9. Moliant i Fwrog
golygwyd gan Eurig Salisbury
Gwyn 3, 69v‒70r
Nodiadau
Casgliad o farddoniaeth, yn cynnwys hengerdd, cerddi Beirdd y Tywysogion a chywyddau, a gofnodwyd gan Jaspar Gryffyth, yn ôl pob tebyg pan oedd yn warden Ysbyty Rhuthun. Y cywydd i Fwrog yw’r ail mewn casgliad o wyth o gerddi i seintiau (o’r gogledd, yn bennaf) a gofnodwyd ar ff. 68r–80v. Gwnaeth Jaspar bum mân gywiriad (llau. 11, 23, 43, 48), yn ôl pob tebyg wrth iddo gopïo’r testun.
69v
Cywydd i fwrog sant
{I ollwng dau o feibion Ifan Fyxan yn rhyddion}
Mawr yw dy wrthiau ’r awr’on
Mwrog sant mawr rywiog son
Bugail y côr baglog cwŷn
ben rhaith ail Beuno Rhuthyn
5Duw a roes ond da yr aeth
iwch ragor wŷch rywiogaeth
Gwrthiau mawr eu gywerthydd
yn dy feddiant sant y sydd
pob claf a phob dyn afiach
10heb fost a wnaethost yn iach
y deilliaid ger bron dy
’ allor
yn dy gylch o fewn dy gôr
Gwnaethost iddynt yn vn awr
gweled mil goleuad mawr
15A gwneuthur mi a’i gwnn ŵyth-waith
i rai ni cherddai ychwaith
Redeg ar dy waredydd
heb vn ffon Mwrog ben ffydd
dof i’th orsedd fucheddol
20dyn wyf a’i neges yn ôl
Clyw o Wynedd fyng-weddi
clwyfus ofalus wyf fi
Gŵŷyr fyng-halon xo’r fron fry
gwaiw hiraeth gwae ai hery
25Nid hiraeth anwyd hoiw-ryw
nid serch ar vn ferch yn fyw
Ond hiraeth meibion maeth medd
a’m gyrr i farw o’m gorwedd
70r
35O chuddiwyd gwŷr gwych addwyn
cant o rianedd a’u cwyn
Meibion Ifan mae ’m obaith
fychan y deuan o’r daith
Am Ithel mi a euthum
30medde bawb o’r modd y bum
Gwae fi bryderi dyrys
gŵyr fy mron gwewyr am Rys
Er gallel o ddichell-wŷr
roi llen gêl ar ieirll iw gwŷr
Mwrog gwna i’n ymwared
40am ddau o ben creiriau cred
Gwyddost lle mae dau flaenor
mewn castell ym machell môr
Cyfoxt dy fagl yn draglew
cur y twr cerrig tew
45Tyn er dy fendith Ithael
o’r tyrau hwnt wr tra hael
par vn-waith help i’r Ynys
i wlad yr haf wedled Rhys
Minne a wnaf myn y nef
50yn ddinidir pan ddon adref
Roddi dau lun ar dy law
ac aur er ei gywiraw
Cei fendithion vwch Conwy
ac ym Mon ti a gei mwy
55Cei lawer o badreuau
Cei glod am ddyfod ar ddau
Incerti authoris & insulsi {foolish demannd}