20. Buchedd Mair o'r Aifft
golygwyd gan Jenny Day
Rhagymadrodd
Yn ôl traddodiad y gellir ei olrhain i’r chweched ganrif, bu Mair o’r Aifft yn byw bywyd anniwair yn Alecsandria cyn edifarhau o flaen delw’r Forwyn Fair yng Nghaersalem. Treuliodd weddill ei bywyd yn feudwyes yn yr anialwch, ond cyn iddi farw adroddodd ei hanes wrth fynach o’r enw Zosimus. Lleolir ei hanes yn y bumed neu’r chweched ganrif a dywedir iddi farw ar ddydd Gwener y Groglith, ar y diwrnod cyntaf neu’r ail ddiwrnod o fis Ebrill (Stevenson 1996a: 21 ac ibid. n15). Dethlir ei gŵyl ar bumed Sul y Grawys neu 1 Ebrill yn y Dwyrain, ac, yn y Gorllewin, ar 2 Ebrill fel arfer (neu ar 3, 9 neu 10 Ebrill) (ODCC4 1055; Kouli 1996: 68). Daeth ei stori, a ysgrifennwyd yn yr iaith Groeg yn wreiddiol, yn boblogaidd yn Ewrop ac yng ngwledydd dwyreiniol ardal Môr y Canoldir yn yr Oesoedd Canol a cheir llawer o fersiynau mewn gwahanol ieithoedd gan gynnwys Syrieg, Armeneg, Ethiopeg, Slafoneg, Lladin, Ffrangeg, Eingl-Normaneg, Almaeneg, Iseldireg, Norseg, Eidaleg, Sbaeneg a Phortiwgaleg, yn ogystal â Chymraeg, Saesneg, Scoteg a Gwyddeleg (Kouli 1996: 67–8; Poppe and Ross 1996: passim; Magennis 2002: 12). Ymddengys fod tuedd weithiau i gysylltu Mair o’r Aifft â Mair Fadlen neu i ddrysu rhwng y ddwy santes, o ganlyniad i’r tebygrwydd rhwng eu henwau ac i’r ffaith fod rhai elfennau tebyg yn y traddodiadau amdanynt (Cartwright 2008: 129–30).
Mae’n debyg i stori Mair o’r Aifft gychwyn yn rhan o fuchedd Kyriakos, testun a luniwyd yn y chweched ganrif ac a briodolir i Cyril o Scythopolis; yn y testun hwn roedd Mair yn delynores (psaltria) yn Eglwys y Beddrod Sanctaidd, Caersalem, ond newidiwyd ei chefndir fel ei bod yn butain o Alecsandria pan addaswyd ei hanes i greu buchedd Groeg Mair o’r Aifft, a hynny naill ai’n hwyr yn y chweched ganrif neu yn y seithfed ganrif yn ôl pob tebyg (Stevenson 1996a: 20–1; Kouli 1996: 65–6; am olygiad a chyfieithiad Saesneg o fuchedd Groeg Mair o’r Aifft, gw. Migne 1857–67: col. 3697–726; Kouli 1996). Nid yw priodoliad y fuchedd hon i Sophronius o Gaersalem (c.560–638) yn cael ei dderbyn yn gyffredin gan ysgolheigion heddiw, ond er cyfleustra parhëir i ddefnyddio