asa’n cael ei grybwyll, er galw arno unwaith. Cynhwysir Asa yn y traethawd achyddol canoloesol Bonedd y Saint a hefyd yn y testun diweddarach Achau’r Saint a darddodd ohono ac sy’n perthyn i’r bymthegfed ganrif (EWGT 56, 69). Cyfeirir at Asa mewn nifer o gerddi Cymraeg o ran olaf y bedwaredd ganrif ar ddeg ymlaen (Harris 1956: 23). Darlunnir Asa mewn ffenestr liw sy’n goroesi, wedi ei hadfer, yn Llandyrnog, sir Ddinbych, ac sy’n dyddio o tua 1500 (stainedglass.llgc.org.uk/image/6433). Ni cheir Asa mewn calendrau Cymreig canoloesol, ac mae hyn yn syndod ac ystyried nifer fawr y calendrau a gynhyrchwyd yn yr esgobaeth yn yr oesoedd canol diweddar. Fodd bynnag, fe’i cynhwysir mewn rhai calendrau Cymreig o’r cyfnod modern cynnar, ac yn wir, ceir hyd i’w ŵyl yn y merthyradur Rhufeinig modern (Harris 1956: 15-21). Yn ogystal â’r gadeirlan, roedd Asa yn nawddsant Llanasa yn sir y Fflint ac (ar y cyd â Chyndeyrn) eglwys plwyf Llanelwy (PW 101; LBS i, 182). At hynny, cynrychiolir enw Asa mewn amrywiol enwau lleoedd o fewn esgobaeth Llanelwy (LBS i, 183–4). Nid oes cofnodion cynnar am Asa ac mae’n bosibl fod ei gysylltiad â’r gadeirlan wedi ei ddyfeisio pan grëwyd yr esgobaeth ei hun yn y ddeuddegfed ganrif (Harris 1956: 6–7; Davies 2011; Davies 2009; Davies 2013).

Nid yw Buchedd Asa Sant yn goroesi ond yn Peniarth 231 a chopïau sy’n tarddu ohoni, ac roedd mewn cyflwr gwael iawn pan y’i cofnodwyd yno. Copïodd Peniarth 231 ddeunydd o’r llawysgrif ganoloesol goll Llyfr Coch Asaph, ac fe’i cynhyrchwyd tua 1620 gan Robert Vaughan. Nid yw’r Fuchedd, fel y mae heddiw, yn Fuchedd Asa o gwbl mewn gwirionedd. Disgrifia’r rhagymadrodd (§§1–2) awydd yr ysgrifydd i greu testun mewn arddull syml a chryno ynghylch sefydlu cadeirlan Llanelwy (gyda manylion sy’n tarddu o Fuchedd Cyndeyrn, sy’n destun mwy hirfaith) ac wedyn rhai pethau am Asa Sant ei hun. Wedyn mae’r testun yn dilyn yn agos Fuchedd Cyndeyrn gan Jocelin, §§23–5 a 30–1; tardda bron yr holl ddigwyddiadau o’r Fuchedd hon, a llawer o frawddegau’n cael eu trosglwyddo air am air. O’r ddwy lawysgrif sy’n cynnwys Buchedd Jocelin, mae darlleniadau Dublin, Marsh’s Library MS Z 4.5.5 yn agosach fel arfer (ond nid bob tro) i Fuchedd Asa Sant nag y mae’r rheini yn British Library, Cotton Vitellius C viii. Ceir ym Muchedd Asa Sant hanes Cyndeyrn yn gadael ei Esgobaeth ei hun, sef Glasgow, oherwydd erledigaeth y brenin Morken. Aeth i Dyddewi a chael croeso cynnes yno gan Ddewi Sant ei hunan. Mae dwy ddalen ar goll o’r testun yma. Wrth i’r testun barhau, cawn hanes y brenin Caswallon yn cefnogi Cyndeyrn, a baedd gwyllt gwyn yn arwain y sant i’r man lle y dylid sefydlu ei eglwys yn Llanelwy. Wrth i’r gwaith adeiladu ddod yn ei flaen, cyrhaedda’r brenin paganaidd Maelgwn, wedi ffyrnigo. Mae’n gorchymyn dadwneud yr holl waith, ond caiff ei amddifadu o’i olwg. Wedyn mae’n troi at Gristnogaeth a chael ei fedyddio, gan ddiddymu ei orchmynion cynharach a chynorthwyo Cyndeyrn, a datblyga mynachlog y sant yn gymuned grefyddol ffyniannus. Dywed Cyndeyrn yr hoffai farw yno, ond mae neges angylaidd yn ei orchymyn i ddychwelyd i Glasgow. Daw’r testun i ben yn annisgwyl wrth i Gyndeyrn roi arweinyddiaeth i’w fynachod ynghylch ethol olynydd iddo.

Er bod ein testun yn ddyledus iawn i waith Jocelin, gwnaeth yr ysgrifydd nifer o newidiadau sylweddol. Y peth mwyaf diddorol yw’r ffaith fod y disgrifiadau o Asa ei hun yn §25 a §31 wedi eu tynnu allan. Efallai iddynt gael eu gosod tua diwedd y Fuchedd mewn casgliad o ddeunydd am Asa, fel a ddisgrifir yn y rhagymadrodd, ond daw’r testun i ben cyn cyrraedd y pwynt hwn. Os oedd y Fuchedd yn cynnwys yn wreiddiol ddeunydd pellach am Asa, yn tarddu’n rhannol, o bosibl, o ysgrifau haneswyr Cymreig yn eu hiaith frodorol fel yr awgryma’r rhagymadrodd, collwyd hwnnw yn gyfan gwbl hefyd. Yn anffodus, nid oes gennym ond gweddillion testun y gellid bod wedi ei alw’n Fuchedd Asa Sant (‘Vita Sancti Assaph’ yw’r teitl yn Peniarth 231). Fel y mae heddiw, mwy addas o lawer yw ei alw’n ‘Pars vite Beati Kentigerni, et de fundacione Ecclesie Assavensis’ (‘Rhan o Fuchedd y Bendigedig Gyndeyrn, ac ynghylch sefydlu eglwys Asa’), fel a wneir yn rhestr cynnwys Llyfr Coch Asaph (1602) (Roberts 1868).

Mae dyddio’r Fuchedd hon yn gymhleth ar sawl cyfrif, yn enwedig o ran ei chyflwr anghyflawn presennol mewn trawsysgrifiad o’r cyfnod modern cynnar a’r ffaith fod cymaint o’i deunydd yn tarddu’n uniongyrchol o un ffynhonnell. Mae’n amlwg fod y Fuchedd yn ddiweddarach na Buchedd Cyndeyrn Jocelin (a gyfansoddwyd 1175x1199) (Downham 2013: 121). Yn Llyfr Coch Asaph, lleolid y Fuchedd ymhlith dogfennau o ran olaf y drydedd ganrif ar ddeg, ac mae’n bosibl iawn fod y Fuchedd ei hun yn dyddio o’r cyfnod hwn, er nad oes dim i brofi na all fod ychydig yn gynharach neu ddiweddarach. Dengys orgraff yr enwau priod, a’r cyfeiriad at ffynonellau wedi’u hysgrifennu yn y Gymraeg, fod yr ysgrifydd yn gyfarwydd â’r iaith, a chyfeirir at Asa fel ‘ein nawddsant’; awgryma hyn, a nodweddion eraill, fod yr ysgrifydd yn gweithio yng nghadeirlan Llanelwy yn ôl pob tebyg, neu o leiaf o fewn ei hesgobaeth.