Rhagymadrodd Testun golygedig Llawysgrifau English

26. Buchedd Nicolas

golygwyd gan Alaw Mai Edwards

Rhagymadrodd

Hanes esgob Myra, tref hynafol yn Lycia, de-orllewin Twrci, yn ystod y bedwaredd ganrif OC a geir yma, er bod peth amheuaeth a fu gŵr o’r enw Nicolas yn esgob yn Myra yn ystod y cyfnod hwn. Olrheinir y traddodiadau cynharaf am y sant i gofiant Groegaidd a briodolir i fynach o’r enw Methodius a fu farw yn 847, sef ffynhonnell yr holl fersiynau canoloesol eraill am hanes y sant yn ôl Treharne (1997: 30). Lledodd ei gwlt i’r gorllewin pan gyfieithiwyd y testun Groegaidd hwnnw i’r Lladin gan John y Diacon yn Eglwys St Januariusyn Napoli, tua diwedd y nawfed ganrif (Treharne 1997: 31). Mewn llawysgrif yng Nghaer-grawnt, y Corpus Christi College MS, 303, ceir y fuchedd wedi ei haddasu o’r Lladin i’r Hen Saesneg am y tro cyntaf, a hynny, fe ymddengys tua’r unfed ganrif ar ddeg neu ddechrau’r ddeuddegfed ganrif (Treharne 1997: 2). Tua’r un cyfnod, cludwyd creiriau Nicolas o Myra i Bari yn yr Eidal, gan gynyddu poblogrwydd y sant yn y gorllewin. Ef, er enghraifft, yw nawddsant Rwsia ynghyd â morwyr, plant, merched di-briod a masnachwyr.

Yn Lloegr ceir tua phedwar cant o eglwysi wedi eu cysegru iddo a cheir nifer helaeth o eglwysi a ffynhonnau wedi eu cysegru iddo yng Nghymru hefyd. Un o’r rhain yw’r eglwys yn Sain Nicolas, Morgannwg, a gysegrwyd i Nicolas cyn 1435 (Owen and Morgan 2007: 350). Mewn delweddau eglwysig fe’i darlunnir weithiau mewn gwisg esgob gyda ffon esgobol a llyfr yn ei law, ac weithiau gyda phlant, cychod neu angor. Ond y ddelwedd ohono’n cludo tair pelen aur yw’r un fwyaf cyfarwydd, fel a welir yn un o ffenestri diweddar yr eglwys yn Sain Nicolas (am lun o’r ffenestr gw. Crampin 2014: 148). Cynrychiola’r tair pelen aur y tair sachaid o aur sy’n cael sylw yn y fuchedd (gw. n. 8). Rhai delweddau canoloesol o Nicolas neu o’i fuchedd sydd wedi goroesi yng Nghymru yw’r sant mewn gwisg esgob ar wydr lliw a oedd unwaith yn eglwys St Cystennin, Llangystennin (Cartwright 2008: 154), ac mae’n bosibl mai delwedd a gysylltir â Nicolas a geir ar furlun yn eglwys St Mihangel, Tregolwyn, ym Mro Morgannwg, sef y wyrth a wnaeth wrth achub plentyn a adawyd mewn bàth gan ei fam tra oedd hi yn yr eglwys (Lord 2003: 210–1). Yn ôl Lord, gall mai gweddillion storïau o ‘Fuchedd Nicolas’ a geir yma er nad yw pawb yn cytuno â hynny. Gall hefyd fod yn gysegriad i St Thomas à Beckett a merthyroliaeth Sant Vitus (Orrin 2004: 48). Gellir bod yn sicr mai darlunio ei wyrthiau a wna’r fedyddfaen addurnedig a wnaed o farmor sydd bellach yn eglwys gadeiriol Caer-wynt, a hefyd, y pen ffon esgobol ac arno gerfiadau ifori yn darlunio golygfeydd o’i fuchedd sydd yng nghasgliad Amgueddfa Fictora ac Albert yn Llundain. Dyddir y ddau hyn i’r ddeuddegfed ganrif (ymhellach gw. Ševčenko 1983).

Dethlir ei ddydd gŵyl ar 6 Rhagfyr a daeth yn draddodiad i rannu anrhegion fel rhan o’r dathliadau, gan gyfrannu, maes o law, at gysylltiad Nicolas â’r enwog Santa Claus neu Siôn Corn i’r Cymry. Ond ei rôl fel nawddsant plant a fu’n bennaf gyfrifol am hynny. I gyffredinoli, fe gyfunwyd y storïau hynafol am ei ran yn achub plant gyda thraddodiau llên gwerin Germanaidd am Sinterklaas. Wrth i Brotestaniaid o’r Iseldiroedd sefydlu yn America yn ystod yr ail ganrif ar bymtheg ymlaen, crëwyd delwedd newydd, Americanaidd o Sant Nicolas: daeth yn ffigwr a feddai ar bwerau hudolus ac a ymwelai â phlant tros gyfnod y Nadolig gan wobrwyo plant da a chosbi plant drwg (ODCC3 1155).

Ceir cywydd mawl i’r sant gan Lewys Glyn Cothi (GLGC cerdd 6), ond ychydig sy’n gyfatebol o ran y storïau yn y gerdd â’r fuchedd hon. Datgelir yn y gerdd a’r fuchedd fod Nicolas wedi ymprydio o’r crud gan wrthod llaeth o fron ei fam pan oedd yn faban; ei fod wedi achub tair merch dlawd gan adael tair sachaid o aur iddynt yn ddirgel yn y nos; ac iddo achub morwyr a oedd yng nghanol storm mewn llong ar y môr. Ond ceir dwy stori arall gan Lewys Glyn Cothi sydd wedi eu hepgor o’r fuchedd. Mae’r ddwy yn ymwneud â Nicolas yn achub plant: sef plentyn a adawyd mewn bàth gan ei fam, a thri phlentyn (sy’n dri ysgolhaig yn y gerdd) a ddaliwyd gan gigydd cyn eu lladd a’u rhoi mewn twb llawn halen. Awgryma hyn fod traddodiadau lu am Nicolas yng Nghymru yn ystod yr Oesoedd Canol (ymhellach am sut y tyfodd y traddodiadau am Nicolas a’i gwlt, gw. ODS5 322–3 a Jones 1978: 224–36).

Mae patrwm y naratif yn y fuchedd Gymraeg yn awgrymu bod awdur wedi defnyddio mwy nac un ffynhonnell (defnyddiwyd y golygiadau canlynol i gymharu: y Festial Saesneg gan Erbe 1905; y golygiad Lladin o’r Legenda aurea gan Grässe 1846 a’r golygiad Saesneg Modern sy’n gyfieithiad o’r Lladin gan Ryan 2012). Gellir gweld tebygrwydd yn y fuchedd Gymraeg rhwng y bregeth Saesneg o hanes y sant gan John Mirk yn ei Festial ynghyd â’r fersiwn Lladin yn y Legenda aurea, ond ni ddilynir patrwm yr un o’r rhain o’r dechrau i’r diwedd. Hynny yw, mae’n ymddangos bod ei ffynhonnell wedi cyfuno’r fersiynau hynny i greu un addasiad Cymraeg. Gellir rhannu’r fuchedd yn dri pharagraff ar ddeg ac mae trefn y paragraffau hynny’n dadlennu bod rhan gyntaf y fuchedd yn dilyn yr un drefn â phregeth Saesneg John Mirk o hanes Nicolas, De Festo St. Nicholai (Erbe 1905: 11–15). Dilynir trefn unigryw yn yr ail ran sy’n cynnwys rhai storïau nas cynhwyswyd yn y fersiwn Saesneg, ond sy’n bresennol yn y Legenda aurea (LA 22–9). Mae’r patrwm fel a ganlyn:

1. Geni Nicolas. Yn y Gymraeg, ni cheir rhagarweiniad i’r fuchedd fel y Lladin ond yn hytrach fe gyfeirir at ei rieni a’i enedigaeth yn syth gan bwysleisio sancteiddrwydd y sant drwy nodi iddo ymprydio o’r crud.

2. Dewis Nicolas yn esgob Myra. Caiff ei ddewis oherwydd i un o’r esgobion eraill glywed llais o’r nef a chael ei arwain ato. Hon yw’r adran sy’n dilyn hanes ei eni yn y fersiwn Saesneg hefyd ond nid yn y Lladin.

3. Nicolas yn achub tair merch â thair sachaid o aur. Y stori nesaf yw iddo adael sachiad o aur yng nghartref gŵr tlawd yng nghanol y nos gan fod y gŵr hwnnw’n ystyried anfon ei ferch ei hun i fod yn butain. Mae Nicolas yn gwneud hyn deirgwaith gan fod gan y tad dair merch. Mae’r stori hon yn dilyn 2 yn y fersiwn Saesneg fel y Gymraeg, ond daw ar ôl 1 yn y fersiwn Lladin.

4. Nicolas yn achub morwyr. Stori fer iawn yw hon sy’n egluro sut y bu i Nicolas ymuno â’r morwyr i’w hachub wedi iddynt weddïo arno ef ac ar Dduw yn ystod storm. Eto, mae’r paragraff hwn yn dilyn trefn y fersiwn Saesneg gan ddilyn 3 a cheir rhai brawddegau tebyg iawn. Mae’r Lladin hefyd yn cynnwys yr adran hon ar ôl 3, ond mae’r stori yno’n fwy cynhwysfawr.

5. Nicolas yn gwella newyn yn y deyrnas. Mae’r sant yn llwyddo i ddwyn perswâd ar y morwyr sy’n cludo llongau o wenith i’r ymerawdwr i roi mymryn o’r gwenith hwnnw i’r werin bobl sy’n dioddef o newyn a hynny heb gyfyngu ar faint o wenith sy’n cyrraedd yr ymerawdwr. Daw’r adran hon ar ôl 4 yn y fersiynau Saesneg a Lladin.

6. Nicolas yn achub dau farchog dieuog. Cyhuddir y marchogion o fradwriaeth ond cawsant eu hachub gan Nicolas wedi iddynt weddïo arno. Gwelir rhai amrywiadau yn y Gymraeg (tri marchog a geir yn y fersiynau eraill) ond ar y cyfan, mae’n perthyn yn nes at y Saesneg gan fod y fersiwn Lladin yn wahanol iawn. Daw’r stori ar ôl 5 yn y fersiwn Saesneg ond nid yn y Lladin. Hefyd, ar ôl y stori hon yn LA ceir gwyrthiau nas cynhwyswyd yn y fersiwn Cymraeg.

7. Delw o Nicolas yn amddiffyn eiddo. Mae’r Gymraeg yn unigryw yn lleoli’r stori hon ar ôl 6 a hefyd yn unigryw wrth honni mai amddiffyn eiddo llong yn hytrach na thŷ a wna’r ddelw o Nicolas. Yn y Saesneg, ceir hanes marwolaeth Nicolas, yna sut y cludwyd ei greiriau, ac yna’r stori hon am y lladron i gloi’r fuchedd.

8. Nicolas yn atgyfodi plentyn oedd wedi ei ladd gan y diafol. Nid yw’r hanes hwn yn y fersiwn Saesneg. Fe’i ceir yn y Lladin ar ôl 9 ac nid 7.

9. Nicolas yn achub bachgen o’r môr a’r ddwy ffiol aur. Ni cheir hyn yn y fersiwn Saesneg, ond fe’i ceir yn y Lladin ar ôl 12.

10. Marwolaeth Nicolas. Mae’r hanes am farwolaeth y sant yn digwydd ar ôl 6 yn y fersiynau Saesneg a Lladin ac mae’r tri fersiwn o’r stori’n cytuno â’i gilydd.

11. Cludo esgyrn Nicolas o Myra i Bari. Mae’r stori hon yn naturiol yn dilyn hanes ei farwolaeth (10 yn y fersiynau Saesneg a Lladin).

12. Iddew’n cael ei dwyllo am arian. Ni cheir hyn yn y fersiwn Saesneg, ond fe’i ceir yn y Lladin ar ôl 11 fel yn y Gymraeg.

13. Dychwelyd bachgen wedi iddo gael ei ddwyn i fod yn gaethwas. Ni cheir hyn yn y fersiwn Saesneg ac nid yw’n dilyn 12 yn y Lladin. Fodd bynnag, hon yw’r wyrth olaf yn y Lladin fel yn y Gymraeg.

I grynhoi, hyd at baragraff 6, mae patrwm y naratif yn cyd-fynd â phregeth John Mirk yn ei Festial. Ond o 7 ymlaen, ceir patrwm cymysg, gyda’r hanes am ei farwolaeth a chludo ei greiriau yn digwydd yng nghanol gwahanol hanesion am wyrthiau’r sant a lleoliad sy’n unigryw i’r fuchedd Gymraeg. Nid oes amheuaeth iddo ddilyn y Festial eto gyda pharagraff 7, ond mae paragraffau 8 a 9 mewn lleoliad unigryw o ran trefn. Mae paragraffau 10, 11 a 12 yn dilyn yr un drefn â’r fersiwn Lladin, ond wedi hynny yn y Lladin ceir gwyrthiau sydd eisoes wedi eu cynnwys yn y Gymraeg. Felly mae’r awdur yn eu hepgor yn hytrach na’u hailadrodd. Ond sylweddola nad yw wedi cynnwys y wyrth olaf sy’n ymddangos yn y Lladin, ac felly mae diweddglo’r fuchedd, sef hanes dychwelyd y bachgen i’r capel ar ddydd gŵyl Sant Nicolas, yn debyg i ddiweddglo’r Lladin. Awgrymir, felly, fod hanner cyntaf y fuchedd yn dilyn y Festial (hyd at baragraff 6), ac i’r awdur ddefnyddio rhyw ffynhonnell arall yn ail ran y fuchedd. Gall mai’r Legenda aurea yw’r ffynhonnell hon, ond gall fod hefyd yn ffynhonnell a oedd yn gyfuniad o wahanol ffynonellau. Nid ellir bod yn sicr gan fod cymaint o wahanol fersiynau o ‘Fuchedd Nicolas’ yn y cyfnod hwn.