Rhagymadrodd Testun golygedig Llawysgrifau English

07. Moliant i Sain Nicolas

golygwyd gan Dafydd Johnston

Rhagymadrodd

Roedd cwlt Sain Nicolas yn eang iawn yn yr Oesoedd Canol, ac ef oedd nawddsant morwyr, plant, merched dibriod a masnachwyr ymhlith eraill. Ceir ei hanes yn y Legenda Aurea ac mewn buchedd Gymraeg yn Llst 34, ond ymddengys fod y gerdd hon yn tynnu ar ffynonellau eraill hefyd, o bosibl rhai llafar. Ceir y ffurfiau Nicolas (gydag acen ar yr ail sillaf) a Niclas yn y gerdd.

Dyddiad

Ni ellir dyddio’r gerdd yn fanylach na chyfnod gweithgarwch Lewys Glyn Cothi, sef c.1447 × c.1489.

Golygiad blaenorol

GLGC cerdd 6.

Mesur a chynghanedd

Cywydd, 60 llinell (un yn anghyflawn). Cynghanedd: croes 51% (30 ll.), traws 27% (16 ll.), sain 12% (7 ll.), llusg 10% (6 ll.).