Rhagymadrodd Testun golygedig Llawysgrifau English

9. Moliant i Fwrog

golygwyd gan Eurig Salisbury

⁠LlGC 3049D, 500‒1

Nodiadau
Casgliad o farddoniaeth a luniwyd ar gyfer aelodau o deulu Wynn Gwydir. Mae’r rhan o’r llawysgrif sy’n cynnwys y gerdd i Fwrog (tt. 335–509), a grewyd yn amser Syr John Wynn, yn bennaf yn waith dau gopïydd a oedd yn cydweithio, sef Ifan Siôn a Huw Machno. Mae’r gerdd yn llaw’r ail. Ceir testun arall o’r gerdd yn llaw Huw yn C 4.101. Y gerdd hon yw’r olaf o dri chywydd yn ymwneud â charcharu noddwyr a gofnodwyd gan Huw yn y rhan hon o’r llawysgrif. Cywydd Rhys Goch Glyndyfrdwy i Ithel a Rhys yw’r ail (ymhellach, gw. y nodiadau esboniadol), a’r cyntaf yw cywydd Gwilym ab Ieuan Hen i Henri ap Gwilym a rhyw Owain a garcharwyd yn Harlech (GDID cerdd XVI). Gobaith Gwilym yw y daw dyrnod Herbard ar y castell i’w rhyddhau, sef Wiliam Herberto Raglan, fe ymddengys (ibid. XVI.64), a diau bod a wnelo’r helynt â’r gynnen rhwng pleidiau Iorc a Lancaster, sy’n awgrymu y credai Huw Machno fod y ddwy gerdd i Ithel a Rhys yn ymwneud â’r un gwrthdaro. Gwnaeth Huw gywiriad wrth iddo gopïo’r testun (ll. 38), ond gwnaeth ddau arall yn ddiweddarach, fe ymddengys (llau. 2, 6).

500
kowydd ir vn gwyr
mawr yw dy wrthiav r awron
mwrog saint mae rhowiog sion
bvgail y kor baglog gwynn
benrhaith ail bevno rhvthyn
5Dvw a roes pand da yr aeth
vwch ragor wych rowocaeth
a gwrthiav mawr y gwerthydd
yn dy feddiant sant y sydd
a deilliaid o fewn dallor
yn dy gylch o fewn dy gor
15gwnaethost dithav gwnn wythwaith
ir rhai ni cherddai y chwaith
redeg ar dy waredydd
heb vn ffonn mwrog benn ffydd
Dof ith orssedd fvcheddol
20Dyn wyf ai neges da ’n ol
klyw o wynedd fy ngweddi
klwyfvs ofalvs wyf i
gwyr fy nghalon ar fronn fry
gwaew hiraeth gwae ai hery
25nid hiraeth anwyd hoewryw
ag nid serch ar ferch yn fyw
hiraeth meibion maeth y medd
am gyrr i farw om gorwedd
am ithael mi a evthym
30meddai bawb or modd y bym
gwnn i bryderi dyrys
gwyr ymron gwewyr am Rys
meibion ifan mae /n/ obaith
vychan y devan or daith

501
35o chvddiwyd gwyr awch addwyn
kant o rianedd ai kwyn
och allel o ddichellwyr
r roi llen gel ar ierll yn gwyr
mwrog gwna yn ymwared
40am ddav o benn kreiriav kred
gwyddost lle mae n dav flaenor dav
mewn kastell ymachell mor
kyfod dy fagl yn draglew
kvr frig y twr kerig tew
45Dwg er fy mendith ithael
oi tyrav hwnt wr tra hael
vn waith gwna help in ynys
o wlad yr haf weled Rys
minav a wnaf mynn y nef
50yn ddidro pann ddon adref
rhoddi dav lvn gar dy law
ag avr er i gowiraw
kei fendithion vwch konnwy
ag ymon kai a fo mwy
55kai lawer o badrevav
kai glod am ddyfod ar ddav
Gruffydd nanav